Deddfu ar gyfer Cymru

Ie i bwerau pellach

Yn dilyn y refferendwm a gynhaliwyd ar 03 Mawrth 2011 ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi pwerau pellach i’r Cynulliad Cenedlaethol lunio deddfau yng Nghymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn drwy fynd i un o’r adrannau isod:

|

Biliau a Deddfau

|
Biliau a Deddfau

Mae Bil yn gyfraith arfaethedig. Unwaith y bydd Bil wedi’i basio gan y Cynulliad a’i fod yn cael Cydsyniad Brenhinol, mae’n dod yn Ddeddf y Cynulliad. Gall y Cynulliad basio Deddfau ar unrhyw bwnc a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006.

Is-ddeddfwriaeth

Mae'r Cynulliad yn craffu ar is-ddeddfwriaeth a luniwyd gan Weinidogion Cymru gan ddefnydio pwerau a ddirprwywyd iddynt gan Deddf neu Fesur Cynulliad neu gan Ddeddf Seneddol

Mae is-ddeddfwriaeth yn cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau yn ogystal â chanllawiau statudol a gorchmynion lleol.

Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol


Cyn mis Mawrth 2011, roedd y Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn fath o is-ddeddfwriaeth a oedd yn trosglwyddo pwerau penodol o’r Senedd i’r Cynulliad.

Ceir manylion yr holl Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol blaenorol a osodwyd gerbron y Cynulliad yma. Gorchmynion o'r Trydydd Cynulliad

Canllawiau ar y Broses Ddeddfu

Yn y rhan hon, ceir eglurhad o sut mae’r broses ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad yn gweithio, gyda gwybodaeth bellach am Filiau a Deddfau, canllawiau a dogfennau, megis Atodlen 7.

Partneriaid a Help