Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes (Tachwedd 2000 - Ebrill 2003)

Adolygiad Polisi: Ysgol y Dyfofol

Cylch Gorchwyl

1. Bydd yr adolygiad polisi yn nodi newidiadau posibl ar gyfer rolau'r ysgolion cynradd ac uwchradd, a'r modd y maent yn cael eu gweithredu, ymhen 10 i 15 mlynedd. Bydd yr adolygiad yn argymell y datblygiadau polisi y bydd eu hangen i roi'r newidiadau hyn ar waith, gan adeiladu ar y strategaeth a nodir yn Y Wlad sy'n Dysgu.

2. Bydd yr adolygiad polisi yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

  • Yr ysgol fel adnodd cymunedol;
  • Defnyddio technoleg gwybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf yn y maes;
  • Dulliau dysgu;
  • Cwricwlwm;
  • Cyllido;
  • Ymestyn cyfleoedd a chael pobl i gymryd rhan; ac
  • Ychwanegu gwerth at y profiad o fod yn yr ysgol a derbyn addysg.

3. Bydd yr adolygiad polisi yn ystyried tair prif thema'r Cynulliad Cenedlaethol:

  • Datblygu cynaliadwy;
  • Cyfle cyfartal; a
  • Chynhwysiant cymdeithasol.

4. Y bwriad yw dechrau casglu tystiolaeth ym mis Hydref 2002 ac adrodd yn ôl ym mis Mawrth 2003.

Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori’n eang gyda sefydliadau ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad hwn gyflwyno’i safbwynt i’r Pwyllgor. Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i gyflwyno’u safbwyntiau yn bersonol, er mwyn caniatáu cwestiynu manylach a thrafodaeth fanylach o’r materion sy’n codi.

Dogfennau Allweddol

Dyma'r dogfennau allweddol. Cliciwch ar y rhif cyfeirnod i weld y dogfen.

Dogfen Cyfeirnod
Y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes Adroddiad Interim:Ysgol y Dyfodol (pdf, 762kb)
Y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes Adroddiad Interim:Ysgol y Dyfodol (rtf, 164kb)
 
Llythyr Ymgynghori Awst 2002
Rhai â ymgynghorir a hwy Awst 2002
Ymatebion i'r Ymgynghoriad Tachwedd 2002