Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes (Tachwedd 2000 - Ebrill 2003)
Adolygiad Polisi
Addysg Uwch
yng Nghymru
Cylch Gwaith
Nodi gweledigaeth ar gyfer addysg uwch yng Nghymru a sut y dylai wasanaethu anghenion y wlad, a datblygu strategaeth
dymor-hir ar gyfer manteisio i’r eithaf ar gyfraniad y sector. Dylai’r astudiaeth roi sylw i’r dimensiynau Cenedlaethol, Ewropeaidd, a’r dimensiynau rhyngwladol ehangach sydd o dan sylw, ynghyd â’r gwahanol
genadaethau addysgu, ymchwil, dywilliannol, galwedigaethol ac economaidd o fewn y sector. Dylai’r astudiaeth roi sylw penodol i’r canlynol:
- yr
ystod o ddisgyblaethau a gweithgareddau o fewn addysg uwch;
- y portffolio ymchwil a wneir o fewn y sector, a maint yr ymchwil a phatrwn yr ymchwil a geir oddi
wrth CCAUC, Cynghorau Ymchwil a ffynonellau eraill;
- cenhadaeth econmaidd sefydliadau
addysg uwch mewn perthynas â golud a chreu swyddi ac elwa yn fasnachol ar wybodaeth;
- y cyfle
ar gyfer cydweithredu at ac integreiddio o fewn y sector addysg uwch a hefyd bartneriaeth rhwng sefydliadau AU ac ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac eraill er mwyn codi safonau addysgu ac ymchwil yn barhaus;
- cymorth
ariannol i fyfyrwyr a’i effaith ar faint a phatrwn y recriwtio;
- pwerau statudol y Cynulliad ac unrhyw gyfyngiadau y maent yn eu gorfodi
ar ddatblygiad strategol addysg uwch yng Nghymru.
Dylai’r astudiaeth bolisi ddisgrifio’r
cyfleoedd ar gyfer datblygu strategol, gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu a phennu targedau ar gyfer cyrhaeddiad, gan roi sylw priodol i flaenoriaethau cystadleuol a chyfyngiadau ar adnoddau.
Dogfennau
Allweddol
Dyma'r dogfennau allweddol. Cliciwch ar y rhif cyfeirnod i weld y dogfen.