Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd i Aelodau'r Cynulliad unigol, eu staff a Phwyllgorau'r Cynulliad. Mae'r gwasanaeth wedi ei drefnu i:

  • tri thîm ymchwil sy’n darparu cyngor arbenigol ynghylch meysydd polisi penodol
  • tîm ymchwil sy’n rhoi gwybodaeth ariannol ac ystadegol arbenigol  

  • tîm ymchwil sy’n rhoi cyngor ynglyn â’r Cynulliad, y cyfansoddiad, deddfwriaeth y DU a’r UE, etholiadau a refferenda

  • Llyfrgell sy’n cynnig amrywiaeth lawn o wasanaethau cyfeirio a gwasanaethau gwybodaeth

  • Swyddfa ym Mrwsel sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth am faterion yn ymwneud â’r UE gan gynnwys cymorth gydag ymweliadau

Gellir gweld amrywiaeth o friffiau a chyfarwyddydiadau gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y wefan hon. Mae'r rhain wedi eu llunio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a'u staff, ond efallai byddant o ddiddordeb i gynulleidfa allanol hefyd.

Er mwyn darparu gwasanaeth ymchwil effeithiol, mae'n bwysig ein bod yn cael gafael ar wybodaeth gyfredol oddi wrth sefydliadau allanol ac hefyd, unigolion gyda gwybodaeth ac arbenigedd mewn ardaloedd pwnc perthnasol. Os hoffech wybod mwy am ein gwaith, neu os oes gennych unrhyw gyhoeddiadau o ddiddordeb i'n hymchwilwyr, defnyddiwch y manylion isod i gysylltu â ni.

Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Gwasanaeth Ymchwil
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

e-bost: Research.Service@wales.gov.uk

Am rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth gweler:

Y Gwasanaeth Ymchwil | Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pennaeth y Gwasanaeth:

Kathryn Potter
029 2089 8038

Tîm yr Amgylchedd a’r Economi

Darparu cyngor arbenigol ar ddatblygu economaidd, trafnidiaeth, ynni, yr amgylchedd, cynllunio, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, datblygu gwledig, datblygu cynaliadwy, coedwigaeth a dyfroedd morol a mewndirol.

Graham Winter
Arweinydd y Tîm Ymchwil
029 2089 8166

Y Tîm Polisi Iechyd a Pholisi Cymdeithasol

Darparu cyngor arbenigol ar iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol, cyfle cyfartal, plant a phobl ifanc, pobl hyn, cyfiawnder cymdeithasol, adfywio, tai, y sector gwirfoddol, diogelwch cymunedol, cam-drin cyffuriau ac alcohol.

Sarah Hatherley
Arweinydd y Tîm Ymchwil

029 2089 8447

Y Tîm Addysg, Diwylliant a Llywodraeth Leol

Darparu cyngor arbenigol ar addysg, dysgu gydol oes, diwylliant, chwaraeon a hamdden, amgueddfeydd a llyfrgelloedd, y Gymraeg, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus

Anne Thomas
Arweinydd y Tîm Ymchwil

029 2089 8966

Y Tîm Cyllid ac Ystadegau

Darparu cyngor arbenigol ar arian a chyllidebau’r Cynulliad, cyllid llywodraeth leol ac ystadegau cyffredinol, gan gynnwys dulliau a ffynonellau .

Martin Jennings
Arweinydd y Tîm Ymchwil

029 2089 8057

Tîm y Cynulliad a’r Cyfansoddiad

Darparu cyngor arbenigol ar y Cynulliad, deddfwriaeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd (mewn cydweithrediad â Gregg Jones o swyddfa’r UE), etholiadau a refferenda.

Martin Jennings
Arweinydd y Tîm Ymchwil
029 2089 8057

Y Llyfrgell

Darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio, gan gynnwys cyhoeddiadau swyddogol, papurau newydd, cyfnodolion ac e-adnoddau

Stephanie.Wilson
Pennaeth y Llyfrgell
029 2089 8629

Swyddfa’r UE

Darparu cyngor arbenigol a gwybodaeth am faterion yn ymwneud â’r UE; rhoi cymorth i gynrychiolwyr y Cynulliad Cenedlaethol ar Bwyllgor y Rhanbarthau (a Chyngor Ewrop); hyrwyddo gwaith a buddion y Cynulliad ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn yr UE a hwyluso rhaglenni ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a dirprwyaethau staff i Frwsel.

Gregg Jones
Pennaeth Swyddfa'r UE Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Swyddfa UE Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ty Cymru (6ed Llawr)
Rond Point Schuman, 11
B-1040 Brussels
Belgium

Ffôn: +32 (0)2 226 6692
Ffacs: + 32 (0)2 226 6694

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Ymchwil
  4. Ynglyn â’r gwasanaeth

Partneriaid a Help