Y Comisiwn a’r weinyddiaeth

Comisiwn y Cynulliad yw’r enw a roddir ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.Mae

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau arwyddocaol newydd i ddeddfu, ac mae’n cryfhau ei rôl graffu. Mae hefyd yn creu Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd ar wahân yn gyfreithiol a chorff corfforaethol newydd, sef Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) a fydd yn gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi Aelodau’r Cynulliad.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol. Cyflogir staff y Comisiwn gan y Comisiwn ac mae Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad yn bennaeth arnynt.

Rhagor o wybodaeth:

Mae Comisiwn y Cynulliad yn cael ei gadeirio gan y Llywydd, ac yn cynnwys pedwar Aelod o’r gwahanol bleidiau. Mae'r adran hon yn cynnwys manylion am y Comisiynwyr a'u dyletswyddau.
Agendâu, Papurau a Chofnodion, Adroddiadau Blynyddol...
Pennaeth staff y Comisiwn yw Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad  – Claire Clancy.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys tair cyfarwyddiaeth a gefnogir gan Uned Gorfforaethol ac mae pob un yn atebol i’r Prif Weithredwr. Mae'r rhan hon yn nodi cyfrifoldebau pob cyfarwyddiaeth.

Partneriaid a Help