Ymgynghoriad ar Un Cynllun Cydraddoldebau – dweud eich dweud!
Cyflwyniad
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) yn datblygu Un Cynllun Cydraddoldebau a Chynllun Gweithredu i hyrwyddo prif ffrydio cydraddoldebau trwy’r sefydliad, fel cyflogwr ar un llaw ac fel darparwr gwasanaeth ar y llaw arall. Bydd y cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn gweithredu i gyflawni’n hamcanion cydraddoldebau, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac yn ymdrin ag anfanteision i bobl.
Yr ydym yn datblygu’r Cynllun ond mae arnom angen eich cymorth chi. Fe hoffem gynnwys pobl Cymru wrth osod ein hamcanion cydraddoldebau.
Bydd y Cynllun yn cynnwys y meysydd cyfrifoldeb canlynol mewn perthynas â chydraddoldebau: oed; anabledd; rhyw /hunaniaeth o ran rhywedd; hil/ethnigrwydd; crefydd/ cred a chyfeiriadedd rhywiol. Bydd un Cynllun yn dwyn ynghyd yr holl feysydd cyfrifoldeb o ran cydraddoldeb ac yn cefnogi staff a defnyddwyr gwasanaethau sydd ag anghenion sydd weithiau’n gwahaniaethu neu’n gorgyffwrdd.
Hoffem wybod beth feddyliwch chi yw cryfderau neu wendidau’r Cynulliad ym maes cydraddoldebau? Beth ydym yn ei wneud yn dda? A oes lle i wella o gwbl?
Gallech hefyd helpu drwy ychwanegu’r ddogfen ymgynghori i’ch gwefan eich hun neu drwy rannu’r ddogfen gyda defnyddwyr gwasanaeth eraill. Os hoffech i ni drefnu cyfarfod er mwyn casglu adborth, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda a byddwn ni’n hapus i ddod i’ch cyfarfod ac i siarad â chi.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Hoffem pe baech yn darllen trwy’n dogfen ymgynghori fer ac yn rhoi eich barn ar y cwestiynau yr ydym yn eu gofyn am ba mor hygyrch ydym ni i bobl Cymru. Mae gwybodaeth bellach ynglyn â pham ein bod yn holi pobl am ein un cynllun cydraddoldebau a chwestiynau i’w gweld yn y ddogfen ymgynghori gyflawn isod. Gofynnwn i bobl ymateb erbyn 29 Awst 2008 os gweler yn dda.
Dogfen ymgynghori gyflawn
Word format | PDF format
Fersiwn gryno o’r ddogfen ymgynghori
Mae fformatau gwahanol ar gael o ofyn amdanynt
Ffurflen ymateb - Word format | PDF format
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, anfonwch hwy at timcydraddoldebau@wales.gsi.gov.uk
Llawer o ddiolch am eich cymorth i ddatblygu ein Un Cynllun Cydraddoldebau
Manylion cyswlllt llawn y tim