Cod Safonau ar Gyfer Aelodau
Cod Safonau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad
Egwyddorion
Dyletswydd gyhoeddus
Mae’n ddyletswydd ar aelodau gynnal y gyfraith a gweithredu bob amser yn unol â’r ffydd a roddir ynddynt gan y cyhoedd. Mae ar aelodau ddyletswydd gyffredinol i weithredu er lles Cymru gyfan; a dyletswydd arbennig i drigolion yr ardaloedd yr etholwyd hwy i’w gwasanaethu.
Anhunanoldeb
Lles y cyhoedd yn unig ddylai arwain penderfyniadau aelodau. Ni ddylid gwneud hynny er mwyn elwa’n ariannol neu gael buddion materol i’w hunain, i’w teuluoedd, neu eu ffrindiau.
Uniondeb
Ni ddylai aelodau ymrwymo’u hunain yn ariannol neu fel arall i unigolion neu gyrff a allai ddwyn dylanwad arnynt wrth iddynt fynd i’r afael â’u dyletswyddau swyddogol.
Gwrthrychedd
Wrth fynd i’r afael â busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyrannu contractau, neu argymell unigolion i gael dyfarniadau a buddiannau, dylai aelodau wneud penderfyniadau ar sail teilyngdod ac er lles y cyhoedd yn unig.
Atebolrwydd
Mae aelodau yn atebol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd i’r cyhoedd a rhaid iddynt gyflwyno’u hunain i ba archwiliad bynnag sy’n briodol i’w swydd.
Bod yn Agored
Dylai aelodau fod mor agored â phosibl yngln â’u holl benderfyniadau a’u gweithredoedd. Dylent roi rhesymau am eu penderfyniadau a chyfyngu gwybodaeth dim ond pan fydd budd ehangach y cyhoedd yn galw am hynny.
Gonestrwydd
Mae’n ddyletswydd ar aelodau ddatgan unrhyw ddiddordebau preifat sy’n ymwneud â’u dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro a fydd yn codi, mewn ffordd sy’n diogelu lles y cyhoedd.
Arweiniad
Dylai aelodau hyrwyddo a chynnal yr egwyddorion hyn drwy arweiniad ac esiampl.
Ymarfer yr Egwyddorion
1. Bydd aelodau’n ymddwyn mewn ffordd sy’n rhoi ystyriaeth i les y cyhoedd, yn osgoi gwrthdaro rhwng budd personol a budd y cyhoedd ac yn datrys unrhyw wrthdaro rhwng y ddau ar unwaith, ac o blaid budd y cyhoedd.
2. Bydd aelodau bob amser yn ymddwyn mewn ffordd a fydd yn tueddu i gynnal a chadw, ac atgyfnerthu ymddiriedaeth a ffydd y cyhoedd yn uniondeb y Cynulliad ac ymwrthod ag unrhyw weithred a allai ddwyn anfri ar y Cynulliad neu ei aelodau’n gyffredinol. Ni fydd aelodau yn gofyn i weision sifil weithredu mewn unrhyw ffordd a fyddai’n cyfaddawdu amhleidioldeb gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil neu’n gwrthdaro â Chod y Gwasanaeth Sifil.
3. Rhaid i aelodau bob amser gofio’r angen i fod yn agored a didwyll gydag Aelodau eraill y Cynulliad, a chyda swyddogion mewn unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â chorff y mae Aelod â chysylltiad ariannol ag ef, neu ar ran corff o’r fath, gan gynnwys gweithgareddau nad ydynt i’w cofnodi’n gyhoeddus megis cyfarfodydd a gweithgareddau anffurfiol.
4. Rhaid i aelodau gofio bod yr wybodaeth a geir yn gyfrinachol yn rhinwedd eu dyletswyddau ar ran y Cynulliad, i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r dyletswyddau hynny yn unig, a rhaid peidio â defnyddio gwybodaeth o’r fath at ddibenion elw ariannol.
5. Ni chamddefnyddir unrhyw dâl neu lwfans a roddir i Aelodau at ddibenion cyhoeddus a rhaid dilyn yn ofalus y rheolau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau a lwfansau o’r fath.
6. Bydd Aelodau yn cydymffurfio â rheolau sefydlog, codau ymarfer a phrotocolau’r Cynulliad.