Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008
5. Ffynonellau gwybodaeth y cyhoedd
Nod trydedd ran yr arolwg oedd canfod rhagor am sut mae pobl yn cael gwybodaeth am wleidyddiaeth a materion cyfoes yng Nghymru. Roedd diddordeb arbennig mewn edrych ar ba mor berthnasol yw papurau newydd a gorsafoedd radio masnachol lleol yng Nghymru. Felly, roedd y rhestr o’r ffynonellau yn y cyfryngau yn cynnwys cymysgedd o’r wasg argraffedig a darlledwyr (radio a theledu), a hynny’n rhanbarthol a lleol, yn genedlaethol drwy Gymru a thrwy’r DU.
Yn gyntaf, roedd gofyn i’r rhai a ymatebodd nodi eu ffynonellau wrth gael 'gwybodaeth am wleidyddiaeth a materion cyhoeddus yng Nghymru’. Dyma’r rhai mwyaf poblogaidd yn ôl eu trefn:
Newyddion ar y teledu (ffynhonnell i 87% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg)
Ffrindiau, teulu a sgwrsio ymysg ei gilydd (66%)
Papurau newydd lleol (64%)
Papurau newydd Prydeinig (56%)
Papurau newydd cenedlaethol Cymru - y Western Mail a’r Daily Post (39%)
Radio’r BBC, fel Radio 4 a 5Live (42%)
Y rhyngrwyd (37%)
Radio Wales/Radio Cymru (36%)
Newyddion ar radio masnachol (23%)
Fodd bynnag, pan ofynnwyd i’r rhai a ymatebodd i nodi eu prif ffynhonnell wrth gael y wybodaeth bwysicaf, mae’r canlyniadau fymryn yn wahanol:
Newyddion ar y teledu (y brif ffynhonnell i 52% o’r rhai a ymatebodd)
Papurau newydd lleol (8%)
Y rhyngrwyd (8%)
Papurau newydd Prydeinig (7%)
Papurau newydd cenedlaethol Cymru - y Western Mail a’r Daily Post (5%)
Ffrindiau, teulu a sgwrsio ymysg ei gilydd (5%)
Radio Wales/Radio Cymru (4%)
Radio’r BBC, fel Radio 4 a 5Live (4%)
O gryn tipyn, mae’r dystiolaeth yn dangos mai’r newyddion ar y teledu yw ffynhonnell wybodaeth bwysicaf y cyhoedd wrth gael gwybodaeth am wleidyddiaeth yng Nghymru heddiw. Er gwaethaf datblygiadau parhaus yn y farchnad gyfryngau ehangach, mae’r newyddion ar y teledu yn dal i fod yn gwbl ganolog wrth i bobl gael gwybodaeth am wleidyddiaeth. Fodd bynnag, nid dyna’r unig ffynhonnell berthnasol. Mae papurau newydd yn dal i fod yn bwysig. Yn wir, maent yn bwysicach nag y mae eu cylchrediad ar eu pennau’u hunain neu gyda’i gilydd yn ei awgrymu. Mae’n nodedig hefyd fod llawer o bobl yn dweud bod ffrindiau, teulu a sgwrsio ymysg ei gilydd yn ffynhonnell wybodaeth bwysig. Nid dyma’r ffynhonnell bwysicaf i’r mwyafrif, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn trafod gwleidyddiaeth gyda phobl eraill o leiaf weithiau. Mae’r cysylltiadau personol hyn yn fodd i’r boblogaeth gael gwybodaeth am wleidyddiaeth a sefydliadau gwleidyddol fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond maent hefyd yn fodd o gael gwybodaeth anghywir amdanynt.
Ychydig yn unig o wahaniaethau rhanbarthol a welwyd. Fodd bynnag, mae’n nodedig bod canran is yn rhoi sylw i’r newyddion ar y teledu yn y gogledd (ac yng nghanol de Cymru i raddau llai), a mwy ohonynt yn honni ei bod yn edrych ar bapurau newydd lleol er mwyn cael gwybodaeth am wleidyddiaeth a materion cyfoes yng Nghymru. Yn ddiddorol, gwelwn fod mwy o wahaniaeth rhwng y cyfryngau y mae’r gwahanol grwpiau oedran yn eu defnyddio. Mae’r grwpiau oedran iau yn llai dibynnol ar y newyddion ar y teledu, ac yn fwy dibynnol ar radio masnachol a’r rhyngrwyd. Mae’r bobl hŷn yn fwy tueddol o ddibynnu’n helaeth ar y newyddion ar y teledu a radio’r BBC, yn ogystal ag ar y papurau newydd Prydeinig. Mae’n ymddangos bod y dystiolaeth hon yn cyd-fynd â’r awgrymiadau bod cynulleidfaoedd y gwahanol gyfryngau yn newid. Wrth i natur aelwydydd a chymdeithas newid, mae’r patrymau’n newid o ran y cyfryngau y bydd pobl yn eu defnyddio. Mae’n debygol iawn mai dim ond cynyddu y bydd pwysigrwydd y rhyngrwyd wrth roi ffynonellau gwybodaeth i bobl yn y blynyddoedd nesaf.
Teledu
O blith y rhaglenni newyddion ar y teledu sy’n rhoi gwybodaeth yn rheolaidd am newyddion a materion cyfoes yng Nghymru, Wales Today
ar BBC1 Wales oedd y mwyaf poblogaidd o beth tipyn. Dywedodd 62% o’r rhai a ymatebodd eu bod yn gwylio’r rhaglen hon o leiaf dair gwaith yr wythnos. Dywedodd ychydig yn llai na hanner hynny (34%) eu bod yn gwylio Wales Tonight
ar ITV Wales yr un mor rheolaidd, a dywedodd 9% eu bod yn gwylio Newyddion
yn rheolaidd. Mae Tabl 14 yn dangos faint sy’n gwylio rhaglenni yn y gwahanol ranbarthau ac yn ôl y grwpiau oedran.
Er ei bod yn hollol amlwg mai’r BBC yw’r cynhyrchydd unigol mwyaf o ran newyddion am wleidyddiaeth a materion cyfoes yng Nghymru, mae’n glir iawn hefyd bod ITV Wales yn dal i fod yn ffynhonnell bwysig iawn i nifer o bobl ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Mae’n dilyn yn uniongyrchol o hynny y gallai unrhyw ostyngiad sylweddol yn y newyddion sydd ar ITV Wales gael effaith niweidiol sylweddol ar allu’r cyhoedd i gael gwybodaeth.
Tabl 14a: Y rhaglenni sy’n cael eu gwylio’n rheolaidd yn y gwahanol ranbarthau (%)
Y RHAGLEN |
GOGLEDD CYMRU |
CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU |
GORLLEWIN DE CYMRU |
CANOL DE CYMRU |
DWYRAIN DE CYMRU |
Wales Today (BBC) |
54 |
68 |
63 |
66 |
60 |
Wales Tonight (ITV) |
31 |
35 |
36 |
33 |
33 |
Newyddion (S4C) |
11 |
17 |
8 |
5 |
3 |
Tabl 14b: Y rhaglenni sy’n cael eu gwylio’n rheolaidd gan y gwahanol grwpiau oedran (%)
Y RHAGLEN |
18-24 |
25-34 |
35-44 |
45-54 |
55-64 |
65-74 |
75+ |
Wales Today (BBC) |
52 |
55 |
58 |
65 |
70 |
70 |
65 |
Wales Tonight (ITV) |
29 |
30 |
32 |
33 |
36 |
38 |
41 |
Newyddion (S4C) |
7 |
4 |
7 |
5 |
10 |
13 |
20 |
Y cwestiwn: 'Ydych chi fel arfer yn gwylio unrhyw rai o'r rhaglenni teledu hyn yn rheolaidd? Wrth rheolaidd, rwy'n golygu o leiaf dair gwaith yr wythnos.’
Yn y gogledd y mae’r lleiaf o bobl yn gwylio’r prif raglenni newyddion Saesneg am Gymru. Gallai hyn fod yn arwydd arall o’r hyn a elwir yn ddiffyg gwybodaeth - sy’n deillio o’r hen arfer sydd gan bobl y gogledd o anelu eu herialau teledu at drosglwyddyddion Lloegr.
Mae’n ddealladwy bod cysylltiad clir rhwng nifer y bobl sy’n gwylio Newyddion
â’r gyfran o bobl yn y rhanbarth dan sylw sy’n siarad Cymraeg. Mae’r gwahaniaethau o ran oedran wrth wylio rhaglenni yn gysylltiedig â thuedd pobl hŷn i wylio’r newyddion ar y teledu yn amlach na phobl iau.
Radio
Ar y cyfan, nid oedd y radio’n arbennig o bwysig ymhlith y ffynonellau gwybodaeth yn y cyfryngau a oedd wedi’u cynnwys yn yr arolwg. Tua 4% o’r rhai a ymatebodd a ddywedodd mai rhwydwaith radio’r BBC, a gorsafoedd BBC Wales a BBC Cymru, oedd eu prif ffynhonnell wybodaeth am wleidyddiaeth a materion cyfoes yng Nghymru.
Ychydig yn unig o bobl a ddywedodd fod gorsafoedd radio masnachol yn ffynhonnell bwysig iddynt wrth gael gwybodaeth am wleidyddiaeth a materion cyfoes. At hynny, roedd pobl yn gwrando ar orsafoedd gwahanol i’w gilydd. Dyma’r ffynonellau gwybodaeth a gafodd eu henwi amlaf:
Real Radio (7% o bawb a ymatebodd i’r arolwg)
Red Dragon FM (5%)
The Wave (1.5%)
Marcher Sound (mymryn dros 1%)
Swansea Sound (1%)
Coast FM (mymryn o dan 1%)
O’r mwyaf poblogaidd o’r rhain, mae’n nodedig bod llai na 10% yn ei henwi yn ffynhonnell wybodaeth. Serch hynny, dylid cofio bod y mwyafrif o’r gorsafoedd hyn yn targedu cynulleidfaoedd lleol iawn, a bod eu heffaith yn llawer mwy o fewn yr ardaloedd hynny nag y mae’r ffigyrau yma yn eu hawgrymu. Felly, er bod gan Real Radio gynulleidfa sylweddol drwy lawer o’r de a hyd yn oed yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, nid yw’n cael unrhyw effaith arbennig yn y gogledd. Mae gwrandawyr Red Dragon FM bron i gyd yn rhanbarthau Dwyrain De Cymru a Chanol De Cymru (lle mae’n cael ei henwi’n ffynhonnell wybodaeth am wleidyddiaeth gan 11% a 13% o’r ymatebwyr, yn ôl eu trefn). Yn yr un modd, mae’r mwyafrif o wrandawyr The Wave yn rhanbarth Gorllewin De Cymru (lle mae’n cael ei henwi’n ffynhonnell wybodaeth am wleidyddiaeth gan 7% o’r ymatebwyr), tra bo cynulleidfa Coast FM a Marcher Sound bron i gyd yn rhanbarth Gogledd Cymru (maent yn ffynonellau gwybodaeth i 5-6% o’r ymatebwyr).
Mae’r effaith leol hon yn golygu bod effaith radio masnachol cymaint os nad yn fwy nag effaith rhwydwaith radio’r BBC neu Radio Wales/Radio Cymru mewn rhanbarthau penodol. Yn arbennig, mae’r canlyniadau’n awgrymu bod Real Radio a Red Dragon ill dau’n bwysicach yn rhanbarth Canol De Cymru na rhwydwaith radio’r BBC a Radio Wales a Radio Cymru gyda’i gilydd. Mae’r gorsafoedd radio masnachol eraill a enwyd hefyd yn cael effaith sylweddol yn eu hardaloedd hwy.
Papurau newydd
Yn ôl ein harolwg, mae pobl yn darllen nifer o bapurau newydd yng Nghymru. Ond nid oedd hyd yn oed chwarter yr ymatebwyr yn darllen yr un papur â’i gilydd. Mae nifer sylweddol yn darllen y papurau a ganlyn (yn ôl pa mor boblogaidd ydynt):
Daily Mail (12.8% o bawb a ymatebodd i’r arolwg)
Daily Mirror (9.5%)
The Sun (9.1%)
Western Mail (6.3%)
South Wales Echo (5.0%)
Daily Telegraph (4.8%)
The Times (4.3%)
Daily Express (4.2%)
Daily Post (3.6%)
South Wales Evening Post (3.5%)
The Guardian (3.2%)
South Wales Argus (2.8%)
The Evening Leader (gan gynnwys y Wrexham Evening Leader) (2.4%)
The Independent (2.0%)
Daily Star (1.7%)
Mae’n nodedig fod o leiaf rhywfaint o gynnyrch y wasg Gymreig, gan gynnwys papurau lleol yn ogystal â’r rhai cenedlaethol (y Western Mail a’r Daily Post), yn cael ei ddarllen gan fwy o’r cyhoedd na chynnyrch y wasg yn Llundain. At hynny, cynulleidfaoedd lleol sydd gan nifer o bapurau newydd Cymru. Dyma a ddaw i’r golwg wrth edrych ar faint o bobl sy’n darllen y gwahanol bapurau newydd ym mhob rhanbarth:
- Er ei fod yn cael ei alw’n bapur newydd cenedlaethol Cymru, bychan iawn yw effaith y Western Mail yng Ngogledd Cymru, ond mae’n cael ei enwi’n ffynhonnell wybodaeth gan ychydig dros 10% o bobl Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan 8% o bobl Canol De Cymru, gan bron i 5% o bobl Gorllewin De Cymru, a chan 6% o bobl Dwyrain De Cymru.
- Mae’r mwyafrif helaeth o’r bobl sy’n darllen y South Wales Echo yng Nghanol De Cymru; dywedodd 17% ohonynt ei fod yn ffynhonnell iddynt.
- Ar y llaw arall, pobl Gogledd Cymru sy’n cael y Daily Post ar y cyfan, lle mae 12% yn ei ddarllen.
- Mae 16% o bobl Gorllewin De Cymru yn darllen y South Wales Evening Post, ond bron neb y tu allan i’r rhanbarth hwn.
- Nid yw’r South Wales Argus yn cael bron i ddim effaith y tu allan i Ddwyrain De Cymru, lle mae’n cael ei ddarllen gan 13% o’r ymatebwyr.
- Yn yr un modd, mae’r mwyafrif helaeth o’r bobl sy’n darllen yr Evening Leader a’r Wrexham Evening Leader yng Ngogledd Cymru, sef 10% o’r ymatebwyr.
Yn gyffredinol, mae’r arolwg yn cadarnhau pwysigrwydd y newyddion ar y teledu fel prif ffynhonnell y cyhoedd am wleidyddiaeth Cymru. Ond mae’n dangos hefyd fod nifer o ffynonellau eraill yn bwysig, a bod effaith nifer o orsafoedd radio masnachol a phapurau newydd lleol mewn cymunedau penodol yn llawer uwch nag y mae eu cylchrediad a nifer y gynulleidfa yn ei awgrymu.
Adrannau Eraill
3. Barn y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli
4. Diddordeb y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano
