Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Rhanbarth y De-orllewin (Gorffannaf 1999 - Ebrill 2003)

Val Lloyd
Croeso i Bwyllgor Rhanbarth y De-orllewin - oddi wrth Val Lloyd, A.C., Cadeirydd

Ym 1999 sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru bedwar pwyllgor rhanbarth. Mae Pwyllgor Rhanbarth y De-orllewin yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Rôl y pwyllgorau rhanbarth yw cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar y canlynol:

  • materion sy'n effeithio ar y rhanbarthau;
  • effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny; a
  • gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

Ar hyn o bryd mae Pwyllgor Rhanbarth y De-ddwyrain yn cynnig cyfle i'r cyhoedd ofyn cwestiynau i aelodau'r Pwyllgor ar faterion y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol amdanynt. Mae'r Aelodau'n ei ystyried yn gysylltiad hanfodol rhwng y Cynulliad Cenedlaethol â phobl Cymru.