Dydd Mawrth, 2 Hydref 2007
Tuesday, 2 October 2007
Cynnwys
Contents
Cwestiynau
i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister
Datganiad
a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement
Datganiad
am Golli Swyddi yng Nghaerdydd
Statement on Job Losses in Cardiff
Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation of those speeches has been included.
Cyfarfu’r
Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd (Dafydd Elis-Thomas) yn y Gadair.
The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer (Dafydd Elis-Thomas) in the Chair.
Y Llywydd: Galwaf y Cynulliad i drefn. |
The Presiding Officer: I call the Assembly to order. |
TB mewn Gwartheg |
Bovine TB |
C1 Paul Davies: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r mesurau y mae’r Llywodraeth yn golygu’u cyflwyno i ddifa TB mewn gwartheg? OAQ(3)0272(FM) |
Q1 Paul Davies: Will the First Minister outline the measures that the Welsh Assembly Government intends to introduce to eradicate bovine TB? OAQ(3)0272(FM) |
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae Elin Jones, y Gweinidog perthnasol, wedi datgan y bydd datblygu rhaglen i waredu’r clefyd hwn ymhlith gwartheg, sydd yn costio miliynau o bunnoedd bob blwyddyn, yn flaenoriaeth bennaf. Mae’n rhaid gwneud hyn mewn partneriaeth â phobl sydd â diddordeb uniongyrchol yn y mater, gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chyda’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. |
The First Minister (Rhodri Morgan): Elin Jones, as the relevant Minister, has declared that the development of a programme to eradicate bovine TB, which costs millions of pounds per annum, will be a top priority. This will have to be done in partnership with stakeholders, with the Department for Environment, Food and Rural Affairs and with the other devolved administrations. |
Paul Davies: Mae’r diwydiant amaethyddol wedi dioddef ergydion enfawr yn ddiweddar o ganlyniad i glwy’r traed a’r genau a chlefyd y dafod las. Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae TB wedi achosi problemau mawr yn y diwydiant. Mae’n amlwg nad yw’r polisi presennol o ddifa gwartheg gan adael anifeiliaid gwyllt heb eu difa yn gweithio. Yn fy marn i, nid yw’n synhwyrol difa un set o anifeiliaid heb reoli’r set arall. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno bod yn rhaid ailystyried y polisi hwn ac ystyried rheoli niferoedd anifeiliaid gwyllt yn ogystal â difa gwartheg er mwyn rheoli’r clefyd dinistriol hwn? |
Paul Davies: The agriculture industry has suffered huge blows recently as a result of foot and mouth disease and the bluetongue virus. Over the past 10 years, TB has caused huge problems within the industry. It is clear that the current policy of culling cattle without controlling wildlife is not working. In my opinion, it is not sensible to destroy one set of animals without controlling the other. Will the First Minister agree that the policy needs to be reconsidered and that consideration must be given to the control of the wildlife population alongside the culling of cattle in order to eradicate this damaging disease? |
Y Prif Weinidog: Caiff y manylion eu cynnwys yn natganiad Elin Jones, wedi i’r polisi newydd gael ei ddatblygu. Fel y mae ar hyn o bryd, credaf mai’r flaenoriaeth yw pwysleisio’r dull o reoli symudiad anifeiliaid. Golyga hyn fod anifeiliaid yn cael eu profi cyn y caniateir iddynt gael eu symud. Mae monitro yn y dull hwnnw yn hollbwysig ar hyn o bryd, ond, wrth gwrs, gallai hynny newid yn sgil datganiad Elin. |
The First Minister: The details will be dealt with in Elin Jones’s statement, following the formulation of the new policy. As things stand, I believe that the main priority is to emphasise the way in which animal movements are to be controlled. This refers to the need to test animals before they can be moved. This type of surveillance is crucial at this time, but, of course, things could change when Elin comes to make her statement. |
Gareth Jones: Mae cryn bwysau yn dod o du ffermwyr yn fy etholaeth i o safbwynt y clwyf hwn. Maent yn gofyn byth a beunydd beth sydd yn digwydd a pha safiad a wnawn fel Llywodraeth i fynd i’r afael â’r clwyf. Teimlaf fod gagendor, neu wacter, yma, felly a allwch chi roi sicrwydd i ffermwyr y bydd cyngor ar gael ac y dilynir cyfeiriad penodol er mwyn lleddfu eu pryderon rywfaint? Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn teimlo nad oes dim byd yn digwydd ac maent yn gofyn ble maent yn sefyll. A allwch chi roi sicrwydd y caiff cyngor ei roi i’n ffermwyr? |
Gareth Jones: Farmers in my constituency have brought significant pressure to bear in relation to this disease. They constantly ask what is happening and what stance we as a Government will take to tackle the disease. I believe that there is a gulf, or a gap, here. Therefore, could you give farmers an assurance that advice will be available and that we will take a specific course to alleviate their concerns somewhat? At present, farmers feel that nothing is happening and they do not know where they stand. Can you give an assurance that farmers will be given advice? |
Y Prif Weinidog: Mae’n rhaid ichi ddeall y dystiolaeth o safbwynt symud anifeiliaid ac ai’r symudiadau hynny sy’n achosi’r clefyd i ledu o’r naill ardal i’r llall. Yr wyf yn meddwl mai’r flaenoriaeth yw sicrhau bod y profi yn digwydd cyn y caniateir symud anifeiliaid o ardal lle canfuwyd achos o’r clefyd i ardaloedd eraill. Mae’n bwysig inni adolygu’r hyn a wnawn a chryfhau hynny, gan edrych yn benodol ar symudiadau anifeiliaid. |
The First Minister: You must try to understand the evidence in terms of animal movement, and whether the spread of the disease from one area to another is caused by those movements. I believe that the priority is to ensure that animals are tested before movement is permitted from an area where TB is prevalent to another area. It is important that we review and strengthen our procedures, while looking at animal movements in particular. |
Mick Bates: To both the previous questions, First Minister, you gave answers that made it sound as though your Government is doing something positive about TB. If I were to put it to you that there has been a several hundred per cent increase in the number of cases and that more than 1,000 TB tests in Wales are overdue, would you not think that that proved the negligence involved in controlling the disease? Would you not think that there were grounds for saying that unnecessary suffering had been caused to animals and farmers alike? When will you ensure that your Plaid-Labour Government takes action to resolve the issues that are destroying the industry? We now have foot and mouth disease and bluetongue, but this has been going on for far too long. When will you take proper action to decrease the incidence of the disease and ensure that farming no longer suffers from it? |
Mick Bates: Wrth ateb y ddau gwestiwn blaenorol, Brif Weinidog, rhoesoch atebion a oedd yn gwneud iddi ymddangos fel petai eich Llywodraeth yn gwneud rhywbeth cadarnhaol ynghylch TB. Petawn i’n dweud wrthych fod nifer yr achosion wedi cynyddu gant y cant sawl gwaith drosodd a bod mwy na 1,000 o brofion TB yng Ngymru’n hwyr, oni fyddech yn meddwl bod hynny’n profi’r esgeulustod a fu wrth reoli’r clefyd? Oni fyddech chi’n meddwl bod sail dros ddweud bod dioddef diangen wedi’i achosi i anifeiliaid a ffermwyr ill dau? Pa bryd y gwnewch sicrhau bod eich Llywodraeth Plaid-Llafur yn cymryd camau i ddatrys y problemau sy’n dinistrio’r diwydiant? Yn awr, mae gennym glwy’r traed a’r genau a chlefyd y tafod glas, ond mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers rhy hir o lawer. Pa bryd y cymerwch gamau priodol i leihau nifer achosion y clefyd a sicrhau nad yw byd ffermio’n dioddef ohono ragor? |
The First Minister: When you have an animal disease that has proved endemic in the United Kingdom and has spread out from the south-west of England, where it never was eradicated, up to the Welsh border, and across the Welsh border down into Dyfed and up into mid Wales and so on, I do not think that I can give you a promise that it will be eradicated by such and such a date. It is proving difficult to dig out this disease and control it, but, as I mentioned, vigorous activity is already taking place on pre-movement testing, and that came in on 1 March, so to say that nothing has been happening is quite wrong. Pre-movement TB testing was extended in Wales to include all animals from one and two-yearly testing herds over the age of six weeks. Elin Jones will be reviewing this policy, because we need a vigorous eradication policy. However, to imply that nothing has been done is contradicted by the facts. |
Y Prif Weinidog: Pan fydd gennych glefyd ymhlith anifeiliaid a hwnnw wedi bod yn endemig yn y Deyrnas Unedig a’i fod wedi lledu o dde-orllewin Lloegr, lle na chafodd erioed mo’i ddileu, i fyny at y ffin â Chymru, a chroesi’r ffin honno i lawr i Ddyfed ac i fyny i’r Canolbarth ac yn blaen, ni chredaf y gallaf addo ichi y caiff ei ddileu erbyn y dyddiad a’r dyddiad. Mae’n anodd mynd at wraidd y clefyd hwn a’i reoli, ond, fel y soniais, mae pobl wrthi’n ddygn eisoes yn cynnal profion cyn-symud, a dechreuodd hynny ar 1 Mawrth, felly mae dweud nad oes dim byd wedi bod yn digwydd yn gwbl anghywir. Ehangwyd profion TB cyn-symud yng Nghymru i gynnwys pob anifail dros chwech wythnos oed o yrroedd a brofir bob blwyddyn a bob dwy flynedd. Bydd Elin Jones yn adolygu’r polisi hwn, oherwydd mae angen polisi dileu cadarn arnom. Serch hynny, mae’r ffeithiau’n croesddweud yr awgrym nad oes dim wedi’i wneud. |
Alun Davies: I am glad that you said in answer to that question that your purpose was to eradicate TB, not simply to control it; that moves the policy on considerably. You will also be aware that the Rural Development Sub-committee, which I chair, is conducting an inquiry into bovine TB at the moment. During nearly a year-long election campaign, the amount of suffering in farming communities caused by bovine TB hit home with me. Can you give me an assurance that your Government will respond to our report, which we hope to publish in November, and take firm action to prioritise the eradication of this disease across Wales, particularly in Mid and West Wales, the region that I represent, where Carmarthenshire is one of the worst affected regions? |
Alun Davies: Yr wyf yn falch ichi ddweud wrth ateb y cwestiwn hwnnw mai dileu TB oedd eich amcan, nid dim ond ei reoli; mae hynny’n symud y polisi yn ei flaen yn sylweddol. Byddwch yn ymwybodol hefyd fod yr Isbwyllgor Datblygu Gwledig yr wyf yn ei gadeirio’n cynnal ymchwiliad i TB mewn gwartheg ar hyn o bryd. Yn ystod ymgyrch etholiad a barodd bron i flwyddyn, fe’m trawyd gan faint o ddioddef sydd mewn cymunedau ffermio yn sgil TB mewn gwartheg. A allwch fy sicrhau y bydd eich Llywodraeth yn ymateb i’n hadroddiad, y gobeithiwn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd, a chymryd camau cadarn i wneud dileu’r clefyd hwn ledled Cymru’n flaenoriaeth, yn enwedig yn y Canolbarth a’r Gorllewin, y rhanbarth yr wyf yn ei gynrychioli, lle mae Sir Gaerfyrddin yn un o’r rhanbarthau yr effeithir arni waethaf? |
The First Minister: Indeed. Anyone who knows the farming industry in Carmarthenshire and other strong dairy farming areas will realise what a problem the disease, having transplanted itself from the south-west of England, from where it never was eradicated, through Somerset and Gloucestershire into Monmouthshire and across to Dyfed and the strong dairy farming areas there, causes and the need to eradicate it when we find the right method of doing so. I am sure that the contribution that your sub-committee will make will be closely studied by Elin Jones and her officials. |
Y Prif Weinidog: Yn sicr. Bydd unrhyw un sy’n adnabod y diwydiant ffermio yn Sir Gaerfyrddin ac mewn ardaloedd eraill lle mae ffermio llaeth yn gryf, yn sylweddoli faint o broblem y mae’r clefyd yn ei beri. Fe’i trawsblannodd ei hun o dde-orllewin Lloegr, lle na chafodd erioed mo’i ddileu, drwy Wlad yr Haf a Swydd Gaerloyw i Sir Fynwy, ac ar draws i Ddyfed a’r ardaloedd ffermio llaeth cryf sydd yno. Byddant yn sylweddoli hefyd fod angen ei ddileu pan gawn hyd i’r dull cywir o wneud hynny. Yr wyf yn siŵr y bydd Elin Jones a’i swyddogion yn astudio cyfraniad eich is-bwyllgor yn ofalus. |
Gwasanaethau Adsefydlu Cardiaidd |
Cardiac Rehabilitation Services |
C2 David Lloyd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gwasanaethau adsefydlu cardiaidd? OAQ(3)0269(FM) |
Q2 David Lloyd: Will the First Minister make a statement regarding the availability of cardiac rehabilitation services? OAQ(3)0269(FM) |
Y Prif Weinidog: Yr wyf yn datgan diddordeb personol yn y mater hwn. Gwn o’m profiad fod cyfraniad allweddol yn cael ei wneud gan y gwasanaethau adsefydlu ar gyfer pobl gyda’r un fath o broblem yr wyf yn dioddef ohoni, os wyf yn dal i ddioddef ohoni yn awr. Wythnos nesaf, byddaf yn ymweld â phrosiect iechyd y galon y Barri ac yn cymryd rhan yn y prosiect. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld sut mae’r gwasanaeth hwnnw yn gweithio, fel gwasanaeth sydd yn dod â phobl gyda’r un broblem at ei gilydd, sut mae hynny yn ffitio gyda gwasanaethau y gwasanaeth iechyd, a sut mae’r expert patient, y claf gyda’r profiad personol, yn cymryd rhan yn datblygu’r driniaeth sydd ei hangen. |
The First Minister: I declare a personal interest in this matter. I know from personal experience that rehabilitation services make a crucial contribution to the lives of people who have the same condition as I have, if that is still the case. Next week, I will visit, and take part in, the Barry heart health project. I look foward to seeing how the service operates, as a service that brings together people experiencing the same problems, how that fits with the services provided by the health service, and how the expert patient, or the patient with personal experience of a condition, contributes to the development of the treatments needed. |
David Lloyd: It has been shown that attending cardiac rehabilitation clinics after a heart attack reduces the chance of dying prematurely of heart disease by 26 per cent. Therefore, patients that do not have cardiac rehabilitation are 26 per cent more likely to die in the next two to five years. Despite that, only 41 per cent of those in need of cardiac rehabilitation services in Wales receive them, and Welsh cardiac rehabilitation services are threatened because funding is precarious. Funding is set by local health boards; there is no central strategy for the funding of these services. Some cardiac rehabilitation programmes have closed, and others face the possibility of closure. With that in mind, and bearing in mind your own experience, what will you do to ensure that, by the end of 2010, every heart patient has access to high-quality cardiac programmes that meet the minimum standards set out by the British Association for Cardiac Rehabilitation? |
David Lloyd: Dangoswyd bod mynychu clinigau adsefydlu cardiaidd ar ôl cael trawiad ar y galon yn lleihau’r siawns o farw cyn pryd o glefyd y galon 26 y cant. Felly, mae’r cleifion na chânt adsefydlu cardiaidd 26 y cant yn fwy tebygol o farw yn y cyfnod rhwng dwy a phum mlynedd wedyn. Er gwaethaf hynny, dim ond 41 y cant o’r rheini y mae angen gwasanaethau adsefydlu cardiaidd arnynt yng Nghymru sy’n eu cael, ac mae gwasanaethau adsefydlu cardiaidd Cymru dan fygythiad oherwydd bod eu sefyllfa ariannu’n fregus. Y byrddau iechyd lleol sy’n pennu faint o arian a gânt; nid oes strategaeth ganolog ar gyfer ariannu’r gwasanaethau hyn. Mae rhai rhaglenni adsefydlu cardiaidd wedi cau, ac mae eraill yn wynebu’r posibilrwydd hwnnw. Gyda hynny mewn golwg, a chan gofio eich profiad eich hun, beth a wnewch i sicrhau bod pob claf, erbyn diwedd 2010 yn gallu manteisio ar raglenni cardiaidd o safon uchel sy’n cydymffurfio â safonau gofynnol Cymdeithas Adsefydlu Cardiaidd Prydain. |
2.10 p.m. |
|
The First Minister: I will have to read that in detail, for personal and ministerial reasons, and discuss it with Edwina Hart. However, the basics are well understood by everyone, namely that patients should take exercise, eat a balanced diet, attend self-help groups and take their medication. The national service framework for coronary heart disease, published six years ago in 2001, is now being updated, and will incorporate a separate and specific standard on cardiac rehabilitation for the first time. We recognise what you said, and how important it is as part of the overall package of care for cardiac patients. |
Y Prif Weinidog: Bydd yn rhaid imi ddarllen hynny’n fanwl, am resymau personol ac fel gweinidog, a’i drafod gydag Edwina Hart. Fodd bynnag, mae pawb yn deall y pethau sylfaenol, sef y dylai pob claf wneud ymarfer corff, bwyta deiet cytbwys, mynychu grwpiau hunangymorth a llyncu eu moddion. Mae’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon, a gyhoeddwyd chwe blynedd yn ôl yn 2001, yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd, ac, am y tro cyntaf, bydd yn cynnwys safon benodol ar wahân sy’n ymwneud ag adsefydlu cardiaidd. Yr ydym yn cydnabod yr hyn a ddywedasoch, a pha mor bwysig ydyw fel rhan o’r pecyn gofal cyffredinol i gleifion y galon. |
Jonathan Morgan: First Minister, you may be aware of a particular problem in Cardiff, where the Big Lottery Fund has been providing additional money for cardiac rehab services for some time. Now that that money has stopped coming in, those services are not being provided as they were before, although the local health board is still responsible for providing the basic level of that service. Bearing in mind the precarious nature of the funding, as Dai Lloyd pointed out, is it not time that we looked at this from a more strategic perspective to ensure that patients get the services that they need? |
Jonathan Morgan: Brif Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol o broblem benodol yng Nghaerdydd, lle mae Cronfa’r Loteri Fawr wedi bod yn darparu arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau adsefydlu cardiaidd ers tro. A’r arian bellach wedi dod i ben, nid yw’r gwasanaethau hynny’n cael eu darparu fel yr oeddent gynt, er bod y bwrdd iechyd lleol yn dal yn gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth hwnnw ar lefel sylfaenol. A chofio pa mor fregus yw’r drefn ariannu, fel y soniodd Dai Lloyd, onid yw’n bryd inni edrych ar hyn o safbwynt mwy strategol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt? |
The First Minister: You are right to mention the precariousness of lottery funding, which Dai Lloyd mentioned originally, but lottery funding is never intended to continue for ever. It should provide a basis that enables pilot projects to be carried out, which can then be evaluated and incorporated into normal LHB service commissioning. The 26 per cent variation that was mentioned in repeat heart episodes, or even deaths, occurring fewer than five years down the line between those who get the full range of cardiac rehab services and those who do not is pretty impressive. Once lottery funding has ceased, it becomes a matter for local health boards to decide on the right projects, on whether to continue with them as they are or tweak them a bit and commission some variant of a project. They can then get on with the job of ensuring that that 26 per cent risk of death from subsequent episodes is not realised. |
Y Prif Weinidog: Yr ydych yn iawn i grybwyll natur fregus arian y loteri, y soniodd Dai Lloyd amdano’n wreiddiol, ond ni fwriedir byth i arian y loteri barhau’n ddiddiwedd. Dylai ddarparu sylfaen ar gyfer cynnal prosiectau peilot, y gellir wedyn eu cloriannu a’u cynnwys yn rhan o gomisiynu gwasanaethau arferol y BILl. Mae’r gwahaniaeth 26 y cant y cyfeiriwyd ato rhwng y rhai sy’n cael ystod lawn y gwasanaethau adsefydlu cardiaidd a’r rhai nad ydynt, o ran cael trawiad arall ar y galon, neu hyd yn oed farw lai na phum mlynedd wedyn, yn eithaf trawiadol. Pan fydd arian y loteri wedi dod i ben, mater i’r byrddau iechyd lleol fydd penderfynu ar y prosiectau iawn, a ddylid bwrw ymlaen â hwy fel y maent ynteu eu mireinio fymryn a chomisiynu prosiect sy’n amrywiad arno. Wedyn, gallant fynd rhagddynt i sicrhau na wireddir y risg 26 y cant o farw yn sgil trawiadau pellach. |
Jenny Randerson: First Minister, I have listened carefully to what has been said so far, and some good points have been made by the two speakers who questioned you. In Cardiff, despite knowing four years in advance that lottery funding would run out this year, neither the LHB nor the trust is able to find the paltry £115,000 required to keep these enhanced services going. Do you not agree that that is short-sighted and is a short-term view? Do you agree that Ministers of this Government should have taken the long-term view many months ago, and ensured that local health boards and trusts were given precise directions that money be found, so that expenditure in the short term would lead to considerable savings in the long term, both in terms of money and lives? |
Jenny Randerson: Brif Weinidog, yr wyf wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn sydd wedi’i ddweud hyd yn hyn, ac mae’r ddau siaradwr sydd wedi’ch holi wedi codi pwyntiau da. Yng Nghaerdydd, er eu bod yn gwybod bedair blynedd ymlaen llaw y byddai arian y loteri’n dirwyn i ben eleni, ni all na’r BILl na’r ymddiriedolaeth ddod o hyd i’r £115,000 pitw y mae ei angen i gadw’r gwasanaethau gwell hyn. Oni chytunwch fod hyn yn dangos diffyg gweledigaeth ac ymagwedd tymor byr? A gytunwch y dylai Gweinidogion y Llywodraeth hon fod wedi edrych ar y tymor hir fisoedd lawer yn ôl, ac wedi sicrhau bod byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd lleol wedi cael cyfarwyddiadau manwl i ddod o hyd i’r arian, fel y byddai’r gwariant yn y tymor byr yn arwain at arbedion sylweddol yn y tymor hir, a hynny o ran arian ac o ran bywydau? |
The First Minister: It is important to recognise that lottery funding is not the main source of funding, but, rather, it is the inequalities in health fund, which is Government funding, although that will also come to an end next year. In the meantime, the national service framework for cardiac services is being reviewed, and we know from the progress already made on establishing the principles of the review that cardiac rehab services will, for the first time, be given a specific target in the cardiac services NSF. Therefore, we will have to see what emerges from that, as I obviously do not micromanage these things; none of us does. It is important that we recognise the steps that have been taken to ensure that a far higher priority is given to cardiac rehab. |
Y Prif Weinidog: Mae’n bwysig cydnabod nad arian y loteri yw’r brif ffynhonnell gyllid, ond, yn hytrach, y gronfa anghydraddoldebau iechyd, sydd hefyd yn gyllid gan y Llywodraeth, er y daw honno i ben hefyd y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, mae’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cardiaidd wrthi’n cael ei adolygu, a gwyddom, yn sgil y cynnydd a wnaethpwyd eisoes o ran sefydlu egwyddorion yr adolygiad, y rhoddir targed penodol i’r gwasanaethau adsefydlu cardiaidd, am y tro cyntaf, yn y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cardiaidd. Felly, bydd yn rhaid inni weld beth a ddaw o hynny, oherwydd, mae’n amlwg, nid wyf yn meicroreoli’r pethau hyn; nid oes neb ohonom yn gwneud hynny. Mae’n bwysig inni gydnabod y camau a gymerwyd i sicrhau bod blaenoriaeth uwch o lawer yn cael ei rhoi i adsefydlu cardiaidd. |
Education Funding |
Ariannu Addysg |
Q3 Ann Jones: Will the First Minister make a statement on education funding in Wales? OAQ(3)0261(FM) |
C3 Ann Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ariannu addysg yng Nghymru? OAQ(3)0261(FM) |
The First Minister: Investment in education in the 2007-08 financial year is some £4 billion, including provision via local authorities. That is an increase of 13 per cent on 2006-07 funding. This significant level of investment will enable us to deliver high-quality education in Wales, including our 'One Wales’ commitments. |
Y Prif Weinidog: Yn ystod blwyddyn ariannol 2007-08, buddsoddir oddeutu £4 biliwn mewn addysg, gan gynnwys darpariaeth drwy gyfrwng yr awdurdodau lleol. Mae hynny 13 y cant yn fwy na chyllid 2006-07. Bydd y lefel fuddsoddi sylweddol hon yn ein galluogi i ddarparu addysg o safon uchel yng Nghymru, gan gynnwys gwireddu ymrwymiadau 'Cymru’n Un’. |
Ann Jones: Thank you for that, Rhodri. It is interesting to hear that we have had a 13 per cent increase from the Assembly for education. Denbighshire County Council is saying that the Assembly has never increased its spend for education, but Denbighshire has never spent anything close to what it should be spending on education, as both the Cambridge report and the Estyn report show. There is a difference of some £1,000 between the per-pupil spend in Denbighshire and the Welsh average. |
Ann Jones: Diolch ichi am hynny, Rhodri. Mae’n ddiddorol clywed inni gael cynnydd 13 y cant gan y Cynulliad ar gyfer addysg. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud nad yw’r Cynulliad erioed wedi cynyddu ei wariant ar gyfer addysg, ond nid yw Sir Ddinbych erioed wedi gwario’n agos at yr hyn y dylai fod yn ei wario ar addysg, fel y dengys adroddiad Cambridge ac adroddiad Estyn. Ceir gwahaniaeth o oddeutu £1,000 rhwng y gwariant-y-pen ar ddisgyblion yn Sir Ddinbych a’r cyfartaledd yng Nghymru. |
According to the National Association of Head Teachers’ report, 14 of the 22 councils in Wales are short-changing education. Is it time for a review of how we send moneys— [Interruption.] I am sorry that I am boring you, Nick, but this is important for the children of Wales. Is it time for a review of how we hand education money to schools? Should it be ring-fenced? Will you talk to your Ministers about ring-fencing money for education? |
Yn ôl adroddiad Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, mae 14 o’r 22 cyngor yng Nghymru’n tanariannu addysg. A yw’n amser i adolygu’r ffordd yr ydym yn anfon arian—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf fy mod yn eich diflasu, Nick, ond mae hyn yn bwysig i blant Cymru. A yw’n amser i adolygu’r ffordd yr ydym yn rhoi arian addysg i ysgolion? A ddylid ei neilltuo? A siaradwch â’ch Gweinidogion am neilltuo arian ar gyfer addysg? |
The First Minister: The virtues of ring-fencing have been heavily canvassed in the past by many people, including you, Ann. This is an understandable reaction to the Denbighshire problem that emerged so starkly last week, when the Estyn and Cambridge Education Ltd reports, commissioned by the authority, were published. They reflected a very serious situation. Jane Hutt made her sentiments clear to the Assembly a week or more ago. |
Y Prif Weinidog: Mae rhinweddau neilltuo arian wedi’u canfasio’n drwm gan nifer o bobl yn y gorffennol, gan eich cynnwys chi, Ann. Mae hyn yn ymateb dealladwy i broblem sir Ddinbych a ddaeth i’r golwg mor glir yr wythnos diwethaf, pan gyhoeddwyd adroddiadau Estyn a Cambridge Education Ltd, a gomisiynwyd gan yr awdurdod. Yr oeddent yn adlewyrchu sefyllfa ddifrifol iawn. Gwnaeth Jane Hutt ei theimladau’n glir i’r Cynulliad wythnos neu fwy’n ôl. |
When it comes to the general principle of ring-fencing, it depends on how you think democracy works at a local level. Is the hot breath of the threat of being removed from office at the May elections enough to persuade the political leadership that this must be given a higher priority, not just in Denbighshire but in the other 13 local authorities that spend less than the money notionally allocated for education? Before going down the road of ring-fencing, you would have to be able to say that democracy in this respect did not work, as seen from the election results in May 2008. Who knows what we will see in those election results, but it is important to remember that people have a sanction, which is to get politicians to undertake that they will spend at least the amount allocated through the revenue support grant indicators. |
O ran egwyddor cyffredinol neilltuo arian, mae’n dibynnu sut yr ydych yn meddwl y mae democratiaeth yn gweithio ar lefel leol. A yw anadl boeth y bygythiad o golli eu swyddi yn etholiadau mis Mai’n ddigon i berswadio’r arweinwyr gwleidyddol ei bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth uwch i hyn, a hynny nid yn unig yn sir Ddinbych, ond yn y 13 awdurdod lleol arall sy’n gwario llai na’r arian a ddyrennir yn dybiannol ar gyfer addysg? Cyn mynd ar drywydd neilltuo arian, byddai’n rhaid ichi allu dweud nad oedd democratiaeth yn gweithio yn hyn o beth, fel y dangosodd canlyniadau etholiadau Mai 2008. Pwy a ŵyr beth a welwn yng nghanlyniadau’r etholiadau hynny, ond mae’n bwysig cofio bod gan bobl ataliad, sef sicrhau bod gwleidyddion yn ymrwymo i wario o leiaf y swm a ddyrennir drwy ddangosyddion y grant cynnal refeniw. |
The Leader of the Opposition (Nick Bourne): Could the First Minister tell us what he is proposing that his Government should do to close the funding gap that exists between higher education in England and in Wales? As he knows, some £41 million would be needed to close that gap totally. |
Arweinydd yr Wrthblaid (Nick Bourne): A allai’r Prif Weinidog ddweud wrthym beth y mae’n cynnig y dylai ei Lywodraeth ei wneud i gau’r bwlch cyllido sy’n bodoli rhwng addysg uwch yng Nghymru ac yn Lloegr? Fel y gŵyr, byddai angen tua £41 miliwn i gau’r bwlch hwnnw’n llwyr. |
The First Minister: I have two comments to make about that. We have dealt with this subject many times before. Clearly, a budget round is just about to start, and the overall total of the comprehensive spending review available to us from central Government via the Barnett formula will be known fairly soon—this month. However, we do not have that figure yet, so this discussion should follow on from the spending review announcement at Westminster. We will then know how much money we have and how much will be allocated to departments from that pot. |
Y Prif Weinidog: Mae gennyf ddau sylw i’w rhoi am hynny. Yr ydym wedi delio â’r pwnc hwn sawl gwaith o’r blaen. Yn amlwg, mae cylch cyllideb ar fin dechrau, a byddwn yn gwybod cyfanswm terfynol yr adolygiad gwario cynhwysfawr sydd ar gael inni o’r Llywodraeth ganolog drwy fformiwla Barnett yn eithaf buan—y mis hwn. Fodd bynnag, nid yw’r ffigur hwnnw gennym ni eto, felly dylai’r drafodaeth hon ddilyn y cyhoeddiad am yr adolygiad gwario yn San Steffan. Yna, byddwn yn gwybod faint o arian sydd gennym, a faint o’r cyfanswm hwnnw a gaiff ei ddyrannu i adrannau. |
Secondly, when it comes to these comparisons between Welsh higher education institutions and their peer-group institutions in England, he will know that some institutions in Wales do better than their English counterparts, some do not do as well and some do exactly the same. It is a varied and patchy picture. |
Yn ail, o ran y cymariaethau hyn rhwng sefydliadau addysg uwch Cymru a’u sefydliadau cyfatebol yn Lloegr, bydd yn gwybod bod rhai sefydliadau yng Nghymru sy’n gwneud yn well na’u cymheiriaid yn Lloegr, bod rhai sydd ddim yn gwneud cystal, a bod rhai sy’n gwneud yn union yr un fath. Mae’n ddarlun amrywiol ac anghyson. |
Nick Bourne: I am not clear from that response whether he accepts that there is a funding gap or not, but I recollect that he did accept it when we discussed this issue in last year’s, and the previous year’s, budget round—all four parties accepted it. He also accepted that the gap was widening. I do not want to look at individual higher education institutions—admittedly, the picture is patchy—but we are looking at the national total. Does he accept that, nationally, we are falling behind England in terms of the funding that higher education institutions receive? Higher Education Wales believes that there is a £41 million funding gap, and I have not heard any member of his Government gainsay that. Accepting that there is such a gap, and that we do not yet know what the financial settlement will be, does he accept that he must take action to close that gap, or Wales will suffer in terms of a skills gap, in terms of research and in terms of the performance of our excellent higher education institutions? |
Nick Bourne: Nid wyf yn glir o’r ymateb hwnnw a yw’n derbyn bod bwlch cyllido’n bodoli ai peidio, ond cofiaf iddo dderbyn hynny pan drafodasom hyn yng nghylchau cyllideb y llynedd, a’r flwyddyn cynt—derbyniwyd hynny gan bob un o’r pedair plaid. Derbyniodd hefyd fod y bwlch yn lledu. Nid wyf yn dymuno edrych ar sefydliadau addysg uwch unigol—rhaid cyfaddef bod y darlun yn anghyson—ond yr ydym yn edrych ar y cyfanswm cenedlaethol. A yw’n derbyn, yn genedlaethol, ein bod yn colli tir ar Loegr o ran y cyllid a dderbynnir gan sefydliadau addysg uwch? Mae Addysg Uwch Cymru’n credu bod bwlch cyllido o £41 miliwn yn bodoli, ac nid wyf wedi clywed unrhyw aelod o’i Lywodraeth yn gwrth-ddweud hynny. A derbyn bod bwlch o’r fath yn bodoli, ac nad ydym yn gwybod eto beth fydd y setliad ariannol, a yw’n derbyn bod rhaid iddo gymryd camau i gau’r bwlch hwnnw, neu y bydd Cymru’n dioddef o ran bwlch sgiliau, o ran ymchwil ac o ran perfformiad ein sefydliadau addysg uwch rhagorol? |
The First Minister: There is a gap within England that is even bigger. If you look at the difference in funding per student between northern and southern universities, the gap is staggering. To imply that there is only one gap—between Wales and England—is inappropriate, given the inter-regional figures in England. The gap is massive when you consider universities in London, above all, and in London, the south-east and East Anglia. Their funding, per student, is far higher than funding for universities in the midlands and in the north of England. Why you are not interested in that, I do not know. |
Y Prif Weinidog: Ceir bwlch yn Lloegr ei hun sydd yn fwy byth. Os edrychwch ar y gwahaniaeth mewn cyllid fesul myfyriwr rhwng prifysgolion gogledd a de Lloegr, mae’r bwlch yn syfrdanol. Mae awgrymu nad oes ond un bwlch—rhwng Cymru a Lloegr—yn amhriodol, ac ystyried ffigurau rhyngranbarthol Lloegr. Mae’r bwlch yn un enfawr pan ystyriwch brifysgolion Llundain, yn bennaf, a phrifysgolion Llundain, de-ddwyrain Lloegr ac East Anglia. Mae eu cyllid hwy, fesul myfyriwr, yn llawer uwch na chyllid prifysgolion canolbarth a gogledd Lloegr. Ni wn pam nad oes gennych ddiddordeb yn hynny. |
2.20 p.m. |
|
Therefore, the question for us is with what we should compare ourselves. Clearly, it would not be appropriate to say, 'Oh, yes, we must close this funding gap between universities in Wales and those in south-east England’, when they appear to have additional costs that universities in Wales would not be facing. |
Felly, y cwestiwn i ni yw gyda phwy y dylem ein cymharu ein hunain. Yn amlwg, ni fyddai’n briodol dweud, 'O, oes, rhaid inni gau’r bwlch cyllido hwn rhwng prifysgolion Cymru a phrifysgolion de-ddwyrain Lloegr’, pan fydd yn ymddangos bod ganddynt hwy gostau ychwanegol na fyddai prifysgolion Cymru’n eu hwynebu. |
Nick Bourne: The First Minister is wriggling. I did not ask about disparities between the regions of England because this is the National Assembly for Wales. I am keen to nail whether he believes there is a funding gap. He has not said that he accepts that there is a gap—everyone else believes that there is one. 'The All-Wales Accord’ stated that action would be taken to close the funding gap; that is not in the 'One Wales’ document. I fear that that is because he does not intend to close the gap that we all know is there. Will he admit that there is a gap, and will he say that he intends to close it? I am not interested in south-east England; I am interested in Wales and what he is going to do about the funding gap.
|
Nick Bourne: Mae’r Prif Weinidog yn gwingo. Ni ofynnais am wahaniaethau rhwng rhanbarthau Lloegr, oherwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn. Yr wyf yn eiddgar i gael cadarnhad a yw’n credu bod bwlch cyllido ai peidio. Nid yw wedi dweud ei fod yn derbyn bod bwlch yn bodoli—mae pawb arall yn credu bod un. Datganodd 'Cytundeb Cymru Gyfan’ y cymerid camau i gau’r bwlch cyllido; nid yw hynny wedi’i gynnwys yn nogfen 'Cymru’n Un’. Ofnaf fod hynny am nad yw’n bwriadu cau’r bwlch y gwyddom oll ei fod yn bodoli. A gyfaddefa fod bwlch yn bodoli, ac a ddywed ei fod yn bwriadu ei gau? Nid oes gennyf ddiddordeb yn ne-ddwyrain Lloegr; mae gennyf ddiddordeb yng Nghymru a’r hyn y mae am ei wneud ynglŷn â’r bwlch cyllido. |
The First Minister: Indeed. You are raising the issue of comparisons between England and Wales, and then you state the blindingly obvious, namely that this is the National Assembly for Wales. If it is, why are you making all these comparisons with England? If you think that it is legitimate to make comparisons with England, why do you think that it is illegitimate to make comparisons between the different regions of England? For goodness’ sake; let us have a bit of consistency—just a little fragment chucked into your questions now and again, Nick. Either we are dealing with Wales or we are dealing with comparisons between England and Wales. If we are not dealing with comparisons between England and Wales, that is fine, but then why did you ask the question in the first place? |
Y Prif Weinidog: Yn wir. Yr ydych yn codi cymariaethau rhwng Cymru a Lloegr, ac yna’n datgan yr hyn sy’n gwbl amlwg, sef mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn. Os mai dyna ydyw, pam yr ydych yn gwneud yr holl gymariaethau hyn â Lloegr? Os credwch fod cymariaethau â Lloegr yn briodol, pam yr ydych yn meddwl bod cymariaethau rhwng gwahanol ranbarthau Lloegr yn amhriodol? Er mwyn dyn; gadewch inni gael ychydig o gysondeb—dim ond mymryn bychan ohono yn eich cwestiynau o bryd i’w gilydd, Nick. Yr ydym naill ai’n delio â Chymru, neu yr ydym yn delio â chymariaethau rhwng Cymru a Lloegr. Os nad ydym yn delio â chymariaethau rhwng Cymru a Lloegr, mae hynny’n berffaith iawn, ond yna pam y gofynasoch y cwestiwn yn y lle cyntaf? |
Achosion o Glwy’r Traed a’r Genau |
The Foot and Mouth Disease Outbreaks |
C4 Nerys Evans: Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi eu cynnal ynghylch yr achosion o glwy’r traed a’r genau? OAQ(3)0266(FM) |
Q4 Nerys Evans: What recent discussions has the Welsh Assembly Government held regarding the foot and mouth disease outbreaks? OAQ(3)0266(FM) |
Y Prif Weinidog: Bu nifer o drafodaethau a chyfarfodydd, yn bennaf rhwng Elin Jones, ei swyddogion, y milfeddygon sy’n gweithio i ni a’r bobl sy’n cyfathrebu gyda hwy yn Lloegr a’r Alban. Ar ben hynny, bu i minnau ac Elin gyfarfod ag arweinwyr rhai o grwpiau archfarchnadoedd pennaf Prydain Fawr er mwyn ceisio hybu gwerthiant cig, yn enwedig cig oen a chig oen ysgafn, oherwydd y gwaharddiad ar allforio cig a chig oen o Gymru i’r cyfandir. |
The First Minister: Many discussions and meetings have taken place, mainly between Elin Jones, her officials, and the veterinary officers working for us and those communicating with them in England and Scotland. On top of that, Elin and I had a meeting with the leaders of some of the main supermarket groups in Great Britain to try to promote the sale of meat, particularly lamb and light lamb, due to the ban on exporting meat and lamb from Wales to the continent. |
Nerys Evans: Daeth yn amlwg dros yr wythnos diwethaf y bu rhybuddion clir ynghylch diffygion mawr ar safle Pirbright dros 15 mis yn ôl. Yn ôl un peiriannydd a fu’n gweithio ar y safle, yr oedd rhestr hir o waith atgyweirio na wnaed, gan gynnwys gwaith ar y gwteri. Yn ei dyb ef, yr oedd y safle mewn cyflwr mor wael fel bod perygl o drychineb rhyngwladol. Hysbysodd ei reolwyr ynghylch ei bryderon dro ar ôl tro dros y flwyddyn ddiwethaf. A gytunwch ei bod yn gwbl warthus ac annerbyniol yr anwybyddwyd pryderon y peiriannydd hwn a bod hynny wedi arwain at argyfwng o fewn ein diwydiant amaethyddol? |
Nerys Evans: It has become apparent over the past week that clear warnings had been given over 15 months ago about great deficiencies in Pirbright. According to one engineer who worked at the site, there was a long list of engineering projects that had not been undertaken, including work on the gutters. In his opinion, the site was in such poor condition that it threatened an international crisis. He had told his managers of his concerns throughout last year on a number of occasions. Do you agree that it is totally disgraceful and unacceptable that the concerns of this engineer were ignored and that this has led to a crisis in the agricultural industry? |
Y Prif Weinidog: Nid wyf wedi darllen y datganiad hwnnw’n fanwl, ond yr wyf yn ymwybodol o’r casgliad a wnaed, sef y cafwyd rhybuddion, a bod rheiny wedi mynd ynghlwm gyda’r cwestiwn mawr o ran a ddylid ailadeiladu’r holl labordai yn y fan a’r lle, gyda chost o dros £120 miliwn. Felly, aeth rhywbeth difrifol o’i le ar safle Pirbright; nid oes amheuaeth ynghylch hynny. Dyna lle mae’r cyfrifoldeb o ran sut y cafwyd achos o’r clefyd hwn. |
The First Minister: I have not read that statement in detail, but I am aware of the conclusions drawn, namely that warnings had been given and that they became linked with this whole broader question of whether all of the laboratories should be re-built on that particular site at a cost of over £120 million. Therefore, there is no doubt about the fact that something went seriously wrong in Pirbright. That is where responsibility lies as to the cause of this particular outbreak. |
Brynle Williams: Something has obviously gone disastrously wrong. Foot and mouth disease has put enormous pressure on farm businesses, and I welcome the announcement from the Minister last week regarding an additional £1 million to assist them. I am concerned by the fact that the disease was released by the UK Government, and, given the pressures on the environment and planning budget, are you prepared to provide details of where that £1 million will come from, and which budget lines will be affected? Will you be making an appeal for the repatriation of that £1 million from the UK Government, as it is directly responsible for what has happened and it should be underwriting the solution to this problem? |
Brynle Williams: Mae’n amlwg bod rhywbeth wedi mynd o’i le mewn modd trychinebus. Mae clwy’r traed a’r genau wedi rhoi pwysau aruthrol ar fusnesau fferm, a chroesawaf y cyhoeddiad gan y Gweinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â £1 miliwn ychwanegol i’w cynorthwyo. Mae’r ffaith mai Llywodraeth y DU a ryddhaodd y clwyf yn peri pryder imi, ac o ystyried y pwysau ar gyllideb yr amgylchedd a chynllunio, a ydych yn barod i roi manylion ynghylch o ble y daw’r £1 miliwn hwnnw, a pha linellau gwariant yn y gyllideb a fydd yn dioddef o ganlyniad? A fyddwch yn apelio am ailwladoli’r £1 miliwn hwnnw o Lywodraeth y DU, gan mai hi sy’n uniongyrchol gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd, ac mai hi ddylai fod yn tanysgrifennu’r ateb i’r broblem hon? |
The First Minister: On the £1 million, I am not sure about the financial details, so perhaps Elin could write to you directly on whether that has been dealt with as an in-year pressure, and, if so, in what way. Events such as these do come out of left field from time to time and they are usually dealt with as in-year pressures within each department. |
Y Prif Weinidog: O ran y £1 miliwn, nid wyf yn siŵr am y manylion ariannol, felly efallai y gallai Elin ysgrifennu atoch yn uniongyrchol i ddweud a ymdriniwyd â hynny fel pwysau o fewn y flwyddyn, ac os felly, ym mha ffordd. Daw digwyddiadau fel hyn yn ddirybudd o bryd i’w gilydd, ac fel arfer, ymdrinnir â hwy fel pwysau o fewn y flwyddyn o fewn pob adran. |
On the broader issue, you used slightly fiery language by saying that it was an act of the UK Government. Clearly, it is a problem that is the responsibility of the UK Government, but I do not think that you should imply that it was somehow done deliberately by the Government. That would be the last thing on anyone’s mind. However, it does make it clear that this outbreak of foot and mouth disease is not like the 2001 or the 1967 outbreaks, in that it is not an act of God, as it were, when these things flare up in nature, agriculture and so on. |
O ran y mater ehangach, defnyddiasoch iaith danllyd braidd drwy ddweud mai gweithred gan Lywodraeth y DU oedd hon. Yn amlwg, mae’n broblem sy’n un o gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ond ni chredaf y dylech awgrymu bod y Llywodraeth rywsut wedi gwneud hyn yn fwriadol. Dyna fyddai’r peth olaf ar feddwl unrhyw un. Fodd bynnag, mae hynny’n ei gwneud yn amlwg nad yw’r achos hwn o glwy’r traed a’r genau’r un fath ag achosion 2001 a 1967, o ran y ffaith nad gweithred ddwyfol ydyw, fel petai, pan fydd y pethau hyn yn ymddangos mewn natur, amaethyddiaeth ac ati. |
It clearly comes from the research laboratory, whose job it is to develop vaccines and protections against foot and mouth and other animal diseases. Instead of providing protection, it has actually caused an outbreak. I have never come across a case like that before. The points that Nerys made are relevant to the issue of responsibility. Whether that translates into financial responsibility is a matter that will have to be rolled out with regard to whether farmers, the NFU or other farming unions will make claims for compensation, or will take the Government to court. When you get into these legal issues, I do not want to predict how it will all fall from here. |
Yn amlwg, mae’n dod o’r labordy ymchwil, a’u gwaith hwy yw datblygu brechlynnau ac amddiffyniadau yn erbyn clwy’r traed a’r genau a chlefydau eraill mewn anifeiliaid. Yn hytrach na rhoi diogelwch, maent mewn gwirionedd wedi achosi’r heintiad. Nid wyf erioed wedi gweld achos o’r fath o’r blaen. Mae’r pwyntiau a godwyd gan Nerys yn ymwneud â chyfrifoldeb. Mae p’un a yw hynny’n golygu cyfrifoldeb ariannol yn fater y bydd rhaid ei gyflwyno o ran a fydd ffermwyr, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr neu undebau ffermio eraill yn hawlio iawndal, neu’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y Llywodraeth. Pan gwyd yr holl faterion cyfreithiol hyn, nid wyf yn dymuno rhagweld sut y bydd popeth yn diweddu. |
Kirsty Williams: Would you not agree that time is of the essence in dealing with the practical difficulties that farmers are facing at the moment? While I welcome the opening of green markets on Thursday, the continuation of the 20-day standstill rule and the failure to approve isolation units that could move us to a six-day standstill rule impact hugely on farmers who are trying to sell their stock using a variety of methods, and by bringing breeding stock onto their farms. Will you make a statement on the use of isolation units? |
Kirsty Williams: Oni fyddech yn cytuno bod amser yn ffactor holl bwysig wrth ymdrin â’r anawsterau ymarferol sy’n wynebu ffermwyr ar hyn o bryd? Er fy mod yn croesawu agor marchnadoedd gwyrdd ddydd Iau, mae parhad y rheol 20 diwrnod ar wahardd symud a’r methiant i gymeradwyo unedau ynysu a allai ein symud i reol 6 niwrnod ar wahardd symud yn cael effaith enfawr ar ffermwyr sy’n ceisio gwerthu eu stoc drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, a thrwy ddod â stoc bridio i’w ffermydd. A wnewch ddatganiad am ddefnyddio unedau ynysu? |
Light lambs continue to be a problem while the export market is closed. Scotland decided to go it alone with an intervention scheme for light lambs while the Department for Environment, Food and Rural Affairs continues to refuse to fund a welfare scheme for light lambs in England and Wales. What discussions have your Cabinet had to fund a Wales-only scheme? |
Mae ŵyn ysgafn yn dal yn broblem tra bo’r farchnad allforio ar gau. Penderfynodd yr Alban fynd ymlaen ar eu pennau eu hunain gyda chynllun ymyrraeth ar gyfer ŵyn ysgafn, ond mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn dal i wrthod ariannu cynllun lles ar gyfer ŵyn ysgafn yng Nghymru a Lloegr. Pa drafodaethau y mae eich Cabinet wedi eu cynnal o ran ariannu cynllun ar gyfer Cymru’n unig? |
The First Minister: I think that Elin would want to write to you in detail on the matter of isolation units and of any consideration that may have been given, of which I am unaware, to whether isolation units would be a further, beneficial way of trying to restore the food supply chain from the farm to the market, the slaughterhouse and, eventually, to the shops. |
Y Prif Weinidog: Credaf y byddai Elin yn dymuno ysgrifennu atoch yn fanwl am unedau ynysu ac am unrhyw ystyriaeth a allai fod wedi’i rhoi, ac nid wyf yn ymwybodol o un, i b’un a fyddai unedau ynysu’n ffordd ychwanegol, fuddiol o geisio adfer y gadwyn cyflenwi bwyd o’r fferm i’r farchnad, i’r lladd-dy ac, yn y pen draw, i’r siopau. |
On the wider question of a welfare-related scheme for light lambs, I certainly agree with you that we have a small window of a few weeks left before the grass stops growing, at which time the welfare problem will become acute. The hills of Wales are a long way from Pirbright, and that brings some benefits, as it becomes practical to release lambs that can get into the food chain at the right time, when they are in prime condition. That does not, however, help the animal welfare issue for those lambs that would otherwise have gone for export, because the export ban will not be lifted for weeks, or maybe months. Therefore, the welfare issue will be hitting us hard over the next few weeks, and a determination will have to be made as to what happens to those lambs that cannot be exported and which will not have anything to eat once the grass stops growing. |
O ran y cwestiwn ehangach am gynllun yn ymwneud â lles ar gyfer ŵyn ysgafn, yr wyf yn sicr yn cytuno â chi mai ffenestr fychan o rai wythnosau sydd gennym yn weddill cyn i’r gwair beidio â thyfu, ac yna bydd y broblem lles yn dod yn acíwt. Mae bryniau Cymru ymhell o Pirbright, a daw hynny â rhai buddion, oherwydd daw’n ymarferol rhyddhau ŵyn a all ddod i mewn i’r gadwyn fwyd ar yr adeg gywir, pan fyddant yn y cyflwr gorau. Fodd bynnag, nid yw hynny o gymorth o ran lles anifeiliaid yr ŵyn hynny a fyddai fel arall wedi mynd i’w hallforio, oherwydd ni chaiff y gwaharddiad allforio ei godi am wythnosau, neu efallai fisoedd. Felly, bydd y mater lles yn ein taro’n galed dros yr wythnosau nesaf, a bydd angen gwneud penderfyniad am yr hyn sy’n digwydd i’r ŵyn hynny na ellir eu hallforio ac a fydd heb fwyd wedi i’r gwair beidio â thyfu. |
Green Jobs Strategy |
Strategaeth Swyddi Gwyrdd |
Q5 Kirsty Williams: Will the First Minister make a statement on the establishment of a green jobs strategy? OAQ(3)0285(FM) |
C5 Kirsty Williams: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sefydlu strategaeth swyddi gwyrdd? OAQ(3)0285(FM) |
The First Minister: In the first part of next year, we will publish a draft strategy for green jobs. That will reflect our view that green jobs could range from high-technology posts in sustainability-orientated industries to recycling and, of course, the Severn barrage project, provided that the environmental issues connected to that project can be resolved. |
Y Prif Weinidog: Yn rhan gyntaf y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyhoeddi strategaeth ddrafft ar gyfer swyddi gwyrdd. Bydd hynny’n adlewyrchu ein safbwynt y gallai swyddi gwyrdd amrywio o swyddi uwch-dechnoleg mewn diwydiannau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd i ailgylchu ac, wrth gwrs, prosiect morglawdd Hafren, cyn belled ag y gellir datrys y materion amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwnnw. |
Kirsty Williams: I am sure that we would all welcome the publication of that strategy. |
Kirsty Williams: Yr wyf yn siŵr y byddem oll yn croesawu cyhoeddi’r strategaeth honno. |
Do you agree that, given our natural resources in Wales and the excellent scientific abilities of many in our higher education institutions, we have a real opportunity to develop the economy along such lines that we can offer truly fantastic opportunities for young people to find high-tech work within our communities, rather than our current expertise being developed abroad, such as with the firm in north Wales that we heard about last week, which is making products here but selling them abroad? We are not making the most of our own markets. |
A gytunwch, ac ystyried ein hadnoddau naturiol yng Nghymru a galluoedd gwyddonol rhagorol nifer o bobl yn ein sefydliadau addysg uwch, bod gennym gyfle gwirioneddol i ddatblygu’r economi mewn ffyrdd a fyddai’n ein galluogi i gynnig cyfleoedd gwirioneddol ryfeddol i bobl ifanc ganfod gwaith uwch-dechnoleg yn ein cymunedau, yn hytrach na datblygu ein harbenigedd presennol dramor, megis gyda’r cwmni yn y Gogledd y clywsom amdano’r wythnos diwethaf, sy’n cynhyrchu yma ond yn gwerthu dramor? Nid ydym yn manteisio i’r eithaf ar ein marchnadoedd ein hunain. |
| The First Minister: It is probably true that it is an old British disease that inventions are patented, or come somewhere near a patent, in a university but are then picked up by more innovative companies in Japan, Germany, Switzerland or wherever. It is less of a problem now than it was. However, there is a range of opportunities. We will be well aware of recycling as an industry in itself, as is good waste management, an expanding industry. However, there are some high-tech jobs, and there are big projects such as the Severn barrage project, provided that we can solve the problems that it presents. | Y Prif Weinidog: Mae’n debygol ei bod yn wir ei fod yn hen glefyd Prydeinig y caiff patentau eu codi, neu bron eu codi, ar ddyfeisiadau mewn prifysgol ond yna bod cwmnïau mwy arloesol yn Japan, yr Almaen, y Swistir neu lle bynnag yn eu cymryd. Mae’n llai o broblem heddiw nag y bu. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o gyfleoedd yn bodoli. Byddwn yn ymwybodol iawn o ailgylchu fel diwydiant ei hun, yn yr un modd ag y mae rheoli gwastraff yn dda, sy’n ddiwydiant sy’n tyfu. Fodd bynnag, ceir rhai swyddi uwch-dechnoleg, a cheir prosiectau mawr megis prosiect morglawdd Hafren, cyn belled ag y gallwn ddatrys y problemau a gyflwynir ganddo. |
2.30 p.m. |
|
Alun Ffred Jones: Un ganolfan sydd wedi ennill ei phlwyf ac wedi ennill enw rhyngwladol yw’r Ganolfan Dechnoleg Amgen, y tu allan i Fachynlleth. Pa gamau sy’n cael eu cymryd i ddod â gwaith y ganolfan honno i ganol gweithgarwch prifysgolion ac ymchwil? Ymddengys bod y ganolfan yn arwain y maes mewn llawer o agweddau ar dechnoleg gwyrdd, ac, fel y bu ichi ddweud, mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd hynny yn awr cyn i unrhyw un arall wneud hynny—ac mae llawer o wledydd yn y maes eisoes—fel ein bod yn cael budd ohono.
|
Alun Ffred Jones: One centre that is now well established and which is renowned across the world is the Centre for Alternative Technology outside Machynlleth. What steps are being taken to bring the work of that centre into centre stage in terms of university and research activities? It appears as though the centre is the leader in its field as regards many aspects of green technology, and, as you said, it is vital that we make the most of those opportunities now, before anyone else does so—and there are already many countries working in the field—so that we can benefit. |
Y Prif Weinidog: Mae’r ganolfan yn ffitio ochr yn ochr â’r prifysgolion. Dyletswydd prifysgolion yw gwneud y gwaith academaidd ond, ambell waith, maent yn esgeuluso’r ochr ymarferol, ac mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn datblygu’r ochr honno. Ambell waith, technoleg cymharol hen ffasiwn ydyw, ond gall fod yn berthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain, er mai o oes Fictoria y daw. |
The First Minister: The centre fits alongside universities. The function of universities is to undertake academic work but, sometimes, they neglect the practical side, and that is where the Centre for Alternative Technology comes in, developing that side of things. Sometimes, it is relatively old-fashioned technology, but it can still be relevant to the twenty-first century, even though it comes from the Victorian age. |
Nick Ramsay: We all recognise the exciting potential of a properly implemented green jobs strategy for the future, but I draw your attention to a renewable power scheme in my constituency, Monmouth, which is at the planning stage, and proposed by a company called Treenergy Ltd. It is looking at a wood burning power generation scheme. You have mentioned the Severn barrage, and we have spoken many times about generating power from the wind, but schemes such as that which Treenergy Ltd is proposing have great potential for energy production without many of the long-term implications of the other schemes. I am concerned that the company is not getting the specific grant funding that it would like from the Assembly Government, with which it has been in negotiations. Are there any proposals to improve on that funding situation? |
Nick Ramsay: Yr ydym oll yn cydnabod potensial cyffrous strategaeth swyddi gwyrdd i’r dyfodol, o’i gweithredu’n dda, ond tynnaf eich sylw at gynllun pŵer adnewyddadwy yn fy etholaeth, Sir Fynwy, sydd yn y cam cynllunio, a gynigwyd gan gwmni o’r enw Treenergy Ltd. Maent yn edrych ar gynllun i gynhyrchu pŵer drwy losgi coed. Soniasoch am forglawdd Hafren, ac yr ydym wedi siarad lawer gwaith am gynhyrchu pŵer drwy rym y gwynt, ond mae gan gynlluniau tebyg i’r hwnnw a gynigir gan Treenergy Ltd botensial sylweddol ar gyfer cynhyrchu ynni heb lawer o oblygiadau tymor hir y cynlluniau eraill. Yr wyf yn poeni nad yw’r cwmni’n cael y cyllid grant penodol y byddai’n dymuno ei gael gan Lywodraeth y Cynulliad, ac maent wedi bod mewn trafodaethau â nhw. A oes unrhyw gynigion i wella’r sefyllfa gyllido honno? |
The First Minister: I am not aware of any current negotiations between Treenergy Ltd and the appropriate agencies that come within our umbrella. If you would write to me about that, I would be interested in pursuing the reply in detail in as constructive a manner as possible to ensure that no promising technology, albeit one which may not be economic in the pilot phase, gets neglected or lost if it has a contribution to make that might improve the environment and combat global warning. |
Y Prif Weinidog: Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau sydd ar y gweill rhwng Treenergy Ltd a’r asiantaethau priodol sydd dan ein hadain. Petaech yn anfon nodyn ataf am hynny, byddai gennyf ddiddordeb mewn dilyn yr ymateb yn fanwl mewn ffordd mor adeiladol â phosibl i sicrhau na fydd technoleg addawol, er na fydd efallai yn economaidd yn y cyfnod peilot, yn cael ei hesgeuluso na’i cholli a bod ganddi gyfraniad i’w wneud a allai wella’r amgylchedd a mynd i’r afael â chynhesu byd-eang. |
Lesley Griffiths: On the outskirts of Wrexham, there are plans by the local authority working with the Welsh Investment Strategic Partnership to develop a 30-acre site adjacent to the A483, known as the western gateway project. This will be the first carbon-neutral mixed business and housing development of its kind in Wales, with a focus on energy efficiency, sustainability and minimising the demand for travelling by car. Once this has been developed, will you find time to visit the project to see for yourself how the gateway could be used as a blueprint for the rest of Wales to provide truly green jobs? |
Lesley Griffiths: Yng nghyffiniau Wrecsam, mae cynlluniau gan yr awdurdod lleol, mewn cydweithrediad â’r Bartneriaeth Strategol ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru, i ddatblygu safle 30 erw gerllaw’r A483, a adweinir fel y prosiect porth gorllewinol. Hwn fydd y datblygiad carbon-niwtral cyntaf o’i fath yng Nghymru yn cynnwys cymysgedd o fusnesau a thai, gyda ffocws ar effeithlonrwydd ynni, cynaliadwyedd a lleihau’r galw am deithio mewn car. Ar ôl ei ddatblygu, a fydd gennych amser i ymweld â’r prosiect i weld drosoch eich hun sut y gellid defnyddio’r porth fel glasbrint ar gyfer gweddill Cymru i ddarparu swyddi gwyrdd gwirioneddol? |
The First Minister: I am pleased to hear that the Welsh Investment Strategic Partnership is involved in a carbon-neutral scheme. I am not familiar with the details of the western gateway project, but working, real-life developments that architects and potential customers from the business sector, who might want to rent space, can actually visit rather than read about or look at on a CD ROM, or whatever, are important. I mentioned last week the carbon-neutral housing scheme in my constituency. That can also be important in persuading people that these are real living spaces that work. I would imagine that the aim of the western gateway project is to act as a pilot for similar schemes in other parts of Wales, and I would be happy to visit it. |
Y Prif Weinidog: Yr wyf yn falch o glywed bod y Bartneriaeth Strategol ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru yn ymwneud â chynllun carbon-niwtral. Nid wyf yn gwbl gyfarwydd â manylion y prosiect porth gorllewinol, ond mae datblygiadau byw, sydd ar waith, y gall penseiri a darpar gwsmeriaid o’r sector busnes, â diddordeb o bosibl mewn rhentu gofod, ymweld â hwy yn bwysig yn hytrach na darllen amdanynt neu eu gweld ar CD-ROM, neu beth bynnag. Soniais yr wythnos diwethaf am y cynllun tai carbon-niwtral yn fy etholaeth. Gall hwnnw hefyd fod yn bwysig wrth berswadio pobl bod y rhain wir yn llefydd byw sy’n gweithio. Byddwn yn dychmygu mai nod y prosiect porth gorllewinol yw gweithredu fel cynllun peilot ar gyfer cynlluniau tebyg mewn ardaloedd eraill o Gymru, a byddwn yn falch iawn o gael ymweld ag ef. |
Support for Children with Special Needs |
Cefnogaeth i Blant ag Anghenion Arbennig |
Q6 Karen Sinclair: Will the First Minister make a statement on Welsh Assembly Government support for children with special needs? OAQ(3)0273(FM) |
C6 Karen Sinclair: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i blant ag anghenion arbennig? OAQ(3)0273(FM) |
The First Minister: That is set out in the Education Act 1996 and the special educational needs code of practice for Wales. A comprehensive policy review was undertaken by the former Education, Lifelong Learning and Skills Committee, and we are now seeking the necessary powers through a legislative competence Order to secure full legal competence in additional learning needs to improve service provision and support for children with SEN. |
Y Prif Weinidog: Nodir hynny yn Neddf Addysg 1996 ac yng nghod ymarfer anghenion addysgol arbennig Cymru. Cynhaliwyd adolygiad polisi cynhwysfawr gan yr hen Bwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, a bellach yr ydym yn ceisio’r pwerau angenrheidiol drwy Orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol i sicrhau cymhwysedd deddfwriaethol llawn mewn anghenion dysgu ychwanegol er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth a’r gefnogaeth i blant gydag Anghenion Addysgol Arbennig. |
Karen Sinclair: Thank you, First Minister. Since the announcement of the proposed legislative competence Order for children with additional learning needs, I have begun consulting constituents and organisations in Clwyd South so that we can make full use of the chance to create new opportunities and protections for those with special needs. However, it has already become plain to me that there is concern among parents of children who currently hold statements under the existing system. They are worried that changes to the statutory assessment process might result in their children losing the entitlement to support and resources contained in the existing statements, some of which, as you know, will have taken many months or even years to get agreed. Will you give a public assurance that changes will not be retrospective and that these parents need not fear losing statements that may have taken years to get in place? |
Karen Sinclair: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Ers cyhoeddi’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, yr wyf wedi dechrau ymgynghori ag etholwyr a mudiadau yn Ne Clwyd fel y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i greu cyfleoedd newydd ac amddiffyn y rheini ag anghenion arbennig. Fodd bynnag, daeth yn glir imi eisoes bod rhieni plant â datganiad dan y system gyfredol yn bryderus. Maent yn gofidio y bydd newidiadau yn y broses asesu statudol yn golygu y bydd eu plant yn colli’r hawl i gael cefnogaeth ac adnoddau yn y datganiadau cyfredol, lawer ohonynt, fel y gwyddoch, wedi cymryd misoedd di-rif neu hyd yn oed flynyddoedd i gytuno arnynt. A wnewch chi roi sicrwydd cyhoeddus na fydd y newidiadau yn rhai ôl-weithredol ac nad oes angen i rieni ofidio y byddant yn colli datganiadau sydd, o bosibl, wedi cymryd blynyddoedd i’w sefydlu? |
The First Minister: I wonder whether what we are facing here is two things happening at the same time: one is the legislative competence Order and the other is the Welsh advisory group on special educational needs, which started its consultation in April 2005 and published an options paper on whether statementing as it existed was satisfactory, and whether we need to change the basis on which statements are made, regardless of whether we have a legislative competence Order or not. That might be where the concerns have arisen. I understand those concerns because if there is going to be a change in our ability to modernise SEN, the 15,500 children who have been statemented and their parents would want an assurance that they are going to be no worse off under any legislation pursuant to the legislative competence Order. |
Y Prif Weinidog: Ys gwn i ai’r hyn yr ydym yn ei wynebu yma yw dau beth yn digwydd ar yr un pryd: y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yw un ohonynt a’r grŵp cynghori Cymru ar anghenion addysgol arbennig yw’r llall. Dechreuodd y grŵp ymgynghori hwnnw ym mis Ebrill 2005 a chyhoeddodd bapur ar yr opsiynau yn gofyn a oedd y drefn bresennol o roi datganiadau yn foddhaol, ac a oes angen i ni newid y meini prawf ar gyfer datganiadau, waeth beth fyddai’r sefyllfa gyda’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol. Mae’n bosibl mai dyma oedd wrth wraidd y pryderon hyn. Deallaf y pryderon hynny oherwydd os bydd ein gallu i foderneiddio AAA yn newid, bydd y 15,500 o blant â datganiad a’u rhieni am gael sicrhad na fyddant ddim gwaeth dan unrhyw ddeddfwriaeth yn sgil y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol. |
Mark Isherwood: Thank you for that reassuring response. Clearly, the legislative competence Order addresses the principle rather than the detail, and I am sure that you will agree that, when the legislative competence Order returns to this place for the detail to be formulated, discussed, debated and scrutinised, all the concerns about statementing will arise. Do you acknowledge that the restriction of statementing to young people with severe and complex needs causes major concern, not only among parents who have children who are statemented now but those whose children may require additional support in the future? What assurances can you provide on that? |
Mark Isherwood: Diolch yn fawr am yr ymateb calonogol hwnnw. Yn amlwg, mae’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn mynd i’r afael â’r egwyddor yn hytrach na’r manylion, ac yr wyf yn sicr y cytunwch, pan fydd y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn dod yn ôl ger ein bron i’w lunio, ei drafod, ei ddadlau ac i graffu arno, caiff yr holl bryderon am ddatganiadau eu gwyntyllu. A ydych yn cydnabod bod cyfyngu ar ddatganiadau i bobl ifanc ag anghenion difrifol a chymhleth yn achosi pryder sylweddol, nid yn unig ymhlith rhieni sydd â phlant ar ddatganiad ar hyn o bryd, ond y rhieni hynny â phlant y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnynt, o bosibl, yn y dyfodol? Pa sicrwydd y gallwch ei roi ar y mater hwnnw? |
The First Minister: I think that we all accept that change is difficult to manage because people fear that they may lose out as a result. Those who think that they may gain are much quieter than those who fear that they may lose out: that is a natural fact of modern democratic politics. However, we are seeking to consult extensively on this whole issue of additional learning needs, and a further round of consultation is starting tomorrow. There will be further events, with pre-consultation events for the professionals involved, followed by formal consultation. No changes to the statutory assessment framework for SEN will even be considered until that process has been completed. |
Y Prif Weinidog: Credaf ein bod i gyd yn derbyn ei bod yn anodd rheoli newid oherwydd bod pobl yn ofni y byddant ar eu colled o ganlyniad i’r newidiadau. Mae’r rheini sy’n credu y byddant ar eu hennill yn llawer tawelach na’r rheini sy’n poeni y byddant ar eu colled: dyna ffaith naturiol gwleidyddiaeth ddemocrataidd fodern. Fodd bynnag, yr ydym yn ceisio ymgynghori’n eang ar yr holl faterion ym maes anghenion dysgu ychwanegol, ac mae rownd arall o ymgynghori’n dechrau yfory. Bydd rhagor o ddigwyddiadau, gyda digwyddiadau cyn-ymgynghori ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes, gydag ymgynghoriad ffurfiol i ddilyn. Ni fydd unrhyw newidiadau yn y fframwaith asesu statudol ar gyfer AAA yn cael eu hystyried hyd yn oed hyd nes bydd y broses honno wedi dod i ben.
|
Helen Mary Jones: Thank you for your answers to Karen Sinclair and Mark Isherwood. Like them, I have received representations from parents of children who have asked for statements, some of whom have been through very difficult and upsetting processes to get their educational rights established and who are genuinely concerned that their children’s education might be adversely affected. Do you acknowledge that these parents have some grounds for concern given that many of them have got caught in difficult arguments with their local authorities over their children’s rights and needs, and will you commit today, as I am sure that you will, to giving an assurance to those parents that it is your Government’s intention that their children should have better educational opportunities and stronger rights at the end of this process, not that those rights should be in any way weakened or undermined? |
Helen Mary Jones: Diolch yn fawr am eich atebion i Karen Sinclair a Mark Isherwood. Fel hwythau, yr wyf wedi derbyn sylwadau gan rieni plant sydd wedi gwneud cais am ddatganiadau, rai ohonynt wedi bod drwy brosesau anodd ac emosiynol iawn i sefydlu eu hawliau addysgol ac sydd wir yn poeni y gallai gael effaith andwyol ar addysg eu plant. A ydych yn cydnabod bod gan y rhieni hyn achos i boeni gan gofio bod llawer ohonynt wedi cael eu dal mewn dadleuon anodd â’u hawdurdodau lleol dros hawliau ac anghenion eu plant, ac a fyddwch yn ymrwymo heddiw, fel y gwnewch yr wyf yn siŵr, i roi sicrwydd i’r rhieni hynny mai bwriad eich Llywodraeth yw rhoi gwell cyfleoedd addysgol a hawliau cryfach i’w plant ar ddiwedd y broses hon, yn hytrach na bod yr hawliau hynny’n cael eu gwanhau neu eu tanseilio mewn unrhyw ffordd? |
The First Minister: I entirely agree with you. That is the purpose of any updating of the framework. That is not to do with the legislative competence Order; it is a sort of parallel process. However, any changes made are not intended to deprive any child currently statemented of the rights that it has sometimes taken an arm and a leg to get. It may have taken a huge amount of psychological stress for the child and parents to get to where they are today, because local authorities are sometimes remarkably slow about getting people into the statutory assessment framework and sometimes contest the parents’ own assessment of the problems that a child is having in school and fob the parents and child off on the grounds that the parents are neurotic or whatever. I have been either an MP or AM for 20 years, and all of us have dealt with this at weekly surgeries and so on. In my case, it is a regular thing that comes up, as you battle to get a statement, so I understand the concerns acutely. |
Y Prif Weinidog: Cytunaf yn llwyr â chi. Dyna yw diben unrhyw waith i ddiweddaru’r fframwaith. Nid oes a wnelo hynny â’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol; mae’n rhyw fath o broses sy’n cydredeg. Fodd bynnag, nid bwriad unrhyw newidiadau a wneir fydd amddifadu unrhyw blentyn â datganiad ar hyn o bryd o’i hawliau, ar ôl gorfod ymladd yn galed amdanynt weithiau. Mae’n bosibl bod y plentyn a’r rhieni wedi wynebu straen seicolegol anferthol i gyrraedd eu sefyllfa gyfredol, oherwydd mae awdurdodau lleol weithiau yn hynod o araf yn rhoi’r fframwaith asesu statudol ar waith ac ar brydiau maent yn gwrthod asesiad y rhieni eu hunain o’r problemau y caiff plentyn yn yr ysgol gan wfftio’r plentyn a’r rhieni drwy ddweud bod y rhieni’n niwrotig neu beth bynnag. Yr wyf wedi bod yn AS neu’n AC am 20 mlynedd, ac mae pob un ohonom wedi delio â hyn yn ein cymorthfeydd wythnosol ac yn y blaen. Yn fy achos i, mae’n fater sy’n codi’n rheolaidd, wrth frwydro i gael datganiad, felly deallaf y pryderon yn iawn. |
2.40 p.m. |
|
Jeff Cuthbert: Trinity Fields Special School in Ystrad Mynach has, for a number of years, run a project called 'promoting independence’, which is designed to assist older pupils in their transition to adult life. Last Thursday I attended a function on peer mentoring at Llancaiach Fawr in Nelson, which was funded through the European Leonardo project, and it was excellent to see the developments that had been made there. Do you agree that transition from the sheltered school environment into adult life is an area that is sometimes not understood properly, but one which is crucial to a child’s development into an adult? |
Jeff Cuthbert: Mae Ysgol Arbennig Trinity Fields yn Ystrad Mynach wedi rhedeg prosiect, ers blynyddoedd lawer, o’r enw 'hybu annibyniaeth’, a luniwyd i gynorthwyo’r disgyblion hŷn yn y cyfnod wrth iddynt droi’n oedolion. Ddydd Iau diwethaf, mynychais ddigwyddiad ar fentora gan gyfoedion yn Llancaiach Fawr yn Nelson, dan nawdd prosiect Ewropeaidd Leonardo, ac yr oedd hi’n wych gweld y datblygiadau a wnaethpwyd yno. A ydych yn cytuno nad yw’r cyfnod pontio rhwng yr amgylchedd ysgol cysgodol a bywyd fel oedolyn bob amser yn cael ei ddeall yn iawn, ond mae’n gyfnod hanfodol i ddatblygiad plentyn wrth iddo droi’n oedolyn?
|
The First Minister: I visited Trinity Fields Special School with you some two or three years ago, and I was incredibly impressed by the quality of its facilities. However good they are, though, people eventually have to leave, and it is almost the case that, the better the facilities, the harder it is to make the adjustment to normal life, where you do not find that fantastic level of support—in this case for severe additional learning needs, which I think that Trinity Fields specialises in. I am pleased to hear about this Leonardo-funded event, and I agree that the transition from the sheltered environment to adult life is very difficult. |
Y Prif Weinidog: Ymwelais ag Ysgol Arbennig Trinity Fields ddwy neu dair blynedd yn ôl yn eich cwmni, a chefais fy synnu ar yr ochr orau gan ansawdd y cyfleusterau. Fodd bynnag, er eu bod nhw’n dda, rhaid i bobl adael yn y pen draw, ac mae’n wir i raddau, y gorau bo’r cyfleusterau, yr anoddaf yw hi i addasu i fywyd normal, lle nad ydych yn cael y lefel anhygoel hynny o gefnogaeth—yn yr achos hwn am anghenion dysgu ychwanegol difrifol, sef arbenigedd Trinity Fields yr wyf yn credu. Pleser oedd clywed am y digwyddiad dan nawdd Leonardo, ac yr wyf yn cytuno bod newid o amgylchedd cysgodol i fod yn oedolyn yn anodd iawn. |
World-wide Promotion of Wales |
Hybu Cymru Gerbron y Byd |
Q7 William Graham: Will the First Minister make a statement on how his administration co-ordinates the world-wide promotion of Wales? OAQ(3)0262(FM) |
C7 William Graham: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae ei weinyddiaeth yn cydlynu’r gwaith o hybu Cymru gerbron y byd? OAQ(3)0262(FM) |
The First Minister: We look to take every opportunity to co-ordinate our approach to raising the profile of Wales, and we do so in conjunction with many other bodies, such as the Foreign and Commonwealth Office, the British Council, Visit Britain, and UK Trade and Investment. The Ryder Cup, which will be of considerable interest to you, is one such example, and we look forward to that enormously, as a great opportunity to raise the profile of Newport and of Wales. |
Y Prif Weinidog: Ceisiwn fanteisio ar bob cyfle i gydlynu ein dull o godi proffil Cymru, ac fe wnawn hynny ar y cyd â sawl corff arall, megis y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, y Cyngor Prydeinig, Visit Britain a Masnach a Buddsoddi y DU. Mae Cwpan Ryder, a fydd o ddiddordeb arbennig i chi, yn un enghraifft o’r fath, ac edrychwn ymlaen at hynny’n fawr, fel cyfle gwych i godi proffil Casnewydd a Chymru. |
William Graham: Could I draw your attention to some criticism from Russell Goodway, your erstwhile colleague, who says that the Assembly Government, and more particularly the Liberal-Democrat-run Cardiff County Council, have failed to adequately market and publicise the Rugby World Cup. He says that there is not so much as a flag on display. Similarly, your Government’s VisitWales website makes no mention of the tournament. Will you ensure that this failure is not repeated for the Ryder Cup? |
William Graham: Gaf i dynnu eich sylw at rywfaint o feirniadaeth gan un o’ch hen gydweithwyr, Russell Goodway, sy’n dweud bod Llywodraeth y Cynulliad ac, yn fwy penodol, Cyngor Sir Caerdydd dan reolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi methu â marchnata a hyrwyddo Cwpan Rygbi’r Byd yn ddigonol. Dywed nad oes cyn lleied â baner i’w gweld. Yn yr un modd, nid yw gwefan Croeso Cymru eich Llywodraeth yn sôn am y twrnamaint. A wnewch chi sicrhau na fydd y methiant hwn yn digwydd eto gyda Chwpan Ryder? |
The First Minister: I do not think that there is any danger of that at all. Clearly, there are bodies with responsibilities in this regard—Cardiff Chamber of Commerce has responsibilities, as does Cardiff council, and as do we, particularly through our agencies involved in tourism. As far as I am aware, every single hotel room, not only in Cardiff, but within a substantial travelling distance, has been taken up, either by Australian visitors, Japanese visitors, or Canadian visitors, and you cannot sell the same hotel room twice, although there are many who try. I am sure that the same will be true this weekend, with regard to the vast army of visitors from France and New Zealand, from all walks of life, who will be descending on Wales. I deprecate one agency with a responsibility pointing the finger at another and saying, 'You are responsible, and you have not done anything’. You get into this tit-for-tat business, and where does that get you? All we know is that every hotel room has been sold. |
Y Prif Weinidog: Ni chredaf fod unrhyw berygl o hynny. Yn amlwg, ceir cyrff sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb dros y mater hwn—mae cyfrifoldeb ar Siambr Fasnach Caerdydd, cyngor Caerdydd, a ninnau, yn enwedig drwy ein hasiantaethau sy’n ymwneud â thwristiaeth. Hyd y gwn i, mae pob un ystafell wely mewn gwesty, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond cryn bellter teithio i ffwrdd, yn llawn o ymwelwyr o Awstralia, Japan neu Ganada, ac ni allwch werthu’r un ystafell ddwywaith, er bod llawer yn ceisio gwneud hynny. Yr wyf yn sicr y bydd yr un peth yn wir dros y penwythnos wrth i’r dyrfa fawr o ymwelwyr o bob lliw a llun o Ffrainc a Seland Newydd gyrraedd Cymru. Nid wyf yn gwerthfawrogi un asiantaeth â chyfrifoldeb yn pwyntio bys at un arall yn dweud, 'Chi sy’n gyfrifol, ac nid ydych wedi gwneud dim’. Yr ydych yn esgor ar ryw hen fusnes dant am ddant, ac at ba ddiben? Yr unig beth a wyddom yw bod pob ystafell gwesty wedi’i gwerthu. |
Christine Chapman: I was pleased to attend a Green Badge Tour Guides presentation at Cyfarthfa Castle last week, where we discussed the fact that when people visit Wales, we also want them to visit areas that are not traditionally on the tourism map, such as the Heads of the Valleys area. In order for that to happen, we must facilitate better awareness. Huw Lewis and Jeff Cuthbert attended the event with me, and we agreed that it was an excellent initiative. Essentially, it trains tour guides to tell the story of our cultural and industrial heritage, which is a proud part of the Valleys’ history. Could you therefore ensure that the Assembly receives regular updates on tourist activity in the Heads of the Valleys area, and actively promotes it? |
Christine Chapman: Pleser oedd ymweld â Chastell Cyfarthfa yr wythnos diwethaf lle’r oedd Tywyswyr Teithiau yn derbyn Bathodynnau Glas. Yno, buom yn trafod y ffaith pan fydd pobl yn ymweld â Chymru, byddem yn dymuno iddynt ymweld ag ardaloedd nad ydynt ar fapiau twristiaeth traddodiadol, megis ardal Blaenau’r Cymoedd. Er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i ni hwyluso gwell ymwybyddiaeth. Cefais gwmni Huw Lewis a Jeff Cuthbert yn y digwyddiad ac fe gytunasom fod hwn yn gynllun rhagorol. Yn ei hanfod, mae’n hyfforddi tywyswyr teithiau i adrodd stori ein hetifeddiaeth ddiwylliannol a diwydiannol, sef rhan o hanes balch y Cymoedd. Felly, a allech sicrhau bod y Cynulliad yn cael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd am weithgarwch ymwelwyr yn ardal Blaenau’r Cymoedd, a’i fod yn ei hyrwyddo? |
The First Minister: I certainly agree that in every country there are what you might call established honey-pot areas—such as Tenby, Llandudno, or wherever—and then you try to spread the load so that it is not just those areas that receive the tourists. In order to do that, you have to market the attractions, because by definition they are the ones that are unconventional, and the Heads of the Valleys would fall into that category. There is a lot to show, but you have to turn people’s heads and make them realise that it is worth going and that there are things to see. Good tourism guides are essential to that transition from a non-traditional area to a tourist honey-pot of the future. |
Y Prif Weinidog: Cytunaf yn llwyr fod ardaloedd ym mhob gwlad sydd wedi ennill eu plwyf fel cyrchfannau poblogaidd—megis Dinbych-y-Pysgod, Llandudno, neu le bynnag—ac yna yr ydych yn ceisio lledaenu’r baich fel nad yr ardaloedd hynny’n unig sy’n cael yr ymwelwyr. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i chi farchnata’r atyniadau, oherwydd yn naturiol mae’r rhain yn fwy anghonfensiynol, a byddai Blaenau’r Cymoedd yn syrthio i mewn i’r categori hwnnw. Mae llawer i’w ddangos, ond rhaid troi pennau pobl a gwneud iddynt sylweddoli ei bod yn werth mynd a bod yno bethau i’w gweld. Mae llawlyfrau da i dwristiaid yn hanfodol i’r trawsnewid hwnnw o ardal nad yw’n draddodiadol dwristaidd i atynfa gref i ymwelwyr yn y dyfodol. |
Eleanor Burnham: I am sure, First Minister, that you will agree that, while we have difficulties in promoting Wales, we should be ensuring the proper promotion of Welsh meat during this difficult time of foot and mouth disease and bluetongue disease in the UK. I understand that your Minister recently promised £1 million for promoting Welsh meat. What percentage of that will be spent on promoting Welsh meat abroad? |
Eleanor Burnham: Yr wyf yn siŵr, Brif Weinidog, y cytunwch, er ein bod yn cael anawsterau wrth geisio hybu Cymru, y dylem sicrhau y caiff cig Cymru ei hyrwyddo’n iawn yn ystod y cyfnod anodd hwn gyda chlwy’r traed a’r genau a chlefyd y tafod glas ym Mhrydain. Deallaf i’ch Gweinidog addo £1 filiwn yn ddiweddar i hybu cig Cymru. Pa ganran o’r swm honno a gaiff ei gwario ar hybu cig Cymru dramor? |
The First Minister: We are restricted in that category at the moment. It does not make sense to spend money on that now, because of the export ban due to foot and mouth disease. As soon as the foot and mouth disease restrictions are lifted, the issue would be to decide how to market Welsh meat much more extensively. The normal principle is that food and drink exports are very much the arrow head of your promotion. The image of Scotland abroad would be one tenth of what it is today if it was not for the exports of whisky and Aberdeen Angus beef, and the image of Ireland abroad would be one tenth of what it is today without Guinness and Irish whiskey. We do not have the equivalent of Scotch whisky, Aberdeen Angus or Guinness to act as our arrow heads, so we have to do it by a deliberate act of promotion. However, we cannot do that for the moment. |
Y Prif Weinidog: Yr ydym wedi’n cyfyngu yn y categori hwnnw ar hyn o bryd. Nid yw’n gwneud synnwyr gwario arian ar hynny’n awr, oherwydd y gwaharddiad ar allforio yn sgîl clwy’r traed a’r genau. Cyn gynted ag y codir cyfyngiadau clwy’r traed a’r genau, y cwestiwn wedyn fydd penderfynu sut i farchnata cig Cymru’n llawer helaethach. Yr egwyddor gyffredinol yw mai allforion bwyd a diod yw’r prif arf hyrwyddo i raddau helaeth iawn. Ni fyddai delwedd yr Alban dramor ond yn ddegfed ran o’r hyn ydyw heddiw oni bai am allforion whisgi a chig eidion Aberdeen Angus, ac ni fyddai delwedd Iwerddon dramor ond yn ddegfed ran o’r hyn ydyw heddiw heb Guinness a whisgi Iwerddon. Nid oes gennym ddim sy’n cyfateb i whisgi’r Alban, Aberdeen Angus na Guinness i fod yn brif arfau i ni, felly rhaid i ni fynd ati’n fwriadol i hyrwyddo. Fodd bynnag, ni allwn wneud hynny am y tro. |
Supporting Single Parents |
Cefnogi Rhieni Sengl |
Q8 Joyce Watson: Would the First Minister make a statement on what the Welsh Assembly Government is doing to support single parents in further and higher education? OAQ(3)0284(FM) |
C8 Joyce Watson: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i gefnogi rhieni sengl mewn addysg bellach ac uwch? OAQ(3)0284(FM) |
The First Minister: Assembly Government assistance for lone parents wishing to study is made available through Assembly learning grants, the childcare grant and the parents’ learning allowance. Following the Graham review, we will provide targeted grants for part-time students from 2008-09 onwards, in a way that many lone parents will find especially well-tailored to their needs. |
Y Prif Weinidog: Caiff cymorth Llywodraeth y Cynulliad i unig rieni sydd yn dymuno astudio ei ddarparu drwy grantiau dysgu’r Cynulliad, y grant gofal plant a’r lwfans dysgu i rieni. Yn dilyn adolygiad Graham, byddwn yn darparu grantiau wedi’u targedu tuag at fyfyrwyr rhan amser o 2008-09 ymlaen, mewn modd y bydd llawer o unig rieni’n ei gael yn arbennig o addas ar gyfer eu hanghenion. |
Joyce Watson: Almost one in four lone parents in Wales are currently unemployed, but want to find paid work, and it is important that we assist this vulnerable group of people in their efforts to find employment. Part of this strategy must include helping people to gain further qualifications. The fee-waiver scheme is key to helping more people access higher education. However, this scheme does not currently extend to non-credit bearing courses, which, because they are short-term and can be completed at home, are often better suited to people who have busy lives and who may find it difficult to travel to educational institutions. Does the First Minister agree that extending the fee-waiver scheme to cover these courses would make that initial step into higher education easier for many lone parents?
|
Joyce Watson: Mae bron un o bob pedwar unig riant yng Nghymru’n ddi-waith ar hyn o bryd, ond yn awyddus i ganfod gwaith cyflogedig, ac mae’n bwysig inni gynorthwyo’r grŵp bregus hwn o bobl yn eu hymdrechion i ganfod gwaith. Rhaid i ran o’r strategaeth hon gynnwys helpu pobl i ennill cymwysterau pellach. Mae’r cynllun hepgor ffioedd yn allweddol i helpu mwy o bobl i fanteisio ar addysg uwch. Fodd bynnag, nid yw’r cynllun hwn ar hyn o bryd yn ymestyn i gyrsiau nad ydynt yn dwyn credyd, sydd, am eu bod yn rhai byrdymor ac yn rhai y gellir eu cwblhau gartref, yn aml yn fwy addas i bobl sy’n byw bywydau prysur ac a all ei chael hi’n anodd teithio i sefydliadau addysg. A ydyw’r Prif Weinidog yn cytuno y byddai estyn y cynllun hepgor ffioedd i gynnwys y cyrsiau hyn yn hwyluso’r cam cyntaf hwnnw i mewn i addysg uwch i lawer o unig rieni? |
The First Minister: That is an interesting point and I do not know whether it is covered by my previous answer. The Graham review recommendations set a minimum of 50 per cent study—is if you are below 50 per cent study time, you are not covered by it, as I understand it. Therefore, I will ask Jane Hutt to write to you in detail on that. |
Y Prif Weinidog: Mae hynny’n bwynt diddorol ac ni wn a ydyw wedi’i ateb gan fy ateb blaenorol. Mae argymhellion adolygiad Graham yn pennu isafswm o 50 y cant o astudio—hynny yw os ydych o dan 50 y cant o amser astudio nid yw’n eich cynnwys, yn ôl a ddeallaf fi. Felly, fe ofynnaf i Jane Hutt ysgrifennu atoch mewn manylder ynglŷn â hynny. |
Your point about lone parents and their chances of returning to work is important. There has been a big drop over the past 10 years in the percentage of lone parents who are not in work. There has been a big improvement, but the keys to it are qualifications, childcare and the availability of jobs. All three of those have improved, but there is more that we can do. |
Mae eich pwynt ynghylch unig rieni a’u siawns o ddychwelyd i weithio yn bwysig. Bu cwymp mawr yn y 10 mlynedd diwethaf yn y ganran o unig rieni sydd yn ddi-waith. Cafwyd gwelliant mawr, ond yr allweddau iddo yw cymwysterau, gofal plant a bod swyddi ar gael. Mae’r tri hyn wedi gwella, ond y mae mwy y gallem ei wneud. |
Angela Burns: There are many different options for financial assistance available to single parents who wish to further their education, as you said earlier. However, the information provided is often confusing and sometimes conflicting. What plans does the Welsh Assembly Government have to, while retaining the same levels of support, simplify and improve access to these grants? |
Angela Burns: Mae llawer o wahanol opsiynau cymorth ariannol ar gael i rieni sengl sy’n dymuno cael addysg bellach, fel y dywedasoch yn gynharach. Fodd bynnag, mae’r wybodaeth a roddir yn aml yn ddryslyd ac weithiau’n anghyson. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i symleiddio a gwella’r modd y ceir mynediad at y grantiau hyn, gan gadw’r un lefelau cefnogaeth? |
The First Minister: You raise a good point. I have never been a great one for being able to fill in forms after one reading—it is like trying to sight-read music, not that I can do that either. However, the important point is that you either concentrate on getting good student welfare officers who will take you through the form, fill it in for you, for you to then sign and receive the grant—so you need more student welfare officers—or you make the forms so simple that you do not need student welfare officers to do it. I am not sure which of those is the better route. Whenever I have seen people struggling, the solution has always been to get the student welfare officer to help; they are crucial to this process. |
Y Prif Weinidog: Yr ydych yn codi pwynt da. Ni fûm i erioed yn un gwych am allu llenwi ffurflenni ar ôl un darlleniad—mae fel ceisio darllen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf, nid fy mod i’n gallu gwneud hynny ychwaith. Fodd bynnag, y pwynt pwysig yw y dylid canolbwyntio naill ai ar gael swyddogion lles myfyrwyr da a aiff â chi drwy’r ffurflen, ei llenwi drosoch, i chi gael ei llofnodi wedyn a derbyn y grant—felly bydd angen mwy o swyddogion lles myfyrwyr—neu ar wneud y ffurflenni mor syml fel nad oes angen swyddogion lles myfyrwyr i’w llenwi. Nid wyf yn siŵr pa un o’r rheini yw’r llwybr gorau. Pryd bynnag y gwelais i bobl yn cael trafferth, yr ateb bob tro fu cael y swyddog lles myfyrwyr i helpu; maent yn hanfodol i’r broses hon. |
2.50 p.m. |
|
Bethan Jenkins: Yn dilyn ymrwymiadau cytundeb 'Cymru’n Un’, a fydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar ddatblygiad y polisi o gyflwyno gofal plant fforddiadwy, cyfanfydol yng Nghymru? A yw’r Prif Weinidog yn cytuno y byddai hynny yn cael gwared ar y baich ar rieni sengl sydd yn ceisio dod yn rhan o’r system addysg bellach ac uwch? |
Bethan Jenkins: Following the commitments made in 'One Wales’, will the First Minister be making a statement on developing a policy of introducing universal, affordable childcare in Wales? Does the First Minister agree that that would eliminate the pressure on lone parents who wish to enrol in further and higher education? |
Y Prif Weinidog: Fel y dywedais, mae’r grant presennol ar gyfer gofal plant yn talu am 85 y cant o gostau gofal plant myfyrwyr, sy’n rhesymol o hael. Fodd bynnag, dim ond un o’r rhwystredigaethau sydd yn wynebu rhieni sengl yw hynny. Os oes rhwystredigaethau eraill yn wynebu rhieni sengl sydd eisiau bod yn fyfyrwyr, byddwn yn ddiolchgar o dderbyn llythyr yn nodi’r manylion hynny. |
The First Minister: As I said, the current childcare grant covers 85 per cent of students’ childcare costs, which is reasonably generous. However, that is only one of the barriers facing lone parents. If there are other barriers facing lone parents who wish to become students, I would be grateful if you could write to me with the details. |
Specialist Medical Services |
Gwasanaethau Meddygol Arbenigol |
Q9 Brynle Williams: Will the First Minister make a statement on the provision of specialist medical services in north Wales? OAQ(3)0279(FM) |
C9 Brynle Williams: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau meddygol arbenigol yn y gogledd? OAQ(3)0279(FM) |
The First Minister: You will have heard Edwina Hart’s statement last week on the review of Health Commission Wales, which is the body charged with assessing local health need for these specialist services. It then works with partner providers to provide services in or for north Wales, which meet that patient need within available resources. |
Y Prif Weinidog: Byddwch wedi clywed datganiad Edwina Hart yr wythnos diwethaf ynghylch adolygu Comisiwn Iechyd Cymru, sef y corff sy’n gyfrifol am asesu angen iechyd lleol am y gwasanaethau arbenigol hyn. Bydd y corff yn gweithio wedyn gyda phartner ddarparwyr i ddarparu gwasanaethau yn y Gogledd neu ar gyfer y Gogledd, a fydd yn ateb yr angen iechyd hwnnw o fewn yr adnoddau sydd ar gael. |
Brynle Williams: You are aware that we have all been lobbied hard regarding the concerns of many constituents over the future access of neurosurgical services in north Wales. Will you confirm that, in an independent review of neurosurgical services, patients’ choice will be fully taken into account? |
Brynle Williams: Yr ydych yn ymwybodol ein bod ni i gyd wedi cael ein lobïo’n galed ynghylch pryderon llawer o etholwyr ynglŷn â mynediad yn y dyfodol at wasanaethau niwrolawdriniaeth yn y Gogledd. A wnewch chi gadarnhau y rhoddir ystyriaeth lawn i’r hyn y byddai cleifion yn ei ddewis mewn adolygiad annibynnol o wasanaethau niwrolawdriniaeth? |
The First Minister: I can confirm that James Steers has been appointed. He is a past president of the Society of British Neurosurgical Surgeons, and is Scottish. He has had no previous involvement with HCW, and therefore has no preconceived ideas. He will be meeting party health spokespeople to discuss his terms of reference, and will then discuss his terms of reference with the Minister, independently. He will then proceed to consider all the relevant issues, including patient choice. |
Y Prif Weinidog: Gallaf gadarnhau bod James Steers wedi’i benodi. Mae’n gyn lywydd Cymdeithas Llawfeddygon Niwrolawdriniaethol Prydain, ac yn Albanwr. Nid yw wedi ymwneud o gwbl â Chomisiwn Iechyd Cymru o’r blaen, ac felly nid oes ganddo ddim rhagdybiaethau. Bydd yn cwrdd â llefarwyr y pleidiau ar iechyd i drafod ei gylch gorchwyl, ac wedyn yn trafod ei gylch gorchwyl gyda’r Gweinidog, yn annibynnol. Wedyn aiff ati i ystyried yr holl faterion perthnasol, gan gynnwys rhoi dewis i’r cleifion. |
Sandy Mewies: While it was interesting to hear my colleague’s take on what is happening with neurosurgical services in north Wales, it is a pity that others from opposition parties, including a candidate quoted on radio this morning, do not feel the same. Do you agree that, when they say things such as, 'People from north Wales are having to move to Cardiff and Swansea for these services’, and, 'Patients are having to travel from north to south Wales’—as though that is happening—is at best misleading, and at worst scaremongering? |
Sandy Mewies: Er ei bod yn ddiddorol clywed dehongliad fy nghyd-Aelod o’r hyn sydd yn digwydd gyda gwasanaethau niwrolawdriniaeth yn y Gogledd, mae’n bechod nad yw eraill o’r gwrthbleidiau, gan gynnwys ymgeisydd a ddyfynnwyd ar y radio heddiw’r bore, yn teimlo’r un fath. A ydych yn cytuno, pan ddywedant bethau fel, 'Mae pobl o’r Gogledd yn gorfod symud i Gaerdydd ac Abertawe i gael y gwasanaethau hyn’, a 'Mae cleifion yn gorfod teithio o’r Gogledd i’r De’—fel petai hynny’n digwydd—fod hyn ar y gorau’n gamarweiniol, ac ar y gwaethaf yn godi bwganod? |
The First Minister: It is both, as well as being totally hypocritical. The Conservatives did that on a massive scale 15 years ago when they were in power. All patients from north Wales who required treatment for orthopaedic surgery had to go to Rhydlafar in my constituency. Likewise, for general surgery—hernias, varicose veins and piles—patients had to go to Bridgend, and patients from south Wales had to go to Bangor for cataract surgery. There are far more people in those categories than there are in neurosurgery, yet we did not hear then about having to have patient choice; there was no patient choice under the Tories. |
Y Prif Weinidog: Mae’n gamarweiniol ac yn godi bwganod, yn ogystal â bod yn gwbl ragrithiol. Gwnaeth y Ceidwadwyr hyn ar raddfa anferth 15 mlynedd yn ôl pan oeddent hwy mewn grym. Yr oedd yn rhaid i bob claf o’r Gogledd a oedd angen llawdriniaeth orthopedig fynd i Rydlafar yn fy etholaeth i. Yn yr un modd, i gael llawdriniaeth gyffredinol—torgest, gwythiennau chwyddedig a chlwy’r marchogion—yr oedd yn rhaid i gleifion fynd i Ben-y-bont ar Ogwr, ac yr oedd yn rhaid i gleifion o’r De fynd i Fangor am lawdriniaeth cataract. Mae llawer mwy o bobl yn y categorïau hynny nag sydd mewn niwrolawdriniaeth, eto ni chlywsom bryd hynny am orfod rhoi dewis i’r cleifion; nid oedd dim dewis i gleifion dan y Torïaid. |
Gareth Jones: Gan fod y cwestiwn yn cyfeirio’n benodol at wasanaethau meddygol arbenigol yn y gogledd, ceisiaf gyfyngu fy nghyfraniad at hynny. Dros y blynyddoedd—hyd y gwelaf fi—mae’r gwasanaethau trydyddol pwysig, arbenigol yn tueddu i fod wedi eu lleoli ym Manceinion ac ar lannau Mersi, ac yn y blaen. Nid oes unrhyw un yn gwrthwynebu hynny, oherwydd o leiaf mae’r gwasanaeth yno ac ar gael i ni. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn ei weld o ganlyniad i unrhyw fath o adolygiad—ac mae nifer ohonynt ar y gweill—yw eich bod yn ystyried hygyrchedd y math hwn o wasanaeth yn y gogledd. Maent yn brin ar hyn o bryd. Ceir elfen o ddatblygu a throsglwyddo o lannau Mersi yn ôl i ogledd Cymru, ond hoffwn weld pethau’n mynd ymhellach i’r cyfeiriad hwnnw. Gofynnaf ichi wneud eich gorau i sicrhau bod hynny’n rhywbeth i’w ystyried ar gyfer y dyfodol. |
Gareth Jones: As the question refers specifically to specialist medical services in north Wales, I will try to limit my contribution to that issue. Over the years—as far as I can tell—the trend has been to locate the important, specialist tertiary services in Manchester and on Merseyside, and so on. No-one objects to that, as the services are at least available to us. However, what I would like to see as a result of any review—and there are a number of ongoing reviews—is that you consider the accessibility of such services in north Wales. They are few and far between at the moment. There is an element of development and of a transfer from Merseyside back to north Wales, but I would like to see further progress in that direction. I ask you to do your utmost to ensure that that is considered for the future. |
Y Prif Weinidog: Credaf ein bod i gyd yn derbyn bod tueddiadau, sy’n digwydd ar yr un pryd, yn gallu gweithio yn erbyn ei gilydd. Gyda mwy o gleifion yn dioddef o glefydau penodol, gan fod ein cymdeithas yn heneiddio, gallwch gyrraedd lefel o gleifion sy’n dioddef o’r un clefyd sy’n caniatáu ichi sefydlu canolfan yng ngogledd Cymru—yr olaf felly yr wyf yn ei chofio yw’r ganolfan ganser yn Ysbyty Glan Clwyd. Symudodd y ganolfan honno o Clatterbridge i Ysbyty Glan Clwyd tua 15 mlynedd yn ôl. Nid yw Clatterbridge yn bodoli bellach, ond mae rhai pobl o Wrecsam yn dal i fynd i Ysbyty Christie ym Manceinion. Fodd bynnag, honno oedd y ganolfan newydd olaf i ddod i’r gogledd, gan fod y galw yn ddigonol ac yn cynyddu. |
The First Minister: I believe that we all accept that trends that happen at the same time can militate against each other. With more patients suffering from particular diseases, as our society ages, you can achieve a level of patients suffering from the same disease that allows you to establish a centre in north Wales—the last such centre that I can recall is the cancer centre at Glan Clwyd Hospital. That centre moved from Clatterbridge to Glan Clwyd Hospital some 15 years ago. Clatterbridge no longer exists, but some people from Wrexham still attend Manchester’s Christie Hospital. However, that was the last new centre to be established in north Wales, as a result of sufficient and increasing demand. |
Y duedd arall yw cael canolfannau trydyddol arbenigol yn Lerpwl ac ym Manceinion yn parhau i ddarparu gwasanaethau i bobl yn y gogledd. Mewn ffordd, mae pobl gogledd Cymru yn ffodus iawn bod canolfannau ac ysbytai anferth gydag arbenigaethau o’r dosbarth cyntaf ar gael mewn lleoedd fel Ysbyty Christie ym Manceinion, dim ond awr o daith o ogledd Cymru. Nid oes gennym wasanaethau o’r fath yn y de. |
The other trend is to have specialist tertiary centres in Liverpool and Manchester continuing to provide services for people from north Wales. In a way, the people of north Wales are very lucky that such centres and huge hospitals are available in places such as the Christie Hospital in Manchester, only an hour away from north Wales. We have no such services in south Wales. |
Priorities for Healthcare |
Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd |
Q10 Andrew R.T. Davies: Will the First Minister make a statement on his priorities for healthcare in South Wales Central? OAQ(3)0277(FM) |
C10 Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer gofal iechyd yng Nghanol De Cymru? OAQ(3)0277(FM) |
The First Minister: Our priorities for the health service in Wales are identified in 'One Wales’. These include reviewing NHS reconfiguration, developing and improving health services and continuing to improve everyone’s access to the NHS as well as improving patients’ experience. |
Y Prif Weinidog: Nodir ein blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn 'Cymru’n Un’. Mae’r rhain yn cynnwys adolygu ad-drefniant y GIG, datblygu a gwella gwasanaethau iechyd a pharhau i wella mynediad pawb at y GIG yn ogystal â gwella profiad cleifion. |
Andrew R.T. Davies: South Wales Central, if the plans go ahead, will play host to the children’s hospital phase 2 development. A fortnight ago, the Petitions Committee received a petition from the children’s hospital on the difficulties that it currently faces in terms of moving the project forward. Could you highlight the leadership that you, as First Minister, along with your Minister for Health and Social Services, are engaging in to try to resolve these issues so that this deficit and anomaly with regard to the children’s hospital in Wales, which I think all parties in the Chamber would welcome, can be addressed? |
Andrew R.T. Davies: Bydd Canol De Cymru, os aiff y cynlluniau yn eu blaen, yn gartref i ddatblygiad cam 2 yr ysbyty plant. Bythefnos yn ôl, cafodd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb oddi wrth yr ysbyty plant am yr anawsterau y mae’n eu hwynebu ar hyn o bryd o ran symud y prosiect yn ei flaen. A allech amlygu’r arweinyddiaeth yr ydych chi, fel Prif Weinidog, ynghyd â’ch Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ei rhoi i geisio datrys y materion hyn fel y gellir datrys y diffyg hwn a’r anghysondeb hwn ynglŷn â’r ysbyty plant yng Nghymru, rhywbeth a groesewid, mi gredaf, gan bob plaid yn y Siambr? |
The First Minister: I am sure that we would all welcome phase 2, but it is simply a matter of the amount of money on top of what we have provided centrally as regards capital, which was 100 per cent, if I remember rightly from Brian Gibbons’s time as health Minister. On the revenue costs, we have offered a substantial sum, but the issue is that we have not made a 100 per cent offer because, clearly, some of the services that will be provided at the children’s hospital will be local and should therefore be funded locally. The issue is: how much is that and what proportion is it of the total additional revenue cost? My understanding is that the Minister for Health and Social Services has asked for full details of what percentage of the projected intake of children come from which local health board areas. Therefore, we need to ask those local health board areas whether they are willing to stump up that proportion of the additional revenue cost over and above the offer that we have made of the extra £5 million for revenue funding. |
Y Prif Weinidog: Yr wyf yn siŵr y byddem i gyd yn croesawu cam 2, ond mater ydyw yn syml o’r swm o arian ar ben yr hyn yr ydym wedi’i ddarparu’n ganolog o ran cyfalaf, sef 100 y cant, os cofiaf yn iawn o adeg Brian Gibbons yn Weinidog iechyd. O ran y costau refeniw, yr ydym wedi cynnig swm sylweddol, ond y broblem yw nad ydym wedi cynnig 100 y cant oherwydd, yn amlwg, bydd rhai o’r gwasanaethau a ddarperir yn yr ysbyty plant yn rhai lleol, ac felly dylid eu hariannu’n lleol. Y cwestiwn yw: faint yw hynny a pha gyfran ydyw o gyfanswm y gost refeniw ychwanegol? Fy nealltwriaeth i yw bod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn am fanylion llawn ynghylch pa ganran o’r plant y disgwylir eu derbyn a ddaw o ba ardaloedd byrddau iechyd lleol. Felly, mae angen inni ofyn i’r byrddau iechyd lleol hynny a ydynt yn barod i dalu’r gyfran honno o’r gost refeniw ychwanegol uwchben y cynnig yr ydym ni wedi’i wneud, sef y £5 miliwn ychwanegol o arian refeniw. |
Lorraine Barrett: I raise an issue affecting one of my constituents who has been going to Bobath Cymru for physiotherapy as a child with cerebral palsy—in fact, her father was one of the founders of Bobath Cymru. Now that she is classed as an adult, she is no longer funded to go there and has to have general physiotherapy at the hospital. While the physiotherapists there offer excellent service and treatment, her parents feel that the system is not adequately geared up to deal with her specific needs as an adult with cerebral palsy compared with the treatment that she was receiving as a child at a specialist unit like Bobath Cymru. Could you look at this issue for children who still need that specialist care when they become adults? |
Lorraine Barrett: Codaf fater sydd yn effeithio ar un o’m hetholwyr, sef plentyn â pharlys yr ymennydd sydd wedi bod yn mynychu Bobath Cymru am ffisiotherapi—yn wir, yr oedd ei thad yn un o sylfaenwyr Bobath Cymru. A hithau bellach yn cael ei chyfri’n oedolyn, nid oes cyllid mwyach iddi fynd yno a rhaid iddi gael ffisiotherapi cyffredinol yn yr ysbyty. Er bod y ffisiotherapyddion yno’n cynnig gwasanaeth a thriniaeth ragorol, teimla ei rhieni nad yw’r system wedi’i threfnu’n ddigonol i ddelio â’i hanghenion penodol fel oedolyn â pharlys yr ymennydd o’i chymharu â’r driniaeth a gâi yn blentyn mewn uned arbenigol fel Bobath Cymru. A allech edrych ar y mater hwn i blant y mae dal angen y gofal arbenigol hwnnw arnynt pan dyfant yn oedolion? |
| The First Minister: This is similar to Jeff Cuthbert’s earlier question about people who had been to Trinity Fields Special School and who now need to make that transition into adult life. They lose the access to some of the services oriented for children, but this also raises the other issue about the general availability of physiotherapy. We have now published figures on access to physiotherapy and it is one of the most sticky waiting-list problems, which applies to England as well as to Wales, because we either do not have enough physiotherapists at all or when we do have enough, they do not all necessarily work in the national health service. | Y Prif Weinidog: Mae hyn yn debyg i gwestiwn Jeff Cuthbert yn gynharach am bobl a fu i Ysgol Arbennig Trinity Fields ac sydd bellach yn gorfod gwneud y trawsnewid hwnnw i fywyd oedolyn. Collant yr hawl i gael rhai o’r gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at blant, ond mae hyn hefyd yn codi’r cwestiwn arall ynghylch argaeledd ffisiotherapi’n gyffredinol. Yr ydym bellach wedi cyhoeddi ffigurau mynediad at ffisiotherapi ac mae’n un o’r problemau mwyaf dyrys o ran rhestrau aros, a hynny yn Lloegr yn ogystal ag yng Nghymru, oherwydd naill ai nad oes gennym ddigon o ffisiotherapyddion o gwbl neu pan fydd gennym ddigon, nad ydynt i gyd o reidrwydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol. |
3.00 p.m. |
|
| We are, therefore, trying to improve access to physiotherapy services in general. If you write to Edwina Hart, providing the details, I will make sure that I draw her attention to this exchange this afternoon and that you get a detailed reply. | Yr ydym, felly, yn ceisio gwella mynediad at wasanaethau ffisiotherapi yn gyffredinol. Os ysgrifennwch chi at Edwina Hart, gan roi’r manylion, gwnaf yn siŵr fy mod yn tynnu ei sylw at y drafodaeth hon y prynhawn yma a’ch bod yn cael ateb manwl. |
The Counsel General and Leader of the House (Carwyn Jones): The changes to this week’s Government business include, this afternoon, an additional statement by the Deputy First Minister on job losses in Cardiff, and an additional statement by the Minister for Environment, Sustainability and Housing on the Welsh Assembly Government’s response to the Sustainable Development Commission’s report on the proposed Severn barrage. To accommodate these important statements, I have postponed the statement on human rights development and the debate on the Wales spatial plan consultation until Tuesday, 9 October. Tomorrow, there will be a statement from the Minister for Health and Social Services on violence and aggression in the national health service. The business for the next three weeks is as set out in the draft business statement and announcement, which can be found in the agenda papers that are available to Members electronically. |
Y Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ (Carwyn Jones): Mae’r newidiadau i fusnes y Llywodraeth yr wythnos hon yn cynnwys, y prynhawn yma, ddatganiad ychwanegol gan y Dirprwy Brif Weinidog am golli swyddi yng Nghaerdydd, a datganiad ychwanegol gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai am ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ar y morglawdd arfaethedig ar draws afon Hafren. I wneud lle i’r datganiadau pwysig hyn, yr wyf wedi gohirio’r datganiad am ddatblygiad hawliau dynol a’r ddadl ar ymgynghoriad ar gynllun gofodol Cymru tan ddydd Mawrth, 9 Hydref. Yfory, ceir datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am drais ac ymosodedd yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae’r busnes am y tair wythnos nesaf fel y nodwyd yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes drafft, sydd i’w gweld yn y papurau agenda sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig. |
Kirsty Williams: We understand the reasons for the need to rearrange business in the way that it has been to accommodate important statements. Will you look at the opportunities to discuss the ongoing concerns that my constituents have—as do other Members’ constituents, I am sure—about the safety of the LNG project currently taking place across Wales? You will be aware that my constituency is greatly affected by this project. While I accept the need for the project to go ahead, I am sure that you will agree that it must be done in the safest possible way and that the safety concerns of local people must be taken into consideration. We have concerns that the pipe is being laid against the agreed specifications, and this could lead to potentially hazardous cracks appearing in the pipe at a later date. Will your Government be amenable to allocating some time to this issue so that Members who have concerns about it could raise them on the floor of the Chamber? |
Kirsty Williams: Deallwn y rhesymau pam mae angen ad-drefnu’r busnes yn y ffordd a wnaethpwyd i wneud lle i ddatganiadau pwysig. A wnewch chi edrych ar y cyfleoedd i drafod y pryderon sydd gan fy etholwyr i o hyd—ac etholwyr Aelodau eraill, yr wyf yn siŵr—ynglŷn â diogelwch y prosiect LNG sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws Cymru? Byddwch yn ymwybodol bod y prosiect hwn yn effeithio’n fawr ar fy etholaeth i. Er fy mod yn derbyn yr angen i’r prosiect fynd rhagddo, yr wyf yn siŵr y byddwch yn cytuno bod rhaid iddo gael ei wneud yn y ffordd fwyaf diogel bosibl a bod rhaid rhoi sylw i bryderon pobl leol am ddiogelwch. Mae gennym bryderon bod y bibell yn cael ei gosod yn wahanol i’r manylebau y cytunwyd arnynt, a gallai hyn olygu y bydd craciau peryglus o bosibl yn ymddangos yn y bibell yn y dyfodol. A fydd eich Llywodraeth yn fodlon neilltuo amser i’r mater hwn er mwyn i Aelodau sydd â phryderon amdano gael eu codi ar lawr y Siambr? |
Carwyn Jones: I do not think that a debate would take us very far. If there are allegations about the way in which the pipeline is being laid, they should be taken up, at the first instance, with the UK Energy Minister, although I emphasise that these are not devolved matters. Therefore, the primary responsibility lies with what was the Department of Trade and Industry and which is now known as the Department for Business, Enterprise and Regulatory Reform. Therefore, that is the first place where such concerns should be raised. Nevertheless, I know that the Assembly Minister is listening to what you say. Again, we have to emphasise that this is a non-devolved matter. |
Carwyn Jones: Ni chredaf y byddai dadl yn mynd â ni’n bell iawn. Os oes honiadau am y ffordd y mae’r biblinell yn cael ei gosod, dylid eu codi yn y lle cyntaf gyda Gweinidog Ynni’r DU, er fy mod yn pwysleisio nad yw’r rhain yn faterion sydd wedi cael eu datganoli. Felly mae’r cyfrifoldeb pennaf gyda’r hyn oedd yn Adran Masnach a Diwydiant ac sydd erbyn hyn yn cael ei hadnabod fel yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio. Felly, dyna’r man cyntaf lle dylid codi pryderon o’r fath. Serch hynny, gwn fod y Gweinidog yn y Cynulliad yn gwrando ar yr hyn a ddywedwch. Eto, rhaid inni bwysleisio nad yw hwn yn fater sydd wedi cael ei ddatganoli. |
Lynne Neagle: Will the Leader of the House consider bringing forward a statement regarding progress on implementing the recommendations of the Committee on School Funding, which reported last year? I was concerned to see the response of the Assembly Government to recent scrutiny from the National Association of Head Teachers Cymru regarding education spending in local authorities. In particular, the failure to recognise the responsibility of the Assembly Government as a proactive partner with local government ran counter to the recommendations of the funding committee, which were accepted by the Assembly Government. Will you find time for a statement on this matter so that Members have the opportunity to discuss it? |
Lynne Neagle: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ystyried dod â datganiad gerbron am y cynnydd o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion, a gyflwynodd ei adroddiad yr wythnos diwethaf? Yr oeddwn yn bryderus o weld ymateb Llywodraeth y Cynulliad i graffu diweddar gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, Cymru, ynglŷn â’r gwariant ar addysg mewn awdurdodau lleol. Yn arbennig, yr oedd y methiant i gydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad fel partner rhagweithiol ynghyd â llywodraeth leol yn mynd yn groes i argymhellion y pwyllgor ariannu—argymhellion a dderbyniwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. A neilltuwch chi amser ar gyfer datganiad ar y mater hwn er mwyn i’r Aelodau gael y cyfle i’w drafod? |
Carwyn Jones: This is a matter for the Minister for Children, Education, Lifelong Learning and Skills, Jane Hutt, who will have heard what you said. It is a matter for her to decide whether she wishes to issue a statement or whether she can deal with the matter via questions. I am sure that she has heard your concerns and will seek to deal with them. |
Carwyn Jones: Mater i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt, yw hwn, a bydd wedi clywed yr hyn a ddywedoch. Mater iddi hi yw penderfynu a yw’n dymuno rhyddhau datganiad ynteu a all ddelio â’r mater drwy gwestiynau. Yr wyf yn siŵr ei bod wedi clywed eich pryderon ac y bydd yn ceisio delio â hwy. |
Mick Bates: I hope that what I say will meet with your sympathy and understanding given your previous experience with foot and mouth disease. You are aware that the industry faces a tremendous economic threat from the backlog of lambs that remain in the market due to loss of exports and the hold up of markets. Could we have a statement from the Minister responsible on the possible introduction of a welfare scheme for light lambs in Wales? This is essential, particularly in view of the fact that another devolved administration—the Scottish Government—has already put forward a scheme that has been sent to Europe, although I am not aware whether it has been accepted. However, the industry needs a scheme. I hope that a statement will be made urgently on a scheme in Wales for light lambs. |
Mick Bates: Gobeithiaf y bydd yr hyn a ddywedaf yn ennyn eich cydymdeimlad a’ch dealltwriaeth ac ystyried eich profiad cyn hyn gyda chlwy’r traed a’r genau. Yr ydych yn ymwybodol bod y diwydiant yn wynebu bygythiad economaidd enfawr yn sgil yr ŵyn wedi cronni sy’n dal yn y farchnad gan nad ydym yn gallu allforio a bod y marchnadoedd wedi cael eu hatal. A allem gael datganiad gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am y posibilrwydd o gyflwyno cynllun lles gogyfer ag ŵyn ysgafn yng Nghymru? Mae hyn yn hanfodol, yn enwedig yn wyneb y ffaith bod gweinyddiaeth ddatganoledig arall—Llywodraeth yr Alban—eisoes wedi rhoi cynllun gerbron sydd wedi cael ei anfon i Ewrop, er na wn a yw wedi cael ei dderbyn. Fodd bynnag, mae angen cynllun ar y diwydiant. Gobeithiaf y gwneir datganiad ar frys am gynllun yng Nghymru ar gyfer ŵyn ysgafn. |
The second issue is the bluetongue virus. Last week, the Minister responsible gave a brief statement on the virus. I am sure that everyone hopes that the weather may stop the spread of the midges that transmit the disease. However, given the evidence from northern Europe in particular, where sheep are very susceptible and up to 70 per cent of the flock can be affected, we need to see some contingency planning at this stage in preparation for next year and the possibility of the spread of the disease. I wish to highlight two issues; one is the culling of livestock suffering from the bluetongue virus, who would carry this out and whether the Government is prepared to support it; and the second is the disposal of livestock that may have suffered from the bluetongue virus. Given the anxiety in the industry at the moment, it is important that we have a statement on the virus, contingency planning and support for the industry. |
Yr ail fater yw’r firws tafod glas. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd y Gweinidog sy’n gyfrifol ddatganiad am y firws. Yr wyf yn siŵr bod pawb yn gobeithio y gall y tywydd atal y gwybed sy’n trosglwyddo’r clefyd rhag ymledu. Fodd bynnag, ac ystyried y dystiolaeth o ogledd Ewrop yn arbennig, lle mae defaid yn dueddol iawn o gael y clefyd a lle gall effeithio ar hyd at 70 y cant o’r ddiadell, mae angen inni weld rhyw gynlluniau wrth gefn ar hyn o bryd fel paratoad at y flwyddyn nesaf a’r posibilrwydd y bydd y clefyd yn lledaenu. Hoffwn dynnu sylw at ddau fater; un yw difa da byw sy’n dioddef o’r firws tafod glas. Pwy fyddai’n gwneud hyn ac a yw’r Llywodraeth yn barod i gefnogi hynny. Yr ail fater yw gwaredu da byw sydd efallai wedi cael y firws tafod glas. A chofio’r pryder yn y diwydiant ar hyn o bryd, mae’n bwysig inni gael datganiad am y firws, cynlluniau wrth gefn a chymorth i’r diwydiant. |
Finally, will you find time for the Minister for Health and Social Services to make a statement on ambulance services in Montgomeryshire? I have figures that suggest that for one third of the shifts in north Montgomeryshire no ambulance is available because of understaffing and the refusal to appoint more staff to man the ambulance service. I find this appalling; it needs to be examined through a ministerial statement. |
Yn olaf, a wnewch chi ganfod amser i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud datganiad am y gwasanaethau ambiwlans yn sir Drefaldwyn? Mae gennyf ffigurau sy’n awgrymu, ar draean o’r shifftiau yng ngogledd sir Drefaldwyn, nad oes ambiwlans ar gael am nad oes digon o staff ac y gwrthodir penodi rhagor o staff i weithio yn y gwasanaeth ambiwlans. Mae hyn yn arswydus yn fy marn i; mae angen ei archwilio drwy ddatganiad gan y Gweinidog. |
Carwyn Jones: On your final question on the ambulance service, it would help if you were able to share your figures with the appropriate Minister so that she could comment on them. I am sure the once she has seen them, she will be able to decide what, if anything, needs to be done to answer your concerns. |
Carwyn Jones: O ran eich cwestiwn olaf am y gwasanaeth ambiwlans, byddai’n help pe gallech rannu eich ffigurau gyda’r Gweinidog priodol fel y gallai hi wneud sylwadau arnynt. Unwaith y bydd wedi eu gweld, yr wyf yn siŵr y gall benderfynu beth y mae angen ei wneud, os oes angen gwneud rhywbeth, i ateb eich pryderon. |
You asked several detailed questions on the bluetongue virus; I spent some time as the Minister with responsibility for rural affairs, but, fortunately, the bluetongue virus was not something that I had to deal with. Therefore, I do not claim to be an expert on it, but the Minister, Elin Jones, will take advice from the Office of the Chief Veterinary Officer for Wales. She will have plans in place to deal with the virus; we have been aware of the presence of bluetongue across the Channel for some time. The Office of the Chief Veterinary Officer for Wales is not unaware of that. I am sure that Elin Jones will be able to provide you with information on the detailed planning once she has taken the advice of the chief veterinary officer. |
Gofynasoch sawl cwestiwn manwl am y firws tafod glas. Treuliais beth amser fel y Gweinidog oedd yn gyfrifol am faterion gwledig, ond, yn ffodus, nid oedd y firws tafod glas yn rhywbeth y bu’n rhaid imi ddelio ag ef. Felly, nid wyf yn honni bod yn arbenigwr arno, ond bydd y Gweinidog, Elin Jones, yn cymryd cyngor gan Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru. Bydd ganddi gynlluniau i ddelio â’r firws; yr ydym wedi bod yn ymwybodol o bresenoldeb y tafod glas ar draws Môr Hafren ers peth amser. Mae Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru’n ymwybodol o hynny. Yr wyf yn siŵr y bydd Elin Jones yn gallu rhoi gwybodaeth ichi am y cynllunio manwl unwaith y bydd wedi cael cyngor gan y prif swyddog milfeddygol. |
It is correct to say that a substantial number—possibly up to 40 per cent—of light lambs are exported. As a result of the closure of the export market, there will be a glut of lambs on the market this month, next month and into December. However, it is important to note the money that has been put into helping to market Welsh lamb and to understand that, as the Minister, Elin Jones will have to consider what response needs to be made in Wales as a result of Scotland’s scheme. I am sure that she will give her views on that as soon as possible. |
Mae’n gywir dweud bod nifer sylweddol—hyd at 40 y cant o bosibl—o ŵyn ysgafn yn cael eu hallforio. Yn sgil cau’r farchnad allforio, bydd gormodedd o ŵyn ar y farchnad y mis hwn, y mis nesaf ac ymlaen i fis Rhagfyr. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod arian wedi mynd i helpu marchnad ŵyn Cymru a deall y bydd rhaid i Elin Jones, fel y Gweinidog, ystyried pa ymateb sy’n ofynnol yng Nghymru o ganlyniad i gynllun yr Alban. Yr wyf yn siŵr y rhydd hi ei barn am hynny cyn gynted â phosibl. |
Lesley Griffiths: The Leader of the House will know that 7 December is carers’ rights day in Wales. With an estimated 356,000 adult carers in Wales providing vital, unpaid support to their family members, they contribute an equivalent of just under £6 billion every year to the economy. The 'One Wales’ programme for Government pledged to review the carers’ strategy and to prepare legislation on the rights of carers. Will you find time to debate this, possibly in December, in order that we can recognise the huge contribution that carers make to our country? |
Lesley Griffiths: Bydd Arweinydd y Tŷ’n gwybod bod 7 Rhagfyr yn ddiwrnod hawliau gofalwyr yng Nghymru. Gyda nifer amcangyfrifedig o 356,000 o ofalwyr sy’n oedolion yng Nghymru yn darparu cymorth hanfodol, yn ddi-dâl, i aelodau o’u teuluoedd, maent yn cyfrannu swm sy’n cyfateb i ychydig llai na £6 biliwn y flwyddyn i’r economi. Addunedodd rhaglen lywodraethu 'Cymru’n Un’ adolygu’r strategaeth ar gyfer gofalwyr a pharatoi deddfwriaeth am hawliau gofalwyr. A wnewch chi neilltuo amser i drafod hyn, o bosibl ym mis Rhagfyr, er mwyn inni allu cydnabod y cyfraniad enfawr y mae gofalwyr yn ei wneud i’n gwlad? |
Carwyn Jones: I could not agree more with your sentiments. You are right to point to the Government’s commitment on this. I know that Edwina Hart, as the Minister, will be keen to put forward proposals for dealing with the issue of the carers’ strategy and all issues to do with carers at the appropriate time. She will hear what you have said and I am sure that she will be able to provide you with a timescale. We all accept that we would wish to provide carers with as much support as possible. |
Carwyn Jones: Ni allwn gytuno mwy â’ch teimladau. Yr ydych yn iawn i dynnu sylw at ymrwymiad y Llywodraeth ar hyn. Gwn y bydd Edwina Hart, fel y Gweinidog, yn awyddus i roi cynigion gerbron i ddelio â mater y strategaeth ar gyfer gofalwyr a’r holl faterion yn ymwneud â gofalwyr ar yr adeg briodol. Bydd yn clywed yr hyn yr ydych wedi’i ddweud ac yr wyf yn siŵr y gall roi amserlen ichi. Yr ydym i gyd yn derbyn y byddem am roi cymaint o gymorth â phosibl i ofalwyr. |
3.10 p.m. |
|
Brynle Williams: I heard your comments about the light lamb situation. Like my colleague, Mick Bates, I have been inundated with work relating to this in the past week. Once again, winter has come to the uplands. Only this lunch time, I was pressed again by sheep farmers in north-west Wales as regards when we will see the welfare scheme. Can the Minister give us some indication of when this scheme will be up and running? We are in a serious situation in which fodder is beginning to run short and we do not have the luxury of three weeks or a month in which to deal with the problem. |
Brynle Williams: Clywais eich sylwadau am y sefyllfa o ran ŵyn ysgafn. Fel fy nghyd-Aelod, Mick Bates, yr wyf wedi cael llif o waith yn ymwneud â hyn dros yr wythnos diwethaf. Unwaith eto, mae’r gaeaf wedi cyrraedd y tir uchel. Dim ond amser cinio heddiw, pwyswyd arnaf eto gan ffermwyr defaid yn y Gogledd-orllewin ynglŷn â phryd y gwelwn ni gynllun lles. A all y Gweinidog roi rhyw awgrym inni o pryd y bydd y cynllun hwn wedi ei sefydlu ac ar waith? Yr ydym mewn sefyllfa ddifrifol lle mae porthiant yn dechrau mynd yn brin ac nid oes clustog o tair wythnos neu fis gennym i ddelio â’r broblem. |
I have been contacted several times by Cig Cibyn Ltd of Caernarfon. The company has asked whether its abattoir, if we are going to follow such a scheme, can have some sort of assurance that it will be given work. I do not know whether the Assembly has the powers to do that, but 70 or so people are out of work and an abattoir is struggling for its financial existence. The most important thing is that a welfare scheme is put in place, and within 10 days if at all possible. I urge the Minister to take this on board. |
Mae Cig Cibyn Cyf o Gaernarfon wedi cysylltu â mi droeon. Mae’r cwmni wedi gofyn, os ydym yn mynd i ddilyn cynllun o’r fath, a all ei ladd-dy gael rhyw fath o sicrwydd y rhoddir gwaith iddo. Ni wn a yw’r pwerau gan y Cynulliad i wneud hynny, ond mae rhyw 70 o bobl allan o waith ac mae’r lladd-dy’n ymladd am ei fodolaeth ariannol. Y peth pwysicaf yw bod cynllun lles yn cael ei sefydlu, ac o fewn 10 diwrnod os yw’n bosibl o gwbl. Anogaf y Gweinidog i roi sylw i hyn. |
Carwyn Jones: You mentioned the abattoir, and I take it that you mean Cig Cibyn in Caernarfon. At the outset, Gwynedd County Council outlined an emergency loan to help, which has now been accepted and drawn down. I am sure that the workers at Cig Cibyn will find that encouraging as far as the future is concerned. I remind Members that Elin Jones will answer questions tomorrow afternoon, and she will be able to give detailed answers to the questions raised about light lambs. She will know, as we all do, that Scotland has decided to introduce its own welfare scheme, and I have no doubt that she will consider that over the course of the next few days. |
Carwyn Jones: Crybwyllasoch y lladd-dy, ac yr wyf yn cymryd eich bod yn golygu Cig Cibyn yng Nghaernarfon. Ar y cychwyn, amlinellodd Cyngor Sir Gwynedd fenthyciad brys i helpu, sydd wedi cael ei dderbyn erbyn hyn a’i dynnu i lawr. Yr wyf yn siŵr y bydd y gweithwyr yn Cig Cibyn yn teimlo bod hynny’n galonogol o ran y dyfodol. Atgoffaf yr Aelodau y bydd Elin Jones yn ateb cwestiynau brynhawn yfory, a bydd yn gallu rhoi atebion manwl i’r cwestiynau a godwyd am ŵyn ysgafn. Bydd hi’n gwybod, fel pawb ohonom, fod yr Alban wedi penderfynu cyflwyno ei chynllun lles ei hun, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn ystyried hynny dros y dyddiau nesaf. |
Leanne Wood: Will the Minister agree to a debate on the constitutional future of Wales? This would give the Conservative Party an opportunity to agree wholeheartedly with the position of David Davies, who is already backing a 'no’ vote in a referendum on a proper parliament. |
Leanne Wood: A wnaiff y Gweinidog gytuno i ddadl am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru? Byddai hyn yn rhoi cyfle i’r Blaid Geidwadol i gytuno’n galonnog â safbwynt David Davies, sydd eisoes yn cefnogi pleidlais 'na’ mewn refferendwm ar senedd iawn. |
The Presiding Officer: Order. The Leader of the House, as I keep having to say, has no responsibility for the Welsh Conservatives, and, under our new system of allocation, both opposition parties are able to bring forward their own debates at any time, should they so wish. However, if the Leader of the House wishes to confirm that what I have said is accurate, I would be happy to hear him. |
Y Llywydd: Trefn. Fel yr wyf yn gorfod ei ddweud o hyd, nid oes gan Arweinydd y Tŷ unrhyw gyfrifoldeb dros Geidwadwyr Cymru, ac, o dan ein system ddyrannu newydd, gall y naill wrthblaid a’r llall ddod â’u dadleuon eu hunain gerbron ar unrhyw adeg, petaent yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, os yw Arweinydd y Tŷ’n dymuno cadarnhau bod yr hyn yr wyf wedi’i ddweud yn gywir, byddwn yn hapus i’w glywed. |
Carwyn Jones: I am not responsible for Conservative Party policy, Llywydd. Thank the Lord for small mercies. |
Carwyn Jones: Nid wyf yn gyfrifol am bolisi’r Blaid Geidwadol, Lywydd. Diolch i’r Nefoedd am fân drugareddau. |
Mark Isherwood: On that point, I can reassure you that all Conservative Members will vote for what they believe will be most effective in strengthening the union and making devolution work for all the people of the United Kingdom, as opposed to the narrow sects who would bankrupt their nation and take us back hundreds of years. However—[Interruption.] |
Mark Isherwood: Ar y pwynt hwnnw, gallaf dawelu eich meddyliau y bydd pob Aelod Ceidwadol yn pleidleisio dros yr hyn a gredant fydd yn fwyaf effeithiol i gryfhau’r undeb a gwneud i ddatganoli weithio i holl bobl y Deyrnas Unedig, mewn gwrthgyferbyniad â’r sectau cul a fyddai’n peri i’w cenedl fynd â’i phen iddi ac yn mynd â ni’n ôl gannoedd o flynyddoedd. Fodd bynnag—[Torri ar draws.] |
The Presiding Officer: Order. I would not mind a question. |
Y Llywydd: Trefn. Ni fyddwn yn gwrthwynebu cwestiwn. |
Mark Isherwood: To return to something that is of more concern to the people concerned, will the Assembly Government find time to make a statement on disability rights, given the exit letter that Members received from the Disability Rights Commission last week? It encouraged all of us to keep a close watch on the Remploy situation and keep in mind some of the broader campaigning issues that have been exposed by Remploy’s plight in relation to the treatment of disabled people in what it referred to as so-called low-skill work. It also highlighted new evidence that the skills divide is widening between disabled and non-disabled people, and stated that if we ignore this we threaten to undo the good work of recent years. In this context, I was advised this weekend that the citizens advice bureaux have been asked to provide training to the Commission for Equality and Human Rights in Wales. So, although the new organisation is now taking over from the commission, it has not even trained its telecentre staff yet. I know that there is widespread concern in the voluntary sector that it may be many months before we see the CEHR undertake any concrete enforcement action, an ability that it inherits from the Disability Rights Commission. Therefore, I would appreciate a statement on these matters, which are a cause of concern to many people. |
Mark Isherwood: I ddod yn ôl at rywbeth sydd o fwy o bwys i’r bobl dan sylw, a wnaiff Llywodraeth y Cynulliad neilltuo amser i roi datganiad ar hawliau anabledd, ac ystyried y llythyr ymadael a gafodd Aelodau oddi wrth y Comisiwn Hawliau Anabledd yr wythnos diwethaf? Yr oedd yn annog pawb ohonom i gadw llygad manwl ar sefyllfa Remploy a chadw mewn cof rai o’r materion ymgyrchu ehangach sydd wedi dod i’r amlwg oherwydd trafferthion Remploy o ran y ffordd y caiff pobl anabl eu trin yn yr hyn y mae’n cyfeirio ato fel gwaith sy’n gofyn am sgiliau ar lefel isel. Amlygai hefyd dystiolaeth newydd fod y bwlch sgiliau yn lledu rhwng pobl anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl, a dywedai, os anwybyddwn ni hyn, fod perygl inni ddadwneud gwaith da’r blynyddoedd diwethaf. Yn y cyd-destun hwn, dywedwyd wrthyf y penwythnos hwn fod cais wedi cael ei wneud ar i’r canolfannau cyngor ar bopeth ddarparu hyfforddiant i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Felly, er bod y corff newydd yn disodli’r comisiwn bellach, nid yw hyd yn oed wedi hyfforddi staff ei deleganolfan eto. Gwn fod pryder cyffredinol yn y sector gwirfoddol y gallai fod yn fisoedd lawer cyn y gwelwn ni’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cymryd unrhyw gamau gorfodi pendant, gallu y mae’n ei etifeddu oddi wrth y Comisiwn Hawliau Anabledd. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad ar y materion hyn, sy’n peri pryder i lawer o bobl. |
| The second matter is to do with refugees. Leanne, to her credit, hosted a meeting last week with Refugee Voice Wales, which I attended following Plenary. I was the only other Member there, which I found of great concern. It would have been nice to have seen representatives of all parties, because the organisation raised many serious issues of concern. It is keen to meet Government Ministers, and I hope that you will consider that. | Mae a wnelo’r ail fater â ffoaduriaid. Cynhaliodd Leanne, er clod iddi, gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda Refugee Voice Wales, ac euthum i iddo ar ôl y Cyfarfod Llawn. Fi oedd yr unig Aelod arall yno, ac yr oedd hynny’n bryder mawr imi. Byddai wedi bod yn braf gweld cynrychiolwyr o bob plaid, oherwydd cododd y mudiad lawer o faterion difrifol sy’n peri pryder. Yr oedd yn awyddus i gwrdd â Gweinidogion y Llywodraeth, a gobeithiaf y byddwch yn ystyried hynny. |
I urge you to allow some time to consider these matters, not only in relation to broader public service provision, but also to the manifesto signed by all party leaders, including the First Minister, prior to the election. It is keen to see the details of proposed Government action on delivery. |
Pwysaf arnoch i ganiatáu amser i ystyried y materion hyn, nid yn unig yng nghyswllt gwasanaethau cyhoeddus ehangach, ond hefyd yng nghyswllt y maniffesto a lofnodwyd gan arweinydd pob plaid, yn cynnwys y Prif Weinidog, cyn yr etholiad. Mae’n awyddus i weld manylion y camau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd o ran darparu gwasanaethau. |
Carwyn Jones: I understand that the Chair of the Committee on Equality of Opportunity has agreed to a meeting. The situation and plight of refugees is of exceptional importance to all of us. There can be no worse situation to be in than to lose all of your possessions, and sometimes all of your family, and then have to move to a country that is completely alien to you and set up a new life. It is not something that you would choose to do, but is forced upon you. I am certain that all of us in the Chamber would welcome any support that can be provided for people who are in this unfortunate situation. |
Carwyn Jones: Deallaf fod Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal wedi cytuno i gael cyfarfod. Mae sefyllfa ac amgylchiadau ffoaduriaid yn bwysig iawn inni i gyd. Nid oes sefyllfa waeth i fod ynddi na cholli eich holl eiddo, a’ch holl deulu weithiau, ac yna gorfod symud i wlad cwbl estron i fyw bywyd newydd. Nid yw’n rhywbeth y byddech yn dewis ei wneud. Mae’n rhywbeth a gaiff ei orfodi arnoch. Yr wyf yn sicr y byddai pob un ohonom yn y Siambr yn croesawu unrhyw gymorth y gellir ei ddarparu i’r bobl sydd yn y sefyllfa anffodus hon. |
I know that a number of Members have taken an active interest in Remploy factories in their own constituencies. I have been active, as has Janice Gregory, as the constituency Member, in supporting the workers of the Remploy factory in Bridgend, which has had good news. However, as a campaign, it has, sadly, lacked the support of any Conservatives. |
Gwn i nifer o Aelodau gymryd diddordeb mawr yn ffatrïoedd Remploy yn eu hetholaethau. Yr wyf fi, yn ogystal â Janice Gregory, fel Aelod Cynulliad yr etholaeth, wedi bod yn cefnogi gweithwyr ffatri Remploy ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael newyddion da. Fodd bynnag, nid yw’r ymgyrch wedi cael cefnogaeth unrhyw Geidwadwr, yn anffodus. |
Nick Bourne: I often agree with the Counsel General on legal issues, but very rarely on political ones. However, for once, I am in agreement with him with regard to his remarks to the effect that it is fortunate that he is not responsible for Conservative Party policy. On that, at least, I think we can agree. |
Nick Bourne: Yr wyf yn aml yn cytuno â’r Cwnsler Cyffredinol ar faterion cyfreithiol, ond anaml iawn y cytunaf ag ef ar faterion gwleidyddol. Fodd bynnag, am unwaith, cytunaf â’i sylwadau ynghylch y ffaith ei bod yn dda o beth nad ef sy’n gyfrifol am bolisi’r Blaid Geidwadol. Credaf y gallwn gytuno ar hynny, o leiaf. |
I have two specific questions for him. The first relates to the liquefied natural gas pipeline. I have written to the relevant Minister at Westminster, and, although I appreciate that this is not a devolved issue, it raises concerns in devolved areas, relating to planning and safety. It is important that we have a statement on aspects of the safety concerns that the Counsel General has touched upon. |
Mae gennyf ddau gwestiwn penodol iddo. Mae’r cyntaf yn ymwneud â’r biblinell nwy naturiol hylifedig. Yr wyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog perthnasol yn San Steffan, ac, er fy mod yn gwerthfawrogi nad yw hwn yn fater datganoledig, cwyd bryderon mewn meysydd datganoledig, o ran cynllunio a diogelwch. Mae’n bwysig ein bod yn cael datganiad am agweddau ar y pryderon ynglŷn â diogelwch y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi sôn amdanynt. |
The second issue that I would like to raise, which cuts across Westminster and Assembly responsibilities, is that of post offices. Although primary responsibility remains with Westminster, it featured in the 'One Wales’ document and in 'The All-Wales Accord’. He will know that the first cull of post offices has now been announced in the south-east of England—and I apologise to the First Minister for making comparisons with England, but they are sometimes appropriate—and it would be appropriate for the Assembly Government to give its united view on the concerns that we all have about the post office closure programme. Will he consider bringing something forward in Government time, given that the matter cuts across issues for the entire Assembly? I think that we could send a united message about the prospect of massive post office closures in Wales, which we know will be forthcoming unless we take some serious action to avert it. |
Yr ail fater yr hoffwn ei godi, sy’n gysylltiedig â chyfrifoldebau San Steffan a’r Cynulliad ill dau, yw swyddfeydd post. Er mai San Steffan sy’n ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb, sonnir amdano yn 'Cymru’n Un’ ac yng 'Nghytundeb Cymru Gyfan’. Gŵyr i’r cynllun cyntaf i gau swyddfeydd post gael ei gyhoeddi yn ne-ddwyrain Lloegr—ac ymddiheuraf i’r Prif Weinidog am wneud cymariaethau â Lloegr, ond weithiau mae hynny’n briodol—a byddai’n briodol i Lywodraeth y Cynulliad roi ei barn unedig am y pryderon sydd gan bob un ohonom ynghylch y rhaglen i gau swyddfeydd post. A wnaiff ystyried cyflwyno rhywbeth yn amser y Llywodraeth, a chofio bod y mater yn berthnasol i’r Cynulliad cyfan? Credaf y gallem anfon neges unedig ynghylch y posibilrwydd o raglen enfawr i gau swyddfeydd post yng Nghymru, rhaglen y mae pob un ohonom yn gwybod y caiff ei gwireddu oni chymerwn gamau mawr i’w hosgoi. |
Carwyn Jones: On LNG, the Minister for Environment, Sustainability and Housing, Jane Davidson, has just indicated that she is prepared to provide a written statement to Members, which I hope will go some way towards providing comfort, although we should remember that it is not a devolved issue. |
Carwyn Jones: O ran nwy naturiol hylifedig, mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson, newydd ddweud ei bod yn fodlon rhoi datganiad ysgrifenedig i Aelodau a fydd, gobeithio, yn mynd gam o’r ffordd tuag at roi tawelwch meddwl ichi, ond dylem gofio nad yw’n fater datganoledig serch hynny. |
| On post offices, time will not be made available between now and Christmas, because time is tight. There is nothing to stop Members of all parties from expressing their views with regard to post offices. I know that today’s announcement does not affect Wales; it relates to the south-east of England and Yorkshire, if I remember rightly. There have been numerous debates in the past in which Members have expressed their views in support of post offices, and Members are free to continue doing that. | O ran swyddfeydd post, ni fydd amser yn cael ei neilltuo rhwng nawr a’r Nadolig, gan fod amser yn brin. Nid oes dim i atal Aelodau o bob plaid rhag mynegi eu barn ynghylch swyddfeydd post. Gwn nad yw’r cyhoeddiad heddiw yn effeithio ar Gymru; mae’n ymwneud â de-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog, os cofiaf yn iawn. Cafwyd nifer o ddadleuon yn y gorffennol lle y mae Aelodau wedi datgan eu cefnogaeth i swyddfeydd post, ac mae croeso i Aelodau barhau i wneud hynny. |
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae’r Llywodraeth yn mynd i’r afael â rhaglen uchelgeisiol ar gyfer meithrin cenedl gadarn a hyderus, rhaglen fydd yn creu ffyniant a swyddi mewn cymunedau byw yn ein cenedl. Mae trafnidiaeth yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r weledigaeth hon, ac ar gyfer ein helpu i feithrin 'Cymru’n Un’. |
The Deputy First Minister and Minister for the Economy and Transport (Ieuan Wyn Jones): The Government is taking forward an ambitious programme to build a strong and confident nation, a programme that will create prosperity and jobs in the vibrant communities of our nation. Transport is essential to achieving that vision and in helping us to progress 'One Wales’. |
Un o’n prif flaenoriaethau dros y pedair blynedd nesaf fydd gwella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru. Yr wyf yn awyddus i ddatblygu’r rhwydwaith mewn ffordd a fydd yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng ein hamcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn mabwysiadu dull sy’n cydnabod anghenion penodol rhannau gwahanol o Gymru, boed yn gymunedau gwledig anghysbell neu’n ganolfannau dinesig. |
One of our main priorities over the next four years will be to improve transport links within Wales. I am eager to develop the network in such a way as to strike the right balance between our economic, social and environmental objectives. At the same time, it is essential that we adopt an approach that recognises the distinctive needs of different parts of Wales, whether they are remote rural communities or urban centres. |
Yn ystod oes y Cynulliad hwn, byddwn yn gwario oddeutu £350 miliwn ar wella rhwydwaith y cefnffyrdd. Ar hyn o bryd, yr wyf yn adolygu amserlenni’r cynlluniau sydd ar y gweill ac, o gynllunio ein rhaglenni yn fwy gofalus, yr wyf yn hyderus y bydd ein buddsoddiad i wella’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de lawer yn fwy na’r ymrwymiad o £50 miliwn a nodwyd yn 'Cymru’n Un’. Byddaf yn cyhoeddi’r manylion yn fuan, a byddant yn cynnwys gwella amseroedd teithio, diogelwch a hygyrchedd. |
Over the life of this Assembly, we will be spending some £350 million to improve the trunk road network. I am currently reviewing the timetable for planned schemes and, as a result of firmer programming, I am confident that our investment in north-south links will significantly exceed the commitment of £50 million outlined in 'One Wales’. I will be announcing the details in due course, but they will include enhancements to improve journey times, safety and accessibility. |
3.20 p.m. |
|
We are also assessing the scope for further improvements to north-south travel by rail. Timetable improvements will be introduced in December 2008, and we are working with our partners to investigate further possible enhancements. In addition, I have asked my officials to investigate the feasibility of a new fast service, including business-class facilities, which would operate southbound in the morning and northbound in the evening. These enhancements will complement the north-south air service, which has been very successfully patronised since its inception in May. |
Yr ydym hefyd wrthi’n pwyso a mesur y posibilrwydd o wella ymhellach y rhwydwaith rheilffyrdd rhwng y Gogledd a’r De. Bydd gwelliannau i amserlenni’n cael eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2008 ac yr ydym yn cydweithio â’n partneriaid er mwyn ystyried gwelliannau eraill posibl. Yr wyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion ymchwilio i weld pa mor ymarferol fyddai cynnal gwasanaeth newydd cyflym, gan gynnwys cyfleusterau dosbarth busnes, i deithio i’r De yn y bore ac i ddychwelyd i’r Gogledd gyda’r nos. Bydd y gwelliannau hyn yn cyd-fynd â’r gwasanaeth awyr rhwng y Gogledd a’r De, sydd wedi’i ddefnyddio’n helaeth ers ei gychwyn ym mis Mai. |
We recognise the importance of the east-west trans-European corridors across north and south Wales. We will therefore be seeking to take forward strategic capacity enhancements, addressing pinch-points and improving resilience in both corridors. We will also be improving surface access to our major ports and airports. We are also keen to exploit the full potential of our rail network, with enhancements to the Cambrian and Valleys lines and, by the end of the year, the restoration of passenger services on the Ebbw valley line. |
Yr ydym yn cydnabod pwysigrwydd y coridorau traws-Ewropeaidd o’r Dwyrain i’r Gorllewin yn y Gogledd a’r De. Felly, byddwn yn mynd ati i wella capasiti’r coridorau hyn mewn modd strategol, gan fynd i’r afael â mannau sy’n broblem a chan wella gallu’r ddau goridor i ymdopi â phwysau anarferol. Byddwn hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r ffyrdd i gyrraedd ein prif borthladdoedd a meysydd awyr. Yr ydym hefyd yn awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio ein rhwydwaith trenau i’r eithaf, gyda gwelliannau i reilffordd Cambria a rheilffyrdd y Cymoedd, ac, erbyn diwedd y flwyddyn, bydd gwasanaethau i deithwyr yn ailddechrau ar linell Glyn Ebwy. |
We are working to put in place an enhanced TrawsCambria long-distance coach service, by developing new routes and raising service standards. This will provide a cohesive, high quality and sustainable network that will act as an exemplar and help to change perceptions of what public transport should be. Reliable, frequent, fast, comfortable and safe services will be provided by a high-quality, low-carbon vehicle fleet. Interchanges will be upgraded and the network will be fully integrated with the railways, including through-ticketing, so that passengers can enjoy seamless journeys throughout Wales. I am pleased to say that details will be announced early next year. |
Yr ydym wrthi’n ceisio sefydlu gwasanaeth bws TrawsCambria newydd a fydd yn cynnig teithiau pell, drwy ddatblygu llwybrau newydd a thrwy wella safonau’r gwasanaeth. Bydd y gwaith hwn yn creu rhwydwaith sydd wedi’i gydlynu, sy’n gynaliadwy ac sydd o’r radd flaenaf. Bydd yn enghraifft o arfer da a dylai helpu i newid canfyddiad pobl o’r hyn y gellir ei ddisgwyl gan wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd fflyd o gerbydau carbon isel o’r radd flaenaf yn darparu gwasanaethau dibynadwy, rheolaidd, cyflym, cyfforddus a diogel. Caiff y cyfnewidfeydd eu huwchraddio a chaiff y rhwydwaith ei integreiddio’n llwyr â’r rheilffyrdd, gan gynnwys tocynnau integredig, fel y gall teithwyr fwynhau teithiau di-dor ledled Cymru. Yr wyf yn falch o allu dweud y cyhoeddir y manylion yn gynnar y flwyddyn nesaf. |
Yr ydym hefyd yn cydweithio’n agos â’r consortia trafnidiaeth rhanbarthol ac ag awdurdodau lleol er mwyn datblygu trafnidiaeth leol integredig. Yr ydym yn cymryd camau i sicrhau bod gennym fframwaith priodol a fydd yn ei gwneud yn haws i ddarparu gwasanaethau bws gwell a thrafnidiaeth gymunedol well, ac yn haws i ddatblygu cyfnewidfeydd o’r radd flaenaf. Daw rhaglen newydd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau i rym o fis Ebrill, a bydd yn helpu i wella diogelwch ar y ffyrdd, ac yn datblygu cysylltiadau cerdded a beicio i ysbytai, safleoedd hamdden a manwerthu a hefyd i ysgolion a cholegau. |
We are working closely with the regional transport consortia and local authorities to develop integrated local transport. We are taking steps to ensure that we have the right framework to facilitate improved bus and community transport services and to develop high quality interchanges. A new Safe Routes in Communities programme will be operational from April, helping to improve road safety and develop walking and cycling links to hospitals, leisure and retail sites as well as to schools and colleges. |
Wrth fynd i’r afael â thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yr wyf yn awyddus i wrando ar lais y teithiwr. Byddaf yn ymgynghori yn fuan ar gynigion i sefydlu pwyllgor newydd ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y pwyllgor wedi’i sefydlu ymhen blwyddyn. Mae gwella diogelwch teithwyr yn bwysig iawn i ni, a byddaf yn gofyn am gyngor cynnar ar y mater hwn. |
I am keen to ensure that the passenger has a real voice in taking forward public transport in Wales. I will be consulting shortly on proposals for a new public transport users’ committee, which will be in place within a year. Improving passenger safety is very important to us, and I will be asking for early advice on this issue. |
Yr wyf yn ymwybodol o’r angen i ddatblygu ein rhwydwaith trafnidiaeth er mwyn hwyluso’r broses o gludo nwyddau yn ogystal â chludo teithwyr. Yfory, byddaf yn lansio ymgynghoriad ar strategaeth cludo nwyddau Cymru a fydd yn anelu at hyrwyddo system trafnidiaeth a fydd yn cludo nwyddau yn effeithiol, yn effeithlon, ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Bydd hefyd yn rhoi hwb i’n heconomi pa le bynnag y mae’n tyfu. Mae creu rhwydwaith modern ar gyfer cludo nwyddau yn gyson ag amcanion 'Cymru’n Un’, yn gyson â gwneud Cymru yn lle deniadol ar gyfer busnes, ac yn gyson â bodloni ein hamcanion amgylcheddol. |
I am conscious of the need to develop our transport network to facilitate the movement of freight as well as people. Tomorrow, I will be launching a consultation on the Welsh freight strategy, which aims to promote an effective and efficient freight transport system, which will also be environmentally sustainable. It will also support our economy in growth areas. Creating a modern freight network is in keeping with the objectives of 'One Wales’, in keeping with making Wales an attractive place in which to do business, and in keeping with meeting our environmental objectives. |
Yr ydym hefyd yn sefydlu’r fframwaith mwyaf priodol i’n galluogi i roi ar waith ein gweledigaeth o ran trafnidiaeth. Byddaf yn cyhoeddi fersiwn derfynol strategaeth drafnidiaeth Cymru yn ystod y misoedd nesaf. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyhoeddi’r cynllun trafnidiaeth cenedlaethol a fydd yn amlinellu polisïau a rhaglenni manwl. Mae’r consortia trafnidiaeth rhanbarthol hefyd yn datblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol er mwyn rhoi’r strategaeth ar waith yn lleol ac yn rhanbarthol. |
We are also putting in place the right framework to allow us to deliver our vision for transport. I will be publishing the final Wales transport strategy in the coming months, to be followed next year by a national transport plan, setting out detailed policies and programmes. In addition, the regional transport consortia are developing regional transport plans to implement the strategy at the local and regional level. |
The new convergence programme will facilitate the delivery of the strategy, with more than €200 million earmarked for sustainable transport projects. I am pleased to say that that is twice the level of resources that were available under Objective 1. |
Bydd y rhaglen cydgyfeirio newydd yn hwyluso’r broses o gyflawni’r strategaeth, ac mae mwy na €200 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer prosiectau trafnidiaeth gynaliadwy. Yr wyf yn falch i ddweud bod hynny ddwywaith cymaint o adnoddau nag oedd ar gael o dan Amcan 1. |
I am conscious of the need to minimise the demands that the transport network places on the environment, so that transport can play its full part in the achievement of our overall carbon-reduction target. To that end, I am announcing today that we will be developing a Sustainable Travel Towns initiative. That will enable a number of towns to become exemplars of sustainable travel, with greatly enhanced opportunities for walking and cycling, improved public transport and better travel planning. I will be working with each regional transport consortium to select and then transform a suitable town in each region into a model of sustainable transport. This will be a first step towards transforming transport across Wales. |
Yr wyf yn ymwybodol o’r angen i leihau’r pwysau y mae’r rhwydwaith trafnidiaeth yn ei roi ar yr amgylchedd, er mwyn i drafnidiaeth chwarae rhan lawn yn y broses o gyflawni ein targed cyffredinol ar gyfer gostwng carbon. I’r perwyl hwnnw, cyhoeddaf heddiw y byddwn yn datblygu menter Trefi Teithio Cynaliadwy. Bydd hynny’n galluogi nifer o drefi i ddod yn batrwm teithio cynaliadwy, gyda gwell cyfleoedd i gerdded a seiclo, gwell trafnidiaeth gyhoeddus a gwell cynllunio ar gyfer teithio. Byddaf yn gweithio gyda phob consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol i ddethol tref addas ym mhob rhanbarth ac yna ei thrawsnewid yn fodel o drafnidiaeth gynaliadwy. Dyma’r cam cyntaf o ran trawsnewid trafnidiaeth ledled Cymru. |
To conclude, the Government is fully committed to creating a transport network that will make our economy more competitive, and will bring the people of our nation closer together. We want to create a transport network that is fit for this century, coupled with a strategy that addresses the environmental and global challenges of the next. The next four years will be about connecting the communities of our country and putting into practice the political aspirations that form the backbone of 'One Wales’. |
I orffen, mae’r Llywodraeth yn gwbl ymrwymedig i greu rhwydwaith trafnidiaeth a fydd yn gwneud ein heconomi yn fwy cystadleuol, ac a fydd yn dod â phobl Cymru yn agosach at ei gilydd. Yr ydym am greu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y ganrif hon, ynghyd â strategaeth sy’n mynd i’r afael â heriau amgylcheddol a heriau byd-eang y ganrif nesaf. Yn ystod y pedair blynedd nesaf byddwn yn canolbwyntio ar gysylltu cymunedau Cymru â’i gilydd a rhoi’r dyheadau gwleidyddol sy’n asgwrn cefn 'Cymru’n Un’ ar waith yn ymarferol. |
Andrew R.T. Davies: Thank you, Minister, for that statement. I have been looking forward to this statement for the past few days, as I thought that our glass lectern would migrate to the back benches. That was just an aside. |
Andrew R.T. Davies: Diolch ichi, Weinidog, am y datganiad hwnnw. Yr wyf wedi bod yn edrych ymlaen at y datganiad hwn dros y dyddiau diwethaf, gan fy mod yn credu y byddai ein darllenfa wydr yn symud i’r meinciau cefn. Dim ond rhywbeth wrth fynd heibio oedd hynny. |
Transport is a critical element of any economy. I attended a briefing by Cardiff Chamber of Commerce on Friday, which was encouraging the notion that transport be seen as a key investment, not a cost. I think that we would all agree with that, across the Chamber. If we are to develop a united Wales—’One Wales’—we must have a fully functioning transport infrastructure, so that we all feel part of the same country. At the moment, there is a certain detachment, especially between the north and south, and I think that that must be regretted on all sides. I welcome the statement’s moves to address that issue. |
Mae trafnidiaeth yn elfen holl bwysig o unrhyw economi. Euthum i sesiwn friffio gan Siambr Fasnach Caerdydd ddydd Gwener, a oedd yn annog y syniad y dylid ystyried trafnidiaeth fel buddsoddiad allweddol, yn hytrach na chost. Credaf y byddem oll yn cytuno â hynny, ar draws y Siambr. Os ydym am ddatblygu Cymru unedig—’Cymru’n Un’—rhaid inni gael seilwaith trafnidiaeth sy’n gwbl weithredol, er mwyn inni oll deimlo’n rhan o’r un wlad. Ar hyn o bryd, mae rhywfaint o wahaniad, yn arbennig rhwng y Gogledd a’r De, a chredaf fod pawb yn gresynu at hynny. Croesawaf ymdrech y datganiad i fynd i’r afael â hynny. |
I am interested in knowing more about the trunk road spend. The £350 million is obviously a coming together of all of the spend, and, if you break it down to a yearly spend, you will find that it works out at around only £80 million to £85 million. Given the costs of developing new trunk roads and bringing ideas to fruition, that amount will, unfortunately, not be enough to realise many of the aspirations of many communities across Wales. |
Mae diddordeb gennyf mewn gwybod rhagor am y gwariant ar gefnffyrdd. Mae’n amlwg mai cyfuniad o’r holl wariant yw’r £350 miliwn, ac, os rhannwch hynny’n wariant blynyddol, fe welwch mai dim ond rhwng £80 miliwn ac £85 miliwn y flwyddyn ydyw. A chofio costau datblygu cefnffyrdd newydd a gwireddu syniadau, yn anffodus, ni fydd y swm hwnnw’n ddigon i wireddu llawer o ddyheadau nifer o gymunedau ledled Cymru. |
You alluded to the fact that you hope to be able to increase the £50 million mentioned in the 'One Wales’ document. Could you give us a feel for, or a sense of, how much you are likely to be able to increase it by, and what sort of real measures you will be able to implement, using that money, to improve the A470 and the north-south links? In many places, sadly, the A470 is nothing but a dirt track, once you go north of Merthyr Tydfil. It is very poor, Minister. I have used it—[ASSEMBLY MEMBERS: 'Rubbish.’] It is. If you talk to the people of Rhayader and many other people, you will learn that it is not fit for purpose. |
Cyfeiriasoch at y ffaith eich bod yn gobeithio gallu cynyddu’r £50 miliwn y sonnir amdano yn y ddogfen 'Cymru’n Un’. A allech roi amcan, neu ryw syniad, inni o faint tebygol y cynnydd, a pha fath o fesurau gwirioneddol y byddwch yn gallu eu rhoi ar waith, drwy ddefnyddio’r arian hwnnw, i wella’r A470 a’r cysylltiadau rhwng y De a’r Gogledd? Mewn rhai ardaloedd, yn anffodus, nid yw’r A470 fawr mwy na llwybr trol, wedi i chi fynd i’r gogledd o Ferthyr Tudful. Mae’n wael iawn, Weinidog. Yr wyf wedi ei defnyddio—[AELODAU’R CYNULLIAD: 'Nonsens.’] Mae’n wir. Os siaradwch â phobl Rhaeadr a llawer o bobl eraill, fe glywch nad yw’n ateb y gofyn. |
Moving on, we all have high aspirations for the rail network. In the Enterprise and Learning Committee meeting the other day, we heard that the 1,300 new rolling stock coaches that will be delivered by 2014 are, in essence, destined for the English rail network. There were lots of questions about how we will fund any new expansion in our rolling stock in Wales. If we are to aspire to new business links and rail links, rolling stock will be a critical part of the delivery of that. We need to know how we are going to fund those acquisitions |
Gan symud ymlaen, mae gan bob un ohonom ddyheadau mawr ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd. Yn y Pwyllgor Menter a Dysgu y diwrnod o’r blaen, clywsom mai rhwydwaith rheilffyrdd Lloegr fydd yn elwa o’r 1,300 o gerbydau newydd a gaiff eu darparu erbyn 2014. Yr oedd llawer o gwestiynau ynghylch sut y byddwn yn ariannu unrhyw gynlluniau i gynyddu nifer ein cerbydau yng Nghymru. Os ydym am sicrhau cysylltiadau busnes a chysylltiadau rheilffordd newydd, bydd cerbydau’n hanfodol er mwyn cyflawni hynny. |
3.30 p.m. |
|
We need to know how we are going to fund those acquisitions to acquire the rolling stock that will provide the vibrant rail network that we desperately need.
|
Mae angen inni wybod sut yr ydym yn mynd i gyllido’r caffaeliadau hynny er mwyn caffael y cerbydau a fydd yn darparu’r rhwydwaith rheilffyrdd ffyniannus y mae ei angen yn ddybryd arnom. |
Moving on, of links between the ports, Fishguard and Holyhead, and in particular the aspiration for the dualling of the A470, which was supposed to be done in the last Assembly, sadly, there is no mention. Given the tightness of the budget, I cannot see how that can be accommodated. While the statement addresses pinch points and increasing capacity, unless we get stuck into improvements to access to the ports, how can we develop a meaningful trans-European infrastructure that will help us to play our part in the European model? |
Gan symud ymlaen, nid oes cyfeiriad, yn anffodus, at gysylltiadau rhwng y porthladdoedd, Abergwaun a Chaergybi, nac ychwaith at y bwriad i ddeuoli’r A470, gwaith a oedd i fod i gael ei wneud yn ystod y Cynulliad diwethaf. Â chyn lleied o arian yn y gyllideb, ni allaf weld sut y gellir darparu ar gyfer hynny. Er bod y datganiad yn rhoi sylw i fannau cyfyng a sicrhau mwy o le, oni bai ein bod yn mynd ati o ddifrif i geisio gwella mynediad i’r porthladdoedd, sut mae modd inni ddatblygu seilwaith traws-Ewropeaidd defnyddiol a fydd yn ein helpu i chwarae’n rhan yn y model Ewropeaidd? |
I welcome the opportunity that the integration of ticketing offers, particularly with regard to buses, because many people are frustrated by the current situation. I draw your attention to the Oyster card system, which operates in London. That offers real benefits and could bring people back to using buses. There is nothing more frustrating than, despite having a ticket in hand, missing the bus, and having to wait an extra 30 to 45 minutes. A simple innovation could make transport by bus far more accessible to many people. Therefore, Minister, will you be looking at the Oyster card system that London has adopted? |
Yr wyf yn croesawu’r cyfle y mae integreiddio tocynnau’n ei gynnig, yn enwedig yng nghyswllt bysiau, oherwydd mae’r sefyllfa bresennol yn gwneud i lawer o bobl deimlo’n rhwystredig. Tynnaf eich sylw at system sy’n cael ei gweithredu yn Llundain, sef y system cerdyn Oyster. Mae’r system hon yn cynnig manteision gwirioneddol a gallai ddod â phobl yn ôl at y bysiau. Nid oes dim yn fwy rhwystredig na cholli’r bws, er bod gennych docyn yn eich llaw, a gorfod aros 30 neu 45 munud yn ychwanegol. Gallai system arloesol syml wneud teithio ar fws yn llawer mwy hygyrch i nifer o bobl. Felly, Weinidog, a fyddwch yn edrych ar y system cerdyn Oyster a ddefnyddir yn Llundain? |
A clear indication of the state of the transport system in Wales and in the United Kingdom is the fact that the first thing that young people want to do on turning 17 is to get behind the wheel of a car and learn how to drive. On the continent, there is a far more receptive view of public transport, and young people, in particular, embrace it. In your statement, you referred to access to schools and colleges. That is crucial in that we need to grasp the educational merit of that in relation to public transport for young people. Having a car is the aspiration, but there is an alternative, and if we break that cycle and get young people to look more to the European model than the American model, we really will be educating young people to embrace public transport rather than them being alienated from it. |
Mae’r ffaith mai’r peth cyntaf y mae pobl ifanc eisiau ei wneud ar ôl cael eu pen-blwydd yn 17 yw mynd at y llyw a dysgu sut i yrru car yn adewyrchiad clir o gyflwr y system drafnidiaeth yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Ceir agwedd lawer mwy ffafriol tuag at gludiant cyhoeddus ar y cyfandir, ac mae pobl ifanc, yn enwedig, yn barod iawn i’w ddefnyddio. Cyfeiriasoch, yn eich datganiad, at fynediad i ysgolion a cholegau. Mae hynny’n holl bwysig gan fod angen inni ddeall manteision addysgol hynny yng nghyswllt cludiant cyhoeddus i bobl ifanc. Cael car yw’r uchelgais, ond mae dewis arall, ac os gallwn dorri’r cylch hwnnw a chael pobl ifanc i edrych ar y model Ewropeaidd yn hytrach na’r model Americanaidd, byddwn yn addysgu pobl ifanc o ddifrif i groesawu cludant cyhoeddus yn hytrach na throi eu cefnau arno. |
On freight, if we are to increase capacity, then we desperately need to move freight off roads and on to rail. The statement does not, however, mention what increases we can expect in the rail network—Severn Junction is full at the moment, so how will we enable freight operators to make the transition from road to rail? It is one thing to say it, but another to do it. We desperately need to work on that, so that there is an alternative. Transport offers economic benefits to all areas, provided it is in place for people to use. |
O ran cludo nwyddau, os ydym am gludo mwy o nwyddau, yna mae angen dybryd inni symud nwyddau oddi ar y ffyrdd i’r rheilffyrdd. Nid yw’r datganiad, fodd bynnag, yn nodi pa fath o gynnydd y gallwn ei ddisgwyl yn y rhwydwaith rheilffyrdd—mae Cyffordd Hafren yn llawn ar hyn o bryd, felly sut y byddwn yn galluogi cwmnïau cludo nwyddau i newid o ddefnyddio’r ffordd i ddefnyddio’r rheilffordd? Haws dweud na gwneud. Mae gwir angen inni weithio ar hynny, fel y bydd dewis arall ar gael. Mae trafnidiaeth yn cynnig manteision economaidd i bob ardal, os gall pobl ddefnyddio’r system. |
The convergence programme funding of €200 million is welcome, although, again, it has been added together to sound like a big figure. Converted, that is £170 million, and will be provided over the seven years of the programme, I presume. Therefore, basically, that works out at £20 million a year. While any funding is welcome, we must get away from the headlines and see what we can actually achieve with the resources given to us. |
Mae €200 miliwn y rhaglen gydgyfeirio i’w groesawu, er ei fod, unwaith eto, wedi’i ddwyn ynghyd er mwyn rhoi’r argraff ei fod yn swm mawr. O’i drosi, mae hyn yn £170 miliwn, a chymeraf y bydd yn cael ei ddarparu yn ystod saith mlynedd y rhaglen. Felly, yn y bôn, mae hyn yn golygu £20 miliwn y flwyddyn. Er bod unrhyw gyllid i’w groesawu, rhaid inni symud oddi wrth y penawdau a gweld beth y gallwn ei gyflawni mewn gwirionedd â’r adnoddau a roddir inni. |
Sustainable town travel was a Conservative manifesto commitment in the last Assembly. |
Yr oedd teithio cynaliadwy mewn trefi yn un o’r addewidion ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad diwethaf. |
David Melding: It was a very good policy. |
David Melding: Yr oedd yn bolisi da iawn. |
Andrew R.T. Davies: So says the editor-in-chief. |
Andrew R.T. Davies: Meddai’r prif olygydd. |
While we welcome the initiative, we have reservations in that we proposed to use one town as a model, and we hoped not to be limited in our ambitions; we wanted it to work. Looking at it at the moment, it is a big agenda item, and I am interested in finding out how you intend it work across the regions instead of focusing on getting it right in a model town in the first instance and then rolling it out. Will you fund this with new money to ensure that it works, or is it just being funded from the existing pot? If you cannot provide the resources, local authorities will not be able to implement it. I have asked you about an integrated transport system in this Chamber many times, Minister. I highlighted Cardiff Gate as an example of the complete lack of an integrated transport system. I would very much welcome the success of this initiative, and so I hope that you will fund it and ensure that it works and does not fall by the wayside and turn people off. |
Er ein bod yn croesawu’r cynllun, mae gennym amheuon oherwydd ein bwriad ni oedd defnyddio un dref fel model, gan obeithio na fyddai unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn y dymunem ei wneud; yr oeddem am i’r cynllun weithio. O edrych arno yn awr, mae’n eitem bwysig ar yr agenda, a hoffwn wybod sut yr ydych yn bwriadu sicrhau y bydd y cynllun yn gweithio ar draws y rhanbarthau yn hytrach na chanolbwyntio ar gael pethau’n iawn mewn tref fodel i ddechrau ac yna’i roi ar waith fesul cam. A fyddwch yn cyllido hyn ag arian newydd er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio, ynteu a fydd yr arian yn dod o’r pot presennol? Oni allwch ddarparu’r adnoddau, ni fydd modd i awdurdodau lleol ei weithredu. Yr wyf wedi’ch holi am system drafnidiaeth integredig yn y Siambr hon sawl tro, Weinidog. Cyfeiriais at Borth Caerdydd fel enghraifft o ddiffyg system drafnidiaeth integredig o unrhyw fath. Byddwn yn falch iawn o weld y cynllun hwn yn llwyddo, ac yr wyf yn gobeithio felly y byddwch yn ei gyllido ac yn sicrhau ei fod yn gweithio ac nad yw’n methu’n gyfan gwbl ac yn gwneud i bobl golli diddordeb. |
I very much hope that the goals in the statement will be achieved. I want to work with you, and let us be positive about transport, as it has economic benefits. As a Minister new to the brief, you have the luxury of time, to a point, but Wales needs an integrated transport network that will keep us on a level playing field with the rest of Europe and the world. Business looks to transport as one of the first criteria before investing. I wish you well in your endeavours to deliver this brief; we will scrutinise them thoroughly. |
Yr wyf yn gobeithio’n fawr y caiff yr amcanion sydd yn y datganiad eu cyflawni. Mae arnaf eisiau gweithio gyda chi, a gadewch inni fod yn gadarnhaol ynglŷn â thrafnidiaeth, gan ei bod o fudd i’r economi. Fel Gweinidog sy’n newydd i’r brîff, caniateir rhywfaint o amser ichi, ond mae ar Gymru angen rhwydwaith trafnidiaeth integredig a fydd yn ein cadw ar yr un lefel â gweddill Ewrop a’r byd. Mae byd busnes yn edrych ar drafnidiaeth fel un o’r meini prawf cyntaf cyn buddsoddi. Dymunaf y gorau ichi â’ch ymdrechion i gyflawni’r brîff hwn; byddwn yn craffu ar eich gwaith yn ofalus. |
The Deputy First Minister: Thank you for what was mostly a positive response, which I welcome. You said that you would sort of work with us. You are right to stress the economic importance of transport, but, like us, you also stressed the need to develop more integrated transport schemes, and there are major environmental benefits to those. That is why I stressed in the earlier part of my statement the need to look at the economic, environmental and social impacts of travel across Wales. You said that it was important for us to ensure that this money is seen as an investment rather than as a cost; I will come to that in a second, but I support that view. If you invest in the transport network, that also improves the economy. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Diolch ichi am yr ymateb a oedd yn un cadarnhaol ar y cyfan. Mae’n ymateb yr wyf yn ei groesawu. Dywedasoch y byddech yn gweithio gyda ni i ryw raddau. Yr ydych yn llygad eich lle wrth nodi pwysigrwydd trafnidiaeth o safbwynt yr economi, ond yr ydych chwi, fel ninnau, wedi pwysleisio bod angen datblygu cynlluniau trafnidiaeth mwy integredig, ac mae manteision amgylcheddol mawr i’r rhain. Dyna pam y pwysleisiais yn rhan gyntaf fy natganiad bod angen edrych ar effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol teithio ledled Cymru. Dywedasoch ei bod yn bwysig inni sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei weld fel buddsoddiad yn hytrach na chost; deuaf at hynny mewn munud, ond yr wyf yn cefnogi’r farn honno. Os ydych yn buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth, mae hynny hefyd yn gwella’r economi. |
You said that this is only £80 million a year; I will come back to the investment aspect in a minute, but schemes take more than a year to come to fruition and therefore money is spent over two or perhaps three years to develop a scheme. I am confident that more than £50 million will be spent on north-south routes—which you welcomed as a way of uniting Wales—because we have looked carefully at what is available in our budget and we are satisfied that by perhaps looking at a more efficient way of working and taking a more strategic approach we can do that. You asked how much more it would take. That depends on two things: completing the work in the department and completing our discussions in the next budget round. |
Dywedasoch mai dim ond £80 miliwn y flwyddyn yw hyn; deuaf yn ôl at yr agwedd fuddsoddi mewn munud, ond mae cynlluniau’n cymryd mwy na blwyddyn i ddwyn ffrwyth ac felly mae arian yn cael ei wario dros ddwy neu dair blynedd efallai er mwyn datblygu cynllun. Yr wyf yn ffyddiog y bydd mwy na £50 miliwn yn cael ei wario ar ffyrdd rhwng y De a’r Gogledd—a groesawyd gennych fel ffordd o uno Cymru—oherwydd yr ydym wedi edrych yn ofalus ar yr hyn sydd ar gael yn ein cyllideb ac yr ydym yn fodlon y gallwn wneud hynny, drwy edrych efallai ar ffordd fwy effeithlon o weithio a mabwysiadu dull gweithredu mwy strategol. Gofynasoch faint mwy y byddai’n ei gymryd. Mae hynny’n dibynnu ar ddau beth: cwblhau’r gwaith yn yr adran a chwblhau’n trafodaethau yng nghylch nesaf y gyllideb. |
You mentioned the A470, but made an unfortunate slip in calling it a dirt track. It is a road for which I have called for improvements, but I would not quite put it in that category. In this context, it is not just the A470 that we are looking at, because there are other north-south routes that we need to look at strategically. When further announcements are made, you will see that there will be opportunities to develop other north-south roads. |
Cyfeiriasoch at yr A470, ond yr oedd ei galw’n llwybrau trol braidd yn anffodus. Yr wyf wedi galw am welliannau i’r ffordd hon, ond ni fyddwn yn ei gosod yn y categori hwnnw. Yn y cyd-destun hwn, nid yr A470 yw’r unig ffordd yr ydym yn edrych arni, oherwydd mae ffyrdd eraill rhwng y De a’r Gogledd y mae angen inni edrych yn strategol arnynt. Pan wneir rhagor o gyhoeddiadau, byddwch yn gweld y bydd cyfleoedd i ddatblygu ffyrdd eraill rhwng y De a’r Gogledd. |
You indicated the importance of the rail network, and it is important to think not just in terms of road, rail or coaches and buses, but in terms of integrated transport, and ensuring that we can work together. I am keen to continue my discussions with the train operators in Wales to ensure that we have the latest investment in rolling stock. I appreciate your point about that. |
Cyfeiriasoch at bwysigrwydd y rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae’n bwysig meddwl nid yn unig yn nhermau ffyrdd, rheilffyrdd neu goetsys a bysiau, ond hefyd yn nhermau trafnidiaeth integredig, a sicrhau y gallwn weithio gyda’n gilydd. Yr wyf yn awyddus i barhau â’m trafodaethau â’r cwmnïau trenau yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cael y buddsoddiad diweddaraf mewn cerbydau. Yr wyf yn gwerthfawrogi’ch pwynt ynglŷn â hynny. |
You are speaking to the converted when you talk about access to ports, because I know very well the importance of access to Holyhead, and I understand the importance of access to Fishguard. |
Yr ydych yn pregethu wrth y cadwedig wrth sôn am fynediad i borthladdoedd, oherwydd gwn yn dda pa mor bwysig yw mynediad i Gaergybi, ac yr wyf yn deall pwysigrwydd mynediad i Abergwaun. |
If I may introduce a discordant note for a second, you talked about how we can ensure that we have sufficient money for transport, but you in the Conservative Party cannot have it both ways. You announced recently that you would cut taxes, which means that at some point there will be a smaller Welsh block grant, which means less money for transport. We must accept that you cannot have more money and cut taxes at the same time. That is the only discordant note that I will sound, but it is worth reminding Andrew about that. |
Os caf godi nodyn croes am eiliad, buoch yn sôn sut y gallwn sicrhau bod gennym ddigon o arian ar gyfer trafnidiaeth, ond ni allwch chi yn y Blaid Geidwadol ei chael bob ffordd. Cyhoeddasoch yn ddiweddar y byddech yn gostwng trethi, sy’n golygu y bydd Cymru rywbryd neu’i gilydd yn cael grant bloc llai, ac mae hynny’n golygu llai o arian ar gyfer trafnidiaeth. Rhaid inni dderbyn na allwch gael mwy o arian a gostwng trethi yr un pryd. Dyna’r unig nodyn croes sydd gennyf, ond mae’n werth atgoffa Andrew ynglŷn â hynny. |
You talked about the need for integrated ticketing. That is important, and only this morning I spoke to one of the rail operators in Wales who also happens to operate a bus company in Wales under a different system—there are Arriva trains and Arriva buses. There is no reason why we cannot develop integrated ticketing in Wales. |
Buoch yn dweud bod angen tocynnau integredig. Mae hyn yn bwysig, ac yr oeddwn yn siarad y bore yma ag un o’r cwmnïau rheilffyrdd yng Nghymru sydd hefyd fel mae’n digwydd yn rhedeg cwmni bysiau yng Nghymru dan system wahanol—ceir trenau Arriva a bysiau Arriva. Nid oes rheswm pam na allwn ddatblygu tocynnau integredig yng Nghymru. |
The point that you made about public transport and young people is important. Having used the rail service between north and south Wales for many years, I know that many young people use it. Considerable numbers of young people use public transport, and it is the passenger experience that leads people to continue using public transport when they are in a job or when moving on. Unfortunately, some people’s experience of our public transport does not allow that. Young people have concessionary fares and then, when they have to pay the full fare as adults, they sometimes do not transfer to making continued use of public transport. |
Mae’r pwynt a wnaethoch ynglŷn â chludiant cyhoeddus a phobl ifanc yn un pwysig. Fel un sydd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth rheilffordd rhwng y De a’r Gogledd ers blynyddoedd lawer, gwn fod llawer o bobl ifanc yn ei ddefnyddio. Mae llawer iawn o bobl ifanc yn defnyddio cludiant cyhoeddus, a’r profiad hwn o gludiant cyhoeddus sy’n gwneud i deithwyr ddal i’w ddefnyddio pan fyddant mewn swydd neu pan fyddant yn symud ymlaen. Yn anffodus, nid yw profiad rhai pobl o gludiant cyhoeddus yn caniatáu hynny. Mae pobl ifanc yn cael tocynnau rhatach ac yna, pan fyddant yn gorfod talu’r pris llawn fel oedolion, maent weithiau’n rhoi’r gorau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. |
3.40 p.m. |
|
I passionately believe that we should be doing more to transfer more freight from road to rail. This is a difficult issue, because it is significantly expensive to address and I am sure that the Welsh Assembly Government cannot do it on its own; it has to be done in co-operation with other Governments in the United Kingdom. |
Yr wyf yn credu’n angerddol y dylem fod yn gwneud mwy o ymdrech i sicrhau bod mwy o nwyddau’n cael eu cludo ar y rheilffordd yn hytrach na’r ffyrdd. Mae hwn yn fater anodd, oherwydd mae angen llawer iawn o arian er mwyn rhoi sylw iddo ac yr wyf yn siŵr na all Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud hyn ar ei phen ei hun; rhaid mynd i’r afael â hyn ar y cyd â Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig. |
You mentioned European Union convergence funding. That will be a valuable tool for us. You mentioned the sums involved, but you have to remember that you can only draw down European convergence funds if you have match funding, and it is when you put the two sums together that you realise that you have a substantial sum at your disposal. |
Cyfeiriasoch at gyllid cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd. Bydd y cyllid hwn yn ddefnyddiol iawn inni. Cyfeiriasoch at y symiau cysylltiedig, ond rhaid ichi gofio na allwch ddefnyddio cyllid cydgyfeirio Ewropeaidd onid oes gennych arian cyfatebol, a dim ond pan fyddwch yn dod â’r ddau swm at ei gilydd yr ydych yn sylweddoli cymaint sydd gennych. |
I believe that I have dealt with most, if not all, of your points. If there are others that I have forgotten, I will write to you. |
Credaf fy mod wedi ymdrin â’r rhan fwyaf o’ch pwyntiau, os nad y cyfan. Os oes pwyntiau eraill yr wyf wedi’u hanghofio, byddaf yn ysgrifennu atoch. |
Christine Chapman: I welcome the statement, particularly the new safe routes in communities programme. However, transport for people with disabilities continues to be limited. Disability campaigners in my constituency tell me that certain days of the week are considered no-goers in terms of disabled people being able to leave their homes. We have taken steps forward with the accessible transport schemes, which are excellent, but they tend to be a little limited and there are practical problems such as a shortage of drivers—quite often they rely on volunteers. Will you ensure that the transport needs of people with disabilities remains a priority and, in order to achieve that, will you have regular discussions with the disability groups? |
Christine Chapman: Yr wyf yn croesawu’r datganiad, yn enwedig y rhaglen newydd sy’n ymwneud â llwybrau diogel mewn cymunedau. Fodd bynnag, mae problemau o hyd â thrafnidiaeth ar gyfer pobl sydd ag anableddau. Dywed ymgyrchwyr anabledd yn fy etholaeth wrthyf bod ambell ddiwrnod yn ystod yr wythnos pan na all pobl anabl hyd yn oed ystyried mynd o’u cartrefi. Yr ydym wedi gwneud cynnydd â’r cynlluniau cludiant hygyrch, sy’n wych, ond maent yn tueddu i fod braidd yn gyfyngedig ac ceir problemau ymarferol megis prinder gyrwyr—yn aml iawn maent yn dibynnu ar wirfoddolwyr. A wnewch sicrhau bod anghenion cludiant pobl sydd ag anableddau’n parhau’n flaenoriaeth ac, er mwyn gwneud hynny, a wnewch chi gynnal trafodaethau rheolaidd â’r grwpiau anabledd? |
The Deputy First Minister: You have drawn an important matter to our attention there. I attended a recent meeting of the Community Transport Association, which has an excellent record in the area that you mention and I was able to announce further funding for its pilot scheme for another year, which I think will be helpful, although I understand that it does not go all the way towards addressing your concerns. I am keen to see the development of more community transport facilities, because they are of particular help to groups with disabilities, people living in isolated rural areas and so on. I welcome your comments and I will take them back to officials and see what we can do to improve that aspect of transport. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Yr ydych wedi dwyn mater pwysig i’n sylw yma. Mynychais gyfarfod diweddar o’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yn y maes yr ydych yn cyfeirio ato a chefais gyhoeddi rhagor o arian ar gyfer ei chynllun peilot am flwyddyn arall, a fydd yn ddefnyddiol yn fy marn i, er fy mod yn deall nad yw’n rhoi sylw i’ch holl bryderon. Yr wyf yn awyddus i weld mwy o gyfleusterau cludiant cymunedol yn cael eu datblygu, oherwydd maent o gymorth mawr i grwpiau sydd ag anableddau, pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig diarffordd ac yn y blaen. Yr wyf yn croesawu’ch sylwadau a byddaf yn mynd â hwy yn ôl at y swyddogion ac yn gweld beth y gallwn ei wneud er mwyn gwella’r agwedd hon ar gludiant. |
Kirsty Williams: Thank you for the statement. It is said that you should not believe everything that you read in the paper or hear reported in the press. The headline this morning, as I drove down the A470, was that a new transport plan was to be unveiled in the Assembly this afternoon. I had high expectations of hearing exactly what improvements were going to be made. However, in your anxiety to say something, Minister, you have ended up saying very little. Your statement is full of 'details to come in due course’, 'assessing the scope’, more feasibility studies—on top of the numerous feasibility studies that the previous Minister carried out—and details to be announced next year. I guess, Eleanor, that you will be pushing that train for a little longer on your journeys from north Wales, because it seems to me that nothing is going to improve quickly around here. |
Kirsty Williams: Diolch ichi am y datganiad. Dywedir na ddylech gredu popeth a ddarllenwch yn y papur neu y clywch adroddiadau amdano yn y wasg. Y pwnc a oedd yn cael sylw y bore yma, wrth imi yrru i lawr yr A470, oedd y cynllun trafnidiaeth newydd a fyddai’n cael ei gyhoeddi yn y Cynulliad y prynhawn yma. Yr oeddwn yn edrych ymlaen i glywed pa welliannau’n union fyddai’n cael eu gwneud. Fodd bynnag, yn eich awydd i ddweud rhywbeth, Weinidog, nid ydych mewn gwirionedd wedi dweud fawr ddim. Mae eich datganiad yn llawn 'manylion i ddod maes o law’, 'asesu cwmpas’, mwy o astudiaethau dichonoldeb—yn ychwanegol i’r astudiaethau dichonoldeb niferus a wnaethpwyd gan y Gweinidog blaenorol—a manylion i’w cyhoeddi y flwyddyn nesaf. Tybiaf, Eleanor, y byddwch yn gwthio’r cerbyd hwnnw am beth amser eto ar eich teithiau o’r Gogledd, oherwydd mae’n ymddangos i mi na fydd dim yn gwella’n sydyn yn y fan hon. |
| In your statement, you have done nothing to address the concerns that I have that the Welsh Assembly Government’s transport budget continues to be dominated by expenditure on roads at the very time that your Government’s stated aim is to cut carbon emissions. It is difficult to see how you intend to achieve those cuts in carbon emissions without significant modal shift in Wales. You will not need to be told that car journeys comprise over 70 per cent of journeys carried out in the UK and that emissions from those car journeys are growing ever more, and account for some 85 per cent of the carbon emissions that can be related to transport as a whole. | Nid ydych wedi gwneud dim, yn eich datganiad, i roi sylw i’r pryder sydd gennyf fi bod cyllideb drafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dal i ymwneud â ffyrdd yn bennaf ar yr union adeg y mae’ch Llywodraeth chi’n datgan mai ei nod yw lleihau gollyngiadau carbon. Mae’n anodd gweld sut y bwriadwch leihau’r gollyngiadau carbon hyn heb newid moddol sylweddol yng Nghymru. Ni fydd angen dweud wrthych mai siwrneiau ceir yw dros 70 y cant o’r siwrneiau a wneir yn y DU a bod gollyngiadau o ganlyniad i’r siwrneiau ceir hynny’n cynyddu o hyd, ac yn gyfrifol am oddeutu 85 y cant o’r gollyngiadau carbon y gellir eu cysylltu â thrafnidiaeth yn gyffredinol. |
Therefore, unless we see a shift in the priorities of your Government, away from non-sustainable forms of transport, I do not see how you will meet your targets. The preoccupation with road-building in your statement worries me greatly. |
Felly, oni welwn newid ym mlaenoriaethau’ch Llywodraeth, oddi wrth fathau o drafnidiaeth sy’n anghynaliadwy, nid wyf yn gweld sut y byddwch yn cyrraedd eich targedau. Mae’r pwyslais mawr ar adeiladu ffyrdd sydd yn eich datganiad yn fy mhoeni’n fawr. |
I am grateful to Andrew R.T. Davies for the wonderful tourism advert that he gave for my constituency. I assure you, Andrew, that although the trunk roads are not great in my constituency, we have heard of tarmac in Rhayader, and we have something better than dirt tracks running through the constituency. Obviously, the continuing constraints of the A470 are a concern. Will the Minister give an assurance that, before he undertakes any significant road-building project that might eventually be announced as a result of this statement, he will carry out an assessment of those projects so that he can judge the impact that they will have on the community? Will he also give an assurance that he will prioritise road-building improvements on the A470, and other trunk roads in Wales, to alleviate community concerns? There are many communities that are cut in half by a trunk road, and they have concerns about the effect that that has on their daily lives. We should not ignore those concerns—we should look to work with those communities to alleviate the problem. |
Yr wyf yn ddiolchgar i Andrew R.T. Davies am y cyhoeddusrwydd mawr a roddodd i dwristiaeth yn fy etholaeth. Yr wyf yn eich sicrhau, Andrew, er nad yw’r cefnffyrdd yn fy etholaeth yn rhai gwych, ein bod wedi clywed am darmac yn Rhaeadr Gwy, a bod gennym rywbeth gwell na llwybrau trol yn rhedeg drwy’r etholaeth. Wrth gwrs, mae’r cyfyngiadau a geir o hyd o ran yr A470 yn peri pryder. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd yn asesu unrhyw brosiectau adeiladu ffyrdd sylweddol y gellid eu cyhoeddi yn y pen draw o ganlyniad i’r datganiad hwn cyn ymgymryd â hwy, fel y gall farnu ynghylch eu heffaith ar y gymuned? A wnaiff roi sicrwydd hefyd y bydd yn rhoi blaenoriaeth i welliannau o ran adeiladu ffyrdd ar yr A470, a chefnffyrdd eraill yng Nghymru, er mwyn lleddfu pryderon cymunedau? Mae llawer o gymunedau wedi’u torri yn eu hanner gan gefnffordd, ac mae ganddynt bryderon ynghylch effaith hynny ar eu bywydau pob dydd. Ni ddylem ddiystyru’r pryderon hynny—dylem geisio gweithio gyda’r cymunedau hynny i liniaru’r broblem. |
Moving on to some of the other issues that you addressed, you mentioned the revised timing of the trunk road scheme. You have carried out that review—what is the result? Are the planned schemes to go ahead at the timescales already stated? Are they to be brought forward? Are they to be pushed back? Do you intend to revisit some of the issues that were brought forward in the Babtie Group report, or indeed the 2012 transport plan? I would be grateful for more detail. |
Gan symud ymlaen at rai o’r materion eraill y cyfeiriasoch atynt, soniasoch am adolygu amserlen y cynllun cefnffyrdd. Yr ydych wedi cwblhau’r adolygiad hwnnw—beth yw’r canlyniad? A fydd y cynlluniau arfaethedig yn mynd ymlaen yn ôl yr amserlenni sydd wedi’u datgan eisoes? A ddechreuir arnynt yn gynt? A gânt eu gohirio? A ydych yn bwriadu ailystyried rhai o’r materion a godwyd yn adroddiad Grŵp Babtie, neu, yn wir, yng nghynllun trafnidiaeth 2012? Byddwn yn ddiolchgar o gael mwy o fanylion. |
Those people in south-east Wales who have concerns about the M4 corridor, and indeed those people in north Wales, who have concerns about the superhighway in Deeside, can take little comfort from the statement today. Could you confirm that, as Minister, it is your policy to go ahead with both the superhighway in Deeside and the M4 improvement in Newport? I am sure that residents and environmental campaigners will be interested to hear what you say about that. |
Ychydig o gysur a gaiff y rhai yn y De-ddwyrain sydd â phryderon ynghylch coridor yr M4, ac yn wir y rhai hynny yn y Gogledd sydd â phryderon ynghylch y briffordd fawr yng Nglannau Dyfrdwy, o’r datganiad heddiw. A allech gadarnhau ei fod yn bolisi gennych, fel Gweinidog, fwrw ymlaen â’r briffordd fawr yng Nglannau Dyfrdwy a’r gwelliant i’r M4 yng Nghasnewydd? Yr wyf yn siŵr y bydd o ddiddordeb i breswylwyr ac ymgyrchwyr amgylcheddol glywed beth a ddywedwch am hynny. |
I will leave issues about north-south train links to my colleague Eleanor Burnham, who is far more qualified than me to comment on them. However, I note that, in the statement, you manage to talk about north-south train links, Valleys train links, and the Cambrian line—all of which I welcome—but you singularly fail to mention any improvements to the Heart of Wales line. It seems that that is to be the forgotten line in your statement here today, and that we cannot expect any of the improvements that are long-wished-for in the communities served by that line. It has seen a huge increase in passenger numbers since the introduction of the concessionary fares scheme, and it is a service in need of improvement. |
Gadawaf faterion sy’n ymwneud â chysylltiadau trên rhwng y de a’r gogledd i’m cyd-Aelod Eleanor Burnham, sy’n llawer mwy cymwys na mi i wneud sylw amdanynt. Er hynny, yr wyf yn nodi, yn y datganiad, eich bod yn gweld eich ffordd yn glir i sôn am gysylltiadau trên rhwng y de a’r gogledd, cysylltiadau trên yn y Cymoedd, a rheilffordd y Cambrian—ac yr wyf yn croesawu pob un o’r rhai hynny—ond eich bod yn methu’n lân â sôn am unrhyw welliannau i reilffordd Calon Cymru. Mae’n ymddangos mai honno yw’r rheilffordd sydd i’w hanghofio yn eich datganiad yma heddiw, ac na allwn ddisgwyl dim o’r gwelliannau y mae’r cymunedau a wasanaethir gan y rheilffordd honno wedi dyheu’n hir amdanynt. Bu cynnydd mawr yn niferoedd y teithwyr ar y rheilffordd honno ers cyflwyno’r cynllun tocynnau rhad, ac mae’n wasanaeth y mae angen ei wella. |
TrawsCambria has indeed been a fantastic success, and has truly transformed the ability of many of my constituents to get around Brecon and Radnorshire on the bus. We should acknowledge successes—TrawsCambria has been a huge success, and I hope that that will continue. I welcome your announcement that you will look to improve that service still further through better ticketing and connections, more appropriate waiting facilities for passengers, as well as bus stops near railway stations, which continues to be an issue in some parts of Wales. I also welcome your commitment to strengthening the voice of passengers, and I look forward to seeing how that develops. |
Mae TrawsCambria wedi bod yn llwyddiant ysgubol, yn wir, ac mae wedi peri newid gwirioneddol o ran gallu llawer o’m hetholwyr i fynd o gwmpas Brycheiniog a sir Faesyfed ar y bws. Dylem gydnabod llwyddiannau—bu TrawsCambria yn llwyddiant aruthrol, ac yr wyf yn gobeithio y bydd hwnnw’n parhau. Croesawaf eich cyhoeddiad y byddwch yn ceisio gwella’r gwasanaeth hwnnw eto byth drwy well trefniadau ar gyfer tocynnau a chysylltiadau, cyfleusterau aros mwy priodol i deithwyr, yn ogystal â safleoedd bws ger gorsafoedd rheilffyrdd, sy’n fater sy’n dal i godi mewn rhai rhannau o Gymru. Yr wyf hefyd yn croesawu’ch ymrwymiad i roi mwy o lais i deithwyr, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd hynny’n datblygu. |
You talked about the national transport plan, and its regional counterparts. They are already hugely delayed, and, in evidence to the scrutiny committee last week, all the transport consortia said that they were greatly inhibited in their ability to deliver on their regional transport plans because of a lack of capacity and resources. Their budgets were slashed by the previous Minister, within the financial year, and they simply cannot do what is being asked of them with the money that is currently available to them. I would be grateful if you could explain whether you intend to increase the budget for the regional transport consortia, because they are struggling at present. |
Soniasoch am y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol, a’r cynlluniau rhanbarthol sy’n cyfateb iddo. Maent yn hwyr iawn yn barod, ac, mewn tystiolaeth i’r pwyllgor craffu yr wythnos diwethaf, dywedodd yr holl gonsortia trafnidiaeth fod cyfyngiadau mawr ar eu gallu i fynd â’r maen i’r wal o ran eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau. Torrwyd eu cyllidebau gan y Gweinidog blaenorol, ac ni allant wneud yr hyn a ofynnir ganddynt â’r arian sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar os gallech egluro a ydych yn bwriadu cynyddu’r gyllideb i’r consortia trafnidiaeth rhanbarthol, gan eu bod yn ei chael yn anodd ar hyn o bryd. |
3.50 p.m. |
|
I welcome your commitments on freight. Getting more freight off our roads and onto other transport methods has long been argued for by the Liberal Democrats. I am concerned, Minister, with your statement on European funding. In the previous Assembly, you and many on your benches and many on this side of the Chamber, expressed repeated concerns to the previous Minister about the ability to use the new European funding for transport infrastructure projects. Time and again we were told that that was not the priority of the European Union, and that our room for manoeuvre on projects of this kind would be severely limited as it did not seem to fit the European Union’s wish for this money to be spent on the Lisbon agenda. Therefore, I am concerned that you are placing such great store on the ability to use convergence funds in this way, when we know that the European Union is not particularly in favour of it and when we know that it will not find favour with the EU. The opportunities to use those funds should be looked at with some scepticism, given what we have previously heard and, indeed, given your questions to the previous Minister. |
Croesawaf eich ymrwymiadau ynghylch cludo nwyddau. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dadlau’n hir o blaid cludo mwy o nwyddau mewn mathau eraill o drafnidiaeth yn hytrach na ffyrdd. Yr wyf yn bryderus, Weinidog, ynghylch eich datganiad am gyllid Ewropeaidd. Yn y Cynulliad blaenorol, mynegwyd pryder dro ar ôl tro gennych chi a chan lawer ar eich meinciau chi a chan lawer ar yr ochr hon i’r Siambr wrth y Gweinidog blaenorol am y gallu i ddefnyddio’r cyllid Ewropeaidd newydd ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth. Dywedwyd wrthym dro ar ôl tro nad oedd hynny’n flaenoriaeth gan yr Undeb Ewropeaidd, ac na fyddai gennym fawr o le i symud ar brosiectau o’r math hwn gan ei bod yn ymddangos nad oedd yn cyd-fynd â dymuniad yr Undeb Ewropeaidd am i’r arian hwn gael ei wario ar agenda Lisbon. Felly, yr wyf yn bryderus eich bod yn rhoi cymaint o bwys ar y gallu i ddefnyddio cyllid cydgyfeirio fel hyn, a ninnau’n gwybod nad yw’r Undeb Ewropeaidd yn arbennig o gefnogol i hynny ac na fydd yn dderbyniol i’r UE. Dylid bod yn eithaf amheus ynghylch y cyfleoedd i ddefnyddio’r cyllid hwnnw, ac ystyried yr hyn a glywsom o’r blaen ac, yn wir, a chofio’ch cwestiynau chi i’r Gweinidog blaenorol. |
I welcome the announcement on sustainable transport towns. As you know, the Welsh Liberal Democrats campaigned in the last Assembly election on the issue of cycling demonstration towns; I accept that this looks at sustainable transport in a more rounded form. I am interested to know what kind of budget lines you have negotiated with the Minister for Finance and Public Service Delivery to develop this scheme. You will be aware, from the projects carried out in England, that each identified town has been given a budget of around £3.5 million over a period of five years. Sustrans, the organisation that campaigns to develop sustainable forms of transport, has said that, to really make these plans a success, we should be looking at a budget of approximately £30 million per town. I would be interested to hear how successful you have been in negotiating that with the Minister for Finance and Public Service Delivery. |
Croesawaf y cyhoeddiad am drefi trafnidiaeth gynaliadwy. Fel y gwyddoch, ymgyrchodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn etholiad diwethaf y Cynulliad ar fater trefi arddangos beicio; yr wyf yn derbyn bod hyn yn fodd i ystyried trafnidiaeth gynaliadwy mewn modd mwy cynhwysfawr. Mae o ddiddordeb imi gael gwybod pa fath o linellau cyllideb yr ydych wedi’u negodi gyda’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus i ddatblygu’r cynllun hwn. Byddwch yn ymwybodol, o wybod am y prosiectau a gyflawnwyd yn Lloegr, fod pob tref a enwyd wedi cael cyllideb o tua £3.5 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd. Mae Sustrans, y corff sy’n ymgyrchu dros ddatblygu mathau cynaliadwy o drafnidiaeth, wedi dweud y dylem ystyried cyllideb o tua £30 miliwn i bob tref, er mwyn sicrhau bod y cynlluniau hyn yn wirioneddol lwyddiannus. Byddai o ddiddordeb imi glywed pa mor llwyddiannus y buoch wrth negodi hynny gyda’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus. |
I am afraid that the statement delivered here this afternoon did not live up to this morning’s headlines. This is not a transport plan, and I look forward to seeing the Minister come back when he actually has something to say. |
Mae arnaf ofn nad oedd y datganiad a roddwyd yma y prynhawn yma’n bodloni’r disgwyliadau ar ôl y penawdau y bore yma. Nid cynllun trafnidiaeth yw hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn dod yn ôl pan fydd ganddo rywbeth i’w ddweud. |
The Deputy First Minister: That was an interesting, if rather contradictory, response. Your first point was that the statement lacked substance, yet you asked me 10 detailed questions on it. That clearly shows that you felt that it was sufficiently detailed to allow you to ask those questions. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Yr oedd hwnnw’n ymateb diddorol, os braidd yn anghyson. Y pwynt cyntaf a wnaethoch oedd bod diffyg sylwedd yn y datganiad, ac eto gofynasoch imi 10 cwestiwn manwl amdano. Mae hynny’n dangos yn glir eich bod yn teimlo ei fod yn ddigon manwl i ganiatáu ichi ofyn y cwestiynau hynny. |
The second point, which is immensely contradictory, is your surprise at the fact that we are introducing a programme to improve north-south roads. Your leader signed up to the 'All-Wales Accord’, which called for substantial investment in north-south roads. Therefore, it is pretty obvious that you disagree with Mike German, who signed that document. [Interruption.] That may be nothing new, Kirsty, but consistency is not currently a virtue of your party. |
Yr ail bwynt a wnaethoch, sydd yn anghyson dros ben, yw eich bod yn synnu at y ffaith ein bod yn cyflwyno rhaglen i wella ffyrdd rhwng y de a’r gogledd. Llofnododd eich arweinydd 'Cytundeb Cymru Gyfan’, a alwodd am fuddsoddi sylweddol mewn ffyrdd rhwng y de a’r gogledd. Felly, mae’n eithaf amlwg eich bod yn anghytuno â Mike German, a lofnododd y ddogfen honno. [Torri ar draws.] Efallai nad oes dim newydd yn hynny, Kirsty, ond nid yw cysondeb yn un o rinweddau’ch plaid ar hyn o bryd. |
Thirdly, you say that there is no proper balance between what you describe as a road programme and a programme to develop public transport. Frankly, you are wrong. If you look at the balance of investment, there is substantial investment proposed in public transport, in integrated transport, in ensuring that our rail services are more effective—an agenda with which I know that you agree. When the road programme is published, which may well include projects in your own constituency, it will be interesting to see whether or not you support them. Therefore, you will welcome roads in your constituency, but not in other constituencies. |
Yn drydydd, dywedwch nad oes cydbwysedd priodol rhwng yr hyn a alwch yn rhaglen ffyrdd a rhaglen i ddatblygu trafnidiaeth gyhoeddus. A siarad yn blwmp ac yn blaen, yr ydych yn anghywir. Os edrychwch ar gydbwysedd y buddsoddi, gwelwch fod bwriad i fuddsoddi’n sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, mewn trafnidiaeth integredig, yn yr amcan o sicrhau y bydd ein gwasanaethau rheilffyrdd yn fwy effeithiol—agenda y gwn eich bod yn cyd-weld â hi. Pan gyhoeddir y rhaglen ffyrdd, a honno’n cynnwys prosiectau yn eich etholaeth eich hun yn ddigon posibl, bydd yn ddiddorol gweld a fyddwch yn eu cefnogi neu beidio. Felly, byddwch yn croesawu ffyrdd yn eich etholaeth chi, ond nid mewn etholaethau eraill. |
I will now move to the other issues that you raised about the use of convergence funding. What is interesting is that the European Commission has approved the document. That document makes it clear that a substantial sum of money has been allocated to sustainable transport under the programme. Rather than carping about it, all parties in the Assembly must recognise that sustainable transport is a key priority for us. Andrew had certain criticisms, but he said, fairly, that he was prepared to work with us to deliver this agenda; I hope that the Liberal Democrats will do the same. |
Af ymlaen yn awr at y materion eraill a godasoch ynghylch defnyddio cyllid cydgyfeirio. Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo’r ddogfen. Mae’r ddogfen honno’n egluro bod swm sylweddol o arian wedi’i ddyrannu i drafnidiaeth gynaliadwy dan y rhaglen. Yn hytrach na chwyno amdano, rhaid i’r holl bleidiau yn y Cynulliad gydnabod bod trafnidiaeth gynaliadwy’n flaenoriaeth allweddol i ni. Yr oedd gan Andrew rai beirniadaethau, ond dywedodd, yn deg, ei fod yn barod i weithio gyda ni i roi’r agenda hon ar waith; yr wyf yn gobeithio y gwnaiff y Democratiaid Rhyddfrydol yr un peth. |
It would have been impossible, Kirsty, in the time that I have had in the department, to come here with a programme for each road in Wales. This is a clear statement of what the Government intends to do. If I can use the pun, the direction of travel is now clear; in the coming weeks, I will make it clear how this will work in practice. You also indicated that there are question marks, possibly, about certain roads, including improvements on the A55 and the M4. You will have heard the statement on the M4, and you know perfectly well that Ministers cannot make statements on the improvements to the A55 because of the current public inquiry. It would, therefore, be wrong for me to try to influence that public inquiry. |
Buasai’n amhosibl, Kirsty, o fewn yr amser a gefais yn yr adran, ddod yma gyda rhaglen ar gyfer pob ffordd yng Nghymru. Mae hwn yn ddatganiad clir o’r hyn y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud. Os caf chwarae ar eiriau, mae cyfeiriad y daith yn glir yn awr; yn yr wythnosau sydd i ddod, byddaf yn egluro sut y bydd hyn yn gweithio’n ymarferol. Nodasoch hefyd fod amheuon, o bosibl, ynghylch rhai ffyrdd, gan gynnwys gwelliannau ar yr A55 a’r M4. Byddwch wedi clywed y datganiad am yr M4, a gwyddoch o’r gorau na all Gweinidogion wneud datganiadau am y gwelliannau i’r A55 oherwydd yr ymchwiliad cyhoeddus a geir ar hyn o bryd. Felly, ni fyddai’n iawn imi geisio dylanwadu ar yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw. |
You welcomed several matters. You welcomed the initiative on freight, as well as the fact that the sustainable towns initiative will come forward. You asked about the funding for that; you will have to hold your breath, because the discussions on the budget have yet to be concluded. However, I would not have announced this today unless I felt that there was sufficient scope in the budget for us to develop that scheme. Therefore, I hope that, from now on, there will be more welcoming statements from you, and that we can work together on this initiative. |
Croesawasoch nifer o faterion. Croesawasoch y cynllun ar gludo nwyddau, yn ogystal â’r ffaith y bydd cynllun y trefi cynaliadwy’n dechrau’n gynharach. Holasoch fi am y cyllid ar gyfer hwnnw; bydd yn rhaid ichi ddal eich gwynt, gan nad yw’r trafodaethau ar y gyllideb wedi’u cwblhau eto. Fodd bynnag, ni fyddwn wedi cyhoeddi hyn heddiw oni bai fy mod yn teimlo bod digon o gyfle yn y gyllideb inni ddatblygu’r cynllun hwnnw. Felly, yr wyf yn gobeithio y ceir datganiadau mwy croesawus gennych o hyn ymlaen, ac y gallwn weithio gyda’n gilydd ar y cynllun hwn. |
Gareth Jones: Croesawaf y datganiad hwn. Mae rhaglen o’r fath yn allweddol bwysig, nid yn unig i ddatblygu’r economi a chynnal ein cymundeau—gwledig a threfol, fel y dywedasoch—ond hefyd i ddod â phobl a chymunedau’n agosach at ei gilydd; mae hwnnw’n nod hollbwysig. |
Gareth Jones: I welcome this statement. Such a programme is crucial, not only to develop the economy and sustain our communities—both rural and urban, as you said—but also to bring people and communities closer together; that is a very important aim. |
Mae sefydlu isadeiledd cludiant integredig yn allweddol os ydym am hyrwyddo a sicrhau economi, cymdeithas, ac, felly, genedl gref—y math o genedl yr ydym ni ym Mhlaid Cymru am ei gweld, yn seiliedig ar egwyddorion pwysig cydraddoldeb a chynaliadwyedd. Os ydym am weld dyfodol llewyrchus i Gymru, mae’n anorfod bod yn rhaid buddsoddi’n ariannol, a hynny’n sylweddol; o leiaf mae hwn yn gam ymlaen, gan gydnabod yr hyn a ddywedodd Andrew yn gynharach. |
Establishing an integrated transport network is key if we are to promote and ensure a strong economy, society and, therefore, a strong nation—the kind of nation that we in Plaid Cymru want to see, based on the important principles of equality and sustainability. If we want Wales to have successful future, it is essential that we make a substantial financial investment. This is, at least, a step forward, recognising what Andrew said earlier. |
Fodd bynnag, mae’r ffaith ein bod am weld defnydd o arian Ewrop yn galonogol. Derbyniaf, os wyf wedi deall yn iawn, fod y canllawiau i’r math hwn o gyllid yn wahanol i rai arian Amcan 1. Mae’r math hwn o ddefnydd o arian yn welliant ar yr hyn a welsom o dan Amcan 1. |
However, the fact that we will see the use of European money is encouraging. I accept that, if I have understood it correctly, the guidelines for this type of funding are different to those for Objective 1 funding. This sort of use of funding is an improvement on what we saw under Objective 1. |
Mae’r datganiad hefyd yn dangos sut mae Plaid Cymru am gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru’n Un. Mae’n galonogol gweld Gweinidog sydd yn gyfrifol am drafnidiaeth yn y Cynulliad sydd o ddifrif ynglŷn â gwella’r cysylltiadau rhwng y de a’r gogledd. Beth bynnag yw’n teimladau, mae tyndra rhwng y gogledd a’r de, sy’n ymwneud â meysydd allweddol, megis iechyd, yr economi a chreu swyddi. Bydd y rhaglen hon, os llwyddwn, yn mynd â ni ymhell ar hyd y ffordd i ennill ffydd ein pobl yn y Cynulliad fel corff sydd yn gweithredu yn wirioneddol genedlaethol. |
The statement also shows how Plaid Cymru will deliver on the commitments of the One Wales Government. It is heartening to see a Minister responsible for transport in the Assembly who is serious about improving north-south links. Whatever our feelings may be, there is a tension between the north and south of Wales with regard to key areas such as health, the economy and job creation. This programme, if we succeed with it, will take us a way down the road towards ensuring that people believe in the Assembly as a body that truly operates on a national level. |
Mae gennym ffordd i fynd—ac yr wyf yn siŵr y byddai fy nghyd-Aelodau o’r gogledd yn cytuno â hynny. Fodd bynnag, mae’r rhaglen hon o leiaf yn ein cyfeirio i’r cyfeiriad cywir i’r perwyl hwnnw. |
We have a way to go—as I am sure that my colleagues from north Wales would agree. However, this programme does at least steer us in the right direction in that regard. |
4.00 p.m. |
|
Mae’r datganiad yn fy atgoffa hefyd nad ffactorau daearyddol yn unig sydd o dan ystyriaeth. Y mae goblygiadau llawer mwy pellgyrhaeddol yn gymdeithasol, economaidd ac yn amgylcheddol. Mae maint y buddsoddiad yn bwysig, ond bu i chi gyfeirio at y partneriaid a’u rôl allweddol. Nid enwaf neb, ond dywedaf fod rhai partneriaid yn fwy parod i gydweithio nag eraill. Mawr obeithiaf y gallwch roi pwysau ar bob un o’r partneriaid allweddol hyn i ymrwymo i’r dasg bwysig a’r her sydd o’n blaenau ni. |
The statement reminds that the factors to be considered are not only geographical ones. There are much more far-reaching implications, in the social, economic and environmental sense. The amount of investment is important, but you referred to the partners and their key role. I will not name anyone, but some partners are more prepared to co-operate than others. I very much hope that you will be able to put pressure on each one of the key partners to commit to this important task and challenge that we now face. |
Mae hon yn rhaglen uchelgeisiol. Nid yw’r manylion ar gael ar hyn o bryd ac yr ydym yn gorfod edrych ar y darlun cyfan, ond mae’n rhaid i ni gael ffydd a gobaith yn yr hyn sydd i ddod. Credaf y gallaf siarad ar ran y Pwyllgor Menter a Dysgu ac, fel y dywedodd Andrew, byddwn yn craffu’n fanwl ar y datblygiadau pwysig sy’n ymwneud â’r rhaglen hon, oherwydd mae gan y pwyllgor rôl arbennig yn hynny o beth. |
This is an ambitious programme. The details are not yet available and we must look at the bigger picture, but we must have faith and hope in what is to follow. I think that I may speak on behalf of the Enterprise and Learning Committee, and, as Andrew said, we will be closely scrutinising the important developments related to this programme, given that the committee has a particular role in that regard. |
I gloi, hoffwn ddweud faint yr wyf yn croesawu’r datganiad. Credaf ei fod yn addawol iawn ac yr wyf yn mawr obeithio y gallwch wneud popeth y gallwch i symud ymlaen mor fuan ag sy’n bosibl oherwydd yr ydym eisiau gweld y gwelliannau hyn yn uno pobl o bob rhan o Gymru. Gwnaf un apêl, os caf fi fod yn blwyfol o safbwynt y gogledd, i’ch atgoffa unwaith eto i ystyried pa gymorth y gallwch ei roi i uwchraddio’r A55. Mae angen edrych ar y sefyllfa yn y gogledd. Wedi dweud hynny, diolchaf i’r Dirprwy Brif Weinidog am ei ddatganiad.
|
Finally, I very much welcome this statement. It is very promising and I very much hope that you will be able to do everything within your power to move forward as soon as possible, because we want to see these developments bring together people from all parts of Wales. If I may be parochial for a minute from a north Wales point of view, I remind you, Minister, to consider what assistance could be provided in order to upgrade the A55. The situation in north Wales needs to be examined. Having said that, I thank the Deputy First Minister for his statement. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Diolchaf i Gareth am ei sylwadau ac am dynnu ein sylw at ddau neu dri o bethau pwysig. Ar ei bwynt olaf, fe’i atebais y gorau fedrwn i dro diwethaf, ond yr oeddwn yn ymwybodol bod Gareth yn dymuno codi’r pwynt heddiw ac, yn naturiol, byddaf yn ei drafod gyda fy swyddogion. Credaf fod Gareth yn ceisio dweud bod hon yn rhaglen uchelgeisiol a chanddi fuddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth, ond ni fyddwn yn gallu ei chyflawni heb gydweithio gyda phobl eraill. Mae hynny’n golygu pobl sy’n ymwneud â’r gwasanaethau bysiau a threnau yn ogystal â phobl sy’n ymwneud â meysydd awyr ac yn y blaen. Mae yma bartneriaethau sydd angen gweithio’n agos. Fy mwriad, ac yr wyf wedi dechrau hyn eisoes, yw trafod gyda’r partneriaid allweddol sut i wneud y defnydd gorau o’n buddsoddiad. Yr wyf yn hyderus, o’r hyn y clywais hyd yma, fod y partneriaid yn derbyn ei bod yn flaenoriaeth gennym i wella gwasanaethau, yn arbennig rhwng y de a’r gogledd. Yr wyf eisiau symud hynny ymlaen, a gobeithiaf y gallaf ddod i’r Cynulliad cyn bo hir gyda rhaglen fwy pendant. |
The Deputy First Minister: I thank Gareth for his comments and for drawing our attention to two or three important points. On his final point, I tried to respond as fully as possible last time, but I was aware that Gareth wanted to raise the point today, and, naturally, I will raise it with officials. I think that Gareth was trying to say that this is an ambitious programme that carries significant Government investment, but we will not be able to implement it without co-operation from others. I refer to bus and train operators, and to airports and so on. This work will involve partnerships that will need to work closely together. It is my intention, and I have already started, to discuss with key partners how to make best use of the investment. From what I have heard so far, I am confident that the partners accept that we have made it our priority to improve services, particularly from north to south. I want to move this forward, and I hope to be able to come to the Assembly before too long with a more definite programme. |
Brynle Williams: Diolch am y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth hon. Clywsom y ddwy ochr i’r ddadl ac mae un peth yn sicr, sef bod yn rhaid gwella’r A470. Nid oes rhaid dweud hynny. Bydd hyn yn costio tipyn, ond nid yw’r sefyllfa mewn tref fel Rhaeadr, er enghraifft, yn gwneud llawer o synnwyr pan fydd dwy lori yn blocio ffyrdd y dref yn gyfan gwbl. Yr wyf wedi siarad gyda gyrwyr loriau o ogledd Cymru, sy’n gorfod gyrru drwy Loegr i gyrraedd y de. Mae hynny’n gostus ond mae’n digwydd bob dydd. Yr ydych yn ymwybodol, Ddirprwy Brif Weinidog, fel pawb arall yn y Siambr sy’n teithio o’r gogledd ar hyd yr A470, o nifer y loriau mawr sy’n teithio ar hyd y ffordd honno. Nid yw’n gwneud synnwyr iddynt fod ar y ffordd hon, ond mae’n rhaid iddynt ei defnyddio gan eu bod yn cludo cynnyrch pobl cefn gwlad, a dônt â masnach a gwaith yn sgîl hynny. Gofynnaf i chi edrych ar hyn, ond credaf y dylem oll edrych arno oherwydd y peth pwysicaf, fel y dywedodd Gareth, yw uno Cymru. Nid ydym ni sy’n byw yn y gogledd yn teimlo’n rhan o un Gymru. Mae dweud hynny yn beth trist, ond dyna sut y’i gwelaf. |
Brynle Williams: Thank you for the opportunity to contribute to this discussion. We have heard both sides of the argument, and the one thing that is certain is that we must improve the A470. That goes without saying. This will mean significant investment, but there is no sense whatsoever in having the road through a town such as Rhaeadr, for example, completely blocked by two lorries travelling through. I have spoken to lorry drivers from north Wales, who have to drive through England to reach south Wales. This means extra costs for them, and it happens on a daily basis. You will be aware, Deputy First Minister, just as everyone else who travels from north Wales on the A470 will be aware, of the number of big lorries on that road. There is no sense in their using this road, but they have to use it because they are transporting goods from rural areas, and, as a result, they bring trade and jobs. I ask you to examine the situation, but I also believe that we all need to examine it because, as Gareth said, the important point is the need to unite Wales. We in north Wales do not feel part of Wales as a whole. It saddens me to make such a statement, but that is how I see it. |
Moving on, it is interesting to see that we will develop a plan to move freight from the roads. In your constituency of sir Fôn, will you give serious consideration to some sort of marshalling yard in Holyhead? Based on the figures that I had a couple of years ago, every time the ferry docks in Holyhead, upwards of 10,000 tonnes of freight is unloaded. Some 90 per cent of that goes to mainland Europe. The A55 has been mentioned, and, in a few years, we will have to add lanes—it is already happening. Now is the time to tackle this; the rail companies have the technology to use North American-style bogies that can travel straight through. The same can be done in Fishguard in the south; we can take many vehicles off the M4. I hope that you will give this serious consideration. It is doable, and within a short space of time. The A470 will take time; we will work with you, as my colleague, Andrew, and others have said, in addressing the serious problems there. |
A symud ymlaen, mae’n ddiddorol gweld y byddwn yn datblygu cynllun i symud llwythi oddi ar y ffyrdd. Yn eich etholaeth chi, Sir Fôn, a roddwch ystyriaeth ddifrifol i ryw fath o iard drefnu yng Nghaergybi? Ar sail y ffigyrau a gefais i ryw flwyddyn neu ddwy’n ôl, bob tro y bydd y fferi’n docio yng Nghaergybi, dadlwythir dros 10,000 tunnell o lwythi. Aiff rhyw 90 y cant o hynny i dir mawr Ewrop. Soniwyd am yr A55, ac, mewn ychydig o flynyddoedd, bydd yn rhaid inni ychwanegu lonydd—mae’n digwydd yn barod. Dyma’r amser i fynd i’r afael â hyn; mae gan y cwmnïau rheilffyrdd y dechnoleg i ddefnyddio bogis a all deithio’n syth drwodd, fel a geir yng ngogledd America. Gellir gwneud yr un peth yn Abergwaun yn y De; gallwn dynnu llawer o gerbydau oddi ar yr M4. Gobeithiaf y rhoddwch ystyriaeth ddifrifol i hyn. Mae modd ei wneud, a hynny o fewn ychydig o amser. Bydd yr A470 yn cymryd amser; fe gydweithiwn â chi, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Andrew, ac eraill, i roi sylw i’r problemau difrifol yn y fan honno. |
There are is one further problem that I would like to see tackled in my constituency, which I have written to you about. The whole of the Vale of Clwyd is tied up; we cannot get commercial vehicles in because of St Asaph. It is a serious problem, and it is hampering trade in the whole of the Vale of Clwyd, so I hope that we can look at this. |
Mae un broblem arall yr hoffwn weld ei ddatrys yn fy etholaeth, ac yr wyf wedi ysgrifennu atoch amdani. Mae’r cyfan o Ddyffryn Clwyd wedi’i dagu; ni allwn gael cerbydau masnachol i mewn oherwydd Llanelwy. Mae’n broblem ddifrifol, ac mae’n amharu ar fasnach yn y cyfan o Ddyffryn Clwyd, felly gobeithio y gallwn edrych ar hyn. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Diolch am y cwestiynau hynny ac am eich cefnogaeth gyffredinol i’r hyn a geisiwn ei wneud. Yr oedd gennych dri phwynt; a wnewch chi faddau imi am beidio sôn am y cynllun yn Llanelwy heddiw. Yr ydych chi ac Ann Jones, ac eraill, wedi codi’r pwynt hwn gyda mi, ac yr wyf am ystyried yn ofalus yr hyn a ddywedwyd eisoes. Ynghylch yr A470, yr ydych yn iawn bod angen ystyried y ffordd, nid dim ond o safbwynt nifer o gynlluniau gwahanol, ond o safbwynt strategaeth gyfan i wneud gwelliannau fel bod gennym ffordd well o’r de i’r gogledd. Yr ydych chi a mi wedi rhannu dyheadau o ran y ffordd ers tro, ynghyd ag Aelodau eraill. Yr ydym am symud y mater hwn yn ei flaen. Nid wyf am drafod cynlluniau penodol heddiw; nid yn awr yw’r amser, ond bydd cyfle i wneud hynny yn nes ymlaen. |
The Deputy First Minister: Thank you for those questions and for your general support for what we are trying to achieve. You raised three points; if you will forgive me, I will not go into the scheme at St Asaph. Ann Jones, you and others have raised this with me, and I wish to consider what has been said very carefully. Turning to the A470, you are right that there is a need to consider this, not only as a scheme of various improvement phases along the road, but as a holistic strategy to make improvements to ensure that we have a better road from north to south. You and I have shared aspirations on this for many a long year, as have many other Members. We want to move on this matter. I will not discuss specific schemes today; this is not the time or the place, but there will be an opportunity to do that later. |
I am very pleased that there is cross-party support for moving freight from road to rail. I fondly remember the container traffic that came through the port of Holyhead until the 1980s, from the north of Ireland and Dublin. It was possible for a considerable amount of container traffic to be carried by rail at that time. Sadly, that ended in the 1980s, and we have been unable to reintroduce it, although I have been very active in trying to persuade many hauliers to do so. There are serious issues involved, and I am launching my strategy tomorrow to see whether we can make some progress. I understand your point. However, there are two main issues to consider. First, the costs of carrying freight over short distances by road and by rail do not compare—so we are looking at long-distance freight. Secondly, there will be the need for some improvements to infrastructure to carry freight, particularly on the north Wales coast line for example. However, you can rest assured that I am committed to doing what we can on this front, and I will update members when further information is available. |
Yr wyf yn falch iawn fod cefnogaeth drawsbleidiol i symud llwythi oddi ar y ffyrdd i’r rheilffyrdd. Yr wyf yn mwynhau cofio am y traffig amlwyth a ddeuai drwy borthladd Caergybi tan y 1980au, o ogledd Iwerddon a Dulyn. Yr oedd yn bosibl cludo maint sylweddol o draffig amlwyth ar y rheilffyrdd bryd hynny. Ysywaeth, daeth hynny i ben yn y 1980au, ac nid ydym wedi gallu ei ailgyflwyno, er imi fod yn brysur iawn yn ceisio darbwyllo llawer o gludwyr i wneud hynny. Mae materion difrifol ynghlwm wrth hyn, a byddaf yn lansio fy strategaeth yfory i weld a allwn symud ymlaen rywfaint. Deallaf eich pwynt. Fodd bynnag, y mae dau brif fater i’w hystyried. Yn gyntaf, nid oes cymhariaeth rhwng costau cario llwythi dros bellterau byr ar y ffyrdd ac ar y rheilffyrdd—felly yr ydym yn edrych ar lwythi pellter hir. Yn ail, bydd angen rhai gwelliannau i’r isadeiledd i gario llwythi, yn enwedig ar reilffordd arfordir y Gogledd, er enghraifft. Fodd bynnag, gallwch fod yn dawel eich meddwl fy mod wedi ymroi i wneud yr hyn a allwn yn hyn o beth, a deuaf â’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau pan fydd mwy o wybodaeth ar gael. |
4.10 p.m. |
|
Huw Lewis: Thank you for your statement, Minister. I would like to offer it a cautious welcome, and I would warm to it greatly if you could reassure me about two things. One thing that you said disturbed me slightly and one thing that you failed to say disturbed me a great deal. First, you said that you were reviewing the timing of planned schemes, which set alarm bells ringing in my mind because of what you did not say, which concerns your failure to mention anything about the transport link within Wales that is currently under way, which means most to the most deprived people in the country; that is the A465 Heads of the Valleys improvement—Welsh Labour’s £500 million commitment, without which the Heads of the Valleys programme will flounder and without which the regeneration of those northern Valleys communities will be much more difficult. You have not mentioned that, therefore can you reassure me about the timescale? As you will be aware, I was briefly a Minister in this august institution and it was not without advantages because I have the outline timetable for the A465 dualling. The dualling of the section between Abergavenny and Gilwern is currently under way and seems to be on time with no problems. The dualling schemes from Gilwern to Brynmawr, from Brynmawr to Tredegar, and from Tredegar to Dowlais Top are due to start in 2010. Will that be the case? The schemes from Dowlais Top to the A470 junction and from the A470 junction to Hirwaun—to complete the dualling—are due to finish in 2020. Will that be the case? Will you honour this commitment to this timetable and will you honour the amount of investment that was committed to this scheme? Whatever the merits of the statement that you have made today—and I do not detract from them in any way—I need reassurance that the people of the Valleys are not those that will pay for the contents of your statement. |
Huw Lewis: Diolch am eich datganiad Weinidog. Hoffwn gynnig croeso petrus iddo, ac fe gynheswn yn arw tuag ato pe gallech dawelu fy meddwl ynghylch dau beth. Fe’m haflonyddwyd fymryn gan un peth a ddywedasoch ac fe’m haflonyddwyd yn fawr gan un peth na ddywedasoch. Yn gyntaf, dywedasoch eich bod yn adolygu amseriad cynlluniau arfaethedig, a ganodd glychau larwm yn fy meddwl oherwydd yr hyn na ddywedasoch, sef y ffaith ichi beidio â sôn dim am y cyswllt trafnidiaeth o fewn Cymru sydd ar droed ar hyn o bryd, sy’n golygu fwyaf i’r bobl fwyaf difreintiedig yn y wlad, sef gwelliant ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd—ymrwymiad £500 miliwn Llafur Cymru y bydd rhaglen Blaenau’r Cymoedd yn mynd i’r wal hebddo ac y bydd adfywio’r cymunedau hynny yn y Cymoedd gogleddol yn llawer anoddach hebddo. Nid ydych wedi sôn am hwnnw, felly a allwch roi sicrwydd imi ynglŷn â’r amserlen? Fel y byddwch yn ymwybodol, yr oeddwn am gyfnod byr yn Weinidog yn y sefydliad mawreddog hwn ac nid oedd hynny heb ei fanteision oherwydd mae gennyf yr amserlen amlinellol ar gyfer deuoli’r A465. Mae deuoli’r adran rhwng y Fenni a Gilwern yn digwydd ar hyn o bryd ac mae’n debyg ei fod ar amser heb ddim problemau. Mae’r cynlluniau deuoli o Gilwern i Frynmawr, o Frynmawr i Dredegar, ac o Dredegar i Ddowlais Top i fod i ddechrau yn 2010. Ai felly y bydd hi? Mae’r cynlluniau o Ddowlais Top i gyffordd yr A470 ac o gyffordd yr A470 i Hirwaun—i gwblhau’r deuoli—i fod i orffen yn 2020. Ai felly y bydd hi? A wnewch chi anrhydeddu’r ymrwymiad hwn i’r amserlen hon ac a wnewch chi anrhydeddu’r buddsoddiad a ymrwymwyd i’r cynllun hwn? Beth bynnag fo rhinweddau’r datganiad a wnaethoch heddiw—ac nid wyf yn tynnu oddi arnynt mewn unrhyw fodd—mae arnaf angen sicrwydd nad pobl y Cymoedd yw’r rhai a fydd yn talu am gynnwys eich datganiad. |
The Deputy First Minister: I reassure Huw Lewis that the people of the Valleys will not pay for what is in this statement. There is no change in the planned programme for the A465. You will forgive me if I do not refer to the dates to which Huw Lewis has referred because I will need to look at them with my officials. I certainly would not be able to give an assurance about 2020; 2010 is slightly easier but I am not sure whether I will be here in 2020 therefore I am not prepared to give a commitment about a date so far ahead. However, I can reassure Huw Lewis that there is no proposal to change the dates. I will write to him so that he can be reassured about that. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Gallaf sicrhau Huw Lewis na fydd pobl y Cymoedd yn talu am yr hyn sydd yn y datganiad hwn. Nid oes dim newid yn y cynllun arfaethedig ar gyfer yr A465. Maddeuwch imi os na chyfeiriaf at y dyddiadau y cyfeiriodd Huw Lewis atynt oherwydd bydd angen imi edrych arnynt gyda fy swyddogion. Yn sicr ni allwn roi sicrwydd am 2020; mae 2010 fymryn yn haws ond nid wyf yn siŵr a fyddaf yma yn 2020 felly nid wyf yn barod i roi ymrwymiad am ddyddiad sydd mor bell ymlaen. Fodd bynnag, gallaf sicrhau Huw Lewis nad oes unrhyw fwriad i newid y dyddiadau. Fe ysgrifennaf ato er mwyn rhoi tawelwch meddwl iddo am hynny. |
Eleanor Burnham: Clywais yr hyn a ddywedasoch wrth Kirsty Williams ond mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod yn cytuno â Kirsty nad oes digon o fanylion, a dylem gael ffigurau er mwyn inni allu edrych ymlaen gydag ychydig mwy o hyder. Yr ydych chithau’n rhannu fy nyheadau i ynglŷn â chysylltu’r gogledd a’r de yn well nag y maent wedi’i cysylltu ar hyn o bryd, yn enwedig o safbwynt y trenau. |
Eleanor Burnham: I heard what you said in response to Kirsty Williams, but I must admit that I agree with Kirsty that we do not have enough detail, and we need the figures in order to be able to look forward with more confidence. I am aware that you share my aspirations as regards a stronger link between north and south Wales, particularly in the context of train services. |
Sylwais fod pennaeth yr uned rheilffyrdd, Mr Tim James, yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Menter a Dysgu bythefnos yn ôl, wedi dweud rhywbeth tebyg i’r hyn a ddywedasoch chi, yn ei ateb i gwestiwn gan Sandy Mewies. Dywedodd |
At the meeting of the Enterprise and Learning Committee a fortnight ago, the head of the rail unit, Mr Tim James, said something similar to you in his response to a question from Sandy Mewies. He said |
'because freight haulage is probably less competitive and there are higher fixed cost infrastructures’. |
am fod cludiant nwyddau yn llai cystadleuol ac mae costau sefydlog y seilwaith yn uwch |
Mae’n hen bryd i ni sylweddoli bod y gost o beidio â thynnu freight oddi ar y ffyrdd yn fwy costus o lawer. Pe baech yn ystyried teuluoedd yn, er enghraifft, Drome Corner ar Lannau Dyfrdwy, byddech yn gweld y gost aruthrol y gallent hwy ei hwynebu pe na baem yn llwyddo i atal y ffordd anferth hon o faint Americanaidd rhag cael ei hadeiladu. Mae’n hen bryd i ni sylweddoli bod y gost honno’n ormod. Dylem sicrhau ein bod yn tynnu’r lorïau hyn oddi ar y ffyrdd oherwydd, fel y caf ar ddeall, coridor o Ddulyn i Rotterdam yw hwnnw sy’n mynd ar draws gogledd Cymru. Mae’n hen bryd i ni ddefnyddio arian Ewropeaidd. Mae’n siŵr gennyf y dywedai ein hen gyfaill, John Marek, pe bai ef yma, yn union yr un fath. Mae yntau wedi bod yn dadlau am flynyddoedd y dylem fod wedi defnyddio arian Ewropeaidd i drydanu’r rheilffordd o Crewe i Gaer ac yna i Gaergybi. |
It is high time that we realised that the cost of not taking freight off the roads is far higher. If you were to consider families in, for example, Drome Corner on Deeside, you would see that they could face significant costs if we do not stop this huge road of American proportions from being built. It is time that we realised that that is too high a cost. We need to ensure that these lorries are taken off the road because, as I understand it, the journey through north Wales is considered part of the Dublin to Rotterdam corridor. It is also time that we used European money. I am sure that our old friend, John Marek, if he were here, would say the same. He has argued for years that we should have used European money for the electrification of the railway from Crewe to Chester, and from there to Holyhead. |
Mae angen gwneud llawer mwy yng Nghaergybi hefyd, oherwydd byddai mantais aruthrol o wneud hynny, nid yn unig o ran cludo nwyddau ond hefyd i’r diwydiant twristiaeth. Deallaf fod mordeithiau yn dod i mewn i Gaergybi, ac mae’n andros o bwysig bod y teithwyr hynny yn gweld gwasanaeth trenau gwell. |
Much more also needs to be done at Holyhead as it would be of great benefit, not only in terms of freight but also for tourism. I understand that cruises come to Holyhead and it is crucially important that passengers on those cruises see a better train service. |
Yr wyf hefyd eisiau cyfeirio’n gryno iawn at gonsortiwm Taith. Pan gaf y cyfle—sy’n llai aml yn awr, oherwydd yr wyf yma’n fwy ac yn y gogledd yn llai—yr wyf yn mynd i wrando ar yr hyn sydd gan Taith i’w ddweud. Mae wedi gwneud gwaith anhygoel dros y blynyddoedd. Er eich bod yn dweud eich bod am ailddechrau, dywedaf innau wrthych, |
I also want to refer briefly to the Taith consortium. When I have the opportunity—which comes less frequent, as I am here more and spend less time in north Wales—I go to listen to what Taith has to say. It has done incredible work over the years. Although you are saying that you want to recommence, I say to you that we must not reinvent the wheel. |
we must not reinvent the wheel. |
rhaid inni beidio ag ailddyfeisio’r olwyn. |
Mae’r gwaith hwn wedi’i wneud. Y llynedd, er enghraifft, cefais y cyfle a’r anrhydedd o fod yn aelod o’r Pwyllgor ar Seilwaith y Rheilffyrdd a Gwella Gwasanaethau i Deithwyr, a phennodd y pwyllgor rai blaenoriaethau bryd hynny. |
This work has already been done. Last year, for example, I had the opportunity and the privilege of sitting on the Committee on Rail Infrastructure and Improved Passenger Services, during which the committee identified some priorities. |
Yn y pen draw, yr wyf yn ofni’n fawr na fydd gennym ddigon o arian. Cyfeiriaf eto at yr hyn a ddywedodd Mr Tim James am y gost, wrth ateb Janet Ryder: |
In the long term, I fear that there will not be enough funding. Again, I refer to what Mr Tim James said about the cost, in his response to Janet Ryder: |
'—the £100 million items to upgrade the infrastructure—we have no current plans to do that’. |
—yr eitemau £100 miliwn i uwchraddio’r seilwaith—nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wneud hynny. |
Mae’n cyfeirio at y ffaith y bydd y gwaith strategol sydd ei angen er mwyn gallu cludo nwyddau yn costio gormod—neu mi fydd yn costio mwy na’r hyn sydd gennym yn y Cynulliad. Felly, yr wyf eisiau cadarnhad gennych, Ddirprwy Brif Weinidog, y byddwch yn gwneud eich gorau yn hyn o beth. |
He refers to the fact that the strategic work necessary for freight is too expensive—or it will cost more than what we actually have in the Assembly. Therefore, I would like you to confirm, Deputy First Minister, that you will do your best in respect of this. |
Mae cyfeiriad arall at y llinell o Wrecsam i Bidston sy’n mynd i Lerpwl, fel y gwyddoch. Gwnaed gwaith anhygoel ar y llinell honno hyd yn hyn, ond deallaf fod yr amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith wedi llithro eto ac wedi symud yn ei hôl ddwy flynedd i ganol y ddegawd nesaf. Nid yw hynny’n ddigon da. Mae pobl wedi gwneud gwaith manwl iawn ar hyn, ac mae’n bwysig bod gennym ni yn y gogledd ddwyrain gysylltiadau, nid yn unig â Chaerdydd, ond hefyd â Lerpwl. |
There is another reference to the Wrexham to Bidston line, which goes to Liverpool, as you know. Some excellent work has been done on that line to date, but I understand that the timescale for completing the work has slipped again and is delayed by two years until the middle of the next decade. This is not good enough. People have been doing very detailed work on this, and it is important that north-east Wales has links, not only with Cardiff, but also with Liverpool. |
Felly, beth yn union fyddwch chi yn ei wneud, Ddirprwy Brif Weinidog? Pa ffigurau allwch chi eu rhoi i ni, a pha gadarnhad allwch chi ei roi i ni heddiw y byddwch yn gwneud eich gorau? Waeth beth y mae rhai ohonom eisiau ei deimlo, y teimlad yw bod bwlch—a rhaid imi fod yn ofalus ynghylch yr hyn yr wyf yn ei ddweud—rhwng yr hyn yr ydym yn ei wneud yma a’r hyn yr hoffem ni yn y gogledd ei weld yn digwydd. Diolch. |
Therefore, what exactly will you do, Deputy First Minister? What figures can you give us, and what confirmation can you give us today that you will do your best? No matter what some of us want to feel, the feeling is that there is a gap—and I must be careful about what I say—between what we do here and what we, in north Wales, would like to see happening. Thank you. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Yr wyf yn synnu braidd na wnaethoch groesawu’r cyhoeddiad heddiw, Eleanor, ein bod yn edrych o ddifrif ar wella’r gwasanaeth rhwng y de a’r gogledd. Yr ydym ni’n dau wedi defnyddio’r gwasanaeth hwnnw ers rhai blynyddoedd, a byddwn wedi disgwyl ichi o leiaf groesawu’r ffaith ein bod yn ystyried rhedeg gwasanaeth cyflym o’r de i’r gogledd, sef rhywbeth yr ydych chi a finnau wedi bod yn galw amdano ers tro. Ond dyna ni. |
The Deputy First Minister: I am slightly surprised, Eleanor, that you did not welcome today’s statement that we are looking seriously at improving the service between north and south Wales. Both you and I have travelled on that service for many years, and I had expected that you could have at least welcomed the fact that we are looking at running a speedy north-south service, which is something that you and I have been calling for for some time. But there you go. |
O ran y busnes o gludo nwyddau ar y rheilffordd, byddaf yn cyhoeddi strategaeth ar hynny yfory. Fodd bynnag, fel yr ydych wedi’i nodi, yn ôl yr hyn a ddywedodd y swyddog, mae cost ynghlwm wrth hynny, a dim ond hyn a hyn o arian sydd yn y gyllideb. Felly, ni fyddwn yn gallu cyflawni’r gwaith hwnnw dros nos. Yr ydych wedi clywed fy ymrwymiad i edrych yn ofalus ar yr hyn y gallwn ei wneud i wella hynny ac i gael trafnidiaeth integredig, ac mae hwnnw’n rhywbeth y gwn eich bod chithau hefyd yn awyddus i’w weld. Er nad wyf yn gallu rhoi manylion am wasanaethau na ffyrdd penodol heddiw, o leiaf yr ydych yn ymwybodol o’r ffaith bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y de a’r gogledd. Hyderaf y byddwch yn gallu croesawu’r cynlluniau pan fyddwn yn gallu dod â’r manylion penodol ger eich bron. |
In terms of rail freight, I will be announcing a strategy on that tomorrow. However, as you have noted, according to what the official said, there is cost attached, and there is only so much money in the budget. Therefore, we will not be able to achieve that work overnight. You have heard my commitment to look carefully at what can be done to improve that and to have integrated transport, which is something that I know that you are also eager to see developed. Although I am not in a position to give details about specific services or roads today, at least you are aware that this Government is committed to improving north-south transport links. I trust that when we bring specific schemes forward that you will be in a position to welcome them. |
Jeff Cuthbert: I welcome your statement, Deputy First Minister, and I particularly welcome the reference to rail travel. I was pleased to hear Kirsty’s warm welcome of the enhancements to the Valleys lines; my constituents will be grateful to know that.
|
Jeff Cuthbert: Yr wyf yn croesawu eich datganiad, Ddirprwy Brif Weinidog, ac yn croesawu’n arbennig y cyfeiriad at deithio ar y rheilffyrdd. Yr oeddwn yn falch o glywed croeso brwd Kirsty i’r gwelliannau i reilffyrdd y Cymoedd; bydd fy etholwyr yn ddiolchgar o gael gwybod am hynny. |
4.20 p.m. |
|
However, I stress the importance of the Valley lines, particularly the Rhymney valley line, to my constituents, who use it extensively for commuting to work in Cardiff, as well as for shopping and for leisure. I also welcome the massive investment that there has already been in the Valley lines in terms of improved signalling infrastructure to allow for more trains to flow, and the investment that I know is coming in to lengthen platforms, so that the capacity and volume of rail traffic can be increased. Last week, I had a meeting with officials from Network Rail at a station just outside Caerphilly to look at the proposals to lengthen platforms and minimise disruption to local residents while construction is under way. It was a constructive meeting and it showed that the investment is forthcoming. There is also due to be a new station just outside Caerphilly, in Energlyn, which I also welcome. |
Fodd bynnag, pwysleisiaf ba mor bwysig yw rheilffyrdd y Cymoedd, yn enwedig rheilffordd cwm Rhymni, i fy etholwyr, sy’n ei defnyddio’n helaeth i gymudo i weithio yng Nghaerdydd, a hefyd i siopa ac ar gyfer hamdden. Yr wyf hefyd yn croesawu’r buddsoddiad anferth y bu eisoes yn rheilffyrdd y Cymoedd o ran gwella’r seilwaith goleuadau signal fel y bydd mwy o drenau’n gallu llifo, a’r buddsoddiad y gwn sydd i ddod i ymestyn platfformau, fel y gellir cynyddu capasiti a maint y traffig ar y rheilffyrdd. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â swyddogion o Network Rail mewn gorsaf ychydig y tu allan i Gaerffili i edrych ar y cynigion i ymestyn platfformau a lleihau’r aflonyddwch i drigolion lleol tra mae’r gwaith yn cael ei wneud. Yr oedd yn gyfarfod adeiladol a dangosodd fod y buddsoddiad yn dod. Bydd gorsaf newydd hefyd ychydig y tu allan i Gaerffili, yn Energlyn, a chroesawaf hynny hefyd. |
However, there is one bone of contention. In your statement, you referred to identifying and addressing pinch-points. The Rhymney valley, Merthyr, Rhondda and the Cynon valley lines all converge at Cardiff Queen Street Station, and so a vast number of rail users come into Cardiff on the same route. There is dispute about whether the current structure of the bridge and the two tracks that cross Newport road is adequate. Will you ask your officials to check that the massive investment that is going into the Valley lines will not be thwarted by a continuing pinch-point at Queen Street station and ensure that this matter is addressed? |
Fodd bynnag, ceir un asgwrn cynnen. Yn eich datganiad, gwnaethoch gyfeirio at adnabod a rhoi sylw i dagfeydd. Mae rheilffyrdd cwm Rhymni, Merthyr, Rhondda a chwm Cynon i gyd yn cydgyfarfod yng Ngorsaf Heol-y-Frenhines yng Nghaerdydd, ac felly mae nifer aruthrol o ddefnyddwyr rheilffyrdd yn dod i mewn i Gaerdydd ar yr un llwybr. Ceir anghytundeb ynghylch a ydyw strwythur presennol y bont a’r ddau drac sy’n croesi Heol Casnewydd yn foddhaol. A wnewch chi ofyn i’ch swyddogion gadarnhau na fydd y buddsoddiad anferth sydd i fod yn rheilffyrdd y Cymoedd yn cael ei rwystro gan dagfa barhaus yng ngorsaf Heol-y-Frenhines a sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’r mater? |
The Deputy First Minister: I thank Jeff for his questions and stress yet again that I regard rail as an important part of our transport network, and I hope that it will become a more important part as we go ahead. Jeff mentioned public transport by train into Cardiff, and we will have to look at traffic issues in the city. I have already arranged a meeting with officials from Cardiff council to address that. However, he is quite right to state that, with all of the investment going into the Valley lines, it is important to address the concerns relating to Queen Street station. I was pleased that, in July, Ruth Kelly announced that there would be a £20 million investment to improve Queen Street station and associated works. Forgive me, but I do not have the precise details of the works that will be carried out, but Jeff has asked me to take the matter back to my officials, and I will write to him outlining how the investment at Queen Street station will help to ease the current problems on the Valley lines. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Diolch i Jeff am ei gwestiynau a hoffwn bwysleisio unwaith eto fy mod yn ystyried y rheilffyrdd i fod yn rhan bwysig o’n rhwydwaith trafnidiaeth, a gobeithiaf y daw’n rhan bwysicach wrth inni symud ymlaen. Soniodd Jeff am drafnidiaeth gyhoeddus ar drên i mewn i Gaerdydd, a bydd yn rhaid inni edrych ar y problemau traffig yn y ddinas. Yr wyf eisoes wedi trefnu cyfarfod â swyddogion o gyngor Caerdydd i roi sylw i hynny. Fodd bynnag, mae’n hollol iawn pan ddywed, gyda’r holl fuddsoddiad yn rheilffyrdd y Cymoedd, ei bod yn bwysig rhoi sylw i’r pryderon am orsaf Heol-y-Frenhines. Yr oeddwn yn falch, ym mis Gorffennaf, pan gyhoeddodd Ruth Kelly fuddsoddiad o £20 miliwn i wella gorsaf Heol-y-Frenhines a gwaith cysylltiedig. Maddeuwch imi, ond nid yw union fanylion y gwaith sydd i’w wneud gennyf, ond mae Jeff wedi gofyn imi fynd â’r mater yn ôl at fy swyddogion, a byddaf yn ysgrifennu ato yn egluro sut y bydd buddsoddi yng ngorsaf Heol-y-Frenhines yn helpu i ysgafnu’r problemau presennol gyda rheilffyrdd y Cymoedd. |
Karen Sinclair: Deputy First Minister, you said in your statement that one of your highest priorities was improving transport links within Wales, but there was no mention of upgrading the links in and out of Wales. As you know, good cross-border links and routes are imperative for Wales’s economy and its future success. Where in your list of priorities do you rank upgrading the Wrexham to Bidston line, which is so important to the economy of north-east Wales? |
Karen Sinclair: Ddirprwy Brif Weinidog, dywedasoch yn eich datganiad mai un o’ch blaenoriaethau uchaf oedd gwella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru, ond nid oedd unrhyw sôn am uwchraddio’r cysylltiadau i mewn ac allan o Gymru. Fel y gwyddoch, mae ffyrdd a chysylltiadau trawsffiniol yn hanfodol i economi Cymru a’i llwyddiant yn y dyfodol. Ble yn eich rhestr o flaenoriaethau y mae uwchraddio’r rheilffordd o Wrecsam i Bidston, sydd mor bwysig i economi gogledd ddwyrain Cymru? |
Picking up Huw’s point, I also seek your assurance that there will be no slippage in the timetable for the construction of the new Wrexham industrial link road, given that it is strategically so important to Wrexham and the surrounding communities. |
Gan godi pwynt Huw, hoffwn hefyd gael sicrwydd gennych na fydd unrhyw lithriad yn yr amserlen i greu’r ffordd gyswllt ddiwydiannol newydd yn Wrecsam, ac ystyried ei bod mor strategol bwysig i Wrecsam a’r cymunedau cyfagos. |
The Deputy First Minister: What I was trying to do today was take a strategic look at transport needs within Wales, because, historically, as Karen knows, the substantial investment has gone into east-west links, and that will continue where there are pinch-points and where we need to address those concerns. What we are doing today is taking a strategic view of the neglected part of the network, namely the links between north and south Wales. That does not mean in any way that there is a lack of commitment to continuing the work that is needed to address the pinch-points between the east and west, but we also recognise—and I think that it has been warmly welcomed across the political divide—that this is an important part of the 'One Wales’ agenda, on which we are beginning to deliver today. I am not here today to give specific information about particular projects, but if Karen would like to write to me on that, I am sure that I could give her an answer on the issues that she has raised with the Wrexham to Bidston line and the link to Wrexham industrial estate. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Yr hyn yr oeddwn yn ceisio ei wneud heddiw oedd bwrw golwg strategol ar anghenion trafnidiaeth yng Nghymru, oherwydd, yn hanesyddol, fel y gŵyr Karen, mae’r buddsoddiad mawr wedi bod yn y cysylltiadau dwyrain-gorllewin, a bydd hynny’n parhau lle ceir tagfeydd a lle mae angen inni roi sylw i’r pryderon hynny. Yr hyn yr ydym yn ei wneud heddiw yw bwrw golwg strategol ar y rhan o’r rhwydwaith sydd wedi’i hesgeuluso, sef y cysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De. Nid yw hynny’n golygu o gwbl bod diffyg ymrwymiad i barhau’r gwaith y mae angen ei wneud ar y tagfeydd rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin, ond yr ydym hefyd yn cydnabod—a chredaf fod hyn wedi cael ei groesawu’n frwd gan y pleidiau i gyd—bod hyn yn rhan bwysig o’r agenda 'Cymru’n Un’, sy’n dechrau cael ei chyflawni gennym heddiw. Nid wyf yma heddiw i roi gwybodaeth benodol am brosiectau arbennig, ond os yw Karen eisiau ysgrifennu ataf ynghylch hynny, yr wyf yn siŵr y gallaf roi ateb iddi ar y materion a godwyd ganddi yng nghyswllt y rheilffordd o Wrecsam i Bidston a’r ffordd gyswllt i stâd ddiwydiannol Wrecsam.
|
Alun Ffred Jones: Deallaf mai gosod y cyfeiriad strategol yr ydych yn ei wneud heddiw, Dirprwy Brif Weinidog, ac nad ydych yma i wneud datganiad am gynlluniau unigol. Fodd bynnag, gan gyfeirio at y cynllun gofodol sydd i fod i arwain cymaint o’n cynlluniau, mae ardal glannau’r Fenai wedi’i nodi fel ardal ddatblygu—creded rhai ai peidio, mae amddifadedd mewn ardaloedd gwledig hefyd. Os edrychwn ar y cynllun gofodol, gwelwn fod cysylltiadau yn y gogledd orllewin i fyny at Gaergybi ac i lawr i’r de i gyfeiriad Porthmadog yn cael eu nodi fel cysylltiadau pwysig er mwyn ceisio hybu a datblygu economi yr ardaloedd hynny. Un o’r cysylltiadau â’r de yw’r A487 ac, oherwydd diffygion, yn arbennig yn ardal Bontnewydd a Dinas, mae oedi eithriadol ar y ffordd. O ganlyniad, mae’n anodd iawn cael diwydianwyr i gymryd diddordeb mewn unrhyw beth i’r gorllewin. Gwn y gwnaed peth gwaith ymchwil eisoes, ac felly gofyn ydwyf am gadarnhad a sicrwydd bod y gwaith hwnnw yn cael mynd yn ei flaen er mwyn bwrw’r cynllun yn ei flaen at y dyfodol. |
Alun Ffred Jones: I understand that it is the strategic direction that you are setting today, Deputy First Minister, and that you are not here to make a statement on individual plans. However, in respect of the spatial plan, which should lead so many of our plans, the Menai Straits area has been identified as a development area—and believe it or not, deprivation also exists in rural areas. If we were to look at the spatial plan, we would see that links in north-west Wales to Holyhead and southwards towards Porthmadog are identified as important links for trying to promote economic development in those areas. One of the links to the south is the A487 and, due to weaknesses, particularly in the Bontnewydd and Dinas area, there are great delays on the road. As a result, it is very difficult to have industrialists to take an interest in anything in the west. I know that some research work has already been made, therefore I ask for confirmation and reassurance that the work will continue so that the scheme can be moved forward for the future. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Yr wyf yn ymwybodol o bwysigrwydd y cysylltiad yn y Bontnewydd y mae Alun Ffred yn cyfeirio ato. Yr wyf yn siŵr bod sawl ohonom sy’n teithio rhwng y de a’r gogledd yn ymwybodol ohono. Fel y dywedais eisoes, nid wyf mewn sefyllfa heddiw i roi gwybodaeth am gynlluniau penodol, ond bydd adroddiad gwerthuso yn dod i’m hadran mewn byr o dro, a gobeithiaf y byddaf wedyn mewn sefyllfa i roi ateb mwy clir. |
The Deputy First Minister: I am aware of the importance of the Bontnewydd link that Alun Ffred mentioned. I am sure that many of us that travel between north and south Wales are aware of it. As I said, I am not in a position today to give information on specific plans, but an evaluation report will come from my department in the near future, and I hope that I will then be in a position to give a more definite answer. |
Alun Davies: Thank you for the statement, Deputy First Minister. I welcome much of what you said this afternoon—every student in the country will welcome what you said about the TrawsCambria service, and I join them in welcoming the return of decent long-distance coach travel to many parts of Wales, particularly in mid and west Wales. |
Alun Davies: Diolch ichi am y datganiad, Ddirprwy Brif Weinidog. Yr wyf yn croesawu llawer iawn o’r hyn yr ydych wedi’i ddweud brynhawn heddiw—bydd pob myfyriwr yn y wlad yn croesawu’r hyn a ddywedasoch am y gwasanaeth TrawsCambria, ac yr wyf innau fel hwythau’n croesawu gweld gwasanaeth bysiau pellter hir call yn dychwelyd i sawl rhan o Gymru, yn enwedig i ganolbarth a gorllewin Cymru. |
I also welcome and recognise your commitment to improving north-south links and, as someone who has been a victim of the A470 on far too many occasions, I welcome that announcement from the bottom of my heart. I would like to see greater emphasis placed on other significant strategic trunk roads, particularly the A483 and the A487. However, in terms of the main principle and the direction in which you are taking this policy, I welcome your commitment to strengthening those strategic links. |
Yr wyf hefyd yn croesawu ac yn cydnabod eich ymrwymiad i wella cysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De ac, fel rhywun sydd wedi dioddef teithio ar hyd yr A470 yn llawer rhy aml, yr wyf yn croesawu’r cyhoeddiad hwnnw o waelod fy nghalon. Hoffwn weld mwy o bwyslais ar gefnffyrdd strategol bwysig eraill, yn enwedig yr A483 a’r A487. Fodd bynnag, o ran y brif egwyddor a’r cyfeiriad y byddwch yn symud y polisi hwn iddo, yr wyf yn croesawu eich ymrwymiad i gryfhau’r cysylltiadau strategol hynny. |
I welcome what you have said about the integration of means and modes of transport, and what you said about Sustainable Travel Towns. At this point, I appeal to you not to forget west Wales. Much of this statement and debate this afternoon has centred on north-south links and, while they are clearly important for all sorts of different reasons, both social and economic, the west, particularly Carmarthenshire, Pembrokeshire and Ceredigion, has particular needs and requirements as regards a strategic transport policy. We need the integration of transport and we need to improve the regional, national and international links. |
Yr wyf yn croesawu’r hyn yr ydych wedi’i ddweud am integreiddio moddion a dulliau trafnidiaeth, a’r hyn a ddywedasoch am Drefi Teithio Cynaliadwy. Ar hyn, hoffwn apelio arnoch i beidio ag anghofio gorllewin Cymru. Mae ffocws llawer o’r datganiad a’r drafodaeth brynhawn heddiw wedi bod ar gysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De ac, er eu bod yn amlwg yn bwysig am bob math o wahanol resymau, yn economaidd ac yn gymdeithasol, mae gan y Gorllewin, yn enwedig Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, anghenion a gofynion arbennig yng nghyswllt polisi trafnidiaeth strategol. Mae angen inni integreiddio trafnidiaeth a gwella’r cysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. |
As the Member representing Anglesey, you will already recognise the importance of ports and airports. In Pembrokeshire, we have the port of Fishguard and the air facility at Withybush, which is greatly underused. I hope that you will be able to look at how we can improve the facilities at Withybush in your transport policy, particularly air traffic control, as that would enable the airport to be used more often. |
Fel yr Aelod sy’n cynrychioli Ynys Môn, byddwch eisoes yn cydnabod pa mor bwysig yw porthladdoedd a meysydd awyr. Yn Sir Benfro, mae gennym borthladd Abergwaun a maes awyr y Llwyn Helyg, sy’n segur gan amlaf. Gobeithiaf y gallwch ystyried sut y gallwn wella’r cyfleusterau yn y Llwyn Helyg yn eich polisi trafnidiaeth, yn enwedig i reoli traffig yn yr awyr, oherwydd byddai hynny’n annog pobl i ddefnyddio’r maes awyr yn amlach. |
I hope that you will look at improving the A40 trunk road. I do not think that there is much support in the Chamber or elsewhere for the dualling of the road, but we need to see significant improvements made to that corridor, to ensure that the prosperity that has been created in Wales reaches across to the west coast. |
Gobeithiaf y byddwch yn ystyried gwella cefnffordd yr A40. Ni chredaf fod llawer o gefnogaeth yn y Siambr nac yn unlle arall i wneud y ffordd yn un ddeuol, ond mae angen inni weld gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i’r coridor hwnnw, fel bod y ffyniant a grëwyd yng Nghymru yn ymestyn ar draws i arfordir y Gorllewin. |
4.30 p.m. |
|
I hope that you will be able to say that that road will be upgraded in the near future, and also say how you are going to review rail links with west Wales. It is sometimes almost impossible to travel to the west of Swansea, particularly in the evenings and on weekends. There is an urgent need to look very hard at the rail network west of Swansea and to increase line speeds, capacity and the service that we receive in west Wales. Currently, our rail links are quite limited. We need investment and a strategic overview, and to future-proof all the investments that you are making. I welcome what you said about investment in other rail lines; the Cambrian coast line and the Cambrian line are important to the north part of the Mid and West region, and we welcome the move to an hourly service. However, we want to see capacity for the development of new stations in the future. We have already had a debate in the Enterprise and Learning Committee about a station at Carno, but we need to consider other locations where the use of the railway can be expanded. Kirsty spoke about the Heart of Wales line. I endorse everything that she said. It is a social railway that is fundamentally important to the communities that it serves. We need to continue to invest in it to enable people to use it. I hope that, in taking forward your transport strategy, you will take west Wales into account and ensure that it is a focus for the same sort of development that we are seeing in terms of north-south links. |
Gobeithiaf y gallwch ddweud y caiff y ffordd ei huwchraddio yn y dyfodol agos, ac i ddweud hefyd sut yr ydych am adolygu cysylltiadau’r rheilffyrdd â’r gorllewin. Weithiau, mae bron yn amhosibl teithio i’r gorllewin i Abertawe, yn enwedig gyda’r nos ac ar y penwythnos. Mae gwir angen bwrw golwg manwl dros rwydwaith y rheilffyrdd i’r gorllewin i Abertawe a chynyddu cyflymder y rheilffyrdd, cynyddu gallu a gwella’r gwasanaeth a gawn yn y Gorllewin. Ar hyn o bryd, mae cysylltiadau ein rheilffyrdd yn eithaf cyfyngedig. Mae angen buddsoddiad arnom a throsolwg strategol, a diogelu dyfodol y buddsoddiadau yr ydych yn eu gwneud. Yr wyf yn falch o’r hyn a ddywedasoch ynglŷn â buddsoddi mewn rheilffyrdd eraill; mae rheilffordd arfordir y Cambrian a rheilffordd y Cambrian yn bwysig i ran ogleddol rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru, ac yr ydym yn falch bod gwasanaeth ar gael bob awr bellach. Fodd bynnag, yr ydym am sicrhau y gellir datblygu gorsafoedd newydd yn y dyfodol. Yr ydym eisoes wedi cael trafodaeth yn y pwyllgor Menter a Dysgu ynglŷn â gorsaf Carno, ond mae angen inni ystyried lleoliadau eraill lle gellir ehangu’r defnydd a wneir ar y rheilffordd. Cyfeiriodd Kirsty at reilffordd Calon Cymru. Cymeradwyaf bopeth a ddywedodd. Mae’n rheilffordd gymdeithasol sydd o bwys sylfaenol i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae angen inni ddal ati i fuddsoddi ynddi fel y gall pobl ei defnyddio. Gobeithiaf, wrth i chi fynd â’ch strategaeth drafnidiaeth rhagddi, yr ystyriwch y Gorllewin a sicrhau y bydd yn ffocws i’r un math o ddatblygu ag a welwn yn y cysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De. |
The Deputy First Minister: Thank you for that series of questions. I will refer first to the Traws Cambria service and how we want to see it develop. There are three issues that we need to address. The first is that of branding the service and ensuring that people understand that there is a complete Traws Cambria service, and we also need to consider the timetable and the connections to make it even more successful. You may rest assured that we are doing everything that we can to improve that service. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Diolch am eich cyfres o gwestiynau. Yr wyf am gyfeirio’n gyntaf at wasanaeth y Traws Cambria a’r modd yr ydym am weld hwnnw’n datblygu. Mae tri mater y mae angen inni roi sylw iddynt. Mae a wnelo’r cyntaf â brandio’r gwasanaeth a sicrhau bod pobl yn deall bod gwasanaeth Traws Cambria cyflawn i’w gael, ac mae angen inni ystyried yr amserlen hefyd a’r cysylltiadau i’w wneud yn fwy llwyddiannus byth. Gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i wella’r gwasanaeth hwnnw. |
There is a misconception that the only north-south route is the A470. I am sure, Alun, that you will have read 'One Wales’ very carefully, and in it there is a commitment to look at not only north-south links, but also links to the west—although I do not think that we mention particular roads, they include the A483 and A487. Therefore, there is a commitment in that regard. I am not here today to tell you precisely what schemes will be where, but it is not just about the A470; we are looking strategically at how we improve links between the north and south and, very importantly, to west Wales. |
Camgymerir mai’r A470 yw’r unig ffordd o’r de i’r gogledd. Yr wyf yn sicr, Alun, i chi ddarllen 'Cymru’n Un’ yn ofalus iawn, ac ynddo mae ymrwymiad nid yn unig i edrych ar y cysylltiadau rhwng y De a’r Gogledd, ond i edrych ar y cysylltiadau i’r Gorllewin hefyd—er ni chredaf inni grybwyll ffyrdd neilltuol, yn eu plith mae’r A483 a’r A487. Felly, ceir ymrwymiad yn hynny o beth. Ni allaf ddweud wrthych heddiw yn union pa gynlluniau a roddir ar waith ac ymhle, ond nid edrych ar yr A470 yn unig ydym; yr ydym yn bwrw golwg strategol dros wella cysylltiadau rhwng y De a’r Gogledd, ac yn bwysig ddigon, i’r gorllewin. |
You welcomed the approach to integration and having an integrated transport system. That is very much something that all parties in the Chamber welcome. If Alun will forgive me, I will not deal with the actual detail of individual projects—he mentioned Withybush and Carno station, among others. It is important for me to steer clear today from giving firm commitments about individual projects, but, over the coming weeks and months, I will address these as we go forward. I am sure that Alun, like everyone else, will accept that there are priorities. We cannot do everything at once; we have to prioritise. When we come forward with our plans, there will be a degree of prioritisation, which is inevitable in terms of this particular programme. |
Yr oeddech yn falch o’r agwedd at integreiddio a sicrhau system drafnidiaeth integredig. Yn sicr mae pob plaid sydd yn y Siambr o blaid hynny. Os bydd Alun yn fodlon maddau imi, ni fyddaf yn delio â manylion prosiectau unigol—soniodd am Lwynhelyg a gorsaf Carno, ymhlith eraill. Mae’n bwysig fy mod yn gwarchod rhag gwneud ymrwymiadau pendant parthed prosiectau unigol heddiw, ond, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddaf yn rhoi sylw i’r rhain wrth inni fynd rhagom. Yr wyf yn sicr y bydd Alun, fel pawb arall, yn derbyn bod blaenoriaethau. Ni allwn wneud popeth ar unwaith; rhaid blaenoriaethu. Pan gyflwynwn ein cynlluniau, bydd rhywfaint o flaenoriaethu, ac mae hynny’n anochel o ran y rhaglen neilltuol hon. |
| I welcome Alun’s general response, and I am sure that, working together, we can develop a transport system in Wales that will benefit all parts of the country. | Croesawaf ymateb cyffredinol Alun, ac yr wyf yn sicr, o gydweithio, y gallwn ddatblygu system drafnidiaeth yng Nghymru a fydd o fudd i bob rhan o’r wlad. |
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Mae’n bleser o’r mwyaf cael gwneud datganiad am fy mlaenoriaethau cyntaf ar gyfer y portffolio treftadaeth. Yr wyf wedi ymddiddori yn y materion hyn ers tro byd, a braint oedd cael bod yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad cyntaf. Bûm yn ymgyrchu ers blynyddoedd dros amryw o faterion yn y maes diwylliant. Braint fawr yw cael bod yn gyfrifol fel Gweinidog am faterion sydd mor ganolog i gymeriad ein cenedl. |
The Minister for Heritage (Rhodri Glyn Thomas): I am delighted to have this opportunity to make a statement about my early priorities for the heritage portfolio. These are matters in which I have taken a long-term interest, and I was honoured to be Chair of the Culture Committee in the first Assembly. I have campaigned over the years on a number of cultural issues. It is a real privilege to assume ministerial responsibility for matters that do so much to define us as a nation. |
Bu’n galonogol gweld brwdfrydedd ac ymrwymiad pawb yr wyf wedi cwrdd â hwy yn y maes diwylliant a thwristiaeth yn ystod y ddau fis ers i mi gael fy mhenodi. Mae Llywodraeth y Cynulliad yr un mor benderfynol o wneud gwahaniaeth. Mae agenda 'Cymru’n Un’ yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a chyffrous. Edrychaf ymlaen at roi ymrwymiadau ein rhaglen dreftadaeth ar waith yn ystod y cyfnod sydd o’n blaenau yn y Cynulliad. |
I have been very encouraged by the enthusiasm and commitment of all those I have met in the culture and tourism sector in the two months since my appointment. That commitment to making a difference is shared by the Welsh Assembly Government. The agenda set out in 'One Wales’ is an ambitious and exciting programme for government. I am looking forward to implementing our heritage commitments over the coming Assembly. |
Yr wyf yn awyddus i gymryd camau cynnar i wireddu’r ymrwymiadau a wnaed yn 'Cymru’n Un’ ar yr iaith Gymraeg. Edrychaf ymlaen at gyfnod cyffrous. Mae cyfle dros y blynyddoedd nesaf i ddefnyddio pwerau newydd y Cynulliad i gryfhau sefyllfa’r iaith. Ymhlith ein hymrwymiadau, mae cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg, sefydlu comisiynydd iaith, sicrhau hawliau o ran darparu gwasanaethau, cynyddu ein hymdrechion i sicrhau cytundeb ar gyfer defnydd o’r Gymraeg yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, cynyddu’r cyllid ar gyfer papurau a chylchgronau Cymraeg, a parhau ein gwaith ymchwil i symudiadau yn y boblogaeth. Cam cyntaf hyn oll yw paratoi’r tir ar gyfer defnyddio pwerau newydd y Cynulliad. Byddaf yn cyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn y gwanwyn, ac mae’r gwaith o baratoi hwnnw wedi cychwyn. |
I am keen to take early steps to realise the commitments made in 'One Wales’ in relation to the Welsh language. I look forward to an exciting time. There is an opportunity over the next few years to use the Assembly’s new powers to strengthen the position of the language. Among our commitments are to confirm the official status of the Welsh language, to establish a language commissioner, to secure rights in relation to service provision, to increase our efforts to secure an agreement on the use of the Welsh language in European Union institutions, to increase the funding for Welsh-language newspapers and magazines, and to continue research into population movement. The first step in all of this is to prepare the ground for the use of the Assembly’s new powers. I will introduce a legislative competence Order in the spring, and work on preparing that has begun. |
Yr wyf hefyd yn awyddus i fwrw ati cyn gynted â phosibl i sicrhau bod ein polisïau o ran cefnogi’r celfyddydau yn cydsymud yn gadarn i’r un cyfeiriad. Yr ydym yn ffodus, oherwydd mae gennym artistiaid a pherfformwyr o fri, sy’n rhoi enw da i Gymru ym mhedwar ban byd. Er hynny, rhaid inni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau. Rhaid inni sicrhau ein bod yn dal ati i feithrin a chadw ein doniau artistig. Mae angen inni hefyd sicrhau ein bod ni’n gwneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau sydd ar gael i’r celfyddydau ac i ddiwylliant. |
I am also committed to early action aimed at bringing a stronger sense of common purpose to our policies in support of the arts. We are fortunate to have artists and performers of a calibre that puts Wales on the world stage. However, we should not take our current strengths for granted. We need to ensure that we continue to nurture and retain artistic talent. We also need to make sure that the resources available for the arts and culture are used to the best possible effect. |
Yn adolygiad Stephens, a gyhoeddwyd y llynedd, fe dynnwyd sylw at sawl maes lle y gallai Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Celfyddydau Cymru gydweithio’n fwy effeithiol. Hoffwn ddefnyddio’n hymateb i’r adroddiad hwnnw i ailddiffinio’r berthynas rhyngom ni fel Llywodraeth a’n cynghorwyr statudol. Rhaid inni ganolbwyntio ar gryfhau’r celfyddydau yng Nghymru, a hynny ar lefel genedlaethol yn ogystal ag ar lefel leol. Ar y lefel genedlaethol—a chan ddilyn argymhellion yr Athro Stephens—byddaf yn cynnull bwrdd strategaeth y celfyddydau. Bydd y bwrdd hwnnw’n cynnwys cynrychiolwyr o gyngor y celfyddydau a rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd yn cwrdd am y tro cyntaf ddechrau mis Tachwedd. Bydd y bwrdd newydd yn rhoi cyfeiriad strategol mwy eglur. Fy mwriad yw y bydd yn annog datblygu polisïau mewn modd mwy cynhwysol. Mae adroddiad yr Athro Stephens yn tynnu sylw at sawl her sylweddol sy’n wynebu’r celfyddydau yng Nghymru. Yr wyf yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r rhain yng nghwmni’r grŵp newydd. Mae 'Cymru’n Un’ hefyd yn ei gwneud yn glir fod y Llywodraeth yn bwriadu cryfhau’r celfyddydau ar lefel leol. Yr wyf eisiau cydweithio ag awdurdodau lleol i ystyried sut y gallwn ddatblygu’r syniad o roi dyletswydd statudol ar yr awdurdodau i hybu’r celfyddydau. Bydd angen i hynny adeiladu ar y gwaith ardderchog y mae rhai awdurdodau eisoes yn ei wneud. Bydd gennyf fwy i’w ddweud am y cynlluniau hynny yn y flwyddyn newydd. |
The publication of the Stephens report last year highlighted a number of areas where the Assembly Government and the Arts Council for Wales could work more effectively and collaboratively together. I want to use our response to that report to redefine the relationship between Government and our statutory advisers. We must focus our efforts on strengthening the arts in Wales, at the national and the local level. At the national level, I am convening an arts strategy board as recommended by Professor Stephens. The board will include representatives from the arts council and other key stakeholders. It will meet for the first time in early November. The new board will provide a clearer sense of strategic direction. My intention is that it should encourage more inclusive policy development. Professor Stephens’s report highlighted a whole series of significant challenges for the arts in Wales. I look forward to tackling these with this new group. 'One Wales’ also makes clear the Government’s intention to strengthen the arts at local level. I want to explore with local authorities how best we can develop the proposal to place authorities under a statutory duty to promote culture. That needs to build on the wonderful work some authorities are already doing in this regard. I will have more to say in the new year about how I intend to take this work forward. |
One of the most exciting cultural initiatives in our 'One Wales’ programme is our pledge to establish an English-language theatre for Wales. This provides us with a wonderful opportunity to build on the success of Theatr Genedlaethol Cymru. It also underlines our absolute commitment to developing theatre, and, indeed, all art forms, in both national languages. The launch of the theatre itself is dependent on decisions to be taken as part of the current public spending review. However, the Arts Council of Wales has already been allocated funding for the preparatory work required to establish the theatre. I am pleased that I can today announce that the planning will now move to a new level. I have agreed with the arts council that it should now move forward to advertise for the chair and members of the board that will oversee the development of this unique project. This will provide a new impetus and an even sharper creative vision, which will be essential for the project. |
Un o’r mentrau diwylliannol mwyaf cyffrous yn ein rhaglen 'Cymru’n Un’ yw ein haddewid i sefydlu theatr Saesneg i Gymru. Dyma gyfle bendigedig inni adeiladu ar lwyddiant Theatr Genedlaethol Cymru. Mae hefyd yn pwysleisio ein hymroddiad llwyr i ddatblygu’r theatr ac, yn wir, bob agwedd ar y celfyddydau yn y ddwy iaith genedlaethol. Bydd sefydlu’r theatr ei hun yn dibynnu ar benderfyniadau a ddaw yn sgil yr adolygiad gwariant cyhoeddus presennol. Er hynny, mae arian eisoes wedi’i neilltuo i Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud y gwaith paratoi angenrheidiol i sefydlu’r theatr. Pleser yw cyhoeddi heddiw bod y gwaith cynllunio hwnnw’n symud gam ymlaen. Yr wyf wedi cytuno â chyngor y celfyddydau y dylai yn awr fwrw ymlaen i hysbysebu swyddi cadeirydd ac aelodau’r bwrdd a fydd yn goruchwylio datblygu’r prosiect unigryw hwn. Bydd hyn yn rhoi hwb newydd i’r broses ac yn creu gweledigaeth greadigol fwy clir eto a fydd yn hanfodol i’r prosiect. |
My other priority in these early months is to make new connections between the different areas for which I have ministerial responsibility. The presence of tourism within the heritage portfolio—alongside Cadw, sport, culture and the arts—generates exciting new opportunities. I want to ensure that, in future, policy making in these areas is even more closely aligned. In particular, I want to maximise the potential of cultural tourism and, indeed, sporting tourism. |
Byddaf hefyd yn canolbwyntio yn ystod y misoedd cyntaf hyn ar greu rhagor o gysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd yr wyf yn gyfrifol amdanynt fel Gweinidog. Mae cynnwys twristiaeth yn rhan o’r portffolio treftadaeth, ochr yn ochr â Chadw, chwaraeon, diwylliant a’r celfyddydau, yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous. Yr wyf am sicrhau bod polisïau’r meysydd hyn yn cael eu tynnu’n fwyfwy agos at ei gilydd. Yn anad dim, yr wyf am fanteisio i’r eithaf ar bosibiliadau twristiaeth ddiwylliannol ac, yn wir, dwristiaeth chwaraeon. |
4.40 p.m. |
|
I also want the heritage portfolio to make an even stronger contribution right across the Welsh Assembly Government agenda. Cadw’s work to deliver an accessible, well-protected historic environment is important in its own right, but it is also important because of the wider contribution it can make to the economy, education and revitalising local communities. |
Yr wyf hefyd yn awyddus i’r portffolio treftadaeth wneud cyfraniad mwy amlwg i holl agenda Llywodraeth y Cynulliad. Mae gwaith Cadw o ran cyflwyno amgylchedd hanesyddol hygyrch a diogel yn bwysig ynddo’i hun, wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwysig o ran y cyfraniad ehangach y gall ei wneud i’r economi, i addysg ac i adfywio cymunedau lleol. |
Promoting physical activity might generate success at the 2012 Olympics, but I also want the efforts of the Sports Council for Wales to become an even bigger component of Edwina Hart’s drive to promote healthy lifestyles. We will strengthen our support for public libraries and for museums and galleries because of the cultural riches they contain, but also because of the remarkable contribution that they make to lifelong learning. |
Gallai hyrwyddo gweithgarwch corfforol arwain at lwyddiant yng Ngemau Olympaidd 2012, ond yr wyf hefyd eisiau i fentrau Cyngor Chwaraeon Cymru fod yn rhan fwy fyth o ymgyrch Edwina Hart i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Byddwn yn cryfhau ein cefnogaeth i lyfrgelloedd cyhoeddus ac i amgueddfeydd ac orielau—nid yn unig oherwydd y trysorau diwylliannol maent yn eu diogelu, ond hefyd oherwydd eu cyfraniad gwerthfawr at ddysgu gydol oes. |
| Culture, sport and the historic environment are essential features of everyday life in Wales, but increasingly they are also essential features of our economy and of our attractiveness to visitors. I am determined to use these tools in building a vibrant, confident and bilingual nation. The heritage portfolio has a significant contribution to make to our cultural and economic success. | Mae diwylliant, chwaraeon a’r amgylchedd hanesyddol yn elfennau hanfodol o fywyd bob dydd yng Nghymru, ond maent hefyd yn dod yn elfennau mwyfwy pwysig o’n heconomi ac o’r hyn sy’n gwneud Cymru’n ddeniadol i ymwelwyr. Yr wyf yn benderfynol o ddefnyddio’r arfau hyn i adeiladu cenedl fywiog, hyderus a dwyieithog. Mae gan y portffolio treftadaeth gyfraniad sylweddol i’w wneud i’n llwyddiant economaidd a diwylliannol. |
Paul Davies: Yr wyf yn croesawu’r Gweinidog i’w swydd newydd, a dymunaf yn dda iddo yn ei rôl. Fel Gweinidog yr wrthblaid, edrychaf ymlaen at weithio yn adeiladol gydag ef ond byddaf hefyd yn craffu ar bolisïau’r Llywodraeth yn fanwl. |
Paul Davies: I welcome the Minister to his new post, and I wish him well in his role. As shadow Minister, I look forward to a constructive working relationship with him, but I will be closely scrutinising Government policy. |
Yr wyf yn croesawu’r datganiad am gadarnhau statws swyddogol i’r Gymraeg, sefydlu comisiynydd iaith a chreu theatr genedlaethol ar gyfer dramâu Saesneg. Fel y gŵyr y Gweinidog, bu’r Ceidwadwyr yn galw am bolisïau o’r fath ers blynyddoedd, fel ag y bu grwpiau eraill yn y byd celfyddydau. Yr wyf yn cytuno â’r Gweinidog ei bod yn hanfodol fod rhaglen ddiwylliant a chelfyddydau ar gael i bawb yn ein cymdeithas. Yr wyf yn ymwybodol fod y celfyddydau yn gyffredinol yn cyfrannu yn helaeth at yr economi, gan fod Theatr y Torch yn fy etholaeth yn cyfrannu i economi Aberdaugleddau a sir Benfro hefyd.
|
I welcome the statement that confirms the official status of the Welsh language and refers to the establishment of a language commissioner and a national English-language theatre. As the Minister will be aware, the Conservatives have been calling for such policies for many years, as have other groups in the arts world. I agree with the Minister that it is crucial that the culture and arts programme is available to society as a whole. I am aware of the significant contribution made by the arts in general to the economy, as the Torch Theatre in my constituency makes a significant contribution to the economies of Milford Haven and Pembrokeshire. |
| We on this side of the Chamber are also committed to widening participation in the arts and culture in every community in Wales. The statement today, provided that it is implemented, will help to further that cause. | Yr ydym ninnau ar yr ochr hon i’r Siambr wedi ymrwymo hefyd i ehangu cyfranogaeth yn y celfyddydau a diwylliant ym mhob cymuned yng Nghymru. Bydd datganiad heddiw, o gael ei weithredu, yn fodd o hybu’r achos hwnnw. |
| I will briefly concentrate on a national English-language theatre. This new theatre should benefit children as well as adults in terms of education and entertainment. What relationship will the new theatre have with schools, colleges and other educational facilities? How will this new establishment work with local authorities to promote the arts in our local communities? The arts play a vital role in social and economic generation and in the revival of urban areas. Therefore, it is imperative that this new facility is accessible to all in our society. How will the theatre be promoted and how will it ensure access for all? This new theatre will give a boost to our cultural life, but how will it work alongside the Welsh Language National Theatre? I agree with the Minister that our vision should be of Wales as a world-class centre for the performing arts, but how does he intend to ensure that this facility and other arts organisations attract audiences and raise public awareness of arts and culture? | Yr wyf am ganolbwyntio’n fyr ar theatr genedlaethol Saesneg ei hiaith. Dylai’r theatr hon ddod â budd i blant yn ogystal ag i oedolion o ran addysg ac adloniant. Beth fydd perthynas y theatr newydd ag ysgolion, colegau a chyfleusterau addysgol eraill? Ym mha fodd y bydd y sefydliad hwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hybu’r celfyddydau yn ein cymunedau lleol? Mae’r celfyddydau’n chwarae rhan allweddol parthed adfywio cymdeithasol ac economaidd ac o ran adfywio ardaloedd trefol. Felly, mae’n hanfodol sicrhau y bydd y cyfleuster newydd hwn yn agored i bawb yn ein cymdeithas. Sut y caiff y theatr ei hybu a sut y bydd yn sicrhau mynediad i bawb? Bydd y theatr newydd hon yn hwb i’n bywyd diwylliannol, ond sut y bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Theatr Genedlaethol Gymraeg ei hiaith? Cytunaf â’r Gweinidog y dylem goleddu gweledigaeth o Gymru fel canolfan gyda’r gorau yn y byd ar gyfer y celfyddydau perfformio, ond sut mae am sicrhau y bydd y cyfleuster newydd hwn a chyrff celfyddydol eraill yn denu cynulleidfaoedd ac yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y celfyddydau a diwylliant? |
| Funding of the arts must not be hand to mouth—we need joined-up thinking from the Government, and I am delighted that the Minister mentioned this aspect in his statement. I am also glad that this will be closely aligned with cultural and sporting tourism. We need a clear and unambiguous set of rules in place with regard to core funding for the arts that should be stringent and consistent enough to enable planning for future. I am also glad to hear that the Minister is responding to the publication of the Stephens report by convening an arts strategy board. That will be essential not only to promote the arts in the regions of Wales, but to promote the arts to all sections of our society. In the circumstances, how will the Minister ensure that the arts and culture will also be accessible to people from disadvantaged groups? | Nid o’r llaw i’r genau y mae cyllido’r celfyddydau—mae angen i’r Llywodraeth feddwl yn gydlynol, ac yr wyf wrth fy modd bod y gweinidog wedi crybwyll yr agwedd hon yn ei ddatganiad. Yr wyf yn falch hefyd bod hyn am gael ei alinio’n glos a thwristiaeth ddiwylliannol a chwaraeon. Mae angen set glir ddiamwys o reolau ar gyfer cyllid craidd y celfyddydau a ddylai fod yn ddigon cadarn a chyson i fedru cynllunio at y dyfodol. Yr wyf hefyd yn falch bod y Gweinidog yn ymateb i gyhoeddi adroddiad Stephens drwy gynnull bwrdd strategaeth i’r celfyddydau. Bydd hynny’n hanfodol nid yn unig i hybu’r celfyddydau yn rhanbarthau Cymru, ond i hybu’r celfyddydau i bob rhan o’n cymdeithas. Dan yr amgylchiadau, sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau y bydd y celfyddydau a diwylliant yn agored i bobl o grwpiau difreintiedig? |
I welcome the announcement today that he, like me, wants to create a bilingual Wales, by giving Welsh official-language status and establishing a language commissioner. I also welcome an increase in spending on Welsh-language newspapers and magazines. However, 'One Wales’ mentions the establishment of a Welsh-language daily newspaper but that is absent from this statement. Will he commit the Government to supporting a Welsh-language daily newspaper? As he is probably aware, a Welsh-language daily newspaper called Y Byd is currently in the process of being set up. If he supports this newspaper, will he give an assurance that it will receive financial support and give us an indication of how much that will be? |
Croesawaf y cyhoeddiad heddiw ei fod ef, fel minnau, yn dymuno creu Cymru ddwyieithog, drwy roi statws iaith swyddogol i’r Gymraeg a sefydlu comisiynydd iaith. Yr wyf hefyd yn croesawu cynnydd mewn gwariant ar bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg. Fodd bynnag, mae 'Cymru’n Un’ yn sôn am sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg ond ni chyfeirir at hynny yn y datganiad hwn. A wnaiff rwymo’r Llywodraeth i gefnogi papur newydd dyddiol Cymraeg? Fel y gŵyr, yn ôl pob tebyg, mae papur newydd dyddiol Cymraeg o’r enw Y Byd ar ganol cael ei sefydlu. Os yw’n cefnogi’r papur newydd hwn, a wnaiff roi sicrwydd y bydd yn cael cymorth ariannol a rhoi awgrym i ni o ba faint y bydd hwnnw? |
The role of culture in bringing communities together cannot be underestimated. The recognition and celebration of the many different cultures that now permeate the Welsh nation can only serve to strengthen and unite communities. |
Ni ellir tanbrisio’r rhan y mae diwylliant yn ei chwarae wrth ddod â chymunedau at ei gilydd. Mae cydnabod a dathlu’r nifer mawr o ddiwylliannau gwahanol sydd bellach yn treiddio drwy’r genedl Gymreig yn sicr o fod yn fodd i gryfhau ac uno cymunedau. |
I generally welcome this announcement and hope that these published policies will be implemented, which will then, hopefully, increase participation in the arts throughout Wales. |
Croesawaf y cyhoeddiad hwn yn gyffredinol ac yr wyf yn gobeithio y rhoddir y polisïau cyhoeddedig hyn ar waith, a bydd hynny wedyn, yr wyf yn gobeithio, yn peri i fwy o bobl gyfranogi o’r celfyddydau ledled Cymru. |
Rhodri Glyn Thomas: Diolch yn fawr am eich ymateb cadarnhaol i’r datganiad. Yr wyf yn falch ein bod yn gallu cytuno ar gynifer o feysydd ac edrychaf ymlaen at weithio mewn ffordd adeiladol gyda chi, fel llefarydd yr wrthblaid ar y materion hyn. |
Rhodri Glyn Thomas: Thank you for your positive response to the statement. I am pleased that you can agree with so many areas, and look forward to working constructively with you, as the opposition spokesman on these issues. |
Yr ydych wedi gofyn nifer o gwestiynau, a cheisiaf ymateb iddynt i gyd; ond, os collaf ambell un, ysgrifennaf atoch ar y pynciau hynny. |
You asked a number of questions, and I will try to respond to each of them; if I miss one or two, I will write to you on those issues. |
Yr oedd y cyfeiriad at Theatr y Torch yn bwysig; yr wyf wedi cael cyfle i fwynhau llawer o berfformiadau yn y theatr honno. Mae gan theatrau rhanbarthol ran bwysig i’w chwarae. Pan fyddwn yn siarad am y theatr genedlaethol drwy gyfrwng y Saesneg, nid ydym am ei gweld yn dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan theatrau rhanbarthol megis Theatr y Torch neu’r Chapter neu’r Sherman yng Nghaerdydd, er enghraifft, neu theatrau eraill ym mhob rhan o Gymru. Mae’r theatr genedlaethol i fod i gydweithio a chydweithredu gyda’r theatrau hynny. |
The reference to the Torch Theatre was important; I have been able to enjoy a number of performances at that theatre. Regional theatres have an important part to play. When we talk of the national English-language theatre, we do not envisage that it will duplicate the work already done by regional theatres such as the Torch Theatre or Cardiff’s Chapter or Sherman, for example, or other theatres in all parts of Wales. The national theatre is supposed to co-operate and collaborate with those theatres. |
Yr oedd gennych nifer o gwestiynau ynglŷn â’r theatr genedlaethol drwy gyfrwng y Saesneg, ond yr hyn yr oeddwn yn ei gyhoeddi heddiw oedd bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn cael yr hawl i symud ymlaen i hysbysebu am gadeirydd ac aelodau’r bwrdd. Nid wyf am ragdybio penderfyniadau’r bobl hynny ynglŷn â chyfeiriad y theatr honno, ond fe’ch sicrhaf y bydd cydweithredu gydag ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol, fel yr oeddech yn ei awgrymu, yn rhan annatod o’r weledigaeth sydd y tu ôl i’r syniad o theatr genedlaethol drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd y theatr yn cydweithredu yn agos hefyd gyda’i chwaer theatr, sef Theatr Genedlaethol Cymru. |
You had a number of questions about the national English-language theatre, but my announcement today was on the Arts Council of Wales being given the right to move forward with an advertisement for a chair and board members. I do not want to pre-empt the decisions that those people make on the direction of the theatre, but I assure you that collaboration with schools, colleges and local authorities, as you suggested, will be an integral part of the vision behind the concept of a national English-language theatre. The theatre will also collaborate closely with its sister theatre, Theatr Genedlaethol Cymru. |
I warmly welcome the comments that you made about joined-up thinking. If we are going to see culture, in particular, but also tourism, thrive, Ministers have to work across portfolios. I have already begun discussions with the Minister for Children, Education, Lifelong Learning and Skills, the Minister for Health and Social Services, the Minister for Social Justice and Local Government and the Deputy First Minister, who has responsibility for economic development and transport, on several issues that affect those portfolios as well as my own. |
Croesawaf yn fawr y sylwadau a wnaethoch am feddwl cydgysylltiedig. Os ydym i weld diwylliant, yn benodol, a thwristiaeth hefyd, yn ffynnu, rhaid i Weinidogion weithio ar draws portffolios. Yr wyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Brif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd a thrafnidiaeth, ar sawl mater sy’n effeithio ar y portffolios hynny yn ogystal â’m portffolio i. |
You referred to the Stephens review, and you wanted us to make certain commitments, but as I have said, today I am announcing the first meeting of the strategy board. I do not want to pre-empt that meeting and make statements now about matters that should be discussed at that level, but your reference to access for people from disadvantaged backgrounds to the arts in Wales is important. I can give you a firm commitment that, to my mind, the arts in Wales are in no way elitist, and they should not be confined to a certain section of the population; they should be there for everybody and it is our responsibility, as a Government, working with other institutions and organisations, to ensure that that happens. |
Cyfeiriasoch at adolygiad Stephens, ac yr oeddech yn dymuno inni wneud ymrwymiadau penodol, ond fel yr wyf wedi dweud, heddiw yr wyf yn cyhoeddi cyfarfod cyntaf y bwrdd strategaeth. Nid wyf am achub y blaen ar y cyfarfod hwnnw a gwneud datganiadau’n awr am faterion a ddylai gael eu trafod ar y lefel honno, ond mae’ch cyfeiriad at fynediad ar gyfer pobl o gefndiroedd difreintiedig i’r celfyddydau yng Nghymru’n un pwysig. Gallaf roi ymrwymiad pendant i chi nad yw’r celfyddydau yng Nghymru’n elitaidd mewn unrhyw fodd, yn fy marn i, ac ni ddylent fod yn gyfyngedig i ran benodol o’r boblogaeth; dylent fod ar gael i bawb a’n cyfrifoldeb ni, fel Llywodraeth, gan weithio gyda sefydliadau a chyrff eraill, yw sicrhau mai felly y byddant. |
4.50 p.m. |
|
Again, I welcome your comments on the Welsh language. You referred specifically to support for a daily newspaper in Welsh—yes, we are committed to supporting the establishment of such a paper. You referred to Y Byd, but if we were to support a daily newspaper, we obviously could not direct all our support towards one particular paper—it would have to go out to tender, and other applicants would have to be given the opportunity, if they so wished, to try to gain access to that funding. You asked about a specific sum; I see that the Minister for Finance and Public Service Delivery is here, and I am still negotiating that particular sum of money with him and his officials. Ultimately, it will be a Cabinet decision as to the money that goes towards a daily newspaper in Wales. However, the commitment is there—we are committed to supporting the establishment of a daily newspaper in Welsh. |
Unwaith eto, croesawaf eich sylwadau am y Gymraeg. Cyfeiriasoch yn benodol at gymorth ar gyfer papur newydd dyddiol yn y Gymraeg—ydym, yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi camau i sefydlu papur o’r fath. Cyfeiriasoch at Y Byd, ond pe byddem yn cefnogi papur newydd dyddiol, mae’n amlwg na allem roi ein holl gefnogaeth i un papur penodol—byddai’n rhaid ei chynnig ar dendr, a byddai’n rhaid i ymgeiswyr eraill gael cyfle, os dymunent, i geisio cael mynediad at y cyllid hwnnw. Holasoch am swm penodol; gwelaf fod y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yma, ac yr wyf yn dal i negodi’r swm penodol hwnnw gydag ef a’i swyddogion. Yn y pen draw, y Cabinet a fydd yn penderfynu ynghylch yr arian a aiff at bapur newydd dyddiol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r ymrwymiad wedi’i wneud—yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi camau i sefydlu papur newydd dyddiol yn y Gymraeg. |
Huw Lewis: That was a statement that I can warmly welcome without any real reservations. It is good to hear about progress on the English-language theatre, in particular. You will be aware, incidentally, of the arts council commitment to a Galeri-style arts centre in Merthyr Tydfil in my constituency. You may also be aware that Merthyr is the not-so-proud owner of a dilapidated and unused Victorian theatre with 700 seats. I just mention that in passing. With Merthyr County Borough Council, the Arts Council of Wales, and the University of Glamorgan currently working in partnership on a university campus, with public arts provision as part of the package, I believe that, as my Dad used to say, 'There is nothing for the dump’. All the ingredients are there for Merthyr to offer itself as a home for this exciting new theatre company. I just throw that into the mix for you to consider. |
Huw Lewis: Yr oedd hwnnw’n ddatganiad y gallaf ei groesawu’n gynnes heb unrhyw amheuon gwirioneddol. Mae’n dda clywed am gynnydd ar y theatr Saesneg, yn benodol. Byddwch yn ymwybodol, gyda llaw, o ymrwymiad cyngor y celfyddydau i gael canolfan gelfyddydau debyg i’r Galeri ym Merthyr Tudful yn fy etholaeth. Gallech fod yn ymwybodol hefyd fod Merthyr yn berchen o’i anfodd braidd ar theatr Fictoraidd wag ac adfeiliedig sydd â 700 o seddau. Nid wyf ond yn sôn am hynny wrth fynd heibio. Gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Phrifysgol Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd ar gampws prifysgol, gyda darpariaeth ar gyfer celfyddydau cyhoeddus yn rhan o’r pecyn, yr wyf yn credu, fel yr arferai fy nhad ddweud, 'nad oes dim ar ôl i’w daflu’. Mae popeth yn barod i Ferthyr allu ei gynnig ei hun yn gartref i’r cwmni theatr newydd cyffrous hwn. Nid wyf ond yn codi hynny fel un o’r pethau ichi eu hystyried. |
I would be happy to welcome you to Merthyr to discuss with various partners the potential that Merthyr has for arts provision, particularly in the performing arts. I would not underestimate that offer—it would be only the second time in my entire political life that I have welcomed a member of your party to my constituency, the first being Sunday evening, when the Presiding Officer spent some time with me in Aberfan. I can do inclusive; I am still standing, and I have not fainted. [Laughter.] |
Byddwn yn falch o’ch croesawu i Ferthyr i drafod gyda gwahanol bartneriaid yr hyn y gall Merthyr ei gynnig o ran darparu’r celfyddydau, yn enwedig ym maes celfyddydau perfformio. Ni fyddwn yn meddwl yn rhy isel o’r cynnig hwnnw—ni fyddai ond yr ail dro yn fy mywyd fel gwleidydd imi groesawu aelod o’ch plaid chi i’m hetholaeth i, a bu’r tro cyntaf nos Sul, pan dreuliodd y Llywydd ychydig o amser gyda mi yn Aberfan. Gallaf fod yn gynhwysol; yr wyf yn dal i sefyll, ac nid wyf wedi llewygu. [Chwerthin.] |
I notice that you did not specifically mention another issue that I have discussed briefly with you—I know that you have an interest in this, and it is an issue close to my heart—namely the possibility of a museum of people’s history for Wales. It is not in your statement, although you talked about strengthening museum provision. Is this specific strengthening of museum provision out of reach under 'One Wales’, do you believe, or can we hope that it will be further considered, notwithstanding the contents of your statement this afternoon? |
Sylwaf na chyfeiriasoch yn benodol at fater arall yr wyf wedi’i drafod gyda chi’n fyr—gwn eich bod yn ymddiddori yn hyn, ac mae’n fater sy’n agos i’m calon—sef y posibilrwydd o gael amgueddfa hanes y werin i Gymru. Nid oes cyfeiriad at hynny yn eich datganiad, er ichi sôn am gryfhau’r ddarpariaeth amgueddfeydd. A yw’r modd penodol hwn i gryfhau’r ddarpariaeth amgueddfeydd y tu hwnt i gyrraedd dan 'Cymru’n Un’, yn eich barn chi, neu a allwn obeithio y caiff ei ystyried ymhellach, er gwaethaf cynnwys eich datganiad y prynhawn yma? |
Rhodri Glyn Thomas: Thank you for that positive response to the statement; I think that I am on a roll here, and I am rather glad that the Deputy First Minister went before me. |
Rhodri Glyn Thomas: Diolch i chi am yr ymateb cadarnhaol hwnnw i’r datganiad; yr wyf yn credu bod lwc o’m plaid ar hyn o bryd, ac yr wyf yn eithaf balch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi mynd o’m blaen. |
I warmly welcome your response, and accept your kind invitation to visit your constituency. I would be happy to do that. I totally concur with you about the way in which Merthyr can play a crucial part in developing the arts. I welcome the arts centre that is to be established in Merthyr. I heard what you said about the English-language national theatre—again, I do not want to pre-empt decisions taken by the chair and directors of the board, but I am sure that they would be interested in the offer that you made of a home for that theatre. |
Croesawaf eich ymateb yn fawr, ac yr wyf yn derbyn eich gwahoddiad caredig i ymweld â’ch etholaeth. Byddwn yn falch o wneud hynny. Yr wyf yn cyd-fynd â chi’n llwyr ar y modd y gall Merthyr chwarae rhan holl bwysig wrth ddatblygu’r celfyddydau. Croesawaf y ganolfan gelfyddydau sydd i’w sefydlu ym Merthyr. Clywais yr hyn a ddywedasoch am y theatr genedlaethol Saesneg—unwaith eto, nid wyf am achub y blaen ar benderfyniadau a wneir gan y cadeirydd a chyfarwyddwyr y bwrdd, ond yr wyf yn siŵr y byddent yn ymddiddori yn y cynnig a wnaethoch o gartref i’r theatr honno. |
I did not mention the museum of people’s history in this statement because I specifically said that I was looking at my early commitments within the portfolio. However, the commitment is there in 'One Wales’, which I am sure that you have read with interest, Huw. We are currently discussing that particular issue. I look forward to referring to it specifically in the Chamber in the future. However, I assure you that it is not forgotten; it is very much on the agenda. |
Ni soniais am amgueddfa hanes y werin yn y datganiad hwn am fy mod wedi dweud yn benodol fy mod yn ystyried fy ymrwymiadau cyntaf yn y portffolio. Er hynny, mae ymrwymiad i hynny yn 'Cymru’n Un’, yr ydych wedi’i ddarllen gyda diddordeb, yr wyf yn siŵr, Huw. Yr ydym yn trafod y mater penodol hwnnw ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen at gyfeirio’n benodol ato yn y Siambr yn y dyfodol. Fodd bynnag, yr wyf yn eich sicrhau nad yw wedi mynd yn angof; mae dan ystyriaeth, yn sicr. |
Nerys Evans: Diolch yn fawr am y datganiad. Yr ydym yn croesawu’r manylion am y blaenoriaethau yn y portffolio, yn enwedig y datganiad am y theatr Saesneg i Gymru. Mae llwyddiant Theatr Genedlaethol Cymru yn fater o falchder i bob un ohonom, ac mae gennym gyfle yn awr i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy sefydlu theatr Saesneg i Gymru. |
Nerys Evans: Thank you for the statement. We welcome the details about your portfolio priorities, especially the statement about a national English-language theatre for Wales. The success of Theatr Genedlaethol Cymru is a source of pride for every one of us, and we now have an opportunity to build on that success by establishing an English-language theatre for Wales. |
Yr ydym yn falch o weld ymrwymiadau ieithyddol yn eich blaenoriaethau cynnar, yn enwedig gan fod sawl un ohonynt yn bolisïau Plaid Cymru. Yr ydym yn falch hefyd o weld Gweinidog o rengoedd Plaid Cymru yn gweithredu ar ein dyheadau yn y maes hwn. Mae gan bobl Cymru ddisgwyliad clir mai yng Nghymru y dylid llunio deddfwriaeth yn y maes ieithyddol; dylai pob pŵer yn y maes hwn fod yn y Cynulliad yn hytrach nag yn San Steffan. |
We are pleased that there are commitments on the language in your early priorities, especially as a number of those commitments are Plaid Cymru policies. We are also pleased to see a Minister from Plaid Cymru acting on our aspirations in this respect. The people of Wales clearly want to see legislation on the language being written in Wales; all powers in this field should lie with the Assembly rather than in Westminster. |
Fel y dywedasoch, mae’r Llywodraeth wrthi’n paratoi i gyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn, a chroesawn hynny’n fawr. Mae disgwyliad clir y dylai’r Gorchymyn fod mor eang â phosibl, er mwyn rhoi’r ystod ehangaf posibl o bwerau i’r Cynulliad yn y maes. Ni chaiff unrhyw rwystr o du San Steffan neu’r Ysgrifennydd Gwladol ei groesawu—byddai hynny’n cael ei ystyried yn frad. Mae’n anodd esbonio i bobl Cymru fod San Steffan yn ein rhwystro rhag derbyn y pwerau ehangaf posibl yn y maes ieithyddol. A wnewch chi ymrwymo, felly, i sicrhau bod y Gorchymyn hwn mor eang â phosibl? |
As you said, the Government is preparing to bring forward a legislative competence Order in this field, which we greatly welcome. There is a clear expectation that the Order should be as broad as possible, giving the Assembly the widest possible range of powers on the issue. Opposition to this from Westminster or by the Secretary of State will not be welcomed—it would be considered to be treason. It is difficult to explain to the people of Wales that Westminster is stopping us from gaining the widest possible powers in this field. Will you commit, therefore, to ensuring that this Order is as broad as possible? |
Rhodri Glyn Thomas: Diolch, Nerys, am ymateb cadarnhaol i’r datganiad. Ar y pwynt cyntaf, ynglŷn â’r berthynas rhwng y ddwy theatr genedlaethol, y naill drwy gyfrwng y Gymraeg a’r llall drwy gyfrwng y Saesneg, yr wyf yn falch iawn i ymuno â chi i longyfarch Theatr Genedlaethol Cymru ar ei llwyddiant. Credaf bod rhai o’i pherfformiadau, yn arbennig y perfformiad o’r ddrama Esther, ac eraill hefyd, yn berfformiadau aruchel iawn. Edrychaf ymlaen at weld y naill theatr a’r llall yn cydweithio ac yn cydweithredu. Gwelwyd cydweithio o’r fath yn ddiweddar rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr Cymru ar y cynhyrchiad o Porth y Byddar. Gobeithiaf mai dyna a fydd yn digwydd ac y bydd y naill a’r llall yn elwa o’r berthynas. |
Rhodri Glyn Thomas: Thank you, Nerys, for your positive response to the statement. On the first point, regarding the relationship between the two national theatres, one through the medium of Welsh and the other through the medium of English, I am very pleased to join you in congratulating Theatr Genedlaethol Cymru on its success. I believe that some of its performances, especially the performance of Esther, and others, were fantastic. I look forward to seeing both theatres co-operating and collaborating with each other. Such co-operation was recently seen between Theatr Genedlaethol Cymru and Clwyd Theatr Cymru on the production of Porth y Byddar. I hope that we will see that happening and that both theatres will benefit from the relationship. |
Mae’r pwynt ynglŷn â’r sefyllfa ieithyddol yn arbennig o bwysig. Credaf ei bod yn bwysig ar hyn o bryd ein bod yn canolbwyntio ar y gwaith o baratoi’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol a sicrhau ei fod yn eang, fel ein bod yn gallu edrych ar yr ystod o bethau sydd angen eu gwneud ynglŷn â’r iaith er mwyn sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg. Fy mwriad, yn sicr, yw cyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol a fydd yn trosglwyddo’r holl bwerau sy’n ymwneud â’r Gymraeg i’r Cynulliad, gan fy mod yn teimlo mai dyma’r lle priodol i wneud penderfyniadau am yr iaith. Mawr obeithiaf mai dyna fydd barn pawb a fydd yn ymwneud â’r broses hefyd. |
The point on the situation with regard to the language is particularly important. I believe that it is important that we concentrate at the moment on the work of preparing the legislative competence Order, ensuring that it is broad, so that we are able to deal with the range of work that needs to be done on the language in order to safeguard the rights of Welsh speakers. My explicit intention is to introduce a legislative competence Order that transfers all powers with regard to the Welsh language to the Assembly, as I believe that this is most appropriate place to make decisions on the language. I sincerely hope that everyone who is involved with this process will agree. |
Eleanor Burnham: Weinidog, yr wyf i hefyd yn croesawu eich datganiad ac, fel llefarydd fy mhlaid ar y materion hyn, edrychaf ymlaen at yr hyn sydd i ddod. Credaf bod y materion hyn yn rhan o bortffolio mwyaf allweddol y Cynulliad, gan ei fod yn cysylltu pawb â phob agwedd ar fywyd sydd mor bwysig i’n cenedl. Wrth gwrs, mae gennych enw da a pharch, hyd yn hyn, ac yr ydych wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd. |
Eleanor Burnham: Minister, I also welcome your statement, and, as my party’s spokesperson on these matters, I look forward to what is to come. I believe that these matters make up the Assembly’s key portfolio, as it links people with all aspects of life that are so important to our nation. You, of course, have respect and a good reputation, so far, and you have worked hard over the years. |
Croesawaf eich ymrwymiad, yn union fel y gwnaethom ni yn ein maniffesto, i gadarnhau statws statudol i’r iaith. Edrychaf ymlaen at yr hyn y bydd y comisiynydd iaith yn gallu ei wneud i hyrwyddo’r gwelliannau yr ydym am eu gweld. Hoffwn gael manylion ynglŷn â sut y bwriadwch weithredu argymhellion adolygiad Stephens, ond deallaf os nad yw hynny’n bosibl. |
I welcome your commitment to ensuring that the Welsh language is given statutory status; that was included in our manifesto. I look forward to what the language commissioner will be able to do to facilitate the improvements that we wish to see. I would like some details on how you intend to implement the recommendations of the Stephens review, but I will understand if that is not possible. |
Sut ydych yn bwriadu sicrhau cydweithrediad awdurdodau lleol? Yn ein maniffesto ni, yr oeddem am ddatblygu dyletswydd gofal tuag at ddarpariaeth ddiwylliannol fel cyfrifoldeb cyfreithiol ar awdurdodau lleol, yn yr un modd â’r Alban, i sicrhau bod cyfleoedd diwylliannol ar gael i bawb yn ein cymunedau. A ydych yn bwriadu gwneud rhywbeth tebyg? |
How do you intend to ensure the collaboration of local authorities? In our manifesto, we said that we would develop a duty of care for cultural provisions as a legal responsibility of local authorities, in the same way as is done in Scotland, to ensure that cultural opportunities were available to everybody in our communities. Do you intend to do anything similar? |
Mae gennyf rai pryderon ynglŷn â chraffu ar yr hyn y byddwch yn ei wneud. Nid wyf yn siŵr iawn ynglŷn â’r theatr Saesneg. Beth fydd rhan Clwyd Theatr Cymru yn y drefn newydd? Mae’r theatr honno yn gwneud gwaith arbennig o dda, sydd yn ennill clod rhyngwladol, fel y gwyddoch. |
I have some concerns about scrutinising what you will be doing. I am not sure about the English-language theatre. What part will Clwyd Theatr Cymru play in the new structure? That theatre does some very good work, which is of international renown, as you know. |
5.00 p.m. |
|
Yr wyf hefyd yn bryderus ynglŷn â’r diffyg arian. Faint yn fwy yr ydym yn debygol o’i golli o’r Loteri Genedlaethol oherwydd rheswm pwysig y Gemau Olympaidd yn Llundain? Fel y deallaf, bu cwtogi ofnadwy hyd yn hyn o ran chwaraeon a’r celfyddydau. A allwch chi ein helpu? |
I am also concerned about the lack of funding. How much more are we likely to lose from the National Lottery because of the Olympic Games in London, albeit that is an important cause? As I understand it, there have been huge cuts for both the arts and sports. Can you assist us in this regard? |
Yr wyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn teimlo’n wresog tuag atoch chi ac at eich tasg ac yn edrych ymlaen at wneud y gwelliannau yr ydym wedi bod yn disgwyl amdanynt ers peth amser. |
I am sure that we all feel warmly towards you and your task and are looking forward to making the improvements that we have been waiting for for some time. |
Rhodri Glyn Thomas: Diolch, Eleanor, am ymateb cadarnhaol. Gobeithio y bydd eich llais yn gwella cyn bo hir; credaf fy mod wedi llwyddo i glywed eich sylwadau yn iawn.
|
Rhodri Glyn Thomas: Thank you, Eleanor, for a positive response. I hope that your voice will get better soon; I think that I managed to hear your comments correctly. |
Leighton Andrews: Do you want a Strepsil, Eleanor? |
Leighton Andrews: Hoffech chi Strepsil, Eleanor? |
Rhodri Glyn Thomas: Yr wyf yn falch bod cydweithredu rhyngbleidiol yn digwydd, hyd yn oed er mwyn adferiad llais. |
Rhodri Glyn Thomas: I am pleased to see cross-party collaboration at work, even to save a voice. |
Cytunaf â’ch pwynt fod y portffolio hwn yn allweddol. Os ydym am weld y meysydd hyn—y celfyddydau yn arbennig, ond chwaraeon a thwristiaeth hefyd—yn llwyddo, mae’n rhaid gweithio’n drawsbynciol, a rhaid wrth gydweithredu rhwng Gweinidogion a’u gwahanol bortffolios. Fy mwriad yw sicrhau bod y celfyddydau yn destun gweithredu trawsbynciol yn y Cynulliad. |
I agree with you that this portfolio is crucial. If we are to see these areas—the arts in particular, but also sports and tourism—succeed, we have to have cross-cutting work, and collaboration between Ministers and across their portfolios. My intention is to ensure the arts are the focus of a cross-cutting approach in the Assembly. |
Cyfeiriasoch at y comisiynydd iaith. Mae’n ymrwymiad i sefydlu nid yn unig gomisiynydd, ond comisiwn iaith yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn amyneddgar ynglŷn â hyn, oherwydd, gan ein bod yn gweithio tuag at gyflwyno’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hwn yn y lle cyntaf, byddai ceisio newid swyddogaeth, statws neu ddull gweithredu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd yn gam a fyddai’n rhwystro yn hytrach na hyrwyddo hynny. Felly, fy mwriad yw cydweithredu â’r bwrdd fel ag y mae, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd rhagddi â’r broses o gyflwyno’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hwn, a gallwn edrych wedyn ar y gwaith sydd angen i ni ei wneud o ran sefydlu comisiynydd a chomisiwn a fydd yn diogelu hawliau’r Gymraeg wedi dyddiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel ag y mae yn awr. |
You referred to the language commissioner. There is a commitment to establish not only a language commissioner, but a language commission in Wales. However, we must be patient, because, since we are first working towards the introduction of a legislative competence Order, trying to change the function, status or mode of operation of the Welsh Language Board at this point would hinder rather than promote the achievement of that aim. Therefore, my intention is to work with the board as it stands in order to ensure that we can go on with the process of introducing the legislative competence Order, and then we can look at the work that needs to be done in order to establish a language commissioner and commission, which would safeguard Welsh-language rights following the demise of the Welsh Language Board as it stands. |
O ran adolygiad Stephens, mae’n anodd rhoi mwy o fanylion ar hyn o bryd, oherwydd byddai hynny’n rhagdybio yr hyn y bydd y bwrdd strategol yn ei drafod yn ei gyfarfod cyntaf. Ni fuasai hynny’n briodol. Yr wyf wedi sôn fy mod am weld cydweithio agosach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Celfyddydau Cymru a’r gymuned gelfyddydol yng Nghymru. Cam gwag fyddai i mi wneud datganiadau heddiw cyn i mi hyd yn oed gyfarfod ag aelodau’r bwrdd strategol. Fodd bynnag, yr wyf yn hapus i ddod yn ôl i drafod y materion hynny pan fyddaf wedi cael y cyfle i’w trafod â’r bobl a gaiff eu penodi i’r bwrdd. |
With regard to the Stephens report, it is difficult to give any more details at this point, because that would be to pre-empt what the strategy board will discuss in its first meeting. That would not be appropriate. I have mentioned that I would like to see closer co-operation between the Assembly Government and the Arts Council of Wales and the arts community in Wales. It would be pointless for me to make statements today before having met the members of the strategy board. However, I would be happy to come back to discuss those matters when I have had the opportunity to have a discussion with those who will be appointed to the board. |
Ni chredaf fod llawer o wahaniaeth rhwng yr hyn sydd yn 'Cymru’n Un’ a’r hyn a oedd yn 'Cytgord Cymru Gyfan’ ac ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol o safbwynt cydweithio ag awdurdodau lleol. Yr ydym yn sôn am gyfrifoldeb statudol i hyrwyddo diwylliant, ac nid yw hynny’n wahanol i’r hyn a glywais gan Eleanor am bolisi’r Democratiaid Rhyddfrydol. Caiff hynny ei wneud drwy gydweithrediad a thrafodaeth gydag awdurdodau lleol. Mae pob awdurdod lleol yn gwneud gwaith pwysig o ran diwylliant yng Nghymru, ond mae pwyslais gwahanol ar hyd a lled Cymru. Y peth cyntaf y byddwn am ei wneud yw sicrhau bod arfer da yn cael ei rannu rhwng awdurdodau, a’n bod yn gweld hynny’n datblygu. |
I do not think that there is a great deal of difference between what is in 'One Wales’ and what was in the 'All-Wales Accord’ and in the Liberal Democrats’ manifesto with regard to collaboration with local authorities. We are talking about a statutory duty to promote culture, and that is no different to what I heard from Eleanor about the Liberal Democrat’s policy. That will be done through co-operation and in discussion with local authorities. Every local authority does important work with regard to culture in Wales, but there is different emphasis across Wales. The first thing that I would like to do is to ensure that good practice is shared between authorities, and that we see that develop. |
Ynghylch Clwyd Theatr Cymru, yr wyf wedi trafod hyn gyda Terry Hands. Ni chredaf y byddwn yn datgelu unrhyw gyfrinachau pe bawn yn dweud nad oedd Terry yn neidio i fyny ac i lawr yn llawen pan glywodd y cyhoeddiad am sefydlu theatr genedlaethol Saesneg ei chyfrwng. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng yr hyn y mae Clwyd Theatr Cymru yn ei wneud a’r hyn y bydd y theatr newydd yn ei gyflawni. Mae Clwyd Theatr Cymru yn dŷ cynhyrchu mawr—y mwyaf yng Nghymru—yn yr ystyr o 'production house’ theatrig. Mae’r hyn a wneir gan Clwyd Theatr Cymru o’r safon orau. Fodd bynnag, mae angen amrywiaeth arnom mewn theatr genedlaethol, a bydd y theatr genedlaethol yn comisiynu gwaith oddi wrth theatrau ledled Cymru, gan gynnwys Clwyd Theatr Cymru. Mawr hyderaf y bydd y cydweithrediad gyda’r theatr honno yn fawr, ond ni welaf unrhyw newid yn yr hyn y mae Clwyd Theatr Cymru yn ei wneud ac yr wyf yn falch o gofnodi’r ffaith fy mod yn edmygu’n fawr yr hyn a wneir gan Clwyd Theatr Cymru. |
With regard to Clwyd Theatr Cymru, I have discussed this with Terry Hands. I do not think that I would be giving any secrets away in saying that Terry was not exactly jumping up and down with joy when he heard the announcement of the establishment of a national English-language theatre. However, there is a fundamental difference between what Clwyd Theatr Cymru does and what the new theatre will do. Clwyd Theatr Cymru is a large production house—the largest in Wales—in the theatrical sense. What it does is of the highest standard. However, we need variety in national theatre, and the national theatre will commission work from theatres across Wales, including Clwyd Theatr Cymru. I am very confident that there will be significant collaboration with that theatre, but I do not foresee any change in what Clwyd Theatr Cymru does and I am pleased to put on record my great admiration for what it does. |
Mae eich sylwadau am y loteri yn gywir. Mae fy nhortffolio i’n wynebu colledion mawr. Yr wyf yn falch fod y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gyllid yma i fy nghlywed yn dweud y byddaf yn wynebu problemau mawr gan fod y celfyddydau a chwaraeon yn mynd i golli mwy nag unrhyw elfen arall o weithgaredd y Cynulliad o ganlyniad i’r hyn a fydd yn digwydd o ran y loteri. |
Your comments about the lottery are correct. My portfolio is facing significant losses. I am pleased that the Minister responsible for finance is here to hear me say that I will face great problems because the arts and sports are going to lose more than any other element of the Assembly’s activities as a result of what is happening with regard to the lottery. |
Yr ydym yn croesawu’n fawr y ffaith y bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain yn 2012. Mae hynny’n fanteisiol ac mae cwmnïau o Gymru eisoes yn manteisio ar hynny. Bydd hefyd manteision o ran chwaraeon i Gymru, ond y realiti yw y bydd gwasgfa o ran y loteri. Bydd yn rhaid aros i weld pa effaith a gaiff hynny. Fel y Gweinidog, byddaf yn ceisio sicrhau bod yr effaith negyddol ar Gymru mor fach â phosibl, ond yr wyf yn ymwybodol y bydd hyn yn effeithio ar fy mhortffolio i ac yr wyf yn mawr obeithio y bydd y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gyllid yn cydymdeimlo’n fawr â mi.
|
We greatly welcome the fact that the Olympic Games are coming to London in 2012. That has its advantages and there are Welsh companies that are already taking advantage of that. There will be advantages in terms of sport for Wales, but the reality is that there will be pressure in relation to the lottery. We will have to wait and see what the effect of that will be. As the Minister, I will try to ensure that the negative impact on Wales will be as limited as possible, but I am aware that it will affect my portfolio and I greatly hope that the Minister with responsibility for finance will sympathise with me on this point. |
Lesley Griffiths: Members may have noticed that, earlier this afternoon, I tabled a question for the First Minister and I would now like to raise it with you, Minister: do you believe that Wales and Scotland should mount a joint bid to host the 2016 European football championship? It is fair to say that there is genuine cross-party support for such a bid and I appreciate that the timescale would be tight, if we were able to persuade Scotland because I know that the Scottish First Minister has indicated that he wants to go it alone. However, it is widely accepted that Scotland’s prospects of success on its own would be, frankly, zero. It is anticipated that with an extended format of 24 nations, due to European enlargement, successful bids would only be achieved by large countries or by smaller countries such as Wales and Scotland making a joint bid. Next year, the competition will be jointly hosted by Austria and Switzerland. I believe that a joint bid between Wales and Scotland could succeed as the necessary number of suitable stadiums could easily be met. So, would the Minister please make the necessary approach to the Football Association of Wales and to his counterpart in the Scottish Government to look into the feasibility of a joint bid being prepared? While it is obviously necessary for the football associations to submit the bid, I think that we, as politicians, should take the initiative and give them some leadership because they would clearly need political backing and Government support. So, I think that we should do it and I think that the majority of Welsh people would agree. I also had a written response from the First Minister, saying that he would be happy to engage in such discussions. So, I seek your assurance on this. |
Lesley Griffiths: Efallai i’r Aelodau sylwi fy mod wedi cyflwyno cwestiwn yn gynharach y prynhawn yma ar gyfer y Prif Weinidog a charwn yn awr ei godi gyda chi, Weinidog: a ydych yn credu y dylai Cymru a’r Alban lunio cais ar y cyd i gynnal pencampwriaeth pêl-droed Ewrop yn 2016? Teg dweud y ceir gwir gefnogaeth drawsbleidiol i gais o’r fath a gwerthfawrogaf y byddai’r amserlen yn dynn, petai modd i ni ddwyn perswâd ar yr Alban oherwydd gwn fod Prif Weinidog yr Alban wedi datgan ei fod am iddynt wneud hyn ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, cydnabyddir fod yr Alban yn bur annhebygol o lwyddo ar ei phen ei hun. Gyda fformat y bencampwriaeth yn ymestyn i 24 gwlad, yn sgil twf Ewrop, disgwylir mai dim ond gwledydd mawr neu wledydd bach megis Cymru a’r Alban yn cyflwyno cais ar y cyd a allai gyflwyno ceisiadau llwyddiannus. Flwyddyn nesaf, cynhelir y gystadleuaeth ar y cyd gan Awstria a’r Swistir. Credaf y gallai cynnig ar y cyd rhwng Cymru a’r Alban lwyddo gan y byddai’n hawdd darparu nifer angenrheidiol y stadia addas. Felly, a fyddai’r Gweinidog yn cysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a’r sawl sy’n cyfateb iddo yn Llywodraeth yr Alban i edrych ar ddichonoldeb paratoi cynnig ar y cyd? Er ei bod yn amlwg yn angenrheidiol i’r cymdeithasau pêl-droed gyflwyno’r cais, credaf y dylem ni fel gwleidyddion achub y blaen a rhoi rhywfaint o arweiniad ar hyn oherwydd yn amlwg byddai angen cefnogaeth wleidyddol arno a chefnogaeth gan y Llywodraeth. Felly, credaf y dylem wneud hyn a chredaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru’n cytuno. Cefais ateb ysgrifenedig gan y Prif Weinidog hefyd yn datgan y byddai’n fodlon cymryd rhan mewn trafodaethau o’r fath. Felly gofynnaf i chi fy sicrhau ynghylch hyn. |
Rhodri Glyn Thomas: You are right to say that the bid is primarily a matter for the FAW. However, I am happy, if the FAW seeks support from the Government of Wales, to offer as much support as we can, certainly to facilitate discussions with colleagues in Scotland to see how this could be achieved. However, it is primarily for the FAW to decide whether it wants to enter into a joint bid with Scotland. |
Rhodri Glyn Thomas: Yr ydych yn llygad eich lle pan ddywedwch mai mater i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn anad neb arall yw’r cais. Fodd bynnag, yr wyf yn fodlon, os bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ceisio cefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, cynnig cymaint o gefnogaeth ag y gallwn, yn sicr i hwyluso trafodaethau â’n cyfeillion yn yr Alban i weld sut y gellid cyflawni hynny. Fodd bynnag, Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn anad neb arall sydd i benderfynu a yw am lunio cais ar y cyd â’r Alban ai peidio. |
Jenny Randerson: I take this opportunity to welcome you to your new role and to say that I am certain that you will enjoy it greatly. I hope that you might bring a little more harmony to the area for which you have responsibility. |
Jenny Randerson: Achubaf ar y cyfle hwn i’ch croesawu i’ch swyddogaeth newydd a dweud fy mod yn ffyddiog y byddwch yn ei mwynhau’n fawr iawn. Gobeithiaf y byddwch yn dod ag ychydig mwy o gytgord i’r maes yr ydych yn gyfrifol amdano. |
I welcome in particular your reference to a Welsh-language LCO. Could you give us some detail of the principles on which that will be based? I understand that you cannot give us the full nitty-gritty of it, but I am aware that there are significant differences between your party and the Labour Party on the Welsh-language legislation, therefore, I would be interested to hear what principles you intend to enshrine in the LCO. |
Croesawaf yn benodol eich cyfeiriad at Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer yr Iaith Gymraeg. A allech roi rhywfaint o fanylion inni ynghylch yr egwyddorion a fydd yn sail iddo? Deallaf na allwch roi’r holl fanylion inni, ond yr wyf yn ymwybodol bod gwahaniaethau sylweddol rhwng eich plaid chi a’r Blaid Lafur o ran deddfwriaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, felly, hoffwn wybod pa egwyddorion yr ydych yn bwriadu eu cynnwys yn y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. |
On the Welsh language, I note that there is virtually no reference to the details of language policy and development; it relates to legislation and not language development. Perhaps you could give us some more detail on that because, as you are aware, legislation, although an important symbol, is only a small part of the whole important picture. |
Yng nghyswllt yr iaith Gymraeg, nodaf nad oes bron dim cyfeiriad at fanylion ynghylch polisi ar yr iaith Gymraeg na’i datblygiad; mae’n ymwneud â deddfwriaeth ac nid â datblygu iaith. Efallai y gallech roi ychydig mwy o fanylion i ni ynghylch hynny oherwydd fel y gwyddoch, er bod deddfwriaeth yn symbol bwysig, dim ond rhan fach o’r darlun mawr pwysig ydyw. |
5.10 p.m. |
|
I welcome your announcement on English-language theatre. I regret the fact that it is so late; it is not late from your point of view, but this is work that I was aware was under way prior to 2003, under the partnership Government of the time. It is nice to see it being picked up again. I have been disappointed at the lack of progress over the past four years. |
Croesawaf eich cyhoeddiad am theatr Saesneg ei hiaith. Gresynaf ei bod mor hwyr; nid yw’n hwyr o’ch safbwynt chi, ond gwyddom fod y gwaith hwn yn mynd rhagddo cyn 2003, dan Lywodraeth bartneriaeth y dydd. Braf yw gweld eich bod yn ailafael yn hwn eto. Cefais fy siomi gan y diffyg cynnydd dros y pedair blynedd diwethaf. |
I particularly welcome the inclusion of tourism in your portfolio. I have always thought that the links between our heritage, culture, sporting activity and tourism are so important to our economy that that connection is essential. In that context, there is no reference in your statement to an events strategy. You will recall that we used to have an events strategy, but, in the past four years, although we appeared to have an events strategy, it did not have any money associated with it and it had no profile. We have not had the development of international events coming to this country that I would like to have seen. I am interested to know whether you were planning to reintroduce that idea, give it some funding and take the lead in attracting important international events to Wales, which are so important to our international profile. |
Croesawaf yn arbennig gynnwys twristiaeth yn eich portffolio. Yr wyf bob amser wedi meddwl bod y cysylltiadau rhwng ein treftadaeth, ein diwylliant, ein gweithgarwch chwaraeon a’n twristiaeth mor bwysig i’n heconomi bod y cysylltiad hwnnw’n hanfodol. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw eich datganiad yn cyfeirio at strategaeth digwyddiadau. Cofiwch inni gael strategaeth digwyddiadau, ond, dros y pedair blynedd diwethaf, er bod gennym strategaeth digwyddiadau i bob golwg, nid oedd arian ynghlwm wrtho ac nid oedd proffil iddo. Ni ddatblygwyd dod â digwyddiadau rhyngwladol i’r wlad hon fel y carwn fod wedi’i weld. Hoffwn wybod a ydych yn bwriadu ailgyflwyno’r syniad hwnnw, rhoi rhywfaint o gyllid ar ei gyfer a chymryd yr awenau o ran denu digwyddiadau rhyngwladol pwysig i Gymru, sydd mor pwysig i’n proffil rhyngwladol. |
I welcome the reference to the importance of local government in the whole jigsaw and the concept of legal responsibility for the arts and culture being placed on local authorities. I have long felt that that was essential in order to engage local government fully in the work that you will be doing. In that context, and with reference to Huw Lewis’s intervention, I remind you that Merthyr is a very good case in point. Merthyr council was offered millions of pounds by the Arts Council of Wales over the past few years; it did not take that money because it was not able to provide the match funding. Will you take Huw Lewis up on his invitation and engage Merthyr council positively in the arts and culture scene? |
Croesawaf y cyfeiriad at bwysigrwydd llywodraeth leol yn y jig-so cyfan a chysyniad rhoi’r cyfrifoldeb cyfreithiol dros y celfyddydau a diwylliant i awdurdodau lleol. Yr wyf wedi teimlo ers tro byd bod hynny’n hanfodol er mwyn ymgysylltu llywodraeth leol yn llawn yn y gwaith y byddwch yn ei gyflawni. Yn y cyd-destun hwnnw, a gan gyfeirio at ymyriad Huw Lewis, yr wyf yn eich atgoffa bod Merthyr yn enghraifft dda iawn. Cynigiodd Cyngor Celfyddydau Cymru filiynau o bunnoedd i gyngor Merthyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf; ni chymerodd yr arian hwnnw oherwydd na allai ddarparu’r arian cyfatebol. A wnewch dderbyn gwahoddiad Huw Lewis ac ymgysylltu’n frwd â chyngor Merthyr yn y byd celfyddyd a diwylliant? |
Rhodri Glyn Thomas: I remember well working with you as the Minister when I was Chair of the former Culture Committee. I enjoyed that time very much, and a great deal was achieved during that period. I will refer to your last comment first; as Huw—my new friend—has already pointed out, many exciting things are happening in Merthyr with regard to the arts. I look forward to working with him to ensure that those projects are fully developed. It is important that we look forward rather than back with the arts and culture in Wales. |
Rhodri Glyn Thomas: Yr wyf yn cofio’n dda imi weithio â chi a chithau’n Weinidog a minnau’n Gadeirydd y cyn Bwyllgor Diwylliant. Mwynheais y cyfnod hwnnw’n fawr iawn, a chyflawnwyd llawer iawn yn ystod y cyfnod hwnnw. Cyfeiriaf at eich sylw olaf yn gyntaf; yn yr un modd ag y mae Huw—fy nghyfaill newydd—eisoes wedi nodi, mae nifer o bethau cyffrous yn digwydd ym Merthyr yng nghyswllt y celfyddydau. Edrychaf ymlaen at weithio ag ef i sicrhau y caiff y prosiectau hynny eu datblygu’n llawn. Mae’n bwysig ein bod yn edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl gyda’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. |
I can be this specific on the LCO: I believe that it should transfer all the powers regarding the Welsh language from Westminster to the Assembly. It is as simple as that. Decisions about the Welsh language should be made here, and, as Nerys said earlier, there is an expectation that that will be the case. I cannot see any argument for that not happening, but if people wish to put that argument, I will listen. |
Gallaf roi cymaint o fanylion â hyn i chi am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol: Credaf y dylai drosglwyddo’r holl bwerau sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg o San Steffan i’r Cynulliad. Mae mor syml â hynny. Dylid gwneud penderfyniadau ynghylch yr iaith Gymraeg yma, ac, fel y dywedodd Nerys yn gynharach, ceir disgwyliad mai dyna fydd yn digwydd. Ni allaf weld unrhyw ddadl dros beidio â gwireddu hynny, ond os bydd pobl yn dymuno cyflwyno’r ddadl honno, yr wyf yn fodlon gwrando. |
Language development is very important, and I have never believed that legislation itself can make a substantial difference to the position of the Welsh language. You will remember the work that we did on the Welsh language review and the introduction of 'Iaith Pawb’, during your tenure as Minister with responsibility for culture. An essential part of that was language planning throughout Wales, and, within that language planning, access to Welsh-language education, from nursery level to further and higher education. All of that is contained in 'One Wales’, and I look forward to working with the Minister for Children, Education, Lifelong Learning and Skills to ensure that everyone in Wales has access to education through the medium of Welsh if they so wish. |
Mae datblygu iaith yn bwysig iawn, ac nid wyf wedi credu erioed y gall deddfwriaeth ar ei phen ei hun wneud gwahaniaeth sylweddol i sefyllfa’r iaith Gymraeg. Cofiwch y gwaith a wnaethom ar yr adolygiad o’r iaith Gymraeg a chyflwyno Iaith Pawb, yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros ddiwylliant. Rhan hanfodol o hynny oedd cynllunio iaith ledled Cymru, ac, fel rhan o’r cynllunio hwnnw, mynediad at addysg drwy gyfrwng y Gymraeg o lefel meithrinfa i addysg bellach ac addysg uwch. Mae hynny i gyd wedi’i gynnwys yn 'Cymru’n Un’, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael gafael ar addysg drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno hynny. |
We must work on language planning. I was at a conference on language planning, organised by the Welsh Language Board, last week. A great deal of work has been done by the board since the days of 'Iaith Pawb’, and since it has been given the resources and the money to do a great deal of research into the Welsh language. We are now basing what we do on evidence. Language planning in Wales has developed a great deal. I look forward to seeing it develop even further. |
Rhaid inni weithio ar gynllunio iaith. Yr oeddwn mewn cynhadledd ar gynllunio iaith, a drefnwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, wythnos diwethaf. Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud gan y bwrdd ers dyddiau 'Iaith Pawb’, ac ers hynny rhoddwyd yr adnoddau a’r arian iddo wneud llawer o waith ymchwil ar yr iaith Gymraeg. Yr ydym bellach yn seilio’r hyn a wnawn ar dystiolaeth. Mae cynllunio ieithyddol yng Nghymru wedi datblygu’n sylweddol. Edrychaf ymlaen at ei weld yn datblygu ymhellach. |
The announcement on English-language theatre is to be welcomed; it can bring together a number of strands in Wales and ensure that a variety of productions is staged in Wales. I do not want to comment too much on that at present, because we are currently advertising for a chair and board members, and I do not want them to feel as though the Government is telling them what they should be doing, even before they are appointed. |
Mae’r datganiad ar theatr Saesneg i’w groesawu; gall ddod â sawl maes ynghyd yng Nghymru a sicrhau y caiff amryw o gynyrchiadau eu llwyfannu yng Nghymru. Nid wyf am wneud gormod o sylwadau am hynny ar hyn o bryd, oherwydd yr ydym yn hysbysebu am gadeirydd ac aelodau’r bwrdd, ac nid wyf am iddynt deimlo bod y Llywodraeth yn dweud wrthynt beth y dylent ei wneud, cyn iddynt gael eu penodi hyd yn oed. |
You are right that tourism is an essential part of the Welsh economy, contributing as it does £3 billion a year to the economy. On Thursday, I will be going to see the tourism showcase, which is being staged in north Wales for the first time. The showcase takes place every two years, and it has been held in Cardiff on the two previous occasions. I look forward to going to the showcase and to talking to people there. There will be some 250 tour operators and 100 exhibitors present. When it was last held, in 2005, it was estimated that it brought £1.5 million into the Welsh economy, and so it is very important. |
Yr ydych yn iawn bod twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru, gan ei bod yn cyfrannu £3 biliwn y flwyddyn at yr economi. Ddydd Iau, byddaf yn mynd i weld yr arddangosfa twristiaeth, sy’n cael ei chynnal yn y Gogledd am y tro cyntaf. Cynhelir yr arddangosfa bob dwy flynedd, ac fe’i cynhaliwyd yng Nghaerdydd ar y ddau achlysur blaenorol. Edrychaf ymlaen at fynd i’r arddangosfa ac at siarad â phobl yno. Bydd oddeutu 250 o gwmnïau gwyliau a 100 o arddangoswyr yno. Y tro diwethaf iddi gael ei chynnal, yn 2005, amcangyfrifwyd iddi gyfrannu £1.5 miliwn i economi Cymru, ac felly mae’n bwysig iawn.
|
Linking tourism with culture and heritage is also important. I want to see tourism based on telling a story about the people of Wales, about our history, culture and heritage. Sharing that with people gives them a sense of place, and of being something different, which is what we all look for when we go on holiday. We want to learn and experience something new. I hope to develop that. |
Mae cysylltu twristiaeth â diwylliant a threftadaeth yn bwysig hefyd. Hoffwn weld twristiaeth yn seiliedig ar adrodd stori am bobl Cymru, am ein hanes, ein diwylliant a’n treftadaeth. Mae rhannu hynny â phobl yn rhoi ymdeimlad o le iddynt, ac ymdeimlad o rywbeth gwahanol. Mae hyn yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn edrych amdano pan awn ar wyliau. Yr ydym am ddysgu a phrofi rhywbeth newydd. Gobeithiaf ddatblygu hynny. |
The events strategy is important. I have discussed it with the Deputy First Minister, who has responsibility for economic development and transport, which come within that field. Therefore, we will have to look at the events strategy. Last week, the shortlist for the Artes Mundi prize was announced in the Senedd. The Artes Mundi prize is a good example of something that brings worldwide recognition to Wales. Artists from Afghanistan to Australia were nominated on the shortlist. |
Mae’r strategaeth digwyddiadau yn bwysig. Yr wyf wedi ei thrafod â’r Dirprwy Brif Weinidog, sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd a thrafnidiaeth, sy’n dod o fewn y maes hwnnw. Felly, bydd yn rhaid inni edrych ar y strategaeth digwyddiadau. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd rhestr fer ar gyfer y wobr Artes Mundi yn y Senedd. Mae gwobr Artes Mundi yn enghraifft dda o rywbeth sy’n rhoi cydnabyddiaeth i Gymru yn fyd-eang. Cafodd arlunwyr o Affganistan i Awstralia eu henwebu ar gyfer y rhestr fer. |
The statutory obligation on local government is important, but we have to work closely with authorities so that we are not telling them what to do or directing them, but working with them to ensure that best practice is shared throughout Wales. People can get far more access to culture locally, within their local authority areas. |
Mae’r rhwymedigaeth statudol ar lywodraeth leol yn bwysig, ond rhaid inni weithio’n agos ag awdurdodau er mwyn osgoi dweud wrthynt beth i’w wneud neu roi cyfarwyddyd iddynt. Yn hytrach dylem weithio gyda hwy i sicrhau y caiff yr arferion gorau eu rhannu ledled Cymru. Gall pobl gael llawer mwy o gyfle i fanteisio ar ddiwylliant yn lleol, yn ardaloedd eu hawdurdodau lleol. |
Alun Davies: Weinidog, hoffwn gymryd y cyfle hwn i’ch croesawu i’ch swydd ac i ddymuno pob llwyddiant i chi yn ystod y blynyddoedd nesaf. Croesawaf eich datganiad ond hoffwn ofyn sawl cwestiwn i chi am wahanol rannau ohono. |
Alun Davies: Minister, I want to take this opportunity to welcome you to your role and to wish you all the best over the next few years. I welcome your statement but I want to ask you several questions about various aspects of it. |
Croesawaf eich datganiad o safbwynt y polisi iaith. Cawsom sawl trafodaeth ac anghytundeb ar natur statws swyddogol yn ystod yr ymgyrch etholiadol. A ydych wedi symud ymlaen gydag unrhyw ddadansoddiad o’r hyn y mae hynny’n ei olygu? Cytunwyd y byddem yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg ac i’r Saesneg yn ystod trafodaethau 'Cymru’n Un’, ond nid wyf yn deall o hyd yr hyn y mae’n ei olygu; ni ddeallaf sut y gwnaiff hynny fy helpu i, a llawer o Gymry, i fagu plentyn yn ddwyieithog na sut y gall ddatblygu ffordd i’r Gymraeg ffynnu yn ein cymunedau. A wnewch chi egluro’n union yr hyn y mae’n ei olygu? A wnewch chi sicrhau hefyd ein bod yn ymgynghori’n eang cyn inni ddeddfu neu symud at unrhyw fath o broses ddeddfu ar y polisi iaith? |
I welcome your statement from the point of view of the language policy. During the election campaign, we had many discussions and disagreements on the nature of official status. Have you moved on as regards making any analysis of what that means? During the negotiations on 'One Wales’, we agreed that we would give official status to the Welsh and English languages, but I still do not understand exactly what that means; I do not understand how that will help me, and many other Welsh people, to raise a child to be bilingual, nor how it will develop ways for the language to thrive in our communities. Will you please explain exactly what that means? Will you also please ensure that we consult widely before legislating, or before even moving towards any kind of legislative process, on language policy? |
5.20 p.m. |
|
Tra ydym yn ystyried y polisi iaith, mae’n bwysig ein bod yn ceisio uno cymunedau yn hytrach na chreu’r posibilrwydd o dyndra. Mawr obeithiaf y byddwch yn gallu fy sicrhau y prynhawn yma y bydd ymgynghori eang yn ystod y misoedd nesaf ar sut y byddwn yn deddfu i sicrhau bod gan Gymry Cymraeg fwy o hawliau, fel a ddywedwyd gennym eisoes—er fy mod yn parhau i fod yn ansicr ynghylch yr hyn y mae hynny’n ei olygu. Felly, pan symudwn ymlaen, bydd cytundeb eang wedi’i sefydlu cyn i’r broses ddeddfu ddechrau, ac ni fyddwn yn creu’r tyndra a fyddai’n bosibl mewn cymunedau o gwmpas Cymru. |
While we are considering language policy, it is important that we try to unite communities rather than creating possible tension. I greatly hope that you will be able to assure me this afternoon that there will be a wide-ranging consultation over the coming months on how to legislate to ensure that Welsh speakers are given more rights, as has already been said—although I remain unsure as to precisely what that means. Therefore, when we move forward, a broad agreement will already have been reached before the legislative process has even begun, and there will not be that tension that could arise in communities around Wales. |
O ran y polisi diwylliant a chelfyddydau, yr wyf yn falch iawn eich bod wedi croesawu adroddiad Stephens, sy’n cynnwys sawl elfen bwysig. Mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith y bu ichi ddweud eich bod am ddeddfu yn y maes hwn hefyd. Beth mae hynny yn ei olygu? A oes gennych gynlluniau i weithio gyda llywodraeth leol i sicrhau fod gan bobl yr hawl—os ydym yn sôn am yr agenda hawliau eto—i gymryd rhan yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol? Yn y cyd-destun hwn, yr wyf hefyd yn croesawu yr hyn yr ydych wedi ei ddweud am theatr Saesneg ei chyfrwng, sydd hefyd yn bwysig. |
On culture policy and the arts, I am very pleased that you have welcomed the Stephens report, which contains several important elements. I am interested in the fact that you said that we would be looking to legislate in this area, too. What does that mean? Do you have any plans to work with local government to ensure that people have the right—if we are talking about the rights agenda again—to participate both culturally and socially? In that context, I also welcome what you said in your statement about English-language theatre, which is also important. |
Gorffennaf drwy ategu yr hyn a ddywedodd fy ffrind, Lesley, yn ei chyfraniad hi. Yr oeddwn yn siomedig iawn i glywed datganiad cyntaf Alex Salmond fel Prif Weinidog yr Alban, sef nad oedd eisiau gweithio gyda neb arall i sicrhau bod twrnamaint yr Ewro 2016 yn dod i’r Alban. Yr oedd yn ddatganiad hynod siomedig, felly mawr obeithiaf y byddwch yn gallu cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chymdeithas yr Alban i sicrhau bod Cymru a’r Alban yn cydweithio. Mae Gwlad Pwyl a’r Wcráin wedi gwneud hynny, ac ni welaf unrhyw reswm pam na all dwy wlad Geltaidd wneud hynny. |
I conclude by reiterating what my friend, Lesley, said in her contribution. I was most disappointed to hear Alex Salmond’s first statement as First Minister of Scotland, namely that he did not want to work with anyone else to ensure that the Euro 2016 tournament goes to Scotland. His statement was most disappointing, and I greatly hope that you can co-operate with the Football Association of Wales and the Scottish FA to ensure that Wales and Scotland collaborate on this. Poland and the Ukraine have already done so, and I see no reason why two Celtic countries cannot come together to do so, too. |
Rhodri Glyn Thomas: Unwaith yn rhagor, croesawaf ymateb cadarnhaol ac adeiladol fy hen ffrind, Alun Davies. |
Rhodri Glyn Thomas: Once again, I welcome the positive and constructive response of my old friend, Alun Davies. |
Mae’n bwysig ein bod yn diffinio ein telerau yn ofalus o ran y Gymraeg. Yr wyt yn sôn am greu statws swyddogol i’r Gymraeg, Alun, ond nid dyna y mae 'Cymru’n Un’ yn ei ddweud; mae’n dweud ein bod yn cadarnhau statws y Gymraeg. Yn syml ddigon, mae gan y Gymraeg yr un statws â’r Saesneg—neu gellid dweud bod gan y Saesneg yr un statws â’r Gymraeg yng Nghymru. Dyna’r sefyllfa o ran statws. Y cwbl yr ydym ni’n ei wneud fel Llywodraeth yw cadarnhau hynny. Y gwir amdani yw bod bron pedair gwaith cynifer o bobl yn siarad Saesneg yng Nghymru ag sy’n siarad Cymraeg. Dyna’r gwahaniaeth, ond nid oes gwahaniaeth o ran statws yr ieithoedd. |
It is important that we define our terms carefully in terms of the Welsh language. You talk about giving Welsh official status, Alun, but that is not what 'One Wales’ says; it states that we confirm the status of the language. To put it in simple terms, Welsh already has the same status as English—or you could say that English has the same status as Welsh, in Wales. That is the current position on the language’s status. All that we are doing, as a Government, is confirming that. The fact of the matter is that nearly four times more people speak English in Wales than speak Welsh. That is the difference, but there is no difference in terms of the status of either language. |
O ran ymgynghori, yr wyf yn bwriadu ymgynghori yn helaeth ar y mater hwn, gan roi cyfle i bawb fynegi eu barn. Fodd bynnag, ni fydd hynny’n rheswm nac yn esgus i arafu’r broses o symud ymlaen ar y mater hwn, gan ein bod wedi ymrwymo i wneud hynny. Yr wyf eisoes wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda Huw Irranca-Davies, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru. Yr wyf yn bwriadu trafod gyda Hywel Francis, cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan. Yr wyf eisoes wedi cyfarfod gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru, a byddaf yn cwrdd â chyrff eraill sy’n ymwneud â byd busnes yng Nghymru. Yr wyf hefyd wedi cael cyfarfodydd ag ystod eang o fudiadau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn datblygiadau o ran y Gymraeg.
|
On consultation, I intend to consult widely on this matter, giving everyone an opportunity to express a view. However, that will be neither a reason nor an excuse to delay the process of moving forward on this matter, given that we have committed to do that. I have already held positive discussions with Huw Irranca-Davies, the Minister in the Wales Office. I intend to discuss with Hywel Francis, the chair of the Select Committee on Welsh Affairs at Westminster. I have already met the Confederation of British Industry in Wales, and I will be meeting with other organisations involved with the world of business in Wales. In addition, I have held meetings with a wide range of organisations in Wales that have an interest in developments as regards the Welsh language. |
Yr wyf yn croesawu yn fawr yr hyn a ddywedodd Alun am adroddiad Stephens. Mae’r adroddiad yn bwysig, ac, fel Llywodraeth, yr ydym wedi ymrwymo i weithredu ar sail ei argymhellion, gan wireddu’r hyn yr oedd yr adroddiad yn ei grynswth yn ceisio ei sicrhau o fewn y byd celfyddydol. Nid yw hynny’n golygu y gweithredir ar bob un atalnod llawn a choma yn adroddiad Stephens, ond yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn symud ymlaen gyda’r agenda a osodwyd gan Stephens. Yr wyf yn llongyfarch yr Athro Elan Closs Stephens a’r pwyllgor a oedd yn ei chefnogi gyda’r adroddiad hwn. Mae o gymorth mawr i sicrhau cydweithredu rhwng y Llywodraeth ganolog, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r holl gyrff a sefydliadau sy’n bodoli yn y byd celfyddydol, a’r bwriad yw cydweithio’n agos iawn â’r cyrff hynny, gan sicrhau ein bod yn symud i’r un cyfeiriad. |
I warmly welcome what Alun said about the Stephens report. It is an important report, and, as a Government, we are committed to implementing its recommendations, and realising what the report in its entirety was trying to secure for the arts world. That does not mean that we will act on each and every full stop and comma in the Stephens report, but what is important is that we move forward with the agenda set by Stephens. I congratulate Professor Elan Closs Stephens and the committee that supported her with this report. It is of great assistance to ensure co-operation between central Government, the Arts Council of Wales, and all those other organisations that exist in the world of the arts, and our intention is to collaborate closely with those bodies, to ensure that we are all moving in the same direction. |
Yr wyf eisoes wedi cyfeirio at y cyfrifoldebau statudol sydd gan lywodraeth leol a thrwy gydweithredu y bydd hwnnw’n digwydd, ac yn sicr nid drwy orfodaeth—er bod cyfrifoldeb statudol yn awgrymu elfen o orfodaeth. Yr wyf yn hyderus y gallwn symud ymlaen gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod hynny’n digwydd. |
I have already referred to the statutory responsibilities on local government, and that will work only through co-operation, and certainly not by compulsion—although statutory responsibility, by definition, implies an element of compulsion. I am confident that we can move forward with local authorities and the Welsh Local Government Association to ensure that that happens. |
Lynne Neagle: Minister, you will be aware that Blaenavon in my constituency is held up as a beacon of heritage-led regeneration across the UK and, indeed, as a regeneration success story, it is now being held up as an example to other world heritage sites across the globe. Can the Minister offer an assurance that the fantastic work at Blaenavon will continue to receive the support that it requires in order to move forward as a world-class tourist offer—in particular, through extra support from Cadw to make up any decline in the grants on offer from the heritage lottery fund? |
Lynne Neagle: Weinidog, gwyddoch fod Blaenafon yn fy etholaeth i yn cael ei hystyried yn enghraifft wych o adfywio treftadaeth ledled y DU ac, yn wir, fel llwyddiant yn y maes adfywio, caiff bellach ei ystyried yn esiampl i safleoedd treftadaeth eraill ledled y byd. A all y Gweinidog roi sicrwydd y bydd y gwaith rhagorol ym Mlaenafon yn parhau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arno er mwyn datblygu i fod yn atyniad twristiaid o’r radd flaenaf—yn arbennig, drwy gymorth ychwanegol gan Cadw er mwyn gwneud iawn am unrhyw ostyngiad yn y grantiau sydd ar gael o gronfa treftadaeth y Loteri? |
Rhodri Glyn Thomas: I certainly agree with you that Blaenavon is a prime example of what can be done in terms of heritage regeneration. It is an important site, and it is a site of world recognition. We hope that Pontcysyllte in north Wales also achieves that recognition, because it has been nominated for world heritage status. I will certainly discuss with Cadw the possibility of supporting the work being done at Blaenavon. However, I can assure you that I see that work as being important, and it offers leadership to other parts of Wales. It is certainly in line with my vision of heritage and culture being at the heart of tourism and of regeneration for our communities. |
Rhodri Glyn Thomas: Yn sicr, cytunaf â chi fod Blaenafon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei wneud o ran adfywio treftadaeth. Mae’n safle pwysig, ac mae’n safle a gaiff gydnabyddiaeth fyd-eang. Yr ydym yn gobeithio y caiff Pontcysyllte yn y Gogledd yr un gydnabyddiaeth, oherwydd fe’i henwebwyd ar gyfer statws treftadaeth y byd. Yn sicr byddaf yn trafod y posibilrwydd o gefnogi’r gwaith a wneir ym Mlaenafon gyda Cadw. Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau fy mod yn ystyried y gwaith hwnnw’n waith pwysig, ac mae’n cynnig arweiniad i rannau eraill o Gymru. Mae’n sicr yn cyd-fynd â’m gweledigaeth o roi treftadaeth a diwylliant wrth wraidd twristiaeth ac adfywio yn ein cymunedau. |
Janet Ryder: Like many other people, I welcome the linking of tourism and sport. I am sure that you are aware that, last year, the Rugby Football League ran a successful weekend of Millennium Magic in Cardiff. It brought many people from England in to see the sport, and many Welsh people also went to see rugby league for the first time. The Rugby Football League has made it clear that it will support that for the next two years. Will you work with the league to develop that weekend and give it the publicity that it should have had? Many people felt that, in the rugby-league world, it did not have the publicity that it should have had. Let us fill that stadium with lots of tourists. Let us also fill Cardiff and give everyone a taste of what top-class rugby league is really like.
|
Janet Ryder: Fel sawl un arall, croesawaf y syniad o greu cyswllt rhwng twristiaeth a chwaraeon. Mae’n siŵr y gwyddoch i’r Gynghrair Rygbi gynnal penwythnos llwyddiannus o’r enw 'Millennium Magic’ yng Nghaerdydd. Denodd lawer o bobl o Loegr i weld y gêm, ac aeth llawer o Gymry hefyd i weld rygbi’r gynghrair am y tro cyntaf. Mae’r Gynghrair Rygbi wedi dweud yn glir y bydd yn cefnogi’r digwyddiad hwnnw am y ddwy flynedd nesaf. A weithiwch gyda’r gynghrair i ddatblygu’r penwythnos hwnnw a rhoi cyhoeddusrwydd dyledus iddo? Mae llawer o bobl yn teimlo na chafodd gyhoeddusrwydd haeddiannol ym myd rygbi’r gynghrair. Gadewch inni lenwi’r stadiwm hwnnw gyda llu o dwristiaid. Gadewch inni hefyd lenwi Caerdydd a rhoi profiad i bawb o rygbi’r gynghrair o’r radd flaenaf. |
Rhodri Glyn Thomas: We all know of your passion for rugby league, and there are many attractions to concentrating on rugby league at this moment. [Laughter.] I agree that it was an important event, and we hope to be able to support rugby league in the future, and see it develop further in Wales. |
Rhodri Glyn Thomas: Gwyddom oll am eich hoffter o rygbi’r gynghrair, ac mae canolbwyntio ar rygbi’r gynghrair yn atyniadol iawn ar hyn o bryd. [Chwerthin.] Cytunaf ei fod yn ddigwyddiad pwysig, a gobeithiwn y gallwn gefnogi rygbi’r gynghrair yn y dyfodol, a’i weld yn datblygu ymhellach yng Nghymru. |
Gareth Jones: Mae fy nghwestiwn i’n ymwneud â rygbi hefyd. Hoffwn ddiolch ichi am y datganiad, Weinidog, a’ch llongyfarch, a dymuno’n dda ichi. |
Gareth Jones: My question also relates to rugby. I want to thank you for your statement, Minister, and I congratulate you, and wish you all the best. |
Bu i Undeb Rygbi Cymru ad-drefnu’r gêm ychydig yn ôl gan greu timoedd rhanbarthol. Yn sgil hynny—ac yn sgil canlyniad gêm dydd Sadwrn diwethaf, efallai—mae gwacter yng ngogledd Cymru. Nid oes tîm rhanbarthol yno er bod talent i’w gael yno. Efallai pe bawn wedi datblygu tîm yn y gogledd, byddai canlyniad dydd Sadwrn diwethaf wedi bod yn dra gwahanol. Mae rygbi’n rhan bwysig o’n treftadaeth. Yr ydym yn cael ein hesgeuluso braidd yn y gogledd, ac yr wyf yn siŵr eich bod am hyrwyddo’r gêm yn y rhan honno, fel y gallwn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus iawn i’r gêm yng Nghymru. |
The Welsh Rugby Union restructured the game some time ago, creating regional teams. As a result of that—and perhaps as a result of the outcome of last Saturday’s game—there is a vacuum in north Wales. There is no regional team there, although there is plenty of talent to be had. Perhaps if we had developed a regional team for north Wales, the result on Saturday would have been very different. Rugby is an important part of our heritage, but we are being somewhat neglected in north Wales, and I am sure that you would want to promote the game in that region, so that we can look forward to a bright future for the game in Wales. |
Rhodri Glyn Thomas: Diolch yn fawr iawn, Gareth. Fel rhywun a gafodd ei eni a’i fagu yn y gogledd ac a chwaraeodd gryn dipyn o rygbi yn ei ddyddiau ifanc yno, yr wyf yn awyddus iawn i ymestyn y cyfle i bawb yng Nghymru i gael mynediad at chwaraeon. Credaf ein bod weithiau yn gorbwysleisio chwaraeon elitaidd, ac yn anghofio y dylai chwaraeon fod ar gael i bawb. Mae gan chwaraeon rôl eithriadol o bwysig o ran hyrwyddo nifer o bolisïau canolog y Llywodraeth—ym meysydd addysg ac iechyd, er enghraifft. |
Rhodri Glyn Thomas: Thank you very much, Gareth. As someone who was born and raised in north Wales, and played a good deal of rugby there in his younger days, I am very keen to extend the opportunity for everyone in Wales to have access to sports. I believe that we sometimes overemphasise elitist sports, and forget that sports should be accessible to all. Sport has an incredibly important role to play in promoting many of the policies of central Government—in the field of education and health, for instance. |
5.30 p.m. |
|
Mae dau gynllun ar hyn o bryd: un ar gyfer ysgolion uwchradd, sef y cynllun 5x60 sy’n ceisio sicrhau fod pob plentyn yn gwneud 60 munud o ymarfer corff bum gwaith yr wythnos, ac mae manteision enfawr i hynny. Wedyn, mae Campau’r Ddraig yn yr ysgolion cynradd sydd yn ceisio cyflwyno plant rhwng saith ac 11 oed i ystod eang o weithgareddau chwaraeon. Yr ydym ni, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i hynny. Mae dros £7 miliwn wedi’i ddynodi ar gyfer cynlluniau mewn ysgolion uwchradd dros y dair blynedd ac mae £1 miliwn y flwyddyn ar gyfer gweithgareddau mewn ysgolion cynradd. Fel Llywodraeth, yr ydym yn ceisio sicrhau bod cyfle gan blant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad at chwaraeon ac i gael ymarfer corff yn gyson. |
There are two schemes at the moment: one for secondary schools, namely the 5x60 scheme, which tries to ensure that every child does 60 minutes of exercise five times a week, which is of huge benefit. Furthermore, there is Dragon Sport in primary schools, which tries to introduce children from seven to 11 years old to a wide range of sporting activities. As a Government, we are committed to this. Over £7 million has been allocated to secondary school schemes over the three years and £1 million per year has been allocated for primary school activities. As a Government, we are trying to ensure that children and young people in Wales have an opportunity to gain access to sport and participate in exercise on a regular basis. |
O ran rygbi rhanbarthol ar y lefel uchaf, cytunaf hefyd y dylem sicrhau fod cyfleoedd i chwaraewyr o Gymru. Mae nifer o chwaraewyr o Gymru wedi llwyddo ar y lefel uchaf posibl, ac wedi eu geni a’u magu yn y Gogledd. Yr wyf yn sicr yn barod i drafod ag Undeb Rygbi Cymru yr angen i edrych i’r dyfodol. |
In terms of regional rugby, on the highest level, I also agree that we should ensure that there are opportunities for players from Wales. Many players from Wales have been successful on the highest possible level, and have been born and bred in north Wales. I would certainly be willing to discuss the need to look to the future with the Welsh Rugby Union. |
Rosemary Butler: I welcome this, your first statement, Minister, and I hope that you enjoy the role, but also deliver. As you know, I believe strongly that the arts should be at the heart of Government, not just an add-on, and I am therefore pleased that you have already been talking to other Ministers. |
Rosemary Butler: Yr wyf yn croesawu hwn, eich datganiad cyntaf, Weinidog, ac yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r rôl, ond hefyd yn cyflawni. Fel y gwyddoch, credaf yn gryf y dylai’r celfyddydau fod wrth wraidd Llywodraeth, nid yn rhywbeth ychwanegol yn unig, ac yr wyf yn falch felly ichi fod yn siarad eisoes â Gweinidogion eraill. |
I know of your personal enthusiasm for cultural tourism and therefore it is good that tourism has been added to your portfolio. I look forward to your coming back with some exciting cultural tourism projects, particularly in relation to the Chartism project that is happening around Newport. As you were Chair of the Culture Committee in past, I hope that you are not going to turn poacher-cum-gamekeeper and ignore the recommendations of the former Culture, Welsh Language and Sport Committee. I am pleased that you are going to deliver on a national English-language theatre. I wish you well in talking to the Football Association of Wales about anything. [Laughter.] |
Gwn am eich brwdfrydedd personol dros dwristiaeth ddiwylliannol ac mae’n beth da felly bod twristiaeth wedi’i hychwanegu at eich portffolio. Edrychaf ymlaen atoch yn dychwelyd â sawl prosiect twristiaeth ddiwylliannol cyffrous, yn benodol gyda golwg ar y prosiect Siartiaeth sy’n digwydd o amgylch Casnewydd. Gan y buoch yn Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant yn y gorffennol, gobeithiaf na fyddwch yn troi’n botsiwr a chiper yn un ac anwybyddu argymhellion y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon blaenorol. Yr wyf yn falch eich bod yn mynd i wireddu’r theatr Saesneg genedlaethol. Dymunaf yn dda ichi wrth ichi siarad am unrhyw beth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru. [Chwerthin.] |
I am also glad to hear that you will be working more closely with local authorities. However, I am a little disappointed that there was no mention of a gallery of contemporary art in the statement. The report was finished quite some time ago—a joint report by the Arts Council of Wales and the National Museum Wales—it was discussed by the committee and we were in favour of it. I invite you to come to Newport to meet the vice-chancellor of the university, who is keen for his new arts complex, in the middle of the city of Newport, to be used to house the gallery of contemporary art. If you would like to come along and discuss that with him and the leader of the council, I am sure that, in your next statement, you will be able to say that you are going to deliver on a gallery of contemporary art and that it will be located in Newport. |
Yr wyf hefyd yn falch o glywed y byddwch yn gweithio’n agosach gydag awdurdodau lleol. Fodd bynnag, yr wyf ychydig yn siomedig nad oedd unrhyw sôn am oriel celf gyfoes yn y datganiad. Cwblhawyd yr adroddiad gryn amser yn ôl—adroddiad ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru—bu’r pwyllgor yn ei drafod ac yr oeddem o’i blaid. Yr wyf yn eich gwahodd i ddod i Gasnewydd i gyfarfod ag is-ganghellor y brifysgol, sy’n awyddus i’w ganolfan gelfyddydau newydd, yng nghanol dinas Casnewydd, gael ei defnyddio’n gartref i’r oriel celf gyfoes. Os hoffech ddod a thrafod hynny ag ef ac arweinydd y cyngor, yr wyf yn siŵr y gallwch ddweud, yn eich datganiad nesaf, eich bod yn mynd i wireddu’r nod o gael oriel celf gyfoes ac mai yng Nghasnewydd y bydd yr oriel honno. |
| Rhodri Glyn Thomas: I have already accepted an invitation from the leader of Newport City Council and he is very enthusiastic about the project. I am happy to come along and talk about those matters; we can discuss the gallery at the same time. | Rhodri Glyn Thomas: Yr wyf eisoes wedi derbyn gwahoddiad gan arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac mae’n frwdfrydig iawn dros y prosiect. Yr wyf yn fodlon dod a siarad am y materion hynny; gallwn drafod yr oriel yr un pryd. |
Y Diprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Yr wyf am wneud datganiad ar y cyhoeddiad bod swyddi yn cael eu colli yn Ne Caerdydd a Phenarth, sef y cyhoeddiad a wnaed gan gwmnïau JR Freeman a Carrington Wire Cyf. |
The Deputy First Minister and Minister for the Economy and Transport (Ieuan Wyn Jones): I wish to make a statement on the announcement of job losses in Cardiff South and Penarth by JR Freeman and Carrington Wire Ltd. |
I am sure that the whole Assembly will recognise that these announcements are disappointing news, not least for the workers who are directly affected, and our thoughts are with them and their families at this time. |
Yr wyf yn sicr y bydd y Cynulliad i gyd yn cydnabod bod hyn yn newyddion siomedig, yn enwedig, wrth gwrs, i’r gweithwyr fydd yn colli eu swyddi. Yr ydym yn meddwl amdanynt a’u teuluoedd ar yr adeg hon. |
Nevertheless, I am sure that it is also important for us to recognise that this news takes place against the background of what remains a vibrant local labour market, boasting levels of unemployment and employment that are among the best witnessed for a generation. For example, in Cardiff South and Penarth, the number of jobseeker’s allowance claimants has fallen by some 13 per cent on the previous year. Against such a positive economic background, we hope that the long-term impact of these job losses will be muted. |
Serch hynny, mae’n bwysig cydnabod bod hyn yn digwydd yn erbyn cefndir marchnad lafur ffyniannus iawn, ac mae lefelau diweithdra a nifer y rhai mewn gwaith ymhlith y gorau a welwyd ers cenhedlaeth. Yn Ne Caerdydd a Phenarth, er enghraifft, mae’r nifer sy’n hawlio lwfans ceisio gwaith wedi gostwng 13 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn erbyn cefndir economaidd mor gadarnhaol, ni fydd colli’r swyddi hyn yn debygol o gael llawer o effaith yn y tymor hir.
|
On Carrington Wire, following a 90-day consultation process, the company announced to its staff last week that it will be closing its Cardiff plant in December with the loss of 123 jobs. The consultation was launched in response to commercial pressures, primarily created by cheaper imports from the far east. Throughout the consultation, my officials worked closely with the Cardiff management team to develop a strong business case that was designed to safeguard up to 70 of the 120 jobs at Cardiff by relocating certain operations to a more cost-effective location. This was well-received by Carrington Wire’s executive board, but, having considered all the options, the board has recommended the closure of the Cardiff site. |
O ran Carrington Wire, yn dilyn proses ymgynghori 90 diwrnod, cyhoeddodd y cwmni wrth ei staff yr wythnos diwethaf y bydd 123 o swyddi’n diflannu pan fydd yn cau ei ffatri yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr. Cafodd y broses ymgynghori ei chynnal mewn ymateb i bwysau masnachol, yn bennaf gan fod cynnyrch yn cael ei fewnforio’n rhatach o’r dwyrain pell. Bu fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r tîm rheoli yng Nghaerdydd yn ystod pob cam o’r ymgynghoriad er mwyn datblygu dadl fusnes gref. Y bwriad oedd diogelu hyd at 70 o’r 120 o swyddi yng Nghaerdydd drwy symud rhai gweithgareddau i safle arall mwy cost-effeithiol. Yr oedd bwrdd gweithredol Carrington Wire wedi croesawu hyn, ond, ar ôl iddo ystyried pob dewis arall, argymhelliad y bwrdd oedd cau’r ffatri yng Nghaerdydd. |
| It was also announced last week that JR Freeman’s century-old cigar factory in Grangetown, Cardiff, which is responsible for the production of Hamlet cigars, will close in September 2009, with the loss of 184 jobs. Japan Tobacco, the owner of JR Freeman’s factory, took the decision against a backdrop of falling cigar sales and the fact that it is no longer commercially viable to retain the Cardiff site. The job losses at JR Freeman will not take effect until September 2009, so there is time available for those affected to secure new employment or training opportunities in what remains a healthy local labour market. Of course, my officials also stand ready to assist the affected employees of both companies to find alternative employment and training. | Hefyd, cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y bydd 184 o swyddi’n diflannu wrth i ffatri dybaco JR Freeman, gau ym mis Medi 2009. Dyma’r cwmni sy’n cynhyrchu sigars Hamlet ac mae’r ffatri wedi bod yn Grangetown, Caerdydd ers 100 mlynedd. Gan fod gwerthiant sigars wedi gostwng, penderfynodd Tybaco Japan, perchennog ffatri JR Freeman, nad yw cadw’r ffatri yng Nghaerdydd ar agor yn talu’n fasnachol bellach. Ni fydd y ffatri’n cau tan fis Medi 2009, felly mae gan y rheini fydd yn colli eu swyddi amser i ddod o hyd i swyddi newydd neu i fanteisio ar gyfleoedd i gael hyfforddiant mewn marchnad lafur leol sy’n parhau i ffynnu. Wrth gwrs, mae fy swyddogion hefyd yn barod i weithio er mwyn helpu’r gweithwyr yn y ddau gwmni i ddod o hyd i waith arall ac i gael hyfforddiant. |
Cardiff South and Penarth, like much of the rest of Wales, continues to attract investment opportunities. Major developments, such as those taking place within Cardiff city centre at St David’s 2 and around Callaghan Square, are reshaping the city and they bring with them new jobs and opportunities. The city’s burgeoning reputation in financial and legal services is also bringing quality employment, such as the 135 new jobs recently announced by Hugh James Solicitors. |
Mae De Caerdydd a Phenarth, fel llawer o ardaloedd yng Nghymru, yn parhau i ddenu cyfleoedd ar gyfer buddsoddi. Mae datblygiadau mawr, fel y rheini sy’n mynd rhagddynt yng nghanol dinas Caerdydd yn Dewi Sant 2 ac o gwmpas Sgwâr Callaghan yn ail-lunio’r ddinas, gan greu swyddi newydd a chyfleoedd newydd. Mae’r ddinas yn prysur ennill enw da iddi’i hun ym maes gwasanaethau ariannol a chyfreithiol gan greu swyddi o safon fel y 135 o swyddi newydd y mae Cyfreithwyr Hugh James newydd eu cyhoeddi. |
| In any dynamic economy, jobs are lost as well as created. What is important here in Wales is that we continue to create far more jobs than we lose. To focus on job losses and company closures alone rather than on new jobs and company expansions creates a false picture of the Welsh economy. We should be congratulating ourselves on creating these jobs, while recognising that we will do what we can to assist those communities that directly suffer because of job losses. | Mewn unrhyw economi ddeinamig, mae swyddi’n cael eu colli yn ogystal â chael eu creu. Yr hyn sy’n bwysig yma yng Nghymru yw ein bod yn parhau i greu llawer mwy o swyddi nag yr ydym yn eu colli. Mae canolbwyntio’n unig ar y colledion a’r ffatrïoedd sy’n cau yn hytrach nag ar y swyddi newydd a’r cwmnïau sy’n ehangu yn rhoi darlun anghywir o economi Cymru. Dylem ein llongyfarch ein hunain ar greu’r swyddi hyn, gan gydnabod ar yr un pryd y byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i gynorthwyo’r cymunedau sydd yn dioddef oherwydd colli swyddi. |
David Melding: The Welsh Conservative Party sympathises with those workers who will lose their jobs in the months and years ahead. JR Freeman has been in Cardiff for over 100 years. It is fair to say that it is the victim of changing trends—100 years ago, we would not have known of the damaging effects of tobacco. It was a thriving business with deep community links, but, over time, tastes and trends have changed. One aspect of this situation causes me concern, namely that around 100 jobs will be transferred to Northern Ireland. The First Minister of Northern Ireland, Dr Ian Paisley, made an announcement welcoming the jobs that are being transferred, and I can understand why he has done that. However, I would like to know what the Welsh Assembly Government did to try to secure the jobs in Cardiff and prevent them from being transferred, because this is not just about a loss of business; clearly, the company is rationalising its business, and Cardiff has lost out. |
David Melding: Mae Plaid Geidwadol Cymru yn cydymdeimlo â’r gweithwyr hynny a fydd yn colli eu swyddi yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Bu JR Freeman yng Nghaerdydd ers dros 100 mlynedd. Mae’n deg dweud ei fod yn dioddef yn sgil newid—100 mlynedd yn ôl, ni fyddem wedi gwybod am effeithiau niweidiol tybaco. Yr oedd yn fusnes ffyniannus â chysylltiadau cymunedol dwfn, ond, dros amser, mae chwaeth a ffasiwn wedi newid. Mae un agwedd ar y sefyllfa hon yn peri gofid imi, sef y bydd rhyw 100 o swyddi’n cael eu trosglwyddo i Ogledd Iwerddon. Gwnaeth Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Dr Ian Paisley, gyhoeddiad yn croesawu’r swyddi sy’n cael eu trosglwyddo, a gallaf ddeall pam y mae wedi gwneud hynny. Fodd bynnag, hoffwn wybod beth a wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i geisio cadw’r swyddi yng Nghaerdydd a’u hatal rhag cael eu trosglwyddo, gan nad yw hyn yn ymwneud â cholli busnes yn unig; yn amlwg, mae’r cwmni’n rhesymoli ei fusnes, ac mae Caerdydd ar ei cholled. |
I agree with the Deputy First Minister that, overall, we want to see jobs created. It is inevitable, in any dynamic economy, that some businesses will go out of business as tastes change and things move on. Indeed, we need to free-up potential for jobs that are better paid and call for better skills. However, it is the case that the workers of JR Freeman tend to come from relatively deprived parts of the city and Valleys communities. Most are women, and there are particular issues here. I know that the Deputy First Minister was not suggesting that they just go out and get jobs in the finance and banking industry; we need that sector to increase, and it is quite right that he mentioned it. However, I suspect that some of these workers are not likely to end up finding alternative jobs in that sector. Therefore, we need to help them and see how their skills can be enhanced and fully utilised; they must be given every assistance to find new jobs. |
Cytunaf â’r Dirprwy Brif Weinidog fod arnom, ar y cyfan, eisiau gweld swyddi’n cael eu creu. Mae’n anochel, mewn unrhyw economi ddeinamig, i’r wal y bydd rhai busnesau’n mynd wrth i chwaeth newid ac wrth i bethau symud ymlaen. Yn wir, mae angen inni ryddhau potensial am swyddi sy’n talu’n well ac yn galw am well sgiliau. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, mae gweithwyr JR Freeman yn tueddu dod o rannau cymharol amddifad o’r ddinas a chymunedau’r Cymoedd. Menywod yw’r rhan fwyaf ohonynt, ac mae problemau penodol yma. Gwn nad oedd y Dirprwy Brif Weinidog yn awgrymu iddynt fynd allan a chael swyddi yn y diwydiant cyllid a bancio; mae angen i’r sector hwnnw gynyddu, ac mae’n eithaf priodol ei fod wedi sôn amdano. Fodd bynnag, tybiaf nad yw rhai o’r gweithwyr hyn yn debygol o ganfod swyddi eraill yn y sector hwnnw. Mae angen felly inni eu helpu a gweld sut y gellir cryfhau eu sgiliau a’u defnyddio’n llawn; rhaid rhoi pob cymorth iddynt ganfod swyddi newydd. |
When we find new markets, enhance new expertise and technology and see technology grow, you will be congratulated. It is the case that the economy in south-east Wales and Cardiff is in a relatively good state and we want to see it grow further. I am not going to play an easy game of condemning you for every 50 or 100 jobs that are lost here and there. However, it is important that jobs fan out and attract those who are currently economically inactive. I fear that some of the people who are losing their jobs in these companies, if we are not careful and do not really put a good package together for them, could fall into that category. |
Pan fyddwn yn canfod marchnadoedd newydd, yn cryfhau arbenigedd a thechnoleg newydd ac yn gweld technoleg yn tyfu, cewch eich llongyfarch. Fel y mae, mae’r economi yn ne-ddwyrain Cymru a Chaerdydd mewn cyflwr cymharol dda ac mae arnom eisiau ei gweld yn tyfu ymhellach. Nid wyf yn mynd i chwarae gêm rwydd a’ch condemnio am bob 50 neu 100 o swyddi a gollir fan hyn a fan draw. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod swyddi’n ymledu ac yn denu’r rheini sy’n economaidd anweithgar ar hyn o bryd. Mae arnaf ofn y gallai rhai o’r bobl sy’n colli eu swyddi yn y cwmnïau hyn berthyn i’r categori hwnnw yn y pen draw, os nad ydym yn ofalus ac yn rhoi pecyn da at ei gilydd ar eu cyfer. |
5.40 p.m. |
|
The Deputy First Minister: I am grateful to you for your remarks and for the manner in which you presented them. In relation to contact with JR Freeman, my department’s account manager did contact the company to offer support. Unfortunately, the company still decided to relocate, with the consequent loss of jobs in Cardiff. I understand the disappointment about that. However, if you would like me to make further inquiries of officials, I will ensure that you are given a full written reply. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Yr wyf yn ddiolchgar ichi am eich sylwadau ac am y modd y’u cyflwynasoch. Mewn perthynas â chyswllt â JR Freeman, fe wnaeth rheolwr cyfrif fy adran gysylltu â’r cwmni i gynnig cefnogaeth. Yn anffodus, penderfynodd y cwmni adleoli beth bynnag, ac o ganlyniad, collwyd swyddi yng Nghaerdydd. Deallaf y siom am hynny. Fodd bynnag, pe hoffech imi holi swyddogion ymhellach, byddaf yn sicrhau y cewch ateb ysgrifenedig llawn. |
You made a good point, David, about the need to do everything that we can to find alternative employment for these workers and, if necessary, provide new skills because, in the sort of economy that we have these days, there are constantly changing demands for different skills, and my department is working closely with the Minister for Children, Education, Lifelong Learning and Skills on the skills agenda, because we recognise that this is key. As you rightly say, it is not just a matter of attracting jobs at the high-value end, for which people employed by JR Freeman may not be able to apply. It is also important to retrain workers who lose their jobs in an area such as this and to try to attack our high levels of economic activity. I am grateful to you for the way in which you spoke, and I will want to work with you to see whether we can improve skill levels and attack economic inactivity. |
Gwnaethoch bwynt da, David, am yr angen i wneud popeth y gallwn i ganfod gwaith arall i’r gweithwyr hyn a darparu sgiliau newydd os oes angen oherwydd, yn y math o economi sydd gennym y dyddiau hyn, mae’r galw’n newid o hyd am wahanol sgiliau, ac mae fy adran yn gweithio’n agos gyda’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar yr agenda sgiliau, gan ein bod yn cydnabod bod hyn yn allweddol. Fel y dywedwch yn ddigon teg, nid mater o ddenu swyddi â’r gwerth uchaf yn unig mohono, oherwydd efallai na fydd pobl a gyflogwyd gan JR Freeman yn gallu ymgeisio amdanynt. Mae hefyd yn bwysig ailhyfforddi gweithwyr sy’n colli eu swyddi mewn maes fel hwn a cheisio mynd i’r afael â’n lefelau anweithgarwch economaidd uchel. Yr wyf yn ddiolchgar ichi am y ffordd y siaradasoch, a bydd arnaf eisiau gweithio gyda chi i weld a allwn wella lefelau sgiliau a mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd. |
Lorraine Barrett: Deputy First Minister, I said to you earlier that I have to leave—the statement has run on much longer than I expected, and my three-year-old granddaughter is waiting to be picked up. May I therefore ask for a meeting urgently? I concur with David Melding’s points; this is disappointing, and I hope that everything can be done to help the long-serving and loyal workforce in both factories. We are losing manufacturing jobs, and therefore I ask you for a commitment to an urgent meeting this week, as there are issues that I want to raise with you. |
Lorraine Barrett: Ddirprwy Brif Weinidog, dywedais wrthych yn gynharach ei bod yn rhaid imi adael—mae’r datganiad wedi parhau lawer hwy nag y disgwyliais, ac mae fy wyres dair blwydd oed yn aros i gael ei chasglu. A gaf ofyn felly am gyfarfod ar frys? Cydsyniaf â phwyntiau David Melding; mae hyn yn siomedig, a gobeithiaf y gellir gwneud popeth i helpu’r gweithlu ffyddlon, hir ei wasanaeth yn y ddwy ffatri. Yr ydym yn colli swyddi gweithgynhyrchu, a gofynnaf ichi felly ymrwymo i gyfarfod brys yr wythnos hon, gan fod materion yr hoffwn eu codi gyda chi. |
The Deputy First Minister: I will certainly ask my officials to arrange an urgent meeting with you, Lorraine. I understand that, as the constituency AM, you have a considerable interest in this matter, and I will make sure that that meeting takes place. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Byddaf yn sicr yn gofyn i’m swyddogion drefnu cyfarfod brys â chi, Lorraine. Deallaf fod gennych gryn ddiddordeb yn y mater hwn, fel AC yr etholaeth, a byddaf yn sicrhau bod y cyfarfod hwnnw’n cael ei gynnal. |
Jenny Randerson: Thank you for your statement. I am pleased that we have not had cause to have such statements in respect of Cardiff for some time, and I hope that, in future, you do not have cause to be known as the 'Minister for Bad News’, as your immediate predecessor was at one point because, unfortunately, his statements about job losses came thick and fast. |
Jenny Randerson: Diolch am eich datganiad. Yr wyf yn falch na fu achos gennym gael datganiadau felly ynghylch Caerdydd ers cryn dipyn, a gobeithiaf na fydd rheswm, yn y dyfodol, ichi gael eich adnabod fel y 'Gweinidog Newyddion Drwg’, fel yr oedd eich rhagflaenydd ar un adeg oherwydd, yn anffodus, daeth ei ddatganiadau am golli swyddi yn aml ac yn fynych. |
I have two specific questions, Minister. You said that your officials have been in touch with JR Freeman; can you tell us exactly when they were first in touch with the company? The company has had problems for some time, off and on, and this news came as no surprise, especially in the context of not just a smoking ban in Wales, but an increasing number of smoking bans throughout Europe and the world. |
Mae gennyf ddau gwestiwn penodol, Weinidog. Dywedasoch y bu eich swyddogion mewn cysylltiad â JR Freeman; a allwch ddweud pryd yn union yr oeddent mewn cysylltiad â’r cwmni gyntaf? Mae’r cwmni wedi cael problemau ysbeidiol ers cryn dipyn, ac nid oedd y newyddion hyn yn unrhyw syndod, yn benodol yng nghyd-destun y gwaharddiad ar ysmygu yng Nghymru, ond hefyd nifer cynyddol y gwaharddiadau ar ysmygu ledled Ewrop a’r byd. |
| Secondly, your statement points to other major developments and job opportunities in Cardiff, which are, of course, welcome. However, with all due respect, the St David’s 2 development and the city’s burgeoning reputation in financial and legal services are not providing the type of jobs that we have lost from the city over the last few weeks. Those jobs were in the manufacturing sector, and we do not easily get replacement jobs in that sector. Cardiff already has a weak manufacturing sector in comparison to many other similar cities. | Yn ail, mae eich datganiad yn cyfeirio at ddatblygiadau a chyfleoedd mawr eraill am swyddi yng Nghaerdydd sydd, wrth reswm, yn galonogol. Fodd bynnag, gyda phob parch, nid yw datblygiad Dewi Sant 2 a’r ffaith bod y ddinas yn prysur ennill enw da mewn gwasanaethau ariannol a chyfreithiol yn darparu’r math o swyddi yr ydym wedi’u colli o’r ddinas yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Yr oedd y swyddi hynny yn y sector gweithgynhyrchu, ac nid ydym yn cael swyddi newydd yn hawdd yn y sector hwnnw. Mae sector gweithgynhyrchu gwan gan Gaerdydd eisoes o’i chymharu â llawer o ddinasoedd tebyg eraill. |
Minister, can you ensure that we have full details about the retraining opportunities offered to staff, who obviously have our concern and deep sympathy for the situation that they are in? It is essential that proper and comprehensive retraining opportunities are offered to staff, but it is important that you give a commitment that your Government will work with Cardiff City Council and the chamber of commerce to ensure that we develop the manufacturing sector wherever possible in Cardiff. |
Weinidog, a allwch sicrhau y cawn fanylion llawn am y cyfleoedd ailhyfforddi a gynigir i staff, y mae’n amlwg ein bod yn pryderu am y sefyllfa y maent ynddi ac yn cydymdeimlo’n ddwys â hwy? Mae’n hanfodol cynnig cyfleoedd ailhyfforddi priodol a chynhwysfawr i staff, ond mae’n bwysig eich bod yn rhoi ymrwymiad y bydd eich Llywodraeth yn gweithio gyda Chyngor Dinas Caerdydd a’r siambr fasnach i sicrhau ein bod yn datblygu’r sector gweithgynhyrchu lle bynnag y bo modd yng Nghaerdydd. |
The Deputy First Minister: I will start where you ended, namely on working with Cardiff City Council and Cardiff chamber of commerce. I am pleased that I have had a request for a meeting, not on these specific issues, but on wider economic and transport issues, with Cardiff City Council; I look forward to that meeting. My understanding is that, in addition to the contact that was made by my officials with the company, Cardiff council officials also attempted to contact the company; unfortunately, we were not able to do anything to save the business. I cannot give you precise details of when it happened, but I will ask my officials for the information and I will pass it on to you. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Dechreuaf yn y man y daethoch i ben, sef gweithio gyda Chyngor Dinas Caerdydd a siambr fasnach Caerdydd. Yr wyf yn falch fy mod wedi cael cais am gyfarfod â Chyngor Dinas Caerdydd, nid am y materion penodol hyn, ond am faterion trafnidiaeth ac economaidd ehangach; edrychaf ymlaen at y cyfarfod hwnnw. Yn ogystal â’r cyswllt a wnaethpwyd â’r cwmni gan fy swyddogion, deallaf fod swyddogion cyngor Caerdydd hefyd wedi ymdrechu i gysylltu â’r cwmni; yn anffodus, ni allem wneud dim i achub y busnes. Ni allaf ddweud wrthych pa bryd yn union y digwyddodd, ond gofynnaf i’m swyddogion am y wybodaeth a’i throsglwyddo ichi. |
I understand the point that you are making in relation to the manufacturing sector. We remain committed to a strong manufacturing sector in Wales. I am working closely with the manufacturing forum, which was established earlier this year, and I am pleased to say that I will continue to work with it to try to ensure that we retain as much of a manufacturing sector and gain as much future investment as possible, although the content of the manufacturing jobs that we will see in the future may be different. |
Deallaf y pwynt a wnewch mewn perthynas â’r sector gweithgynhyrchu. Yr ydym wedi ymrwymo o hyd i sector gweithgynhyrchu cryf yng Nghymru. Yr wyf yn gweithio’n agos gyda’r fforwm gweithgynhyrchu, a sefydlwyd yn gynharach eleni, ac yr wyf yn falch o ddweud y byddaf yn parhau i weithio gyda’r fforwm hwn i geisio sicrhau y cadwn gymaint o sector gweithgynhyrchu ac yr enillwn gymaint o fuddsoddiad yn y dyfodol â phosibl, er gallai cynnwys y swyddi gweithgynhyrchu a welwn yn y dyfodol fod yn wahanol. |
In relation to retraining, although I cannot give precise details today as to the retraining programme and skills agenda, we are working closely with the Minister for Children, Education, Lifelong Learning and Skills on its delivery. I will ensure that my officials do everything possible in the short term to assist the affected employees of both companies to find alternative employment and adequate retraining, where necessary. |
O ran ailhyfforddi, er na allaf roi union fanylion heddiw am y rhaglen ailhyfforddi a’r agenda sgiliau, yr ydym yn gweithio’n agos gyda’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i’w chyflawni. Byddaf yn sicrhau y gwnaiff fy swyddogion bopeth posibl yn y tymor byr i gynorthwyo gweithwyr y ddau gwmni yr effeithiwyd arnynt i ganfod swyddi eraill ac ailhyfforddiant digon da, lle bo angen. |
Leanne Wood: I express my condolences to the workers who have lost their jobs, and to their families. There is never a good time to hear that you will lose your job, but it is particularly difficult to receive that news in the run-up to Christmas. Many of the points that I wanted to make have already been made by others, regarding retraining opportunities, and so on, so I have only one brief question. Will you be able to ensure that the sites are safeguarded for future employment opportunities? Will the sites be retained for industrial use? |
Leanne Wood: Cydymdeimlaf â’r gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi, ac â’u teuluoedd. Nid oes byth amser da i glywed y byddwch yn colli eich swydd, ond mae’n arbennig o anodd cael y newyddion hynny wrth nesáu at y Nadolig. Mae llawer o bwyntiau yr oedd arnaf eisiau eu gwneud wedi’u gwneud eisoes gan eraill, o ran cyfleoedd ailhyfforddi ac ati, felly dim ond un cwestiwn byr sydd gennyf. A fyddwch yn gallu sicrhau y diogelir y safleoedd ar gyfer cyfleoedd cyflogi yn y dyfodol? A fydd y safleoedd yn cael eu cadw at ddefnydd diwydiannol? |
The Deputy First Minister: I did not deal with that question in my reply to Jenny Randerson, on the number of statements that there will be about job losses and new job opportunities. I will not shirk my responsibilities to the Assembly if important statements need to be made about job losses or new jobs. It is important for the Assembly to have an opportunity to scrutinise Ministers on both fronts. It is also important for employees to know that, if their jobs are lost, the Assembly Government is doing everything that it can to help them through that difficult period. You are right to stress the issue of retraining. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Ni ymdriniais â’r cwestiwn hwnnw yn fy ateb i Jenny Randerson, ynghylch nifer y datganiadau a fydd am golli swyddi a chyfleoedd am swyddi newydd. Ni fyddaf yn osgoi fy nghyfrifoldebau i’r Cynulliad os oes angen gwneud datganiadau pwysig am golli swyddi neu swyddi newydd. Mae’n bwysig i’r Cynulliad gael cyfle i graffu ar Weinidogion o’r ddau du. Mae hefyd yn bwysig i weithwyr wybod, os collir eu swyddi, bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud popeth y gall i’w helpu drwy’r cyfnod anodd hwnnw. Yr ydych yn iawn i bwysleisio mater ailhyfforddi. |
On the issue of the sites, I will take that back to officials. I cannot give you a promise on that now, because I am not aware of the ownership of the sites—whether the companies own the sites or whether they are rented. I will make inquiries with my officials to see whether it is possible for those sites to be safeguarded for future investment opportunities. |
Ynghylch mater y safleoedd, byddaf yn mynd â hwnnw’n ôl i swyddogion. Ni allaf roi addewid ichi am hynny yn awr, gan nad wyf yn gwybod pwy biau’r safleoedd—a yw’r cwmnïau’n berchen ar y safleoedd ynteu’n eu rhentu. Holaf fy swyddogion i weld a yw’n bosibl diogelu’r safleoedd hynny ar gyfer cyfleoedd i fuddsoddi yn y dyfodol. |
Andrew R.T. Davies: Thank you for the statement, Minister. Regrettably, this is the second time since I have been a Member that I have had to address job losses in my region. On both occasions, they have been good community employers—the Staedtler stationery producer in Pontyclun announced its job losses back in June, I believe, and it had been established there since the 1960s. The same is true of JR Freeman in Cardiff and Carrington Wire Ltd. |
Andrew R.T. Davies: Diolch am y datganiad, Weinidog. Yn anffodus, dyma’r eildro ers imi fod yn Aelod imi orfod mynd i’r afael â cholli swyddi yn fy rhanbarth. Ar y ddau achlysur, buont yn gyflogwyr cymunedol da—cyhoeddodd cynhyrchwr deunydd ysgrifennu Staedtler ym Mhont-y-clun ei golledion swyddi yn ôl ym mis Mehefin, yr wyf yn credu, ac yr oedd wedi sefydlu yno ers y 1960au. Mae’r un yn wir am JR Freeman yng Nghaerdydd a Carrington Wire Ltd. |
5.50 p.m. |
|
The essence of what we are looking at here, especially in terms of the Pontyclun operation and JR Freeman, is that they are relocating within Europe. They are not relocating because of competition from the far east. They are not looking at the Welsh market or the south Wales market, where they have been ingrained in the community for many years. |
Hanfod yr hyn yr ydym yn ei ystyried yma, yn enwedig o ran y gwaith ym Mhont-y-clun a JR Freeman, yw’r ffaith eu bod yn adleoli yn Ewrop. Nid ydynt yn adleoli oherwydd cystadleuaeth o’r dwyrain pell. Nid ydynt yn ystyried marchnad Cymru na marchnad de Cymru, lle buont yn rhan gynhenid o’r gymuned ers blynyddoedd lawer. |
You have answered many questions from around the Chamber about the level of support that you have been able to offer, but the hard fact is that two good community employers in the South Wales Central region have opted to leave this region—one to locate in Germany and the other to locate in Northern Ireland. I hope that you will look at the incentives and the help that we can offer companies, because, while it is good to attract new investment and jobs, community employers that have been based here for a long time are the essence of many communities and the fabric that holds them together. We must work to ensure that such employers stay in South Wales Central. |
Yr ydych wedi ateb llawer o gwestiynau o amgylch y Siambr am lefel y gefnogaeth y llwyddasoch i’w chynnig, ond y ffaith ddiymwad yw bod dau gyflogwr cymunedol da yn rhanbarth Canol De Cymru wedi dewis gadael y rhanbarth hwn—un i sefydlu yn yr Almaen a’r llall i sefydlu yng Ngogledd Iwerddon. Gobeithiaf y byddwch yn ystyried y cymhellion a’r cymorth y gallwn ei gynnig i gwmnïau, oherwydd, er ei bod yn beth da denu buddsoddiad a swyddi newydd, cyflogwyr cymunedol sydd wedi sefydlu yma ers tro yw hanfod llawer o gymunedau a’r gwead sy’n eu dal at ei gilydd. Rhaid inni weithio i sicrhau bod cyflogwyr felly’n aros yng Nghanol De Cymru. |
While we sympathise with the employees who will be losing their jobs, with the right training and incentives, there can be a benefit to this. Hopefully, they will be able to find meaningful employment and look back and say, 'Okay, the door closed but another opportunity presented itself.’ Therefore, while this is a black day, we must ensure that we are there with a safety net, providing these communities with the opportunities to get back to work. |
Er ein bod yn cydymdeimlo â’r gweithwyr a fydd yn colli eu swyddi, gyda’r hyfforddiant a’r cymhellion cywir, gall budd ddod o hyn. Y gobaith yw y byddant yn gallu canfod swyddi da ac edrych yn ôl a dweud, 'Iawn, fe gaeodd y drws ond daeth cyfle arall yn ei le.’ Felly, er bod hwn yn ddiwrnod du, rhaid inni sicrhau ein bod yn barod â rhwyd ddiogelwch, yn rhoi’r cyfleoedd i’r cymunedau hyn ddychwelyd i’r gwaith. |
The Deputy First Minister: Thank you for the spirit in which that series of questions was put to me. I am anxious to make it clear to those who have lost their jobs that, although there is nothing that we can do, unfortunately, to save the jobs in their existing places of employment, we will do everything that we can to assist them in finding alternative employment and in finding the right skills for that. |
Y Dirprwy Brif Weinidog: Diolch am gyflwyno’r gyfres honno o gwestiynau imi yn yr ysbryd hwnnw. Yr wyf yn awyddus i egluro i’r rheini sydd wedi colli eu swyddi, er nad oes dim y gallwn ei wneud, yn anffodus, i achub y swyddi yn eu man gwaith presennol, y gwnawn bopeth y gallwn i’w cynorthwyo i ganfod swyddi eraill a chanfod y sgiliau cywir ar gyfer hynny. |
You have put it in the right context, Andrew, in that, yes there are job losses, but there are also new job opportunities available. Although I accept David Melding’s point that the particular jobs that I referred to may not be entirely appropriate for those who have lost their jobs in Carrington Wire Ltd and in JR Freeman, there will still be several job opportunities to assist them. |
Yr ydych wedi’i roi yn y cyd-destun cywir, Andrew, sef, oes mae swyddi’n cael eu colli, ond mae cyfleoedd ar gael hefyd am swyddi newydd. Er fy mod yn derbyn pwynt David Melding na fydd y swyddi penodol y cyfeiriais atynt yn gwbl briodol efallai i’r rheini sydd wedi colli eu swyddi yn Carrington Wire Ltd ac yn JR Freeman, bydd sawl cyfle am swyddi beth bynnag i’w cynorthwyo. |
| You asked whether we are putting the right sort of support measures in place. That is only one aspect of attracting investment. We discussed today how the transport infrastructure is important, but the economic climate and the right level of skills being available are also important. We have to consider the whole picture as a comprehensive package and I will want to look, with my officials, at the reasons for this; we have already heard, for example, about the trend in cigars and the fact that fewer people are smoking them and so on, and that, therefore, the market is contracting. Nevertheless, we will want to ensure that we, as a Government, do everything possible to assist. I am grateful for your support in trying to achieve that. | Gofynasoch a ydym yn rhoi’r math cywir o gamau cefnogi ar waith. Dyna un agwedd yn unig ar ddenu buddsoddiad. Buom yn trafod heddiw sut y mae’r seilwaith drafnidiaeth yn bwysig, ond mae’r hinsawdd economaidd a sicrhau bod y lefel gywir o sgiliau ar gael hefyd yn bwysig. Rhaid inni ystyried y llun cyfan fel pecyn cynhwysfawr a bydd arnaf eisiau ystyried, gyda fy swyddogion, y rhesymau am hyn; yr ydym wedi clywed eisoes, er enghraifft, am y duedd o ran sigarau a’r ffaith nad oes cynifer o bobl yn eu hysmygu ac yn y blaen a bod y farchnad felly’n crebachu. Serch hynny, byddwn eisiau sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gwneud popeth posibl i gynorthwyo. Yr wyf yn ddiolchgar am eich cefnogaeth wrth geisio cyflawni hynny. |
The Minister for Environment, Sustainability and Housing (Jane Davidson): Against the background of our significant 'One Wales’ climate change and low carbon energy commitments, I thank the Sustainable Development Commission for undertaking the study of tidal power in the UK and, specifically, the assessment of options in the Severn estuary from a sustainable development perspective. The commission has efficiently used the financial support from the Welsh Assembly Government and other devolved administrations, from the Department for Business, Enterprise and Regulatory Reform and the South West of England Regional Development Agency, to produce a comprehensive study of potential tidal power around the UK. I also thank the SDC for paying particular attention to public engagement on these issues and I endorse its conclusions that, as we explore tidal power opportunities further, this engagement must be a key part of the exercise. |
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): A’n hymrwymiadau pwysig o ran newid yn yr hinsawdd ac ynni carbon isel yn 'Cymru’n Un’ yn gefndir, diolchaf i’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am astudio pŵer llanw a thrai yn y DU ac, yn benodol, am asesu’r opsiynau yn aber Afon Hafren o safbwynt datblygu cynaliadwy. Mae’r comisiwn wedi defnyddio’r cymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill yn effeithlon, gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio ac Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol De Orllewin Lloegr, i lunio astudiaeth gynhwysfawr o botensial pŵer llanw a thrai amgylch y DU. Diolchaf hefyd i’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am roi sylw penodol i ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch y materion hyn ac yr wyf yn cefnogi ei gasgliadau sy’n nodi, wrth inni ymchwilio ymhellach i’r cyfleoedd a gynigir gan bŵer llanw a thrai, bod rhaid i’r ymgysylltu hwn fod yn rhan allweddol o’r ymarfer. |
The SDC work has highlighted the potential of tidal-stream power to provide up to 5 per cent of the UK’s electricity from tidal stream turbines. Much of this energy is located off the Scottish coasts but substantial resources are off our coasts, in the outer Bristol channel and off Anglesey. Using Objective 1 funds, we are already supporting Marine Current Turbines Ltd to undertake a feasibility study in respect of exploiting our tidal resource at the Skerries, off Anglesey, and Swanturbines, based at Swansea University, to expand its research and development activities. We have contracted RPS to collect the key data on Welsh waters, which will underpin the production of an enabling strategic environment assessment. The climate change energy framework for the new convergence programme will make further tidal-stream projects and initiatives eligible for support. |
Mae gwaith y Comisiwn wedi dangos y gallai pŵer llif-llanw ddarparu hyd at 5 y cant o drydan y DU o dyrbinau llif-llanw. Mae llawer o’r ynni hwn oddi ar arfordiroedd yr Alban ond mae adnoddau sylweddol oddi ar ein harfordiroedd ni, yn rhannau allanol Môr Hafren ac oddi ar Ynys Môn. Gan ddefnyddio cyllid Amcan 1, yr ydym eisoes yn cefnogi Marine Current Turbines Ltd i gynnal astudiaeth ddichonoldeb gyda golwg ar ddefnyddio ein hadnodd llanw a thrai yn Ynysoedd y Moelrhoniaid, oddi ar Ynys Môn, a Swanturbines, ym Mhrifysgol Abertawe, i ehangu ei weithgareddau ymchwil a datblygu. Yr ydym wedi contractio RPS i gasglu’r data allweddol am ddyfroedd Cymru, a fydd yn sail ar gyfer cynhyrchu asesiad amgylcheddol strategol a galluogol. Bydd y fframwaith ynni ar gyfer newid yn yr hinsawdd yng nghyd-destun y rhaglen gydgyfeirio newydd yn golygu y bydd mwy o brosiectau a mentrau llif-llanw yn gymwys i gael cymorth. |
The work has also highlighted the potential for tidal-range projects to provide a further 5 per cent of the UK’s electricity from tidal lagoons and barrages, with the vast majority of this potential in the Severn estuary, with tidal-stream and tidal-range projects being mutually compatible in most instances. |
Mae’r gwaith hefyd wedi dangos y gallai prosiectau ystod-llanw a thrai ddarparu 5 y cant arall o drydan y DU o forlynnoedd llanw a morgloddiau, gyda mwyafrif helaeth y potensial hwn yn aber Afon Hafren, lle byddai phrosiectau llif-llanw a phrosiectau ystod-llanw’n gydnaws â’i gilydd gan amlaf. |
I note with interest the recommendation that the Government hold a competition for a concept-proving demonstration tidal lagoon. This is an interesting proposition, which I will pursue further with the UK Government. If such a competition comes to pass, I would hope that strong bids would be forthcoming from Wales, especially bids with a significant community participation element. |
Nodaf â diddordeb yr argymhelliad y dylai’r Llywodraeth gynnal cystadleuaeth ar gyfer arddangos morlyn llanw sy’n profi cysyniad. Mae hwn yn gynnig diddorol, y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth y DU. os cynhelir cystadleuaeth o’r fath, byddwn yn gobeithio y deuai cynigion cryf o Gymru, yn benodol, cynigion ag elfen sylweddol o gyfranogaeth gymunedol. |
We note that the SDC’s positive conclusion regarding a Severn barrage is one of support only if the important issue of compensation, for the potential adverse impacts on the distinctive habitats in the estuary, can be addressed. As Minister with responsibility for the environment as well as energy, I endorse that position. |
Nodwn fod casgliad cadarnhaol y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am forglawdd ar Afon Hafren yn ei gefnogi ar yr amod y gellir mynd i’r afael â mater pwysig gwneud iawn am yr effeithiau andwyol posibl ar gynefinoedd arbennig yr aber. Fel Gweinidog sy’n gyfrifol am yr amgylchedd yn ogystal ag am ynni, yr wyf yn cefnogi’r casgliad hwnnw. |
A barrage in the Severn could make a significant contribution to our efforts on addressing climate change, and could truly be a world-class, flagship project on climate change, but we have to proceed with great care. I fully agree with the SDC that any focus on the potential of a Severn barrage must not be to the detriment of other efforts in pursuit of energy conservation, and investment in other renewables projects, whether large or small scale. I make no apologies here for repeating my belief in the importance of ensuring that Wales maximises the production of its energy from microgeneration and other decentralised, low-carbon sources. |
Gallai morglawdd ar Afon Hafren gyfrannu’n sylweddol at ein hymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac yn wir gallai fod yn brosiect blaengar o’r radd flaenaf ym maes newid yn yr hinsawdd, ond rhaid inni symud ymlaen yn ofalus iawn. Cytunaf yn llwyr â’r Comisiwn na ddylai unrhyw ganolbwyntio ar botensial morglawdd ar Afon Hafren fod ar draul ymdrechion eraill sydd ar drywydd arbed ynni, nac ar draul buddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy eraill, boed y rheini ar raddfa fawr ynteu ar raddfa fach. Ni ymddiheuraf o gwbl yma am ailadrodd fy nghred ei bod yn bwysig sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar gynhyrchu ei hynny o feicrogynhyrchu a ffynonellau carbon-isel datganoledig eraill. |
The SDC has indicated that its support for a sustainable Severn barrage is predicated on meeting the full requirements of the habitats directive. Sustainable development means giving full weight to environmental, as well as social and economic, considerations. We note the main Sustainable Development Commission conclusions: first, on the possibility that any compensatory measures might present opportunities to deal with the looming adaptation issues, which must be dealt with as climate change begins to bite, with rising sea levels and so on, and, secondly, if the barrage is to be built, it would be more appropriate as a public-sector-led rather than a private-sector-led project. |
Mae’r Comisiwn wedi dweud ei fod yn cefnogi morglawdd cynaliadwy ar Afon Hafren ar yr amod ei fod yn ateb holl ofynion cyfarwyddeb cynefinoedd. Mae datblygu cynaliadwy’n golygu rhoi sylw llawn i ystyriaethau amgylcheddol, yn ogystal ag i ystyriaethau cymdeithasol ac economaidd. Yr ydym yn nodi prif gasgliadau’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy: yn gyntaf, y posibilrwydd y gallai unrhyw gamau gwneud iawn gynnig cyfleoedd i ymdrin â’r materion addasu sy’n dod i’r amlwg, y mae’n rhaid ymdrin â hwy wrth i newid yn yr hinsawdd ddechrau gwaethygu, gyda lefel y môr yn codi ac yn y blaen ac, yn ail, os codir y morglawdd, byddai’n fwy priodol fel prosiect a arweinir gan y sector cyhoeddus yn hytrach na phrosiect a arweinir gan y sector preifat. |
These are interesting recommendations, but they require a great deal more in-depth consideration by Government. I therefore support the proposal by John Hutton, that his Department will lead a comprehensive feasibility study, with strong Welsh Assembly Government participation, into the opportunities that a Severn barrage might present, while addressing environmental concerns. |
Mae’r rhain yn argymhellion diddorol, ond maent yn mynnu llawer mwy o ystyriaeth fanwl gan y Llywodraeth. Yr wyf felly’n cefnogi’r cynnig gan John Hutton, y bydd ei Adran yn arwain astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr, gyda chyfraniad cryf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, o’r cyfleoedd y gallai morglawdd Hafren eu cynnig, gan fynd i’r afael ar yr un pryd â phryderon amgylcheddol. |
In conclusion, I would emphasise that Wales is blessed with a variety of natural resources, which could be exploited to make Wales self-sufficient in low-carbon electricity within the next 20 years or so—perhaps less. Tidal power is important in this context, along with other low-carbon opportunities such as wind, biomass, hydro, energy from waste, and microgeneration. There are new and exciting opportunities ahead that must be explored, and I hope to be consulting further on Wales’s renewable energy opportunities before the end of the year. |
I gloi, byddwn yn pwysleisio bod Cymru wedi’i bendithio ag amrywiaeth o adnoddau naturiol, y gellid manteisio arnynt i wneud Cymru’n hunangynhaliol mewn trydan carbon isel o fewn rhyw 20 mlynedd—efallai llai na hynny. Mae pŵer y llanw’ bwysig yn y cyd-destun hwn, ynghyd â chyfleoedd carbon isel eraill fel gwynt, biomas, dŵr, ynni o wastraff, a meicrogynhyrchu. Mae cyfleoedd newydd a chyffrous o’n blaenau y mae’n rhaid eu harchwilio, a gobeithiaf ymgynghori ymhellach am gyfleoedd ynni adnewyddadwy Cymru cyn diwedd y flwyddyn. |
David Melding: I can welcome the Minister’s measured, even cautious, statement—I thought that she struck the right tone. I want to raise a number of issues at this point. I agree with the Sustainable Development Commission that this will need public leadership and ownership, and part of that must come from the Welsh Assembly Government. I hope that we will not be overwhelmed by other governmental agencies, and by Whitehall. It is important that our side of the Severn is represented, and also that we have effective mechanisms to involve people—nearly everyone in Wales, I think, will have a view on this, and it will impact quite dramatically upon everyone living from Swansea through to Newport and beyond. |
David Melding: Gallaf groesawu datganiad pwyllog, gofalus hyd yn oed, y Gweinidog—credais iddi lwyddo i daro’r nodyn cywir. Hoffwn godi nifer o faterion yn awr. Cytunaf â’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy y bydd angen arweiniad a pherchenogaeth gyhoeddus ar hyn, a bod rhaid i ran o hynny ddod o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gobeithiaf na chawn ein llethu gan asiantaethau eraill y llywodraeth, na chan Whitehall. Mae’n bwysig cynrychioli ein hochr ni o Afon Hafren, a hefyd bod gennym fecanweithiau effeithiol i gynnwys pobl—bydd gan bawb bron yng Nghymru, fe dybiaf, farn am hyn, a bydd yn effeithio’n eithaf dramatig ar bawb sy’n byw rhwng Abertawe a Chasnewydd a’r tu hwnt. |
There is no doubt that habitats will be affected—there may be improvement in some areas and deterioration in others. There is no doubt that ecosystems will be changed, and we already have enough scientific knowledge to realise that. However, the feasibility study must look into these issues thoroughly, and you are quite right that the absolute golden rule is that European directives on habitats have to be fully honoured, and I think that the public will demand that. I was pleased to hear your references to that. |
Nid oes amheuaeth o gwbl nad effeithir ar gynefinoedd—efallai bydd rhai ardaloedd yn gwella ac eraill yn gwaethygu. Nid oes amheuaeth na fydd ecosystemau’n newid, ac mae gennym ddigon o wybodaeth wyddonol eisoes i sylweddoli hynny. Fodd bynnag, rhaid i’r astudiaeth ddichonoldeb astudio’r materion hyn yn drwyadl, ac yr ydych yn llygad eich lle mai’r un rheol euraidd yw bod rhaid anrhydeddu cyfarwyddebau Ewropeaidd ar gynefinoedd yn llawn, a chredaf y bydd y cyhoedd yn mynnu hynny. Yr oeddwn yn falch o glywed eich cyfeiriadau at hynny. |
6.00 p.m. |
|
The development of a Severn barrage must not divert Government attention away from the many smaller actions that are required to combat climate change. This would be a colossal, and one of the biggest, civil engineering projects in the world, and while it may be seen to be feasible, although we do not know that yet, we cannot deploy it as an alibi not to do all the smaller things within our power. I was pleased that you referred to that directly.
|
Rhaid i ddatblygu morglawdd Afon Hafren beidio â gwyro sylw’r Llywodraeth oddi wrth y llu o gamau llai sy’n ofynnol er mwyn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Byddai’r prosiect hwn yn brosiect peirianneg sifil anferth, ac un o’r mwyaf yn y byd, ac, er ei fod, o bosibl, yn ymddangos yn ddichonadwy, er na wyddom hynny eto, ni allwn ei ddefnyddio’n esgus dros beidio â gwneud yr holl bethau llai sydd o fewn ein gallu. Yr oeddwn yn falch eich bod wedi cyfeirio’n benodol at hynny. |
It is also important to remember the need for energy efficiency. It does not matter, in a way, if we generate more green energy while our total energy consumption increases, because we will not get the benefits that we require in terms of cutting carbon emissions. Therefore, energy efficiency has to be one of our major priorities, even if we see schemes like this going forward. It is important that we hear the critics, because there will be many people who flatly oppose this scheme and they have to be listened to effectively and with respect. George Monbiot, for instance, has already condemned the scheme. However, it is difficult to say that a feasibility study should not go ahead, because that would seem to be to close one’s mind and to utterly anticipate and even reject evidence. We are comfortable with a feasibility study going forward. |
Mae’n bwysig cofio hefyd bod angen effeithlonrwydd ynni. Mewn ffordd, ni fydd cynhyrchu mwy o ynni gwyrdd yn gwneud fawr o wahaniaeth os bydd cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwn yn cynyddu, oherwydd ni chawn y manteision y mae eu hangen arnom o ran lleihau gollyngiadau carbon. Felly, rhaid i effeithlonrwydd ynni fod yn un o’n prif flaenoriaethau, hyd yn oed os gwelwn gynlluniau fel hyn yn mynd yn eu blaenau. Mae’n bwysig inni glywed y beirniaid, oherwydd bydd llawer o bobl sy’n gwrthwynebu’r cynllun hwn yn chwyrn a rhaid rhoi gwrandawiad teg a pharchus iddynt. Mae George Monbiot, er enghraifft, eisoes wedi condemnio’r cynllun. Fodd bynnag, mae’n anodd dweud na ddylid bwrw ymlaen ag astudiaeth ddichonoldeb, oherwydd mae hynny, i bob golwg, yn golygu bod rhywun yn cau ei feddwl a rhagweld y dystiolaeth yn llwyr, ac yn ei gwrthod hyd yn oed. Yr ydym yn gyfforddus â bwrw ymlaen ag astudiaeth ddichonoldeb. |
I have three specific questions to put you. How will Welsh expertise be involved in the feasibility study? It will be an important project in itself to assess the feasibility and I hope that Welsh universities and other people with relevant expertise are fully involved. Secondly, how will the public be canvassed? It is important that we have a wide consultation that invites everyone to contribute and which drills down to the particular concerns of people in the neighbourhoods where the barrage, if it goes ahead, is likely to fall. If that happens, their concerns and concerns of local authorities and other interested parties need to be fully taken into account, alongside the effect that it will have on the economy, transport and infrastructure. We need to consider the many other consequential issues. Finally, will a variety of options be considered? At the moment, I have only heard that it will fall at Lavernock Point, but there are other possibilities and I think that those should also be explored. |
Serch hynny, mae gennyf dri chwestiwn penodol i’w gofyn ichi. Sut y bydd arbenigwyr o Gymru’n cyfrannu at yr astudiaeth ddichonoldeb hon? Bydd hwn ei hun yn brosiect o bwys er mwyn asesu’r dichonoldeb a gobeithiaf y bydd prifysgolion Cymru a phobl eraill sydd â’r arbenigedd perthnasol yn chwarae rhan lawn yn hynny. Yn ail, sut y ceisir barn y cyhoedd? Mae’n bwysig ein bod yn ymgynghori’n eang, gan wahodd pawb i gyfrannu, a chan roi sylw manwl i bryderon penodol y bobl sy’n byw yn y cymdogaethau lle mae’r morglawdd, os bwrir ymlaen ag ef, yn debygol o fod. Os digwydd hynny, bydd angen i’w pryderon hwy a phryderon awdurdodau lleol a phartïon eraill sydd â budd yn hyn gael eu hystyried yn llawn, yn ogystal â’r effaith a gaiff ar yr economi, trafnidiaeth, a seilwaith. Bydd angen ystyried y materion niferus eraill a ddaw yn ei sgîl. Yn olaf, a ystyrir amrywiaeth o ddewisiadau? Ar hyn o bryd, yr unig beth yr wyf wedi’i glywed yw mai yn Nhrwyn Larnog y bydd un pen, ond nid dyma’r unig bosibilrwydd a chredaf y dylid archwilio’r posibiliadau eraill hefyd. |
Jane Davidson: In response to your three specific questions, it is probably important to say that the announcement by John Hutton in terms of the feasibility study was made only last week. Therefore, we are in the very early stages of that development, but he made some very important contributions as part of that announcement. One is that it will be conducted in partnership with the Welsh Assembly Government and that, from my perspective, means a partnership where the appropriate skills from Wales feed into the mix. It must be a partnership because this is a proposition that will need to be looked at in terms of environmental, social and economical issues and in energy terms on both sides of the Severn. Therefore, that partnership element is important. |
Jane Davidson: Ac ymateb i’ch tri chwestiwn penodol, mae’n siŵr ei bod yn bwysig dweud mai dim ond yr wythnos diwethaf y cafwyd y cyhoeddiad gan John Hutton am yr astudiaeth ddichonoldeb. Felly, mae’n fore oes ar y datblygiad hwnnw, ond gwnaeth nifer o gyfraniadau pwysig iawn fel rhan o’r cyhoeddiad hwnnw. Un oedd y’i cynhelir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac o’m safbwynt i, mae hynny’n golygu partneriaeth lle bydd y sgiliau priodol o Gymru’n cael eu bwydo i’r pair. Rhaid iddi fod yn bartneriaeth oherwydd bod hwn yn gynnig y bydd angen edrych arno o safbwynt amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ac o ran ynni ar ddwy ochr Afon Hafren. Felly, mae’r elfen bartneriaeth honno’n bwysig. |
I suggest that the beginning of the way forward will be to look at potential barrage options, their impact, costs, risks and the possible nature of Government intervention. Subject to that—which would lead to a more concrete proposal, as it were—the next stage would be to work up the specification for detailed technical engineering and environmental studies. In conversation with our colleagues in the Department for Business, Enterprise and Regulatory Reform, it is suggested that that stage of the work alone could take from 18 months to several years because we are talking about very detailed studies. From both sides of the Severn, the Government intends to do this transparently and to engage the people and organisations that would be affected by the proposals. |
Awgrymaf mai dechrau’r ffordd ymlaen fydd edrych ar ddewisiadau posibl ar gyfer y morglawdd, eu heffaith, y costau, y risgiau a natur posibl ymyrryd gan y Llywodraeth. Byddai hynny’n arwain at gynnig mwy cadarn, a’r cam nesaf fyddai paratoi’r fanyleb ar gyfer y gwaith peirianneg technegol manwl ac astudiaethau amgylcheddol. O sgwrsio â’n cydweithwyr yn yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoliadol, awgrymir y gallai’r cam hwnnw o’r gwaith yn unig gymryd rhwng 18 mis a sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn sôn am astudiaethau manwl iawn. O’r ddwy ochr i Afon Hafren, mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud hyn mewn modd tryloyw gan ymgysylltu â’r bobl a’r cyrff yr effeithid arnynt gan y cynigion. |
Leanne Wood: Plaid Cymru has many concerns about the proposals for a Severn barrage, but I welcome your statement, particularly with regard to the importance of the habitats directives. We cannot support the proposal unless the ecological concerns are addressed and potentially better alternatives are ruled out. We are also concerned about some of the statements made yesterday by the Secretary of State for Wales, particularly with regard to the barrage being an opportunity to build a new road link between south Wales and south-west England. Plaid Cymru would be opposed to such a new road link. What are your views on that? |
Leanne Wood: Mae Plaid Cymru’n pryderu am lawer o bethau yn y cynigion ar gyfer morglawdd ar draws Afon Hafren, ond croesawaf eich datganiad, yn benodol, ynghylch pwysigrwydd y cyfarwyddebau ynglŷn â chynefinoedd. Ni allwn gefnogi’r cynnig oni eir i’r afael â’r pryderon ecolegol ac oni wrthodir dewisiadau a allai fod yn well. Yr ydym yn poeni hefyd am rai o’r datganiadau a gafwyd ddoe gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn benodol ynghylch y ffaith y byddai’r morglawdd yn gyfle i adeiladu cysylltiad ffordd newydd rhwng de Cymru a de-orllewin Lloegr. Byddai Plaid Cymru’n gwrthwynebu cysylltiad ffordd newydd o’r fath. Beth yw eich barn am hynny? |
There are many other disadvantages, such as the danger that finance will be diverted away from investing in other renewable energy schemes. The Sustainable Development Commission report recommended that a demonstration lagoon is developed. I am not convinced about the idea of a competition to decide where that lagoon is, but I would like to see the Welsh Assembly Government do all in its power to ensure that that demonstration scheme is in Wales. |