Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2007-2008

This is a Flash Object


2. Pwerau Newydd: Cynulliad Newydd

Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau

Bu i Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau sefydlu llawer o wasanaethau gwybodaeth, ymchwil ac ymwybyddiaeth gyfredol newydd, sydd ar gael i’r cyhoedd. Yr oedd y rhain yn cynnwys gwasanaeth tracio datblygiad Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a Mesurau, a hefyd datblygiad ymchwiliadau pwyllgorau craffu. Yr ydym wedi datblygu a bellach yn cyhoeddi nodiadau tracio pwerau’r Cynulliad, sy’n darparu cofnod o welliannau diweddar, sydd wedi’u cynnig a’u pasio, i bob un o’r 20 Maes sydd wedi’u cynnwys o fewn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar y cyd â’r nodiadau tracio hyn yr ydym wedi cynhyrchu fersiwn ddiwygiedig o Atodlen 5, sy’n adlewyrchu cymhwysedd deddfwriaethol cynyddol y Cynulliad.

Yn ystod 2007-08, ymatebodd y gwasanaeth ymchwil i swyddogaethau deddfwriaethol a chraffu ehangach y trydydd Cynulliad a chynhyrchwyd 3,500 o ddarnau o waith ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad, yn cynnwys bron i 3,000 o atebion i ymholiadau unigol (400 yn fwy na’r llynedd); llawer o wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd, yn cynnwys 120 o bapurau ymchwil, hysbysiadau hwylus a phapurau byr ar faterion sydd o ddiddordeb pynciol i Aelodau, ac oddeutu 300 o ddogfennau gwybodaeth ar gyfer pwyllgorau craffu a phwyllgorau deddfwriaeth y Cynulliad, yn ogystal â darparu cefnogaeth eang i gynigion deddfwriaethol Aelodau Preifat.

Mae’r gwasanaeth ymchwil hefyd yn darparu cymorth a chyngor ymchwil cyfrinachol a diduedd i bwyllgorau craffu a phwyllgorau deddfwriaeth y Cynulliad ac i’r 60 Aelod Cynulliad unigol a’u staff. Mae hyn yn cynnwys:

  • tri thîm ymchwil sy’n darparu cyngor arbenigol ar feysydd polisi penodol;

  • tîm ymchwil pwrpasol sy’n darparu gwybodaeth cyllid ac ystadegau arbenigol;

  • llyfrgell yr Aelodau, sy’n rhoi gwasanaeth cyfeirio a gwybodaeth i Aelodau a’u staff;

  • swyddfa Brwsel sy’n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth ar faterion yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r gwasanaeth wedi parhau i ddarparu gwybodaeth a chymorth i Aelodau’r Cynulliad ar amryw o faterion yn ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd, dan arweiniad dadansoddwr polisi’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi’i leoli ym Mrwsel, ac yn gweithio’n agos â Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau a chlercod sy’n cydweithio ag ef o Gaerdydd. Yn benodol, cynorthwywyd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol gyda’i ymchwiliad cyntaf yn y trydydd Cynulliad ar Fanc Buddsoddi Ewrop. Cynhyrchwyd rhifynnau misol o’r newyddlen electronig ‘Materion Ewropeaidd’, yn ogystal â phapur ymchwil ar raglen waith flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2008 gyda ffocws ar faterion sy’n arbennig o berthnasol i Gymru. Bu inni drefnu a chydgysylltu ynglyn â chyfarfodydd ag uwch-swyddogion o’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cynrychiolaeth o Aelodau’r Cynulliad a staff sy’n ymweld â Brwsel yn ogystal â pharatoi deunydd gwybodaeth cyn ymweliadau â’r Cynulliad gan uwch-swyddogion o Ewrop, yn cynnwys Is-lywydd y Comisiwn, Margot Wallström a Llysgennad Slofenia i’r Deyrnas Unedig, Ei Ardderchowgrwydd Iztok Mirošiè.

Brig

Partneriaid a Help