Pwerau’r Cynulliad
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - pwerau newydd i lunio deddfau
Mae Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi’r gallu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud ei ddeddfwriaeth ei hun ar faterion datganoledig megis iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol. Byddant yn ffurfio categori newydd o ddeddfau Cymru a fydd yn dwyn yr enw Mesurau'r Cynulliad.
Cyn iddo gael y pwer i wneud Mesurau mewn perthynas â maes penodol o lywodraeth ddatganoledig, bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau "cymhwysedd deddfwriaethol" – yr hawl cyfreithiol i lunio Mesurau – ar sail pob achos yn unigol gan Senedd y DU.
Gall cymhwysedd deddfwriaethol (pwerau llunio Mesurau) gael ei ganiatáu naill ai drwy Ddeddfau Seneddol neu drwy ddull newydd sef y "Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol" (GCD). Unwaith y rhoddir cymhwysedd deddfwriaethol (pwerau llunio Mesurau) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar bwnc penodol gan Senedd y DU, gall ddechrau ar y broses o basioMesurau'r Cynulliad.(deddfau Cymru).
Dylai hyn gyflymu'r broses o wneud deddfau ar gyfer Cymru oherwydd bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu craffu ar ddeddfau Cymru a'u cymeradwyo ei hun yn hytrach na chystadlu am le yn rhan o raglen Senedd y DU.
Gwefan Deddf Llywodraeth Cymru 2006