Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yw ystyried materion sy’n effeithio ar blant yng Nghymru. Yn benodol, caiff y Pwyllgor archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff cyhoeddus cysylltiedig ac mae'n ystyried adroddiadau Comisiynydd Plant Cymru.

Newyddion Diweddaraf

Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn ceisio canfod a oes gan blant a phobl ifanc yng Nghymru fannau diogel i chwarae a chymdeithasu.  Byddwn yn defnyddio’r hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym i roi gwybod i’r Llywodraeth sut y credwn y gallai wella’r sefyllfa. Nid oes raid i chi ateb y cwestiynau i gyd ond byddai o gymorth mawr i ni pe gallech ateb cymaint ag y gallwch

Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar fel rhan o'i ymchwiliad i'r ddarpariaeth o fannau diogel i chwarae a chymdeithasu.

Aelodau'r Pwyllgor a'r staff

Gellir gweld aelodau'r Pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r Pwyllgor yma Mwy>>

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yn yr adran hon.

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor am 14.45 Dydd Mercher 17 Mawrth 2010.

Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc bob pythefnos ar fore dydd Mawrth

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol (gallant newid).