Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adolygiad o'r Polisi ar Lefelau Cymryd Rhan Mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Cylch Gorchwyl

I gynnal adolygiad o lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru a sut y gellir cynyddu'r lefelau hynny, gan gynnwys edrych ar y pwyntiau canlynol:

Rhwystrau i Fynediad

  • Y rhwystrau sy'n achosi lefelau is o gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru o'u cymharu â gwledydd eraill
  • Cyfleoedd i fenywod a merched gan gynnwys y sector gwirfoddol
  • Cyfleoedd i bobl hn, pobl anabl a grwpiau lleiafrifoedd ethnig

Seilwaith a Chyfleusterau

  • Rôl awdurdodau lleol, a rhoi ystyriaeth yn benodol i adroddiad y Comisiwn Archwilio "Sport and Recreation: Learning from audit, inspection and research"
  • Effaith prif ddigwyddiadau ar lefelau cymryd rhan. Y Ddarpariaeth ar gyfer prif ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru, gan gynnwys y gwersi sydd i'w dysgu o Gemau'r Gymanwlad yn 2002.

Chwaraeon Elît

Effaith chwaraeon elît ar lefelau cymryd rhan. A ellir gwella'r broses o adnabod, datblygu a chynnal athletwyr elît boed yn unigolion neu'n dimoedd.

Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori’n eang gyda sefydliadau ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad hwn gyflwyno’i safbwynt i’r Pwyllgor. Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i gyflwyno’u safbwyntiau yn bersonol, er mwyn caniatáu cwestiynu manylach a thrafodaeth fanylach o’r materion sy’n codi.

Dogfennau Allweddol

Rhestr o'r ymgynghorwyr Hydref 2002
Rhestr o'r ymatebwyr Mawrth 2003
Sesiynau tystiolaeth llafar Gorffenaf 2002 - Ionawr 2003
Tystiolaeth Pwyllgorau Rhanbarthol Tachwedd 2002 - Ionawr 2003
Datganiad ar Sefyllfa ddiweddaraf gan y Gweinidog CC 02-03(p.6)
Adroddiad Terfynol Ebrill 2003