Y Drefn Gwyno
Dechreuodd y Pwyllgor ystyried dewisiadau ar gyfer ymdrin â chwynion ym mis Gorffennaf 1999. Ymhlith yr ystyriaethau cynnar roedd:
(1) darpariaethau unigryw Deddf Llywodraeth Cymru 1998 sy’n ei wneud yn drosedd i gymryd rhan mewn trafodion heb ddatgan/ cofrestru buddiant;
(2) union rôl y Llywydd (mae’r rheolau sefydlog yn ei nodi fel y man cychwyn ar gyfer derbyn cwynion);
(3) y mathau o gwynion y gallai’r Pwyllgor eu hystyried/ y dylai’r Pwyllgor eu hystyried;
(4) perthynas y Pwyllgor â’r ymgynghorydd annibynnol ar safonau.
Cafodd fersiwn terfynol y Drefn Gwyno ei ystyried gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar 6 Gorffennaf 2000. Mae’r weithdrefn hon wedi ei chyhoeddi a gellir cael mynediad iddi yma. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi llunio taflen "Sut i Gwyno" sy’n cynnwys canllawiau ar wneud cwyn i’r Cynulliad.
Cwynion a Gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan y Llywydd
Mae adroddiadau a wnaed ynghylch yr holl gwynion a ystyriwyd yn ffurfiol gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cael eu cyhoeddi a’u gosod gerbron y Cynulliad, a gellir cael mynediad iddynt ar y safle hwn fel Adroddiadau’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad