Y Prif Swyddog Gweithredol
Mae gan gyfarwyddiaeth y Prif Swyddog Gweithredol gyfrifoldeb am:
Adnoddau Dynol
Mae’r tîm Adnoddau Dynol yn canolbwyntio ar gynorthwyo rheolwyr a staff i wneud y Cynulliad yn lle gwych i weithio. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn gweithio gyda’n cwsmeriaid mewnol i ddatblygu’r arferion gorau posibl – mae gennym Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl – sy’n cynnwys recriwtio staff y Cynulliad, cynefino, dysgu a datblygu, rheoli perfformiad, ac iechyd a lles. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn a’r gwasanaeth cymorth i Aelodau er mwyn darparu cyfres o bolisïau a chanllawiau Adnoddau Dynol i Aelodau’r Cynulliad a’u staff.
Gwasanaethau Ariannol
Y tîm Gwasanaethau Ariannol sy’n gosod y safonau ar gyfer rheoli ariannol a chyfrifyddu yn y Cynulliad; prosesu taliadau (yn cynnwys y gyflogres) i Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth, a staff y Cynulliad; cynorthwyo Comisiwn y Cynulliad i gael gwerth am arian; stiwardiaeth a chywirdeb o ran rheoli ei adnoddau ariannol; a thalu anfonebau i gyflenwyr mor fuan â phosibl er mwyn hwyluso llif arian busnesau yn ystod yr amgylchiadau anodd hyn.
Llywodraethu ac Archwilio
Gwaith y tîm Llywodraethu ac Archwilio yw sicrhau bod gennym brosesau corfforaethol cadarn mewn grym i’n helpu i gyflawni amcanion strategol y Cynulliad. Mae hyn yn cynnwys arbenigedd mewn caffael a rheoli prosiectau gwella, dadansoddi risg ac adrodd am berfformiad, archwilio a chydraddoldeb. Mae’r tîm hefyd yn cynorthwyo Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad ac yn gweinyddu ceisiadau rhyddid gwybodaeth.
