Mae modd gweld gwybodaeth yn ymwneud â’r lwfansau a hawliodd Aelodau’r Cynulliad yn ystod 2008-09 ar y System Cyhoeddi Lwfansau newydd. Mae’r wybodaeth wedi’i chynnwys mewn cronfa ddata ac mae modd chwilio am fanylion yn ôl:
Blwyddyn a/neu fis (peidiwch â dewis mis os ydych am weld manylion y flwyddyn gyfan)
Aelod Cynulliad (gadewch y blwch dewisiadau’n wag i weld y canlyniadau ar gyfer holl Aelodau’r Cynulliad)
Math o lwfans (gadewch y blwch dewisiadau’n wag i weld y canlyniadau ar gyfer yr holl wahanol lwfansau)
Math o wariant (gadewch y blwch dewisiadau’n wag i weld y canlyniadau ar gyfer yr holl wariant)