Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes (Tachwedd 2000 - Ebrill 2003)
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn Addysg
Adolygiad
Polisi
TGCh mewn Addysg yng Nghymru
Swyddogaethau diwygiedig
Cam
1
Ymchwilio i'r ffordd y mae'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu yn datblygu yng Nghymru er mwyn:
- Adolygu'r
cynnydd a wnaed wrth geisio cyrraedd y targed o gysylltu pob ysgol â'r Grid erbyn 2002.
- Ystyried
i ba raddau y gall Awdurdodau Addysg Lleol gydweithredu'n fwy wrth iddynt ddatblygu eu rhwydweithiau dysgu eu hunain gyda ffocws arbennig ar gaffael ar y cyd;
- Ystyried
yr angen am ragor o ganllawiau arbenigol i Awdurdodau Addysg Lleol ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o rwydweithio i ysgolion.
Cam
2
Datblygu casgliadau cam 1 drwy:
- Ymchwilio i werth datblygu Cytundeb Fframwaith
Cenedlaethol i ategu'r broses gaffael er mwyn sicrhau darbodion maint;
- Ymchwilio i'r rhesymau
pam nad yw'r gwasanaeth sy'n dwyn nod barcud Asiantaeth Technoleg a Chyfathrebu Addysgol Prydain (BECTA) yn diwallu anghenion Awdurdodau Addysg Lleol ac ystyried, ynghyd ag ADEW, ffyrdd o wella hyn;
- Ymchwilio,
ynghyd ag ADEW, ACCAC a phartïon eraill sydd â diddordeb, p'un a yw'n ymarferol sefydlu rhwydwaith TGCh Cenedlaethol i Gymru o fewn y sector cyhoeddus. Ymchwilio hefyd i oblygiadau sefydlu rhwydwaith o'r fath o ran amser ac adnoddau;
- Ystyried
ffyrdd o hybu mwy o gydweithredu ledled Cymru wrth ddatblygu meddalwedd addysgol dwyieithog sy'n ategu'r cwricwlwm cenedlaethol;
- Adolygu'r
ffordd y mae athrawon yng Nghymru yn cael eu hyfforddi ym maes TGCh a'r cymorth sydd ar gael iddynt wrth ddefnyddio TGCh o fewn y cwricwlwm cenedlaethol;
- Ystyried
gwerth creu tîm Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu i Gymru, er mwyn datblygu a chynnal gwefan y Grid yng Nghymru, a fydd, yn ei thro, yn diwallu anghenion athrawon Cymru.
Dogfennau
Allweddol
Dyma'r dogfennau allweddol. I agor dogfen, cliciwch ar gyfeirnod y papur.