Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes (Tachwedd 2000 - Ebrill 2003)

Adolygiad Polisi

Yr Iaith Gymraeg Mewn Addysg

Cylch Gorchwyl

Ceisio diffinio’n fanylach sut i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a manteision dwyieithrwydd mewn addysg a dysgu gydol oes wrth wireddu gweledigaeth y Cynulliad Cenedlaethol o feithrin hunaniaeth unigryw ac amrywiol Cymru. Nod y Pwyllgor fydd awgrymu strategaeth ar gyfer gweithredu ym maes addysg a hyfforddiant er mwyn helpu i wireddu’r weledigaeth hon. Bydd yr adolygiad polisi hwn yn ategu’r un sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Diwylliant, sy’n delio â phynciau eraill sy’n berthnasol i’r defnydd o’r iaith Gymraeg a’i statws. Bydd yr adolygiad polisi hwn yn canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant statudol o’r blynyddoedd cynnar hyd at addysg gydol oes a bydd yn rhoi sylw penodol i’r themâu canlynol:
  • Darparu cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu Cymraeg;
  • Gwella’r cyfleoedd i astudio Cymraeg fel ail iaith;
  • Datblygu addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau ar bob lefel; a
  • Hyrwyddo parch cyfartal tuag at y Gymraeg a’r Saesneg
Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori’n eang gyda sefydliadau ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad hwn gyflwyno’i safbwynt i’r Pwyllgor. Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i gyflwyno’u safbwyntiau yn bersonol, er mwyn caniatáu cwestiynu manylach a thrafodaeth fanylach o’r materion sy’n codi.

Dogfennau Allweddol

Dyma'r dogfennau allweddol. Cliciwch ar y rhif cyfeirnod i weld y dogfen.
NAfW-Committees-First Assembly-ELLL-Adolygiadau polisi
Dogfen Cyfeirnod
Adolygiad Polisi o'r Iaith Gymraeg 9 Gorffennaf 2002
Rhestr o'r Ymgynghorwyr Mehefin 2002
Ymatebion i'r Ymgynghoriad Mawrth 2002
Sesiwrnau Tystiolaeth Llafar Papurau
Adolygiad Polisi o'r Iaith Gymraeg Mewn Addysg - Llythyr ymgynghori (rtf, 102kb) 18 Ionawr 2002
Sylwadau Rhagarweiniol (rtf, 20kb) Ionawr 2002
Y Gymraeg mewn Addysg yng Nghymru ELL 19-01(p.2)
Adolygiad Polisi - Yr Iaith Gymraeg Mewn Addysg: Cynnig Drafft ELL 19-01(p.3)
Hysbyseb i'r swydd o Ymgynghorydd Arbennigol (pdf, 254kb) 20 Medi 2001

Partneriaid a Help