Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rôl y Cyfarfod Llawn

Cyfarfod o holl Aelodau’r Cynulliad yw’r Cyfarfod Llawn. Cynhelir y Cyfarfod Llawn ar brynhawn dydd Mawrth ac ar brynhawn dydd Mercher. Caiff ei ddarlledu’n fyw ar S4C2.

Bydd y Llywydd yn cyhoeddi agenda ar gyfer pob cyfarfod sy'n neilltuo amser ar gyfer busnes y Llywodraeth, busnes heblaw busnes y Llywodraeth a busnes y Cynulliad. Caiff gwybodaeth mewn perthynas â thrafodion y Cyfarfod Llawn a thrafodion pwyllgorau ei chyhoeddi fel Hysbysiad Busnes ar y rhyngrwyd.

Yn ystod pob wythnos y cynhelir y Cyfarfod Llawn, caiff amser ei neilltuo ar gyfer Cwestiynau Llafar i’r Prif Weinidog, Gweinidogion eraill Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad. Yn ogystal, gall Aelodau'r Cynulliad gyfrannu at ddatganiadau a dadleuon a phleidleisio ar welliannau a chynigion a gyflwynwyd. Bydd y Llywydd yn cynnal pleidlais a bydd yr Aelod llwyddiannus yn cynnig pwnc ar gyfer Dadl Fer cyn diwedd y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher.

Gan fod y Cynulliad wedi cael mwy o bwer deddfwriaethol, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd ystyried a diwygio deddfwriaeth arfaethedig y cyfeirir atynt fel Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau'r Cynulliad. Dim ond drwy benderfyniad y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn y gellir gwneud deddfwriaeth o'r fath.