Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Hysbysiad Busnes

Cyfarfodydd

Darperir manylion ar bob Cyfarfod Llawn a chyfarfod pwyllgor ar gyfer yr wythnos i ddod ar y dudalen hon. Caiff y wybodaeth ei diweddaru trwy gydol yr wythnos i adlewyrchu newidiadau i gyfarfodydd ac agendâu.





Cyfarfodydd yr wythnos hon | Cyfarfodydd y dyfodol

Busnes a gyflwynwyd

Manylion y busnes a gyflwynwyd neu a osodwyd gerbron y Cynulliad yn ddiweddar, yn cynnwys cynigion, cwestiynau, deddfwriaeth a gwybodaeth arall.
Mwy>>

Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru)

Gwelliannau Cam 2

Ar ôl i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, dechreuodd Cyfnod 2 ar 2 Gorffennaf 2009. Gellir cyflwyno gwelliannau yn awr i'r Mesur arfaethedig (fel y'i cyflwynwyd).

_______________________

Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)

Gwelliannau Cam 2

Ar ôl i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, dechreuodd Cyfnod 2 ar 1 Gorffennaf 2009. Gellir cyflwyno gwelliannau yn awr i'r Mesur arfaethedig (fel y’i cyflwynwyd).

_______________________

Y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru)

Gwelliannau Cam 3

Ar ôl i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, dechreuodd Cyfnod 2 ar 16 Hydref 2008. Gellir cyflwyno gwelliannau yn awr i'r Mesur arfaethedig (fel y'i cyflwynwyd). Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau wedi mynd heibio.

Cyfarfodydd yr wythnos hon

Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener

Dydd Llun 06 Gorffennaf 2009

16.15 Y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth (Ystafell Bwyllgora 3)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Offerynnau na fydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig iddynt o dan Reol Sefydlog 15.2
  • Offerynnau y bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig iddynt o dan Reol Sefydlog 15.2
  • Y Mesur Cydraddoldeb
  • Ystyried y dystiolaeth a’r argymhellion cychwynnol ar gyfer adroddiad y Pwyllgor (Sesiwn breifat)


Dydd Mawrth 07 Gorffennaf 2009

Y Pwyllgor Busnes (cyfarfod preifat)


09.00 Y Pwyllgor Deisebau (Ystafell Bwyllgora 1)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Sesiwn dystiolaeth: P-03-190 Na i Ffordd Maes Awyr Dyffryn Elai
  • Sesiwn dystiolaeth: P-03-218 Achubwch Bentref Gwenfo
  • Trafod y dystiolaeth
  • Deisebau newydd
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol


09.30 Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc (Ystafell Bwyllgora 2)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Ymchwiliad i’r trefniadau ar gyfer rhoi plant mewn gofal yng Nghymru


09.30 Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yn ystyried Mesur Arfaethedig ynghylch Ffioedd am Ofal Cymdeithasol (Cymru) (Ystafell Bwyllgora 3)

Brig

13:30 Cyfarfod Llawn (y Siambr)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  • Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Ymchwiliad E.coli
  • Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: y Comisiwn ar Newid yn yr Hinsawdd a’r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • Dadl ar Ddengmlwyddiant Datganoli - Carwyn Jones AC


Brig

Dydd Mercher 08 Gorffennaf 2009

09.30 Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig (Ystafell Bwyllgora 3)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Adroddiad ar gynnydd y rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg
  • Ymchwiliad i gynhyrchu a hybu bwyd Cymreig - ystyried yr adroddiad drafft (Sesiwn breifat)
  • Yr adroddiad blynyddol drafft (Sesiwn breifat)
  • Y blaenraglen waith (Sesiwn breifat)


09.30 Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yn ystyried Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2009 (Ystafell Bwyllgora 2)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2009


Brig

13:30 Cyfarfod Llawn (y Siambr)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
  • Cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog - Dafydd Elis-Thomas AC
  • Dadl Cyfnod 3 Rheol Sefydlog 23.57 ar y Mesur arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru)
  • Cynnig Cyfnod 4 Rheol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru)
  • Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Joyce Watson ynghylch Arwynebau Caled - Joyce Watson AC
  • Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Alun Cairns AC - Cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru
  • Dadl fer - Chris Franks AC - Cyllid i chi, eich cymuned, ac i Gymru


Brig

Dydd Iau 09 Gorffennaf 2009

09:30 Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 yn ystyried Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) (Ystafell Bwyllgora 1)

  • Crynodeb:
  • Cyfarfod preifat


09.30 Y Pwyllgor Cyllid (Ystafell Bwyllgora 3)

  • Agenda llawn i dillyn
  • Crynodeb:


13.00 Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant (Ystafell Bwyllgora 1)


13.00 Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol (Ystafell Bwyllgora 2)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Ymchwiliad i Welyau Haul
  • Ymchwiliad i Welyau Haul – Ystyriaeth o’r Tystiolaeth (Sesiwn breifat)


13.00 Y Pwyllgor Menter a Dysgu (Ystafell Bwyllgora 3)

  • Agenda llawn
  • Crynodeb:
  • Ymchwiliad dilynol i drefniadau ariannu ysgolion

Brig

Cyfarfodydd y dyfodol

Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener

Dydd Llun 13 Gorffennaf 2009


Dydd Mawrth 14 Gorffennaf 2009

Cyfarfod llawn

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
  • Datganiad Busnes a Chwestiynau
  • Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009/10
  • Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: ymgynghoriad Comisiwn Iechyd Cymru
  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Dwr Daear (Cymru a Lloegr) 2009
  • Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru)


Pwyllgorau


Brig

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2009

Cyfarfod llawn

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylched, Cynaliadwyedd a Thai
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol
  • Cynnig mewn perthynas â gwaith craffu Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Briffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Leihau Allyriadau Carbon drwy Gynhyrchu Ynni
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig
  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru
  • Amser Pleidleisio
  • Dadl Fer


Pwyllgorau


Brig

Dydd Iau 16 Gorffennaf 2009

Pwyllgorau


Gweler hefyd: yr Datganiad Busnes am ragor o fanylion ar gyfarfodydd llawn ar gyfer y tair wythnos nesaf.

Brig

Gwasanaeth e-bost hysbysu

Gellir cofrestru ar wefan y Cynulliad i dderbyn e-byst hysbysu pan fo'r tudalen hon wedi ei diweddaru.

Brig