Y Pwyllgor Archwilio (Mehefin 1999 - Ebrill 2003)

Mae'r Pwyllgor Archwilio yn sicrhau bod gwariant y Cynulliad yn cael ei archwilio'n
iawn ac yn drylwyr, a bod y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill yn cadw at y safonau uchaf posibl wrth reoli eu hadnoddau ariannol. Mae'n gwneud hyn er mwyn rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod eu harian yn cael ei wario'n briodol ac yn effeithiolMae'r
Pwyllgor Archwilio yn astudio adroddiadau sy'n cael eu paratoi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill, ac ar ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y Cynulliad wrth gyflawni'i swyddogaethau. Yna bydd y Pwyllgor
yn gwneud ymholiadau penodol ar faterion sydd o ddiddordeb neu faterion sy'n peri pryder sy'n deillio o'r adroddiadau hyn. Fel rhan o'r broses, gall y Pwyllgor glywed tystiolaeth gan y swyddogion cyfrifo, neu gan weision sifil, a bydd yn gofyn am bapurau perthnasol.
Bydd wedyn yn adrodd yn ôl ac yn gwneud argymhellion ar ei ganfyddiadau. Ni chaiff y Pwyllgor gwestiynu gwerth amcanion polisi y Cynulliad nac unrhyw gorff arall sy'n cael ei arolygu ganddo.Mae'r
Pwyllgor yn cyfarfod unwaith y mis yn ystod y tymor. I weld dyddiadau'r cyfarfodydd, cliciwch ar un o'r penawdau ar yr ochr chwith.