YmchwiliaY Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i’r ddarpariaeth o fannau diogel i chwarae a chymdeithasu

Cylch gorchwyl

Ymchwilio i brofiadau plant (11 oed neu iau) a phobl ifanc (rhwng 11 a 18 oed) yng Nghymru, o ran mynediad i fannau diogel i chwarae a chymdeithasu.

Bydd yr ymchwiliad yn:

  • Ystyried materion sy’n effeithio ar brofiadau chwarae grwpiau penodol o blant a phobl ifanc, gan gynnwys:

  • plant a phobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig;

  • plant a phobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ac sydd o gartrefi incwm isel;

  • plant a phobl ifanc anabl;

  • plant a phobl ifanc sy’n perthyn i grwpiau ymylol, fel y gymuned Sipsiwn-Teithwyr.

  • Adolygu’r materion sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth bresennol, gan gynnwys:

  • cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth;  

  • yr hyn y gellir ei wneud i wella diogelwch a’r ymdeimlad o ddiogelwch, mewn adnoddau chwarae a hamdden cymunedol presennol;

  • costau darparu mynediad, gan gynnwys costau cludiant.

  • Adolygu effeithiolrwydd y polisïau a’r mentrau presennol i ddarparu mannau diogel i chwarae a chymdeithasu, gan gynnwys:

  • Polisi Chwarae Llywodraeth y Cynulliad, a Chynllun Cyflawni'r Polisi Chwarae;

  • effeithiau posibl y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru);

  • y gwasanaethau ieuenctid a hamdden sydd ar gael yn bresennol;

  • y polisi cynllunio, a rhoi’r polisi ar waith;

  • y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a weithredir gan Lywodraeth Cymru;

  • rôl ysgolion ac, yn benodol, ysgolion bro;

  • parthau tai;

  • mentrau diogelwch cymunedol, gan gynnwys Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT).

Statws : Cyhoeddir yr adroddiad ar 23 Tachwedd 2010

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar 15 Rhagfyr 2009. Caeodd hwn ar 19 Chwefror 2010.

Llythyr Ymgynghori

Ymatebion a gafwyd

Tystiolaeth bellach

Tystiolaeth

Bydd y Pwyllgor yn cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

Adroddiad

cyhoeddodd y pwyllgor ei Adroddiad ar 23 Tachwedd 2010 (PDF,890KB)

cyhoeddodd y pwyllgor ei Adroddiad ar 23 Tachwedd 2010 - Crynodeb ac Argymhellion Mewn Cymraeg Clir (PDF,890 KB)

Cyhoeddwyd ymateb y Gweinidog i'r adroddiad ar 26 Ionawr 2011(PDF,119KB)

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help