Beth yw rôl y Cynulliad?

Publications

Mae’r Cynulliad yn ymgymryd â thair swyddogaeth: cynrychioli Cymru a’i phobl; deddfu ar gyfer Cymru; a dwyn Llywodraeth Cymru I gyfrif.

Cynrychioli Cymru a’i phobl

Mae’r Cynulliad yn cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad - dewisir 40 i gynrychioli etholaethau unigol, a dewisir 20 i gynrychioli pum rhanbarth Cymru (Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru). Cynrychiola pob Aelod Cynulliad ei ranbarth fel aelod o blaid wleidyddol neu fel aelod annibynnol.

Deddfu ar gyfer Cymru

Pleidleisio o blaid mwy o bwerau: yn dilyn refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Mawrth 2011, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid caniatáu mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ar gyfer Cymru.

Dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

Mae craffu’n effeithiol ar waith y llywodraeth yn ganolog i waith unrhyw gorff democrataidd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymgymryd â’r gwaith hwn drwy nifer o bwyllgorau, sy’n cynnwys Aelodau o’r holl bleidiau gwleidyddol.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Amdanon Ni
  3. Rôl y Cynulliad a sut mae’n gweithio
  4. Beth yw rôl y Cynulliad?

Partneriaid a Help