Y Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio (Mai 1999 - Ebrill 2003)
Ystyried gan Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio*
Mae’r Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio yn cyfarfod yn breifat ac mae ei aelodau o dan ddyletswydd i gadw cyfrinachedd unrhyw drafodaeth gan y Pwyllgor ac unrhyw ddogfennau sy’n cael eu hystyried gan y Pwyllgor heblaw llythyr penderfyniad Pwyllgor ar ôl iddo gael ei fabwysiadu, ynghyd ag unrhyw ddogfennau y mae’n cyfeirio atynt.
Bydd swyddogaethau’r Pwyllgor yn peidio pan fydd y Cadeirydd yn llofnodi llythyr penderfyniad y mae’r Pwyllgor wedi penderfynu ei fabwysiadu, neu cyn y dyddiad a bennir yn y cynnig a wnaeth sefydlu’r Pwyllgor.
* Gweler Rheol Sefydlog 35.11 – 35.16 am ragor o wybodaeth am ystyriaeth gan y Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio (Atodlen 1, Atodiad A)