Aelodau’r Comisiwn
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi y bydd aelodau Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall. Mae Rheol Sefydlog 3.3 yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer penodi’r pedwar Aelod Cynulliad arall ac yn nodi na fydd mwy nag un aelod (ar wahân i’r Llywydd) o’r un grwp gwleidyddol.
Etholwyd y Comisiynwyr gan yr Aelodau yng Nghyfarfod Llawn 6 Mehefin 2007. Ynghyd a'r Llywydd, sy'n cadeirio'r Comisiwn, yr aelodau yw:
| Y Llywydd |
Cadeirydd y Comisiwn - Cyfrifoldeb arbennig am y panel adolygu annibynnol ar gymorth ariannol i Aelodau Cynulliad, hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd, arweiniad ardderchog, datblygu pwerau deddfu’r Cynulliad yn y dyfodol a chysylltiadau allanol. |
Lorraine Barrett AC (Llafur) |
Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys cyfrifoldeb am gydraddoldeb; iaith; yr amgylchedd a bod yn niwtral o ran carbon; caffael cynaliadwy a rheoli’r ystad. |
Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) |
Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar ansawdd craffu a’r broses ddeddfu; cyfathrebu allanol; technoleg gwybodaeth a chyfathrebu; addysg ym maes dinasyddiaeth; materion cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth. |
Chris Franks AC (Plaid Cymru) Etholwyd 18 Medi 2007* |
Comisiynydd y Cynulliad sy’n Gwella - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar wella gwasanaethau i Aelodau a dinasyddion; cynnwys rhanddeiliaid; cynllunio strategol; a sicrhau gwerth am arian. |
William Graham AC (Plaid Geidwadol Cymru) |
Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar reoli asedau’r Cynulliad; pobl y Cynulliad (gan gynnwys staff, contractwyr, y gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo staff cymorth Aelodau’r Cynulliad); cyllid; cyflogau a lwfansau Aelodau; effeithlonrwydd a llywodraethu da. |
* Elin Jones AC - 6 Mehefin 2007 tan 18 Medi 2007