Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Mai 1999 - Ebrill 2003)

Croeso i dudalennau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn un o chwe Phwyllgor Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Rheol Sefydlog 16 yn nodi cylch gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a'r gofynion mewn perthynas â manylion aelodaeth y pwyllgor, rôl yr Ymgynghorydd Annibynnol ar safonau, cyfarfodydd ac adroddiadau.

Prif swyddogaeth y Pwyllgor yw ystyried cwynion a gyfeirir ato gan y Llywydd, ac unrhyw faterion o egwyddor mewn perthynas ag ymddygiad Aelodau'r Cynulliad yn gyffredinol. Mae'r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio Cofrestr Buddiannau'r Aelodau.

Rheol Sefydlog 16

16.1 Bydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a fydd:

(i) yn ymchwilio i unrhyw gwyn y cyfeirir ato gan y Llywydd fod Aelod heb gydymffurfio â rheol sefydlog 4 neu unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad ynglyn â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yr Aelodau, yn adrodd ar y gwyn honno ac, os bydd yn briodol, yn argymell y camau y dylid eu cymryd mewn perthynas â'r gwyn, neu fod un o Ysgrifenyddion y Cynulliad heb gydymffurfio â gofynion paragraff 2.8;

(ii) yn ymchwilio i unrhyw gwyn a gyfeirir ato gan y Llywydd fod Aelod heb gydymffurfio ag unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad ynglyn â safonau ymddygiad yr Aelodau neu'r canllawiau i'r Ysgrifenyddion Cynulliad y bydd y Cynulliad wedi'u cymeradwyo yn unol â pharagraff 2.7, yn adrodd ar y gwyn honno ac, os bydd yn briodol, yn argymell y camau y dylid eu cymryd mewn perthynas â'r gwyn;

(iii) yn ystyried unrhyw fater o egwyddor ynglyn ag ymddygiad yr Aelodau yn gyffredinol;

(iv) yn goruchwylio'r trefniadau ar gyfer llunio Cofrestr Buddiannau'r Aelodau, a ffurf a chynnwys y Gofrestr, a'r trefniadau ar gyfer cadw'r Gofrestr a sicrhau ei bod yn hygyrch; a

(v) yn cyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cynulliad ar nifer y cwynion a wnaed i'r Llywydd o dan (i) a (ii) a'r camau a gymerwyd, ac ar ei gasgliadau ynglyn â safonau moesegol wrth gynnal busnes y Cynulliad.