Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Canllawiau ar Gynigion Cyllideb 2009-10

Atodiad 1

Cynigion gwariant newydd - y manylion

Caiff y cynigion gwariant newydd canlynol eu cynnwys yn y Gyllideb:

Canllawiau'r Gyllideb 2009-10 - Atodiad 1

Diben

(Gwasanaeth)

Amcangyfrif

2009-10

 £000

Amcangyfrif

2010-11

£000

Amcangyfrif

2011-12

£000

GWELLA EFFEITHLONRWYDD A DARPARIAETH DRWY FUDDSODDI MEWN SYSTEMAU TG

Rhaglen Adnewyddu Strategol TGCh - y nod ar gyfer 2009-2012 yw adnewyddu’r 229 o sgriniau gwybodaeth a ddefnyddir gan y cyhoedd yn orielau’r Senedd. Mae’r rhaglen ar gyfer y dyfodol yn cynnwys agweddau eraill ar gyfer yr isadeiledd TGCh yn eu tro.

(TGCh)

Y prif nod strategol a gefnogir: Hyrwyddo ac ehangu diddordeb mewn datganoli ( Gwariant Cyfalaf)

229

1,374

2,027

Mae angen adnewyddu’r ceblau cylch darlledu yn Nhŷ Hywel er mwyn paratoi ar gyfer teledu digidol, sy’n defnyddio signalau gwahanol ac sy’n cynnig gwasanaethau ychwanegol i’r system analog bresennol a osodwyd ym 1999. Bwriedir cynllunio’r gwaith adnewyddu er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth yn ystod amser busnes.

(TGCh)

Y prif nod strategol a gefnogir : Darparu’r gwasanaeth gorau yn y ffordd fwyaf effeithiol (Cyfalaf)

200

-

-

Cyfraniad tuag at gostau Meddalwedd deddfwriaeth (cam II), sy’n brosiect hanfodol ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer drafftio Mesurau’r Cynulliad.

(Gwasanaethau Deddfwriaeth/Siambr)

Y prif nod strategol a gefnogir : Ymateb hyderus i newid cyfansoddiadol (Gwariant  Refeniw)

100

20

20

Byddai System Reolaeth Busnes a Phwyllgorau yn disodli’r systemau presennol ar wahân ac yn brosesau a gaiff eu gwneud â llaw, ynghyd â’r risgiau perthnasol, ar gyfer rheoli a chofnodi busnes y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau. Gwneir arbedion o ran amser y staff drwy wella’r broses neu cânt eu hailfuddsoddi yn y gwaith o gynorthwyo pwyllgorau.

(Gwasanaeth y Pwyllgorau a’r Siambr / Gwasanaeth Deddfwriaeth)

Y prif nod strategol a gefnogir : Darparu’r gwasanaeth gorau yn y ffordd fwyaf effeithiol (Gwariant Cyfalaf

2009-10)

75

15

15

Mae angen System Reoli Gwybodaeth sy’n well, sy’n syml ond sy’n effeithiol er mwyn rheoli’r wybodaeth a ddefnyddir a’r adroddiadau a ddarperir gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau. Mae’r system bresennol yn dyddio o 1999 ac mae risg gynyddol y bydd yn methu. Y bwriad yw cychwyn y prosiect hwn yn ystod 2008-09 a bydd yn arwain at gael gafael ar wybodaeth yn well a’i chadw, gan sicrhau effeithlonrwydd o ran arbedion amser y staff neu cânt eu hailfuddsoddi mewn gwaith ymchwil.

(Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau)

Y prif nod strategol a gefnogir : Darparu’r gwasanaeth gorau yn y ffordd fwyaf effeithiol (Gwariant  Cyfalaf

2009-10)

75

15

15

Mae angen meddalwedd i sicrhau y caiff y gwaith o weinyddu Lwfansau Aelodau ei wneud yn awtomatig er mwyn gwella’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd hyn yn datrys yr angen i ddyblygu data a gofnodir rhwng gwahanol systemau anghydnaws, ac felly’n arbed y costau ychwanegol a delir o’r arian wrth gefn nad yw wedi’i ddyrnau.

(Tâl a Lwfans Aelodau)

Y prif nod strategol a gefnogir : Dangos parch, gonestrwydd a llywodraethu da (Gwariant Cyfalaf

2009-10)

30

6

6

BUDDSODDI MEWN SYSTEMAU TG - COSTAU POSIBL

709

1,430

2,083

Canllawiau'r Gyllideb 2009-10 - Atodiad 1

Atodiad 1

Diben

(Gwasanaeth)

Amcangyfrif

2009-10

£000

Amcangyfrif2010-11

£000

Amcangyfrif2011-12

£000

CRYFHAU GWEITHGAREDDAU SY’N CYSYLLTU Â PHOBL CYMRU

Ffocws ar y Cynulliad - rhaglen o weithgareddau cysylltiadau allanol y Cynulliad ar hyd y flwyddyn i gysylltu’r Cynulliad â phobl Cymru: Digwyddiadau Dewis y Bobl; digwyddiadau Partner Allweddol, megis digwyddiad ieuenctid i gyd-fynd ag Eisteddfod yr Urdd; a digwyddiadau mewn etholaethau i gefnogi pob Aelod Cynulliad.

(Cysylltiadau Allanol)

Y prif nod strategol a gefnogir : Hyrwyddo ac ehangu diddordeb mewn datganoli (Gwariant Refeniw)

150

-

-

Darparu gwell gwasanaethau allgymorth, yn cynnwys rhaglen Dyfodol y Lanfa, defnyddio bws Allgymorth y Cynulliad i gysylltu â chymunedau a grwpiau, a defnyddio clipiau fideo ac offer rhyngweithiol i egluro gwaith y Cynulliad a sut y gall pobl Cymru gymryd rhan ynddo.

(Cysylltiadau Allanol)

Y prif nod strategol a gefnogir : Hyrwyddo ac ehangu diddordeb mewn datganoli (Gwariant Refeniw)

100

150

150

Datblygu rhaglen e-ddemocratiaeth gynhwysfawr er mwyn ehangu enw da’r Cynulliad fel un o’r sefydliadau seneddol mwyaf blaenllaw ac arloesol yn y byd. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio technoleg newydd i hwyluso podlediadau a voxpops, rhoi gweglipiau mewn datganiadau i’r wasg, a defnyddio technoleg newyddlenni i wella’r cysylltiad â chynulleidfaoedd targed.

(Cysylltiadau Allanol)

Y prif nod strategol a gefnogir : Hyrwyddo ac ehangu diddordeb mewn datganoli (Gwariant Refeniw)

75

75

75

Cyflwyno manteision y cynllun Operation Black Vote o ran cysylltu â grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

(Yr Uned Gorfforaethol)

Y prif nod strategol a gefnogir : Hyrwyddo ac ehangu diddordeb mewn datganoli

(Gwariant Refeniw)

40

40

40

CRYFHAU CYSYLLTIAD - COSTAU POSIBL

365

265

265

CEFNOGI GWAITH Y CYNULLIAD

Datblygu trefniadau archifo newydd ar gyfer cofnod cyhoeddus parhaus o waith y Cynulliad.

(Yr Uned Gorfforaethol)

Y prif nod strategol a gefnogir : Dangos parch, gonestrwydd a llywodraethu da (Gwariant Refeniw)

30

150

150

Talu costau staff ychwanegol a gafodd eu recriwtio yn ystod 2008-09 er mwyn ymateb i’r galw cynyddol mewn meysydd megis cyllid, llywodraethu, cynaliadwyedd, TGCh ac Ystadau; Mwy o ddefnydd o adeiladau a gwasanaethau cymorth y Cynulliad yn deillio o’r cynnydd yng ngweithgarwch busnes y Cynulliad ac mae llwyddiannau wrth annog ymwelwyr a digwyddiadau yn golygu bod angen cymorth ychwanegol i gyflawni amcanion strategol y Comisiwn.

Y prif nod strategol a gefnogir : Darparu’r gwasanaeth gorau yn y ffordd fwyaf effeithiol

(Gwariant Refeniw)

300

-

-

Er mwyn cyrraedd targedau amgylcheddol y Comisiwn, cynhelir prosiectau i leihau allyriadau carbon o ystâd y Cynulliad, ynghyd â darparu mannau cyhoeddus mwy agored, croesawgar a modern i ymwelwyr â Thŷ Hywel.

(Cyfleusterau)

Y prif nod strategol a gefnogir : Gweithio’n gynaliadwy

(Gwariant Cyfalaf/Refeniw)

150

100

100

Cryfhau capasiti yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol gydag un cyfreithiwr ychwanegol i gefnogi’r rhaglen ddeddfwriaethol gynyddol.

Y prif nod strategol a gefnogir : Darparu’r gwasanaeth gorau yn y ffordd fwyaf effeithiol

(Gwariant Refeniw)

75

-

-

Targedu mesurau effeithlonrwydd ac arbedion arian parod eraill mewn gwariant er mwyn cyfyngu ar y cynnydd yng nghyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2009-10.

Y prif nod strategol a gefnogir : Darparu’r gwasanaeth gorau yn y ffordd fwyaf effeithiol (Gwariant Refeniw)

-250

-

-

CEFNOGI GWAITH Y CYNULLIAD

305

250

250

CYNYDDU’R GYLLIDEB WRTH GEFN

133

CYFANSWM COSTAU POSIBL Y CYNIGION

1,512

1,945

2,598

Canllawiau'r Gyllideb

Brig >>

Mae Atodiad 2 yn cymharu’r gwahanol feysydd gwariant ac incwm ar gyfer costau gwirioneddol 2007-08, y gyllideb ar gyfer 2008-09 a’r cynigion ar gyfer 2009-10

Mae Atodiad 3 yn rhoi dadansoddiad o gostau gweinyddol eraill a chostau adeiladau ar gyfer 2009-10

Mae Atodiad 4 yn rhoi manylion cyflogau Aelodau’r Cynulliad a Deiliaid Swyddi ynghyd â disgrifiad o’r lwfansau sy’n daladwy i Aelodau’r Cynulliad

Partneriaid a Help