Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Camu Ymlaen Cymru

Cynllun mentora yw Camu Ymlaen Cymru ar gyfer unigolion yng Nghymru sy’n rhan o grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol.

Partneriaeth yw’r cynllun peilot hwn rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Mae Camu Ymlaen Cymru yn cynnig cyfleoedd mentora

i unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i’w hannog i ymwneud mwy â democratiaeth yng Nghymru ac i’w helpu i fagu hyder wrth ddelio â chynrychiolwyr etholedig.  Mae 34 o bobl o bob rhan o Gymru yn cael eu mentora gan gynghorwyr lleol ac Aelodau Cynulliad er mwyn helpu’r unigolion i ymwneud mwy â chyrff democrataidd a datblygu eu rôl fel dinasyddion gweithgar a chynrychiolwyr eu cymunedau.

Cynlluniwyd Camu Ymlaen Cymru nid yn unig i roi profiadau i’r mentoreion ond hefyd i godi ymwybyddiaeth y mentoriaid o faterion sy’n bwysig i’w hetholwyr. Rydym eisoes wedi gweld cynghorwyr ac Aelodau Cynulliad yn ymdrin â materion sydd o ddiddordeb i’r mentoreion, ac yn cael cymorth ganddynt i ddysgu am y meysydd newydd hyn.

Oriel

Y cynllun

Yn dilyn cynllun llwyddiannus, a drefnwyd gan Ymgyrch y Bleidlais Ddu yn 2007, i unigolion gysgodi Aelodau’r Cynulliad, roeddem  am ddatblygu cynllun newydd a fyddai’n apelio at bobl ar hyd a lled Cymru sy’n awyddus i gymryd mwy o ran mewn democratiaeth,  ond sy’n ansicr ynghylch sut i wneud hynny.

Y cynllun >>

Mentoreion

Mae 34 o fentoreion yn cymryd rhan yng nghynllun Camu Ymlaen Cymru ac maent yn dod o bob rhan o Gymru. Mae pob un ohonynt yn cynrychioli un neu ragor o’r grwpiau o bobl nad oes ganddynt, yn gyffredinol, gynrychiolaeth ddigonol yn nemocratiaeth Cymru.

Mentoreion >>

Mentoriaid

Cynlluniwyd Camu Ymlaen Cymru nid yn unig i gynorthwyo ac i ddysgu pobl am ddemocratiaeth yng Nghymru ond hefyd i roi cyfle i Aelodau’r Cynulliad a chynghorwyr i ddysgu rhagor am grwpiau yng Nghymru nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol. Mentoriaid >>

Grŵp llywio