Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth (Gorffennaf 1999 - Ebrill 2003)

Mick Bates AM / AC
Croeso i Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth - oddi wrth Mick Bates, A.C., Cadeirydd.

Bellach sefydlwyd pedwar pwyllgor rhanbarth gan y Cynulliad. Mae Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth yn cynnwys Ceredigion a Phowys a'r rhan o Wynedd sy'n cynnwys cyn dosbarth Meirionydd.

Swyddogaeth y pwyllgorau rhanbarth yw cynghori'r Cynulliad am:

  • Faterion sy'n effeithio ar eu rhanbarthau;
  • Effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny; a
  • Gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

Bydd y pwyllgorau rhanbarth yn fodd i feithrin cysylltiadau hanfodol rhwng y Cynulliad a chymunedau lleol.