Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynllun Cydraddoldeb
2008-2011

This is a Flash Object


Crynodeb

Pwy ydym ni a’r hyn rydym yn ei wneud

Mae Comisiwn y Cynulliad yn cefnogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (60 Aelod y Cynulliad) ac yn darparu staff, eiddo ac adnoddau er mwyn iddo weithredu’n effeithiol.

Yr hyn y mae’r Cynllun Cydraddoldeb yn ei wneud

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb yn manylu ar ddull Comisiwn y Cynulliad o gyflawni’i amcanion cydraddoldeb yn ei rôl fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad, eu staff ac aelodau'r cyhoedd. Mae Cynllun Gweithredu sy’n cyd-fynd ag ef yn manylu ar y camau y byddwn yn eu cymryd i hybu cydraddoldeb, dileu aflonyddu a chamwahaniaethu, a chwalu rhwystrau i gydraddoldeb.

Mae’r Cynllun yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Tachwedd 2008 a mis Tachwedd 2011, ac mae'n manylu ar sut byddwn yn bodloni gofynion dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus o ran hil, anabledd a rhywedd (gan gynnwys hunaniaeth o ran rhywedd). Rydym hefyd wedi cynnwys yr agweddau eraill ar gydraddoldeb, sef oedran, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol yn y Cynllun hwn. Ystyrir egwyddorion Hawliau Dynol hefyd yn y Cynllun.

Sut gwnaethom ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb

Gwnaethom gynnal ymarfer ymgynghori a chynnwys i’n helpu i ddatblygu ein Cynllun. Gwnaethom ofyn i staff, Aelodau’r Cynulliad, aelodau’r cyhoedd a sefydliadau cynrychioliadol am eu barn ynghylch y canlyniadau cydraddoldeb roeddem wedi’u nodi a pha gamau roeddent yn credu yr oedd angen inni’u cymryd i gyflawni’r canlyniadau cydraddoldeb hyn.

Gwnaethom ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu ein Cynllun Gweithredu.

Cynllun Gweithredu - Ein Blaenoriaethau

Mae ein Cynllun Gweithredu’n manylu ar y canlyniadau rydym am eu sicrhau ar gyfer cydraddoldeb, a’r camau blaenoriaethol y mae angen inni eu cymryd i sicrhau’r rhain. Mae’r camau’n cynnwys:

  • Datblygu hyfforddiant cydraddoldeb a rhaglen codi ymwybyddiaeth ar gyfer ein staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw, sy’n adlewyrchu gofynion ein Cynllun Cydraddoldeb
  • Cefnogi Aelodau’r Cynulliad i’w galluogi i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn eu gwaith
  • Adolygu a chyflwyno cynllun peilot ar gyfer ein hofferyn asesu effaith ar gydraddoldeb a hyfforddi staff i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb effeithiol
  • Parhau i wella dulliau casglu data cydraddoldeb ein staff a threfniadau monitro cyflogaeth
  • Cynnal adolygiad cyflog cyfartal a datblygu Strategaeth Gyflogau sy’n ystyried ei ganlyniadau
  • Cefnogi a chynnwys ein rhwydweithiau staff a Fforwm Defnyddwyr Anabl allanol
  • Sicrhau bod ein hadeiladau’n hygyrch i staff, Aelodau’r Cynulliad, eu staff nhw a’r cyhoedd trwy barhau i gynnal rhaglen o welliannau (gan ddefnyddio adborth oddi wrth ddefnyddwyr allanol)
  • Sicrhau bod cyflenwyr allanol yn adlewyrchu ein dyheadau a’n gofynion o ran cydraddoldeb
  • Sicrhau bod yr wybodaeth rydym yn ei chynhyrchu’n hygyrch, yn addysgiadol ac yn ddiddorol
  • Cynyddu ein hymgysylltiad ag unigolion a sefydliadau cynrychioliadol ledled Cymru
  • Monitro adborth defnyddwyr ar ein gwefan a gweithredu’n unol â hyn, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon i’w gwneud yn fwy hygyrch
  • Adrodd ar gynnydd wrth gyflawni ein camau a’n canlyniadau cydraddoldeb yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Comisiwn y Cynulliad

Monitro ac Adolygu

Bydd Comisiwn y Cynulliad yn cynhyrchu Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a fydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf am gyflawni ein canlyniadau cydraddoldeb.

Bydd y Cynllun yn cael ei adolygu’n allanol bob tair blynedd, a bydd hyn yn helpu i ddarparu sail ar gyfer datblygu ein Cynllun nesaf.

_______________________________________________________

Sut i roi adborth inni ar ein Cynllun Cydraddoldeb

Rydym yn croesawu adborth ar ein Cynllun Cydraddoldeb. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â ni:

Tîm Cydraddoldeb a Mynediad

Comisiwn y Cynulliad

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA

Ffôn: 029 2089 8204

Ffôn testun: 029 2089 8601

Ffacs: 029 2089 8117

E-bost: equalities.team@wales.gsi.gov.uk

Os hoffech gael copi o’n Cynllun Cydraddoldeb neu grynodeb o’r Cynllun mewn fformat arall, defnyddiwch y manylion uchod i gysylltu â ni.