Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynllun Cydraddoldeb
2008-2011

This is a Flash Object


Cynnwys

Rhagair

Corff newydd a ddaeth i fodolaeth fis Mai 2007 yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) a dyma ein Cynllun Cydraddoldeb cyntaf. Rydym wedi datblygu’r Cynllun Cydraddoldeb hwn i gynorthwyo ein sefydliad â hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a nodi a chwalu rhwystrau posibl i gydraddoldeb i’n staff, Aelodau’r Cynulliad, eu staff nhw ac aelodau’r cyhoedd.

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb yn amlinellu’r hyn y byddwn yn ei wneud i fodloni gofynion dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ar gyfer anabledd, rhywedd (gan gynnwys hunaniaeth o ran rhywedd) a hil. Fodd bynnag, rydym wedi ymestyn y Cynllun Cydraddoldeb hwn i gwmpasu’r agweddau eraill ar gydraddoldeb: oedran, crefydd/credo a chyfeiriadedd rhywiol.  Mae egwyddorion Hawliau Dynol (gan gynnwys tegwch, urddas a pharch) hefyd wrth wraidd datblygiad y Cynllun Cydraddoldeb hwn.

Rydym o’r farn y dylid integreiddio cydraddoldeb a hawliau dynol i’n harferion gweithio er budd pawb. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb hwn yn ystyried y ffaith bod pobl yn unigolion a bod ganddynt ofynion gwahanol. Nod y Cynllun a’i Gynllun Gweithredu yw mynd i’r afael ag anfanteision penodol a lluosog trwy nodi a chwalu rhwystrau rhag cydraddoldeb.

Fel cyflogwr, rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pob aelod o staff ac rydym am eu cefnogi i sicrhau eu bod yn cyflawni'u potensial llawn. Fel darparwr gwasanaeth, rydym am gefnogi Aelodau’r Cynulliad i’w galluogi i wneud eu gwaith yn effeithiol. Yn achos y cyhoedd, rydym am i’r Cynulliad fod yn hygyrch a darparu’r gwasanaeth gorau posibl (gwasanaethau ymwelwyr, gwybodaeth ac addysg, mynediad at drafodion a chyfranogiad). Mae ein Cynllun Gweithredu’n manylu ar y camau y mae angen inni eu cymryd i sicrhau hyn, ac mae hefyd yn rhoi sylw i’r darganfyddiadau o’n hymarferion ymgynghori a chynnwys diweddar, gan fanylu ar y camau a’r canlyniadau cydraddoldeb y nodwyd y byddem yn rhoi blaenoriaeth iddynt.

Wrth ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb, rydym yn falch ein bod wedi gallu cynnwys ystod amrywiol o unigolion a sefydliadau sy’n ffurfio cymdeithas yng Nghymru heddiw. Rydym yn ddiolchgar i’r unigolion a’r sefydliadau sydd wedi cyfrannu at ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb, ac yn croesawu adborth pellach ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda yn eich barn chi ac ynghylch lle rydych yn teimlo y gallwn wella.

Y Gwir Anrh yr Arglwydd Elis-Thomas AC – Llywydd a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad                                                           Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Llywydd a Chadeirydd                                                                                      Prif Weithredwr a
Comisiwn y Cynulliad                                                                                        Chlerc y Cynulliad

Y Gwir Anrh. yr Arglwydd Elis-Thomas AC                                                            Claire Clancy