Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2007-2008

This is a Flash Object


2. Pwerau Newydd: Cynulliad Newydd

Y Siambr

Y Siambr yw calon busnes y Cynulliad a dyna gartref Cyfarfodydd Llawn y Cynulliad. Yno y cynhelir trafodaethau pwysig ar amryw helaeth o faterion, gan gynnwys cynigion o ran polisi a deddfwriaeth.

Mae Gwasanaeth y Siambr yn darparu cymorth ysgrifenyddol i’r Pwyllgor Busnes a busnes y Cyfarfod Llawn, ac y mae’n cynorthwyo’r Llywydd a’r Dirprwy pan fyddant yn cadeirio cyfarfodydd llawn y Cynulliad drwy roi cyngor gweithdrefnol a gweithredu technoleg y Siambr. Mae’r Swyddfa Gyflwyno’n rhoi arweiniad a chymorth i Aelodau’r Cynulliad ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau bod busnes y Cyfarfod Llawn yn cael ei gyflwyno, lle mae hynny’n ofynnol, yn unol â’r Rheolau Sefydlog.

AMs in Siambr Y Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC Members in Chamber

Y Pwyllgor Busnes

Mae’r Pwyllgor Busnes yn rhoi cyngor ar sut i reoli busnes y Cynulliad ac ar arferion a gweithdrefn gyffredinol y Cynulliad. Y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd a bydd Arweinydd y Ty a rheolwr busnes o bob un o’r pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad yn mynychu’r cyfarfodydd.Mae’r pwyllgor yn cyfarfod yn breifat bob dydd Mawrth yn ystod y tymor i roi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac i benderfynu ar drefn busnes y Cynulliad a busnes heblaw busnes y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn. Cynhaliwyd 29 o gyfarfodydd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008. Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes hefyd gyfarfod ar y cyd â Chomisiwn y Cynulliad i ystyried materion yn ymwneud ag adnoddau a threfnu busnes y Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am drefnu a chyhoeddi amserlenni ar gyfer ystyried Mesurau arfaethedig (ar wahân i unrhyw gam a gymerir yn y Cyfarfod Llawn) ac amserlenni i’r Pwyllgor Deddfwriaethol ystyried Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig.

Busnes y Siambr

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y trydydd Cynulliad ar 9 Mai 2007, yn dilyn etholiadau’r Cynulliad. Etholwyd y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn y cyfarfod hwn.

Cynhaliwyd 61 o Gyfarfodydd Llawn rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008.

Rhennir busnes yn y Cynulliad i dri chategori:

  • Busnes y Llywodraeth;

  • Busnes heblaw busnes y Llywodraeth;

  • Busnes y Cynulliad.

Ymysg yr enghreifftiau o fusnes heblaw busnes y Llywodraeth a ystyriwyd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008 yr oedd:

  • Trafodaethau a gynigiwyd gan y gwrthbleidiau;

  • Trafodaethau ar adroddiadau gan bwyllgorau’r Cynulliad;

  • Trafodaethau ar ddeddfwriaeth arfaethedig Aelodau.

Ymysg yr enghreifftiau o fusnes y Cynulliad a ystyriwyd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008 yr oedd:

  • Cwestiynau i gynrychiolwyr o Gomisiwn y Cynulliad;

  • Ystyried cyllideb Comisiwn y Cynulliad;

  • Trafodaeth ar araith y Frenhines (gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n bresennol)

Cwestiynau’r Cynulliad

Oral QuestionsCwestiynau’r Cynulliad yw un o’r dulliau allweddol i Aelodau’r Cynulliad gael gwybodaeth neu i bwyso am weithredu. Ceir dau fath o gwestiynau yn y Cynulliad sef cwestiynau llafar a chwestiynau ysgrifenedig.

Gall Aelodau ofyn cwestiynau llafar yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Cynhelir cyfnod cwestiynau’r Prif Weinidog bob dydd Mawrth, gyda chwestiynau eraill yn cael eu rhoi gerbron y Gweinidogion a’r Comisiwn ar ddydd Mercher.

Dewisir pymtheg cwestiwn ar hap ar gyfer pob sesiwn gwestiynau mewn cymysgiad awtomatig a gynhelir ar ran y Llywydd. Caiff yr Aelodau wedyn gyfle i ofyn cwestiynau ychwanegol heb rybudd.

Yn ystod cyfnod yr adroddiad cyflwynwyd cyfanswm o 3,515 o gwestiynau llafar. Ceir dadansoddiad sy’n dangos i bwy y gofynnwyd y cwestiynau isod:

Adroddiad Blynyddol 2008 | Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nifer y cwestiynau llafar a gyflwynwyd

Y Prif Weinidog

834

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

416

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

415

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

321

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

310

Y Gweinidog dros Dreftadaeth

296

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

290

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig

265

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

258

Y Cwnsler Cyffredinol

97

Comisiwn y Cynulliad

13

Yn dilyn y cwestiynau llafar gall y Llywydd ganiatáu unrhyw gwestiynau brys, sydd heb rybudd ac o bwys cyhoeddus brys. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn gofynnwyd 9 cwestiwn brys.

Gellir cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ar unrhyw adeg, a chael ateb yn ysgrifenedig. Bydd unrhyw gwestiwn llafar nad yw’n cael ei ofyn o fewn yr amser penodedig hefyd yn cael ateb ysgrifenedig, sy’n ymddangos yn y Cofnod. Yn ystod y cyfnod hwn cyflwynwyd 1,541 o gwestiynau ysgrifenedig.

Brig

Partneriaid a Help