Y Pwyllgor Diwylliant (Tachwedd 2000 - Ebrill 2003)
Adolygiad yr Iaith Gymraeg
Mae Pwyllgor Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o'i bolisi ar yr Iaith Gymraeg. Cychwynnodd yr adolygiad ym mis Mai a bwriedir ei gwblhau erbyn Pasg 2002. Mae'r Adolygiad yn cynnwys proses ymgynghori ysgrifenedig a sesiynau casglu tystiolaeth o fewn y pwyllgor a sioeau teithiol ac ymweliadau amrywiol ledled Cymru.
Ysgrifenyddiaeth
Clerc Julia Annand
Dirprwy Glerc Gwag
Staff cynorthwyol: Eirian Dyer
Mae'r Pwyllgor Diwylliant wedi penodi Mr Euryn Ogwen Williams fel ymgynghorydd arbenigol i gefnogi Aelodau'r Pwyllgor a Chlerc y Pwyllgor yn eu trafodaethau ac i gynhyrchu papur ymgynghorol ac adroddiad terfynol.
Cylch Gorchwyl
Mae cylch gorchwyl yr adolygiad fel a ganlyn:
I geisio diffinio’n fwy manwl nod sefydledig y Cynulliad Cenedlaethol o 'greu Cymru ddwyieithog’. Nod y Pwyllgor fydd awgrymu strategaeth bendant o’r camau tuag at gyflawni’r nod honno.
Bydd yr adolygiad yn talu sylw arbennig i’r themâu canlynol:
- galluogi pobl i ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall neu’r ddwy ymhob agwedd o fywyd cenedlaethol ac yn eu
- cymunedau;cefnogi Cymraeg fel iaith y teulu a’r gymuned;
- darparu cyfleoedd i bobl ddysgu Cymraeg, a’i defnyddio;
- hyrwyddo parch cyfartal tuag at y Gymraeg a’r Saesneg, a chynnal y consensws a’r ewyllys da cenedlaethol at ddwyieithrwydd.
Bydd y Pwyllgor yn edrych ar waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a bydd hefyd yn edrych ar swyddogaeth a chyfraniad amrywiaeth o sefydliadau eraill. Bydd y rhain yn cynnwys asiantaethau sy’n cyfrannu tuag at ddatblygiad economaidd, yn ymdrin ag eithrio cymdeithasol, yn gwella dysgu, ac yn gwella ansawdd bywyd.
Oherwydd y newidiadau a arweiniodd at greyu Pwyllgor Addysg a Phwyllgor Diwylliant ar wahân, cynhelir y prif adolygiad gan y Pwyllgor Diwylliant, a'r adolygiad o'r Gymraeg mewn addysg ffurfiol (Ysgolion, Addysg Bellach ac Addysg Uwch) ar wahân gan y Pwyllgor Addysg, sydd i ddechrau yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Serch hynny, mae addysg anstatudol, er enghraifft darpariaeth addysg feithrin ac addysg i oedolion, yn dod o fewn cylch gwaith yr adolygiad hwn.