Dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

Mae craffu effeithiol ar waith Llywodraeth Cymru yn ganolog i unrhyw broses ddemocrataidd a chynhelir y gwaith hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy nifer o Bwyllgorau sy’n cynnwys Aelodau Cynulliad o bob un o’r pleidiau.
Fel rhan o’u rol yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, bydd Pwyllgorau’r Cynulliad yn edrych yn feirniadol ar faterion fel sut y mae Llywodraeth Cymru’n gwario arian cyhoeddus a sut y mae’n gweithredu polisiau. Yn gryno, bydd y Cynulliad Cenedlaethol, drwy’r Pwyllgorau craffu hyn, yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru, ar ran pobl Cymru, yn atebol am ei gweithredoedd.
Bydd Pwyllgorau’n argymell sut (er enghraifft) y gall polisiau Llywodraeth Cymru fod yn fwy cadarn a sut y gall ei gwariant fod yn fwy effeithiol, effeithlon a darbodus. Bydd Pwyllgorau hefyd yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau mewn ffordd ragweithiol ac arloesol, a rheini’n unigolion a sefydliadau sy’n gallu mynegi safbwyntiau a phrofiadau pobl Cymru.
