Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008
2. Cynnal yr arolwg
Cafodd drafft cyntaf yr holiadur ei lunio gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru drwy ymgynghori’n agos â swyddogion Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y drafft wedyn ei ddatblygu ymhellach mewn trafodaethau rhwng Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a chwmni GfK NOP, a gafodd ei is-gontractio i gynnal yr arolwg.
Cafodd y sampl ar gyfer yr arolwg ei ddewis drwy ddeialu rhifau ar hap, o blith pob llinell ffôn bosibl yng Nghymru. Cafodd y sampl ei rannu rhwng sectorau cod post yn y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru, a sgriniwyd yr ymatebwyr posibl i sicrhau eu bod yn gymwys. Cynhaliwyd yr arolwg gan ddefnyddio techneg cyfweld cyfrifiadurol dros y ffôn (CATI).
Er mwyn cael sampl priodol i wneud cymariaethau rhesymol rhwng rhanbarthau, roedd yr holiadur terfynol yn gymharol fyr (o dan 15 munud i bob cyfweliad).
Ar ôl defnyddio’r holiadur yn llwyddiannus ar ffurf peilot dros ddwy noson a chynnal 22 o gyfweliadau fel arbrawf, cynhaliwyd 2,538 o gyfweliadau drwy Gymru ym mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf 2008. Er mwyn sicrhau bod y sampl yn gynrychioladol o’r boblogaeth sy’n oedolion, rhoddwyd cwotâu ar oedran, nifer y bobl o bob rhyw ym mhob statws cyflogaeth, rhanbarthau etholiadol y Cynulliad a’r pleidiau gwleidyddol yr oedd pobl yn eu cefnogi.
Cafodd data’r arolwg ei bwysoli er mwyn cywiro mân wahaniaethau rhwng y sampl a natur y boblogaeth. Cynigiwyd cyfweld pawb yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Lluniodd cwmni GfKNOP grynodeb o’r canlyniadau ar gyfer holl gwestiynau’r arolwg, yn ogystal â manylion yn ôl rhyw, oedran, dosbarth cymdeithasol a rhanbarth Cynulliad, ac mae’r rhain wedi’u hatodi at yr adroddiad hwn.
Adrannau Eraill:
3. Barn y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli
4. Diddordeb y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano
