Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymchwilliad manwi i roi plant mewn gofal yng Nghymru

Cylch gorchwyl

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw ymchwilio i effeithiolrwydd systemau yng Nghymru ar gyfer lleoli plant a phobl ifanc mewn gofal, yn cynnwys:

  • Y broses cynllunio, dynodi ac adolygu lleoliadau maethu unigol ac atebolrwydd am reoli lleoliadau a lles plant sy’n derbyn gofal.

  • Gweithrediad y system gomisiynu ar gyfer lleoli plant ag asiantaethau maethu a’i heffaith ar y dewis o leoliadau ac ar rannu gwybodaeth ynghylch plant sy’n derbyn gofal.

  • Cynnwys plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau am eu lleoliadau.

  • Effeithiolrwydd yr Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant a’r systemau ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau.

  • Darparu gwybodaeth amserol a pherthnasol i ofalwyr maeth ac asiantaethau maethu ar gefndir a hanes y plentyn neu’r person ifanc sy’n cael ei leoli a'r rhesymau am y lleoliad.

  • Rhannu gwybodaeth sy’n bersonol, yn gyfrinachol neu wybodaeth nas profwyd am blant sy’n derbyn gofal.

  • Lleoli plant sy’n anabl, rhai o deuluoedd pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phlant ceiswyr lloches heb gwmni

  • Effeithiolrwydd polisïau a chanllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar leoli plant sy’n derbyn gofal â gofalwyr maeth.

Statws Cyhoeddir yr adroddiad ar 21 July 2010

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar Mai 2009. Caeodd hwn ar 21 Mai 2010

Llythyr ymgynghori

Tystiolaeth

Mae’r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad cryno ar 21 Gorffennaf 2010 Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant mewn Gofa (PDF,288KB)

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei addrodiad ar 21 Mai 2010 (PDF, 139 MB)

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru (PDF 156.6KB)

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help