Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd (Gorffennaf 1999 - Ebrill 2003)

Croeso i Bwyllgor Rhanbarth y Gogledd - oddi wrth Peter Rogers, A.C. Cadeirydd
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu pedwar pwyllgor rhanbarth. Mae Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd yn cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Ynys Môn, Wrecsam a'r rhan o Wynedd sy'n cynnwys cyn-ddosbarthau Arfon a Dwyfor.
Swyddogaeth y pwyllgorau rhanbarth yw cynghori'r Cynulliad am:
· faterion sy'n effeithio ar y rhanbarthau;
· effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny; a
· gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.
Gallwch weld manylion aelodau'r Pwyllgor drwy glicio yma
Ar hyn o bryd mae Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd yn cynnig cyfle i'r cyhoedd ofyn cwestiynau i aelodau'r Pwyllgor ar faterion y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol amdanynt. Mae'r Aelodau'n ei ystyried yn gysylltiad hanfodol rhwng y Cynulliad Cenedlaethol â phobl Gogledd Cymru.