Cynghrair o sefydliadau yn gweithio i ddileu tlodi plant yng Nghymru
Cost Addysg
Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i addysg ddi-dâl. Fodd bynnag, gall addysg plentyn fod yn gostus iawn i rieni a gofalwyr. Mae gan ysgol botensial i roi cyfle i bob plentyn i ddysgu, gwneud cyfeillion a chymryd rhan mewn amrediad o ddigwyddiadau a gweithgareddau beth bynnag fo eu cefndir teuluol, incwm a ffactorau diffiniol eraill. Gall ysgol hefyd weithredu fel rhwystr gan ddiogelu plant rhag effaith byw mewn tlodi. Eto gyda galw cynyddol ar rieni i dalu swm sylweddol o arian ar gyfer gwisg ysgol, tripiau, gweithgareddau, digwyddiadau pontio, prydau a deunyddiau ystafell ddosbarth, mae gan ysgol hefyd y potensial i ynysu, allgau a stigmateiddio plant, yn arbennig y rhai mewn teuluoedd incwm isel. Gall fod yn wir fod gan bob plentyn Nghymru hawl i addysg ddi-dâl, ond mae costau ychwanegol 'cudd’ ysgol yn golygu fod nifer gynyddol o blant a theuluoedd yn agored i galedi ariannol. Bydd y briffiad hwn yn amlygu'r meysydd canolog o bryder a chyflwyno nifer o argymhellion, gan gyfeirio at astudiaethau ac adroddiadau allweddol.
Polisi
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddileu tlodi plant erbyn 2020 ac wedi dangos ei ymrwymiad drwy ei flaenoriaethau fel un o’u 7 Nod Craidd ar gyfer pob polisi yn effeithio ar blant a phobl ifanc (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2002). Cyflwynwyd nifer o raglenni a chynlluniau i gefnogi hyn, yn arbennig felly y rhaglen Cymunedau’n Gyntaf, grantiau Cymorth i ardaloedd targed, nofio di-dâl a theithio hanner pris ar fysus mewn 4 ardal awdurdod lleol ac, yn fwy diweddar, y cynllun Dechrau’n Deg ar gyfer plant dan oedran ysgol. Cafodd strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru 'Dyfodol Teg i’n Plant’ ei gyhoeddi'r llynedd a chyhoeddwyd y cynllun gweithredu ar gyfer y strategaeth ym mis Mai 2006.
Yng nghyswllt polisi addysg yn cyfeirio at ysgolion ac sy’n anelu i fynd i’r afael ag anghenion grwpiau bregus mewn tlodi, mae’r rhaglenni a gyflwynwyd yn cynnwys y cynllun brecwast di-dâl i bob ysgol gynradd yng Nghymru, grant prawf modd ar gyfer gwisgoedd ysgol ar gyfer blant yn dechrau ar Flwyddyn 7, yr adroddiad 'Cau’r Bwlch’ ar berfformiadau ysgol, cynllun prawf modd ar gyfer prydau ysgol di-dâl a’r rhaglen RAISE sy’n targedu cyllid i wella canlyniadau addysgol ar gyfer disgyblion dan anfantais sy’n tangyflawni. Er y ffocws calonogol hwn ar blant mewn amgylchiadau a chymunedau difreintiedig, bu’r pwyslais hyd yma yn bennaf ar ganlyniadau addysgol, ymddygiad a chyrhaeddiad academaidd. Medrid dadlau y rhoddwyd llai o sylw i’r costau ychwanegol o fewn addysg wladol, sy’n achosi caledi gwirioneddol a phryder i lawer o deuluoedd incwm isel.
'Dyw ysgolion gwladol ddim yn rhad!
Mae ymchwil ddiweddar Mynegai Symiau Ysgol Norwich Union yn awgrymu fod rhieni gyda’i gilydd yn talu £129 biliwn hynod i roi eu plant drwy ysgol wladol ar gost gyfartalog o £14,000 y plentyn. Mae hyn yn gynnydd o £40 biliwn mewn dim ond pedair blynedd ac mae’n gweithio allan yn £1,300 y plentyn y flwyddyn, yn seiliedig ar addysgu plentyn rhwng 5 a 16 oed. Mae hyn yn cynnwys arian a werir ar dripiau ysgol, offer chwaraeon, gwisg ysgol, llyfrau, prydau ysgol, cludiant, gweithgareddau ar ôl ysgol ac offer. Mae ffigurau’r DfES o 2004 yn awgrymu cost o £948 y flwyddyn ar gyfer plentyn ysgol uwchradd a £563 ar gyfer plentyn mewn addysg gynradd. Nid yw’n syndod dysgu o’r canfyddiadau hyn i’’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn y ddau grŵp incwm isaf ei chael yn anodd talu am gostau cysylltiedig. Mae’r gofyniad cynyddol gan ysgolion i gael gwisg unigryw i hyrwyddo hunaniaeth neilltuol ac i drefnu tripiau a digwyddiadau ysgol i hyrwyddo profiadau y tu allan i’r ystafell ddosbarth wedi eu dynodi fel ffactorau allweddol sy’n rhoi pwysau ar deuluoedd incwm isel.
Gwisgoedd ysgol
Er bod 'Arweiniad ar Wisgoedd Ysgol’ Llywodraeth y Cynulliad yn pwysleisio y dylid rhoi ystyried i faterion cost, mae’r ymarfer yn amrywio rhwng ysgolion ac ychydig o fonitro o gydymffurfiaeth gyda’r Canllawiau hyn a wneir. Yn ôl astudiaeth y DfES, mae cost gyfartalog gwisg ysgol (yn cynnwys offer addysg gorfforol) tua £286 y flwyddyn, yn codi i £312 ar gyfer bechgyn, gryn dipyn yn uwch na’r grant unigol o £95 a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer teuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol di-dâl pan fo plentyn yn trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd. Gan fod y ffigurau diweddaraf yn dangos fod 27% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi a dim ond 16% o blant ysgol sydd â hawl i brydau ysgol di-dâl, mae nifer sylweddol o deuluoedd felly yn medru cyrchu’r grant hwn sydd ei fawr angen. Mae’r Gymdeithas Lles Teulu sy’n rhoi cymorth grant i helpu gyda chost gwisgoedd ysgol wedi gweld cynnydd flwyddyn ar flwyddyn yn nifer y rhieni sy’n gwneud cais, a thrwy eu prosiect Horizons a ariannwyd gan Barclaycard, dosbarthwyd bron £50,000 mewn grantiau y llynedd sy’n gyfartaledd o tua £173 y plentyn. Gyda gostyngiad cyson yn nifer yr awdurdodau lleol yn darparu grantiau ar ddisgresiwn i deuluoedd incwm isel, caiff llawer o deuluoedd eu gorfodi i fenthyca arian neu brynu eitemau drwy gredyd, gan wthio llawer o deuluoedd sydd eisoes mewn amgylchiadau anodd ymhellach i ddyled. Mae’r swm o grant a gynigir gan yr AALl hynny sy’n dal i weithredu cynllun o’r fath ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd yn amrywio’n helaeth, o £148 i gyn lleied â £20! (Llywodraeth Cynulliad Cymru). Gan fod costau yn cynyddu’n sylweddol, mae’r help sydd ar gael i rieni incwm isel drwy grantiau wedi gostwng yn sylweddol.
Ymddengys fod nifer cynyddol o deuluoedd yn ei chael yn fwyfwy anodd i ateb costau cynyddol gwisg ysgol eu plant. Fodd bynnag, nid dim ond y llywodraeth sydd â chyfrifoldeb am sicrhau fod addysg yn gynhwysol, gan y medrai ysgolion hefyd wneud newidiadau i lacio’r baich ariannol ar deuluoedd (gweler hefyd RhDTP Cymru 2006). Mae llawer o rieni yn cwyno fod gwisg ysgol yn ddrud a hefyd nad yw ysgolion yn rhoi dewis iddynt ble i brynu dillad eu plant. Gyda llawer o ysgolion yn mynnu fod yn rhaid i wisg ysgol neu ddillad chwaraeon fod o ddyluniad neu arddull arbennig, gyda logo ysgol, caiff rhieni eu gorfodi i brynu eitemau o allfannau a enwebir gan yr ysgol neu adwerthwr penodol, lle gall costau fod yn sylweddol uwch. Roedd hyn, ynghyd ag ansawdd dillad plant, yn destun ymchwiliad diweddar a lansiwyd gan y Swyddfa Masnachu Teg a roddodd adroddiad fis diwethaf. Canfu fod 84% o ysgolion sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion gael gwisg yn gosod cyfyngiadau ar ddewis cyflenwr am o leiaf un eitem o’r wisg. Canfuwyd fod eitemau a brynwyd gan adwerthwyr dynodedig neu ysgolion 23% yn ddrutach nag mewn adwerthwyr gwisg ysgol yn gyffredinol a chymaint â 150% yn ddrutach nag archfarchnadoedd. Amcangyfrifodd astudiaeth y Swyddfa Masnachu Teg fod cyfanswm y golled flynyddol yn £32m ar gyfer rhieni gyda phlant mewn ysgolion uwchradd ac yn £13m ar gyfer rhai gyda phlant mewn ysgolion cynradd (Swyddfa Masnachu Teg 2006).
Mae Cyngor Ar Bopeth hefyd wedi adrodd y cafodd plant eu disgyblu neu eu 'hynysu’n fewnol’ am fynychu ysgol heb y wisg gywir er gwaetha’r rheswm na fedrai eu rhieni fforddio i brynu’r eitem ofynnol (Citizens Advice 2006).
Tripiau Ysgol
Er mai dim ond am gyfraniadau gwirfoddol tuag at gostau 'ychwanegion dewisol’ megis tripiau ysgol y gall ysgolion ofyn i deuluoedd yn gyfreithiol amdanynt, mae llawer o rieni yn teimlo eu bod dan bwysau i dalu am weithgareddau o’r fath, gan wybod os nad ydynt yn dod o hyd i’r arian y gall eu plentyn gael eu heithrio rhag cymryd rhan. Gyda chost gyfartalog tripiau preswyl ysgol tua £186 (DfES 2004), gall y costau hyn fod rhwystr neilltuol. Gall plant hefyd ddioddef yn academaidd os cânt eu rhwystro rhag mynd ar dripiau ysgol yn gysylltiedig â’r cwricwlwm a byddant hefyd yn colli amser gwerthfawr gyda’u cyfoedion y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Eto er gwaethaf y pwysau a ddodir gan ysgolion ar rieni i gyfrannu arian ychwanegol, mae costau o’r fath yn aml ymhell tu hwnt i fodd llawer o deuluoedd incwm-isel. Roedd mynediad i gronfeydd sy’n hwyluso ymgyfraniad disgyblion mewn tripiau ysgol ar gyfer plant o deuluoedd incwm isel yn un o’r llu o argymhellion a gyflwynwyd yn adroddiad Grŵp Tasg Tlodi Plant Llywodraeth y Cynulliad yn 2004.
Costau cwricwlwm
Consyrn ychwanegol yw tueddiad cynyddol ysgolion i osod gwaith cartref sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion gael mynediad i gyfrifiadur i gynnal ymchwil ar y Rhyngrwyd. Dengys ymchwil mai dim ond 41% o gartrefi yng Nghymru sydd â mynediad i gyfleusterau o’r fath, yn gostwng i cyn lleied â 34% yng nghanolbarth/gorllewin Cymru a 26% yng Nghymoedd De Cymru, ardaloedd sydd ymysg yr ardaloedd mwyaf anghysbell ac economaidd ddifreintiedig yn y wlad (Cyngor Defnyddwyr Cymru 2006). Er y gall disgyblion gael eu hesgusodi o waith o’r fath, mae gan hyn oblygiadau yn nhermau stigma a nodi unigolion fel bod yn 'wahanol’, ac mae ysgolion yn frwd i annog defnydd cyfleusterau cyfrifiadur ysgol ar ddiwedd y diwrnod ysgol neu i ddisgyblion ddefnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus. Fodd bynnag, mae goblygiadau cost amlwg ar gyfer disgyblion sy’n aros yn yr ysgol yng nghyswllt defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac i deithio i’w llyfrgell leol, gan dybio wrth gwrs bod cyfleusterau o’r fath ar gael, consyrn neilltuol i deuluoedd sy’n byw mewn cymunedau gwledig.
Yn gynyddol, gofynnir i lawer o rieni disgyblion ysgol uwchradd i brynu offer a deunyddiau i gynorthwyo gydag addysg eu plant, o lyfr braslunio ar gyfer celf, ffedogau ar gyfer coginio, gwerslyfrau ar gyfer arholiadau a llyfrau ar gyfer darllen. Consyrn mwy diweddar a ddaeth hefyd i’r amlwg hefyd yw cost digwyddiadau pontio, lle gwahoddir disgyblion sy’n symud o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd i ddigwyddiad a drefnwyd gan yr ysgol lle gall pryd a llety dros nos gael ei ddarparu ar gost sylweddol i’w rhieni. Yn gynyddol, mae ysgolion hefyd yn cael eu hannog i ddatblygu ymhellach weithgareddau ar ôl ysgol, a all gynnwys chwaraeon, celfyddydau, cerddoriaeth, drama neu wersi iaith. Fodd bynnag, caiff llawer o weithgareddau eu darparu gan athrawon peripatetig a sefydliadau allanol y mae eu ffioedd yn anochel yn allgau’r teuluoedd hynny na all ateb y costau. Heb roi ystyriaeth i allu teulu i dalu, daeth llawer o weithgareddau ar ôl ysgol yn anghyswyol ac yn allgaeol, gan wadu cyfleoedd i ddysgu sgiliau a diddordebau newydd i nifer fawr o ddisgyblion.
Prydau Ysgol
Yng Nghymru, mae’n rhaid i ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol ddarparu pryd di-dâl ganol-dydd i ddisgyblion os ydynt hwy (neu eu rhieni) yn derbyn lwfans chwilio am swydd seiliedig ar incwm neu gymhorthdal incwm, neu os ydynt yn derbyn cymorth fel ceiswyr lloches. Rhaid i’r ysgol hefyd ddarparu pryd di-dâl os yw rhiant disgybl yn derbyn Credyd Treth Plant a bod eu hincwm islaw lefel neilltuol neu os ydynt yn cael rhan warant y Credyd Pensiwn. Ni fedrir darparu prydau ysgol di-dâl i ddisgyblion eraill, heblaw i blant myfyrwyr. Felly, mae’n rhaid i fwyafrif disgyblion un ai dalu am eu pryd ysgol neu wneud trefniadau eraill megis rhieni yn darparu cinio pecyn.
Er bod llawer iawn o sylw diweddar yn y cyfryngau wedi canolbwyntio ar ansawdd prydau ysgol, codwyd llawer llai o ymwybyddiaeth am y gost. Mae prydau ysgol yn ddrud, pwynt pwysau neilltuol i blant y mae incwm eu teulu ychydig yn uwch na meini prawf darpariaeth di-dâl ac i deuluoedd mawr lle gall nifer o blant fod yn cael prydau o fewn ysgol. Mae’r costau yn amrywio ar draws awdurdodau lleol gyda chost gyfartalog pryd ysgol yn £1.48 mewn ysgolion cynradd a £1.59 mewn ysgolion uwchradd (Unsain 2005). Mae hyn er gwaethaf fod prydau’n cael eu cynhyrchu mewn rhai ysgolion ar gost o ddim ond 36c y diwrnod i’r contractydd - llai na chost prydau bwyd a roddir i garcharorion.
Er y gall llawer o rieni ddewis opsiwn rhatach cinio pecyn, codwyd pryderon am ansawdd y bwyd a ddarperir, gan roi’r cysylltiadau rhwng maeth, tlodi plant a chyrhaeddiad. Yn ychwanegol, dangosodd ffigurau Llywodraeth y Cynulliad nad yw bron 1 mewn 4 o’r holl blant sydd â hawl i brydau ysgol di-dâl yn eu cymryd (23%), gyda hyd yn oed lai o ddisgyblion ysgol uwchradd yn eu cymryd (28%), gydag ymchwil yn dangos fod stigma ac ofn bwlio yn ffactorau diffiniol am beidio cymryd yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.
"Dyw pobl ddim yn cymryd prydau ysgol rhad ac am ddim oherwydd eu bod nhw’n embaras. Mi fyddwn i’n gadael i bobl gydag arian fynd o fy mlaen yn y ciw fel na fydden nhw’n gweld”.
Bachgen 12 oed (Achub y Plant 2003).
Mae’r pryderon hyn yn codi cwestiwn pwysig yn nhermau sut y medrwn sicrhau fod plant yn bwyta’n iach yn yr ysgol, ac ar bris y gall rhieni ei fforddio. Mae nifer o sefydliadau allweddol ym maes tlodi plant wedi ymgyrchu gyda'i gilydd ar gyfer prydau ysgol di-dâl i bawb er mwyn cael gwared â stigma a bwlio, gwella defnydd tra hefyd yn gostwng pwysau ariannol ar deuluoedd (CPAG 2006). Dangosodd adroddiadau newyddion diweddar hefyd y cysylltiad rhwng plant yn cael pryd iach a gwell ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae hefyd yn werth bwrw i gof fod y Llywodraeth yn talu am gost lawn prydau ysgol yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel ac mae profiadau diweddar Cyngor Dinas Hull, sydd wedi cyflwyno prydau ysgol di-dâl i bawb, yn awgrymu y medrir gorchuddio’r costau, cynyddu defnydd yn sylweddol a dileu stigma.
Stigma ac unigedd
Mae’r canlyniadau ar gyfer y plant na all eu teuluoedd ateb y costau hyn hefyd o gonsyrn gwirioneddol. Yn gymdeithasol, gall plant ganfod eu hunain wedi eu hynysu, wedi stigmateiddio yn eu herbyn neu eu bwlio, ac yn academaidd medrant dangyflawni heb gael mynediad i’r gwerslyfrau a deunyddiau gwers angenrheidiol i fedru paratoi ar gyfer arholiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol. Mae adroddiadau gan blant a gymerodd ran yn yr ymchwil yn adleisio’r pryderon hyn
'Mae adroddiadau plant am eu bywyd ysgol yn dangos eu bod yn teimlo dan anfantais sylweddoli o fewn eu hysgolion, gyda llawer yn dweud eu bod yn teimlo wedi eu bwlio, yn ynysig ac wedi’u gadael allan ar gyfnodau critigol yn eu gyrfa academaidd’’
(Ridge 2003)
Dangosodd tystiolaeth o Gymru fod plant sy’n gwisgo’n wahanol, yn cael prydau ysgol am ddim ac sy’n medru cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a seiliedig ar y cwricwlwm yn cael stigmateiddio yn eu herbyn, eu gadael allan a diodef bwlio a fydd yn anochel yn effeithio ar eu lles emosiynol a’u hymgyfraniad gyda’r ysgol.
Argymhellion
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i fynd i’r afael â thlodi plant, er mai ychydig iawn a wnaethpwyd hyd yma i atal yr allgauedd a’r anawsterau ariannol sy’n wynebu llawer o blant a theuluoedd oherwydd cost ysgol. Mae angen ymateb cydlynol gan y llywodraeth, awdurdodau lleol, awdurdodau addysg lleol, ysgolion a llywodraethwyr ysgol i ganiatáu i’r holl blant gymryd rhan yn y cyfleoedd a gynigir gan ysgol.
Rhaid monitro arweiniad Llywodraeth y Cynulliad ar wisg ysgol yn agos i sicrhau fod ysgolion yn cydymffurfio â’i egwyddorion
Dylai polisïau addysg a thlodi plant Llywodraeth y Cynulliad ganolbwyntio ar 'gostau ychwanegol’ addysg ysgol a cheisio datrysiadau i’r problemau a ddynodwyd yn y briffiad hwn.
Dylai Llywodraeth Cynulliad gynnal astudiaeth i ddichonolrwydd cyflwyno gwasanaeth prydau ysgol di-dâl i bawb ar gyfer pob disgybl ysgol ledled Cymru, gan nodi’r cyfraniad a wnaeth sefydliadau tlodi plant blaenllaw, Cyngor Dinas Hull a’r ymgynghoriad diweddar ar y Mesur Prydau Ysgol Di-dâl yn yr Alban
Dylid ymchwilio systemau di-arian drwy gardiau craff plastig ar gyfer prynu prydau ysgol fel modd o ostwng stigma a bwlio, a chynyddu defnydd ar gyfer plant sydd â hawl i brydau ysgol di-dâl
Dylai ysgolion gael 'cronfeydd gweithgaredd’ i sicrhau fod gweithgareddau a thripiau ysgol ar gael i bob plentyn
Dylai Llywodraeth y Cynulliad roi cronfeydd ar gael i awdurdodau lleol i ddarparu grantiau ar gyfer gwisgoedd ysgol ar lefel realistig
Dylai Llywodraeth y Cynulliad edrych ato ar argymhellion yr adroddiad Grŵp Tasg Tlodi Plant yng nghyswllt cyfranogiad disgyblion yn y gymuned ysgol, addysg a hyfforddiant.
Dylai Llywodraeth y Cynulliad, ynghyd â’r DfES ystyried casgliadau adroddiad diweddar y Swyddfa Masnachu Teg ar gost gwisgoedd ysgol.
Cyfeiriadau
Achub y Plant (2003) Gwrandwch! Plant a Phobl Ifanc yn Siarad am Dlodi, Caerdydd. AYP.
Adran Addysg (1996) The Education Act: Section 460, Llundain: Llyfrfa ei Mawrhydi
Adran Addysg a Sgiliau (2004) The Cost of Schooling, Llundain: DfES
Citizens Advice (2006) Low-income parents still struggling to afford school uniforms,
Cyngor Defnyddwyr Cymru (2006) Cydraddoldeb Rhyngrwyd yng Nghymru, Caerdydd. CDC
Grŵp Gweithredu Tlodi Plant (CPAG) (2006) 'Bring back free school meals’,
Grŵp Gweithredu Tlodi Plant (CPAG (2004) Recipe for change: a good practice guide for school meals, London: CPAG
Grŵp Gweithredu Tlodi Plant (CPAG (2004) Report of the Child Poverty Task Group Consultation
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002) Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu Hawliau, Caerdydd: CCC
Llywodraeth Cynulliad Cymru(2004) Arweiniad ar Wisg Ysgol, Caerdydd: CCC
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2005) Dyfodol Teg i’n Plant: Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant, Caerdydd: CCC
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006) Cynllun Gweithredu Tlodi Plant - Cynigion Cam Cyntaf, Caerdydd: Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyfrifiad Blynyddol lefel Disgyblion (2005)
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006) datganiad i’r wasg: £750,000 far gyfer grant gwisgoedd ysgol yn 2006-07
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002) Cau’r Bwlch ym Mherfformiad Ysgolion, Caerdydd: LlAC
New Policy Institute (2005) Mapping Poverty and Social Exclusion in Wales, Llundain NPI / Sefydliad Joseph Rowntree
Norwich Union School Sums Index (2006)
Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (2006) Mynd i’r Afael â Thlodi Plant yng Nghymru: canllaw arfer da i ysgolion, Caerdydd RhDTP Cymru & Plant yng Nghymru
Swyddfa Masnachu Teg (OFT) (2006) School Uniforms Review, Llundain: OFT
Ridge, T. (2003) Listening to children: developing a child centred approach to childhood poverty in the UK, Family Matters No 65
Soil Association: LEA Primary School Meals League Table,
Unsain (2005) School meals, markets and quality, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd
Cynhyrchwyd a chyflwynwyd yr ymateb hwn gan Sean O’Neill, Cydlynydd (gweithredol), Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant ar ran ac mewn ymgynghorid â chynrychiolwyr Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, d/o Plant yng Nghymru, 25 Plas Windsor, Caerdydd CF10 3BZ.
Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn gynghrair o gonsyrn gyda ffocws ar ddileu tlodi plant yng Nghymru. Caiff yr rhwydwaith ei chydlynu a’i rheoli ar sail dydd-i-ddydd gan Plant yng Nghymru. Mae ei grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o’r sectorau gwirfoddol a statudol ac mae gan y Rhwydwaith aelodaeth gefnogol gynyddol gan groestoriad eang o asiantaethau. Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi gweledigaeth y Llywodraeth na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2010, ac mae’n gweithio i gyflawni
Dealltwriaeth gynyddol ymysg y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o dlodi plant yng Nghymru
Cefnogaeth gyhoeddus a phroffesiynol ar gyfer mesurau i ddileu tlodi plant
Sicrhau fod polisïau ar waith ar bob lefel o lywodraeth (lleol, y Cynulliad a San Steffan) sy’n cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru.
Mae aelodau’r Grŵp Llywio yn cynnwys
Barnardo’s Cymru,
Plant yng Nghymru,
Achub y Plant Cymru,
NCH Cymru,
NSPCC Cymru,
cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Communities that Care,
Fairbridge Cymru,
Cyngor Ar Bopeth,
Ymddiriedolaeth Frank Buttle
Shelter Cymru,
Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
Childline Cymru
Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
Manylion pellach
-
Cynghrair o sefydliadau yn gweithio i ddileu tlodi plant yng Nghymru
Cost Addysg - Astudiaethau Achos
Gwnaed Sarah yn ddigartref yn fuan ar ôl gorffen ei arholiadau TGAU a symudodd i dŷ rhannu. Yn benderfynol o barhau â’i haddysg, dychwelodd i’r ysgol i astudio am lefelau 'A’ yn hytrach na mynd i goleg. Roedd gan yr ysgol bolisi caeth ar wisg ysgol ac roedd Sarah angen gwisg ysgol newydd yn ogystal â phapur a llyfrau. Gan fyw ar Gymhorthdal Incwm ac yn aros am Lwfans Cynhaliaeth Addysgol i ddechrau, nid oedd mewn sefyllfa i dalu am yr eitemau hyn. (Ymddiriedolaeth Frank Buttle)
Symudodd Trevor, 14 oed, i fyw gyda’i chwaer gan y bu bywyd cartref yn anodd am nifer o flynyddoedd. Nid oedd lleoliadau maeth wedi bod yn llwyddiannus a dyma oedd yr opsiwn gorau iddo. Roedd angen iddo newid ysgol yn ystod blwyddyn 9, ac roedd angen gwisg newydd. Roedd ei chwaer yn dal i aros i Fudd-dal Plant gael ei brosesu ac nid oedd yn derbyn unrhyw fudd ychwanegol am Trevor. Dim ond ar gyfer blwyddyn 7 yr oedd yr AALl yn cynnig grant y Cynulliad a gwrthododd gynorthwyo. (
Ymddiriedolaeth Frank Buttle)
"
Mae fy mhlentyn yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol gan nad oes gennym gar., (Plentyn oed ysgol uwchradd o Bowys, dyfyniad o arolwg Plant yng Nghymru: Arolwg Rhieni ac Ysgolion Hydref 2006)
"Mae gennyf bryderon am y modd mae’r prifathro ac nid y llywodraethwyr sy’n rheoli agweddau o’r ysgol. Mae Cyngor Ysgol yn bodoli ar bapur ond nid yw’n gweithredu. Ni chynhelir cyfarfodydd. Nid yw materion am gydraddoldeb i blant ar incwm is, mae tripiau ysgol yn ddrud (hyd yn oed y rhai haeddiant, nid yw plant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cael yr un dewis o ginio Nadolig ac ni roddir hysbysiad), costau rhent ar gyfer asiantaethau allanol i ddarparu gwasanaethau allan o oriau i adeiladu ysgol gyda ffocws cymunedol” (Mam plentyn oedran ysgol uwchradd, a ddyfynnwyd yn Plant yng Nghymru: Arolwg Rhieni ac Ysgolion Hydref 2006)
