Ar y dudalen hon, ceir lincs i'r busnes diweddaraf a gyflwynwyd neu a osodwyd gerbron y Cynulliad.
Deddfwriaeth | Cynigion a gwelliannau | Cwestiynau | Dogfennau a osodwyd | Datganiadau barn
Mesur arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion Cyfnod 4 ar 10 Tachwedd 2009. Mae'r Mesur yn awr yn disgwyl cymeradwyaeth Brenhinol.
_______________________
Mesur arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru)
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion Cyfnod 4 ar 19 Ionawr 2010. Mae'r Mesur yn awr yn disgwyl cymeradwyaeth Brenhinol.
_______________________
Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru)
Ar ôl i’cwblhau trafodion Cyfnod 2, bydd Cynfod 3 yn dechrau ar 4 Chwefror 2010. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn y cyfarfod lle y maent i fod i gael eu hystyried.
_______________________
Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Cyflwynir cynigion ar wahanol faterion i'r Cynulliad benderfynu arnynt. Gall yr Aelodau gynnig gwelliannau i gynigion yn unol â'r Rheolau Sefydlog.
Cyflwynir cwestiynau llafar i'r Prif Weinidog eu hateb yn y Cyfarfod Llawn bob wythnos a chyflwynir cwestiynau i'w hateb gan Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad bob pedair wythnos.
Cyflwynir cwestiynau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad ar faterion sy’n ymwneud a’u dyletswyddau.
Mae Rheol Sefydlog 29 yn darparu ar gyfer gosod dogfennau gerbron y Cynulliad. Gosod yw'r weithdrefn ffurfiol ar gyfer cyflwyno dogfennau i'r Cynulliad.
Mae'r ddolen uchod yn darparu rhestr o'r dogfennau diweddaraf a osodwyd o flaen y Cynulliad
Caniateir i Ddatganiadau Barn gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod Cynulliad heblaw Aelod o'r Llywodraeth, ar faterion sy'n effeithio ar Gymru. Caniateir i Ddatganiadau Barn gael eu hategu, eu gwrthwynebu neu fod yn destun sylwadau.