Datganiad Polisi Cydraddoldeb Strategol
Ein Gweledigaeth
Mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu adnoddau, eiddo a staff i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu fel sefydliad democrataidd.
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad blaenllaw yn ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol yn ein rôl fel cyflogwr, ac fel sefydliad sy’n rhoi cymorth i Aelodau’r Cynulliad ac sy’n rhyngweithio â’r cyhoedd.
Credwn fod cyfle cyfartal i bawb yn hawl dynol sylfaenol ac awn ati i wrthwynebu pob ffurf ar gamwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg. Rydym yn ymdrechu i greu corff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ymgysylltu â holl bobl Cymru ac yn eu parchu. Mae’r polisi hwn yn gysylltiedig â’n Diben a’n Nodau Strategol, ein Cynllun Cydraddoldeb a’n polisïau cyflogaeth.
Ein Gwerthoedd
Mae Comisiwn y Cynulliad:
- Yn hybu, yn parchu ac yn gwerthfawrogi cyfle cyfartal ac amrywiaeth
- Yn herio ac yn dileu aflonyddu a chamwahaniaethu
- Yn cydnabod ac yn chwalu rhwystrau i gydraddoldeb
- Yn ymddwyn fel sefydliad sy’n esiampl o gyflogwr da ac sy’n ddarparwr gwasanaeth hygyrch
- Yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff ac yn cefnogi pob unigolyn i gyflawni ei botensial llawn
- Yn anelu at sicrhau bod ein gweithlu’n gynrychioliadol o’n cymdeithas amrywiol
- Yn ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad ledled Cymru
- Yn hybu agweddau positif a pherthnasoedd da rhwng pob grwp o bobl
- Yn derbyn model cymdeithasol anabledd, gan gydnabod mai’r rhwystrau a grëir gan gymdeithas sy’n creu anabledd, nid amhariad
Sut rydym yn bwriadu cyflawni ein gweledigaeth a hybu ein gwerthoedd:
- Trwy roi ein Cynllun Cydraddoldeb a’n Cynllun Gweithredu a pholisïau ategol eraill ar waith a mynd ati i'w monitro
- Trwy hyfforddi a chefnogi staff, Aelodau’r Cynulliad a’u staff nhw â gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb perthnasol
- Trwy gynnwys ein staff ac aelodau’r cyhoedd yn ein prosesau penderfynu ac asesiadau effaith
- Trwy weithredu ar adborth ac awgrymiadau, lle bo’n briodol
Sut byddwn yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni hyn:
Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei adolygu pob tair blynedd, a byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a fydd yn manylu ar ein cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Bydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar yr Adroddiad hwn bob blwyddyn.
Cysylltwch â'r Tim Cydraddoldeb