Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Diwylliant (Tachwedd 2000 - Ebrill 2003)

Adolygiad o'r Polisi ar Lefelau Cymryd Rhan Mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff

PWYLLGORAU RHANBARTHOL - SESIYNAU CYMRYD TYSTIOLAETH LLAFAR

DYFYNIADAU O'R COFNODION

Rhanbarth y Canolbarth (04-02) - 1 Tachwedd 2002 - Y Drenewydd (Saesneg yn unig)

Item 3: Sports Review: Sport and Recreation: Learning from Audit Inspection and Research

Presenter - Paul Griffiths

3.1 The following points were made during the presentation:

The following comments were noted from the presentation:

  • The Audit Commission report which the Council was asked to comment on started from the premise that there was a competitive environment for sports services. There was very little competitive market for sports facilities in Powys. Efforts had been made in the past to involve the private sector in sports provision, but the private option proved more expensive than the Council run options and the low population in Powys was a powerful disincentive for the private sector.
  • The Local Authority had concentrated on continued partnerships with existing partners; accessing funding from Sportlot; engaging in a dialogue with users and non-users of leisure facilities and attempting to increase participation in leisure activities. Barriers to increasing participation were: lack of investment funding; increased bureaucracy and the legacy of the fairer funding legislation.
  • The Council acknowledged that services could be improved but argued that the premise of the Audit Commission report - that local authorities have to compete with the private sector in the provision of leisure facilities - did not apply to Powys as there was little private sector interest in such a low population density area.
  • There followed a question and answer session during which the following points were made:
  • The issue of access to leisure facilities was crucial in an area such as Powys. The planning of any new facilities had to take into account transport from the beginning. The Council had trialed minibus services, particularly in the school holidays. Transport has to be linked to demand, and there was a need for greater dialogue with the education establishments. One suggestion was that transport home from school could be delayed to allow sports activities to take place after school.
  • Any new transport ideas, such as taxi services, would need to be sustained with additional resources.
  • The 'exercise on prescription' scheme had proved popular. If success in one area leads to a cost reduction in another, for instance, health spending was reduced in terms of lower prescription costs, then the costs should be channelled back into the system to maintain good practice.

Comments from the public included:

  • Glenys Jones, Montgomery Labour Party: Leisure facilities should be provided for all age groups, not just the young. There should be financial help with transport costs to cultural events. A system of subsidising travel to the theatre would help keep professional theatre alive in Wales.
  • Lilian Beddoe, Montgomery Labour Party: There were many who enjoy ballroom dancing in Powys, this was an important leisure activity for older people in the County. The exercise on prescription scheme was very worthwhile but could cause problems when those involved were asked to pay the whole cost of the course at the first session.
  • Ena Williams, Wrexham: Wished to express her concern at the lack of facilities in the Mid Wales region, this was not highlighted in the Audit Commission's report.
  • Roger Saunders, Countryside Council for Wales: Powys has one third of all the rights of way network in Wales, there was an opportunity to develop these as a leisure activity. The walking and cycling strategy produced by the Welsh Assembly Government did not mention this potential for exploiting the public path network.
  • Dierdre Raffan, Centre for Alternative Technology: the number of request stops on the train services needed to be increased in order for people to be encouraged to use public transport.
  • Michael Jones, Powys County Council: there were problems associated with transport to leisure facilities. Because there were many user groups with different needs and a lack of transport facilities that exist in urban areas it was wiser to have smaller leisure facilities in villages. Funding bodies such as Sportlot had a centralised policy which was not appropriate for rural areas. The attempts to get funding for an all- weather pitch in Presteigne had suffered because of this.

De Ddwyrain Cymru (01-03) - 24 Ionawr - Abertyleri

Cyflwyniad gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Lynn Phillips -,Pennaeth Gwasanaethau Hamdden, cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflwyniad gan Cyngor Chwaraeon Cymru

Sara Butlin - Cyfarwyddwr Datblygu Lleol, Cyngor Chwaraeon Cymru

Cyflwyniad gan Ffederasiwn Cymdeithasau Chwaraeon yr Anabl

Jon Morgan - Cyfarwyddwr, Ffederasiwn Cymdeithasau Chwaraeon yr Anabl

Cyflwyniad gan Clwb Rygbi Glyn Ebwy

Nigel Way - Swyddog Datblygu Cymunedol, Clwb Rygbi Glyn Ebwy

Cyflwyniad gan Cymdeithas Pêl-droed Cymru - Ymddiriedolaeth Pêl-Droed yn y Gymuned

Mark Aizlewood - Cyfarwyddwr Technegol, Cymdeithas Pêl-droed Cymru - Ymddiriedolaeth Pêl-Droed yn y Gymuned

Eitem 3: Trosolwg o Adolygiad y Pwyllgor Diwylliant o Chwaraeon/B>

<

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Rhodri Glyn Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, a gofynnwyd iddo i roi ei gyflwyniad.

3.2 Esboniodd Rhodri Glyn Thomas gylch gorchwyl yr Adolygiad o Chwaraeon sy'n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Diwylliant. Nododd y byddai unrhyw sylwadau a fynegwyd gan yr Aelodau yn cael eu bwydo i'r broses. Amgaeir cylch gorchwyl yr adolygiad yn atodiad 1.

3.3 Ychwanegodd bod nifer o themâu wedi dod i'r amlwg o'r adolygiad hyd yn hyn:

  • Pwysigrwydd gweithgareddau corfforol i iechyd
  • Magu awydd / arfer ymysg plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
  • Cynnig dewisiadau amgenach i'r chwaraeon traddodiadol mewn ysgolion er mwyn sicrhau nad yw unigolion (yn enwedig merched) yn troi eu cefn ar chwaraeon.
  • Cynnig cyfleoedd i'r plant hynny nad ydynt yn cyrraedd safon y timoedd cyntaf, i gymryd rhan
  • Rhoi cyfle i bobl sy'n gadael ysgol i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon
  • Pwysigrwydd gwirfoddolwyr a hyfforddwyr
  • Buddiannau gweithgareddau corfforol i bobl hn

3.4 Gofynnodd Rhodri Glyn Thomas am sylwadau ar yr adolygiad ac ychwanegodd y byddai'r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod y cyfarfod yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad. Byddai'r adroddiad yn cael ei drafod yn y cyfarfod llawn ar 1 Ebrill.

Eitem 4: Cyflwyniadau ar yr Adolygiad o Chwaraeon

4.1 Gwahoddwyd Lynn Phillips, Pennaeth Gwasanaethau Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gan y Cadeirydd i roi ei gyflwyniad.

4.2 Cyflwynodd Lynn Phillips ei adroddiad a oedd yn canolbwyntio ar Strategaeth Chwaraeon a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar gyfer 2000 - 2005. Amgaeir copi yn Atodiad 2. Pwysleisiodd y canlynol yn ei gyflwyniad:

  • Yr oedd penodi Swyddog Datblygu Chwaraeon wedi sicrhau bod chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn cael eu defnyddio fel arf positif ar gyfer lleihau lefelau tor-cyfraith ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol, yn ogystal â chyfrannu at bolisi cynhwysiant cymdeithasol yr awdurdodau. Yr oedd y gwaith allgymorth yn y cymunedau wedi chwarae rhan bwysig wrth ddenu pobl at chwaraeon.
  • Cynaliadwyedd - cafodd y ddarpariaeth ei rhoi yn nhrefn blaenoriaeth ac roedd yr Uned Datblygu Chwaraeon wedi cael y cyfrifoldeb am ddiogelu'r ddarpariaeth honno dros y 25 mlynedd nesaf.
  • Yr oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent berthynas ffrwythlon a llwyddiannus gyda Chyngor Chwaraeon Cymru, perthynas a fu yn fuddiol i'r ardal.
  • Yr oedd y ceisiadau llwyddiannus diweddar am arian Sportlot yn cynnwys £1.25 miliwn ar gyfer Canolfan Hamdden Tredegar, £0.5 miliwn ar gyfer Canolfan Hamdden Glyn Ebwy a chymeradwyaeth am £1.5 miliwn tuag at symud Canolfan Hamdden Abertyleri i gampws yr Ysgol Uwchradd. Derbyniwyd £1.83 miliwn oddi wrth y Gronfa Cyfleoedd Newydd a chaiff ei roi tuag at raglenni chwaraeon ac Addysg Gorfforol ysgolion.
    • Gwahoddwyd Sara Butlin, Cyfarwyddwr Datblygu Lleol, Cyngor Chwaraeon Cymru gan y Cadeirydd i roi ei chyflwyniad.

4.4 Mae copi o gyflwyniad Sara Butlin a oedd yn canolbwyntio ar gyfranogiad menywod a merched mewn chwaraeon yn Atodiad 3. Pwysleisiodd y canlynol yn ei chyflwyniad:

  • Blaenoriaeth sylfaenol i gynyddu lefelau cyfranogiad gan fenywod a merched yw newid agweddau a datblygu'r arfer o sicrhau bod chwaraeon/ymarfer corff yn rhan o fywyd bob dydd. Byddai hyn yn canfod pa faterion oedd yn denu merched i chwaraeon a pha chwaraeon.
  • Yn ôl yr ystadegau mae llai o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn Ne Ddwyrain Cymru nag yng ngweddill y wlad ac mae angen targedu'r ardal er mwyn annog mwy o gyfranogiad.
  • O fewn ardal De Ddwyrain Cymru, mae lefelau cyfranogiad saith o awdurdodau lleol yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.
  • Yn yr ardal mae cyfranogiad gan fenywod a merched yn is na nifer y bechgyn a dynion ac un o amcanion Cyngor Chwaraeon Cymru yw lleihau'r bwlch.
  • Canfuwyd bod rhwystrau yn bodoli yn yr ysgolion, o fewn cymunedau a'r ddelwedd o chwaraeon a'r unigolion sy'n helpu i gynnal gweithgareddau chwaraeon.
  • Mae Cymunedau yn Gyntaf yn sicrhau bod chwaraeon lleol a hamdden yn cael eu trafod. Mae sefydlu/gwella'r adnoddau wedi helpu gyda'r broses o adfywio'r cymunedau sydd dan yr anfantais fwyaf.
  • Dros y 30 mlynedd diwethaf mae'r stoc adnoddau yng Nghymru wedi cynyddu'n helaeth. Rhaid sicrhau bod yr adnoddau o fewn cyrraedd pob grp yn yr ardal.

4.5 Croesawodd y Cadeirydd Nigel Way, Swyddog Datblygu Cymunedol Clwb Rygbi Glyn Ebwy a gofynnwyd iddo roi ei gyflwyniad. Amgaeir copi yn Atodiad 4.

4.6 Yna, gofynnodd y Cadeirydd i Jon Morgan, Cyfarwyddwr, Ffederasiwn Cymdeithasau Chwaraeon yr Anabl roi ei gyflwyniad.

  • Seiliodd Jon Morgan ei gyflwyniad ar Gynllun Strategol Ffederasiwn Cymdeithasau Chwaraeon yr Anabl ar gyfer 2002 - 2004 - amgaeir copi yn Atodiad 5. Pwysleisiodd y rhwystrau canlynol oedd yn wynebu'r anabl wrth geisio manteisio ar adnoddau chwaraeon:
  • Cludiant yn y cymunedau. Mae angen adolygu'r ddarpariaeth o gerbydau a addaswyd a'r defnydd a wneir ohonynt yn enwedig y tu allan i'r amserau arferol.
  • Rhaid sicrhau nad oriau anghymdeithasol yn unig a gynigir ar gyfer yr anabl.
  • Hyfforddiant - rhaid sicrhau bod staff yn y cyfleusterau wedi derbyn hyfforddiant digonol ar gyfer bod yn ymwybodol o anghenion yr anabl a bod awyrgylch addas wedi ei greu yn y cyfleusterau.
  • Mae angen cadw gwirfoddolwyr a denu rhai newydd i helpu'r anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Derbyniwyd £50,000 oddi wrth yr UE a chaiff yr arian yn ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar y maes hwn yn ystod y 12 mis nesaf.
  • Yr oedd yn hanfodol ein bod yn marchnata cyfleusterau ac yn cynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, adrannau addysg a grwpiau eraill i'r anabl.
    • Rhoddodd y Cadeirydd groeso i'r siaradwr olaf, Mark Aizlewood, Cyfarwyddwr Technegol, Ymddiriedolaeth Pêl-droed yn y Gymdeithas, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, a gofynnwyd iddo roi ei gyflwyniad.
    • Dywedodd Mark Aizelwood bod Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi sefydlu'r Ymddiriedolaeth er mwyn datblygu Pêl-droed ledled Cymru. Mae'r ymddiriedolaeth gwbl ar wahân oddi wrth y Gymdeithas Pêl-droed. Flwyddyn yn ôl, lansiodd Jenny Randerson, y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, y Fforwm Pêl-droed, a anelwyd at blant rhwng 6 a 16 oed. Hyd yn hyn, mae 17 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi swyddogion llawnamser i ddatblygu pêl-droed ac mae'r gweddill wedi penodi swyddogion rhan amser. Penodwyd swyddogion hefyd i dargedu cyfranogiad menywod a merched mewn pêl-droed. Mae'r Fforwm wedi llunio strategaeth bendant y cytunwyd arno gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Cymdeithas Pêl-droed Cymru a derbyniodd £1.3 miliwn oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros 3 blynedd.
    • Cyflwynodd ei adroddiad, amgaeir copi yn Atodiad 6.
    • Diolchodd y Cadeirydd i'r cyflwynwyr i gyd am eu cyflwyniadau ardderchog.

Eitem 5: Sesiwn Meicroffôn Agored

5.1 Rhoddodd yr Aelodau sylwadau ar y cyflwyniadau ardderchog a gwnaed y pwyntiau canlynol:

  • Mae menywod yn wynebu problemau wrth gymryd rhan o ganlyniad i ymrwymiadau a chyfrifoldebau teuluol a theimlwyd bod angen ymgyrch radical er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb sylfaenol hwn.
  • Mae cerdded yn bwysig. Nid yw plant yn cerdded digon o ganlyniad i ofn sydd wedi cael ei greu ynddynt ac yn aml maent ofn cerdded yng nghefn gwlad. Mae angen annog cerdded fel gweithgaredd hamddenol heb ofni'r amgylchedd. Nodwyd bod llawer o diroedd y Comisiwn Coedwigaeth yn yr ardal a bod angen mwy o arwyddion ar eu cyfer.
  • Awgrymwyd rhoi'r teitl Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol ar adolygiad y Pwyllgor Diwylliant - gan fod cerdded, dawnsio, iechyd a chadw'n heini yn ffactorau pwysig yn y maes.
  • Dymuna rhai weld pa dystiolaeth a ddefnyddiodd Cyngor Blaenau Gwent wrth ganfod safon y llwyddiant ar gynyddu nifer y menywod sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Gofynnwyd pam nad oedd Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cefnogi cais Casnewydd ar gyfer cael pwll nofio wyth lôn.
  • Cafwyd neges glir bod gan Dde Ddwyrain Cymru broblem o ran cyfranogiad isel o'i gymharu â gweddill Cymru ac o fewn yr ardal ei hun. Ac eithrio Blaenau Gwent, yr oedd y cymoedd ar waelod y gynghrair ac roedd ffyniant yr ardaloedd yn ymwneud â hyn. Croesawyd yr arian oddi wrth Sportlot ond pwysleisiwyd bod angen cyfleusterau ar y cymunedau oedd o dan anfantais.
  • Cydnabyddwyd bod angen llongyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar lwyddiant eu strategaeth a'r ymdrechion a wnaed er mwyn cynyddu cyfranogiad a darparu adnoddau.
  • Angen cynyddu'r dewis ac amrywiaeth o chwaraeon nid cynnig rygbi yn y gaeaf a chriced/athletau yn yr haf yn unig. A gynigir pêl-droed ym mhob ysgol?
  • Cydnabyddwyd gwaith ardderchog clybiau'r Bechgyn a Merched, sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd sydd o dan anfantais. Mae'r clybiau hyn wedi gwneud llawer o waith gyda chwaraeon a phobl ifanc 7-20 oed. Gwirfoddolwyr sy'n rheoli'r clybiau ac awgrymwyd y dylai'r Cynulliad gydnabod y gwaith a wneir gan y Clybiau.
  • Mae'n bwysig bod cyfleusterau yn ardaloedd y cymoedd o fewn cyrraedd ac nad yw'r cymunedau bach wedi eu cyfyngu i un cyfleuster yn unig o achos maint y dalgylch.
  • Gwelwyd cysylltiadau profedig rhwng gweithgareddau corfforol a iechyd a dylid annog pob un ohonom i wneud rhywfaint o ymarfer corff. Yr oedd yn bwysig bod y ddelwedd gywir yn cael ei marchnata ar gyfer grwpiau megis merched yn eu harddegau.
  • Mae Cymunedau yn Gyntaf yn fenter bwysig gan y Cynulliad i helpu adfywio'r ardaloedd sydd o dan anfantais fwyaf. Mae'n bwysig ein bod yn cynnwys chwaraeon yn y rhaglenni.
    • Mewn ymateb, dywedodd y panel:
  • Cydnabyddwyd y problemau oedd yn wynebu menywod oedd â chyfrifoldebau teuluol ac yn dymuno neilltuo amser ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon a dyma her sylfaenol i Gyngor Chwaraeon Cymru. Cydnabyddwyd hefyd byddai angen ymdrech anferthol er mwyn sicrhau'r newidiadau hyn.
  • Bydd Cyngor Chwaraeon Cymru yn ail-werthuso cais Casnewydd ar gyfer cael pwll nofio newydd.
  • Mae angen canolbwyntio ar yr heriau sy'n wynebu De Ddwyrain Cymru ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod gan drigolion yr ardaloedd hynny lle mae cyfranogiad isel iechyd gwaeth. Mae yna berygl ein bod yn edrych ar y pwyntiau negyddol yn hytrach na'r cadarnhaol. Rhaid i bob asiantaeth gydweithio a llunio agwedd gyd-gysylltiedig ar gyfer rhaglen Cymunedau yn Gyntaf er mwyn sicrhau y defnydd gorau o'r adnoddau.
  • Mae angen i ysgolion roi cynllun Addysg Gorfforol ar waith i gynnig mwy o amrywiaeth ac ystod o chwaraeon ac archwilio potensial eu disgyblion. Mae angen cynnig gweithgareddau sy'n addas at anghenion a diddordebau pawb.
  • Cytunwyd bod y Clybiau Bechgyn a Merched wedi sicrhau canlyniadau ardderchog ac yn aml dyma'r unig sefydliad sydd wedi gallu cyrraedd pobl ifanc yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Cydnabyddwyd bod angen mynd i'r afael â'r broblem o sicrhau bod cyfleusterau mewn cymunedau bach o fewn cyrraedd.
  • Yr oedd angen targedu gweithgareddau corfforol a iechyd er mwyn canolbwyntio arnynt mewn ymgyrchoedd Cyngor Chwaraeon Cymru yn y dyfodol.
    • Nododd Rhodri Glyn Thomas y sylw ynghylch newid teitl yr adolygiad. Ychwanegodd ei fod yn bwysig bod cyfle i bob sector o'r gymuned i gymryd rhan a bod y rhwystrau'n cael eu dymchwel. Mewn perthynas â chwaraeon cyswllt corfforol, cyfeiriodd at y system yn Seland Newydd lle roedd plant yn cystadlu yn erbyn plant o'r un maint yn hytrach nag oed. Cytunodd â'r sylwadau bod pobl oedd yn cymryd rhan mewn ymarfer corff yn iachach.
    • Gofynnwyd y cwestiynau canlynol gan y gynulleidfa:
  • Ym mha ffordd y gellid ariannu a gwella mynediad a chludiant i'r rhai sydd â nam ar eu golwg? Atebodd Jon Morgan drwy ddweud mai cyfrifoldeb darparwyr y gwasanaethau ydoedd mynediad corfforol i'r cyfleusterau. Mae'n rhaid i bob adeilad newydd gydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a byddai'n ddefnyddiol i'r asiantaethau gael rhestr wirio dechnegol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gofynion. Mewn perthynas â thrafnidiaeth, teimlwyd bod angen archwiliad er mwyn sicrhau bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o'r holl gerbydau a addaswyd yn enwedig y tu allan i oriau arferol.
  • Mae adnoddau hoci da yng Nghymru, ond ychydig iawn o gyhoeddusrwydd a gaiff hoci o'i gymharu â chwaraeon eraill. A ystyriwyd hoci fel rhan o'r Adolygiad?
  • Yn ogystal mae dawns yn weithgaredd corfforol y mae nifer o bobl ifanc yn ei fwynhau ond yn aml nid oes modd i'w fwynhau y tu allan i'r ysgol.
  • Cytunodd y panel bod hoci a dawns yn bwysig ond dywedwyd nad oedd modd sôn am bob gweithgaredd yn ystod y cyflwyniadau. Ychwanegodd Lynn Philllips y caiff hoci ei chwarae mewn nifer o leoliadau ym Mlaenau Gwent a bod ei adran chwaraeon yn cydweithio â Chymdeithas Hoci Cymru er mwyn cynyddu cyfranogiad.
  • A yw'r Pwyllgor yn credu y dylai'r mater o werthu caeau chwarae gael blaenoriaeth gan y Cynulliad oherwydd ei fod yn amlwg yn effeithio ar lefelau cyfranogiad?. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn bwynt pwysig oherwydd unwaith y caiff cae chwarae ei werthu ar gyfer datblygu, nid oes modd hawlio'r tir yn ôl. Nodwyd nad oedd Cymru wedi colli llawer o gaeau chwarae o gymharu ag ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig.
  • Pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddarparu pwll nofio a fydd yn denu athletwyr cystadleuol yn Nwyrain Cymru? Dywedodd Sara Butlin, bod Cyngor Chwaraeon Cymru wedi neilltuo arian ar gyfer Pwyll Maendy yng Nghasnewydd a'i fod yn ailystyried y cais ar gyfer pwll wyth lôn yn ardal Casnewydd.
  • Yr oedd yn fwriad sefydlu academi rygbi ar y lefel uchaf ym Mhen-y-Bont ar Ogwr ond cafwyd cryn wrthwynebiad iddo oherwydd harddwch naturiol yr ardal. Sut fyddech chi'n barnu rhwng y ddwy ochr? Atebodd y panel mai mater i'r swyddog cynllunio lleol oedd hwn. Serch hynny, nodwyd bod diffyg adnoddau dan do yng Nghymru a bod angen mynd i'r afael â'r broblem.
  • Beth yw polisi Cyngor Chwaraeon Cymru ar gyfer oedolion a'r henoed? Dywedodd Sara Butlin eu bod yn canolbwyntio ar bobl ifanc ar hyn o bryd yn ogystal â chynyddu cyfranogiad i oedolion. Ychwanegodd bod ymgyrch diweddar wedi bod ar gyfer y grp oed 50+.

·Ym mha ran o Abertyleri fydd yr orsaf reilffordd newydd? Dywedodd Peter Law mai'r bwriad ydoedd lleoli’r orsaf wrth ochr safle archfarchnad Tesco.

  1. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan yr Aelodau unrhyw gwestiynau a/neu sylwadau pellach i'r panel.
  • All Cymdeithas Pêl-droed Cymru roi cefnogaeth ariannol i glybiau pêl-droed sy'n wynebu problemau ariannol. Dywedodd Mark Aizlewood bod Cymdeithas Pêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn sefydliadau ar wahân gan ychwanegu bod yr arian a gaiff yr Ymddiriedolaeth yn cyfateb i 3c/y person a gofrestrwyd ar gyfer chwarae pêl-droed.
  • A oes yna strategaeth i ddarparu caeau pêl-droed ychwanegol er mwyn bodloni'r galw? Dywedodd Mark Aizlewood bod archwiliad o nifer y caeau pêl-droed yng Nghymru yn cael ei gynnal. Ychwanegodd bod angen mwy o adnoddau dan-do er mwyn cynnal diddordeb a chydymffurfio â'r rheolau. Dywedodd bod modd defnyddio neuaddau ysgol ar gyfer hyrwyddo pêl-droed mini yn yr ysgol gan felly ryddhau caeau pêl-droed.

5.6 Dywedodd Rhodri Glyn Thomas fod y cyfarfod wedi bod yn ddefnyddiol iawn a byddai'r sylwadau yn cael eu cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor Diwylliant.

Gogledd Cymru (04-02) - 1 Tachwedd - Amlwch

Eitem 3: Adolygiad o Chwaraeon yng Nghymru (10.10am tan 11.40am)

3.1 Esboniodd Rhodri Glyn Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, gylch gorchwyl yr Adolygiad o Chwaraeon sy'n cael ei gynnal gan ei bwyllgor. Nododd y byddai unrhyw sylwadau sy'n cael eu mynegi gan yr Aelodau yn cael eu bwydo i'r broses. Amgaeir cylch gorchwyl yr adolygiad yn atodiad 1.

3.2 Codwyd y pwyntiau canlynol yn nhrafodaeth yr Aelodau:-

  • mae gwybodaeth a ddarparwyd gan Gyngor Chwaraeon Cymru yn dangos nad oedd y galw am gyfleusterau chwaraeon mewn rhai ardaloedd yn cael ei gyrraedd. Dylid mynd i'r afael ag anghenion grwpiau penodol yn ein cymdeithas;
  • Mae pris mynediad i ganolfannau chwaraeon yn ddrud. Dylid ystyried rhoi mynediad am ddim i deuluoedd a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol;
  • Nid oes goblygiad statudol ar yr Awdurdodau Lleol i ddarparu canolfannau hamdden. Dylid mynd i'r afael â hyn;
  • Mae'n hanfodol bod seilwaith trafnidiaeth effeithlon i'w chael i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cyrraedd y canolfannau hamdden, am fod rhaid i lawer ohonynt sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ddibynnu ar eu rhieni am drafnidiaeth;
  • Dylid ystyried agor y cyfleusterau sydd yn yr ysgolion i'r cyhoedd;
  • Byddai darparu cyfleusterau chwaraeon newydd yn golygu y byddai mwy o'r cyhoedd yn gallu eu defnyddio, gan arwain felly at boblogaeth fwy iach;
  • Gallai llawer o fanteision ddod o ddenu digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol i Gymru, megis cais Ynys Môn i gynnal Gemau'r Ynysoedd.

3.3 Gwnaed y pwyntiau canlynol gan aelodau o'r gynulleidfa:-

  • Dywedodd Claire Andrew, Ysgol Gyfun Caergybi fod angen cyfleusterau chwaraeon gwell yn yr ysgolion;
  • Dywedodd Richard Parry, Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Caergybi nad oedd llawer o gyfleusterau yn yr ysgolion ar yr Ynys. Nid oedd llawer o gaeau chwarae nac ystafelloedd newid ar gyfer timau pêl-droed y merched. Mae angen £100,000 i wella'r caeau chwarae;
  • Nododd Ann Jackson, Adran Hamdden Cyngor Sir Gwynedd fod gwasanaethau hamdden yr awdurdod lleol am wneud cyfleusterau yn fwy agored, ond eu bod o dan bwysau i fod yn gost effeithiol ac felly byddai mwy o ganllawiau ar sut i gyflawni hyn o gymorth;
  • Awgrymodd y Cynghorydd Bob Barton, Cyngor Cymuned Llanarmon-yn-Ial fod angen cyfathrebu gwell rhwng y Cynulliad a'r awdurdodau lleol a'r awdurdodau iechyd er mwyn gallu cydlynu'r manteision sydd gan chwaraeon i'w cynnig;
  • Er bod grant wedi cael ei roi i wella adeiladau'r Clwb, roedd George Stuart, Clwb Saethu Bangor a'r Cylch, yn pryderu ynghylch y ffaith bod cais i wella system wyntyllu y man saethu wedi cael ei wrthod am fod y gair 'pistol' yn nheitl y clwb. Nododd hefyd nad oedd unrhyw gyfleusterau ar yr Ynys i hyfforddi neu ymarfer Saethu Trap;
  • Teimlodd Linda Criss y dylai arian fod ar gael i adfywio cyfleusterau chwaraeon yn y cymunedau gwledig lleol yn hytrach nag adeiladu cyfleusterau newydd mewn ardalodd trefol;
  • Dywedodd Nicky Manson, Cyngor Cymru i'r Deillion, fod chwaraeon yn allweddol i iechyd da. Dylid pwysleisio ei fuddion i bawb, boed yn abl neu'n anabl, ac nid i'r athletwyr elît neu am resymau cystadleuol yn unig;
  • Nododd Cindy Yiu, disgybl yn Ysgol Caergybi, fod angen trafnidiaeth well a chanolfan hamdden ganolog ar yr Ynys i gymryd lle'r canolfannau cyfredol;
  • Dywedodd Jane Clough, Cyngor Chwaraeon Cymru ei bod yn hanfodol darparu'r hyfforddiant angenrheidiol a'r arian sydd ei angen i dalu am hyfforddwyr o safon uchel ym mhob maes chwaraeon;
  • Mae'r Cynghorydd Roberts, Pensarn wedi cael cynnig cyfleuster a gynlluniwyd gan Thames Valley Police ond roedd angen £10,000 arno i brynu'r safle. Gofynnodd am wybodaeth am sut i gael cyllid addas;
  • Pwysleisiodd Graham Burchan, Clwb Hwylio Cylch Meirionydd bwysigrwydd datblygu hyfforddwyr o safon uchel ledled Cymru;
  • Dywedodd Steven Wood, Tîm Troseddwyr Ifanc Conwy/Sir Ddinbych, fod cymryd rhan mewn chwaraeon wedi gwneud i nifer o droseddwyr ifanc newid eu ffyrdd a bod y rhaglen "Get Hooked on Fishing" wedi bod yn hynod o llwyddiannus yn yr ardal hon;
  • Pwysleisiodd y Cynghorydd Gerwyn Jones, Cyngor Sir Ynys Môn, fod angen mynediad rhad ac am ddim i gyfleusterau yn ystod gwyliau'r ysgol;
  • Wendy Crisp - mae'n bwysig bod cyfleusterau golff gwell i'w cael yng Ngogledd Cymru os yw'r Gogledd am fanteisio ar yr effaith y bydd Cwpan Ryder yn ei chael ar dwristiaeth;
  • Nododd Bob Lowe, Cymdeithas Hwylio Cymru, y dylai'r Cynulliad lunio polisïau i fanteisio ar y cyfleusterau naturiol sydd ar gael yng Ngogledd Cymru ar gyfer hwylio a dringo;

3.4 Gwnaeth yr Aelodau yr ymatebion canlynol:-

  • Er mwyn i bobl ifanc gystadlu ar lefel sirol mae'n hanfodol bod arian ar gael i'w helpu;
  • Roedd arian y Loteri wedi helpu i ddarparu nifer o ganolfannau hamdden ond mewn nifer o achosion nid oedd y canolfannau yn gallu agor heb wirfoddolwyr. Mae angen i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cymorth ymarferol i'r gwirfoddolwyr hyn;
  • Dylid ystyried caniatáu i'r cyhoeddi ddefnyddio'r cyfleusterau sydd yn yr ysgolion;
  • Dylid ystyried cadw cyfleusterau chwaraeon ar agor 24 awr y dydd;
  • Dylid ystyried awgrymiadau ar sut i ddenu gwirfoddolwyr i'r grwpiau chwaraeon lleol a'u cefnogi;

3.5 Nododd Rhodri Morgan fod trafodaethau ar y gweill gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar roi mynediad am ddim i gyfleusterau'r llywodraeth leol i rai grwpiau penodol.