Rôl y Pwyllgorau
Grwp o Aelodau Cynulliad yw Pwyllgor Cynulliad sy’n cyfarfod yn rheolaidd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth. Mae aelodaeth y Pwyllgorau fel rheol yn adlewyrchu’r cydbwysedd rhwng y pleidiau, sef nifer yr Aelodau Cynulliad sy’n cynrychioli pob plaid yn y Cynulliad. Mae’r rhan fwyaf o’r pwyllgorau’n cyfarfod yn gyhoeddus.
Mae Pwyllgorau’r Cynulliad yn cyflawni llawer o swyddogaethau: mae rhai’n craffu ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn dwyn Gweinidogion i gyfrif; mae rhai’n archwilio deddfwriaeth arfaethedig a dyrennir swyddogaethau penodol i rai eraill gan y Cynulliad neu ei Reolau Sefydlog. Gellir cael manylion am gylch gwaith a chyfrifoldebau’r pwyllgorau ar hafan pob pwyllgor unigol.
Mae pedwar prif fath o bwyllgor:
Mae gan bwyllgorau craffu’r pwer i archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisïau Llywodraeth y Cynulliad a’r cyrff cyhoeddus cysylltiedig.
Enwir pwyllgorau gorfodol yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad ac mae ganddynt swyddogaethau penodol. Mae’r manylion wedi’u rhestru ar hafan y pwyllgorau.
Gellir cael pwyllgorau rhanbarth ym mhob rhanbarth etholiadol os yw’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid hynny. Mae’r pwyllgorau hyn yn ymwneud â materion sy’n benodol i’r ardal.
Gellir creu pwyllgorau eraill ar sail ad-hoc yn unol ag anghenion y Cynulliad. Ymysg y rhain gellir cael pwyllgorau wedi’u creu i graffu ar Fesurau’r Cynulliad, Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol neu faterion penodol sy’n codi.
Hafan y Pwyllgorau.