Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Canllawiau ar Gynigion Cyllideb 2009-10

Cyflwyniad

1.  Ym mis Mai 2007 crëwyd Comisiwn y Cynulliad o dan Ddeddf     Llywodraeth Cymru 2006. Y Comisiwn sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gynorthwyo Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i ddiben yw gwneud y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder    pobl Cymru.

2.   Defnyddir y gyllideb i dalu costau rhedeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n cynnwys tâl a lwfansau Aelodau’r Cynulliad a Deiliaid Swyddi; cyflogau staff y Cynulliad - timau clercio pwyllgorau, ymchwilwyr, staff sy’n cynorthwyo’r broses ddeddfwriaethol, y staff cyfieithu a chofnodi seneddol, cynghorwyr cyfreithiol, staff gwasanaethau ymwelwyr a gwasanaethau allgymorth a’r staff yn y gwasanaethau cymorth gweithrediadol megis diogelwch, adeiladau, adnoddau dynol, cyllid a TGCh; a chostau nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau a ddefnyddir i gynnal y Cynulliad o ddydd i ddydd.

Trosolwg ar y gyllideb - y cyd-destun

3.   Mae’r cynigion ar gyfer Cyllideb 2009-10, a osodwyd ar 15 Hydref, yn benllanw gweithgarwch sylweddol gan y Comisiwn a’i staff wrth baratoi cyllideb sy’n adlewyrchiad o’n strategaeth o reolaeth ariannol gadarn, gyson a gwella mesurau effeithlonrwydd lle mae hynny’n bosibl.   

4.   Ym mis Mai eleni, ystyriodd y Comisiwn effeithiau ariannol a chanlyniadau amrywiaeth o gynigion gwasanaeth i’w cynnwys yn y Gyllideb. Cafodd y cynigion cychwynnol hyn eu categoreiddio ar sail blaenoriaeth, ac yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Mehefin, gwelwyd y dylai cynigion o flaenoriaeth is ynghyd â’r rhaglen i-change arwyddocaol gael eu heithrio o’r Gyllideb. Penderfynodd y Comisiynwyr hefyd eithrio unrhyw newidiadau posibl a oedd yn deillio o’r adolygiad o dâl a lwfansau Aelodau’r Cynulliad. Disgwylir adroddiad ar hyn yn 2009.

5.   Cyflwynwyd Cyllideb o £48.398m gerbron y Comisiwn ddechrau mis Medi ac roedd yn cynrychioli cynnydd o 4.8% ar gyllideb 2008-09. Ystyriodd y Comisiynwyr y Gyllideb hon a phenderfynwyd nad yw’r amodau economaidd presennol a’r effaith ar y sector cyhoeddus ac ar bobl Cymru yn cyfiawnhau cynnydd o’r fath. Daeth y Comisiynwyr i’r casgliad y dylai unrhyw gynnydd gael ei gyfuno i tua 3.5%.

6.   Cytunodd y Comisiynwyr wedyn ar Gyllideb ddiwygiedig o £47.751m ar gyfer 2009-10 (cynnydd o 3.4%) yn barod i’w gosod ar 15 Hydref.

Cymharu 2008-09 â 2009-10

7.   Mae Tabl 1 isod yn rhoi amlinelliad bras o’r modd y cyfrifyddwyd ffigur y gyllideb. Cyflawnwyd hyn yn erbyn y cynnydd gwirioneddol a’r cynnydd a ragwelir mewn gweithgarwch pwyllgorau a deddfwriaeth fel yr amlinellir ym mharagraffau 11 i 15 o ddogfen y Gyllideb.

Tabl 1

Budget Guidance 2009-10

Man cychwyn - cyllideb 2008-09:

£m

46.181

Tynnu costau unigol allan:

Rydym yn tynnu allan gostau unigol 2008-9, na fyddant yn digwydd eto yn y dyfodol. Nid oes angen cyllideb ar eu cyfer bellach (gweler tabl 2)

-0.875

Ystyried mesurau effeithlonrwydd cylchol:

Caiff rhai o’r mesurau effeithlonrwydd arian parod a sicrhawyd yn ystod 2008-09 effaith cylchol yn y dyfodol (gweler tabl 3)

-0.239

Ychwanegu chwyddiant:

Rydym yn ychwanegu chwyddiant pris a thâl, sy’n cynnwys: amcangyfrif £0.351m (0.76%) o chwyddiant pris ar nwyddau a gwasanaethau a gafaelir; amcangyfrif £0.341m (0.74%) o gostau chwyddiant ar dâl a lwfansau Aelodau a Deiliaid Swyddi; ac amcangyfrif £0.480 (1.0%) i ariannu’r ymrwymiad presennol i roi codiadau cyflog a thrydedd flwyddyn o setliad tâl tair blynedd i staff y Comisiwn. Cydnabyddir bod y cynnydd chwyddiant pris a gynigir yn is na lefelau presennol chwyddiant pris defnyddwyr. Gallai hyn arwain at bwysau ar y gyllideb, ond caiff ei reoli drwy fframwaith rheoli perfformiad ariannol y Comisiwn.

1.172

Ychwanegu cynlluniau gwario newydd:

Rydym yn ychwanegu costau cynlluniau newydd a gydweddir â Thargedau Strategol y Comisiwn, fel yr esbonnir yn Atodiadau 2 a 3 o ddogfen y Gyllideb (gweler Atodiad 1).

1.512

Dyma sy’n rhoi’r gyllideb ar gyfer 2009-10:

47.751

8.   Felly, wrth gymharu’r £47.751m ar gyfer 2009-10 â’r £46.181m ar gyfer 2008-09, ceir cynnydd o 3.4% yn y gyllideb.  Fel cymharydd, mae hyn, yn fras, yn unol â’r gyllideb ddangosol ar gyfer 2009-10 o £47.566m a amlinellwyd yng nghynigion cyllideb y llynedd.

Beth a dynnwyd o’r Gyllideb i’w gostwng o £48.398m i £47.751m?

9.   Cafwyd lleihad o £0.647m drwy: ostwng gwariant arfaethedig ar drefniadau archifo newydd drwy ohirio agweddau sy’n ymwneud ag archifo ffrwd glyweled/fideo (-£0.270m); peidio â pharhau â’r gwaith o recriwtio cyfriethiwr ychwanegol ar hyn o bryd (-£0.077m); gostwng y lefel o waith cynnal a chadw a gynlluniwyd ar gyfer ystad y Cynulliad (-£0.050m); ac, am y tro cyntaf, cyflwyno targed ffurfiol ar gyfer sicrhau arbedion a mesurau effeithlonrwydd arian parod yn ystod y flwyddyn (-£250m).

A ydym wedi amcangyfrif ein hanghenion adnoddau yn rhy isel?

10.   Nid ydym yn credu hynny - mae’r Gyllideb fel y’i gosodir yn cynnwys adnoddau ar lefel sy’n ddigonol i gyflawni ein hamcanion allweddol:

  • Adeiladau a chyfleusterau i’r Cynulliad wneud ei waith;

  • 370 o staff yn y Comisiwn i gynnal y gwaith hwn;

  • Darpariaeth TGCh - caledwedd, meddalwedd, darlledu a’r wefan;

  • Gweithgareddau sy’n edrych allan er mwyn ymgysylltu â phobl ledled Cymru.

11.    Rydym yn ystyriol o’r pwysau yr ydym yn debygol o’u hwynebu yn ystod y flwyddyn wrth ystyried yr amodau economaidd presennol a’r pwysau a ddaw ar y sector cyhoeddus a phobl Cymru yn sgil hynny. Rydym wedi lleihau rhai o’r cynlluniau newydd y bwriadwyd eu cyflwyno ac wedi cyflwyno targed effeithlonrwydd arian parod newydd er mwyn cyfyngu ar gostau cynlluniau diwygiedig. Rydym yn monitro perfformiad cyllidebol yn fanwl drwy gydol y flwyddyn er mwyn ein galluogi i ragweld a chynllunio ar gyfer y newid mewn galwadau ac amgylchiadau. Rydym hefyd yn adolygu ein perfformiad yn rheolaidd dros amrywiaeth o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol, yn cynnwys targedau ariannol ac effeithlonrwydd, a cherrig milltir prosiectau corfforaethol, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaethau ac yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir gennym gyda’r adnoddau sydd ar gael.

12.   Rydym wedi cyfeirio at ein rhagdybiaethau yn y ddogfen, yn arbennig o ran nifer o ddatblygiadau ychwanegol sydd ar y gweill a allai effeithio ar gyllideb y Comisiwn. Y mwyaf o’r rhain yw adolygiad arwyddocaol o wasanaethau TGCh a ddarperir ar gyfer y Cynulliad a gwella a chynorthwyo gallu’r Cynulliad i ehangu cysylltiad â’r cyhoedd (i-change), a’r panel adolygu annibynnol ar gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad. Bydd y panel hwn yn adrodd yn ôl yn 2009. Rydym wedi dweud nad yw’n bosibl rhoi amcangyfrif cywir ar hyn o bryd o ran beth fydd costau posibl y datblygiadau hyn, er bod y costau TGCh yn debygol o fod yn sylweddol ac yn debygol o ymestyn dros nifer o flynyddoedd. Yn ddibynnol ar gostau ac arbedion y cyfnod hwn, efallai y bydd angen i’r Comisiwn ystyried cais cyllideb ategol yn ystod 2009-10.

Fframwaith Rheoli Perfformiad

13.   Mae ein fframwaith ar gyfer rheoli perfformiad corfforaethol y sefydliad yn cynnwys:

  • Y system rheolaeth fewnol - yr holl bolisïau, gweithdrefnau ac arferion sy’n ymwneud â llywodraethu, risg a rheoli adnoddau;

  • Amcanion strategol a gwerthoedd sefydliadol y cytunwyd arnynt sy’n rhoi canolbwynt i gynlluniau busnes mewn gwasanaeth a Rheoli Perfformiad ac Adolygu Datblygiad unigolion;

  • Adroddiad rheolaeth ariannol misol ar berfformiad yn erbyn y gyllideb;

  • Dashfwrdd adnoddau dynol misol ar ddangosyddion perfformiad staffio’r Comisiwn;

  • Dashfwrdd Perfformiad Allweddol misol o ddangosyddion perfformiad allweddol, cerrig milltir allweddol prosiectau; mesurau boddhad a risgiau sylweddol;

  • Adroddiad o gynnydd y Bwrdd Rheoli i gyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad;

  • Adolygiad interim blynyddol ac adolygiad diwedd blwyddyn o effeithiolrwydd y system o reolaeth fewnol wrth gynorthwyo’r Comisiwn i gyrraedd ei dargedau.

14.Tabl 2: Costau anghylchol yng nghyllideb 2008-09, a dynnwyd o 2009-10:

Budget Guidance 2009-10

Disgrifiad

Gwasanaeth

Swm

Prosiect ailddatblygu Dyfodol Y  Lanfa - costau sefydlu cyfalaf.

Cysylltiadau Allanol

£ 500,000

Costau sefydlu cyfalaf i agor Meithrinfa.

Rheoli Cyfleusterau

£ 350,000

Ymgynghoriad TGCh i gefnogi system gyllid y Comisiwn.

Gwasanaethau Ariannol

£14,000

Gostyngiadau ar draws nifer o ddyraniadau cyllideb er mwyn adlewyrchu’r galw.

Uned Gorfforaethol

£11,000

Cyfanswm

£875,000

15. Tabl 3: Mesurau effeithlonrwydd ac arbedion yng nghyllideb 2008-09, a dynnwyd o 2009-10:

Budget Guidance 2009-10

Disgrifiad

Gwasanaeth

Swm

Ailstrwythuro gwasanaethau - dileu dwy swydd cymorth gweinyddol yn dilyn adolygiad gan Bennaeth yr Uned Gorfforaethol i gyfuno’r gwaith i swyddi eraill.

Yr Uned Gorfforaethol

£52,000

Ailstrwythuro gwasanaethau mewnol i ymgorffori’r Swyddfa Ffioedd i’r adran  adnoddau dynol a chyfuno swyddi.

Adnoddau Dynol

£134,000

Ail-negodi prydles a gostwng y rhent sy’n daladwy am Swyddfa Gogledd Cymru

Rheoli Cyfleusterau

£22,000

Ailstrwythuro - dileu un swydd weinyddol

Gwasanaethau Ariannol

£27,000

Gostwng y gyllideb ar gyfer papur a deunyddiau i’r swyddfa

TGCh

£4,000

Cyfanswm

£239,000

Mesurau effeithlonrwydd ac arbedion

16.   Hyd yn hyn, mae’r Comisiwn wedi targedu mesurau effeithlonrwydd ac arbedion er mwyn rhyddhau arian i gael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn ein cyllideb. Yn y gorffennol, rydym wedi defnyddio arbedion o’r fath er mwyn ymgorffori, er enghraifft, gostau Agoriad Brenhinol y Trydydd Cynulliad, ailwampio ac ymestyn Bwyty’r Aelodau a moderneiddio rhai o swyddfeydd Tŷ Hywel.

17.   Mae ein Cyllideb ar gyfer 2009/10 yn gosod targed effeithlonrwydd arian parod o £0.250m - mae hyn yn golygu arbedion y mae’n rhaid i ni eu gwneud yn ystod y flwyddyn er mwyn aros o fewn y gyllideb. Ni fyddwn yn cymhlethu pethau - byddwn yn arbed arian ac yn gweithio’n gallach, heb beryglu ein gwasanaethau na’n safonau. Yn ogystal, byddwn yn gosod targed effeithlonrwydd pellach er mwyn rhyddhau arian i’w adleoli o fewn ein cyllideb. Yn y flwyddyn gyfredol, y targed hwn yw £300,000. Daw’r cyfuniad o fesurau effeithlonrwydd ac arbedion eraill o’r amrywiaeth o fesurau rheolaeth ariannol gwell, yn cynnwys trosolwg effeithiol o gostau staffio, asesiad beirniadol o gostau prosiectau a’u cyflwyno a monitro gwariant yn well. Cyn dechrau’r flwyddyn, ac yn ystod y flwyddyn, byddwn yn nodi amrywiaeth o gamau gweithredu penodol drwy adolygu systemau allweddol er mwyn gallu gwella’r ddarpariaeth wrth arbed costau.

Newidiadau yn y lefelau staffio

18.   Mae peth o’n gwariant newydd yn ymwneud â chynnydd yn y lefelau staffio ers cymeradwyo cyllideb 2008-09.  Yn y flwyddyn gyfredol, caiff y rhain eu hariannu drwy gyllideb wrth gefn y Comisiwn, ond o 2009-10 rhaid eu hymgorffori yn y gyllideb sylfaenol.  Rhaid i swyddi newydd gael eu cymeradwyo gan y Prif Weithredwr neu’r Cyfarwyddwr perthnasol. Bydd gennym tua 370 o swyddi â thâl erbyn mis Ebrill 2009, o’i gymharu â 360 ym mis Ebrill 2008. Y cynnydd mewn swyddi yw: cyfreithiwr ychwanegol; dau Bennaeth Gwasanaeth newydd - Adnoddau’r Cynulliad a TGCh/Ystadau; Rheolwr Ariannol; Cydgysylltydd Cynaliadwyedd; Swyddog Caffael; Rheolwr Proseictau Adeiladau a chymorth gweinyddol mewn sawl maes, yn cynnwys Desg Gymorth yr Aelodau.

Cynigion Gwariant Newydd

19.   Gweler Atodiad 1 i gael manylion y cynigion gwariant newydd ar gyfer 2009-10.

Prosiectau cyfalaf a chostau cyfalaf

20.   Y llynedd, mynegodd y Pwyllgor Cyllid bryder ynglŷn â nifer y newidiadau a wnaethpwyd yn ein cyllideb ar gyfer prosiectau cyfalaf a chostau cyfalaf. Rhoddwyd sicrwydd gennym mai dim ond unwaith yn unig roedd cyllidebau wedi cael eu symud o Lywodraeth Cynulliad Cymru i Gomisiwn y Cynulliad ac roedd yn adlewyrchiad o’r newid yn y cyfrifoldebau a’r awdurdod cyllidebol sy’n deillio o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Gallwn gadarnhau bod hyn yn parhau i fod yn wir.

21.   Bydd ein cyllideb cyfalaf yn newid yn flynyddol yn ôl y lefel o fuddsoddiad cyfalaf, o dan delerau cyfrifo, y dewiswn ymgymryd â hwy. Bydd y pwyllgor yn nodi mai £0.709m yw hyn ar gyfer 2009-10. Rydym yn trafod â chydweithwyr yn Llywodraeth y Cynulliad sy’n ystyried materion ehangach rheolaeth y Llywodraeth ar fuddsoddiad cyfalaf.

22.   Mae’r cynnydd mewn gwariant cyfalaf yn 2010-11 a 2011-12 yn ymwneud â rhaglen adnewyddu strategol TGCh, er enghraifft: adnewyddu caledwedd a meddalwedd yn y Senedd; adnewyddu offer TGCh yr Aelodau ar ôl etholiad 2011.

Cyllideb wrth gefn

23.   Ystyriodd y Comisiynwyr lefel y gyllideb wrth gefn ar gyfer 2009-10 a chytunwyd y dylai’r lefel o 2% gael ei chadw. Er mwyn cadw pethau’n syml, mae hyn wedi cael ei nodi’n swm crwn o £1m (2.09%).  Roedd ein halldro ar gyfer 2007-08 o fewn 1.6% o’r gyllideb (tanwariant), a hyn, ynghyd â pherfformiad ariannol eleni hyd yma, a lywiodd ein penderfyniad ar gyfer 2009-10.

Dadansoddiad pellach o’r Gyllideb (Atodiadau)

24.   Mae’r rhain yn hunan esboniadol a chânt eu cynnwys er gwybodaeth ac er mwyn rhoi darlun clir o’r modd y caiff y gyllideb arfaethedig ei gwario yn ystod 2009-10:

Mae Atodiad 1: Cynigion gwariant newydd – y manylion

Mae Atodiad 2 yn cymharu’r gwahanol feysydd gwariant ac incwm ar gyfer costau gwirioneddol 2007-08, y gyllideb ar gyfer 2008-09 a’r cynigion ar gyfer 2009-10

Mae Atodiad 3 yn rhoi dadansoddiad o gostau gweinyddol eraill a chostau adeiladau ar gyfer 2009-10

Mae Atodiad 4 yn rhoi manylion cyflogau Aelodau’r Cynulliad a Deiliaid Swyddi ynghyd â disgrifiad o’r lwfansau sy’n daladwy i Aelodau’r Cynulliad

Partneriaid a Help