Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cydraddoldebau

Croeso i dudalennau Cydraddoldebau Comisiwn y Cynulliad ar y we.  Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldebau, fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau. Ar y tudalennau hyn, disgrifiwn sut y ceisiwn hyrwyddo cydraddoldebau, byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf am faterion cydraddoldeb ac yn nodi sut y gallwch gysylltu â ni.

Y Cynllun Cydraddoldeb 2008-11

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn nodi ein hymagwedd tuag at fodloni ein hamcanion cydraddoldeb. Rydym wedi datblygu’r Cynllun Cydraddoldeb hwn i gynorthwyo ein sefydliad â hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a nodi a chwalu rhwystrau posibl i gydraddoldeb i’n staff, Aelodau’r Cynulliad, eu staff nhw ac aelodau’r cyhoedd.
Mwy>>

Datganiad Cydraddoldeb Strategol

Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu adnoddau, eiddo a staff i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu fel sefydliad democrataidd. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn nodi ein hymagwedd tuag at fodloni ein hamcanion cydraddoldeb.
Mwy>>

Cysylltwch â'r Tim Cydraddoldeb

Os hoffech gysylltu â’n Tîm Cydraddoldebau i drafod unrhyw faterion cydraddoldebau/ mynediad neu os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch datblygu ein Un Cynllun Cydraddoldebau neu unrhyw fater arall, gallwch gysylltu â Holly, Ross neu Christine
Mwy>>