Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gwasanaethau monitro

Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau’n darparu nifer o wasanaethau sy’n tracio busnes y Cynulliad, deddfwriaeth y Cynulliad a busnes perthnasol Senedd y DU.

Hysbysiad Busnes

Mae’r Hysbysiad Busnes yn cynnwys manylion am holl gyfarfodydd Cyfarfod Llawn a phwyllgorau ar gyfer yr wythnos gyfredol a’r wythnos sydd i ddod. Mae hefyd yn darparu mynediad at y busnes diweddaraf a gyflwynwyd neu a osodwyd gerbron y Cynulliad, yn cynnwys deddfwriaeth. Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru drwy’r wythnos i gynnwys unrhyw newidiadau diweddar i gyfarfodydd ac agendau a drefnwyd:

Hysbysiad Busnes


Datblygiad ymchwiliadau pwyllgorau craffu

Darpara’r dudalen hon wybodaeth ddiweddar am hynt ymchwiliadau Pwyllgorau Craffu’r Trydydd Cynulliad:

Datblygiad ymchwiliadau pwyllgorau craffu


Datblygiad Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau

Rhydd y dudalen hon grynodeb diweddar ar hynt holl Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau’r Cynulliad, ac mae’n cynnwys lincs i’r dogfennau perthnasol a rhagor o wybodaeth esboniadol. Caiff ei ddiweddaru’n gyson:

Datblygiad Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau


Nodiadau tracio pwerau’r Cynulliad

Darpara’r nodiadau hyn gofnod diweddar o welliannau, arfaethedig a gwelliannau a basiwyd, i bob un o’r 20 Maes a gynhwysir o fewn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Nodiadau tracio pwerau’r Cynulliad

Ochr yn ochr â nodiadau tracio pwerau’r Cynulliad, darparwn fersiwn wedi’i diweddaru o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd).


Busnes San Steffan

Mae’r dudalen hon yn dwyn sylw at fusnes perthnasol Senedd y Deyrnas Unedig am yr wythnos i ddod, yn cynnwys mesurau’r DU sy’n arwyddocaol i Gymru, dadleuon Aelodau Seneddol Cymru, gweithgaredd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ac ati.:

Westminster business


Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU

Mae’r dudalen hon yn olrhain hynt Mesurau a nodwyd fel rhai’n cynnwys pwerau ‘fframwaith' (i wneud Mesurau) ar gyfer Cymru a/neu ddarpariaethau i Gymru. Caiff y dudalen ei diweddaru’n gyson. Hefyd darperir dolenni at ddogfennau perthnasol:

The UK Government’s Legislative Programme 2009 - 2010


Mae briffiau gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn cael eu ysgrifennu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a'u staff. Mae’r awduron ar gael i drafod y papurau gydag Aelodau a'u staff ond nid yw'n bosib i roi cyngor i'r cyhoedd. Dylai unrhyw sylwadau'n cael eu anfon at Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd CF99 1NA, neu drwy ebost i MembersLibrary@wales.gsi.gov.uk.

Yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn Saesneg yn unig y cynhyrchir dogfennau nad ydynt yn cael eu creu at ddefnydd y cyhoedd yn bennaf. Serch hynny, gwneir pob ymdrech i gyhoeddi rhai o gyhoeddiadau Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn Gymraeg hefyd, wedi ystyried eu cynnwys, eu hyd a'r cyfnod y bydd y wybodaeth yn berthnasol.

Dylai pobl sydd angen fformat arall i'r rhain sydd ar gael ar y wefan hon i weld y ffeiliau gysylltu â ni. Gwnawn ein gorau i gwrdd â'ch anghenion.

Brig