Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Mawrth 2000 - Ebrill 2003)

Adolygiad Polisi ar Adfywio Cymunedol

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal adolygiad polisi ar rôl grwpiau cymunedol mewn adfywio cymunedol.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar gyllid a gweithrediad tua 60 o gynlluniau’r Cynulliad sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol. Bydd yn ystyried a yw’r arian yn cael ei dargedu’n effeithiol ac yn cael ei ddarparu yn y ffordd gywir gan y sefydliadau cywir. Bydd yn gwneud argymhellion ynghylch rhesymoli’r trefniadau cyllido presennol.

Mae’r Pwyllgor wedi penodi’r Athro Dave Adamson fel Cynghorydd Arbenigol i’r Adolygiad.

Mae’r Pwyllgor wedi derbyn y papurau canlynol mewn cysylltiad â’r Adolygiad.

Mae’r Pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth lafar gan sefydliadau yn y cyfarfodydd hyn:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ar ddiwedd mis Mehefin, a disgwylir y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mae'r Pwyllgor bellach yn cynnal Rhan II o'i adolygiad polisi ar adfywio cymunedol, a fydd yn canolbwyntio ar Gynyddu Gallu.

Dogfennau Allweddol

Y dogfennau canlynol yw’r rhai allweddol ar gyfer yr Adolygiad Polisi:

Dogfen

Cyfeirnod

Llythyr ymgynghori 9 Awst 2001
Cynllun y Prosiect ac Amserlen LGH 11-01 (p6)