Y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)
Cyfarfodydd Llawn
Cynhelir Cyfarfodydd Llawn y Cynulliad yn y Siambr bob dydd Mawrth a dydd Mercher yn ystod y tymor. Gellir gweld yr holl ddogfennau busnes ar gyfer Cyfarfodydd Llawn yma, gan gynnwys yr Agendâu a'r Pleidleisiau a Thrafodion.
Rhestr fanwl o fusnes y dydd, gan gynnwys y cynigion a'r gwelliannau a gyflwynwyd i’w trafod.
Caiff cwestiynau llafar eu cyflwyno i'r Prif Weinidog bob wythnos. Caiff cwestiynau llafar eu cyflwyno bob pedair wythnos i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad.
Caiff cynigion eu cyflwyno i sicrhau penderfyniad gan y Cynulliad. Gall Aelodau gynnig gwelliannau i gynigion yn unol â'r Rheolau Sefydlog.
Yn yr adran hon, cewch wybodaeth am y busnes a drafodwyd yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad. Mae’n cynnwys manylion am y pleidleisiau, y gwelliannau a'r cwestiynau llafar.
Yn yr adran hon, cewch grynodeb o fusnes y Siambr dros y tair wythnos nesaf.
Cyflwynir cwestiynau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad ar faterion sy’n ymwneud a’u dyletswyddau.
Mae Rheol Sefydlog 29 yn darparu ar gyfer gosod dogfennau gerbron y Cynulliad. Gosod yw'r weithdrefn ffurfiol ar gyfer cyflwyno dogfennau i'r Cynulliad.
Caniateir i Ddatganiadau Barn gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod Cynulliad heblaw Aelod o'r Llywodraeth, ar faterion sy'n effeithio ar Gymru. Caniateir i Ddatganiadau Barn gael eu hategu, eu gwrthwynebu neu fod yn destun sylwadau.
Chwilio'r adran hon
Gallwch chwilio drwy holl ddogfennau busnes y Siambr yma.