Fersiwn Testun - Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2007-2008
Yn ôl i'r fersiwn amlgyfrwng >> Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 bwerau arwyddocaol newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.Creodd hefyd Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi’r Cynulliad. Hwn yw adroddiad blynyddol cyntaf Comisiwn y Cynulliad, sy’n egluro ein dyletswyddau rhhwng etholiadau’r Cynulliad ym Mai 2007 hyd at 31 Mawrth 2008. Mae’r adroddiad wedi ei rannu’n chwe adran:
Adran 1: Cyflwyniad
Rhagair gan y Llywydd a chyflwyniad gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.
Adran 2: Pwerau Newydd: Cynulliad Newydd
Mae’r adran yma’n crynhoi busnes y Cynulliad yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Deddfwriaeth y Cynulliad a gweithgareddau’r Pwyllgorau.
Adran 3: Meithrin Cysylltiadau ag Eraill
Cynhaliodd y Cynulliad nifer o ddigwyddiadau amlwg yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys agoriad swyddogol y Trydydd Cynulliad, a parhaodd gyda’i raglen o ymweliadau addysgol a gweithgareddau Ewropeadd a Rhyngwladol.
Adran 4: Ein Ystâd
Mae ein ystâd yn cynnwys y Senedd, Ty Hywel ac Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd a Swyddfa Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Mae’r adran yma’n esbonio sut yr ydym yn ceisio gwneud ein ystâd yn gynaliadwy.
Adran 5: Cydymffurfio â’n Dyletswyddau
Sefydlwyd cyfres o fyrddau yn ystod y flwyddyn i gynorthwyo Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad yn ei dyletswyddau o reoli a threfnu staff, gwasanaethau, adnoddau ac asedau’r Cynulliad. Nodir rôl y byrddau hyn a dyletswyddau’r Cynulliad o ran cyfle cyfartal a’r Gymraeg yn yr adran hon.
Adran 6: Datganiad o Gyfrifon
Gellir gweld Datganiad o Gyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2007-08 yn yr adran yma.
Mae’r Adroddiad Blynyddol hefyd ar gael fel fersiwn testun a sain drwy ddilyn y dolenni ar frig y dudalen. Os hoffech gopi o’r adroddiad mewn fersiwn arall, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Adran 1: Cyflwyniad
Rhagair gan y Llywydd
Mae hwn, sef ein hadroddiad blynyddol cyntaf fel Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn nodi sut yr ydym wedi gwneud ein dyletswyddau rhwng 9 Mai 2007 – y diwrnod y daeth Deddf Llywodraeth Cymru i rym a rhoi i ni ein pwerau newydd – a 31 Mawrth 2008.
Rhwng 1999 a 2007, roeddem yn rhan o gorff corfforaethol mwy a oedd yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd yr adroddiad blynyddol hwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithgareddau a’n datblygiadau fel corff seneddol annibynnol ac yn disgrifio rhai o’n huchafbwyntiau yn ogystal â’n gwaith o ddydd i ddydd.
Bu’n flwyddyn gyffrous a phwysig i ni ac rydym wedi adeiladu’r sylfeini ar gyfer y pedair blynedd hyd at 2011 fel y gallwn gyflawni’n huchelgais o wneud y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru. Lansiwyd ein strategaeth ar ddiwedd yr haf diwethaf ac mae ein pum nod strategol wrth wraidd popeth a wnawn. Mae adrannau eraill yr adroddiad hwn yn disgrifio’r hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud i gyflawni hynny. Credaf ei bod yn allweddol ein bod wedi gallu cynnwys ein pwerau newydd a gweithio’n gyflym a chydag angerdd i ddatblygu ein rhaglen ddeddfwriaethol.
Fel sefydliad newydd, cefais fy nghalonogi gan ein cynnydd yn ystod y flwyddyn. Gwelodd ymrwymiad cadarnhaol Aelodau’r Cynulliad a’r staff: gyflwyno saith Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig a dau Fesur Cynulliad arfaethedig; cynhyrchu 3,500 darn o waith ysgrifenedig ar gyfer Aelodau’r Cynulliad gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau; 244 cyfarfod pwyllgor neu gyfarfod deddfwriaethol ffurfiol yn ogystal â 61 Cyfarfod Llawn o’r Cynulliad; cyrhaeddodd ein rhaglen addysgol gyfanswm o 16,692 o ddisgyblion o bob rhan o Gymru a chroesawyd ein 500,000fed ymwelydd i’r Senedd yn ystod y flwyddyn.
Yma a thramor, mae sefydliadau seneddol a dirprwyaethau rhyngwladol eraill yn parhau i fod â diddordeb yn ein gwaith a chroesawyd ymweliadau gan 81 o ddirprwyaethau yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal â dysgu gennym, mae cysylltiadau o’r fath yn ein hyrwyddo fel sefydliad ac yn helpu i sicrhau y gallwn gymryd ein lle ar y llwyfan rhyngwladol.
Fodd bynnag, chi, pobl Cymru, yw canolbwynt ein hymdrechion fel Cynulliad. Ym mhopeth a wnawn o ran datblygu ein pwerau, gobeithiwn y byddwch yn cysylltu â ni fel y gallwn, gyda’n gilydd, greu Cymru well. Mae’r daith wedi cychwyn ac mae eich rhan chi’n hanfodol er mwyn sicrhau bod y momentwm yn cael ei gynnal.
Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr a’r Clerc
Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau arwyddocaol newydd i ddeddfu, a chryfhaodd ei rôl graffu. Creodd hefyd Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi’r Cynulliad. Ein prif weithgaredd yn ystod y flwyddyn oedd cefnogi gwaith y Cynulliad yn dilyn etholiadau mis Mai 2007 a rhoi gweithdrefnau ar gyfer ei swyddogaethau newydd ar waith.
Mae gan ein sefydliad newydd ethos cryf o ran gwasanaeth ac rydym yn ceisio cyflymdra, ansawdd, arferion gorau a gwelliant ym mhopeth a wnawn. I gyflawni’r heriau hyn, rydym wedi ailstrwythuro er mwyn sicrhau bod gennym y gwasanaethau iawn yn y lle iawn a disgwyliwn allu adeiladu ar y sylfeini cryf newydd hyn yn y dyfodol.
Mae’r staff o fewn ein tair Cyfarwyddiaeth newydd; Gweithrediadau, Busnes y Cynulliad, a Chyfreithiol ynghyd ag Uned Gorfforaethol, wedi croesawu’r heriau a’r newidiadau diwylliannol a ddaeth yn sgil y pwerau a’r gweithdrefnau gwell a’r rhai hynny a gyflwynwyd gan Strategaeth Comisiwn y Cynulliad a ddisgrifir mewn mwy o fanylder yn Adran 2 yr adroddiad hwn. Rydym wedi recriwtio ac wedi datblygu staff medrus i swyddi allweddol ac rydym yn cyflwyno rhaglen arweinyddiaeth fel y gallwn ddarparu’r gwasanaeth gorau i Aelodau’r Cynulliad ac i chi. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio yma am eu cydweithrediad, eu hymroddiad a’u gwaith caled yn ystod ein blwyddyn gyntaf.
Byddwch yn darllen yn yr adroddiad hwn am sut yr adeiladwyd ein trefniadau rheoli a llywodraethu i helpu i gyflawni ein nodau a’n huchelgeisiau. Yn ystod y flwyddyn, datblygwyd fframweithiau rheoli risg a chynllunio gwasanaethau, tabl o ddangosyddion perfformiad allweddol a phenodwyd pedwar cynghorydd annibynnol i’n cynghori a’n herio yn ein gwaith. Fel prif sefydliad democrataidd Cymru, rydym yn benderfynol o wneud y defnydd gorau o gronfeydd cyhoeddus, gan reoli cyllideb o £41miliwn ac asedau net o £67miliwn.
Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn canolbwyntio ar adeiladu ar ein cyflawniadau hyd yma er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau. Byddwn yn chwilio am ragor o gyfleoedd i sicrhau eich bod yn gwybod am waith y Cynulliad ac i annog trafodaeth ynghylch ein pwerau a sut yr ydym yn eu defnyddio. Edrychwn ymlaen at yr heriau sydd o’n blaen a’r gobeithion a ddaw gyda hwy.
Adran 2: Pwerau Newydd: Cynulliad Newydd
Comisiwn y Cynulliad, y Comisiynwyr a’r Strategaeth
Ym mis Mai 2007, sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad, fel corfforaeth, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Y Comisiwn sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan y Cynulliad yr adeilad, y staff a’r gwasanaethau angenrheidiol at ddibenion y Cynulliad.
Aelodaeth
Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol mai aelodau Comisiwn y Cynulliad yw y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall a enwebir gan y prif bleidiau gwleidyddol.
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Y Llywydd, Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad
Lorraine Barrett (Llafur)
Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol)
William Graham (Ceidwadwyr)
Elin Jones (Plaid Cymru) -
tan fis Gorffennaf 2007
Chris Franks (Plaid Cymru) –
ers mis Medi 2007
Yn gyffredinol, rôl y Comisiwn yw pennu nodau ac amcanion strategol ac ystyried perfformiad, cytuno ar safonau a gwerthoedd, goruchwylio newid, hybu arloesedd a mentergarwch, a hynny er mwyn gwella ein gallu i ddarparu’r broses o reoli risg a rheoli perfformiad a chymryd rhan ynddi. Mae’r pum comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol am swyddogaethau’r Comisiwn.
Er mwyn cynorthwyo i gyflawni’r swyddogaethau hyn, cytunodd y comisiynwyr ar bortffolios trawsbynciol sy’n ymwneud â phob agwedd ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hyn wedi caniatáu i lawer iawn o waith ddigwydd y tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Comisiwn ac i berthynas waith gadarnhaol gael ei datblygu gyda’n staff. Ceir manylion portffolio pob comisiynydd isod:
Cadeirydd y Comisiwn ac y mae ganddo gyfrifoldeb arbennig am hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd, arweiniad ardderchog, datblygu pwerau deddfu’r Cynulliad yn y dyfodol a chysylltiadau allanol. Mae’r Llywydd wedi arwain yn strategol o ran datblygu ein pwerau deddfwriaethol a chysylltiadau â’r cyfryngau.
Lorraine Barrett (Llafur)
Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys cyfrifoldeb am gydraddoldeb; iaith; yr amgylchedd a bod yn niwtral o ran carbon; caffael cynaliadwy a rheoli’r ystad. Gwnaed Lorraine yn gynrychiolydd y Comisiwn ar brosiect y Lanfa sy’n ystyried dyfodol Adeilad y Pierhead fel canolfan gynadledda, canolfan i ymwelwyr a chanolfan arddangos; ac y mae wedi cymryd diddordeb mawr yn y gwaith o reoli’r ystad ynghyd â’r effaith a gawn ar yr amgylchedd.
Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar ansawdd craffu a’r broses ddeddfu; cyfathrebu allanol; technoleg gwybodaeth a chyfathrebu; addysg mewn dinasyddiaeth a chyfreithlondeb. O fewn ei swyddogaeth fel comisiynydd, mae Peter wedi mynd i’r afael â nifer o eitemau, yn cynnwys edrych ar ddatblygu e-ddeisebau a mynd i’r afael â rhai materion technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Chris Franks (Plaid Cymru)
Comisiynydd y Cynulliad sy’n Gwella - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar wella gwasanaethau i Aelodau a dinasyddion; cynnwys rhanddeiliaid; cynllunio strategol a sicrhau gwerth am arian. Mae Chris Franks wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu ein harolwg boddhad Aelodau a gaiff ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn nesaf.
William Graham (Ceidwadwyr Cymreig)
Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad - Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar reoli asedau’r Cynulliad; pobl y Cynulliad (gan gynnwys staff, contractwyr, y gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo staff cymorth Aelodau’r Cynulliad); cyllid; cyflogau a lwfansau Aelodau; effeithlonrwydd a llywodraethu da. William Graham oedd cynrychiolydd y Comisiwn ar y panel adolygu cyntaf i edrych ar y tâl a’r gefnogaeth ariannol a roddir i Aelodau, ac ef hefyd yw Aelod y Comisiwn ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn parhau i fod yn atebol i’r Cynulliad drwy ohebiaeth a thrwy gwestiynau llafar ac ysgrifenedig a gyflwynir gan Aelodau’r Cynulliad i’w hateb yn y Cyfarfod Llawn. Ymatebodd pob comisiynydd i gwestiynau llafar mewn Cyfarfod Llawn o’r Cynulliad yn eu tro yn ystod y flwyddyn. Mae’r Comisiwn yn atebol hefyd drwy waith craffu gan bwyllgorau’r Cynulliad megis y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Cyhoeddir papurau cyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad ar ein gwefan a gellir dod o hyd iddynt yma.
Y strategaeth ar gyfer y trydydd Cynulliad (2007-2011)
Uchelgais y Comisiwn yw y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n rhoi hyder i bobl Cymru. Er mwyn cyflawni’r nod hwn a pharatoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu, mae Comisiwn y Cynulliad wedi llunio dogfen strategaeth sy’n nodi ein gweledigaeth a’n targedau ar gyfer y trydydd Cynulliad:
Byddwn yn hyrwyddo ac yn ehangu cyfranogiad pobl mewn datganoli
Byddwn yn dangos undod, arweinyddiaeth ac ymateb hyderus i newid cyfansoddiadol
Ym mhob agwedd ar ein gwaith, byddwn yn dangos parch, cywirdeb a llywodraethu da
Byddwn yn gweithio’n gynaliadwy
Byddwn yn sicrhau bod y Cynulliad yn darparu’r gwasanaethau gorau, ac y’u darperir yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Fe welwch fod y strategaeth yn nodi ein gwerthoedd a fydd yn dangos ein hymrwymiad cytûn i lwyddo drwy feithrin cysylltiadau cryf a thrwy arweinyddiaeth. Byddwn bob amser yn gweithredu er budd gorau’r Cynulliad gan ddarparu gwasanaethau o ansawdd, gan fod yn broffesiynol, yn arloesol a thrwy barchu eraill. Er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y strategaeth a’n fframwaith cynllunio gwasanaethau.
Y Siambr
Y Siambr yw calon busnes y Cynulliad a dyna gartref Cyfarfodydd Llawn y Cynulliad. Yno y cynhelir trafodaethau pwysig ar amryw helaeth o faterion, gan gynnwys cynigion o ran polisi a deddfwriaeth.
Mae Gwasanaeth y Siambr yn darparu cymorth ysgrifenyddol i’r Pwyllgor Busnes a busnes y Cyfarfod Llawn, ac y mae’n cynorthwyo’r Llywydd a’r Dirprwy pan fyddant yn cadeirio cyfarfodydd llawn y Cynulliad drwy roi cyngor gweithdrefnol a gweithredu technoleg y Siambr. Mae’r Swyddfa Gyflwyno’n rhoi arweiniad a chymorth i Aelodau’r Cynulliad ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau bod busnes y Cyfarfod Llawn yn cael ei gyflwyno, lle mae hynny’n ofynnol, yn unol â’r Rheolau Sefydlog.
Y Pwyllgor Busnes
Mae’r Pwyllgor Busnes yn rhoi cyngor ar sut i reoli busnes y Cynulliad ac ar arferion a gweithdrefn gyffredinol y Cynulliad. Y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd a bydd Arweinydd y Ty a rheolwr busnes o bob un o’r pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad yn mynychu’r cyfarfodydd.
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod yn breifat bob dydd Mawrth yn ystod y tymor i roi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac i benderfynu ar drefn busnes y Cynulliad a busnes heblaw busnes y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn. Cynhaliwyd 29 o gyfarfodydd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008. Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes hefyd gyfarfod ar y cyd â Chomisiwn y Cynulliad i ystyried materion yn ymwneud ag adnoddau a threfnu busnes y Cynulliad.
Mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am drefnu a chyhoeddi amserlenni ar gyfer ystyried Mesurau arfaethedig (ar wahân i unrhyw gam a gymerir yn y Cyfarfod Llawn) ac amserlenni i’r Pwyllgor Deddfwriaethol ystyried Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig.
Busnes y Siambr
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y trydydd Cynulliad ar 9 Mai 2007, yn dilyn etholiadau’r Cynulliad. Etholwyd y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn y cyfarfod hwn.
Cynhaliwyd 61 o Gyfarfodydd Llawn rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008.
Rhennir busnes yn y Cynulliad i dri chategori:
Busnes y Llywodraeth;
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth;
Busnes y Cynulliad.
Ymysg yr enghreifftiau o fusnes heblaw busnes y Llywodraeth a ystyriwyd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008 yr oedd:
Trafodaethau a gynigiwyd gan y gwrthbleidiau;
Trafodaethau ar adroddiadau gan bwyllgorau’r Cynulliad;
Trafodaethau ar ddeddfwriaeth arfaethedig Aelodau.
Ymysg yr enghreifftiau o fusnes y Cynulliad a ystyriwyd rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008 yr oedd:
Cwestiynau i gynrychiolwyr o Gomisiwn y Cynulliad;
Ystyried cyllideb Comisiwn y Cynulliad;
Trafodaeth ar araith y Frenhines (gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n bresennol)
Cwestiynau’r Cynulliad
Cwestiynau’r Cynulliad yw un o’r dulliau allweddol i Aelodau’r Cynulliad gael gwybodaeth neu i bwyso am weithredu. Ceir dau fath o gwestiynau yn y Cynulliad sef cwestiynau llafar a chwestiynau ysgrifenedig.
Gall Aelodau ofyn cwestiynau llafar yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Cynhelir cyfnod cwestiynau’r Prif Weinidog bob dydd Mawrth, gyda chwestiynau eraill yn cael eu rhoi gerbron y Gweinidogion a’r Comisiwn ar ddydd Mercher.
Dewisir pymtheg cwestiwn ar hap ar gyfer pob sesiwn gwestiynau mewn cymysgiad awtomatig a gynhelir ar ran y Llywydd. Caiff yr Aelodau wedyn gyfle i ofyn cwestiynau ychwanegol heb rybudd.
Yn ystod cyfnod yr adroddiad cyflwynwyd cyfanswm o 3,515 o gwestiynau llafar. Ceir dadansoddiad sy’n dangos i bwy y gofynnwyd y cwestiynau isod:
Nifer y cwestiynau llafar a gyflwynwyd |
|
Y Prif Weinidog |
834 |
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
416 |
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth |
415 |
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau |
321 |
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai |
310 |
Y Gweinidog dros Dreftadaeth |
296 |
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol |
290 |
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig |
265 |
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus |
258 |
Y Cwnsler Cyffredinol |
97 |
Comisiwn y Cynulliad |
13 |
Yn dilyn y cwestiynau llafar gall y Llywydd ganiatáu unrhyw gwestiynau brys, sydd heb rybudd ac o bwys cyhoeddus brys. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn gofynnwyd 9 cwestiwn brys.
Gellir cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ar unrhyw adeg, a chael ateb yn ysgrifenedig. Bydd unrhyw gwestiwn llafar nad yw’n cael ei ofyn o fewn yr amser penodedig hefyd yn cael ateb ysgrifenedig, sy’n ymddangos yn y Cofnod. Yn ystod y cyfnod hwn cyflwynwyd 1,541 o gwestiynau ysgrifenedig.
Deddfwriaeth y Cynulliad
Mae’r Swyddfa Ddeddfwriaeth yn gyfrifol am gynorthwyo i basio deddfwriaeth drwy’r Cynulliad. Mae’r Cynulliad yn sefydlu pwyllgor ad hoc i ystyried pob darn o ddeddfwriaeth ac y mae’r staff yn darparu gwasanaethau clercio ar gyfer pwyllgorau sy’n craffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a Mesurau Cynulliad arfaethedig, yn ogystal â chynorthwyo’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth. Maent hefyd yn darparu cymorth ar gyfer camau Cyfarfod Llawn dilynol y Mesurau Cynulliad arfaethedig, datblygu cynigion deddfwriaethol gan Aelodau, ac ar gyfer y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a gynhaliodd 19 o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn ac a fu’n ystyried 128 o offerynnau statudol.
Mae ein pwerau deddfu newydd yn caniatáu i ni basio deddfwriaeth yn y meysydd lle y mae gennym gymhwysedd deddfwriaethol. Gweler isod eglurhad byr o bwerau deddfu’r Cynulliad:
Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dau Dy’r Senedd yn San Steffan gymeradwyo Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol drafft (offerynnau statudol sy’n trosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol penodol o fewn meysydd datganoledig o Senedd y Deyrnas Unedig i’r Cynulliad) cyn iddynt gael eu hargymell i’w gwneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor. Unwaith y mae’r broses hon yn gyflawn, a bod gan y Cynulliad y cymhwysedd, gall wneud Mesurau Cynulliad.
Mesurau Cynulliad
O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae gan y Cynulliad bwer i wneud ei ddeddfwriaeth led-sylfaenol ei hun a elwir yn Fesurau Cynulliad, cyn belled â bod Senedd y Deyrnas Unedig wedi trosglwyddo cymhwysedd i’r Cynulliad i ganiatáu iddo wneud hynny mewn perthynas â’r mater perthnasol. Gellir trosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â materion penodol i’r Cynulliad drwy Ddeddfau Seneddol neu drwy Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor (a elwir yn Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol).
Gellir cael rhagor o fanylion am ein gweithdrefnau deddfwriaethol yma. Yn ystod y flwyddyn cyflwynwyd saith Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig (pump Gorchymyn Llywodraeth, dau Orchymyn Aelod) a dau Fesur Cynulliad arfaethedig (un Mesur Llywodraeth ac un Mesur Aelod). Cynhaliwyd 49 o gyfarfodydd gan bwyllgorau deddfwriaethol a sefydlwyd i ystyried pob Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol a Mesur Cynulliad arfaethedig, rhwng mis Mai 2007 a 31 Mawrth 2008, a chynhyrchwyd pum adroddiad.
Deddfwriaeth a gyflwynwyd rhwng mis Mai 2007 a 31 Mawrth 2008
Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol
Anghenion Dysgu Ychwanegol Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg a Hyfforddiant) 2008
Dyddiad y cyflwynwyd- 11 Mehefin 2007
Y sefyllfa bresennol - Derbyniodd gymeradwyaeth frenhinol ar 9 Ebrill 2008
Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 2) 2007
Dyddiad y cyflwynwyd- 19 Mehefin 2007
Y sefyllfa bresennol - Adroddodd pwyllgor y Cynulliad ar 29 Tachwedd 2007. Ni osodwyd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig gerbron Senedd San Steffan eto i graffu arno.
Plant sy’n Agored i NiwedGorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol a Meysydd Eraill) 2008
Dyddiad y cyflwynwyd - 4 Gorffennaf 2007
Y sefyllfa bresennol - Adroddodd pwyllgor y Cynulliad ar 25 Ionawr 2008. Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig ar hyn o bryd yn ystyried Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig diwygiedig.
Gofal Cartref Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 4) 2008
Dyddiad y cyflwynwyd -26 Tachwedd 2007
Y sefyllfa bresennol - Adroddodd pwyllgor y Cynulliad ar 14 Mawrth 2008. Adroddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ar 5 Mawrth 2008. Aros am gyflwyniad y Gorchymyn drafft.
Tai Fforddiadwy Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008
Dyddiad y cyflwynwyd-3 Rhagfyr 2007
Y sefyllfa bresennol - Adroddodd pwyllgor y Cynulliad ar 18 Ebrill 2008. Ni osodwyd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig gerbron Senedd San Steffan eto i graffu arno.
* Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008
Dyddiad y cyflwynwyd - 18 Chwefror 2008
Y sefyllfa bresennol - Mae pwyllgor y Cynulliad yn ystyried y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig. Ni osodwyd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig gerbron Senedd San Steffan eto i graffu arno.
* Diogelwch Tân Domestig Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 7) 2008
Dyddiad y cyflwynwyd - 26 Chwefror 2008
Y sefyllfa bresennol - Mae pwyllgor y Cynulliad yn ystyried y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig. Ni osodwyd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig gerbron Senedd San Steffan eto i graffu arno.
Mesurau Cynulliad arfaethedig
Y Mesur ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008
Dyddiad y cyflwynwyd - 2 Gorffennaf 2007
Y sefyllfa bresennol - Pasiwyd y Mesur gan y Cynulliad ar 6 Mai – aros am gymeradwyaeth frenhinol.
* Y Mesur Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion (Cymru) 2008
Dyddiad y cyflwynwyd -14 Mawrth 2008
Y sefyllfa bresennol - Aros i bwyllgor y Cynulliad graffu arno.
* Golyga hyn ddeddfwriaeth arfaethedig Aelodau. Deddfwriaeth arfaethedig y Llywodraeth yw’r lleill i gyd.
Pleidleisiau ar gyfer deddfwriaeth arfaethedig Aelodau
O bryd i’w gilydd bydd y Llywydd yn cynnal pleidleisiau i ddewis enw Aelod Cynulliad a all gyflwyno cynigion am ddeddfwriaeth, naill ai drwy Orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol neu Fesur Cynulliad.
Ers mis Mai 2007 mae’r Llywydd wedi cynnal wyth pleidlais: pedair ar gyfer cynigion am Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a phedair ar gyfer cynigion am Fesurau Cynulliad. Rhoddodd y Cynulliad ganiatâd i saith o’r wyth Aelod gyflwyno deddfwriaeth i roi effaith i’w cynigion pleidleisio ac y mae dau o’r rheiny’n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan bwyllgorau’r Cynulliad.
Cynigion pleidlais am Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol
Diogelwch tân domestig - Ann Jones AC
Y sefyllfa bresennol - Rhoddwyd caniatâd i Aelod gyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ar 10 Hydref 2007. Cyflwynwyd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ar 26 Chwefror 2008 ac y mae ar hyn o bryd yn destun gwaith craffu gan bwyllgor y Cynulliad.
Darparu gwasanaethau iechyd meddwl - Jonathan Morgan AC
Y sefyllfa bresennol - Rhoddwyd caniatâd i Aelod gyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ar 17 Hydref 2007. Cyflwynwyd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ar 18 Chwefror 2008 ac y mae ar hyn o bryd yn destun gwaith craffu gan bwyllgor y Cynulliad.
Darparu ar gyfer gofalwyr - Helen Mary Jones AC
Y sefyllfa bresennol - Rhoddwyd caniatâd i Aelod gyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ar 20 Chwefror 2008.
Darparu gwasanaethau bws a choets - Huw Lewis AC
Y sefyllfa bresennol - Dewiswyd mewn pleidlais ar 20 Chwefror 2008.
Cynigion pleidlais am Fesurau Cynulliad
Bwyta’n iach mewn ysgolion - Jenny Randerson AC
Y sefyllfa bresennol - Rhoddwyd caniatâd i Aelod gyflwyno Mesur Cynulliad arfaethedig ar 19 Medi 2007. Cyflwynwyd y Mesur arfaethedig ar 14 Mawrth 2008.
Cau ysgolion (ymgynghori a chategorïau) - Mike German AC
Y sefyllfa bresennol - Gwrthododd y Cynulliad ganiatâd i gyflwyno Mesur Cynulliad arfaethedig ar 7 Tachwedd 2007.
Mesur arfaethedig asesu effaith gwerthu caeau chwarae - Dai Lloyd AC
Y sefyllfa bresennol - Rhoddwyd caniatâd i Aelod gyflwyno Mesur Cynulliad arfaethedig ar 6 Chwefror 2008.
Ailgylchu - Nerys Evans AC
Y sefyllfa bresennol - Dewiswyd mewn pleidlais ar 20 Chwefror 2008.
Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
Bu i Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau sefydlu llawer o wasanaethau gwybodaeth, ymchwil ac ymwybyddiaeth gyfredol newydd, sydd ar gael i’r cyhoedd. Yr oedd y rhain yn cynnwys gwasanaeth tracio datblygiad Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a Mesurau, a hefyd datblygiad ymchwiliadau pwyllgorau craffu. Yr ydym wedi datblygu a bellach yn cyhoeddi nodiadau tracio pwerau’r Cynulliad, sy’n darparu cofnod o welliannau diweddar, sydd wedi’u cynnig a’u pasio, i bob un o’r 20 Maes sydd wedi’u cynnwys o fewn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar y cyd â’r nodiadau tracio hyn yr ydym wedi cynhyrchu fersiwn ddiwygiedig o Atodlen 5, sy’n adlewyrchu cymhwysedd deddfwriaethol cynyddol y Cynulliad.
Yn ystod 2007-08, ymatebodd y gwasanaeth ymchwil i swyddogaethau deddfwriaethol a chraffu ehangach y trydydd Cynulliad a chynhyrchwyd 3,500 o ddarnau o waith ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad, yn cynnwys bron i 3,000 o atebion i ymholiadau unigol (400 yn fwy na’r llynedd); llawer o wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd, yn cynnwys 120 o bapurau ymchwil, hysbysiadau hwylus a phapurau byr ar faterion sydd o ddiddordeb pynciol i Aelodau, ac oddeutu 300 o ddogfennau gwybodaeth ar gyfer pwyllgorau craffu a phwyllgorau deddfwriaeth y Cynulliad, yn ogystal â darparu cefnogaeth eang i gynigion deddfwriaethol Aelodau Preifat.
Mae’r gwasanaeth ymchwil hefyd yn darparu cymorth a chyngor ymchwil cyfrinachol a diduedd i bwyllgorau craffu a phwyllgorau deddfwriaeth y Cynulliad ac i’r 60 Aelod Cynulliad unigol a’u staff. Mae hyn yn cynnwys:
·tri thîm ymchwil sy’n darparu cyngor arbenigol ar feysydd polisi penodol;
·tîm ymchwil pwrpasol sy’n darparu gwybodaeth cyllid ac ystadegau arbenigol;
·llyfrgell yr Aelodau, sy’n rhoi gwasanaeth cyfeirio a gwybodaeth i Aelodau a’u staff;
·swyddfa Brwsel sy’n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth ar faterion yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r gwasanaeth wedi parhau i ddarparu gwybodaeth a chymorth i Aelodau’r Cynulliad ar amryw o faterion yn ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd, dan arweiniad dadansoddwr polisi’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi’i leoli ym Mrwsel, ac yn gweithio’n agos â Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau a chlercod sy’n cydweithio ag ef o Gaerdydd. Yn benodol, cynorthwywyd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol gyda’i ymchwiliad cyntaf yn y trydydd Cynulliad ar Fanc Buddsoddi Ewrop. Cynhyrchwyd rhifynnau misol o’r newyddlen electronig ‘Materion Ewropeaidd’, yn ogystal â phapur ymchwil ar raglen waith flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2008 gyda ffocws ar faterion sy’n arbennig o berthnasol i Gymru. Bu inni drefnu a chydgysylltu ynglyn â chyfarfodydd ag uwch-swyddogion o’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cynrychiolaeth o Aelodau’r Cynulliad a staff sy’n ymweld â Brwsel yn ogystal â pharatoi deunydd gwybodaeth cyn ymweliadau â’r Cynulliad gan uwch-swyddogion o Ewrop, yn cynnwys Is-lywydd y Comisiwn, Margot Wallström a Llysgennad Slofenia i’r Deyrnas Unedig, Ei Ardderchowgrwydd Iztok Mirošiè.
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Gwasanaeth y Pwyllgorau yw’r ysgrifenyddiaeth sy’n gwasanaethu pwyllgorau craffu’r Cynulliad Cenedlaethol. Ceir naw o’r prif bwyllgorau craffu yn ogystal ag un is-bwyllgor. Mae patrwm aelodaeth y pwyllgorau’n adlewyrchu cyfran y gynrychiolaeth wleidyddol sydd gan y prif bleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r pwyllgorau’n bodoli er mwyn edrych ar y materion perthnasol a’r materion diweddaraf sy’n gysylltiedig â’u cylch gorchwyl, ac os yw hynny’n briodol, i graffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad.
Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Mick Bates AC (Cadeirydd), Lorraine Barrett AC, Alun Davies AC, Lesley Griffiths AC, Alun Ffred Jones AC, Elin Jones AC – tan 20 Medi 2007,
Darren Millar AC, Karen Sinclair AC, Brynle Williams AC, Leanne Wood AC – ers 20 Medi
2007
Y tîm clercio: Clerc – Virginia Hawkins, Dirprwy Glerc – Joanne Clinton , Cymorth Tîm – Annette Stafford
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, ynni, materion gwledig, amaethyddiaeth, yr amgylchedd a chynllunio. Yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor, sefydlwyd is-bwyllgor ar wahân i ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu gwledig. Mae manylion gwaith yr is-bwyllgor i’w gweld ar wahân yn yr adroddiad hwn.
Blaenoriaeth gyntaf y Pwyllgor Cynaliadwyedd yw edrych ar sut y mae Cymru’n perfformio wrth leihau ei hallyriadau carbon yng nghyd-destun targedau cenedlaethol a rhyngwladol. I sicrhau bod modd craffu’n fanwl ac yn eglur ar bwnc mor eang, cafodd yr ymchwiliad ei rannu’n chwe rhan gwahanol: lleoliadau preswyl; trafnidiaeth; diwydiant a chyrff cyhoeddus; cynhyrchu ynni; rheoli’r defnydd o dir; a chynllunio.
Hyd yma, mae’r pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiadau ar leihau allyriadau carbon preswyl ac allyriadau carbon trafnidiaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth ar lafar a gyflwynwyd gan amrywiaeth eang o sefydliadau.
Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, bu’r pwyllgor ar ymweliad â ‘dinas solar’ Freiburg yn yr Almaen a Linz yn Awstria, er mwyn gweld arferion da mewn dinasoedd a rhanbarthau sydd ag allyriadau carbon isel iawn.
Cynhaliodd y pwyllgor hefyd sesiynau tystiolaeth ar ddeisebau, deddfwriaeth a’r materion perthnasol diweddaraf, a chraffwyd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad. Trafodwyd deiseb yn galw am barthau clustogi mwy rhwng pyllau glo brig a chartrefi, a deiseb yn galw am waharddiad ar fagiau plastig.
Edrychodd y pwyllgor ar effaith Mesurau’r Deyrnas Unedig ar Gymru yng nghyd-destun ei gylch gorchwyl, er enghraifft y Mesur Newid yn yr Hinsawdd a Mesur Cynllunio’r Deyrnas Unedig.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 18 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig
Aelodau’r pwyllgor: Alun Davies AC (Cadeirydd), Mick Bates AC, Alun Ffred Jones AC, , Brynle Williams AC
Y tîm clercio: Clerc – Claire Morris, Dirprwy Glerc – Joanne Clinton, Cymorth Tîm – Annette Stafford
Sefydlwyd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig fel is-bwyllgor i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd ar 5 Gorffennaf 2007. Mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyd-destun meysydd cyfrifoldeb y Llywodraeth sy’n cael effaith ar ddatblygu gwledig.
Blaenoriaeth gyntaf y pwyllgor oedd cynnal ymchwiliad i TB mewn gwartheg yng Nghymru, yn sgil cyhoeddi adroddiad terfynol y Grwp Gwyddonol Annibynnol ar TB mewn Gwartheg. Dechreuodd y pwyllgor ar ei waith drwy glywed tystiolaeth yn Sioe Frenhinol Cymru – y tro cyntaf i un o bwyllgorau’r Cynulliad wneud hynny. Bu Aelodau’r pwyllgor hefyd ar ymweliad â Belffast i gyfarfod ag aelodau Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Cynulliad Gogledd Iwerddon a swyddogion yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y pwyllgor ym mis Ionawr a chafwyd dadl arno yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Chwefror 2008.
Ym mis Tachwedd, bu’r pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog dros Faterion Gwledig yng nghyd-destun yr elfennau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru a oedd yn ymwneud â datblygu gwledig.
Bu’r pwyllgor hefyd yn craffu ar waith y Gweinidog dros Faterion Gwledig yng nghyd-destun y modd yr ymatebodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i glwy’r traed a’r genau. Cyhoeddwyd casgliadau’r pwyllgor mewn adroddiad ym mis Ionawr a chafwyd dadl ar hyn ar y cyd â’r Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Chwefror 2008. Yr oedd y Pwyllgor Cyllid wedi cynnal ymchwiliad ar yr un pryd i effaith ariannol y clwy ar Gymru.
Ym mis Ionawr, dechreuodd y pwyllgor gasglu tystiolaeth ar gyfer ei drydydd ymchwiliad i dlodi ac amddifadedd yn y Gymru wledig.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 11 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Y Pwyllgor Menter a Dysgu
Aelodau’r pwyllgor: Gareth Jones AC (Cadeirydd), Janet Ryder AC, Jeff Cuthbert AC, Huw Lewis AC, Sandy Mewies AC, Christine Chapman AC, David Melding AC, Alun Cairns AC, Kirsty Williams AC
Y tîm clercio: Clerc – Kathryn Jenkins, Dirprwy Glerc – Dan Collier, Cymorth Tîm – Mike Lewis
Mae cylch gwaith y Pwyllgor yn cynnwys datblygu economaidd ac adfywio, menter gymdeithasol, trafnidiaeth a dysgu gydol oes.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 22 achlysur rhwng mis Gorffennaf 2007 a mis Mawrth 2008, gan gynnwys cyfarfod ar 4 Medi 2007 yn ystod toriad yr haf yng Nghanolfan Gymunedol Carno, er mwyn clywed tystiolaeth ynghylch deiseb i ailagor yr orsaf reilffordd leol. Cyflwynodd y gymuned leol y ddeiseb a bu’r pwyllgor hefyd yn craffu ar waith rhanddeiliaid allweddol. Gosododd y pwyllgor ei adroddiad ar 27 Medi 2007. Yn ystod tymor yr hydref, bu’r pwyllgor yn craffu cyn deddfu ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru), a chyhoeddwyd adroddiad ar gynllunio rheilffyrdd y dyfodol. Gosodwyd y ddau adroddiad ar 27 Tachwedd 2007, a chynhaliwyd dadl ar yr adroddiad ar y rheilffyrdd yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Ionawr 2008. Er mwyn rhoi sylw i bryderon ynghylch gweithredu argymhellion y pwyllgor blaenorol ar ariannu ysgolion, cynhaliwyd ymchwiliad dilynol gan y pwyllgor, ac y mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Mai. Ers mis Tachwedd 2007, bu’r pwyllgor yn casglu tystiolaeth ac yn pennu cwmpas ymchwiliad pwysig i effaith economaidd addysg uwch. Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn haf 2008.
Fel rhan o ymrwymiad y pwyllgor i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, etholwyd grwp ‘rapporteur’ i drafod y driniaeth a’r cymorth sydd ar gael i bobl â dyslecsia. Dechreuodd y grwp weithio yn ystod toriad yr haf a bu ar sawl ymweliad yn y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America. At hynny, rhoddwyd cyfres o gyflwyniadau i’r grwp gan sefydliadau dyslecsia; cynhaliwyd cynhadledd fideo gyda rhieni a phlant yng ngogledd Cymru; a chynhaliwyd bore coffi gyda theuluoedd sy’n byw yn ne Cymru. Gosododd y grwp ei adroddiad dros dro ar 12 Rhagfyr 2007. Disgwylir ei adroddiad terfynol erbyn diwedd y gwanwyn.
Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Aelodau’r pwyllgor: Janice Gregory AC(Cadeirydd), Peter Black AC, Paul Davies AC, Nerys Evans AC, Lesley Griffiths AC, Mark Isherwood AC, Dai Lloyd AC, Lynne Neagle AC, Joyce Watson AC
Y tîm clercio: Clerc – Chris Reading, Dirprwy Glerc – Sarah Bartlett, Cymorth Tîm – Annette Millett
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor yn cynnwys:
Tai
Diogelwch cymunedol
Cynhwysiant cymdeithasol gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf a’r cynllun gofodol
Yr iaith Gymraeg, chwaraeon a diwylliant
Cyn toriad yr haf yn 2007, bu’r pwyllgor yn trafod gwahanol ddewisiadau ar gyfer ymchwiliad craffu, a dewisodd edrych ar ariannu sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru. Dechreuodd y pwyllgor gasglu tystiolaeth ym mis Hydref 2007 gan amryw o sefydliadau gan gynnwys Gweinidogion Cymru, cyrff ac asiantaethau mantell, llywodraeth leol, a sefydliadau’n cynrychioli menywod, plant a phobl ifanc, pobl hyn, grwpiau ethnig, grwpiau crefyddol amrywiol, a phobl hoyw, lesbaidd a deurywiol. Daeth dros 50 o gyflwyniadau ysgrifenedig i law, a daeth yr ymchwiliad i ben ym mis Ebrill 2008.
Bu’r pwyllgor hefyd yn craffu ar waith portffolio’r Gweinidogion a’r Dirprwy Weinidogion perthnasol, ac yn benodol ar eu cynlluniau gwariant yng nghyllideb ddrafft y Cynulliad. Hefyd, bu rhai Aelodau ar ymweliad â Thy Brynawel, sef canolfan adsefydlu ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol, yn Llanharan ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 13 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Y Pwyllgor Cyllid
Aelodau’r pwyllgor: Alun Cairns AC (Cadeirydd), Mohammad Asghar AC, Angela Burns AC, Alun Davies AC, Alun Ffred Jones AC, Ann Jones AC, Lynne Neagle AC, Jenny Randerson AC, Joyce Watson AC
Y tîm clercio: Clerc – John Grimes, Dirprwy Glerc – Abigail Phillips, Cymorth Tîm – Karl Gomila
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor yn ei alluogi i graffu ar wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus o Gronfa Gyfunol Cymru. Mae’r pwyllgor hefyd yn craffu ar benderfyniadau ariannol ar gyfer Mesurau Cynulliad arfaethedig, sef gwaith a wnaed gan y pwyllgor am y tro cyntaf yn 2008 wrth ystyried goblygiadau ariannol y Mesur ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007.
Ym mis Tachwedd 2007, bu’r pwyllgor yn craffu ar gynigion Cynulliad Cymru ar gyfer y gyllideb ddrafft am y tro cyntaf. Cynhaliwyd dau gyfarfod wedi’u trefnu ynghyd â thri chyfarfod arall yn ystod y cyfnod craffu o bedair wythnos er mwyn trafod y cynigion ar gyfer y gyllideb yn llawn ac yn agored. Derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru nifer o argymhellion y pwyllgor.
Ym mis Hydref 2007, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid alwad am dystiolaeth fel sail i’w ymchwiliad i bartneriaethau cyhoeddus-preifat. Mae’r amrywiaeth eang o ymatebion ysgrifenedig a gafwyd, ynghyd â thystiolaeth gan dystion i’r pwyllgor, wedi cyfrannu at y drafodaeth fywiog sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn dod â’r ymchwiliad i ben drwy gyhoeddi ei adroddiad yn haf 2008.
Mae’r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi trafod ac wedi cyhoeddi adroddiadau ar ddwy gyllideb atodol, gan nodi asedau ariannol a oedd heb eu datgan ac ar gael i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 14 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Y Pwyllgor Archwilio
Aelodau’r pwyllgor: David Melding AC (Cadeirydd), Lorraine Barrett AC, Eleanor Burnham AC, Chris Franks AC, Janice Gregory AC, Lesley Griffiths AC, Irene James AC, Bethan Jenkins AC (ers mis Mawrth 2008
), Helen Mary Jones AC(tan fis Mawrth 2008
), Huw Lewis AC,, Darren Millar AC
Y tîm clercio: Clerc – John Grimes, Dirprwy Glerc – Abigail Phillips, Cymorth Tîm – Karl Gomila
Sefydlwyd y Pwyllgor Archwilio er mwyn gweithio’n agos gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd economaidd, effeithlon ac effeithiol. Mae’r Rheolau Sefydlog yn nodi bod yn rhaid cael 10 Aelod ar y Pwyllgor Archwilio, sy’n golygu mai hwn yw un o bwyllgorau mwyaf y trydydd Cynulliad.
Ym mis Tachwedd 2007, cyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad, ‘Diogelu Arian Cyhoeddus ym Mhrosiectau LG, Casnewydd’. Cyflwynodd yr adroddiad bump o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a derbyniwyd pob un ohonynt yn llawn.
Ym mis Ionawr 2008, cyhoeddodd y Pwyllgor Archwilio ei adroddiad, ‘Adolygiad o’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Newydd yng Nghymru’. Cyflwynodd y pwyllgor wyth o argymhellion. Derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru chwech ohonynt yn llawn, a dau ohonynt yn rhannol. Croesawodd y pwyllgor ymrwymiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i barhau i fonitro’r cynnydd a wnaed gan y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru wrth reoli’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol newydd ac wrth roi’r argymhellion ar waith.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi casglu tystiolaeth ac wedi cyhoeddi adroddiadau fel a ganlyn: ‘Mynd i’r afael ag achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y system gyfan’; ‘Adroddiad ar Gyfrifon Adnoddau Cyfunol 2006-07 Cynulliad Cenedlaethol Cymru’; ‘Lleihau Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd mewn Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru’, a ‘Cyngor Celfyddydau Cymru – Cefnogi Prosiectau Cyfalaf Mawr’.
Cyfarfu’r pwyllgor ar chwe achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Aelodau’r pwyllgor: Jonathan Morgan AC (Cadeirydd), Jenny Randerson AC, Nick Ramsay AC, Val Lloyd AC, Lorraine Barrett AC, Ann Jones AC, Irene James AC, Helen Mary Jones AC, Dai Lloyd AC
Y tîm clercio: Clerc – Steve George, Dirprwy Glerc – Catherine Lewis, Cymorth Tîm – Joel Steed (tan fis Ionawr 2008
), Carla Brookes (ers mis Ionawr 2008
)
Gwaith y Pwyllgor yw edrych ar wariant, gweinyddiaeth a pholisïau Llywodraeth y Cynulliad a chyrff cyhoeddus cysylltiedig ym meysydd iechyd, llywodraeth leol a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.
Yr oedd ymchwiliad cyntaf y pwyllgor yn ymwneud â chynllunio gweithlu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Cynhaliwyd deg sesiwn rhwng mis Medi 2007 a mis Ionawr 2008 i glywed tystiolaeth ar lafar gan 48 o unigolion a oedd yn cynrychioli 19 o sefydliadau. Daeth 17 o gyflwyniadau ysgrifenedig i law’r pwyllgor hefyd. Cyflwynodd y pwyllgor adroddiad eang i’r Cynulliad ar 13 Mawrth 2008, ac ynddo 28 o argymhellion.
Dechreuodd ail ymchwiliad y pwyllgor, sef ymchwiliad i ganiatâd tybiedig i roi organau, ym mis Ionawr 2008. Fel rhan o’r broses o gasglu tystiolaeth, mae’r pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad yn y Senedd, lle mae cyfle i ymwelwyr gael gwybodaeth gefndir a llenwi holiadur byr i roi barn ar y pwnc. Bu’r gwasanaeth gwybodaeth i’r cyhoedd yn y Cynulliad hefyd yn defnyddio ymchwiliad y pwyllgor wrth weithio gydag ysgolion. Yr oedd y gwaith hwn yn cynnwys trafodaethau gyda grwpiau ysgol a llenwi holiadur, a bydd y canlyniadau hyn hefyd yn rhan o dystiolaeth yr ymchwiliad. Mae’r pwyllgor wedi lansio arolwg a fforwm ar-lein ar y pwnc, a bydd yn cynnal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus.
Cyflwynwyd tystiolaeth ar lafar i’r pwyllgor gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Cyflwynwyd tystiolaeth ar lafar hefyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhan o’r ymchwiliad i gynllunio gweithlu.
Cynhaliodd y pwyllgor sesiynau craffu helaeth gyda’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyfarfu’r pwyllgor ar 17 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Aelodau’r pwyllgor: Helen Mary Jones AC (Cadeirydd), Christine Chapman AC, Lynne Neagle AC, Eleanor Burnham AC, Angela Burns AC
Y tîm clercio: Clerc – Tom Jackson, Dirprwy Glerc – Claire Griffiths, Cymorth Tîm – Linda Heard
Cylch gorchwyl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yw ystyried materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru a chyhoeddi adroddiad arnynt; archwilio gwariant, gwaith gweinyddol a pholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff cyhoeddus eraill sy’n gysylltiedig â’r maes; ac ystyried adroddiadau Comisiynydd Plant Cymru.
Sefydlwyd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar 16 Hydref 2007 a dechreuwyd yn syth ar y gwaith o ddatblygu cysylltiadau gyda swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, gan graffu ar adroddiad blynyddol y comisiynydd ym mis Chwefror 2008.
Ar 6 Mawrth 2008, cyflwynodd y pwyllgor ei adroddiad ar gomisiynu gwasanaethau eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc. Wrth gynnal yr ymchwiliad hwn, clywodd y pwyllgor dystiolaeth uniongyrchol gan bobl ifanc yn y cyfarfodydd, a thrwy ymweliadau ‘rapporteur’ gan yr Aelodau a fu’n cyfarfod grwpiau o bobl ifanc. Yr oedd nifer o’r bobl ifanc hyn yn bresennol wrth lansio’r adroddiad. Mae fersiwn hawdd i’w ddarllen o’r adroddiad wedi’i lunio ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cyfarfu’r pwyllgor ar saith achlysur yn y cyfnod dan sylw.
YPwyllgor Cyfle Cyfartal
Aelodau’r pwyllgor: Ann Jones AC (Cadeirydd), Bethan Jenkins AC, Helen Mary Jones AC (tan 13 Mawrth
), Chris Franks AC (ers 13 Mawrth
), Joyce Watson AC, Christine Chapman AC, Lynne Neagle AC (tan 13 Mawrth
), Huw Lewis AC, (ers 13 Mawrth
), Eleanor Burnham AC, Angela Burns AC, Mark Isherwood AC
Y tîm clercio: Clerc – Tom Jackson, Dirprwy Glerc – Claire Griffiths, Cymorth Tîm – Linda Heard
Cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yw ystyried cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, cyfle cyfartal i bawb, a chyfrifoldebau Comisiwn y Cynulliad yn y maes. Bydd hefyd yn cyflwyno adroddiadau ar hyn.
Ym mis Rhagfyr 2007, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ei adroddiad ar hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio, a derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y mwyafrif o’r argymhellion.
Ym mis Ionawr 2008, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan grwp o bobl ifanc anabl, a oedd wedi cydweithio â’r pwyllgor yn y gorffennol ar ymchwiliad i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl. Clywodd y pwyllgor gan y bobl ifanc am yr hyn a oedd wedi newid a heb newid ers cyhoeddi’r adroddiad. Cyflwynwyd sylwadau’r bobl ifanc i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Wrth gynnal ei ymchwiliad i faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol, bu’r pwyllgor ar ymweliad â chanolfan eiriolaeth a gwybodaeth yn Wrecsam. Mae’r pwyllgor hefyd wedi casglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o dystion, gan gynnwys y Gweinidog-Gwnsler Mr Krzysztof Trepczynski o Adran Economeg Llysgenhadaeth Gwlad Pwyl yn Llundain.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 11 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
Aelodau’r pwyllgor: Sandy Mewies AC (Cadeirydd), Nicholas Bourne AC, Christine Chapman AC, Jeff Cuthbert AC, Nerys Evans AC, Mike German AC, William Graham AC, Gareth Jones AC, Val Lloyd AC
Y tîm clercio: Clerc – Chris Reading, Dirprwy Glerc – Sarah Bartlett, Cymorth Tîm – Annette Millett
Gall y pwyllgor ystyried unrhyw faterion sy’n berthnasol i swyddogaethau Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol neu’r Cynulliad mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd neu faterion allanol, a chyflwyno adroddiadau ar hynny.
Cyn toriad yr haf yn 2007, bu’r pwyllgor yn trafod nifer o bosibiliadau ar gyfer ymchwiliad craffu, gan ddewis edrych ar y berthynas rhwng Banc Buddsoddi Ewrop a Chymru. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Fanc Buddsoddi Ewrop, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, cymdeithas tai preifat a gafodd gyllid gan Fanc Buddsoddi Ewrop, a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog dros Gyllid a Datblygu Economaidd.
Yn ogystal â chynnal yr ymchwiliad, cynhaliodd y pwyllgor sesiynau briffio rheolaidd gyda Phrif Weinidog Cymru, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog dros Faterion Ewropeaidd ac Allanol.
Bu’r pwyllgor yn trafod blaenoriaethau Slofenia ar gyfer llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, a hynny gyda llysgennad Slofenia i’r Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd sesiynau briffio gyda phennaeth cynrychiolaeth y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru; trafodwyd raglen waith flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd; a chyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor gan gangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
Cyfarfu’r pwyllgor ar chwe achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Y Pwyllgor Deisebau
Aelodau’r pwyllgor: Val Lloyd AC(Cadeirydd), Bethan Jenkins AC, Mike German AC, Andrew R.T. Davies AC
Y tîm clercio: Clerc – Stefan Sanchez, Dirprwy Glerc – Alun Davidson, Cymorth Tîm – Tom Williams
Cylch gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried deisebau a gyflwynir gan y cyhoedd a chyrff cyhoeddus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys craffu ar bolisïau a gweinyddiaeth berthnasol Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad). Mae hwn yn bwyllgor newydd a gafodd ei sefydlu yn y trydydd Cynulliad.
Daw deisebau i law ar amrywiaeth eang o bynciau a hynny o bob cwr o Gymru, ac y mae’r broses yn galluogi’r cyhoedd i fod yn rhan o’r broses wleidyddol a deddfwriaethol. Bu nifer o ddeisebwyr yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ar ôl cyflwyno’u deisebau, ac y mae hyn yn hwb i nod Comisiwn y Cynulliad o hyrwyddo datganoli a chynyddu’r nifer o bobl sy’n cyfrannu at y broses.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:
Y ddeiseb i ailagor gorsaf reilffordd Carno – cyfeiriwyd hyn at y Pwyllgor Menter a Dysgu a fu ar ymweliad â’r safle. Clywodd y pwyllgor hwnnw dystiolaeth gan randdeiliaid allweddol a gosodwyd adroddiad gerbron y Cynulliad, a oedd yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ymatebodd y Llywodraeth yn gadarnhaol gan awgrymu sut y gallai’r orsaf fodloni’r meini prawf technegol er mwyn bod yn rhan o’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a oedd ar y gweill.
Bu’r pwyllgor yn trafod deiseb yn erbyn gollwng carthion i afon Nant Cylla a chlywyd tystiolaeth gan y deisebwyr a chan Asiantaeth yr Amgylchedd, a oedd yn gyfrifol am roi’r drwydded. Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer gollwng carthion yn annigonol a chyflwynwyd argymhelliad i’r Gweinidog, a ymatebodd yn bositif drwy gadarnhau y byddai’r canllawiau’n cael eu diweddaru. Tynnwyd y cais i ollwng carthion yn ôl.
Ar 30 Mawrth 2008, yr oedd 61 o ddeisebau wedi dod i law’r pwyllgor yn y trydydd Cynulliad.
Cyfarfu’r pwyllgor ar 11 achlysur yn y cyfnod dan sylw.
Adran 3: Meithrin Cysylltiadau ag Eraill
Agor y trydydd Cynulliad
Cafwyd cyfres o ddigwyddiadau i nodi agor y trydydd Cynulliad ddydd Llun a dydd Mawrth, 4 a 5 Mehefin 2007, yn cychwyn gyda gwasanaeth dathlu yng Nghadeirlan Fetropolitan Dewi Sant yng nghanol dinas Caerdydd.
Dathlwyd agor y trydydd Cynulliad yn ffurfiol ddydd Mawrth, 5 Mehefin 2007 yn y Senedd ym mhresenoldeb Ei Mawrhydi Y Frenhines, Eu Huchelderau Brenhinol Dug Caeredin, Tywysog Cymru a Duges Cernyw. Cyn dyfodiad y teulu brenhinol cafwyd gorymdaith o Aelodau’r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru a’i Gabinet a chynrychiolwyr o’r farnwriaeth yn y Senedd.
Ymhlith y gwahoddedigion yr oedd cynrychiolwyr o lywodraeth leol yng Nghymru; siaradwyr o seneddau cysylltiedig yn y Deyrnas Unedig, y Gymanwlad a seneddau rhanbarthol Ewropeaidd; diplomyddion; a chynrychiolwyr o blith pobl hyn ac ieuenctid o bob awdurdod unedol yng Nghymru. Cafwyd cefnogaeth filwrol yn y seremoni i nodi dyfodiad y teulu brenhinol y tu allan i’r Senedd gan Seindorf y Llynges Brenhinol a HMS Exeter, yna cafwyd seremoni fer yn y Siambr, pan fu Ei Mawrhydi Y Frenhines yn annerch y gynulleidfa ac yn llofnodi memrwn coffa i nodi ei hymweliad. Cyflwynodd Seindorf Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Ysgolion Caerdydd a Bro Morgannwg yr anthem genedlaethol ‘Mae Hen Wlad fy Nhadau’ wrth i’r teulu brenhinol ymadael. Yn dilyn hynny, ymunodd Aelodau’r Cynulliad a gwahoddedigion â’r teulu brenhinol am ginio ym mhrif neuadd yr Amgueddfa Genedlaethol.
Ewropeaidd a rhyngwladol
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi parhau â’i raglen weithredol o gysylltiadau allanol i sicrhau ein bod yn dysgu oddi wrth neu’n dylanwadu ar sefydliadau neu ddeddfwrfeydd eraill, yn datblygu cysylltiadau ac yn gwella safle Cymru ar lwyfan y byd. Wrth i’n cyfansoddiad ddatblygu, yr ydym yn sylweddoli pwysigrwydd y cysylltiadau hyn ac yr ydym wedi parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngseneddol yn Ewrop a’r Gymanwlad.
Yn ystod y flwyddyn, bu’n bleser cael croesawu a darparu rhaglenni yn y Cynulliad ar gyfer dirprwyaethau seneddol o Brif Senedd Ranbarthol Brwsel, Cynulliad Taleithiol Kwa Zulu, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Cyngor Deddfwriaethol Saint Helena, Senedd De’r Affrig, Senedd Sri Lanka a Senedd Gorllewin Awstralia. Hefyd, croesawyd cynrychiolwyr o ddirprwyaethau’r Undeb Rhyngseneddol o seneddau brenhinol Algeria, Brasil a Chiwba.
Fel rhan o’i hymweliad tri diwrnod â Chymru ar ddiwedd Ionawr, rhoddodd Margot Wallström, y Comisiynydd Ewropeaidd dros Gyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngsefydliadol anerchiad i bwyllgor arbennig o’r Cynulliad cyfan yn Siambr y Senedd cyn cymryd rhan mewn trafodaeth ag Aelodau’r Cynulliad. Dyma’r tro cyntaf i bwyllgor o’r Cynulliad cyfan gael ei gynnull.
Yn Hydref 2007 bu’r Dirprwy Lywydd, Rosemary Butler AC, yn cynrychioli’r Cynulliad Cenedlaethol yn negfed Cynhadledd Llywyddion Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop (CALRE) yn ninas Berlin.
Yr ydym yn parhau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd y Corff Rhyngseneddol Prydeinig-Gwyddelig (BIIBP) sy’n dwyn ynghyd aelodau o seneddau ynysoedd Prydain gyfan i drafod a chyflwyno adroddiadau ar faterion sydd o ddiddordeb iddynt oll. Arweiniodd y Dirprwy Lywydd ddirprwyaethau a fynychodd 35ain cynhadledd lawn y corff yn Chipping Norton rhwng 25 a 27 Tachwedd.
Aelodau Llawn:
Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd
Alun Cairns AC
Michael German AC
Dai Lloyd AC
Joyce Watson AC
Aelodau Cyswllt:
Alun Davies AC
Bethan Jenkins AC
Darren Millar AC
Jenny Randerson AC
Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad
Mae Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) yn cysylltu’r Cynulliad Cenedlaethol mewn cymdeithas o ddeddfwrfeydd trwy’r Gymanwlad sydd wedi ymrwymo i hybu democratiaeth ar draws y byd. Mae holl Aelodau’r Cynulliad yn aelodau o gangen Cymru o’r gymdeithas ond yr oedd Pwyllgor Gweithredol y Gangen yn cynnwys:
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd – Llywydd
Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd – Is-lywydd
Alun Cairns AC – Cadeirydd y Gangen (tan 4 Rhagfyr 2007)
Janet Ryder AC (ers 24 Hydref 2007)
a Chadeirydd y Gangen (ers 4 Rhagfyr 2007)
John Griffiths AC (tan 24 Hydref 2007)
Jeff Cuthbert AC (ers 24 Hydref 2007)
Elin Jones AC (tan 24 Hydref 2007)
Michael German AC
Ysgrifennydd y Gangen: Claire Clancy
Ysgrifenyddiaeth y Gangen: Peter Kellam
Yn ystod y flwyddyn mynychodd dirprwyaethau o’r gangen 38ain cynhadledd Ynysoedd Prydain a Rhanbarth Môr y Canoldir yng Ngogledd Iwerddon a 53fed Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad yn New Delhi, India. Bu Aelodau unigol hefyd mewn seminarau Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ar weithdrefnau seneddol yng Nghaeredin ac ar newid yn yr hinsawdd yn San Steffan.
Parhaodd y gangen â’r rhaglen gynaliadwy o atgyfnerthu cefnogaeth seneddol i Senedd Teyrnas Lesotho. Ym mis Hydref 2007 ymwelodd cynrychiolwyr â Lesotho i gyflwyno rhaglen hyfforddi ddeuddydd ar gyfer cadeiryddion a chlercod pwyllgorau portffolio’r Cynulliad Cenedlaethol a ffurfiwyd yn ddiweddar. Ym mis Mawrth 2008 darparwyd cefnogaeth bellach i weithrediad pwyllgorau craffu seneddol yn Lesotho pan roddodd y gangen wythnos o raglen yng Nghymru i ddau aelod a chlerc Pwyllgor y Senedd ar HIV/AIDS.
Dathlwyd Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd ddydd Mawrth, 10 Mawrth gyda gweithgaredd ar gyfer ysgolion trwy Gymru ar thema ‘Yr Amgylchedd, Ein Dyfodol’. Yr oedd rhaglen y dydd yn cynnwys dadl Cyfarfod Llawn gan yr Aelodau ar gysylltiadau Cymru gyda’r Gymanwlad.
Ymgysylltu â chi
Darparodd y Gwasanaeth Addysg raglen o ymweliadau strwythuredig â’n lleoliadau a gwasanaeth allgymorth yn ystod y flwyddyn. Nod yr ymweliadau yw ehangu dealltwriaeth pobl ifanc am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a hybu ymgysylltiad a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd gan bobl ifanc o bob oedran. Darparodd ein tîm allgymorth gyflwyniadau a gweithgareddau mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru a bu ein tîm addysg a’n harbenigwyr technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn paratoi’r camau terfynol ac yn profi’r systemau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a’r system bleidleisio ar gyfer ein hystafelloedd addysg newydd cyffrous, Siambr Hywel, sef canolfan ddysgu rhyngweithiol fodern sy’n cynnwys siambr bwrpasol lle gellir cynnal trafodaeth ar gyfer ymwelwyr ifanc. Dyma’r cyntaf o’i math yn Ewrop, a lansiwyd ym mis Ebrill 2008. Wedi’i seilio ar y siambr ddadlau flaenorol, mae’n esiampl berffaith o sut y gall y Cynulliad ymgysylltu’n rhagweithiol gyda phobl ifanc gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.
Yn ystod y flwyddyn darparodd y gwasanaeth addysg gyflwyniadau a gweithdai i 597 o ysgolion a cholegau, tua traean o’r holl sefydliadau o’r fath yng Nghymru, gan gyrraedd cynulleidfa o 16,692 o ddisgyblion. Cawsom 350 o ymweliadau addysgol â’r Senedd a oedd wedi’u trefnu ymlaen llaw a chafodd 247 o ysgolion a cholegau o ranbarthau Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru nifer o gyflwyniadau drwy ein rhaglen allgymorth.
Canolbwyntiodd ein tîm Marchnata a Digwyddiadau ar gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y Cynulliad Cenedlaethol, ein pwerau newydd ac ar hyrwyddo cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Bu ein presenoldeb yn y digwyddiadau cenedlaethol canlynol yng Nghymru:
Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin;
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen;
Sioe Frenhinol Cymru; ac
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir y Fflint
yn fodd o ddenu llawer o ddiddordeb wrth i ni hyrwyddo’r newidiadau a gyflwynwyd yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau yn y digwyddiadau hynny i hybu’r thema a dealltwriaeth pobl ohoni a oedd yn cynnwys gweithdy cerddorol, gweithdy cyfieithu, mynediad i’n gwefan newydd, a ‘Hawl i Holi’ sef sesiwn banel a oedd yn annog ymwelwyr i holi Aelodau’r Cynulliad am faterion o bwys.
Mae’r Tîm Cyswllt ag Ymwelwyr yn chwarae rhan fawr o ran cyflawni nod y Cynulliad o hyrwyddo cyfranogiad mewn datganoli a’i ehangu, trwy gyfleu pwerau a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’n hymwelwyr. Rhoddwyd cymorth i Aelodau’r Cynulliad o ran darparu teithiau addysgiadol o amgylch y Cynulliad ar gyfer eu hetholwyr ac annog gwell dealltwriaeth a chyfranogiad yn nemocratiaeth Cymru a’i berthnasedd i’n dinasyddion.Yn ystod cyfnod yr adroddiad croesawyd cyfanswm o 183,003 o bobl i’r Senedd gennym. Roedd y cyfanswm hwn yn cynnwys 544 o grwpiau a oedd wedi trefnu taith grwp ymlaen llaw ac a oedd yn cynnwys 10,181 o bobl gydag 8,533 o ymwelwyr ychwanegol yn cael taith neu gyflwyniad ad hoc. Croesawyd 55,453 o ymwelwyr i adeilad y Pierhead a darparwyd pasys ymwelwyr ar gyfer 31,810 o bobl i Dy Hywel.
Darlledu a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu
Lansiwyd gwefan newydd sbon www.cynulliadcymru.org ym mis Mai 2007 i gydfynd â chychwyn y trydydd Cynulliad. Mae’r safle, a gynlluniwyd i annog cysylltiad rhwng pobl Cymru, rhanddeiliaid a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy hwyluso’r cyswllt a’r cyfathrebu democrataidd rhwng pleidleiswyr a’u cynrychiolwyr etholedig, hefyd yn cyflwyno gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y ffordd fwyaf hygyrch, amserol ac effeithlon. Ymysg rhai o’r nodweddion cwbl ddwyieithog y mae;
Nodwedd chwilio manwl am Aelod Cynulliad, gan gynnwys map rhyngweithiol, chwiliad cod post llawn a rhannol, ac opsiynau megis enw, rôl, etholaeth, rhanbarth a phlaid wleidyddol;
Calendr deinamig sy’n rhoi manylion am holl weithgareddau’r Cynulliad yn cynnwys Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor. Mae’r calendr yn creu rhestr o bapurau ar gyfer pob cyfarfod yn awtomatig fel y cânt eu cyhoeddi.
Cyfleuster tanysgrifio y gall defnyddwyr sydd wedi cofrestru ei ddefnyddio i danysgrifio i rai tudalennau o’r wefan sydd o ddiddordeb iddynt. Drwy ddewis eicon y cas ar waelod y tudalennau gwe, bydd tanysgrifwyr yn cael neges e-bost bob dydd yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw eitemau newydd a gyhoeddwyd;
Fforymau Trafod ar-lein sy’n caniatáu i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru roi sylwadau a mynegi eu barn ar destunau megis caniatâd tybiedig i roi organau;
Cyfleuster pleidleisio ar-lein sy’n caniatáu i ddefnyddwyr bleidleisio ar gwestiynau a datganiadau sy’n ymwneud â materion penodol, sydd yn ei dro, yn annog trafodaethau yn y fforymau;
Amrywiaeth o ffurflenni electronig, sy’n caniatáu i’r cyhoedd anfon e-bost at Aelod Cynulliad, gwneud cais i ymweld â’r Senedd i weld Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor, a chysylltu â’r Cynulliad gydag ymholiad cyffredinol;
Y gallu i roi cynnwys fideo ar y safle, gan gynnwys bywgraffiadau Aelodau’r Cynulliad.
Datblygwyd adran e-ddeisebau newydd hefyd yn ystod y flwyddyn, sy’n caniatáu i bobl gyflwyno deisebau ac arwyddo deisebau agored.
Yr oeddem wrth ein bodd pan enillodd ein gwefan fedal yng Ngwobrau Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) 2007.
Gweddarlledu
Cynlluniwyd a datblygwyd gwasanaeth gweddarlledu newydd, www.senedd.tv, yn ystod y flwyddyn a chafodd ei lansio fel safle prawf ar gyfer defnyddwyr mewnol ac allanol. Gan edrych ymlaen, bydd yn cynnig dewis o dair lefel ffrydio i ddefnyddwyr, yn dibynnu ar eu cysylltiad rhyngrwyd, ac am y tro cyntaf bydd trafodion sain-yn-unig ar gael ar gyfer pob cyfarfod byw a chyfarfod archif. Bydd gan gyfarfodydd archif ddolenni sy’n arwain gwylwyr yn uniongyrchol at gychwyn pob eitem agenda ym mhob cyfarfod, ac y mae bar llithro ac amserydd hefyd i arwain gwylwyr at union bwynt mewn cyfarfod. Gall defnyddwyr chwilio mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor trwy ddefnyddio allweddair, dyddiad y cyfarfod, Aelod Cynulliad a’r eitem a drafodwyd.
Adran 4: Ein Ystâd
Mae ein ystâd yn cynnwys y Senedd, Ty Hywel ac Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd a Swyddfa Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Ym Mae Caerdydd mae adeilad arwyddocaol y Senedd ar lan y dwr, ac y mae’n darparu cyfleusterau allweddol i gynnal busnes y Cynulliad yn y siambr drafod, yr ystafelloedd pwyllgora a’r orielau cyhoeddus. Cynlluniwyd y Senedd i adlewyrchu gwerthoedd craidd y Cynulliad sef gonestrwydd a thryloywder ac y mae ar agor i’r cyhoedd saith niwrnod yr wythnos. Mae rhagor o wybodaeth am y Senedd ar gael yma.
Mae’r Senedd hefyd yn cynnwys oriel ac ardal fawr ar gyfer derbyniadau cyhoeddus lle cynhaliwyd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd hefyd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r awyrgylch agored yn addas ar gyfer digwyddiadau o’r fath ac y mae’n galluogi’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid i gysylltu ag Aelodau’r Cynulliad. Ymysg rhai o’r cerrig milltir allweddol a oedd yn deilwng o ddathliad yr oedd croesawu ein 500,000 fed ymwelydd â’r Senedd a digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd ers refferendwm y datganoli a oedd yn gwahodd ymwelwyr i roi eu sylwadau ar gamera am y newidiadau yng Nghymru ers datganoli. Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd i ddod â gorymdaith Dydd Gwyl Dewi i’r Senedd ac i Fae Caerdydd am y tro cyntaf erioed gyda thros 3,000 o bobl yn cymryd rhan yn yr orymdaith. Ymwelodd bron i 2,000 o’r rhain â’r Senedd ac Adeilad y Pierhead a chymryd rhan yn ein dathliadau Dydd Gwyl Dewi ni ein hunain yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd yn cynnwys perfformiadau cerddorol a dawns yn ogystal â gweithgareddau ar gyfer plant a’u teuluoedd.
Ty Hywel yw pencadlys swyddfeydd y Cynulliad gerllaw’r Senedd. Yn yr adeilad hwn y mae swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad a’u staff a staff Comisiwn y Cynulliad. Mae mannau cyfarfod a chynadledda ychwanegol yn yr adeilad hefyd a ddefnyddir i gynnal busnes y Cynulliad. Yn ystod y flwyddyn, addaswyd y siambr drafod dros dro yn Nhy Hywel, a ddefnyddiwyd nes yr agorwyd y Senedd, i ddarparu siambr drafod ar gyfer ysgolion ac ieuenctid a chyfleuster ystafell ddosbarth a ddefnyddir gan y tîm addysg fel rhan o wasanaeth addysg y Cynulliad.
Adeilad o oes Fictoria, sydd wedi’i restru fel adeilad Gradd 1, yw Adeilad y Pierhead a saif mewn safle amlwg ar lan y dwr ym Mae Caerdydd. Defnyddiwyd Adeilad y Pierhead gan y Cynulliad fel ei ganolfan addysg ac arddangos. Adolygwyd y defnydd o’r adeilad yn ystod y flwyddyn yn dilyn adleoli’r cyfleuster addysg i Dy Hywel. Cyflwynwyd cynigion i Gomisiwn y Cynulliad i addasu Adeilad y Pierhead er mwyn cadw ei hygyrchedd i’r cyhoedd, ond ar yr un pryd yn dathlu ei statws treftadaeth gyda chynllun dehongli priodol, a darparu cyfleusterau mwy hyblyg ar gyfer arddangosfeydd, digwyddiadau a chynadleddau er mwyn ateb anghenion y Cynulliad. Derbyniwyd y cynigion hyn a chaiff y prosiect ei roi ar waith yn ystod 2008-09.
Mae Swyddfa Gogledd Cymru ym Mharc y Tywysog, Bae Colwyn yn darparu canolfan ymwelwyr, arddangosfa a siop, ystafell gynadledda a swyddfeydd ar gyfer staff Cysylltiadau Allanol sy’n gweithio o Ogledd Cymru. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn fan hyblyg a gafodd ei addasu’n flaenorol ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor a digwyddiadau addysgiadol. Staff sy’n gweithio yn swyddfa Gogledd Cymru sy’n gweithredu’r switsfwrdd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llinell wybodaeth ac archebu’r Cynulliad. Gwnaed cyfanswm o 37,738 o geisiadau am wybodaeth yn ystod y flwyddyn. Mae system o weithio wrth sawl gweithfan ar gyfer y tîm addysg ac allgymorth. Cytunwyd i adolygu ac ailgyflunio’r cyfleusterau sydd ar gael yn Swyddfa Gogledd Cymru a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ystod 2008-09.
Cynaliadwyedd ein hystad
Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i fewnosod cynaliadwyedd yn y ffordd yr ydym yn cynnal ein busnes. Mae’r Cynulliad yn ceisio bod yn batrwm o sefydliad yn nhermau cynaliadwyedd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae cael cefnogaeth ar y lefel uchaf yn allweddol i gyflawni’r amcan hwn ac mae datganiad amgylcheddol y Comisiwn yn dangos cymeradwyaeth bendant y Prif Weithredwr a’r comisiynydd sydd â chyfrifoldeb am gynaliadwyedd.
Mae’r datganiad amgylcheddol yn sefyll ar frig cyfres o gynlluniau busnes sy’n ceisio trawsnewid ein hamcanion strategol yn rhaglen o weithredoedd ymarferol sydd wedi’u cynllunio i gyflawni’r canlyniadau amgylcheddol dymunol ar lefel weithredol. Mae’r cynlluniau busnes hyn yn cynnwys y Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy, Cynllun Gweithredu Lefel 5 y Ddraig Werdd, y Cynllun Gweithredu Caffael Cynaliadwy a Chynlluniau Gwasanaethau unigol. Caiff gweithwyr unigol hefyd eu hannog i gynnwys amcanion cynaliadwyedd yn eu cynlluniau datblygu personol.
Yn ychwanegol at y strwythurau ffurfiol hyn, mae’r ‘Tîm Gwyrdd’ yn gweithredu fel ‘Cydwybod Werdd’ y Cynulliad sy’n darparu, fel ffynhonnell arloesedd amgylcheddol, ffrind beirniadol sy’n herio’r status quo a chronfa o wirfoddolwyr sy’n ymgymryd â phrosiectau sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd.
Er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni ein hystad, yr oeddem yn falch iawn o weithio gyda chynllunwyr systemau amgylcheddol gwreiddiol y Senedd sef BDSP i gwblhau eu rhagfynegiad ynni diwygiedig ar gyfer y Senedd. Yr oedd yr adroddiad hwn yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol ar ein cyfer i fonitro ein defnydd presennol o ynni ac i osod targedau ar gyfer lleihau ein defnydd o ynni. O ganlyniad i’r adroddiad yr ydym wedi adolygu’r gosodiadau a’r rheolyddion golau er mwyn lleihau ein defnydd o drydan. Byddwn yn ystyried dichonolrwydd rhoi’r strategaethau lleihau ynni eraill ar waith mewn perthynas ag offer yr ystafell gyfrifiaduron yn ystod 2008-09.
Ym mis Rhagfyr 2007 comisiynwyd yr Ymddiriedolaeth Garbon i gynnal adolygiad o berfformiad ynni’r ystad ym Mae Caerdydd ac i gynhyrchu argymhellion manwl i leihau ein defnydd o ynni. Cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth Garbon ei chanfyddiadau a’i hargymhellion ym mis Mawrth 2007 a chaiff ei hargymhellion eu rhoi ar waith yn 2008-09.
Yr ydym wedi parhau i leihau maint y gwastraff yr ydym yn ei anfon i’r safleoedd tirlenwi a chynyddu maint y gwastraff yr ydym yn ei gasglu ar gyfer ailgylchu fel a ganlyn:
Ebrill 2007 – Mawrth 2008 |
|
Math o wastraff |
Cilogramau |
Gwastraff cyffredinol (i’r safle tirlenwi) |
52936 |
Papur |
54250 |
Caniau alwminiwm |
155 |
Plastig |
565 |
Cwpanau plastig |
10280 |
Cardfwrdd |
7100 |
Gwastraff cyfrinachol |
10905 |
Gwydr (o fis Hydref 2007) |
1256 |
Canran o gyfanswm y gwastraff a ailgylchwyd |
61.49% |
Nifer |
|
Cetris arlliw |
470 |
Tiwbiau fflworolau |
1000 |
5. Cydymffurfio â'n Dyletswyddau
Ein byrddau
Mae’r Prif Weithredwr a Chlerc, sydd hefyd yn Swyddog Cyfrifyddu, yn atebol i Gomisiwn y Cynulliad (a ddisgrifir mewn mwy o fanylder yn adran 2 yr adroddiad hwn) ac i’r Cynulliad am reoli a threfnu staff, gwasanaethau, adnoddau ac asedau’r Cynulliad. Sefydlwyd cyfres o fyrddau yn ystod y flwyddyn i’w chynorthwyo yn y rôl hon.
Y Bwrdd Gweithredol
Ymysg gwaith y Bwrdd Gweithredol yn ystod y flwyddyn yr oedd darparu arweiniad corfforaethol, cynghori comisiynwyr ar ddyrannu adnoddau er mwyn cyflawni amcanion, rheoli adnoddau a pherfformiad yn erbyn amcanion, sicrhau system effeithiol a thryloyw o reoli, ac asesu a rheoli risg. Yr oedd y Bwrdd Gweithredol yn cynnwys y Prif Weithredwr a Chlerc, Claire Clancy; y Prif Swyddog Gweithredol, Dianne Bevan; Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, Adrian Crompton, a’r Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Keith Bush. Cyfarfu’r Bwrdd Gweithredol yn ffurfiol 10 gwaith yn ystod y flwyddyn a bu’n ystyried materion megis mesurau perfformiad allweddol a chorfforaethol, fframwaith cynllunio gwasanaeth a rheoli risg, a oedd yn canolbwyntio ar fewnosod yr amcanion yn strategaeth Comisiwn y Cynulliad, rhaglen datblygu arweinyddiaeth, cyllideb y Comisiwn, y cynigion ar gyfer adeilad y Pierhead ar gyfer y dyfodol ac amryw o bolisïau corfforaethol yn cynnwys cydraddoldebau, rhyddid gwybodaeth, rheoli cofnodion a gwarchod data.
Cynghorwyr annibynnol
Penodwyd pedwar cynghorydd annibynnol er mwyn sicrhau bod comisiynwyr y Cynulliad ac uwch-reolwyr y Cynulliad yn cael cymorth ac yn cael eu herio’n adeiladol yn eu gwaith. Yr oeddem am gael pobl â phrofiad helaeth ym myd busnes, diwydiant a sectorau eraill. Mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys monitro perfformiad a chynnal trosolwg beirniadol o reolaeth ariannol y Cynulliad a’u gweithdrefnau rheoli risg.
Y cynghorwyr yw:
Mair Barnes CBE
Mae Mair yn gweithio mewn nifer o swyddi fel cyfarwyddwr anweithredol a bu’n gadeirydd Vantios plc ac yn rheolwr-gyfarwyddwr Woolworths plc ac yr oedd yn gyfarwyddwr anweithredol yr Adran Masnach a Diwydiant a Swyddfa’r Cabinet.
Richard Calvert
Mae Richard ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr strategaeth ac adnoddau gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Cyn hynny bu’n dal amryw o swyddi mewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, yn fwyaf diweddar fel cyfarwyddwr cyllid yr Adran Datblygu Rhyngwladol. Mae’n gyfrifydd rheoli cymwysedig ac yn aelod anweithredol o’r Pwyllgor Archwilio yn yr Asiantaeth Cynnal Plant. Bu hefyd yn aelod o banel cynghori’r Trysorlys ar arferion gorau mewn rheolaeth ariannol.
Tim Knighton
Mae Tim yn aelod cyswllt o Sefydliad y Cymdeithasau Adeiladu Siartredig ac yn gymrawd Cymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig. Mae ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr dosbarthiad datrysiad busnes yn Nhy’r Cwmnïau. Mae ganddo brofiad helaeth yn y sector preifat ar lefel uwch gyda nifer o gwmnïau o’r radd flaenaf gan gynnwys Tesco a Goldman Sachs.
Yr Athro Robert Pickard
Mae Robert yn darparu cyngor gwyddonol i’r cyfryngau darlledu ac i amryw helaeth o gwmnïau, elusennau a chyrff cyhoeddus. Mae’n Athro Emeritws niwrobioleg ym Mhrifysgol Caerdydd; cadeirydd Cymdeithas y Defnyddwyr, Which?
; cadeirydd y Pwyllgor ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol yn DEFRA ac yn gadeirydd Fforwm y Cyrff Anllywodraethol Cenedlaethol i’r Gymdeithas Iechyd Frenhinol.
Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
Mae ein Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, a gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2007, yn cynnwys Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad, William Graham AC a thri o’n cynghorwyr annibynnol: Richard Calvert (cadeirydd), Yr Athro Pickard, a Tim Knighton. Pwyllgor cynghori ydyw sy’n gwneud gwaith tebyg i bwyllgor archwilio mewn sefydliadau sector cyhoeddus a sefydliadau sector preifat mawr eraill ac y mae’n cyfarfod bum gwaith y flwyddyn. Mae’n cynghori’r Comisiwn ar faterion yn ymwneud â risg, archwilio, trefn lywodraethu ac arfer ariannol da ac y mae’n rhoi sicrwydd i’r swyddog cyfrifyddu, Claire Clancy, sy’n mynychu’r cyfarfod ynghyd â chydweithwyr perthnasol. Mae cynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru a’n harchwilwyr mewnol, RSM Bentley Jennison, hefyd yn mynychu’r cyfarfodydd.
Bwrdd y Gwasanaethau Seneddol
Sefydlwyd y bwrdd i roi cyfeiriad ac i weithredu fel seinfwrdd er mwyn gwella’r gwasanaethau seneddol a ddarperir ar gyfer Aelodau a’u staff, ac i’r rheiny sy’n dymuno ymgysylltu â’r Cynulliad. Y cadeirydd yw Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, Adrian Crompton, a bydd y Prif Weithredwr, cyfarwyddwyr a phenaethiaid y cyfarwyddiaethau gwasanaeth yn mynychu’r cyfarfodydd. Yr oedd yn darparu fforwm i alluogi rhywun i gamu’n ôl o’r gweithgareddau dyddiol er mwyn cymryd trosolwg o’r gwasanaethau sy’n cael eu cyflenwi; i ennyn integreiddiad agosach a mwy systematig ar draws gwasanaethau ac i roi her gefnogol gan gymheiriaid a rhai o’r tu allan. Yr oeddem yn falch bod Laura McAllister, Athro mewn llywodraethu, o Brifysgol Lerpwl wedi gallu ymuno â’r bwrdd i ddarparu cyfeiriad allanol a her. Cyfarfu’r bwrdd bum gwaith yn ystod y flwyddyn
Y Bwrdd Gweithrediadau
Sefydlwyd y Bwrdd Gweithrediadau er mwyn ystyried materion sy’n berthnasol i’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau o dan gadeiryddiaeth y Prif Swyddog Gweithredol, Dianne Bevan, gyda’r Prif Weithredwr, penaethiaid gwasanaethau a’u cydweithwyr hefyd yn mynychu’r cyfarfodydd. Pwrpas y bwrdd oedd i sicrhau bod gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn cael eu gwella a’u cynnal, i gyflogi tîm eang o arweinwyr a rhoi grym iddynt, ac i feithrin gweithio corfforaethol ar draws gwasanaethau’r Cynulliad er mwyn gwella’r dulliau o wneud penderfyniadau strategol a chynllunio. Yr oedd yn galluogi cyfranogwyr i rannu penderfyniadau gweithredol lle’r oedd effaith sylweddol ar wasanaethau eraill, i annog cyfathrebu clir ac amserol ac i nodi risgiau. Cyfarfu’r Bwrdd Gweithrediadau saith gwaith yn ystod y flwyddyn.
Cynllun iaith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff y Goron yn paratoi cynllun iaith Gymraeg a’i roi ar waith, ac ar 11 Gorffennaf 2007, cyhoeddwyd ein cynllun cyntaf a fydd yn rhedeg tan 2011. Mae’r cynllun ar gael yma. Ers ei lansio, mae tîm o gydgysylltwyr yr iaith Gymraeg sy’n cynrychioli pob un o’n 11 maes gwasanaeth wedi cyfarfod yn rheolaidd ac wedi datblygu cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod gofynion y cynllun yn cael eu cyflawni. Hefyd, cynhaliwyd archwiliad o sgiliau ieithyddol; ac y mae strategaeth sgiliau dwyieithog yn cael ei datblygu, a chwblhawyd adroddiad cydymffurfio er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion. Mae’r adroddiad cydymffurfio wedi dangos perfformiad ardderchog ar draws y sefydliad yn nhermau cyflenwi gwasanaethau dwyieithog i Aelodau’r Cynulliad, i’n rhanddeiliaid ac i’r cyhoedd. Gobeithiwn adeiladu ar lwyddiant ein blwyddyn gyntaf er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein huchelgais o fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Er mwyn gwneud hyn, y flwyddyn nesaf byddwn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth staff, prif ffrydio gofynion y cynllun, lansio ein strategaeth sgiliau dwyieithog a marchnata ein gwasanaethau dwyieithog er mwyn annog mwy o’n cwsmeriaid i’w defnyddio
Cydraddoldebau
Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal a dileu gwahaniaethu annheg yn ei arferion cyflogi. Mae wedi cymryd camau i sicrhau bod pob ymgeisydd am swydd a phob aelod o staff yn cael ei drin yn deg, gyda pharch a heb ragfarn ac na fydd unrhyw un dan anfantais oherwydd ei ryw; cyfeiriadedd rhywiol; statws priodasol neu deuluol; grwp hiliol; cred grefyddol, neu gred athronyddol debyg (neu ddiffyg unrhyw un o’r rhain); anabledd; oedran; statws contract rhan-amser neu dymor penodol; a statws/gweithgareddau’n ymwneud ag aelodaeth o undeb llafur.
Operation Black Vote/Cynllun cysgodi Aelodau’r Cynulliad
Rhwng mis Hydref 2007 a mis Ebrill 2008, rhoddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’r cynllun ar waith er mwyn helpu i fynd i’r afael â diffyg cyfraniad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru. Enillodd y cynllun wobr democratiaeth Cymdeithas Wleidyddol Hansard/ Channel 4 ym mis Ionawr a chafwyd canlyniadau cadarnhaol: dewiswyd rhai a gymerodd ran yn y cynllun fel ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol mis Mai yng Nghymru a dewiswyd un ar gyfer sedd seneddol hefyd.
Arolwg cydraddoldebau staff
Ym mis Chwefror, cynhaliwyd arolwg cydraddoldebau staff ar lein er mwyn creu proffil o’n gweithlu o safbwynt cydraddoldebau a chasglu data ystadegol ar oedran, gradd, anabledd, rhyw/hunaniaeth o ran rhywedd, hil/ethnigrwydd, crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol. Rhoddodd yr arolwg hefyd gyfle i nodi unrhyw faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a allai effeithio ar staff. Defnyddir y data fel sail dystiolaeth ar gyfer y cynllun cydraddoldebau sengl a’r cynllun gweithredu.
Datblygu cynllun cydraddoldebau sengl a chynllun gweithredu
Gwnaed llawer o waith yn ystod y flwyddyn i ddatblygu ein cynllun cydraddoldebau sengl a fydd yn nodi ein dull o hyrwyddo cydraddoldebau fel cyflogwr ac fel sefydliad sy’n gwasanaethu Aelodau’r Cynulliad ac yn rhyngweithio â’r cyhoedd. Bu’r tîm cydraddoldebau’n gweithio i ddatblygu dogfen ymgynghori ar gyfer y cynllun a fydd yn mynd y tu hwnt i ofynion dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus a bydd yn cynnwys yr haenau canlynol o gydraddoldeb: oedran, anabledd, rhyw/hunaniaeth o ran rhywedd, hil/ethnigrwydd, crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol. Bwriadwn ymgynghori’n gyhoeddus drwy gydol yr haf er mwyn bod yn barod i gyhoeddi ym mis Hydref 2008, gan gysylltu â grwpiau cymunedol a sefydliadau cynrychioladol er mwyn cynnwys grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn natblygiad blaenoriaethau gweithredu’r cynllun cydraddoldebau sengl.
Adolygiad allanol o’n harferion recriwtio ac effaith y rhain ar gynyddu cynrychiolaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ein gweithlu
Yr oedd yr adolygiad yn cynnwys dadansoddi polisïau ac arferion sydd eisoes yn bod o fewn Comisiwn y Cynulliad, archwilio arferion da eraill mewn perthynas â recriwtio pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ar y staff, a gwneud argymhellion ar weithgareddau ychwanegol y gallai’r Comisiwn gymryd rhan ynddynt, a fyddai’n arwain at ganlyniadau mesuradwy ac ystyrlon ac yn cynyddu cynrychiolaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ein gweithlu. Caiff yr argymhellion hyn eu hystyried yn 2008-09.
Rhwydweithiau cydraddoldeb staff
Datblygwyd rhwydwaith staff lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ym mis Rhagfyr 2007. Bydd y rhwydwaith yn darparu cymorth anffurfiol i weithwyr lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a gall gymryd rhan yn y broses o asesu’r effaith ar gydraddoldeb. Cawsom hefyd ein cynnwys ym mynegai cydraddoldeb yn y gweithle Stonewall am y tro cyntaf, ac yr oeddem yn falch o gael ein rhestru fel y 208fed cyflogwr hoyw-gyfeillgar yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae hon yn gamp ardderchog i Gomisiwn y Cynulliad gan mai dim ond ers mis Mai 2007 y buom yn gyflogwr yng ngwir ystyr y gair. Mae rhwydwaith staff yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd ar gyfer pobl ag anabledd.
Iechyd a diogelwch
Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i hyrwyddo iechyd a diogelwch fel mater o flaenoriaeth. Ei nod yw cymryd camau priodol a rhesymol i sicrhau nad yw’n gweithredu mewn ffordd a fyddai’n achosi risg i iechyd a diogelwch ei weithwyr a phobl eraill y gallai ei waith effeithio arnynt. Er mwyn rhoi’r polisi hwn ar waith, mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi datganiad o fwriad sy’n disgrifio ei ymrwymiad i iechyd a diogelwch. Mae hefyd wedi penodi swyddog iechyd a diogelwch cymwys i gryfhau’r gwaith yn y maes, ac wedi dod â iechyd a diogelwch a iechyd galwedigaethol ynghyd er mwyn creu tîm mwy holistig yn y Gwasanaeth Adnoddau Dynol.
Cyfathrebu mewnol
Cyfathrebu effeithiol yw’r allwedd i lwyddiant sefydliad, ac yn ychwanegol at y cyfathrebu sy’n digwydd o ddydd i ddydd rhwng ein staff, eu rheolwyr a’u cydweithwyr mewn meysydd gwasanaethau eraill, cafodd amrywiol ddulliau o gyfathrebu eu sefydlu neu eu datblygu ymhellach yn 2007-08. Y rhain oedd:
Ein tudalen newyddion a ddefnyddir ar gyfer negeseuon dyddiol i staff.
Tudalen newyddion debyg ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth.
Bwletin wythnosol sy’n tynnu amrywiol eitemau o wybodaeth at ei gilydd mewn un man. Fel arall, byddai’n rhaid i staff chwilio amdanynt ar ein mewnrwyd neu drwy e-bost, gan gynnwys yr hyn sy’n digwydd yn y Cyfarfod Llawn ac mewn pwyllgorau, rhagolwg o fusnes yr wythnos ganlynol ynghyd â negeseuon staff o natur gorfforaethol a’r holl ymweliadau, digwyddiadau ac arddangosfeydd sy’n digwydd yn ein hadeilad.
Mae Cyfnewid, sy’n galluogi bod barn staff ar destunau penodol yn cael ei throsglwyddo i’r uwch-reolwyr, yn sicrhau bod eu sylwadau’n cael eu rhannu â’u penaethiaid gwasanaeth a’u bod yn cael eu darparu ar gyfer y bwrdd gweithredol. Cynhelir fforwm trafod ac yna bydd y bwrdd gweithredol yn cyhoeddi ateb gan nodi’r camau sydd i’w cymryd mewn ymateb i’r adborth. Cylchgrawn staff yw ‘Y Llechen’, sy’n canolbwyntio llawer mwy ar faterion cymdeithasol. Fe’i cyhoeddir yn fisol, ac y mae’n canolbwyntio ar faterion a all fod o ddiddordeb i staff am eu cydweithwyr, achlysuron cymdeithasol, ysgrifau o ddiddordeb arbennig, cystadlaethau ac adolygiadau o lyfrau a ffilmiau.
