Fersiwn Testun

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad)

Cynllun Cydraddoldeb

2008-2011

Cynnwys

Rhagair

Crynodeb

1. Rôl Comisiwn y Cynulliad

2. Cyd-destun Deddfwriaethol

3. Datblygiad ein Cynllun

4. Comisiwn y Cynulliad fel Cyflogwr: ein Gweithlu

5. Rhoi Cymorth i Aelodau’r Cynulliad

6. Mynediad i’n Hadeiladau, ein Gwybodaeth a’n Trafodion

7. Caffael

8. Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb

9. Llwyddiant wrth Hybu Cydraddoldeb

10. Ein Cynllun Gweithredu

Atodiadau

Atodiad 1 - Siart Gyfundrefnol

Atodiad 2 - Geirfa

Atodiad 3 - Asesiad o Swyddogaethau a Pholisïau

Atodiad 4 - Crynodeb o Ymatebion i’r Ymarfer Ymgynghori a Chynnwys

Rhagair

Ysgrifenodd gan Y Gwir Anrh yr Arglwydd Elis-Thomas AC - Llywydd a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad a Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Corff newydd a ddaeth i fodolaeth fis Mai 2007 yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) a dyma ein Cynllun Cydraddoldeb cyntaf. Rydym wedi datblygu’r Cynllun Cydraddoldeb hwn i gynorthwyo ein sefydliad â hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a nodi a chwalu rhwystrau posibl i gydraddoldeb i’n staff, Aelodau’r Cynulliad, eu staff nhw ac aelodau’r cyhoedd.

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb yn amlinellu’r hyn y byddwn yn ei wneud i fodloni gofynion dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ar gyfer anabledd, rhywedd (gan gynnwys hunaniaeth o ran rhywedd) a hil. Fodd bynnag, rydym wedi ymestyn y Cynllun Cydraddoldeb hwn i gwmpasu’r agweddau eraill ar gydraddoldeb: oedran, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol.  Mae egwyddorion Hawliau Dynol (gan gynnwys tegwch, urddas a pharch) hefyd wrth wraidd datblygiad y Cynllun Cydraddoldeb hwn.

Rydym o’r farn y dylid integreiddio cydraddoldeb a hawliau dynol i’n harferion gweithio er budd pawb. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb hwn yn ystyried y ffaith bod pobl yn unigolion a bod ganddynt ofynion gwahanol. Nod y Cynllun a’i Gynllun Gweithredu yw mynd i’r afael ag anfanteision penodol a lluosog trwy nodi a chwalu rhwystrau rhag cydraddoldeb.

Fel cyflogwr, rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pob aelod o staff ac rydym am eu cefnogi i sicrhau eu bod yn cyflawni'u potensial llawn. Fel darparwr gwasanaeth, rydym am gefnogi Aelodau’r Cynulliad i’w galluogi i wneud eu gwaith yn effeithiol. Yn achos y cyhoedd, rydym am i’r Cynulliad fod yn hygyrch a darparu’r gwasanaeth gorau posibl (gwasanaethau ymwelwyr, gwybodaeth ac addysg, mynediad at drafodion a chyfranogiad). Mae ein Cynllun Gweithredu’n manylu ar y camau y mae angen inni eu cymryd i sicrhau hyn, ac mae hefyd yn rhoi sylw i’r darganfyddiadau o’n hymarferion ymgynghori a chynnwys diweddar, gan fanylu ar y camau a’r canlyniadau cydraddoldeb y nodwyd y byddem yn rhoi blaenoriaeth iddynt.

Wrth ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb, rydym yn falch ein bod wedi gallu cynnwys ystod amrywiol o unigolion a sefydliadau sy’n ffurfio cymdeithas yng Nghymru heddiw. Rydym yn ddiolchgar i’r unigolion a’r sefydliadau sydd wedi cyfrannu at ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb, ac yn croesawu adborth pellach ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda yn eich barn chi ac ynghylch lle rydych yn teimlo y gallwn wella.

(Lluniau: Y Gwir Anrh yr Arglwydd Elis-Thomas AC - Llywydd a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad a Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad)

Crynodeb

Pwy ydym ni a’r hyn rydym yn ei wneud

Mae Comisiwn y Cynulliad yn cefnogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (60 Aelod y Cynulliad) ac yn darparu staff, eiddo ac adnoddau er mwyn iddo weithredu’n effeithiol.

Yr hyn y mae’r Cynllun Cydraddoldeb yn ei wneud

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb yn manylu ar ddull Comisiwn y Cynulliad o gyflawni’i amcanion cydraddoldeb yn ei rôl fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad, eu staff ac aelodau'r cyhoedd. Mae Cynllun Gweithredu sy’n cyd-fynd ag ef yn manylu ar y camau y byddwn yn eu cymryd i hybu cydraddoldeb, dileu aflonyddu a chamwahaniaethu, a chwalu rhwystrau i gydraddoldeb.

Mae’r Cynllun yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Tachwedd 2008 a mis Tachwedd 2011, ac mae'n manylu ar sut byddwn yn bodloni gofynion dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus o ran hil, anabledd a rhywedd (gan gynnwys hunaniaeth o ran rhywedd). Rydym hefyd wedi cynnwys yr agweddau eraill ar gydraddoldeb, sef oedran, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol yn y Cynllun hwn. Ystyrir egwyddorion Hawliau Dynol hefyd yn y Cynllun.

Sut gwnaethom ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb

Gwnaethom gynnal ymarfer ymgynghori a chynnwys i’n helpu i ddatblygu ein Cynllun. Gwnaethom ofyn i staff, Aelodau’r Cynulliad, aelodau’r cyhoedd a sefydliadau cynrychioliadol am eu barn ynghylch y canlyniadau cydraddoldeb roeddem wedi’u nodi a pha gamau roeddent yn credu yr oedd angen inni’u cymryd i gyflawni’r canlyniadau cydraddoldeb hyn.

Gwnaethom ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu ein Cynllun Gweithredu.

Cynllun Gweithredu - Ein Blaenoriaethau

Mae ein Cynllun Gweithredu’n manylu ar y canlyniadau rydym am eu sicrhau ar gyfer cydraddoldeb, a’r camau blaenoriaethol y mae angen inni eu cymryd i sicrhau’r rhain. Mae’r camau’n cynnwys:

•Datblygu hyfforddiant cydraddoldeb a rhaglen codi ymwybyddiaeth ar gyfer ein staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw, sy’n adlewyrchu gofynion ein Cynllun Cydraddoldeb

•Cefnogi Aelodau’r Cynulliad i’w galluogi i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn eu gwaith

•Adolygu a chyflwyno cynllun peilot ar gyfer ein hofferyn asesu effaith ar gydraddoldeb a hyfforddi staff i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb effeithiol

•Parhau i wella dulliau casglu data cydraddoldeb ein staff a threfniadau monitro cyflogaeth

•Cynnal adolygiad cyflog cyfartal a datblygu Strategaeth Gyflogau sy’n ystyried ei ganlyniadau

•Cefnogi a chynnwys ein rhwydweithiau staff a Fforwm Defnyddwyr Anabl allanol

•Sicrhau bod ein hadeiladau’n hygyrch i staff, Aelodau’r Cynulliad, eu staff nhw a’r cyhoedd trwy barhau i gynnal rhaglen o welliannau (gan ddefnyddio adborth oddi wrth ddefnyddwyr allanol)

•Sicrhau bod cyflenwyr allanol yn adlewyrchu ein dyheadau a’n gofynion o ran cydraddoldeb

•Sicrhau bod yr wybodaeth rydym yn ei chynhyrchu’n hygyrch, yn addysgiadol ac yn ddiddorol

•Cynyddu ein hymgysylltiad ag unigolion a sefydliadau cynrychioliadol ledled Cymru

•Monitro adborth defnyddwyr ar ein gwefan a gweithredu’n unol â hyn, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon i’w gwneud yn fwy hygyrch

•Adrodd ar gynnydd wrth gyflawni ein camau a’n canlyniadau cydraddoldeb yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Comisiwn y Cynulliad

Monitro ac Adolygu

Bydd Comisiwn y Cynulliad yn cynhyrchu Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a fydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf am gyflawni ein canlyniadau cydraddoldeb.

Bydd y Cynllun yn cael ei adolygu’n allanol bob tair blynedd, a bydd hyn yn helpu i ddarparu sail ar gyfer datblygu ein Cynllun nesaf.

_______________________________________________________

Sut i roi adborth inni ar ein Cynllun Cydraddoldeb

Rydym yn croesawu adborth ar ein Cynllun Cydraddoldeb. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â ni:

Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Comisiwn y Cynulliad

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA

Ffôn:029 2089 8204

Ffôn testun:029 2089 8601

Ffacs:029 2089 8117

E-bost:equalities.team@wales.gsi.gov.uk

Os hoffech gael copi o’n Cynllun Cydraddoldeb neu grynodeb o’r Cynllun mewn fformat arall, defnyddiwch y manylion uchod i gysylltu â ni.

1. Rôl Comisiwn y Cynulliad

Pwy Ydym Ni a’r Hyn Rydym yn ei Wneud

Fe greodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ddau gorff cyfreithiol ar wahân: Llywodraeth Cynulliad Cymru (y corff gweithredol) a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (y corff deddfwriaethol). Sefydlwyd trydydd corff hefyd, sef Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad).

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  • 60 Aelod y Cynulliad

  • yn craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru

  • yn pasio deddfwriaeth

Comisiwn y Cynulliad

  • yn darparu eiddo, adnoddau a staff i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Prif Weinidog Cymru a’r Cabinet

  • Yn datblygu polisïau ac yn cyflenwi gwasanaethau

Mae Comisiwn y Cynulliad yn bodoli i gefnogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni’i swyddogaethau’n llwyddiannus fel corff democrataidd. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau gan gynnwys:

•Darparu i Aelodau’r Cynulliad (ACau) yr ystafelloedd, y cyfleusterau, yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith;

•Cefnogi Cyfarfodydd Llawn y Cynulliad a’i Bwyllgorau trwy ddarparu cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;

•Darparu gwasanaethau cyfieithu, dehongli ac adrodd sy’n sicrhau y gall y Cynulliad weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg; a

•Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd ynghylch rôl seneddol y Cynulliad a thrwy drefnu ymweliadau â'r Cynulliad ac oddi yno.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu dan gyfarwyddyd a rheolaeth y Llywydd a phedwar Aelod arall y Cynulliad o’r pedair plaid wleidyddol. Mae gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cael eu dirprwyo i Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.

Diben a Nodau Strategol Comisiwn y Cynulliad

Mae’r Cynllun hwn yn gysylltiedig â diben Comisiwn y Cynulliad, sef "sicrhau bod y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n rhoi hyder i bobl Cymru”.

Ein Nodau:

•Byddwn yn hybu ac yn ehangu cyfranogiad pobl mewn datganoli;

•Byddwn yn dangos undod, arweinyddiaeth ac ymateb hyderus i newid cyfansoddiadol;

•Ym mhob agwedd ar ein gwaith, byddwn yn dangos parch, cywirdeb a llywodraethu da;

•Byddwn yn gweithio’n gynaliadwy; a

•Byddwn yn sicrhau bod y Cynulliad yn darparu’r gwasanaethau gorau, ac y’u darperir yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Datganiad Polisi Cydraddoldeb Strategol

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau ein bod, fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth, yn sefydliad sy’n esiampl dda yn ein modd o hybu cydraddoldeb, hybu hawliau dynol a darparu gwasanaethau hygyrch. Mae ein Datganiad yn manylu ar sut byddwn yn hybu ein hagenda cydraddoldeb, ac mae’n cynnwys cyfeiriad penodol at y Cynllun Cydraddoldeb hwn:

Ein Gweledigaeth

Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu adnoddau, eiddo a staff i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu fel sefydliad democrataidd.

Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad blaenllaw yn ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol yn ein rôl fel cyflogwr, ac fel sefydliad sy’n rhoi cymorth i Aelodau’r Cynulliad ac sy’n rhyngweithio â’r cyhoedd.

Credwn fod cyfle cyfartal i bawb yn hawl dynol sylfaenol ac awn ati i wrthwynebu pob ffurf ar gamwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg.

Rydym yn ymdrechu i greu corff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ymgysylltu â holl bobl Cymru ac yn eu parchu. Mae’r polisi hwn yn gysylltiedig â’n Diben a’n Nodau Strategol, ein Cynllun Cydraddoldeb a’n polisïau cyflogaeth.

Ein Gwerthoedd

Mae Comisiwn y Cynulliad:

•Yn hybu, yn parchu ac yn gwerthfawrogi cyfle cyfartal ac amrywiaeth

•Yn herio ac yn dileu aflonyddu a chamwahaniaethu

•Yn cydnabod ac yn chwalu rhwystrau i gydraddoldeb

•Yn ymddwyn fel sefydliad sy’n esiampl o gyflogwr da ac sy’n ddarparwr gwasanaeth hygyrch

•Yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff ac yn cefnogi pob unigolyn i gyflawni ei botensial llawn

•Yn anelu at sicrhau bod ein gweithlu’n gynrychioliadol o’n cymdeithas amrywiol

•Yn ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad ledled Cymru

•Yn hybu agweddau positif a pherthnasoedd da rhwng pob grŵp o bobl

•Yn derbyn model cymdeithasol anabledd, gan gydnabod mai’r rhwystrau a grëir gan gymdeithas sy’n creu anabledd, nid amhariad

Sut rydym yn bwriadu cyflawni ein gweledigaeth a hybu ein gwerthoedd:

•Trwy roi ein Cynllun Cydraddoldeb a’n Cynllun Gweithredu a pholisïau ategol eraill ar waith a mynd ati i'w monitro

•Trwy hyfforddi a chefnogi staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw â gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb perthnasol

•Trwy gynnwys ein staff ac aelodau’r cyhoedd yn ein prosesau penderfynu ac asesiadau effaith

•Trwy weithredu ar adborth ac awgrymiadau, lle bo’n briodol

Sut byddwn yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni hyn:

Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei adolygu pob tair blynedd, a byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a fydd yn manylu ar ein cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Bydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar yr Adroddiad hwn bob blwyddyn.

Mae ein diben, ein gwerthoedd a’n gweledigaeth o ran cydraddoldeb wrth wraidd y Cynllun a’i Gynllun Gweithredu. Rydym yn ymwybodol o’n hymrwymiadau cydraddoldeb cyfreithiol, ond yn awyddus i fynd y tu hwnt i hyn â dull arfer gorau ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb. Mae ein Cynllun Gweithredu’n manylu ar sut rydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion cydraddoldeb hyn.

Asesu ein Swyddogaethau Allweddol Mewn Perthynas â Chydraddoldeb

Rydym wedi asesu ein polisïau/ein swyddogaethau o ran eu perthnasedd i hybu cydraddoldeb, a gwelir hyn yn Atodiad 3.

Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn rhan o Uned Gorfforaethol Comisiwn y Cynulliad, sy’n darparu cymorth i’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr a Chomisiwn y Cynulliad. Mae’r Tîm yn cynghori staff ac Aelodau’r Cynulliad ar fynediad a materion eraill yn ymwneud â chydraddoldeb. Mae’r Tîm hefyd yn darparu’r cyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio materion cydraddoldeb a hawliau dynol, ac mae’n cysylltu â meysydd gwasanaeth yn y sefydliad trwyddo draw.

Grŵp Llywio Cydraddoldeb

Mae gan Gomisiwn y Cynulliad Grŵp Llywio Cydraddoldeb sy'n cynnwys cynrychiolwyr/arweinwyr cydraddoldeb sy'n aelodau o staff (ar bob lefel) yn cynrychioli'u meysydd gwasanaeth penodol. Mae’r Grŵp yn cyfarfod bob chwarter dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr.

Rôl yr arweinwyr yw codi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb a hawliau dynol ymhlith eu cydweithwyr, a monitro cynnydd wrth gyflawni amcanion cydraddoldeb yn eu meysydd gwasanaeth. Mae’r Grŵp wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cynllun Cydraddoldeb hwn ochr yn ochr â mewnbwn y meysydd gwasanaeth.

Cyfrifoldeb ac Atebolrwydd

Y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb ac sy’n atebol am hyn. Bydd Penaethiaid Gwasanaeth yn nodi canlyniadau a chamau eu meysydd gwasanaeth eu hunain o ran cydraddoldeb wrth lunio cynlluniau busnes eu meysydd gwasanaeth, a bydd y rhain yn cael eu cymeradwyo gan y Cyfarwyddwyr.

Monitro a Gweithredu

Mae Penaethiaid Gwasanaeth, trwy’r Cyfarwyddwyr, yn adrodd i’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad ddwywaith y flwyddyn ynghylch cynnydd wrth gyflawni amcanion cydraddoldeb yn eu meysydd, a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Comisiwn y Cynulliad sy’n cael ei gyhoeddi a’i archwilio gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad.

Adolygiad

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Tachwedd 2008 a mis Tachwedd 2011. Byddwn hefyd yn adolygu ein Cynllun Cydraddoldeb yn allanol bob tair blynedd.

2. Cyd-destun Deddfwriaethol

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu’n unol â deddfwriaeth Cydraddoldeb, sy’n cynnwys dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus o ran anabledd, rhywedd a hil. Nod y Cynllun Cydraddoldeb hwn yw bodloni’r gofynion y manylir arnynt dan y dyletswyddau. Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymestyn y gweithredu hwn i gynnwys oedran, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol, ac mae wedi cynnwys y meysydd hyn yn y Cynllun.

Fodd bynnag, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y corff deddfwriaethol) wedi’i eithrio rhag y dyletswyddau hyn, ond er hynny mae’n ymdrechu i sicrhau ei fod yn gweithredu â dull o drin cydraddoldeb a hawliau dynol sy’n dilyn arfer gorau. Mae’r Cynllun hwn yn rhagflaenu cyflwyno Mesur Cydraddoldeb Sengl a Deddf ddilynol gan Lywodraeth y DU.

Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae’r gofynion ar gyfer pob un o’r dyletswyddau cydraddoldeb o ran anabledd, rhywedd a hil wedi’u rhestru isod.

Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl

Mae’n rhaid i’n sefydliad ystyried yn briodol gofynion canlynol y ddyletswydd cydraddoldeb i bobl anabl:

•Dileu camwahaniaethu anghyfreithlon

•Dileu aflonyddu ar bobl anabl sy’n ymwneud â’u hanableddau

•Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl anabl ac eraill

•Cymryd camau i ystyried anableddau pobl anabl, hyd yn oed pan fo hynny’n golygu eu trin yn fwy ffafriol nag eraill

•Hybu agweddau positif tuag at bobl anabl

•Annog pobl anabl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus

Dyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol

Mae’n rhaid i’n sefydliad ystyried yn briodol gofynion canlynol y ddyletswydd cydraddoldeb rhywiol:

•Dileu camwahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw (hefyd ar sail ailbennu rhywedd)

•Dileu aflonyddu anghyfreithlon (hefyd ar sail ailbennu rhywedd)

•Hybu cyfle cyfartal rhwng dynion a merched

Dyletswydd Cydraddoldeb Hiliol

Mae’n rhaid i’n sefydliad ystyried yn briodol gofynion canlynol y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol:

•Dileu camwahaniaethu anghyfreithlon

•Hybu cyfle cyfartal

•Hybu perthynas dda rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol

Deddf Hawliau Dynol 1998

Mae Adran 6(1) y Ddeddf Hawliau Dynol yn ei gwneud yn anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy'n mynd yn groes i’r hawliau y mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn eu diogelu. Mae’n ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus sicrhau eu bod yn gweithredu, neu’n peidio â gweithredu, mewn modd sy’n amddiffyn unigolion neu gyrff preifat rhag ymyriad ar eu hawliau. Mae parch tuag at egwyddorion hawliau dynol wedi’i ymgorffori yn y Cynllun Cydraddoldeb hwn drwyddo draw. Mae Comisiwn y Cynulliad yn sicrhau bod egwyddorion hawliau dynol wrth wraidd ein gwaith a’n hethos trwy, er enghraifft, eu cadw mewn ystyriaeth yn ein proses asesu effaith ar gydraddoldeb a’n rhaglen codi ymwybyddiaeth/hyfforddiant staff.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 bod Comisiwn y Cynulliad yn gwneud trefniadau priodol i sicrhau bod ei swyddogaethau’n cael eu gweithredu gydag ystyriaeth briodol i’r egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Mae hefyd yn ofynnol o dan y Ddeddf bod trafodion y Cynulliad yn cael eu cynnal gydag ystyriaeth briodol i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu fel sefydliad dwyieithog, ac mae ganddo Gynllun Gweithredu a Chynllun Iaith Gymraeg ar wahân sy’n cwmpasu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac a wnaed yn unol ag adran 21 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. O ystyried y trefniadau hyn, nid oes cysylltiad rhwng y Cynllun Cydraddoldeb a’i Gynllun Gweithredu a’r Cynllun Iaith Gymraeg, sydd â threfniadau monitro ac adrodd penodol sy’n wahanol i’n Cynllun Cydraddoldeb.  Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn nodi y dylid sicrhau cyfle cyfartal rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn y Cynulliad. Sicrheir hyn trwy ein huchelgeisiau a’n hamcanion fel y manylir arnynt yn ein Cynllun Iaith Gymraeg a’n Cynllun Gweithredu.

Mae’r Uned Gorfforaethol hefyd yn goruchwylio trefniadau rhoi’r Cynllun Gweithredu a’r Cynllun Iaith Gymraeg ar waith a’u monitro, sydd hefyd yn cael eu cadw mewn ystyriaeth mewn trefniadau cynllunio corfforaethol.

3. Datblygiad ein Cynllun

Pam Cynllun Cydraddoldeb Sengl?

Nod y Cynllun Cydraddoldeb sengl hwn yw sicrhau buddion a chanlyniadau positif a chyfartal i’n staff ac aelodau’r cyhoedd. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb hwn yn canolbwyntio ar y meysydd cydraddoldeb a ganlyn: oedran, anabledd, rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd/credo a thueddfryd rhywiol.

Adeg ysgrifennu hwn, nid oes unrhyw ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ar waith i roi sylw i oedran, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol, er bod deddfwriaeth cydraddoldeb arall yn rheoli’r meysydd hyn.  Felly rydym yn dymuno rhoi’r un flaenoriaeth i’r meysydd cydraddoldeb hyn, lleihau’r posibilrwydd o gamwahaniaethu lluosog a rhagflaenu’r darpariaethau yn y Mesur Cydraddoldeb Sengl.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal cynnwys grwpiau eraill sydd dan anfantais yn ein Cynllun a pholisïau eraill lle bo’n briodol.

Ymgynghori a Chynnwys i Gasglu Tystiolaeth

Mae ymgynghori a chynnwys yn bwysig inni. Rydym wedi cynnwys ac ymgynghori â chynifer o bobl â phosibl o gefndiroedd amrywiol â gwahanol ofynion wrth ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb, gan gynnwys staff, Aelodau’r Cynulliad ac aelodau’r cyhoedd. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio grwpiau ffocws, trwy negeseuon e-bost i godi ymwybyddiaeth, trwy ein tudalennau gwe a thrwy gysylltu’n uniongyrchol â staff. Ymhlith gwybodaeth arall a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu’r Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu oedd monitro data recriwtio a chyflogaeth a chanlyniadau ein harolwg monitro cydraddoldeb staff (gweler pennod pedwar).

Cynnwys Aelodau’r Cyhoedd

Fe wnaethom hyn trwy:

•Redeg ymgynghoriad ar-lein er mwyn i staff ac aelodau’r cyhoedd roi sylwadau ar y blaenoriaethau cydraddoldeb (canlyniadau a chamau) roedd ein sefydliad wedi’u nodi. Rhannwyd yr wybodaeth yn eang ac roedd ar gael mewn fformatau amgen ac mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Darparodd canlyniadau hyn sail i ddatblygiad y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu

•Anfon post torfol i lyfrgelloedd ledled Cymru ac at sefydliadau cymunedol sy’n cynrychioli pob un o’r meysydd cydraddoldeb, gan wahodd sylwadau i’w hystyried

•Casglu adborth ac awgrymiadau oddi wrth ymwelwyr ag Adeilad y Senedd a’r Cynulliad

•Gweithio â chysylltiadau mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i gasglu tystiolaeth a barn ynghylch sut gallwn wella ein gwasanaethau

•Rhoi cyhoeddusrwydd i’r ymgynghoriad mewn sefydliadau cymunedol ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb; oedran, anabledd, rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd/credo, cyfeiriadedd rhywiol

•Ymgysylltu â’r cyhoedd mewn digwyddiadau yn y gymuned

Cynnwys y Staff

Gofynnwyd i feysydd gwasanaeth yn ein sefydliad nodi eu canlyniadau cydraddoldeb blaenoriaethol a’r camau y byddai angen iddynt eu cymryd i gyflawni’r canlyniadau hyn. Cafodd canlyniadau’r ymarfer hwn eu cynnwys yn ein dogfen ymgynghori gyhoeddus.

Cynhaliwyd grwpiau ffocws staff i drafod materion penodol yn ymwneud â’r gweithlu a sut gallem o bosibl nodi meysydd lle rydym yn effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau, a lle gallem o bosibl wella hefyd. Roedd holiadur ar ffurf e-bost ar gael i’r holl staff roi eu sylwadau a’u barn. Mae canlyniadau o’r holiadur hwn wedi’u hymgorffori yn y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Rhoddodd ein Rhwydwaith Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a’n Rhwydwaith Staff Anabl adborth inni, a chyfrannu at ddatblygiad y Cynllun. Ceisiwyd barn staff o dras ethnig leiafrifol trwy ymgynghori mewnol, ac rydym yn rhagweld y bydd rhwydwaith staff yn cael ei sefydlu i’w cefnogi.

Darparodd ein Grŵp Llywio Cydraddoldeb ffynhonnell werthfawr o adborth ar faterion cydraddoldeb a datblygiad y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Gwnaeth y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad hefyd gofnodi awgrymiadau oddi wrth staff yn ystod y cyfnod ymgynghori, a chasglu adborth oddi wrth staff ar secondiad o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Cynnwys Ochr yr Undebau Llafur (TUS)

Bu Undebau Llafur y Cynulliad yn ymwneud â datblygu a chreu fersiwn derfynol y Cynllun. Mae TUS yn bendant yn cefnogi dull Comisiwn y Cynulliad o fynd ati i gyflawni’i amcanion cydraddoldeb, gan gydnabod bod angen ymgynghori ar unrhyw flaenoriaethau a nodir a allai effeithio ar staff a, lle bo'n briodol, cytuno ar newidiadau i delerau neu amodau staff.

Aelodau’r Cynulliad a’u Staff

Gwahoddwyd aelodau i ymateb i holiadur byr ar ffurf e-bost, rhoi adborth yng nghyd-destun y gwasanaeth a ddarperir iddynt a dweud sut gall Comisiwn y Cynulliad fod yn sefydliad sy’n esiampl dda wrth hybu hawliau dynol a chydraddoldeb. Ystyriwyd awgrymiadau wrth ddatblygu’r Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad hefyd yn cael adborth rheolaidd oddi wrth Gomisiwn y Cynulliad ar ei flaenoriaethau o ran cydraddoldeb. Mae Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad hefyd yn craffu ar gynnydd Comisiwn y Cynulliad wrth gyflawni’i amcanion cydraddoldeb, ac mae’n rhoi adborth yn ei gyfarfodydd.

Cynnwys Pobl Anabl wrth Ddatblygu’r Cynllun

Rydym wedi ystyried awgrymiadau oddi wrth staff anabl ac ymwelwyr anabl â’r Senedd ynghylch sut gallem wella mynediad corfforol a mynediad at wybodaeth a chyfranogiad. Mae’r rhain wedi’u hymgorffori yn ein Cynllun Gweithredu.

Mae ein Fforwm Defnyddwyr Anabl allanol sydd newydd ei sefydlu’n cynnwys pobl anabl o bob cwr o Gymru, ac mae’n gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer materion yn ymwneud â mynediad a hybu cydraddoldeb i bobl anabl.

Cynnwys Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig wrth Ddatblygu’r Cynllun

Adeg datblygu’r Cynllun, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cymryd rhan mewn cynllun cysgodi Aelodau’r Cynulliad gydag Ymgyrch y Bleidlais Ddu. Gwahoddwyd cyfranogwyr o grwpiau pobl Dduon, pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i roi sylwadau ar y Cynllun a’i ddatblygiad a gwnaethom ofyn sut gallem ymgysylltu â phobl o dras ethnig leiafrifol, ehangu cyfranogiad a denu cyflogeion posibl. Rydym yn ddiolchgar i’r cyfranogwyr am rannu ein gwybodaeth ymhlith eu grwpiau lleiafrifoedd ethnig lleol ac am ddod â gwybodaeth yn ôl atom.

Aethom hefyd â chopïau wedi’u cyfieithu o’n dogfen ymgynghori i nifer o grwpiau lleiafrifoedd ethnig gan wahodd sylwadau. Mae awgrymiadau wedi’u hymgorffori yn y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Ar hyn o bryd, rydym yn pennu hyd a lled Cynllun Mentora’r Cynulliad ac Awdurdodau Lleol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan adeiladu ar ein profiad o gynnal Cynllun Cysgodi Ymgyrch y Bleidlais Ddu.

Monitro Adborth

Rydym yn monitro ceisiadau am fformatau hygyrch o wybodaeth, yn monitro gwybodaeth am archwiliadau hygyrchedd ac yn monitro gweithgareddau rhoi cyfarpar a chyfleusterau presennol a newydd ar brawf gyda’r defnyddwyr. Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad hefyd yn cael adborth oddi wrth ymwelwyr a staff ar bolisïau a gwasanaethau, gan gynnwys sylwadau oddi wrth ymwelwyr â’r Senedd.

Mae gennym hefyd system ffurfiol ar waith i ddelio â chwynion. Mae’r holl gwynion yn cael eu monitro ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella ein harferion gweithio lle bo’n briodol.

Tystiolaeth o Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb

Mae polisïau, strategaethau a gweithdrefnau’n cael eu hasesu o safbwynt effaith ar gydraddoldeb, a defnyddir tystiolaeth o’r broses hon i ddatblygu, dileu neu newid polisi neu strategaeth.

Adolygu ein Cynlluniau Blaenorol ar Gydraddoldeb o ran Rhywedd, Hil ac Anabledd

Mae camau perthnasol a pharhaus o’n cynlluniau blaenorol ar gydraddoldeb o ran rhywedd, hil ac anabledd wedi'u hadolygu a'u hymgorffori yn ein Cynllun Gweithredu.

Wrth adolygu’r cynlluniau blaenorol, gwnaethom nodi’r angen yn y dyfodol i ganolbwyntio ar ein camau a’n canlyniadau cydraddoldeb blaenoriaethol allweddol.

4. Comisiwn y Cynulliad fel Cyflogwr

Fel cyflogwr, rydym yn sicrhau bod ein polisïau a’n harferion cyflogi’n cael eu cyflawni gan ddilyn dull arfer gorau o drin cydraddoldeb. Yn y bennod hon, rydym wedi nodi’r hyn rydym, yn ein barn ni, yn ei wneud yn dda fel cyflogwr o ran cyfle cyfartal, a meysydd lle gallem ni wella.

Monitro Data Cyflogaeth

Mae casglu data yn rhoi tystiolaeth inni ac yn ein helpu i weld p’un a yw unrhyw rai o’n polisïau a’n harferion gweithio’n anfwriadol yn effeithio’n niweidiol ar unrhyw unigolion neu grwpiau o staff.

Rydym yn cipio data sefydliadol yn ôl rhywedd, ethnigrwydd, anabledd ac oedran yn achos:

•nifer y staff mewn swydd;

•lefel y ceisiadau a dderbynnir ac ym mhob cam o’r broses recriwtio, h.y. sifftio, asesu, cyfweld a phenodi;

•nifer y staff sy’n ennill dyrchafiad;

•nifer y staff sy’n manteisio ar hyfforddiant;

•nifer y staff sy’n cael eu hystyried yn berfformwyr anfoddhaol;

•nifer y staff sydd a wnelo â gweithdrefnau cwyno;

•nifer y staff sy’n destun gweithdrefnau disgyblu; a

•nifer y staff nad ydym bellach yn eu cyflogi.

Rydym yn cydnabod bod arnom angen gwella ein mecanweithiau casglu data cyflogaeth. Y rheswm am wneud hyn yw i asesu p’un a oes unrhyw dueddiadau neu effeithiau gwahanredol sy’n effeithio ar y grwpiau hyn. Gall fod anhawster wrth gyrchu data gan fod yna ffactorau anhysbys yn aml e.e. mae’n bosibl bod yna aelodau o staff nad ydynt yn datgelu anabledd gan nad ydynt yn ystyried bod ganddynt anabledd, neu gan eu bod yn teimlo’n anghyfforddus yn datgelu’r wybodaeth hon.  Gall systemau cefnogi gweithwyr, fel grwpiau rhwydwaith, hyfforddiant ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn aml dawelu meddwl staff a rhoi cymorth a chyfarwyddyd iddynt.

Rheoli Gwybodaeth Adnoddau Dynol

Adeg cyhoeddi hwn, mae ein Tîm Adnoddau Dynol yn gwella’i system rheoli gwybodaeth TG i alluogi staff i fewnbynnu a newid eu data personol eu hunain. Yn ogystal â gwybodaeth ar gyfer pob aelod o staff ynglŷn ag oed, rhywedd a gradd, mae gan y system y potensial i staff fewnbynnu data personol ar anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol. Bydd gwybodaeth yn gyfrinachol ond gellir cael data generig o’r system. Y disgwyl yw y bydd hwn yn cael ei ddatblygu yn 2009-10 a byddwn yn archwilio i weld pa mor ddichonol a phriodol fyddai defnyddio’r system i gasglu data.

Proffil Gweithlu - Arolwg Monitro Cydraddoldeb Staff

Cynhaliwyd Arolwg Monitro Cydraddoldeb yr holl staff fis Mawrth 2008, a gofynnwyd i staff ddatgan yn ddienw eu hoedran, eu rhywedd, eu gradd, unrhyw anabledd, eu hil, eu crefydd/credo a’u cyfeiriadedd rhywiol. Cynlluniwyd hwn i gael proffil o’n gweithlu o ran cydraddoldeb. Rhoddwyd cyfle hefyd i staff gynnig unrhyw awgrymiadau i wella cyfle cyfartal i’n gweithlu. Ystyriwyd yr awgrymiadau hyn yn ein Cynllun Gweithredu.

Roedd yr arolwg yn wirfoddol, ac ymatebodd 76% o’n gweithlu. Ein bwriad yw ailgynnal yr arolwg bob tair blynedd yn unol ag oes y Cynllun.

Lle mae gennym ddata o’n system TG Adnoddau Dynol bresennol, rydym wedi eu defnyddio isod ar gyfer oedran, rhywedd a gradd.

Ffigur 1: Oedran (Ar 31 Mawrth 2008)

Oedran <20 - Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 2; % yn ôl grwp oedran: 1%          
Oedran 20–24 - Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 29; % yn ôl grwp oedran: 9%          
Oedran 25-29- Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 56; % yn ôl grwp oedran: 17%          
Oedran 30–34 - Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 51; %yn ôl grwp oedran: 16%          
Oedran 35–39 - Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 30; % yn ôl grwp oedran: 9%          
Oedran 40-44 - Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 33; % yn ôl grwp oedran: 10%          
Oedran 45–49 - Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 41; %yn ôl grwp oedran: 13%          
Oedran 50-54- Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 29; % yn ôl grwp oedran: 9%          
Oedran 55–59 - Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 33; % yn ôl grwp oedran:10%          
Oedran >60 - Nifer y staff (yn ôl grwp oedran): 19; % yn ôl grwp oedran: 6%          

Nifer y staff: 323

Ffigur 2: Rhywedd yn ôl Gradd (Ar 31 Mawrth 2008)

Gradd: Cymorth Tîm; Menywod: 33; Dynion: 86; Cyfanswm: 119
Gradd: Ysgrifennydd Personol; Menywod: 3; Dynion: 0; Cyfanswm: 3
Gradd: Swyddog Gweithredol; Menywod: 29; Dynion: 26; Cyfanswm: 55
Gradd: Swyddog Gweithredol Uwch; Menywod: 54; Dynion: 22; Cyfanswm: 76
Gradd: Uwch-swyddog Gweithredol; Menywod:18; Dynion: 16; Cyfanswm: 34
Gradd: G7; Menywod: 12; Dynion: 12; Cyfanswm: 24
Gradd: G6; Menywod: 4; Dynion: 2; Cyfanswm: 6
Gradd: G3; Menywod: 1; Dynion: 2; Cyfanswm: 3
Gradd: G2; Menywod: 1; Dynion: 0; Cyfanswm: 1
Gradd: Ar gyflog misol; Menywod:0; Dynion: 2; Cyfanswm: 2

Nifer y menywod: 155
Nifer y dynion: 168
Nifer y staff: 323

Lle nad oes gennym ddata Adnoddau Dynol ar gyfer anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd/credo, rydym wedi defnyddio canlyniadau’r arolwg. Nid ydym wedi rhoi dadansoddiad o’r wybodaeth hon, er mwyn amddiffyn preifatrwydd staff.  

Ffigur 3 - Anabledd. (Ar 31 Mawrth 2008). Siart cylch yn dangos proffil gweithlu Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran anableddau. Nam corfforol 5%; Anabledd arall 3.3%, Dewis peidio ag ateb 3.8%; Dim anabledd 87.9%

Dywedodd 87.9 y cant o ymatebwyr nad oedd ganddynt anabledd.

Roedd gan 5 y cant o ymatebwyr nam corfforol, ac roedd gan 3.3 y cant fath gwahanol ar anabledd. Roedd y rhain yn cynnwys y categorïau a ganlyn: anabledd/anhawster dysgu, nam ar y synhwyrau, cyflwr iechyd meddwl ac afiechyd neu gyflwr iechyd arall ers tro.

Nid oedd 3.8 y cant o ymatebwyr yn dymuno ateb y cwestiwn ar anabledd.

Ffigur 4 - Hil. (Ar 31 Mawrth 2008). Siart cylch yn dangos proffil gweithlu Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran hil. Grwp cymysg neu ethnig 1.7%; Dewis peidio ag ateb 2.1%; Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig 1.7%; Du, Du Cymreig neu Ddu Prydeinig 1.7%; Gwyn 92.9%.

O’r gweithwyr a wnaeth ymateb i’r arolwg, roedd 92.9 y cant yn wyn a 5.0 y cant heb fod yn wyn. Mae hyn yn cymharu â phoblogaeth heb fod yn wyn o 4.5 y cant yn ardal teithio i’r gwaith Caerdydd, fel y’i diffinnir yn swyddogol .

Roedd 77 y cant o’r bobl a gofnododd eu bod yn wyn yng nghategori Gwyn Cymreig.

Dewisodd 2.1 y cant beidio ag ateb y cwestiwn ar hil.

Ffigur 5:  Cyfeiriadedd Rhywiol. (Ar 31 Mawrth 2008). Siart cylch yn dangos proffil gweithlu Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran cyfeiriadedd rhywiol. Dewis peidio ag ateb 4.6%; Deurywiol 1.7%; Lesbiaidd neu Hoyw 2.5%; Heterorywiol 91.2%.

 

Roedd 91.2 y cant o’r rheiny a ymatebodd i’r arolwg yn heterorywiol.

Roedd cyfanswm y gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn 4.2 y cant o’r rheiny a wnaeth ymateb.

Nid oedd 4.6 y cant o bobl yn dymuno cofnodi eu cyfeiriadedd rhywiol.

Ffigur 6 - Crefydd/Credo. (Ar 31 Mawrth 2008). Crefydd/Cred. Siart cylch yn dangos proffil gweithlu Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran crefydd a chred. Dewis peidio ag ateb 7.5%; Cristion 49.0%; Bwdaidd, Hindw, Iddewig, Moslemaidd neu Sîc 2.9%; Arall 1.7%; Dim 38.9%.

O’r bobl a wnaeth ymateb i’r arolwg, Cristnogion oedd y grŵp crefyddol mwyaf (49 y cant).

Dywedodd yr ail grŵp o ran maint (38.9 y cant) nad oedd ganddynt gredo crefyddol.

Dewisodd 7.5 y cant beidio ag ateb y cwestiwn ar grefydd.

Materion yn Codi i’r Gweithlu yng Nghyd-destun yr Arolwg Staff a Data Presennol

Oedran: ni chodwyd unrhyw faterion

Anabledd: roedd yn well gan rai staff beidio ag ateb y cwestiwn ar anabledd yn yr arolwg staff, sydd o bosibl yn awgrymu bod angen mwy o gymorth ar gyfer staff anabl. Mecanwaith i gefnogi ein staff anabl a thawelu eu meddwl yw ein Rhwydwaith Staff Anabl.

Rhywedd: lle ceir anghydbwysedd o ran rhywedd yn y graddau, byddwn yn adolygu unrhyw resymau tebygol ac yn mynd i’r afael â nhw.

Er na wnaeth unrhyw aelod o staff ddatgan eu bod yn drawsrywiol, mae arnom angen teimlo’n hyderus, fel sefydliad, y gallwn gefnogi aelodau newydd o staff neu aelodau presennol o staff pe byddent yn dod yn/ystyried dod yn drawsrywiol.

Hil: mae arnom angen sicrhau ein bod yn parhau i ddenu gweithlu amrywiol ac y gallwn fesur ein perfformiad yn y maes hwn trwy nifer yr ymgeiswyr rydym yn eu denu o gefndiroedd amrywiol. Gweler y paragraff ar Recriwtio a Dethol.

Crefydd/Credo: ni chodwyd unrhyw faterion

Cyfeiriadedd Rhywiol: Eto, roedd yn well gan rai staff beidio ag ateb y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol yn yr arolwg staff, sydd o bosibl yn awgrymu bod angen mwy o gymorth ar gyfer staff sy’n Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Mecanwaith i gefnogi’n staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a thawelu eu meddwl yw’n Rhwydwaith Staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol.  

Strategaeth y Bobl Comisiwn y Cynulliad

Mae ein Strategaeth y Bobl 2008-2011 yn esbonio sut byddwn, fel sefydliad, yn recriwtio, yn arwain, yn datblygu, yn cefnogi ac yn rheoli ein staff dros y tair blynedd nesaf.

Bydd Comisiwn y Cynulliad hefyd yn gwneud cais am statws Buddsoddwr mewn Pobl (BmP) a fydd yn ein helpu i reoli ac asesu ein buddsoddiad mewn dysgu a datblygu mor effeithiol â phosibl.

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Mae Busnes y Cynulliad (e.e. cyfarfodydd llawn a phwyllgorau) yn gweithredu ar sail egwyddor oriau gwaith ystyriol o deuluoedd: osgoir rhoi Busnes y Cynulliad ar yr amserlen cyn 9.00am neu ar ôl 6.00pm ar ddiwrnod gwaith lle bo’n bosibl. Mae nifer o opsiynau gweithio hyblyg yn agored fel bod staff a staff sydd â chyfrifoldebau gofal yn gallu cydbwyso ymrwymiadau yn y gwaith ac yn y cartref. Ymhlith y rhain mae oriau gwaith cywasgedig, gweithio rhan-amser, gweithio yn ystod tymhorau ysgol, rhannu swydd, gweithio gartref a chyfleoedd ar gyfer seibiant gyrfa. Credwn ein bod yn gyflogwr sy’n esiampl dda yn nhermau bodloni anghenion amrywiol ein staff o ran trefniadau gweithio hyblyg.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod anghenion busnes yn cyfyngu ar allu rhai grwpiau o staff i gymryd cyfleoedd gweithio hyblyg, ac felly nid ydynt yn gallu manteisio ar y patrymau gweithio hyblyg hyn. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd rheolwyr yn ystyried anghenion unigol cydweithwyr lle bo’n bosibl.

Cyflog Cyfartal

Bydd egwyddor cyflog teg a chyfartal wrth wraidd ein Strategaeth Gyflogau sy’n dod i’r amlwg. Adeg cyhoeddi’r Cynllun hwn, ychydig dystiolaeth sydd ar gael i awgrymu bod unrhyw anghyfartaleddau cyflog yn bodoli. Mae yna raddfeydd cyflog byr a chynyddrannol yn ein system gyflogau ar hyn o bryd, sy’n gallu cyfrannu’n sylweddol at liniaru gwahaniaethau o ran cyflog. Fodd bynnag, fel rhan o’n trafodaethau cyflog yn 2010, byddwn yn cynnal archwiliad cyflog cyfartal a bydd y canlyniadau’n sail i’n Strategaeth Gyflogau newydd.

Mae menywod sy'n dychwelyd wedi absenoldeb mamolaeth yn ailymuno â’r raddfa gyflog ar y pwynt lle byddent wedi bod pe na fyddent wedi bod yn absennol.  

Beichiogrwydd,  Absenoldeb Mamolaeth ac Absenoldeb Tadolaeth

Rydym hefyd o’r farn ein bod yn gyflogwr sy’n esiampl dda yn achos beichiogrwydd, absenoldebau mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth, gan roi buddion sy’n rhagori’n sylweddol ar hawliau statudol. Bydd unrhyw fenyw feichiog sy’n cael ei chyflogi’n barhaol, ac sydd mewn gwasanaeth cyflogedig adeg cychwyn ei habsenoldeb mamolaeth ac sydd wedi bod felly am o leiaf 12 mis, yn cael absenoldeb chwe mis ar gyflog llawn, ac yna tri mis ar daliad mamolaeth statudol gyda’r opsiwn o dri mis arall o absenoldeb di-dâl. Ceir hefyd y posibilrwydd o absenoldeb arbennig heb dâl, h.y. seibiant gyrfa, am gyfnod o hyd at bum mlynedd ar ôl cwblhau’r 52 wythnos (â thâl ac yn ddi-dâl) o absenoldeb mamolaeth (yn amodol ar feini prawf perfformiad a phresenoldeb).

Mae absenoldeb mabwysiadu ar gael ar yr un sail ag absenoldeb mamolaeth. Mae absenoldeb tadolaeth (sy’n cynnwys absenoldeb cyd-riant i gyplau o’r un rhyw) yn galluogi’r cyd-riant i gael cyflog llawn yn ystod ei hawl absenoldeb tair wythnos. Gall staff hefyd wneud cais am absenoldeb arbennig i ddelio ag argyfyngau yn y cartref ac am absenoldeb Rhiant di-dâl am gyfnod o hyd at 13 wythnos, neu 18 wythnos yn achos plentyn anabl.

Recriwtio a Dethol

Mae ein proses recriwtio’n defnyddio fframwaith seiliedig ar gymwyseddau i recriwtio staff. Mae gwybodaeth am ein proses recriwtio ar gael ar ein gwefan.

Yn ystod y broses ddethol, rydym yn defnyddio paneli recriwtio cytbwys o ran rhywedd. Mae ein sefydliad hefyd yn cymryd rhan yng Nghynllun Dau Dic - Positif ynghylch Anabledd y Ganolfan Waith; rhoddir gwarant o gyfweliad i bobl anabl sy’n gwneud cais, cyn belled â’u bod yn bodloni isafswm y meini prawf mewn proses sifftio.

Rydym hefyd wedi trefnu i’n harferion recriwtio gael eu hadolygu’n allanol er mwyn sicrhau nad ydynt yn creu rhwystr i bobl o dras ethnig leiafrifol sy’n gweithio inni, neu a allai o bosibl weithio inni.

Rhaid inni sicrhau na fydd ein polisïau a’n harferion recriwtio (e.e. lle rydym yn hysbysebu neu sut byddwn yn rhannu cyfleoedd â’r cyhoedd) yn ffurfio rhwystrau i bobl sydd am wneud cais am waith â ni. Rydym yn defnyddio allgymorth/ymweliadau ac rydym wrthi’n datblygu aseiniadau yn y gweithle i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i geisio lledu ein cynulleidfa recriwtio. Mae’r Cynllun Gweithredu wedi mynd i’r afael â’r materion hyn, gan gynnwys ystyried gwahanol ddulliau o fynd ati i hysbysebu recriwtio gan ymgynghori’n llawn â chydweithwyr Ochr yr Undebau Llafur.

Dysgu a Datblygu

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu, ffurfiol ac anffurfiol i’n staff.

Bydd ystyriaethau cydraddoldeb hefyd wedi’u hymgorffori yng ngwaith cyflenwi ein Rhaglen Arweinyddiaeth newydd. Nod y Rhaglen yw dadansoddi ein gallu i arwain ar hyn o bryd, a darparu gweithgareddau datblygu i wella arweinyddiaeth nawr ac yn y dyfodol. Ar y dechrau, bydd y Rhaglen yn ymgysylltu ag uwch reolwyr, ond wrth iddi fynd yn ei blaen, cyflwynir gweithgareddau datblygu’n ehangach fesul cam.

Hyfforddiant Cydraddoldeb a Rhaglen Codi Ymwybyddiaeth

Mae hyfforddiant cydraddoldeb wedi’i gynnwys yn ein pecyn Hyfforddiant Cynefino ar gyfer aelodau newydd o staff.

Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn gweithio gyda meysydd gwasanaeth ledled y sefydliad i ddatblygu hyfforddiant cydraddoldeb craidd ar y Cynllun Cydraddoldeb, a chodi ymwybyddiaeth yr holl staff. Bydd hyfforddiant wedi’i lunio’n benodol ym maes cydraddoldeb yn cael ei nodi a’i ddatblygu gyda staff, yn gysylltiedig ag anghenion busnes y meysydd gwasanaeth, a bydd yn cynnwys hyfforddiant ar ofynion dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Cymorth i Gyflogeion

Herio Aflonyddu a Bwlio

Mae Polisi Urddas yn y Gweithle’r Cynulliad ar waith i sicrhau staff a gweithwyr a allai weithio inni na chaniateir unrhyw ffurf ar aflonyddu na bwlio. Rhy’r polisi gyfle i ymchwilio’n ffurfiol ac yn anffurfiol. Rydym yn ystyried, mewn partneriaeth â’n cydweithwyr Ochr yr Undebau Llafur, sut gellir diwygio’r polisi i fod yn gyson â’r Cynllun Cydraddoldeb hwn. Pan cytunir ar newidiadau, byddwn yn trefnu hyfforddiant gloywi i staff i sicrhau eu bod yn llwyr ymwybodol o oblygiadau ac effeithiau eu hymddygiad ar eraill.

Ar hyn o bryd, mae gennym ddau swyddog aflonyddu hyfforddedig. Rydym yn cydnabod bod angen hyfforddi a phenodi mwy o staff i ddod yn swyddogion aflonyddu a swyddogion ymchwilio, a hefyd penodi ymchwilwyr allanol pan fo angen i’n helpu i drin achosion mwy cymhleth.

Rhwydweithiau Staff

Mae gennym Rwydwaith Staff Anabl a Rhwydwaith Staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol y mae’r staff yn eu rhedeg ar gyfer y staff, ac mae Comisiwn y Cynulliad yn cydnabod y ddau yn ffurfiol ac mae ganddynt ill dau eu cyllidebau eu hunain. Diben y rhwydweithiau yw bod yn rhwydweithiau cymorth ar gyfer staff anabl a staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, a darparu gwybodaeth ar gyfer datblygu polisi trwy ymwneud ag asesu effaith ar gydraddoldeb a dulliau eraill o ymgynghori.

Byddwn yn defnyddio profiad y Rhwydwaith Staff Anabl a’r Rhwydwaith Staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol i sefydlu rhwydwaith ar gyfer staff o dras ethnig leiafrifol.

Iechyd Corfforaethol

Mae’r gwasanaethau a ganlyn ar gael i hybu ac annog lles yr holl staff:

•Mae pob aelod o staff yn cael asesiad cyfarpar sgrin arddangos;

•Gwasanaeth cwnsela annibynnol 24 awr sy’n agored i’r holl staff yw’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr;

•Mynediad at nyrs iechyd galwedigaethol a swyddog meddygol;

•Cynhelir asesiadau risg i famau beichiog, mamau newydd a mamau sy’n bwydo o’r fron; a

•Hybir ymgyrchoedd iechyd.

5. Rhoi Cymorth i Aelodau’r Cynulliad

Briffio ar gyfer Cyfarfodydd Llawn, Pwyllgorau ac Ateb Ymholiadau

Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau’n darparu gwasanaeth i Aelodau wrth ateb eu hymholiadau a darparu gwybodaeth sy’n galluogi Aelodau i weithredu’n effeithiol mewn cyfarfodydd llawn ac mewn pwyllgorau. Mae ystyriaethau cydraddoldeb yn cael eu cadw mewn ystyriaeth yn ystod briffio ymchwil ac mae gweithredodd angenrheidiol wedi’u hymgorffori yn y Cynllun Gweithredu.

Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau a Thîm y Gwasanaethau Cyfreithiol hefyd yn briffio’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal.

Iechyd Galwedigaethol/Swyddfeydd Hygyrch

Mae Aelodau’r Cynulliad a’u staff yn cael asesiadau cyfarpar sgrin arddangos, yn gallu mynd at nyrs alwedigaethol Comisiwn y Cynulliad, ac mae ganddynt hawl i wneud cais am addasiadau i wneud eu swyddfeydd etholaeth yn hygyrch pe bai galw.

Mae Swyddog Cydraddoldeb a Mynediad Comisiwn y Cynulliad ar gael i roi cyfarwyddyd i Aelodau’r Cynulliad ar faterion yn ymwneud â mynediad.

Cyngor a Chyfarwyddyd ar Faterion Cydraddoldeb

Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad, ar y cyd â’r Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol, yn darparu cyngor a chyfarwyddyd i Aelodau’r Cynulliad o ran cydraddoldeb, hawliau dynol a materion mynediad. Gall y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad hefyd weithredu ar awgrymiadau oddi wrth Aelodau’r Cynulliad i wella mynediad a hybu cydraddoldeb.

Mae Aelodau’r Cynulliad yn cyflogi’u staff eu hunain (ymchwilwyr a staff swyddfa). Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn rhoi cyngor ar eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr i Aelodau’r Cynulliad, o ran deddfwriaeth gydraddoldeb ac arfer gorau.

6. Mynediad i’n Hadeiladau, ein Gwybodaeth a’n Trafodion

Mynediad i’n Hadeiladau

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi’i leoli yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd ac mae ganddo hefyd swyddfa ym Mae Colwyn.  Mae adeilad y Pierhead hefyd yn darparu swyddfeydd a lle i gynnal arddangosfeydd a chynadleddau i Gomisiwn y Cynulliad. Ceir ystafelloedd addysg hefyd yn Nhŷ Hywel, sy’n adnodd ar gyfer ysgolion sy’n ymweld.

Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe’i hagorwyd ar 1 Mawrth 2006. Mae yno siambr drafod, tair ystafell bwyllgor ac ardaloedd cyhoeddus eraill.

Comisiynwyd archwiliad mynediad annibynnol ar ddechrau 2006, a gwnaeth rai argymhellion a fyddai’n gwella ac yn cynyddu mynediad cyffredinol i’r adeilad ar gyfer pobl anabl.  Rhoddwyd llawer o’r argymhellion hynny ar waith eisoes ac mae eraill yn cael eu hystyried neu ar y gweill fel rhan o waith cynnal a chadw parhaus ar yr adeilad.

Yn ogystal, mae addasiadau i Dŷ Hywel yn cynnwys gwella mynediad ar gyfer staff anabl, Aelodau’r Cynulliad ac ymwelwyr â’r adeilad. Bydd addasiadau o’r fath hefyd yn gwella mynediad i bobl sydd ag anghenion o ran synhwyrau a/neu symudedd a rhieni â phlant ifanc. Bydd y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Rheoli Cyfleusterau, Ochr yr Undebau Llafur, y Swyddog Iechyd a Diogelwch, y Rhwydwaith Staff Anabl a’r Fforwm Defnyddwyr Anabl i gynyddu a gwella mynediad i'r holl adeiladau yn ystâd y Cynulliad Cenedlaethol.

Mynediad at Wybodaeth

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i sicrhau y darperir yr holl wybodaeth mewn modd sy’n hygyrch i holl Aelodau’r Cynulliad a’u staff, staff Comisiwn y Cynulliad a’r cyhoedd.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei wefan ei hun: http://www.cynulliadcymru.org/index.htm

Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ei fusnes a sut gall y cyhoedd chwarae rhan. Rydym yn croesawu adborth am ein gwefan ac yn gwneud addasiadau i’w gwneud yn fwy hygyrch lle bo angen.

Mae’r Cynulliad yn cynhyrchu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd mewn nifer mawr o fformatau gwahanol, gan gynnwys cyhoeddiadau, taflenni gwybodaeth i’r cyhoedd, llythyrau, dogfennau ymgynghori, y Rhyngrwyd ac adroddiadau ar fusnes y Cynulliad. Gellir sicrhau bod gwybodaeth ar gael, heb godi ffi, mewn ieithoedd eraill yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), Darllen Hawdd a fformatau hygyrch eraill, ar gais rhesymol. Cyhoeddir yr wybodaeth hon mewn copi caled ar ffurf dogfennau, mewn fformat electronig ac ar safle Rhyngrwyd y Cynulliad.  

Cyfathrebu a Chyhoeddiadau

Mae’r Tîm Cyfathrebu Allanol yng Nghomisiwn y Cynulliad yn datblygu dull o fynd ati i wneud cyfathrebu a chyhoeddiadau’n hygyrch.  Cyhoeddir hyn yn 2009 a bydd yn cynnwys protocol ar wybodaeth hygyrch.  

Fforwm Defnyddwyr Anabl

Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu ystafelloedd i Fforwm Defnyddwyr Anabl allanol. Mae’r Fforwm yn darparu gwybodaeth a chyngor hanfodol ar bolisïau newydd, polisïau sydd eisoes yn bodoli, darpariaeth gwasanaethau a gweithdrefnau, er mwyn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth a sicrhau bod ein gwasanaethau a’n hadeiladau’n hygyrch.  Pobl anabl o bob cwr o Gymru yw aelodau’r Fforwm, ac mae’n cynnwys trawsgynrychiolaeth o sefydliadau Anabledd ac unigolion.

Trafodion Hygyrch

Mae Datganiad Hygyrchedd ar gael ar wefan Comisiwn y Cynulliad.  Mae hwn hefyd ar gael ar ffurf copi caled oddi wrth y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad ac ar ddesgiau’r dderbynfa yn y Senedd a Thŷ Hywel.  

Lluniwyd y Datganiad Hygyrchedd i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth, tystion, a siaradwyr mewn pwyllgorau, Cyfarfodydd Llawn a holl gyfarfodydd Busnes y Cynulliad, a bydd yn galluogi unigolion i gyrchu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau y mae ein sefydliad yn eu darparu. Os oes unrhyw ofynion penodol y tu hwnt i ddarpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Datganiad Hygyrchedd, gwahoddir unigolion i drafod eu hanghenion â Llinell Archebu’r Cynulliad neu’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad a bodlonir pob cais rhesymol pa bryd bynnag y bo’n bosibl ac yn ymarferol.

Ymweliadau a Theithiau Tywysedig

Croesewir grwpiau o ymwelwyr sydd wedi archebu ymlaen llaw yn y Senedd a bydd Tywyswyr Teithiau’n eu tywys o amgylch yr adeilad. Gellir archebu’r teithiau ac ymweliadau ymlaen llaw a gellir darparu Lladmerydd BSL - gofynnir am 28 diwrnod o rybudd.  Mae rhai aelodau o’n staff ar y rheng flaen hefyd yn gallu defnyddio BSL i gyfarfod ag ymwelwyr a’u croesawu.

Cynigir y cyfle i ddysgu BSL hefyd i holl staff Comisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad.

Gosodwyd dolenni sain ar gyfer defnyddwyr cymhorthion clyw yn orielau cyhoeddus y Senedd.  Gosodwyd dolenni sain hefyd yn nesgiau’r derbynfeydd yn y Senedd, Tŷ Hywel, adeilad y Pierhead a swyddfa Bae Colwyn.  

Adborth

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gwerthfawrogi adborth ac yn ei groesawu oddi wrth ein holl ddefnyddwyr gwasanaeth.  Mae’r Tîm Gwasanaethau Ymwelwyr yn ymateb i ymholiadau, sylwadau ac awgrymiadau y mae’n eu derbyn oddi wrth y cyhoedd, ymwelwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

Senedd TV

Gellir hefyd gwylio trafodion yn y Senedd yn fyw ar y Rhyngrwyd yn http://www.senedd.tv.

S4C2

Dangosir rhai o’r trafodion yn fyw ar y teledu ar S4C2.  Yna bydd y trafodion yn cael eu hailddarlledu wythnos yn ddiweddarach ar fore Mawrth, a rhoddir is-deitlau ar y fersiwn wedi’i recordio, ynghyd â lladmerydd BSL.

7. Caffael

Fel sefydliad, rydym am sicrhau bod cyflenwyr allanol, pan fyddwn yn eu defnyddio i ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, yn dal at ein dyheadau o ran cydraddoldeb ac yn eu hadlewyrchu.

Byddwn yn sicrhau bod ein cyflenwyr yn ymwybodol o ofynion ein Cynllun Cydraddoldeb a bod ganddynt brosesau cadarn i warchod rhag anghydraddoldeb.  Ni fyddem yn cynnwys contractwyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf tendro gofynnol neu nad ydynt wedi ymrwymo i’w bodloni h.y. cydymffurfio â dyletswyddau o ran hil, anabledd a rhywedd ac ymrwymiad i’r meysydd cydraddoldeb eraill.

Mae ein Llawlyfr Caffael i staff yn ddogfen ddynamig sy’n rhoi cyngor ymarferol i staff ar ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb mewn prosesau caffael. Adlewyrchir gofynion deddfwriaethol newidiol ar gyfer cydraddoldeb yn y Llawlyfr Caffael yn dilyn cyngor y Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad.

Rydym yn ymdrechu i fireinio ein gweithdrefnau caffael i fonitro yn well ystyriaethau cydraddoldeb y manylir arnynt yng nghynigion tendro contractwyr, mewn partneriaeth â Gwerth Cymru.

8. Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb

Yn unol â gofyniad dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus o ran hil, rhywedd ac anabledd, mae ein sefydliad yn asesu effaith debygol polisïau a strategaethau perthnasol ar gydraddoldeb. Rydym yn golygu trwy hyn ein bod, pan rydym yn cynnig polisi neu strategaeth newydd, yn gofyn cwestiynau i bennu p’un a fydd unrhyw grŵp o bobl dan anfantais oherwydd y polisi. Er enghraifft, pe byddem yn llunio polisi parcio ceir i’n gweithwyr, byddem yn gwirio p’un a fyddai hyn yn effeithio ar grwpiau penodol, er enghraifft staff anabl, gweithwyr sifft ac ati.

Adeg cyhoeddi, mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad wrthi’n adolygu ac yn gwella ein hofferyn asesu effaith ar gydraddoldeb, gyda chymorth cyngor allanol. Rydym yn alinio’r offeryn â dull y Cynllun Cydraddoldeb o drin meysydd cydraddoldeb lluosog (gan gynnwys hawliau dynol) a bydd yn asesu effaith ar bob un o’r meysydd: oedran, anabledd, rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd/credo a thueddfryd rhywiol.

Pan fydd cynllun peilot wedi’i gyflwyno ar gyfer fersiwn derfynol ein hofferyn asesu effaith ar gydraddoldeb wedi’i ddiweddaru, bydd staff sy’n gyfrifol am lunio polisïau a strategaethau’n cael eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r offeryn yn effeithiol i sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Yn dilyn y cynllun peilot ar gyfer yr offeryn diwygiedig, byddwn yn cyhoeddi’r offeryn a chanlyniadau ein hasesiadau effaith ar gydraddoldeb.

9. Llwyddiant wrth Hybu Cydraddoldeb  

Er mwyn bod yn sefydliad sy’n esiampl dda, bydd ein Cynllun Cydraddoldeb yn parhau i ddatblygu wrth i heriau ddod i’r amlwg. Fodd bynnag, mae gan Gomisiwn y Cynulliad nifer o lwyddiannau diweddar wrth hybu cydraddoldeb ac arddangos arfer da, ac mae’r adran hon yn dwyn sylw at rai o’r rhain.

Cynlluniau Cydraddoldeb

Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb Hiliol ei gymeradwyo yn 2005. Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb Anabledd a’r Cynllun Gweithredu eu cymeradwyo fis Rhagfyr 2006, a chafodd Cynllun drafft Cydraddoldeb Rhywiol ei baratoi yn ystod haf 2007. Mae’r Cynlluniau hyn wedi’u hadolygu ac mae camau sy’n weddill wedi’u cynnwys yn y Cynllun hwn a’i Gynllun Gweithredu.

Sefydlu Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Sefydlwyd y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad fis Mai 2007, ac mae’n gweithio gyda chydweithwyr ledled y sefydliad i sicrhau bod materion cydraddoldeb a hawliau dynol yn dod yn rhan o brif ffrwd gwaith Comisiwn y Cynulliad.

Rhwydweithiau Staff

Mewn ymdrech i gynyddu’r cymorth sydd ar gael i staff anabl ac aelodau staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, rydym wedi sefydlu rhwydweithiau mewnol. Diben y grwpiau hunanreoledig yw cefnogi staff, codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth ar gyfer datblygu polisïau a gweithdrefnau corfforaethol. Rydym hefyd yn gobeithio sefydlu rhwydwaith ar gyfer staff o dras ethnig leiafrifol.

Codi ymwybyddiaeth o faterion a digwyddiadau sy’n ymwneud â chydraddoldeb

Mae nifer o erthyglau’n ymwneud â chydraddoldeb wedi ymddangos ar dudalen newyddion y fewnrwyd ac yng nghylchlythyr y staff, 'Y Llechen’.

Dosbarthiadau a digwyddiadau Iaith Arwyddion

Prydain (BSL)

(Llun: Eicon Iaith Arwyddion Prydain (BSL))

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi sicrhau addysg BSL,codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i’n staff. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o BSL a materion sy’n effeithio ar bobl sydd â nam ar eu clyw.

Monitro

Fis Medi 2008, gwnaethom gynnal arolwg cydraddoldeb staff i broffilio ein gweithlu o bersbectif cydraddoldeb, a gwnaethom gasglu data ystadegol ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb. Rhoddodd yr arolwg gyfle hefyd i nodi unrhyw faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a allai effeithio ar staff.

Gwesteio digwyddiadau

Mae’r Senedd a Thŷ Hywel wedi gwesteio nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud â chydraddoldeb, gan gynnwys lansio adroddiadau, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a digwyddiadau dathlu i grwpiau cynrychioladol ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb. Yn anad dim, fe westeiodd Comisiwn y Cynulliad seminar Rhwydwaith Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru fis Awst 2008, ar thema 'Sicrhau Amrywiaeth Cyflenwyr’. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant gan mai dyma oedd y seminar Rhwydwaith â’r nifer mwyaf yn bresennol yng Nghymru hyd yma ac, yn bwysig, rhoddodd gyfle i rwydweithio a rhannu arfer gorau rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Recriwtio ac Allgymorth sy’n Targedu Pobl o Dras Ethnig Leiafrifol

Rydym wedi datblygu mentrau i wneud mwy o waith recriwtio ac allgymorth sy’n targedu pobl o dras ethnig leiafrifol, gan gynnwys secondio gweithiwr o sefydliad sector preifat sy’n cynghori ar sut i wella ein cysylltiadau â phobl o dras ethnig leiafrifol; lleoliadau gwaith o ysgolion sydd â niferoedd mawr o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol; a hysbysebu swyddi allanol yng Nghanolfan Fenter De Caerdydd, sydd â sail cwsmeriaid sy’n dod yn bennaf o blith pobl o dras ethnig leiafrifol. Rydym hefyd wedi trefnu teithiau a sesiynau briffio i gyd-fynd ag unrhyw gynlluniau recriwtio mawr i annog ceisiadau.

Adolygiad Allanol o’n Harferion Recriwtio ac Effaith y rhain ar Gynyddu Cynrychiolaeth Pobl o Dras Ethnig Leiafrifol yn ein Gweithlu

Roedd yr adolygiad yn cynnwys dadansoddi polisïau ac arferion presennol yng Nghomisiwn y Cynulliad, a gwneud argymhellion a fyddai’n arwain at ganlyniadau ystyrlon y gellir eu mesur a chynyddu cynrychiolaeth pobl o dras ethnig leiafrifol yn ein gweithlu. Mae’r argymhellion hyn yn cael eu hystyried yn barhaus.

Cynllun Cysgodi Aelodau’r Cynulliad Ymgyrch y Bleidlais Ddu

(Llun: Rhai a gymerodd ran yng nghynllun 'Operation Black Vote’ i gysgodi Aelod Cynulliad)

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweinyddu cynllun cysgodi Aelodau’r Cynulliad lle bu pobl Dduon, pobl Asiaidd a phobl o dras ethnig leiafrifol yn cysgodi Aelodau’r Cynulliad. Bu’r Cynllun yn llwyddiant ysgubol, gyda chyfranogion yn parhau i ddatblygu’u gyrfaoedd gwleidyddol, boed ar lefel gymunedol, awdurdod lleol, y Cynulliad Cenedlaethol neu San Steffan. Enillodd y Cynllun hefyd Wobr Democratiaeth Cymdeithas Hansard yn Seremoni Gwobrau Gwleidyddol Sianel 4.  Rydym wrthi ar hyn o bryd yn pennu cwmpas Cynllun Mentora aml-faes y Cynulliad a Llywodraeth Leol.

Prosiect Rhyngrwyd - Cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, a’i Hygyrchedd

(Lluniau: Eicon cydymffurfiaeth AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) ac Eicon cymeradwy XHTML 1.0 )

Mae’r contract newydd a ddyfarnwyd ar gyfer ein safle Rhyngrwyd yn sicrhau bod cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac ystyriaethau hygyrchedd yn hollbwysig. Bydd archwiliad allanol o hygyrchedd ein gwefan yn cael ei gynnal i sicrhau ei bod yn parhau i ddiwallu anghenion ein defnyddwyr.

Addasiadau’n ymwneud â Mynediad yn y Senedd

Ailarchwiliwyd yr Adroddiad gwreiddiol ar Fynediad i’r Senedd ac rydym wedi ystyried adborth oddi wrth aelodau anabl o’r cyhoedd sydd wedi ymweld â’r Senedd.  Rydym yn cydweithio â phenseiri’r adeilad ac ymgynghorwyr mynediad er mwyn symud ymlaen â chamau i wella mynediad i’r adeilad.

Safonau Meincnodi

(Lluniau: Eicon 'Tic Dwbl’ Anabledd, Eicon Hyrwyddwr Cyflogwr Cadarnhaol o ran Oedran (Age Positive) ac Eicon Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall)

Nod Comisiwn y Cynulliad yw cael gweithlu mwy amrywiol. Gan ddefnyddio symbolau safonau meincnodi ar hysbysebion swyddi a ffurflenni cais, gallwn ddangos ein bod yn croesawu ceisiadau oddi wrth bawb yng Nghymru. Rydym wedi ennill y safonau a ganlyn:

                                                           

Rydym yn ceisio ennill safonau ar gyfer y meysydd cydraddoldeb eraill i ddangos ymhellach ein hymrwymiad i gydraddoldeb.

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle a Chanllaw Recriwtio 'Starting Out’ Stonewall

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi’i gynnwys yn 'Starting Out - Lesbian and Gay Recruitment Guide’ Stonewall. Nod y Canllaw yw cynghori myfyrwyr a’r rheiny sy’n dymuno newid eu gyrfa a rhoi gwybod iddynt am gyflogwyr hoyw-gyfeillgar.

Gwnaethom dderbyn sgôr galonogol ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2008, ac rydym eisoes wedi rhoi camau ar waith i wella ein safle yn y blynyddoedd i ddod.

Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyngseneddol

Mae’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn sefydlu rhwydwaith cydraddoldeb rhyngseneddol ac yn gweithio gyda chymheiriaid mewn gweinyddiaethau eraill y DU i drafod arfer gorau a’i rannu.

Fforwm Defnyddwyr Anabl

Rydym wedi sefydlu cysylltiad â grŵp o ddefnyddwyr gwasanaeth anabl ledled Cymru sy’n ein helpu i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n hybu cyfle cyfartal i bobl anabl.

Diwrnod y Gymanwlad

Bob blwyddyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwesteio digwyddiad i nodi Diwrnod y Gymanwlad. Mae disgyblion a myfyrwyr rhyngwladol o bob cwr o Gymru’n mynychu i gymryd rhan mewn dadleuon, perfformiadau ac arddangosfeydd sy’n dathlu cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol.

10. Ein Cynllun Gweithredu

Yn dilyn ein hymarfer ymgynghori a chynnwys, rydym yn manylu yn ein Cynllun Gweithredu ar ein canlyniadau cydraddoldeb blaenoriaethol a’r camau y mae angen inni eu cymryd i gyflawni’r canlyniadau hyn. Mae’r Cynllun Gweithredu hefyd yn manylu ar ein hamserlen ar gyfer eu cyflawni a phwy fydd yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn eu cyflawni.

Perthnasedd i Feysydd Cydraddoldeb

Rydym wedi dwyn sylw at y meysydd lle rydym o’r farn bod y canlyniad yn fwyaf perthnasol. Er enghraifft, byddai gwneud ein hadeiladau’n fwy hygyrch yn berthnasol i bobl anabl i raddau helaeth.

Dyddiadau Targed

Lle rydym wedi nodi Blwyddyn 1, er enghraifft, rydym yn golygu erbyn diwedd blwyddyn y cyfnod o fis Tachwedd 2008 i fis Tachwedd 2009 ac ati, ar gyfer y blynyddoedd a ganlyn:

Blwyddyn 1: 2008-09

Blwyddyn 2: 2009-10

Blwyddyn 3: 2010-11

Adrodd ar Gynnydd

Bydd ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd wrth gyflawni ein canlyniadau cydraddoldeb bob blwyddyn. Mae’n debygol y bydd camau’n datblygu wrth i flaenoriaethau newydd gael eu nodi yn ystod oes y Cynllun Cydraddoldeb hwn, a bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.

Maes: Oedran, Anabledd, Ffydd/Credo, Rhywedd/ Hunaniaeth, Hil ac Cyfeiriadedd Rhywiol

 

Cynllun Gweithredu - Rheoli a Chynllunio Corfforaethol

A1

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cynllun Cydraddoldeb effeithiol ar waith sy’n cael ei fonitro, ac y ceir adroddiad rheolaidd ar yr amcanion cydraddoldeb ynddo a’n cynnydd wrth eu cyflawni

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Diweddariadau ddwywaith y flwyddyn, gyda phenaethiaid gwasanaeth a chyfarwyddwyr yn eu cymeradwyo; Cynhyrchu Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant: Adborth oddi wrth gysylltiadau a chanlyniadau oddi wrth y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

A2

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cynllun a Chynllun Gweithredu sy’n cael ei adolygu’n allanol bob tair blynedd

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Nodi mecanwaith ar gyfer adolygiad allanol

Dyddiad Targed: Blwyddyn 3

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant: Adroddiad oddi wrth adolygydd allanol

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

A3

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Amcanion cydraddoldeb yn cael eu hystyried mewn prosesau cynllunio gwaith meysydd gwasanaeth

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Ymgorffori amcanion cydraddoldeb mewn cynlluniau meysydd gwasanaeth

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant: Amcanion a chamau’n cael eu cyflawni ac adrodd arnynt yn rheolaidd

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

A4

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Polisïau newydd a rhai arfaethedig yn cael eu hasesu o ran effaith ar gydraddoldeb a staff yn cael eu hyfforddi i gyflawni hyn

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Gwella’r offeryn asesu effaith presennol/ gweithio gyda’r tîm Adnoddau Dynol i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer yr offeryn

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/ Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant: Polisïau cynhwysol, effeithiol sy’n ystyried anghenion amrywiol

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

A5

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Rhwydweithiau/ perthnasoedd gweithio mewnol effeithiol ar waith i ddarparu sail ar gyfer ein gwaith ar gydraddoldeb

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Grŵp Llywio Cydraddoldeb i ddarparu gogwydd cychwynnol ar gyfer gwaith datblygu cydraddoldeb/ cynnwys rhwydweithiau staff ac Ochr yr Undebau Llafur mewn asesu effaith a’r broses datblygu polisi

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant: Cyfraniadau’r rhwydweithiau’n darparu sail ar gyfer y broses asesu effaith ac yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau polisi  

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

A6

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Rhwydweithiau/ perthnasoedd gweithio allanol effeithiol ar waith i ddarparu sail ar gyfer ein gwaith ar gydraddoldeb

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Defnyddio’r Rhwydwaith Defnyddwyr Anabl i ddarparu sail ar gyfer polisi/ defnyddio cysylltiadau o’r Cynllun Mentora i ddatblygu rhwydweithiau pellach

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus/Blwyddyn 2 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant: Rydym yn sicrhau ein bod yn dod i gysylltiad ag unigolion a sefydliadau nad ydynt wedi cymryd rhan yn draddodiadol

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

A7

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cyngor amserol a manwl gywir ar faterion cydraddoldeb, mynediad a hawliau dynol ar gael i staff ac Aelodau’r Cynulliad

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad i’w weld bob amser/ datblygu adnodd mewnrwyd i staff ac Aelodau’r Cynulliad

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus/Blwyddyn 1/2

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant: Adborth oddi wrth Gomisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

A8

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Codi ymwybyddiaeth ymhlith staff ac Aelodau'r Cynulliad o gydraddoldeb, mynediad a hawliau dynol

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Cynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth, cyhoeddi erthyglau yng nghylchgrawn y staff, negeseuon ebost, llenyddiaeth, posteri ac ati. Defnyddio calendr digwyddiadau cydraddoldeb i gynllunio gweithgareddau codi ymwybyddiaeth/ Aelodau, sy’n gyflogwyr yn eu rhinwedd eu hunain, yn bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cydraddoldeb a mynediad

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus/Blwyddyn 1

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant: Anghenion mynediad staff cymorth Aelodau’r Cynulliad yn cael eu diwallu/ swyddfeydd etholaeth yn hygyrch

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

A9

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Ymgysylltu mwy ag aelodau cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, â’r nod o hybu ac ehangu ymgysylltu â democratiaeth a chymryd rhan ynddi

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Rhoi Cynllun Mentora aml-faes y Cynulliad a Llywodraeth Leol ar waith, wedi’i weinyddu gan y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad/ mwy o waith allgymorth

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1

Yn arwain: Tîm Cydraddoldeb a Mynediad/ Tîm Cydraddoldeb a Mynediad/ Tîm Cyfathrebu Allanol

Mesur Llwyddiant: Cyfranogion y Cynllun yn dod yn ymgeiswyr mewn etholiadau lleol, etholiadau cyffredinol ac etholiadau Ewrop a/neu’n ymgysylltu â chyfranogiad dinesig

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

Cynllun Gweithredu - Adnoddau Dynol

B1

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Ein swyddi gwag yn cyrraedd y grwpiau lleol hynny sy’n cynrychioli pobl o dras ethnig leiafrifol ac yn denu’r nifer o geisiadau oddi wrth y grwpiau hyn sy’n adlewyrchu’r boblogaeth gyffredinol, gyda golwg ar estyn hyn fesul cam i’r meysydd cydraddoldeb eraill

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Nodi cyfleoedd i ehangu hysbysebu recriwtio/ ymgysylltu â gweithgareddau allgymorth i hybu ein sefydliad fel cyflogwr posibl/archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio Cynllun 'Mynediad at Waith’ Canolfan Byd Gwaith

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Recriwtio Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant: Monitro ceisiadau am swyddi a chwilio am gynnydd yn nifer y ceisiadau oddi wrth bobl o dras ethnig leiafrifol sy’n geisiadau

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: hil; Anabledd

B2

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith staff, Aelodau’r Cynulliad a staff Aelodau’r Cynulliad o’u cyfrifoldebau o ran cydraddoldeb/hawliau dynol a’r meysydd cydraddoldeb a ganlyn: oedran, anabledd, rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd/credo a thueddfryd rhywiol. Hefyd, dealltwriaeth o oblygiadau’r Cynllun Cydraddoldeb a dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Datblygu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant cydraddoldeb a hawliau dynol ar gyfer staff ac Aelodau’r Cynulliad, i gynnwys hyfforddiant craidd, hyfforddiant wedi’i lunio’n benodol ar gyfer maes gwasanaeth a hyfforddiant sy’n targedu Aelodau’r Cynulliad yn benodol  

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1

Yn arwain: Tîm Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant: Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith Staff ac Aelodau’r Cynulliad o faterion cydraddoldeb

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

B3

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Bwlio ac aflonyddu’n cael eu cymryd o ddifrif a staff wedi’u haddysgu am eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Gwella’r Polisi Urddas yn y Gweithle ar y cyd ag Ochr yr Undebau Llafur/ sicrhau bod yr holl staff yn cael eu hyfforddi’n rheolaidd ar y Polisi Urddas yn y Gweithle/ cynyddu nifer y swyddogion aflonyddu a’r swyddogion ymchwilio. Nodi mecanwaith i gynyddu nifer y swyddogion ymchwilio allanol

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/ Blwyddyn 1 a pharhaus/ Blwyddyn 1/2

Yn arwain: Gweithrediadau Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant:

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

B4

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Graddau cael eu monitro ac unrhyw wahaniaethau o ran rhywedd yn cael sylw

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Ymchwilio i resymau posibl am y gwahaniaethau ac ystyried p’un a ddylid defnyddio gwahanol ddulliau o fynd ati i hysbysebu recriwtio

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Gweithrediadau Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant: Rhywedd/ Hunaniaeth

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

B5

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Polisïau cyflogaeth sy’n ystyried gofynion deddfwriaethol newidiol sy’n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Adolygu a diweddaru polisïau’n unol â deddfwriaeth newidiol

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Polisïau Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant:

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

B6

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Ystyriaethau cydraddoldeb yn cael eu hymgorffori mewn prosesau recriwtio (gan gynnwys gweithio hyblyg, rhannu swyddi a threfniadau gweithio gartref)

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Hysbysebion swyddi i nodi trefniadau gweithio hyblyg lle bo’n briodol i anghenion busnes

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Recriwtio

Mesur Llwyddiant: Gall staff fwynhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wrth ddiwallu anghenion busnes

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

B7

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Data gwell ar gydraddoldeb staff ar gael. Data wedi’u casglu a’u cofnodi ac ar gael yn rhwydd o fonitro polisïau cyflogaeth

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Asesu dichonolrwydd defnyddio system TG Snowdrop i gasglu data cydraddoldeb staff ar anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd/credo - cynnal yr arolwg cydraddoldeb staff nesaf

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/Blwyddyn 3

Yn arwain: Gweithrediadau Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant: Gellid defnyddio data i nodi tueddiadau

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

B8

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Egwyddor cydraddoldeb wedi’i hymgorffori yn ein strategaeth gyflogau sy’n dod i’r amlwg

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Cynnal adolygiad cyflog cyfartal a nodi unrhyw fylchau cyflog a mynd i’r afael â nhw

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/2

Yn arwain: Gweithrediadau Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant: Unrhyw fylchau cyflog a nodwyd yn cael eu cau

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Rhywedd/ Hunaniaeth

B9

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Gweithwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth ac yn cyfrannu at ddatblygu polisïau a allai effeithio arnynt (rhwydweithiau staff)

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Sicrhau bod cyllideb a gweinyddiaeth i gefnogi rhwydweithiau, a’u bod yn cael y cyfle i gyfrannu at ddatblygu polisïau

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Gweithrediadau Adnoddau Dynol a’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Mesur Llwyddiant:

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Anabledd; Hil; Cyfeiriadedd Rhywiol

B10

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Ein trefniadau cynefino diwygiedig i staff newydd yn gosod pwyslais priodol ar ein dyletswyddau/ ymrwymiadau cydraddoldeb, a’r trefniadau hyn yn cael eu rhannu â staff Aelodau’r Cynulliad fel bo’n briodol

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Cyflwyno hyfforddiant cynefino i Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad a’r holl staff newydd, sy’n ymgorffori adran ddiwygiedig ar gydraddoldeb

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant:

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

B11

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cynllun peilot wedi’i gyflwyno i hybu aseiniadau gwaith ar gyfer pobl o dras ethnig leiafrifol a’i gyflwyno fesul cam i feysydd eraill ar ôl adolygu’r cynllun peilot

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Pennu cwmpas cynllun peilot, ei gyflwyno fesul cam a’i adolygu

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/2

Yn arwain: Polisïau Adnoddau Dynol

Mesur Llwyddiant:

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Hil

Cynllun Gweithredu - Cyfathrebu Allanol

C1

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Gwybodaeth am y Cynulliad a’i waith yn hygyrch i bawb. Mwy o ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad ledled pob sector o’r gymdeithas

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Datblygu Strategaeth Addysg ac Allgymorth sy’n ystyried pob maes cydraddoldeb/ datblygu strategaethau cyfryngau/ strategaethau cyfryngau newydd sy’n ystyried hygyrchedd gwybodaeth i wahanol grwpiau

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1

Yn arwain: Timau Addysg ac Allgymorth/Tîm y Cyfryngau, y Wefan a Chyhoeddiadau

Mesur Llwyddiant: Arolygon y Senedd/ Digwyddiadau ac arolygon ymadael wedi’u hymgorffori yn rhaglenni’r timau

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

C2

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cyhoeddiadau’r Cynulliad â delweddau sy’n cynrychioli cymdeithas amrywiol yng Nghymru
Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Datblygu Banc Delweddau/ datblygu dull o fynd ati i wneud cyfathrebu/ gwybodaeth yn hygyrch

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/2  - Blwyddyn 2

Yn arwain: Tîm y Cyfryngau, y Wefan a Chyhoeddiadau

Mesur Llwyddiant: Cynnwys ffurflenni adborth mewn cyhoeddiadau/ annog cydnabyddiaeth i gyhoeddiadau trwy roi cynnig ar wobrau cenedlaethol

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

C3

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Datganiadau i’r wasg/y cyfryngau’n cael eu hanfon at sefydliadau sy’n cynnwys grwpiau/sefydliadau cynrychioladol a allai gynrychioli’r buddiannau cydraddoldeb

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Datblygu cronfa ddata ganolog o gysylltiadau i’w defnyddio yn y sefydliad trwyddo draw

Dyddiad Targed: Blwyddyn 2

Yn arwain: Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus

Mesur Llwyddiant:

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

C4

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn defnyddio’r Senedd a’n hadeiladau eraill ac yn ymweld â nhw

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Targedu unigolion a/neu sefydliadau cynrychioladol o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol â gwybodaeth am y Cynulliad a’r Senedd/ sicrhau bod ymwelwyr yn cael ffurflenni adborth a fydd yn caniatáu inni fonitro o ba grwpiau y daw ein hymwelwyr a ph’un a ydym yn diwallu’u hanghenion a’u gofynion

Dyddiad Targed: parhaus

Yn arwain: Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus/Tîm Gwasanaethau Ymwelwyr

Mesur Llwyddiant: Adborth (ar ffurflenni ac yn electronig) yn dangos niferoedd uwch o ymwelwyr o bob un o’r grwpiau cydraddoldeb yn defnyddio ein hadeiladau/ materion cydraddoldeb wedi’u cynnwys mewn proffiliau ymwelwyr

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

C5

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Teithiau tywysedig o amgylch y Senedd, sy’n hygyrch i ymwelwyr â nam ar y synhwyrau

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Ymchwilio i bosibiliadau gosod map cyffyrddadwy o’r Senedd/ archwilio dichonolrwydd teithiau â chyflwyniad BSL/ adolygu hygyrchedd llenyddiaeth teithiau

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/Blwyddyn 2/Blwyddyn 2

Yn arwain: Tîm Gwasanaethau Ymwelwyr

Mesur Llwyddiant: Profiadau ymwelwyr yn gadarnhaol (o adborth) a deunyddiau dehongli ar gael i bawb

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Anabledd

C6

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cynnydd yn nifer y bobl ifanc anabl a’r bobl ifanc o dras ethnig leiafrifol sy’n cymryd rhan mewn grwpiau yng nghanolfan addysg y Cynulliad

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Targedu sefydliadau ac ysgolion perthnasol i fynychu a chyfrannu at ddigwyddiadau yn ein Canolfan Addysg/ defnyddio cysylltiadau o Gynllun Mentora’r Cynulliad a Llywodraeth Leol i gyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Gwasanaeth Addysg

Mesur Llwyddiant: Rhwydwaith o gymdeithasau perthnasol, ag amcanion eglur a chanlyniadau dymunadwy wedi’i ddatblygu/ defnyddio adborth o ddathliad Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (mis Rhagfyr 2008) a digwyddiadau eraill sy’n targedu grwpiau buddiant

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Oedran; Anabledd; Hil

C7

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Digwyddiadau’r Cynulliad ledled Cymru yn fwy hygyrch i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Sicrhau bod trefniadau marchnata’n addas ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol a bod grwpiau lleol/cenedlaethol yn cael eu gwahodd

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Marchnata a Digwyddiadau

Mesur Llwyddiant: Arolwg o’r gynulleidfa i ddarparu sail i’r strategaeth gyflawni/ffurflenni adborth o ddigwyddiadau’r haf a digwyddiadau eraill yn ein galluogi i weld lle gallem wella pe bai angen/croesgyfeirio arolwg ymadael a phroffiliau ymwelwyr â strategaeth farchnata

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

C8

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn gwylio a/neu’n ymgysylltu â thrafodion y Cynulliad (e.e. pwyllgorau, cyfarfodydd llawn a'r system ddeisebau)

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Codi ymwybyddiaeth a hybu ymgysylltu, gan ddefnyddio’r wefan a chyfryngau priodol eraill. Cynhyrchu gwybodaeth sy’n targedu cynulleidfaoedd gwahanol (gan ddefnyddio ieithoedd heblaw am Gymraeg a Saesneg a fformatau amgen)

Dyddiad Targed: Blwyddyn 2 a pharhaus

Yn arwain: Timau Cysylltiadau Cyhoeddus/Y Cyfryngau, y Wefan a Chyhoeddiadau

Mesur Llwyddiant: Croesgyfeirio nodau strategaeth farchnata â chasglu tystiolaeth y Gyfarwyddiaeth Fusnes a rhaglen digwyddiadau cyfranogol

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

C9

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Staff ar y rheng flaen sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n teimlo’n hyderus wrth groesawu pobl ag anghenion gwahanol i’r Cynulliad

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Trefnu hyfforddiant priodol i staff ar y rheng flaen a hyfforddiant gloywi wedi hynny

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Timau Cydraddoldeb a Mynediad a Gwasanaethau Ymwelwyr

Mesur Llwyddiant: Tîm aml-sgiliau, ymwybyddiaeth o faterion perthnasol a pherchenogaeth ar faterion mynediad a chydraddoldeb, yn darparu sail i weithgarwch a chynllun gwasanaeth Cyfathrebu

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

Cynllun Gweithredu - TGCh

D1

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Gwefan hygyrch y gall pawb, gan gynnwys pobl anabl, ei chyrchu’n rhwydd

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Gweithredu ar awgrymiadau cwsmeriaid ac adborth lle bo’n briodol

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: TGCh

Mesur Llwyddiant: Adborth defnyddwyr gwe a chydymffurfio â safonau gwe AA

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Anabledd

D2

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cyfarpar TG sy’n hygyrch ac ar gael i staff ag anghenion penodol mewn modd amserol

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Nodi gofynion cyn gynted â phosibl h.y. yn ystod recriwtio neu pan nodir anghenion (yn achos gweithwyr presennol)

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: TGCh

Mesur Llwyddiant: Adborth oddi wrth staff

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Anabledd

D3

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Nodweddion newydd ar gyfer y wefan wedi’u datblygu i alluogi ymgysylltiad cyhoeddus llawn a chyfartal
Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Nodi anghenion y cwsmer (gan ddefnyddio adborth oddi wrth ein rhwydweithiau) a nodi addasiadau priodol
Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/2
Yn arwain: TGCh
Mesur Llwyddiant: Adborth yn adlewyrchu sylwadau a wnaed gan ein rhwydweithiau a’n cysylltiadau. Ein gwefan yn cael ei hystyried yn esiampl dda yn nhermau hygyrchedd
Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

Cynllun Gweithredu - Rheoli Cyflenwi/Caffael

E1
Canlyniad/Amcan Gofynnol: Ein cyflenwyr yn gweithredu i’r safon uchaf o ran materion cydraddoldeb; rhoi arwydd clir i'r gadwyn gyflenwi bod cydraddoldeb yn bwysig inni fel sefydliad ac y byddai disgwyl i gyflenwyr ymddwyn yn yr un modd
Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Archwilio sut gallem fonitro contractau yn nhermau ystyriaethau cydraddoldeb ac asesu’r gofynion am adnoddau i wneud hyn
Dyddiad Targed: Blwyddyn 2/3
Yn arwain: Rheolwr Caffael
Mesur Llwyddiant: Rheolwyr contractau’n teimlo’n hyderus eu bod yn gallu ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn eu harferion wrth ddyfarnu a chynnal contractau
Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

Cynllun Gweithredu - Rheoli Ystadau a Chyfleusterau

F1

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Adeiladau sy’n ddiogel, yn hygyrch, yn amgylcheddau glân i staff, staff dan gontract, Aelodau’r Cynulliad, eu staff nhw ac ymwelwyr

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Cynnal asesiadau iechyd a diogelwch, gweithgareddau cynnal a chadw a glanhau yn rheolaidd/gweithredu ar wybodaeth o archwiliad mynediad ac adborth i addasu ein hadeiladau lle bo angen (gan gynnwys Tŷ Hywel, Swyddfa Bae Colwyn, y Senedd ac Adeilad Pierhead)

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau

Mesur Llwyddiant: Adborth cwsmeriaid a chanlyniadau asesiadau ac archwiliadau’r dyfodol

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

F2

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Lleoedd gwaith ar gyfer staff, Aelodau’r Cynulliad, eu staff nhw a staff eraill dan gontract sy’n ergonomig ac yn hygyrch

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Asesu cyfarpar sgrin arddangos a lleoedd gwaith yn rheolaidd

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Iechyd a Diogelwch/ Tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau

Mesur Llwyddiant: Cymharu nifer yr asesiadau cyfarpar sgrin arddangos/ risg a gwblheir â’r gweithredu gofynnol a nodwyd

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Anabledd

F3

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Asesiadau Iechyd a Diogelwch a Risg sy’n ystyried materion cydraddoldeb a mynediad

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Y Tîm Iechyd a Diogelwch i weithio gyda’r Swyddog Mynediad yn ystod asesiadau risg Iechyd a Diogelwch lle bo angen

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Iechyd a Diogelwch/ Tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau

Mesur Llwyddiant: Camau gofynnol a nodir mewn asesiadau risg yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Anabledd

Cynllun Gweithredu - Tîm Diogelwch Eiddo

G1
Canlyniad/Amcan Gofynnol: Staff tîm diogelwch eiddo sy’n broffesiynol, sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n teimlo’n hyderus i ddelio ag ystod amrywiol o ymwelwyr ag anghenion gwahanol
Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Staff i fynychu cyrsiau wedi’u llunio’n benodol i ddiwallu anghenion, a mynychu hyfforddiant gloywi wedi hynny
Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus
Yn arwain: Tîm Diogelwch Eiddo
Mesur Llwyddiant: Staff sy’n teimlo’n hyderus i ddelio ag ystod amrywiol o bobl ac sy’n cymryd perchenogaeth ar faterion cydraddoldeb a mynediad
Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

Cynllun Gweithredu - Busnes y Cynulliad

H1

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Aelodau’n cael cyfleoedd i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn eu gwaith yn y Cynulliad ac yn eu hetholaethau

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Nodi cyfleoedd ar gyfer ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb wrth briffio Aelodau’r Cynulliad a phwyllgorau/nodi hyfforddiant cydraddoldeb wedi’i lunio’n benodol ar gyfer staff yn unol ag anghenion busnes/ Aelodau’r Cynulliad

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Gwasanaeth Ymchwil Aelodau

Mesur Llwyddiant: Mwy o gyfeirio at ystyriaethau cydraddoldeb wrth briffio. Aelodau’r Cynulliad yn gofyn am, ac yn defnyddio’r wybodaeth y mae’r Gwasanaeth Ymchwil Aelodau’n ei darparu. Hefyd, adborth Aelodau ar briffio’r Gwasanaeth Ymchwil Aelodau trwy’r Grŵp Cyswllt Cwsmeriaid

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

H2

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cynnyrch ymchwil a gyhoeddir ar dudalennau gwe Cynulliad Cenedlaethol Cymru mor hygyrch â phosibl

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Cyhoeddi cynnyrch ymchwil yn y fformat mwyaf hygyrch posibl, gydag opsiynau ar gael ar gyfer fformatau amgen lle bo angen

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Gwasanaeth Ymchwil Aelodau a TGCh

Mesur Llwyddiant: Cydymffurfio â safonau Gwe AA/adborth defnyddwyr gwe, gan gynnwys adborth Cyfeillion Beirniadol Pobl Anabl

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Anabledd; Hil

H3

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Ymgynghori perthnasol â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol pan mae pwyllgorau craffu a deddfwriaethol yn galw am dystiolaeth
Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Defnyddio cronfa ddata ganolog o gysylltwyr - gweler Cyfathrebu Allanol/

cyngor oddi wrth y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad pan fo’i angen

Dyddiad Targed: Blwyddyn 2/Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Gwasanaeth Ymchwil Aelodau, Gwasanaeth y Pwyllgorau a’r Swyddfa Ddeddfwriaeth

Mesur Llwyddiant: Ar ôl nodi tystion a phobl i ymgynghori â nhw, safbwyntiau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hystyried

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

H4

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cofnodion cyfarfodydd llawn a chyfarfodydd pwyllgorau’r gwbl hygyrch i staff, Aelodau’r Cynulliad ac aelodau’r cyhoedd trwy wefan y Cynulliad, ac yn cydymffurfio’n llwyr â safonau AA

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Cyhoeddi’n brydlon ac ymateb i geisiadau am fformatau amgen lle bo’n briodol

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Seneddol a TGCh

Mesur Llwyddiant: Cydymffurfio â safonau Gwe AA/adborth cwsmeriaid

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Anabledd; Hil

H5

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cyfarpar lladmeru’n hygyrch i’r holl staff, Aelodau’r Cynulliad, tystion pwyllgorau, ymwelwyr ac aelodau’r cyhoedd
Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Rhoi gwybod am ofynion i Uned Fusnes y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Seneddol i sicrhau bod cyfarpar ar gael
Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus
Yn arwain: Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Seneddol a TGCh
Mesur Llwyddiant: Adborth cwsmeriaid
Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

Cynllun Gweithredu - Tîm Gwasanaeth Cyfreithiol

I1

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Aelod o’r gwasanaeth yn arbenigo mewn materion cydraddoldeb ac yn gyfrifol nid yn unig am roi cyngor arbenigol ar faterion o’r fath ond hefyd am rannu gwybodaeth am faterion o’r fath ymhlith cyfreithwyr eraill

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Dynodi cyfreithiwr i arbenigo mewn materion cydraddoldeb/cyfreithiwr i rannu gwybodaeth am faterion cydraddoldeb â gweddill y tîm fel bo’n berthnasol

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1/Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Gwasanaeth Cyfreithiol

Mesur Llwyddiant: Aelodau'r Cynulliad a staff â mwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth o faterion cydraddoldeb

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

I2

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Pob cyfreithiwr yn cael hyfforddiant priodol yn canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb cyfreithiol cyn diwedd cyfnod y Cynllun

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Nodi gofynion ar gyfer hyfforddiant ac ymgymryd â hyfforddiant

Dyddiad Targed: Blwyddyn 3

Yn arwain: Tîm Gwasanaeth Cyfreithiol

Mesur Llwyddiant: Cyfreithwyr yn meddu ar wybodaeth effeithiol o ddeddfwriaeth cydraddoldeb

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

I3

Canlyniad/Amcan Gofynnol: Cyfreithwyr yn paratoi adroddiadau rheolaidd i’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad ar statws cyfredol y Cynulliad a’r Comisiwn o fewn fframwaith deddfwriaeth cydraddoldeb ryngwladol, y Gymuned Ewropeaidd, y DU a Chymru

Y Gweithredu Gofynnol i Gyflawni’r Canlyniad/Amcan: Cyfreithwyr i baratoi adroddiadau fel bo angen, a chynnal cyswllt â'r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Dyddiad Targed: Blwyddyn 1 a pharhaus

Yn arwain: Tîm Gwasanaeth Cyfreithiol

Mesur Llwyddiant: Y Tîm Cydraddoldeb a Mynediad yn gallu rhagweld newid mewn deddfwriaeth mor fuan â phosibl

Yn berthnasol i'r meysydd canlynol: Pob maes

Atodiadau

Atodaid 1

Siart Sefydliadol Comisiwn y Cynulliad

Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Yr Uned Gorfforaethol

Prif Swyddog Gweithredol

  • Cyfathrebu Allanol

  • Adnoddau Dynol

  • Cymorth Busnes i Aelodau

  • Rheoli Cyfleusterau a Gwasanaethau Swyddfa

  • Gwasanaethau Cyllid

  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

  • Yr Uned Gydgysylltu

  • Gwasanaeth y Pwyllgorau

  • Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau

  • Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi

  • Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth

Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

  • Y Gwasanaethau Cyfreithiol

Atodiad 2

Geirfa

Anfantais / camwahaniaethu lluosog - Lle gall pobl fod dan anfantais neu lle gall fod camwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu bod yn perthyn i ddau neu fwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Er enghraifft, gallai merch anabl, ddu wynebu anfantais /camwahaniaethu lluosog.

Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb - Ffordd o adolygu gwaith (polisïau ac arferion) Comisiwn y Cynulliad i sicrhau nad oes unrhyw un dan anfantais.

Busnes y Cynulliad - Gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys pwyllgorau a chyfarfodydd llawn pob un o 60 Aelod y Cynulliad.

Canlyniadau - Canlyniadau dymunadwy camau a gynllunnir - yr hyn rydym am ei gyflawni.

Comisiwn y Cynulliad - Y sefydliad sy’n cefnogi rhedeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu’r eiddo, yr adnoddau a’r staff i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe’i harweinir gan y Llywydd a phedwar Aelod arall y Cynulliad.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Y gangen ddeddfwriaethol sy’n cynnwys pob un o 60 Aelod y Cynulliad. Ei rôl yw craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru (Y Weithrediaeth) a phasio deddfwriaethau.

Deddfwrfa - Y corff cynrychiadol â’r grym i greu a diwygio cyfreithiau ac i graffu ar y weithrediaeth.

Grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol - Y grwpiau hynny o bobl sydd, yn hanesyddol, wedi’u hymyleiddio o gyfranogiad democrataidd a/neu y gallent fod dan anfantais oherwydd eu bod yn perthyn i grwp penodol. Maent yn cwmpasu’r chwe phrif faes cydraddoldeb: oedran; anabledd; rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd; hil; crefydd/credo; cyfeiriadedd rhywiol.

Gweithrediaeth - y gangen o'r llywodraeth sy’n gyfrifol am reoli polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ac sy’n cynnwys Prif Weinidog Cymru a’r Cabinet.

Lleiafrifoedd Ethnig/ o Dras Ethnig Leiafrifol - wrth ddefnyddio’r termau hyn rydym yn dilyn arweiniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Llywodraeth Cynulliad Cymru - Prif Weinidog Cymru a’r Cabinet, sy’n gyfrifol am ddatblygu polisi a chyflenwi gwasanaeth.

Llywydd - Y rôl sy’n cyfateb i rôl Llefarydd Ty’r Cyffredin. Prif swyddogaeth y Llywydd yw cadeirio sesiynau llawn y Cynulliad. Mae’r Llywydd hefyd yn gyfrifol am ddehongli’r rheolau sy’n llywodraethu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac am gadeirio Comisiwn y Cynulliad.

Atodiad 3

Asesiad o Swyddogaethau a Pholisïau (neu bolisïau arfaethedig) o safbwynt eu perthnasedd o ran hybu cydraddoldeb

Mae’r asesiad hwn yn cwmpasu pob un o’r meysydd cydraddoldeb: oedran, anabledd, rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd/credo a thueddfryd rhywiol.

Swyddogaeth: Rheolaeth Strategol

Arfer/Polisïau/ Meysydd Gwaith: Cynllunio Corfforaethol; Monitro'r Cynllun Cydraddoldeb; Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb; Blaenoriaeth: Uchel

Swyddogaeth: Trafodion Ffurfiol (Cymorth Busnes y Cynulliad)

Arfer/Polisïau/ Meysydd Gwaith: Gwasanaeth y Pwyllgorau; Gwasanaeth y Siambr a’r Swyddfa Ddeddfwriaeth; Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Seneddol; Blaenoriaeth: Canolig

Swyddogaeth: Gwybodaeth a Chyngor i Aelodau’r Cynulliad

Arfer/Polisïau/ Meysydd Gwaith: Gwasanaeth Ymchwil Aelodau; Blaenoriaeth: Canolig; Tîm Cyfreithiol; Blaenoriaeth: Uchel

Swyddogaeth: Cyfleusterau a Gwasanaethau

Arfer/Polisïau/ Meysydd Gwaith: Rheoli Cyfleusterau; Blaenoriaeth: Uchel

Swyddogaeth: Cyfathrebu Allanol

Arfer/Polisïau/ Meysydd Gwaith: Y Cyfryngau a’r Wefan; Cysylltiadau Cyhoeddus ac Allgymorth; Strategaeth Cyhoeddiadau; Strategaeth Gyfathrebu; Gwasanaethau Ymwelwyr; Addysg a Dehongliad; Blaenoriaeth: Uchel

Swyddogaeth: Adnoddau Dynol

Arfer/Polisïau/ Meysydd Gwaith: Dysgu a Datblygu; Recriwtio a Dethol; Polisïau Cyflogaeth; Rheoli Perfformiad; Rheoli Gwybodaeth; Cynllunio Gweithlu; Iechyd Galwedigaethol; Iechyd a Diogelwch; Blaenoriaeth: Uchel

Swyddogaeth: Gweithrediadau

Arfer/Polisïau/ Meysydd Gwaith: Gwasanaethau Ariannol; Cymorth Busnes i Aelodau; Blaenoriaeth: Isel; Diogelwch Eiddo; Blaenoriaeth: Canolig; TG; Blaenoriaeth: Uchel

Atodiad 4

Crynodeb o Ymatebion i’r Ymarfer Ymgynghori a Chynnwys

Wrth ddatblygu ein Cynllun, gwnaethom gynnwys staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw, a phobl Cymru. Gwnaethom dderbyn tystiolaeth ansoddol a meintiol, a gwelir crynodeb o hyn isod.

1. Canlyniadau ystadegol

Mewn ymateb i’r cwestiynau yn ein harolwg, dadansoddir yr atebion a ddarparwyd fel a ganlyn:

Ydych chi’n gwybod sut i ganfod gwybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru?

Ydw:74%, Nac Ydw:26%

Ydych chi wedi defnyddio’n gwefan?

Ydw:44%, Nac Ydw:56%

A ddylem ni gynhyrchu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill?

Dylech:64%, Na Ddylech:36%

Ydych chi’n gwybod sut i gysylltu ag Aelod Cynulliad?

Ydw:55%, Nac Ydw:45%

Ydych chi’n gweld ein swyddi’n cael eu hysbysebu’n rheolaidd?

Ydw:34%, Nac Ydw:66%

Ydych chi’n gwybod ei bod yn bosibl gwylio cyfarfodydd y Cynulliad?

Ydw:65%, Nac Ydw:35%

Ydych chi wedi gwneud hyn?

Ydw:35%, Nac Ydw:65%

Ydych chi’n gwybod y gellir gwylio cyfarfodydd ar y rhyngrwyd?

Ydw:34%, Nac Ydw:66%

Ydych chi’n gwybod am system ddeisebu’r Cynulliad?

Ydw:28%, Nac Ydw:72%

2. Adborth ansoddol oddi wrth grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dargedwyd

Buom yn gweithio gyda grwpiau lleiafrifoedd ethnig, sefydliadau a chynrychiolwyr i gasglu adborth ar hygyrchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mynediad at wybodaeth

Er bod cenhadon cymunedol yn ymwybodol o sut i ddod o hyd i wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol a sut i gysylltu ag Aelodau’r Cynulliad, nid oedd mwyafrif y bobl o dras ethnig leiafrifol a holwyd yn ymwybodol o hyn.

Roedd yna lawer o ymatebwyr nad oeddent yn meddu ar y rhyngrwyd na’r sgiliau i’w ddefnyddio. Roedd y rheiny a oedd wedi defnyddio ein gwefan wedi ei chael yn rhy ffurfiol neu'n rhy anodd i’w defnyddio.

Roedd croeso i’r wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol a oedd ar gael mewn ieithoedd cymunedol, ond roedd angen defnyddio mwy ar Saesneg clir yn holl ddogfennau’r Cynulliad.

Roedd angen mwy o waith allgymorth â phobl o dras ethnig leiafrifol i gynyddu dealltwriaeth o waith y Cynulliad Cenedlaethol ac i annog pobl i ymgeisio am swyddi yn y sefydliad.

Er bod rhai o’r ymatebwyr yn ymwybodol o gymorthfeydd AC lleol, nid oedd y mwyafrif ohonynt yn gwybod sut i gysylltu â’u Haelod Cynulliad. Mae llawer ohonynt yn gweld eu AC yn ystod ymgyrchoedd etholiad yn unig. Fodd bynnag, dywedodd rhai ymatebwyr yn Ne Ddwyrain Cymru fod Mohammed Asghar, AC, yn Aelod Cynulliad o dras ethnig leiafrifol gweladwy.

Mynediad at gyfleoedd cyflogaeth

Nid oedd mwyafrif y bobl yn gweld ein swyddi’n cael eu hysbysebu’n rheolaidd, na’n gwybod lle i edrych am swydd gyda’r sefydliad.

Nododd llawer o ymatebwyr yr angen am ddull wedi’i leoleiddio o drin hysbysebion swyddi, gan eu harddangos mewn amrywiaeth o gyfryngau’n cynnwys canolfannau cymunedol, swyddfeydd post, canolfannau gwaith, y wasg leol, cyhoeddiadau lleiafrifoedd ethnig, sefydliadau crefyddol.

Nodwyd bod diwrnodau agored, cynlluniau cysgodi, profiad gwaith a seminarau swyddi’n ffyrdd o annog mwy o bobl o dras ethnig leiafrifol i ymgeisio am swyddi.

Roedd ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chydraddoldeb cyfle yn ffactorau pwysig i annog pobl o dras ethnig leiafrifol i ymgeisio am swyddi.

Nodwyd bod yr angen i siarad Cymraeg, diffyg staff o dras ethnig leiafrifol gweladwy, yr angen am gymwysterau penodol, ffurflenni cais maith a chamwahaniaethu ac aflonyddu yn rhwystrau rhag ymgeisio am swydd yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mynediad at drafodion

Roedd rhai o’r ymatebwyr wedi gwylio busnes y Cynulliad yn y Senedd, ond nid oedd llawer yn ymwybodol y gallent wneud hynny, neu roeddent yn meddwl ei fod rhy anhygyrch.

Prin iawn oedd yr wybodaeth am weddarlledu neu’r system ddeisebu.

Mynediad i’n hadeiladau

Roedd yna rai ymatebwyr nad oeddent yn ymwybodol y gallent ymweld â’r Senedd, neu ei fod yn rhad ac am ddim, neu ei fod ar agor i ymwelwyr dros y penwythnos.

Nodwyd bod diffyg cyfleusterau gofal plant ac ystafell weddïo, ac anawsterau wrth barcio, yn rhwystrau rhag ymweld â’r Senedd.

3. Ymatebion oddi wrth ymatebwyr Anabl a sefydliadau Pobl Anabl

Mynediad at wybodaeth

Mae’r rheiny sydd eisoes wedi ymgysylltu â datganoli a’r Cynulliad wedi defnyddio’r wefan ac yn gwybod sut i ddod o hyd i wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd y rheiny nad oeddent wedi ymgysylltu yn ei chael yn fwy anodd dod o hyd i wybodaeth a gwahaniaethu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dylid gwneud y wefan yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cyfrifiadur sydd â nam ar eu golwg. Mae angen i’r wefan gael ei harchwilio’n annibynnol trwy ddefnyddwyr yn ei rhoi ar brawf at y diben hwn.

Nid yw’r wefan yn gwbl hygyrch i unigolion sydd wedi colli dau o’u synhwyrau.

Nid oes botwm hygyrchedd yn y prif benawdau.

Dylai gwybodaeth mewn ieithoedd eraill fod ar gael ar gais. Dylid hefyd defnyddio fformatau amgen, fel fformat hawdd i’w ddarllen, Braille a thâp/CD, yn fwy eang, a hybu hyn i’r cyhoedd.

Gellid gwneud y wefan yn fwy hygyrch pe bai mewn Saesneg cliriach neu hawdd ei ddarllen.

Dylai ACau mewn cymorthfeydd lleol a lleoliadau allgymorth eraill fod yn hygyrch bob amser. Gallai ACau ymweld â chartrefi pe bai angen.

Mynediad at gyfleoedd cyflogaeth

Mae’n anodd cyrraedd sectorau o’r gymuned anabl trwy ddulliau recriwtio traddodiadol. Mae yna lawer nad ydynt yn gweld ein swyddi’n cael eu hysbysebu’n rheolaidd.

Mae’n anodd gwelywio trwy'r adran swyddi ar y wefan.

Gallai’r Cynulliad hysbysebu swyddi trwy sefydliadau cynrychiadol a allai ddosbarthu gwybodaeth am swyddi gwag trwy eu rhwydweithiau. Gellid hefyd hysbysebu swyddi trwy gyhoeddiadau sy’n benodol i bobl anabl.

Nodwyd bod ymrwymiad i arferion recriwtio hygyrch a theg, staff wedi’u hyfforddi’n effeithiol, rhoi cyhoeddusrwydd i bolisïau sy’n ymwneud ag addasiadau rhesymol ac arferion gweithio hyblyg yn ffactorau pwysig i annog ceisiadau.

Mae cynllun gwarantu cyfweliad i bobl anabl hefyd yn annog ceisiadau.

Roedd rhai ymatebwyr yn ofni y byddai eu hanabledd yn eu hatal rhag cael swydd yn y sefydliad.

Gallai Comisiwn y Cynulliad hefyd ddefnyddio’r cynllun Mynediad at Waith yn fwy eang, a rhoi cyhoeddusrwydd i hyn.

Byddai o fudd hybu lleoliadau gwirfoddol a phrofiad gwaith.

Mynediad at drafodion

Er bod rhywfaint o ymwybyddiaeth o’r gallu i arsylwi ar gyfarfodydd y Cynulliad, prin oedd y rhai a oedd wedi manteisio ar hyn.

Nid oedd llawer o bobl yn ymwybodol o weddarlledu neu’r system ddeisebu. Roedd y rheiny a oedd wedi defnyddio weddarlledu o’r farn y byddai arwyddo, isdeitlau a disgrifiadau sain o fudd.

Mynediad i’n hadeiladau

Mae nifer o ymatebwyr wedi canmol hygyrchedd y Senedd, er i lawer nodi problemau parhaus, yn enwedig ar y grisiau allanol.

Mae yna ddiffyg llwybrau botymog, sy’n ei gwneud yn anodd i bobl â nam ar eu golwg wneud eu ffordd trwy leoedd agored mawr. Fodd bynnag, mae staff y Cynulliad bob amser yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar.

Gallai cynllun neu fodel cyffyrddadwy o’r Senedd helpu pobl â nam ar eu golwg gael cysyniad o’r adeilad a gosodiad yr ardaloedd cyhoeddus.

Nid yw mynediad pobl anabl i’r adeilad wedi’u marcio’n glir.

Dylid bod â thoiledau hygyrch ar lefel y caffi.

4. Sylwadau Eraill a Godwyd trwy’r Ymarfer Cynnwys

Mynediad at wybodaeth

Er bod rhai pobl yn ei chael yn hawdd gwelywio trwy’r wefan i ddod o hyd i wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol, roedd eraill yn ei chael yn gymhleth i’w defnyddio neu i ddod o hyd i wybodaeth roeddent yn chwilio amdani, gan awgrymu categoreiddio gwybodaeth yn well (h.y. A i Y) a pheiriant chwilio gwell.

Mae’r wefan yn hynod brysur, gyda llawer o wybodaeth ar bob tudalen. Mae naws y wefan yn rhy "sych”.

Gwnaeth rhai ymatebwyr feirniadu’r ffont a ddefnyddir ar y wefan, gan ddweud ei fod yn ddryslyd ac nad oedd yn ddigon eglur neu fawr.

Weithiau nid yw chynnwys fideo a ffrydio fideo ar-lein yn gweithio.

Mae angen cael rhai cyhoeddiadau, fel arweiniad i’r Cynulliad, mewn ieithoedd yn hytrach na’r Gymraeg a’r Saesneg. Dylai cyhoeddiadau eraill fod ar gael mewn fformatau amgen ac mewn ieithoedd eraill ar gais. Codwyd materion yn ymwneud a rhesymoldeb a chost.

Mynediad at gyfleoedd cyflogaeth

Dylid hysbysebu swyddi mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol (Cymru a’r DU), dylent fod yn haws i ddod o hyd iddynt ar wefan y Cynulliad, a dylent fod mewn cyhoeddiadau mwy amrywiol ac mewn prifysgolion a cholegau.

Dylid hybu buddiannau a pholisïau cyflogaeth (fel gweithio hyblyg, gweithio rhan-amser a gweithio gartref) i annog ceisiadau.

Bydd Cynllun Cydraddoldeb aml-faes yn galluogi Comisiwn y Cynulliad i weithio i recriwtio gweithlu amrywiol.

Dylai Comisiwn y Cynulliad weithio gyda sefydliadau cynrychiadol i fynd i’r afael â chynrychiolaeth annigonol yn y gweithlu.

Byddai camwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ym mhob un o’r meysydd cydraddoldeb yn annog pobl i beidio ag ymgeisio am swyddi, ac felly hefyd yr angen canfyddedig i siarad Cymraeg.

Dywedodd nifer o ymatebwyr eu bod yn teimlo y byddai’r ffaith eu bod yn hyn yn eu hatal rhag cael eu cyflogi yng Nghomisiwn y Cynulliad.

Ystyriwyd bod y ffurflen gais "hir a chymhleth” yn rhwystr i ymgeiswyr.

Mynediad at drafodion

Er mai bach yw’r ymwybyddiaeth o weddarlledu ar y cyfan, roedd llawer o’r rheiny a oedd wedi arsylwi ar gyfarfodydd, naill ai yn y Senedd ei hun, ar y teledu neu ar y rhyngrwyd, wedi eu cael yn hygyrch, yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol.

Weithiau ceir oedi cyn i Fusnes y Cynulliad ymddangos ar y rhyngrwyd.

Bydd ymgysylltu mwy â sefydliadau’r trydydd sector yn cynyddu ymgysylltiad â’r broses wleidyddol.

Mae’r iaith a ddefnyddir ym Musnes y Cynulliad yn rhy ffurfiol, ac nid yn Gymraeg/Saesneg clir.

Mynediad i’n hadeiladau

Mae angen mwy o waith allgymorth sy’n targedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol neu grwpiau nad ydynt wedi ymgysylltu’n ddigonol. Er enghraifft, er mwyn gwneud digwyddiadau’r Cynulliad yn fwy hygyrch, dylid eu cynnal ar amseroedd pan mae merched yn ei chael yn haws eu mynychu, felly mae digwyddiadau a gynhelir ar ôl 10am a chyn 3pm yn fwy tebygol o ddenu merched. Dylai digwyddiadau fod yn hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, a dylai cyfleusterau newid clytiau babanod a meithrinfeydd fod ar gael.

Mae angen ei gwneud yn fwy amlwg lle mae mynedfa’r Senedd. Mae’r fynedfa’n anodd i’w gweld o’r tu allan. Mae angen gwell arwyddion, efallai ar ffurf enw ar ochr yr adeilad.

Gallai defnyddio gwybodaeth/cyflwyniadau clyweledol fod o fudd i’r adeilad.

Dylid hybu gwasanaethau ymwelwyr i bobl Cymru.

5. Ymatebion a Gadwyd mewn Ystyriaeth wrth Lunio ein Cynllun Gweithredu

Mae llawer o’r materion a godwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi cael sylw yn ein Cynllun Gweithredu. Mae’r codau isod (A6, C4, G1 ac ati) yn cyfeirio at yr amcan cyfatebol a’r camau gofynnol yn y Cynllun.

Gwaith allgymorth ac ymwybyddiaeth gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau nad ydynt wedi ymgysylltu’n ddigonol

Gweler Camau A6, A9, C1, C3, C4, C6, C7, C8

Cynhyrchu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill lle bo angen

Gweler Cam C8

Gwneud y wefan yn hygyrch ac yn rhwydd i'w defnyddio, gan ystyried adborth defnyddwyr

Gweler Camau D1, D3

Hysbysebu swyddi gwag a hybu polisïau cyflogaeth i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, gan gynnwys yr angen i chwalu’r canfyddiad bod yn rhaid i bobl allu siarad Cymraeg i weithio yn ein sefydliad sy’n gweithredu ar sail ddwyieithog

Gweler Camau A9, B1, C1, C9, B6, B11

Gwella ymwybyddiaeth staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw o amrywiaeth ddiwydiannol ac anghenion gwahanol.

Gweler Camau A7, A8, B2, G1

Bod â pholisïau effeithiol i ddelio â bwlio, aflonyddu a chamwahaniaethu

Gweler Cam B3

Sicrhau bod ein hadeiladau’n hygyrch

Gweler Camau C4, C5, F1, F3

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help